Gwaith yr Hen Ficer/Gwneyd Ewyllys
← Galw offeiriad a meddyg, gochel swynwr | Gwaith yr Hen Ficer gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Pechod Gwreiddiol → |
7.-Rhybudd i'r claf i wneuthur ei ewyllys
mewn pryd, a dosparthu ei bethau mewn
ofn Duw.
Oni wnaethost eto d'wyllys,
Dod dy dŷ mewn trefen weddus;
Dosparth d'olud megis Cristion,
Yn Gristnogaidd ac yn union.
Cais gan Dduw ei nefawl Yspryd,
I roi iti lawn cyfrwyddyd,
I gyfrannu d'olud bydol,
Yn ol gwyllys dy Dad nefol.
Rho dy enaid bach i'th Brynwr,
Crist a'i piau, dy Iachawdwr:
Rho dy gorff i'r ddaer lle cafad,
Hyd nes delo'r adgyfodiad.
Tynn, fel Jacob, ddefaid Laban,
A da eraill, o'th dda allan;
Rho i bob dyn ei iawn eiddo,
Tal dy ddyled cyn ymado.
Na ddod geiniog yn dy 'wyllys,
O dda eraill yn gamweddus,
Rhag eu taflu yn dy ddannedd,
O flaen Duw, ar ddydd dy ddiwedd.
Ac na chytgam, er dy fywyd,
Roi i'th blant anghyfiawn olud:
Ni wna hynny ond en hela
I gyrwydro a chardota.
Er na feddech ond tair anner,
I roi rhyngthynt trwy gyfiawnder,
Gwell y llwydda hyn i'th epil,
Na thrwy gamwedd pe rhoit deirmil.
Gwell y llwyddodd rhandir Abram
Nag y llwyddodd teyrnas Joram,
A'r gohilion a gas Iago,
Na phraidd Laban gwedi'u hyso.
Fel y bwytodd gwinllan Naboth
Deyrnas Ahab a'i holl gyfoeth,
Felly bwyty'r geiniog sgeler,
Faint a feddech trwy gyfiawnder.
Ceiniog ddrwg, pwy bynna'i caffo,
Sydd fel gwartheg truain Pharo,
Rhai fwytasant ei dda tewion,
Heb fod llawnach eu coluddion.
Rho gan hynny'r hyn sydd union,
Rhwng dy blant, a'th ffrins, a'th weision
Ac na chytgam er dy fywyd,
Roi i neb anghyfiawn olud.
Fel y llwyddodd Duw y manna,
Toes y weddw o Serepta,
Olew'r weddw dlawd a'i meibion,
Felly y llwydda'r gronyn cyfion.
Rho i Isaac, dy etifedd,
Ei difeddiaeth yn ddi-duedd;
A rho i'r lleill o'th blant o bob-tu,
Fodd i fyw yn ol dy allu.
Rho i'th wraig ei chyflawn draian,
Na ro iddi lai na'i chyfran;
O roi 'chwaneg, mae yn rhigyl,
Fod y fath yn nafu'r epil.
Na'd was ffyddlon heb ei wobar,
Rho i'th gar tlawd help o'r heiniar
Na'd dy weithiwr heb ei gyflog;
Crio'n dost a wna'r fath geiniog.
Cofia'r 'fengyl, cofia'r eglwys,
Cofia'r College a'th fanteiniwys;
Cofia'r wlad a'r dref y'th fager,
Os bydd gennyd fodd a phwer.
Os goludog wyt heb epil,
Ac yn caru Crist a'i 'fengyl,
Adail ysgol rydd yng Nghymru
Lle mae eisiau: dysg sy'n methu.
Cofia Joseph sy'n y carchar,
Rho beth help i borthi Lazar,
Rho yn awr dy rodd tra gallech,
Dyma'r rhodd diwaetha roddech.
Maint y roech i'th blant a'th drase,
Dy wraig, a'th blant, a'th ffrins a'i pie
Y maint y roech i'r tlawd a'r truan,
Storio'r wyt i ti dy hunan.
Dyro'n ol yr hyn a dreisiaist,
Gwna iawn dal i'r rhai orthrymaist,
Tâl dy ddyled cyn dy symud,
Yn y pwll nid oes dymchwelyd.
Dyro'r badell, dyro'r crochan,
Dyro'r tai, a'r tir a'r arian,
Yn eu hol i'r rhai a'u pie,
Rhag dy fynd i'r didranc boene.
Na'd i dyddyn y dyn gwirion,
'Rhwn a dreisiaist yn anghyfion,
Beri it golli teyrnas nefol:
Rho ei dyddyn yn ei wrthol.
'Nawr di elli megis Zache,
Wneuthur iawn am dy drosedde,
Yn y pwll ni bydd i'th bwer,
Dalu'r hatling pan gofynner.
Praw gytuno â'th wrthnebwr,
Cyn dy fynd o flaen y Barnwr,
Rhag dy droi i'r dyngeon isa,
Lle rhaid talu'r halling eitha.
'Nawr ni fynni, mwy na phagan,
Ddilyn cyngor Crist ei Hunan;
Ond ti fwyty gig dy freichie,
Eisiau'i ddilyn cyn mawr ddyddie
Pa sawl mil sy'n nhân uffernol
Eisie rhoddi trais yng ngwrthol,
Rhai a roddent heddyw'r holl-fyd
Yn sarhad i'r tlawd, pes cym'rid?
Os yn erbyn Duw y pechi,
Ti gei bardwn ond difaru;
Os yn erbyn dyn, ni fadde
Duw, nes caffo'r tlawd a ddyle.
Os bu farw'r rhai a dreisiaist,
Rho i'w plant y maint y scliffiaist,
Ond os aethont o'r wlad allan,
Rho eu rhan i'r tlawd a'r truan.
Na ro rhwng dy blant yn angall,
Y peth a bie un dyn arall:
Ni wna hynny ond dy ddamnio
A throi d'epil i gyrwydro.
Na ro rhwng dy blant, trwy wyllys,
Ddim enillaist yn gamweddus,
Trwy usuriaeth, trais, neu ffalstedd;
Drwg y llwyddant yn y diwedd.
Marca blant yr ocrwyr mawrion,
A'r gorthrymwyr a'r carnladron,
Yn ceinioca mewn eglwysydd,
Ac yn dwyn y waled beunydd.
Felly tygfydd i'th blant dithe;
O rhoi iddynt dda anife,
Canys dial Duw yn rhugil
Drais ar dadau, ac ar epil.
Dod di ofon Duw, gan hynny,
O flaen d' wyneb wrth ddosparthu;
Rho i bob dyn ei dda cyfion,
Rhanna'r cwbwl lle bo achosion.
Duw a roddo it' gyfrwydd-deb,
Ac a'th nertho i wneuthur d'ateb;
Duw a'th gatwo rhag camsynied,
Duw fo geidwad ar dy ened.