Gwaith yr Hen Ficer/Croeso'r Prins
← Y Cynhaeaf Gwlyb | Gwaith yr Hen Ficer gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ewyllys Rydd → |
GRESO PRINS Y CYMRY.[1]
Y Muwsys oll o Helicon,
Y Grasys tair, a'r Nymphs o'u bron,
Cymrwch bawb eich offer canu,
I reso o Spaen Dywysog Cymru.
Apollo, dod dy gôr yn gyngan,
Par i'r Nymphs a'r Grasys ddawnsian,
Tra fo'r Muwsys oll yn canu,
Welcwm hôm i Brins y Cymry.
Doro i'r Grasys wisgoedd gwynion,
Pletha'u gwallt a r lawrydd gwyrddion,
Trwsia'r Nymphs a'u tlyse o ddau-tu,
Fynd i reso Prins y Cymry.
Rho i'r Muwsys offer auraid,
Gore'n Nelos dan law'r ceidwaid,
Fel y gallont gywraint ganu,
Greso o Spaen i Brins y Cymry.
Gosod bob un yn eu gradde,
Gwachel ado dim yn eisie,
Ag a allo lawenychu,
Clust a llygad Prins y Cymry.
Gwedyn, Phoebus, taro'r delyn,
Hoff gan ferched Jove dy ganlyn;
A'r tair chwaer y fydd yn gwenu,
Dawnsio welcwm Prins y Cymry.
Troed Melpomen drist ei hoer-nad,
Caned Clio lawen ganiad;
Gaded pawb i Thalia flaenu,
Auraid fers i Brins y Cymry.
Merchur dithau, dos i hedfan,
Gwysia'r duwiau fawr a bychan,
A'r duwiesau bawb ymdaclu,
Fynd i reso Prins y Cymry.
Dawed Jove a'i holl oreu-gwyr;
Mars mewn rhanc a'i holl ryfelwyr,
Phoeb a'i ffeiriaid oll dan ganu,
Greso o Spaen i Brins y Cymry.
Dawed Juno a'r coach o baunod,
Festa ar gerbyd o glomennod,
Fenus a'r elerchod coes-ddu,
I roi greso i Brins y Cymry.
Rbodded Fenus iddo degwch,
Juno gyfoeth, Palas heddwch,
Ceres lafur gwedi addfedu,
I bresento Prins y Cymry.
Son adeinog, heda dithe,
Dros y moroedd o'r mynydde,
Cân a'th gorn, i'r byd o bobtu,
Saff return i Brins y Cymry.
Pâr i bawb, a'u dillad gore,
Ddyfod i'w resawi adre';
Ac yn ddyfal i foliannu
Duw, am gadw Prins y Cymry.
Neptun donnog a'i ddolphiniaid,
Thetis drwst-fawr a'i Sireniaid,
Y rows shiars i Driton ganu
Gosteg för i Brins y Cymry.
olus chwyrn-wyllt ynte ostegodd
Dwrf a chynnwrf yr holl wyntodd,
Ac a wnaeth i Zephyr chwythu
'R hwyl wrth fodd Tywysog Cymru.
Phoebus hardd o'r nef a chwarddodd,
Weld y llongau ar y moroedd
Ac a wnaeth i'r haul-wen wenu,
Tra fu'r dydd, ar Brins y Cymry.
Cynthia hithau ni bu segur,
Na'i morwynion ar yr awyr,
I oleuo'r byd o bob-tu,
Tra fu'r nos, i Brins y Cymry.
Castor, Pollux, ac Urania,
Pôl y gogledd, ac Aurora,
A'r holl ser oedd yn ymdynnu,
Ledo'r ffordd i Brins y Cymry.
Haul, a lleuad, ser y nefoedd,
Gwynt, a glaw, a thir, a moroedd,
Nef a daear, sy'n datganu
Ffafr Duw i Brins y Cymry.
Pan y daeth i olwg Lloeger,
F'aeth y duwiau i strifio'n 'sgeler,
Pwy gai gynta, dan ymdynnu,
Ddwyn i dir Dywysog Cymru.
Merchur, am fod drosto'n ladmer,
Jove, am roddi iddo bwer,
Fenus am ei fynd i garu,
Fynne'r dydd gan Brins y Cymry.
Satwrn friglwyd, tad y duwie,
Wrth ei oedran ynte mynne;
Ond y Sul, 'r hwn oedd e'n barchu,
Gas y dydd gan Brins y Cymry.[2]
Y pumed dydd o fis October,
Ar ddydd Sul, dair awr cyn hanner,
Y dygodd Duw, dan lawenychu,
I dir Lloeger Brins y Cymry.
Duw ddanfonodd ei wir angel,
I gyfrwyddo ei holl drafael;
Ac i ddwyn pob peth o bobtu,
Wrth fodd calon Prins y Cymry.
O moliannwn ninne'r Drindod,
Ddydd a nos â chalon barod,
Am 'ddo ddwyn pob peth o bobtu,
Wrth fodd calon Prins y Cymry.
Spaen a fynne, mewn cyfrwysder,
Gadw'n Prins dros ddyddie lawer;
Duw a gwlad y fynne, er hynny,
Fyrr ymchweliad Prins y Cymry.
Gan i Dduw o gariad ato,
Ddangos cymaint ffafar iddo,
Pa fath roeso gwych y ddyly
Brydain roi i Brins y Cymry?
Doed ein Brenin a'i Gynghoriaid,
Doed yr leirll a'r holl Benaethiaid,
Yn eu rhôbs, a thrwps o bobtu,
I resawi Prins y Cymry.
Doed y grasol Archesgobiaid,
A'r Esgobion, a'r Preladiaid,
Mewn prosessiwn i foliannu
Duw, am gadw Prins y Cymry.
Doed ardderchawg Arglwydd Keeper[3]
Urddas Cymru, llewyrch Lloeger,
A'r Britanniaid hardd o ddeutu,
I roesawi Prins y Cymry.
Doed y mwya garo Cymro,
Colofn y deyrnas, Arglwydd Penfro,,
A'i wyr galant, i 'stafellu
Yn nhy'r Brenin Brins y Cymry.
Doed Maer Llundain a'i gwmpeini,
Yn eu sgarled, a'u cadwyni,
Ar feirch gwynion i anrhegu,
Ac i reso Prins y Cymry.
Doed y Merchants mawrion hwynte,
I'r heolydd a'u gwin gore,
I roi rhwng eu ffryns o bobtu,
I yfed health Tywysog Cymru.
Doed yr holl brentisiaid hwynte
Dan roi bloedd, a thaflu cape,
Yn dra llawen dan grechwenu,
I reso o Spaen Dywysog Cymru.
Doed sgolheigion yr holl ynys,
Yn eu gradd, a'u heuraid fersys,
A'u hareithie dan lawenu,
I resawi Prins y Cymry.
Doed offeiriaid a'u plwyfolion,
Gwyr a gwragedd, merched, meibion,
I'r eglwysydd i foliannu
Duw, am gadw Prins y Cymry.
Caned clych yr holl eglwysydd,
Nes dadseinio'r mor a'r mynydd,
Ac i'r ddaiar fud ddatganu
Greso o Spaen i Brins y Cymry.
Cynner tân, bonffeirs fagad,
Tân sy'n dangos gwres ein cariad,
Fel y gwelo'r byd o bobtu,
Faint yw'ch serch i Brins y Cymry.
Minne a'm tylwyth, nos a bore,
A rof ddiolch ar fy nglinie,
I'r gwir Dduw, am ddwyn o ddutu,
Yn iach lawen Brins y Cymry.
Duw ymddiffyno rhag bradwriaeth,
Cadwed Crist ef rhag Pabyddiaeth,
A rhag pawb sydd yn amcanu
Drwg neu speit i Brins y Cymry.
Duw ro galon Ezekias,
Synwyr Selyf, zel Josias,
Dewrder Dafydd, ac at hynny
Einioes Noe, i Brins y Cymry.
Ioas, Cusai, fo cynghorwyr,
Joseph, Daniel, fo golygwyr,
Moesen, Samuel, a fo'n barnu,
Byth ar y faine dan Brins y Cymry.
Crist â'i esgyll a'i hadeinio,
Crist a'i Ysbryd a'i cyfrwyddo,
Crist â'i ras a fytho'n nerthu,
Ym mhob achos, Brins y Cymry.
Arglwydd grasol, cadw'r deyrnas
A bendithia'n brenin Siamas,
A rho gynnydd gras a gallu,
Uwchlaw pawb, i Brins y Cymry.
Nodiadau
golygu- ↑ Dengys y gân hon deyrngarwch Cymru i Siamas (Iago'r Cyntaf), pan oedd yn prysur golli ymddiried Senedd y wlad. Yr oedd ymdrech ffyrnig rhwng y Protestaniaid a'r Pabyddion yn Ewrob; yr oedd teimlad Prydain yn dod yn fwy Protestanaidd bob dydd, ond ceisiai Iago dynnu'n agosach at Spaen Babyddol. Aeth Siarl Dywysog ar daith ffol i Spaen yn 1623, gyda Buckingham benchwiban, i geisio ennill merch y brenin Croeso iddo o'i daith ynfyd yw'r gân hon. Digon prin yr hoffai y Piwritaniaid weddio ar dduwiau paganaidd Delos a Pharnassus, Ond canodd Milton yr un fath iddynt yn ei Lycidas, cyn troi'r duwiau'n gythreuliaid Coll Gwynfa.
- ↑ Anodd peidio cofio mor gyndyn yr ymladdodd Iago'r Cyntaf a'i fab. Prins y Cymry," yn erbyn cadw'r Saboth yn y dull Puritanaidd.
- ↑ Cyfeiriad at John Williams, o sir Gaernarfon, y doethaf o gynghorwyr teulu Stuart. Da y gelwir ef yn "urddas Cymru, llewyrch Lloegr."