Gwaith yr Hen Ficer/Pechod Gwreiddiol

Gwneyd Ewyllys Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y Flwyddyn 1629

PECHOD GWREIDDIOL.

Y mugail prudd caredig,
A ddwedwch im yn ddiddyg,
A ddamniwyd pawb o'r byd heb na,
Am bechod Adda'n unig?"

Mae'r gyfraith a'r efengyl,
Mae Crist a'i dystion ddengmil,
Mae cred i gyd, a'n bedydd gwynn,
Yn dangos hyn yn rhugyl.

"A ddamnodd Duw yn Adda
Y byd i gyd, am fwyla
Y ffrwyth gwarddedig yn ei wŷn,
Heb ado i un ddihangfa?"

Yn Adda i gyd y'n llygrwyd,
Yn Adda fe'n condemniwyd ;
Yn Adda collwyd pob rhyw ddyn,
Yng Nghrist ei hun fe'n cadwyd.

"Pa wedd y gellid cospi
Y plant, am fai'r rhieni,
Oedd chwe mil o flynyddau tyn,
A chwaneg, cyn eu geni?"

Fel y gall brenin cyfion,
Ddiddymu plant ac wyrion,
Am y treson blin a'r brad,
A wnelo'r tad anffyddlon.

Pan gwympodd Adda gynta,
Fe gwympodd pawb yn Adda;
Ni ddiangodd dyn o'r byd,
O'i ofid ef a'i draha.


Nodiadau

golygu