Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)/Cân Gweledigaeth Uffern

Gweledigaeth Uffern Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)

gan Ellis Wynne


golygwyd gan Daniel Silvan Evans


AR Y DÔN A ELWIR 'HEAVY HEART,' NEU TROM GALON.'

1. TROM yw'r galon, tramwy'r gwaelod,
A gweled peth o Fro'r Erchylldod;
Gweled diawliaid a chollddynion
Yn eu cartref tra echryslon;
Gweled diwedd llwybrau gwyrgam,
Llyn echrys-fflam,
Twll diadlam,
Ddryglam ddreig-le :
Yr ail olwg fi ni fynwn,
Er bydoedd fyrddiwn,
Er nad oeddwn
Yn eu dyodde'.

2. Trom yw'r galon, tra mae'r golwg
Eto yn fy nghof mor amlwg;
Gweled Iluoedd o'm cydnabod
Yn soddi yno chwap heb wybod;
Ddoe yn ddyn, a heddyw'n fall-gi,
Yn prysur ddenu
Bawb i ennynu
Bob yn enaid:
Ac wedi myn'd yn ddiawl uffern-lith,
O'r un hyll-rith
Ac athrylith
A'r cythreuliaid.

3. Trom yw'r galon, tremio'r gwely
Lle'r eir o ddal i wirfodd bechu;
Pa ddirmyg fyth a gwarth ysgethrin,
Sy yno ar fonedd a chyffredin!
Dadgan hylldod y coll-benau,
Neu un o'r poenau
Dir eu godde'
Yn dragwyddawl,
Nis medraf fi, ni choelit tithau,
Ni cheir goiriau;
Mae'r lle a'r rhithiau
Yn annhraethawl.

4. Trom yw'r galon, trwm y gwelir
Colli câr neu gyfaill cywir;
Colli da, neu dir, neu rydd-did,
Neu golli'r geirda, och! neu iechyd;
Colli llonydd a diofalwch,
Neu golli heddwch,
A phob difyrwch
Daiar farwol;
Colli cof neu ras tros encyd
Sy drymder enbyd,
Yn fwrn ennyd
Fawr anianol.

5. Trom yw'r galon (tramawr golyn !)
A fo'n dechreu 'mwrando â dychryn;
Ac â baich ei gorthrwm bechod,
Gan daer-ofidus geisio cymmod;
Cael blas oer ar bob pleserau,
Gan ddoluriau,
Tyst y brychau
Tost brawychus;
Cydwybod glaf mewn gwewyr esgawr
Ar ddyn newyddfawr
I lwyr ddinystriaw'r
Henddyn astrus.

6. Trom yw'r galon wraidd oreu,
Pan fo ar ei gwely angeu;
Tan arteithiau corff ac ysbryd,
Rhwng y fuchedd a'r afiechyd;
Dirfawr ing, ac ofni chwaneg,
Byth heb attreg,
Trom yw'r adeg,
Tramawr odfa!
Teimlo eitha'r bydan[1] hudol;
A'r byd tragwyddol,
Mawr, dyeithrol,
Ar ei wartha'.

7. Trom yw'r galon tan un goflaid
O'r holl drymderau hyn a henwed;
Ond petynt oll yn un tor-gwmwl,
Mae eto drymder mwy na'r cwbwl:
Mae gobaith esgor pob trymderau,
Tu yma i'r caerau,
A'r naill du i angau,
Hollt diangol:
Ond un trymder tu hwnt i'r amdo,
Gwae a'i caffo!
Nis ceir obeithio
Esgor bythol.

8. Trom yw'r galon don el dano;
(Och drymed genyf gip o'i adgo'!)
Ysgafnderau dylid alw
Pob trymderau oll wrth hwnw:
Y trymder hwn, diswn, ysywaeth,
Yw damnedigaeth
At lu diffaith
I wlad Uffern,
Pan wel dyn ddarfod fyth am dano,
Ac eisys yno
Yn drwg ieithio
Gyda'r gethern.

9. Na chwyna dithau, er dim a'th flino,
Os wyt heb fyn'd i uffern eto;
Eto dyro dro'n dy feddwl
Yno'n fynych ac yn fanwl:
Dwys ystyrio'r pwll echrys-lym,
A'r byth sy'ng nghynglyn,
A'th dry'n sydyn
Dan arswydo;
Mynych gofio'r Fagddu danbaid,
Trwy GRIST unblaid,
A geidw d' enaid
Rhag myn'd yno. Amen.


DIWEDD.

Nodiadau

golygu
  1. Y byd bychan, y byd bach.