Gwaith yr Hen Ficer/Galarnad Llanddyfri
← Gwell Duw Na Dim | Gwaith yr Hen Ficer gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Anerchiad i'r Brutaniaid → |
Y GYNULLEIDFA DDIFRAW.
Ceisiais drwy deg, a thrwy hagar,
Ni chawn gennid ond y gwatwar."
GALARNAD LLANDDYFRI.
MENE Tecel,[1] Tre Llanddyfri,
Pwysodd Duw di yn dy frynti;
Ni chadd ynnod ond y sorod;
Gwachel weithian rhag ei ddyrnod.
Gwialen dost sydd barod iti,
Er ys dyddie am dy frynti;
A'th anwiredd sy'n cynyddu;
Gwachel weithian gael dy faeddu.
Hir yr erys Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y delo:
Am yr echwyn a'r hir scori,
Och! fe dal ar unwaith iti.
Mae'n rhoi amser iti wella,
Mae'n rhoi rhybudd o'r helaetha;
Cymer rybudd tra fo'r amser,
Onide gwae di ar fyrder.
Pa hwya mae Duw'n aros wrthyd,
Am edifeirwch a gwell fywyd,
Waethwaeth, waethwaeth yw dy fuchedd
Ond gwae di pan ddel y diwedd.
Lle bo Duw yn hir yn oedi,
Heb roi dial am ddrygioni,
Trymaf oll y fydd ei ddyrnod,
Pan y del i ddial pechod.
Gwachel dithe ddial Duw,
Fe ddaw ar frys, er llased yw;
A'i draed o wlan, a'i ddwrn o blwm,
Lle delo'n llaes fe dery'n drwm.
Tebyg ydwyt i Gomora,
Sodom boeth, a thref Samaria,
Rhai na fynnent wellhau hyd farw,
Nes eu troi yn llwch a lludw.
Tebyg ydwyt ti i Pharao,
Oedd a'i galon wedi'i serio,
'R hwn na fynne wellhau ei fuchedd,
Nes ei blagio yn y diwedd.
Cefaist rybudd lawer pryd,
Nid yw cyngor 'moethyn id',
Nid oes lun it wneuthur esgus;
O! gwae di, y dre anhapus.
Bore codais gyda'r ceiliog,
Hir ddilynais byth yn d'annog
Droi at Dduw oddiwrth dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer imi.
Cenais iti'r udgorn aethlyd,
O farn Duw a'i lid anhyfryd,
I'th ddihuno o drymgwsg pechod,
Chwrnu er hyn wyt ti yn wastod.
Minne'th lithiais â di-sigil
Addewidion yr Efengyl,
Yn fwyn i'th wa'wdd i edifeirwch;
Ond ni chefais ond y tristwch.
Mi'th fwgythais dithau â'r gyfraith,
A dialau Duw ar unwaith,
Geisio ffrwyno d'en rhag pechu;
Ffrom a ffol wyt ti er hynny.
Cenais bibeu, ond ni ddawnsiaist,
Tost gwynfannais, nid alaraist;
Ceisiais trwy deg, a thrwy hagar,
Ni chawn gennid ond y gwatwar.
Beth a alla i wneuthur weithian,
Ond i thynnu i ochor ceulan,
I wylo'r deigrau gwaed pe gallwn,
Weld dy arwain tua'r dwnjiwn?
Pwy na wyle weled Satan,
Yn dy dynnu wrth ede sidan,
I bwll uffern yn dragwyddol,
A'r bach a'r bait o bleser cnawdol?
Esau werthe ei 'difeddiaeth,
Am y phiolaid gawl ysywaeth;
Dithe werthaist deyrnas nefoedd,
Am gawl brag, do, do o'm hanfodd.
Dyma'r peth sy'n torri 'nghalon,
Wrth dy weled di'n awr mor ffinion,
Orfod prwfio hyn yn d'erbyn,
Dydd y farn, heb gelu gronyn.
Tost yw gorfod ar y tad,
Ddydd y farn, heb ddim o'r gwâd,
Dystiolaethu, o led safan,
Yn erbyn brynti'i blant ei hunan.
Hyn y fydd, a hyn y ddaw,
Oni wellhai y'maes o law;
Er mwyn Crist gan hynny gwella,
Rhag i ddial Duw dy ddala.
Gwisga lenn a sach am danad,
Wyla nes bo'th wely'n nofiad;
Ac na fwyta fwyd na diod,
Nes cael pardwn am dy bechod.
Cur dy ddwy-fron, tynn dy wallt,
Wyla'r deigre dwr yn hallt;
Cria'n ddyfal iawn," Peccavi,[2]
Arglwydd, maddeu 'meiau imi."
Bwrw ymaith dy ddiffeithdra,
Twyll, a ffalstedd, a phuteindra,
Gad dy fedd-dod, cladd dy frynti,
Mae Duw'n gweld dy holl ddrygioni.
Mae dy farn wrth ede wen,
Yn crogi beunydd uwch dy ben.
Mae dy blant a phob ei reffyn,
Yn ei thynnu ar dy gobyn.
Gochel bellach, dal dy law,
Dial Duw fel bollt a ddaw:
Rhoi it' rybudd prudd sydd raid,
Oni chym'ri rybudd, paid.