Gwaith yr Hen Ficer/Galw offeiriad a meddyg, gochel swynwr

Gweddi'r Claf Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwneyd Ewyllys

6.—Rhybudd i'r claf i alw am weinidog a
physygwr, ac i ochelyd swynwr.

Pan glafychech cais offeiriad,
Yn ddiaros ddyfod atad,
I weddio dros dy bechod,
A'th gyfrwyddo i fod yn barod.

Crist a bwyntiodd yr offeiriaid,
Yn bysygwyr doeth i'r enaid,
Ac a roddodd iddynt eli,
I wrthnebu pob drygioni.

Adde'th bechod wrth y 'ffeiriad,
Fel ry iti gyngor difrad;
Fel y gallo roi cyfrwyddyd,
Yn ol naws a rhyw dy glefyd.

Cred beth bynnag dd'weto'r 'ffeiriad,
O Air Duw, yn brudd am danad,
Can's llais Crist ei hun yw hynny,
I'th rebyco neu'th ddiddanu.


Deisyf arno brudd weddio,
Ar i'r Arglwydd dy recyfrio,
I roi iti gyflawn iechyd,
Neu yn rasol dderbyn d'yspryd.

Mae Duw'n addo gwrando'r 'ffeiriad,
Pan gweddio'n ol ei alwad;
Crist a ddyry ei ganlyniaeth,
Oni phwyntiodd dy farwolaeth.

Deisyf arno dy gyfnerthu,
Rhag i Satan dy orchfygu,
A llonyddu dy gydwybod,
Pan y'th fliner gan dy bechod.

Goddef lawnso dy gornwydion,
Godde i'r gair frynaru'r galon,
Fel y gallo fwrw ynddi,
Win ac olew gydag Eli.

Gwell it' adael i'th offeiriad
Ddangos it dy ddrwg ymddygiad,
Fel y gallech edifaru,
Nag o'i blegid gael dy ddamnu.

Ti gei gyngor rhag dy bechod,
Llonyddu dy gydwybod;
Ti gei gomffordd gan y 'ffeiriad,
Os mewn pryd ei gelwi atad.

N'ad y 'ffeiriad heb ei alw,
Nes y b'ech yn hanner marw;
Ni all 'ffeiriad y pryd hynny,
Na neb arall dy ddiddanu.

Oh! pa nifer o Frutaniaid
Sydd yn meirw fel 'nifeiliaid,
Eisiau ceisio nerth y 'ffeiriad,
I gyfrwyddo eu 'madawiad.


Er bod Duw yn abal cadw
Sawl a fynno, heb eu galw,
Nid yw'n cadw fawr o enaid,
Ond trwy swydd a gwaith offeiriaid.

Cais gan hynny, gynta gallech,
'Ffeiriad atad pan glafychech;
I roi pwrg yn erbyn pechod.

'Rhwn yw achos dy holl nychdod.
Yn ol cyngor yr eglwyswr,
Cais gyfrwyddyd y physygwr;
Duw a roes i hwn gelfyddyd,
I'th iachau o lawer clefyd.

Duw ordeiniodd yr offeiriaid,
I iachau doluriau'r enaid;
A'r physygwr a'r meddygon,
I ymg'leddu cyrff y cleifion.

Llawer dyn sy'n marw'n fudur,
Eisiau cymorth y physygwyr,
Gan fyrhau eu hoes a'u hamser,
Yn embeidus eisie eu harfer.

Corff pob dyn yw tŷ ei enaid.
Rhaid reparo hwn a'i drefnaid;
Rhaid i bob dyn, hyd y gallo,
Gadw ei dy ar draed heb gwympo.

Arfer gymorth physygwriaeth,
Yn dy glefyd trwy Gristnogaeth;
Duw ordeiniodd hon yn gysur,
I blant dynion rhag pob dolur.

Y neb wrthoto physygwriaeth,
Y roes Duw er iechydwriaeth,
Mae'n gwrthnebu maeth ei anian,
Ac yn mwrddro'i gorff ei hunan.


Y llysewyn salwa welech,
A'r gyfrwyddyd waela' gaffech,
All roi help a iechyd iti,
Os rhy Duw ei fendith arni.

Swp o ffigys, os bendithia,
All iachau y cornwyd mwya;
A'r gyfrwyddyd ni thal un-rhith,
All roi help ond cael ei fendith.

Ond pe ceit ti balm a nectar,
Cenin Peder, cerrig Bezar,
Olew a myrrh, a gwin a gwenith,—
Ni wnant les heb gael ei fendith.

Nac ymddiried i'r physygwyr,
Nac un fetswn f'ont yn wneuthur,
Rhag dy farw megis Asa,
Eisiau 'mddiried i'r Gorucha.

Nid oes rhinwedd ar lyseuach,
Grym mewn eli, na diodach,
I leihau o'n cur a'n poenfa,
Os yr Arglwydd nis bendithia.

Duw sy'n rhoddi rhad ar lysie,
Grym mewn eli a chyfrddone;
Lle bendithio Duw, hwy lwyddant,
Lle ni fynno Duw, ni thyciant.

Cais gan hynny fendith hyfryd,
Gan dy Dduw ar bob cyfrwyddyd;
Heb ei fendith ni wna'r benna,
Ond troi'n wenwyn yn dy gylla.

Gwachel geisio help gan swynwyr,
Yn dy flinder tost a'th ddolur:
Gado Duw mae'r cyfryw ddynion
Ac addoli gau-dduw Ecron.


Ni chais help i'r corff mor embaid,
Gan y diawl sy'n lladd yr enaid;
Nid oes un physygwr allan
Waeth na'r diawl i helpu'r egwan.

Nid yw swyn ond hug i'th dwyllo,
Gwedi i Satan ei defeisio,
I ddifethu d'enaid gwirion,
Pan y swyner i'th glefydon.

Nid yw'r swynwr ond apostol
Ffalst i'r diawl, i dwyllo'r bobol,
Oddiwrth Grist, mewn poen a thrafel,
I buteinia ar ol y cythrel.

Twyllo'r corff a lladd yr enaid;
Digio Duw, bodloni diawliaid,
Gwrthod Crist, a'r maint sydd eiddo
Y mae'r swyn a'r sawl a'i creto.

Ceisio'r cythraul yn bysygwr,
Ydyw ceisio help gan swynwr;
Ceisio'r diawl i ddarllen tesni,
Yw â dewin ymgynghori.

Ceisio gwir gan dad y celwydd,
Yw ymofyn a drogenydd:
Ceisio help i ladd yr enaid
Ydyw ceisio swyn hudoliaid.

Na châr swynwr mwy na chythrel,
Mae'n dy demtio yn dy drafel;
Glŷn wrth Grist, er maint yw'th flinder
Cais ei nerth, ti gei esmwythder.


Nodiadau

golygu