Gwaith yr Hen Ficer/Y Cynhaeaf Gwlyb
← Ennill Colledus | Gwaith yr Hen Ficer gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Croeso'r Prins → |
Y CYNHAEAF GWLYB.
RHEOLWR y nefoedd, a'r ddaiar a'r moroedd,
A'r tywydd, a'r gwyntoedd o'r glynnoedd, a'r glaw,
Clyw gwynfan tosturiol, ac achwyn dy bobol,
Gan dywydd dryc-hinol a hir-law.
Y mae'r gwynt, mae'r tonne, mae'r glaw a'r diale,
A'r ser yn eu gradde, a'r nefoedd yn grych,
Yn ymladd i'n herbyn, droseddwyr escymun,
I'n plago à newyn yn fynych.
Mae'r haul oedd i'n porthi, gwres a goleuni,
Yn awr gwedi sorri, yn edrych yn sur,
Gan ballu rhoi 'thwymder, a'i gwres wrth ei arfer,
Nes pydru'r naill hanner o'n llafur.
Mae'r lleuad yn wylo, fel gwraig a fai'n mwrno,
Bob nos mae'n ymguddio mewn cwmwl o'n gŵydd,
I ollwng ein deigre, gan amled o'n beie,
Nes soddi'r llafurie âg aflwydd.
Mae'r tonne cynddeiriog, a'r wybren gafodog,
A'r cymyle gwlybyrog, yn glawio bob awr
Afonydd o ddrwgfyd, gan gynddrwg o'n bywyd
I'n plago âg adfyd yn ddirfawr.
Mae'r ormes yn sathru y llafur sy'n tyfu,
Mae'r gwynt yn cawdelu y dalo o frig,
Nes iddo ddihidlo, a mallu, ac egino,
Gan wlaw yn ei guro yn ffyrnig.
Mae'r llafur s'eb fedi yn barod i golli,
Heb dywydd i'w dorri, nai daro ynghyd,
Mewn cyflwr anhygar; Duw, moes i'n dy ffafar,
I'w gwnnu o'r ddaiar sopaslyd.
Mae'r maint sy'n ei helem, fel gwellt yn y domen,
Yn ddigon anghymen, yng nghwman y dâs,
Yn twymo, yn mygu, yn llwydo, yn mallu,
A chwedi llwyr bydru o gwmpas.
Mae'r maint sy'n y 'sgubor, gogyfer a gogor
Yn twymo heb gyngor, yn mygu heb gel;
Yn barod i 'nynnu; Mab Duw, dere i'n helpu,
A na'd di lwyr fethu ein trafel.
A'r maint sydd ar feder ein cinio a'n swper,
Sydd gynddrwg ei biner, a'i dymer mor dost;
Ac oni chawn gennyd, Duw grasol, gyfrwyddyd,
Fe'n plagir ni âg adfyd hir-dost.
Agor dy lygad, O Arglwydd ein Ceidwad,
A chenfydd mor irad, it' weled mor hyll,
Holl ymborth Cristnogion yn pydru mor ffinion,
O eisie cae! hinon i gynnull.
Duw grasol, tosturia, difwynodd ein bara,
(Hir nychdod a faga dan fogel dy blant;)
O diffyg it ei rwystro, a'i ddyfal fendithio,
A rhoddi rhad arno a llwyddiant.
Duw, beth y feddyliwn, am had-ŷd y gwanwyn,
O ba le y ceisiwn, os cawn fyw yn cyd?
Mae pawb yn chwyrngar ddifwyno eu holl heiniar,
Duw, dangos dy ffafar am had-ŷd.
Duw grasol, tosturia, wrth ddefaid dy borfa,
Na thorr ffon ein bara, i beri i ni boen;
Madde'n trosedde, gwella'n drwg nwyde,
Cysura'n calonne di-hoen.
Gorchymyn i'r haulwen ymddangos drachefen,
Gwna'r lleuad a'r seren yn siriol i'th saint,
Rho hinon a chysur i'r poenfawr lafurwyr,
A dofa dy brysur ddigofaint.
Rhwylla'r wybrenne, a gwasgar y cwmle,
Cerydda'r catode, cu ydwyd a rhwydd;
Gostega'r dost ormes, rho degwch a chraster,
I'r llafur anghynnes, Arglwydd.
Ond yma, Duw'r gallu, 'rwy'n brudd yn cyffesu,
Mai'n pechod sy'n tynnu'r fath ddial ar ein traws,
A'th stormydd anrasol, a'r tywydd dryc-hinol,
I'n cospi, dy bobol rhy-draws.
Ti lenwaist ein bolie, mor gyflawn a'th ddonie,
Na chodem o'n beiste i ostwng ein glin,
I roddi it foliant, na chlod am ein porthiant,
Nes tynnu aflwyddiant i'n dilyn.
Yr eidion a'r asen a edwyn eu perchen,
A'r ci fydd llawen wrth ei portho â llaeth;
Ond pobol ddi-wybod ni fynnant gydnabod,
Nac adde' mo'r Drindod, eu Tad-maeth.
Yr wyt yn ein porthi ag amryw ddaioni,
Fel un a fai'n pesci pascwch, yn rhin;
Ni chodwn o'n penne i weld, mwy nag ynte,
O ble mae'r fath ddonie yn disgyn.
Gan hynny ti yrrest y storom a thempest,
I gospi ein gloddest à dryc-hin a glaw;
I beri i ni nabod, a gweled mai'r Drindod
Sy'n porthi ni'n wastod â'i ddwylaw.
Er maint o'r diale a roist am ein penne,
I gospi ein beie, gan gynddrwg ym yn byw;
Ni buom er y Concwest yn byw mor anonest,
A chymaint ein gloddest, ag heddyw.
A'r storom yn chwythu, a'r glaw yn ein gryddfu,
A'r llafur yn pydru heb adrodd ond gwir,
Yn nheie'r tafarne yn chwydu ddydd Sulie,
A'th gablu 'rym ninne, rai anwir.
Pan ddylem weddio, a phrysur repento
Mewn llwch, ac ymgreino am bardwn a gras,
A'th gywir wasnaethu, roe'm ninne'n dy gablu,
A'th rwygo a'th regi'n ddiras.
Pa fwyaf y ceisiwyd ein troi a'n dychwelyd,
I wella ein bywyd, a madel â'n bai;
Waethwaeth y pechem, fwyfwy y'th ddigiem,
Saith bellach y ciliem ninnau.
Pa fwya ddiale y roed am ein penne,
Bid newyn, bid cledde, bid clefyd, bid glaw;
Fwyfwy, fel Pharo, yr ym yn dy gyffro,
I'n poeni a'n plago â hir-law.
Nid rhyfedd gan hynny, dy fod yn ein maeddu,
Gan ddwblu a threblu ein maethgen â thrwst;
Ond mwy o ryfeddod, na roit ini ddyrnod,
A'n taflu i'r pwll isod yn ddidrwst.
Duw, maddeu'n styfnigrwydd Duw, dofa'th lidiawgrwydd,
Tynn ymaith ein gwradwydd a'n haflwydd hir;
Rho ras i ni fedru fel Ninif ddifaru,
A'th ddyfal wasnaethu yn gywir.