Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)/Gweledigaeth Uffern
← Cân Gweledigaeth Angeu | Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865) gan Ellis Wynne golygwyd gan Daniel Silvan Evans |
Cân Gweledigaeth Uffern → |
III.
GWELEDIGAETH UFFERN.[1]
AR foreu teg o Ebrill rywiog, a'r ddaiar yn las feichiog, a Phrydain baradwysaidd yn gwisgo lifrai gwychion, arwyddion heulwen haf, rhodio yr oeddwn yng nglan Hafren, yng nghanol melus bynciau cerddorion bach y goedwig, oedd yn ymryson tori pob mesurau mawl hyfrydlais i'r Creawdwr; a minnau yn llawer rhwymedicach, weithiau mi gydbynciwn â'r côr asgellog mwynion, ac weithiau darllenwn ran o lyfr Ymarfer Duwioldeb[2]. Er hyny, yn fy myw, nid ai o'm cof fy ngweledigaethau o'r blaen, na redent fyth a hefyd i'm rhwystro ar draws pob meddyliau ereill. A daliasant i'm blino, nes imi, wrth fanwl ymresymu, ystyried nad oes un weledigaeth ond oddi uchod, er rhybudd i ymgroesi; ac wrth hyny fod arnaf ddylêd[3] i'w hysgrifenu hwy i lawr, er rhybuddi ereill hefyd. Ac ar ganol hyny o waith, a mi yn bendrist, yn ceisio casglu rhai o'r cofion ofnadwy, daeth arnaf hepian uwch ben fy mhapyr, a hyny a roes le i'm Meistr Cwsg lithro ar fy ngwarthaf. Braidd y cloisai Cwsg fy synwyrau, nad dyma yn cyfeirio ataf ryw ddrychiolaeth ogoneddus, ar wedd gwr ieuanc tal a glandeg iawn, a'i wisg yn saith wynach na'r eira, a'i wyneb yn tywyllu yr haul o ddysgleirdeb, a'i felyngrych aur-gudynau yn ymranu yn ddwybleth loewdeg oddi arnodd ar lun coron. "Tyred gyda mi, ddyn marwol!' ebr ef, pan ddaeth hyd ataf. 'Pwy wyt ti, fy Arglwydd?' ebr finnau. 'Myfi,' ebr ef, 'yw Angel teyrnasoedd y Gogledd, gwarcheidwad Prydain a'i brenines. Myfi yw un o'r tywysogion sy tan orseddfainc yr Oen, yn derbyn gorchymmynion ym mhlaid yr Efengyl, i'w chadw rhag ei holl elynion sy'n Uffern, ac yn Rhufain, yn Ffrainc, ac yng Nghaer Cwstenyn, yn Affrica, a'r India, a pha le bynag arall y maent yn dyfeisio dichellion i'w difa. Myfi yw yr Angel a'th waredodd tu isaf i Gastell Belial, ac a ddangosais i ti oferedd a gwallgof yr holl fyd, y Ddinas Ddienydd, a godidogrwydd Dinas Emmanuel; a daethym eto trwy ei orchymmyn Ef, i ddangos i ti bethau mwy, am dy fod yn ceisio gwneyd deunydd o'r hyn a welaist eisys.' 'Pa fodd, fy Arglwydd,' ebr fi, 'y mae eich anrhydedd gogoneddus, sy'n goruwchwylio teyrnasoedd a breninoedd, yn ymostwng at gymdeithas burgyn o'm bath i?' 'O!' ebr yntau, 'mwy genym ni rinwedd cardotyn na mawredd brenin. Beth os wyf fwy na holl freninoedd y ddaiar, ac uwch na llawer o'r aneirif benaethiaid nefol? Eto, gan deilyngu o'n hanfeidrol Feistr ni ostyngiad mor annhraethol arno ei Hun, a gwisgo un o'ch cyrff chwi, a byw yn eich mysg, a marw i'ch achub, pa fodd y meiddiwn i amgen na thybio yn rhydda fy swydd dy wasanaethu di, a'r gwaelaf o'r dynion, sy cyfuwch yn ffafr fy Meistr? Tyred allan, ysbryd, a dibridda!' ebr ef, â'i olwg ar i fyny: a chyda'r gair, mi'm clywn yn ymryddhau oddi wrth bob rhan o'r corff, ac yntau yn fy nghipio i fyny i entrych nefoedd, trwy fro'r mellt a'r taranau, a holl arfdai gwynias yr wybr, aneirifo raddau yn uwch nag y buaswn gydag efo'r blaen, lle prin y gwelwn y ddaiar cyfled a chadlas.[4] Wedi gadael i mi orphwys ychydig, fe'm cododd eilchwyl fyrddiwn o filltiroedd, oni welwn yr haul ym mhell oddi tanom; a thrwy Gaer Gwydion,[5] ac heibio i'r Twr Tewdws,[6] a llawer o ser tramawr ereill, gael golwg o hirbell ar fydoedd ereill. Ac o hir ymdaith, dyma ni ar derfynau yr anferth Dragwyddoldeb; yng ngolwg dau lys y gorchestol frenin Angau, un o'r tu deheu, a'r llall o'r tu aswy, ym mhell bell oddi wrth eu gilydd, gan fod rhyw ddirfawr wag rhyngddynt. Gofynais a gawn fyned i weled y Breninllys deheu; o blegid ni welswn mo hwnw yn debyg i'r llall a welswn i o'r blaen. Cei, ond odid,' ebr yntau, weled ychwaneg o'r rhagor sy rhwng y naill lys a'r llall, rywbryd. Eithr rhaid i ni yr awran hwylio ffordd arall.' Ar hyn troisom oddi wrth y Byd bach, a thros y cyfwng ymollyngasom i'r Wlad Dragwyddol, rhwng y ddau lys, i'r gwagle hyll; anferth wlad, ddofn iawn a thywyll, didrefn a didrigolion, weithiau yn oer, ac weithiau yn boeth, weithiau yn ddystaw, weithiau yn synio gan y rhaiadrydd[7] dyfroedd yn disgyn ar y tanau ac yn eu diffodd; ac yn y man gwelid damchwa[8] o dân yn tori allan, ac a losgai'r dwr yn sych. Felly nid oedd yno ddim cwrs, na dim cyfa, dim byw na dim lluniaidd; ond yr anghyssondeb syfrdan, a syndod tywyll a'm dallasai i fyth, oni buasai i'm Cyfaill noethi eilwaith ei nefol ddysgleir-wisg. Wrth ei oleu ef gwelwn Dir Anghof, a minion Gwylltoedd Distryw, ym mlaen o'r tu aswy; ac o'r tu deheu, megys godreon isaf caerau'r Gogoniant. Wel, dyma yr Agendor fawr sydd rhwng Abraham a Difes,'[9] ebr ef, 'a elwir y Gymmysgfa Ddidrefn: hon yw gwlad y defnyddiau, a greodd y Creawdwr gyntaf: a dyma lle mae hadau pob peth byw; ac o'r rhai hyn y gwnaeth y Gair Hollalluog eich Byd chwi, ac oll sy ynddo, dwr, tân, awyr, tir, anifeiliaid, pysg, a phryfed, adar asgellog, a chyrff dynion: ond mae eich eneidiau o ddechreuad ac achau uwch ac ardderchocach.' Trwy'r gymmysgfa fawr arswydus, ni a dorasom, o'r diwedd, allan i'r llaw chwith; a chyn trafaelio neppell yno, lle yr oedd pob peth yn dechreu myned hyllach hyllach, clywn y galon yng nghorn fy ngwddf, a'm gwallt yn sefyll fel gwrych draenog, cyn gweled; ond pan welais, och ormod golwg i dafod ddadgan, nac i ysbryd dyn marwol ei edrych! Mi a lewygais. O aruthrol anferthol gyfwng tra erchyll, yn ymagor i fyd arall! Och â'r clecian fyth yr oedd y fflamau echryslawn wrth ymluchio tros ymylau'r geulan felltigedig, a'r dreigiau mellt ysgethrin[10] yn rhwygo'r mwg dudew yr oedd y safn anferth yn ei fwrw i fyny! Pan ddadebrodd fy anwyl gydymaith fi, rhoes i mi ryw ddwr ysbrydol i'w yfed; o odidoced oedd ei flas a'i liw! Pan yfais y dwr nefol, clywn nerth rhyfeddol yn dyfod imi, a synwyr, a chalon, a ffydd, ac amryw rinweddau nefol ereill. Ac erbyn hyn, neseais gydag e'n ddiarswyd, at fin y dibyn, yn y llen, a'r fflamau yn ymranu o'n deutu, ac yn ein gochel, heb feiddio cyffwrdd â thrigolion Gwlad Uchelder. Yna, o ben y geulan anaele,[11] ymollyngasom, fel y gwelit ti ddwy seren yn syrthio o entrych nef, i lawr â ni fil filiwn o filltiroedd, tros lawer o greigiau brwmstan, a llawer anfad raiadr gwrthun, a chlogwyn eirias, a phob peth â gwg crogedig ar i waered fyth; eto yr oeddynt oll yn ein gochel ni; oddi eithr unwaith yr estynais fy nhrwyn allan o'r llen gel, tarawodd y fath archfa fi o fygfeydd a thagfeydd ag a'm gorphenasai, oni buasai iddo yn ddisymmwth fy achub â'r dwr bywiol. Erbyn i mi ddadebru, gwelwn ein bod wedi dyfod i ryw sefyllfod; canys yn yr holl geg anferthol hòno, nid oedd bosibl ddim cynt gael attreg, gan serthed a llithriced ydoedd. Yno gadawodd fy Nhywysog i mi orphwys peth drachefn; ac yn hyny o seibiant dygwyddodd i'r taranau a'r corwyntoedd croch ddystewi gronyn; ac heb waethaf i swn y rhaiadrydd geirwon, mi a glywn o hirbell swn arall mwy na'r cwbl, o grochleisiau echrys, bonllefain, gwaeddi, ac ochain cryf, a thyngu, a rhegu, a chablu, oni roiswn i newid ar fy nghlustiau rhag gwrando. A chyn i ni ymsymmud fodfedd, clywem oddi fyny'r fath drwp-hwl-rwp-rap, dy dump, dy damp[12] ac oni buasai i ni osgoi yn sydyn, syrthiasai arnom gantoedd o ddynion anhapus, oedd yn dyfod ar eu penau, mewn gormod brys, i ddrwg fargen, a llu o ellyllon yn eu gyru. 'O, Syr,' ebr un diawl, cymmerwch yn araf, rhag dyrysu eich cydyn crych.' 'Madam, a fynwch chwi glustog esmwyth? mae arnaf ofn na fydd arnoch ddim trefn erbyn yr eloch i'ch lletty,' meddai ef wrth y llall.
Gwrthnysig aruthr oedd y dyeithriaid i fyned ym mlaen, gan daeru eu bod allan o'r ffordd; ac er hyny myned yr oeddid, a ninnau o'u lledol, hyd at weilgi ddu ddirfawr o faint; a thrwodd yr aethant hwy, a throsodd ninnau, a'm cydymaith yn dal y dwr wrth fy nhrwyn, i'm nerthu rhag archfa yr afon; ac erbyn y gwelwn rai o'r trigolion (canys hyd yn hyn nis gwelswn gymmaint ag un diawl, ond clywed eu llais): Beth, ertolwg, fy nhywysog, y gelwir yr afon farwaidd hon?' ebr fi. 'Afon y Fall!' ebr yntau, 'lle trochir ei holl ddeiliaid ef, i'w cymhwyso at y wlad: mae'r dwr melltigedig hwn,' ebr ef, 'yn newid eu gwedd, yn golchi ymaith bob gweddillion daioni, pob rhith gobaith a chysur.' Ac erbyn gweled y llu yn dyfod trwodd, nis gwyddwn i ddim rhagor gwrthuni rhwng y diawliaid a'r damniaid. Chwennychai rhai o honynt lechu yng ngwaelod yr afon, a bod yno fyth fythoedd yn tagu, rhag cael ym mlaen waeth lletty; ond fel y mae'r ddiareb, "Rhaid i hwnw redeg y bo diawl yn ei yru;" felly gan y diawliaid oedd o'u hol, yr oedd yn gorfod i'r damniaid hyn fyned ym mlaen hyd y feisdon ddinystriol i'w dienydd tragwyddol; lle gwelais innau, ar y golwg cyntaf, fwy nag a all calon dyn ei ddychymmyg, chweithach tafod ei draethu, o arteithiau a dirboenau; a digon oedd gweled un o honynt er gwneyd i'r gwallt sefyll, i'r gwaed fforu, i'r cnawd doddi, i'r esgyrn ymollwng, ie, i'r ysbryd lewgu. Beth yw polioni neu lifio dynion yn fyw, tynu'r cnawd yn dameidiau â gwrthrimynod[13] heirn, neu friwlio[14] cig â chanwyllau o fesur golwyth, neu wasgu penglogau yn lledfenau[15] mewn gwasg, a'r holl ddirmyg erchyllaf[16] fu erioed ar y ddaiar? Nid ydynt oll ond megys difyrwch wrth un o'r rhai hyn. Yma, fil can mil o floeddiadau ac ebychiau hyllgryg,[17] ac ocheneidiau cryfion; draw wylofain croch, ac aruthrol gri yn eu hateb; ac mae udfa cŵn yn ber fiwsig flasus wrth y lleisiau yma. Pan aethom ronyn ym mlaen o'r feisdon felltigedig i wyllt Distryw, wrth eu tân eu hunain, canfum aneirif o feibion a merched yma a thraw; a diawliaid heb rifedi, ac heb orphwys, â'u holl egni, yn dal byth i'w harteithio;" ac fel y gwaeddai'r diawliaid gan eu poen eu hunain, gwnaent i'r damniaid eu hateb hyd adref. Deliais fanylach sylw ar y cwr oedd nesaf ataf: gwelwn y diawliaid, â phicffyrch, yn eu taflu i ddisgyn ar eu penau ar heislanod[18] gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu hymenyddiau; ym mhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel.[19] Oddi yno cipid hwy ym mhell i ben un o fylchau y rhew a'r eira tragwyddol; yna yn ol i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i'w trochi mewn llosgfeydd a mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele;[20] oddi yno i siglen y pryfed, i gofleidio ymlusgiaid uffernol, llawer gwaeth na seirff a gwiberod: yna cymmerai'r cythreuliaid wiail clymog o ddur tanllyd o'r ffwrnais, ac a'u curent oni udent tros yr holl Fagddu fawr, gan yr annhraethawl boen echryslawn; yna cymmerent heirn[21] poethion i serio'r archollion gwaedlyd. Dim llewygu na llesmeirio nid oes yno, i siomi mynyd o seibiant; ond nerth gwastadol i ddyoddef ac i deimlo; er y tebygit ti, ar ol un echrys-lef, nad oedd bosibl fod fyth rym i roi un waedd arall mor hyllgref;[22] eto byth ni ostwng eu cywair, a'r diawliaid yn eu hateb, Dyma eich croeso byth bythoedd.' A phetai posibl, gwaeth na'r boen oedd goegni a chwerwder y diawliaid yn eu gwawdio ac yn eu gwatwar; a pheth oedd waethaf oll, oodd eu cydwybod yr awran wedi cwbl ddeffro, ac yn eu llarpio hwy yn waeth na mil o'r llewod uffernol.
Ond wrth fyned rhagom ar i waered bellbell, a 'phan bella' gwaetha'r gwerth;[23] y golwg cyntaf, gwelwn garchar ofnadwy, a dynion lawer iawn tan scwrs[24] y diawliaid yn griddfan yn felltigedig. 'Pwy yw y rhai hyn oll?' ebr fi. Dyma,' eb yr Angel, 'letty'r Gwae fi na buaswn![25] Gwae fi na buaswn yn ymlanhau oddi wrth bob rhyw bechod mewn pryd!' medd un; 'Gwae fi na buaswn yn credu ac yn edifarhau cyn dyfod yma! medd y llall.
Nesaf i gell yr Edifeirwch rhyhwyr a'r dadl wedi barn, oedd garchar yr Oedwyr, a fyddo bob amser yn addo gwelläu, heb fyth gwplhau. Pan ddarffo hyn o drafferth,' medd un, 'mi a drof ddalen arall: Pan el hyn o rwystr heibio, mi a af yn ddyn newydd eto,' medd y llall. Ond pan ddarffo hyny, nid ydys nes; ceir rhyw rwystr arall fyth a hefyd, rhag cychwyn tua phorth sancteiddrwydd; ac os cychwynid weithiau, ychydig a'u troi yn ol.
Nesaf i'r rhai hyn oedd carchar y Camhyder, llawn o rai, pan berid iddynt gynt ymadael â'u hanlladrwydd, neu feddwdod, neu gybydd-dod, a ddywedent, 'Mae Duw yn drugarog, ac yn well na'i air, ac ni ddamnia ei greadur fyth am fater cyn lleied."[26] Ond yma cyfarth cabledd yr oeddynt, a gofyn, 'Pa le mae'r drugaredd hòno a fostid ei bod yn anfeidrol?' Tewch, gorgwn,' ebr ceimwch o gythraul mawr oedd yn eu clywed, tewch; ai trugaredd a fynech chwi, heb wneyd dim at ei chael? A fynech i'r Gwirionedd wneyd ei air yn gelwydd, dim ond er cael cwmni sothach mor ffaidd a chwi? Ai gormod o drugaredd a wnaed â chwi? Rhoi ichwi Achubwr, Dyddanwr, a'r angylion, a llyfrau, a phregethau, a siamplau da; ac oni thewch chwi â'n crugo[27] ni bellach wrth ymleferydd am drugaredd lle ni bu hi erioed!'
Wrth fyned allan o'r ceubwll tra thanbaid hwn, clywn un yn erthwch[28] ac yn bloeddio yn greulon: Nis gwyddwn i ddim gwell; ni chostiwyd dim wrthyf fi erioed, i ddysgu darllen fy nyledswydd; ac nid oeddwn i yn cael mo'r ennyd chwaith gan ennill bara i mi ac i'm tylwyth tlawd, i ddarllen nac i weddio.' 'Aie,' eb rhyw ddieflyn gwargam oedd ger llaw, 'a gaed dim ennyd i ddywedyd chwedlau ysmala? dim segur ymrostio hirnos gauaf, pan oeddwn i yng nghorn y simnai, na allesid rhoi peth o'r amser hwnw at ddysgu darllen neu weddio? Beth am y Suliau? Pwy fu yn dyfod gyda mi i'r dafarn, yn lle myned gyda'r person i'r Eglwys? Pa sawl prydnawn Sulgwaith a roed i ofer ddadwrdd am bethau'r byd, neu gysgu, yn lle dysgu myfyrio a gweddïo? Ac a wnaethoch chwi yn ol a wyddech? Tewch, Syre, â'ch dwndwr celwyddog.' 'O waedgi cynddeiriog,' ebr y colldyn, 'nid oes fawr er pan oeddit yn sisial peth arall yn fy mhen i! Pe dywedasit hyn y dydd arall, odid a ddaethwn i yma.' 'O,' ebr diawl, 'nid oes genym fater er dywedyd i chwi'r caswir yma; o blegid nid rhaid unon yr ewch chwi yn ol bellach i ddywedyd chwedlau.'
Tu isaf i'r gell yma gwelwn ryw gwm mawr, ag ynddo megys myrdd o domenydd anferth yn gwyrdd-losgi; ac erbyn nesäu, gwybum wrth eu hudfa, mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a'r fflamau cethin yn clecian trwyddynt. Y pantle yna,' eb yr Angel, 'yw lletty'r gwŷr a ddywedent wedi gwneyd rhyw fawrddrwg, "Haro! nid fi yw'r cyntaf; mae i mi ddigon o gymheiriaid:" ac felly gweli eu bod yn cael digon o gymheiriaid, i wirio eu geiriau, ac i chwanegu eu gofid.'
Gyfeiryd â hyn yr oedd seler fawr, lle gwelwn nyddu dynion fel nyddu gwdyn, neu sicio[29] cynfasau. Atolwg,' ebr fi, 'pwy ydyw y rhai hyn?' Dyma'r Gwawdwyr,' ebr ef; 'ac o wir wawd arnynt, mae'r diawliaid yn profi a ellid eu nyddu hwy cyn ystwythed a'u chwedlau.'
Is law hyn ronyn, prin y gwelsom ryw garchar-bwll arall tra thywyll; ac yno yr oedd pethau a fuasai yn ddynion, â wynebau fel penau bleiddgwn, hyd at eu cegau mewn siglen; ac yn cyfarth cabledd a cholwydd yn gynddeiriog, tra caent y colyn allan o'r baw. Yn hyn, dyma gadfa[30] o gythreuliaid yn dyfod heibio; a chyrhaeddodd[31] rhai frathu deg neu ddeuddeg o'r diawliaid a'u dygasai hwynt yno, yn eu sodlau. Gwae, distryw, uffern-gwn!' ebr un o'r diawliaid a frathesid, ac a darawodd ar y siglen, onid oeddynt yn soddi yn eigion y drewi. Pwy a haeddai uffern well na chwi, a fyddai yn hel ac yn dyfeisio chwedlau, ac yn sibrwd celwydd o dŷ i dŷ, i gael chwerthin wedi y gyrech yr holl fro benben â'u gilydd? Beth ychwaneg a wnai un o honom ninnau?' 'Dyma,' eb yr Angel, 'letty yr Athrodwyr, yr Enllibwyr, a'r Hustingwyr, a phob llyfrgwn cenfigenus, a anafant fyth o'r tu cefn, â dyrnod neu â thafod."
Oddi yno ni aethom heibio i walfa fawr, ffieiddiaf a'r a welswn i eto, a llawnaf o bryfed, a huddygl, a drewi. 'Dyma," ebr ef, 'le'r gwŷr a ddysgwylient nef am fod yn ddifalais, sef yn ddiddrwg ddidda.'
Nesaf i'r drewbwll yma, gwelwn dyrfa fawr, yn eu heistedd, yn ochain yn greulonach na dim a glywswn i hyd yn hyn o uffern. Ymgroes dda i bawb,' ebr fi, beth sy'n peri i'r rhai hyn achwyn mwy na neb, heb na phoen na chythraul ar eu cyfyl?' 'O!' eb yr Angel, 'mae ychwaneg o boen oddi mewn, os oes llai o'r tu allan: Hereticiaid gwrthnysig, a rhai annuw, a llawer o rai anghrist, ac o'r bydol ddoethion, gwadwyr y ffydd, erlidwyr yr eglwys, a myrdd o'r cyfryw, sy yma, wedi eu gadael yn hollawl i chwerw-ddycnach gosp y gydwybod, sy'n cael ei chyflawn rwysg arnynt yn ddibaid ddirwystr. "Ni chymmeraf fi bellach," medd hi, "mo'm boddi mewn cwrw, na'm dallu â gwobrau, na'm byddaru â cherdd ac â chwmni, na'm suo, na'm synu â syrthni anystyriol; eithr mynaf fy nghlywed bellach, ac byth ni thyr clep y caswir yn eich clustiau.' Mae yr ewyllys yn codi blys y gwynfyd a gollwyd; a'r cof yn edliw hawsed fuasai ei gael; a'r dealltwriaeth yn dangos faint y golled, a sicred yw na cheir bellach ddim ond yr annhraethawl gnofa byth bythoedd. Ac felly â'r tri hyn, y mae'r gydwybod yn eu rhwygo yn waeth nag y gallai holl ddiawliaid uffern."[32]
A mi yn dyfod allan o'r gilfach ryfeddol hòno, mi glywn gryn siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno bumcant o'r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin. Ond erbyn i mi gael nesäu i weled yr ammeuthyn mawr o wenu yn uffern, beth ydoedd, ond dau o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch dyledus i'w bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio'r gwyr boneddigion. Palff[33] o ysgwier,[34] â chanddo drolyn mawr o femrwn, sef ei gart achau,[35] ac yno yn dadgan o ba sawl un o'r pymtheg-llwyth Gwynedd[36] y tarddasai ef; pa sawl ustus o heddwch, a pha sawl siryf, a fuasai o'i dy ef. 'Hai, hai,' ebr un o'r diawliaid, 'ni wyddom haeddiant y rhan fwyaf o'ch hynafiaid chwi: ped fuasech chwi tebyg i'ch tad neu i'ch gorhendaid ni feiddiasem ni mo'ch cyffwrdd. Ond nid ych chwi ond aer y fagddu, fflamgi brwnt, prin y teli roi i ti letty noswaith,' ebr ef, ac eto ti a gai ryw gilfach i aros dydd:' a chyda'r gair, dyma'r ellyll ysgethrin â'i bicfforch yn rhoi iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr wybr danbaid, onid oedd o'n disgyn i geudwll allan o'r golwg. Mae hyny yn abl,' ebr y llall, i ysgwier o hanner gwaed; ond gobeithio y byddwch well eich moes wrth farchog, a fu yn gwasanaethu'r brenin fy hun; a deuddeg o ieirll, a dega deugain o farchogion, a fedraf eu henwi o'm hen ystent[37] fy hun.' Os eich hynafiaid a'ch hen ystent. yw'r cwbl sy genych i'w ddadleu, gellwch chwithau gychwyn yr un ffordd,' ebr un o'r diawliaid; o blegid nid ŷm ni yn cofio odid o hen ystâd fawr, nad rhyw orthrymwr, neu fwrdriwr, neu garn lleidr, a'i dechreuodd; a'i gadael i rai cyn drawsed a hwythau, neu i benbyliaid segurllyd, neu foch meddwon. Ac i faentumio'r mawredd afradlon, rhaid gwasgu'r deiliaid a'r tenantiaid;[38] os bydd yno nac ebol tlws, na buwch foddgar, rhaid i meistres eu cael, rhag blys; a da os dianc y merched, ie, a'r gwragedd, rhag blys y meistr. A'r mân uchelwyr o'u hamgylch, rhaid i'r rhai hyny naill ai eu hofer ganlyn, ai meichnio trostynt, i'w hanrheithio eu hunain a'u heiddo, a gwerthu eu treftadaeth, neu ddysgwyl cas a chilwg, a'u llurgynio i bob oferswydd yn eu byw. O! foneddigeiddied y tyngant, i gael eu coelio gan eu cariadau, neu gan eu siopwyr! a chwedi ymwychu, O! goeced yr edrychant ar lawer o gryn swyddogion gwledig ac eglwysig, chweithach ar y bobl gyffredin! fel petai y rhai hyny ryw bryfed wrthynt hwy. Gwae finnau! Ai nid unlliw pob gwaed? Ai nid yr un ffordd rhwng y trwne a'r baw y daethoch chwi i gyd allan?' 'Er hyn oll, trwy eich genad,' ebr y marchog, 'mae ambell enedigaeth yn llawer purach na'r llall.' 'I'r distryw mawr, oes blisgyn o honoch oll well na'u gilydd,' ebr y dieflyn; 'yr ych i gyd oll wedi eich diwyno â phechod gwreiddiol oddi wrth Adda. Ond, Syr,' ebr, ef, os yw eich gwaed chwi yn well na gwaed arall, bydd ynddo lai o ysgum wrth ferwi trwoch chwi yn y man; ac os oes rhagor, mynwn chwilio pob rhan o honoch trwy ddwr a thân.' Ar y gair, dyma ddiawl ar lun cerbyd tanllyd yn ei dderbyn, a'r llall o wawd yn ei godi ef iddo, ac ymaith ag yntau fel mellten. Ym mhen ennyd, parodd yr Angel i mi edrych, a gwelwn y marchog, druan, yn cael ei drwytho yn erchyll mewn anferthol ffwrnais ferwedig, gyda Chain, Nimrod, Esau, Tarcwin,[39] Nero,[40] Caligula,[41] a'r lleill a ddechreuodd ddwyn achau, a chodi arfau bonedd.[42]
Encyd yn mlaen, parodd fy nhywysog i mi ysbio trwy dollgraig,[43] ac yno gwelwn dyrfa o fursenod yn ymsionci yn gwneyd ac yn dadwneyd eu holl ffoledd ar y ddaiar gynt; rhai yn mingrynu; rhai â heirn yn tynu eu haeliau; rhai yn ymiro; rhai yn clytio eu hwynebau ag ysmotiau duon, i wneyd i'r melyn edrych yn wynach; rhai yn ceisio tori'r drych; a chwedi'r holl boen yn ymliwio ac yn ymfritho, wrth weled eu hwynebau yn wrthunach na'r cythreuliaid, a rwygent â'u hewinedd a'u dannedd yr holl wrid gosod, a'r ysmotiau a'r crwyn, a'r cig tan un, ac a oerleisient allan o fath.[44] 'Y felltith fawr,' meddai un, 'i fy nhad, a wnaeth i mi briodi hen gelffaint[45] yn eneth gwaith hwnw yn codi blys heb allu mo'i dori a'm gyrodd i yma.' 'Mil o felltithion ar fy rhieni," meddai'r llall, 'am fy ngyru i'r fonachlog i ddysgu diweirdeb; ni fuasai waeth iddynt fy ngyru at Rowndiad i ddysgu bod yn hael, neu at Gwacer i ddysgu bod yn foesol, na'm gyru at Bapist i ddysgu onestrwydd. Y distryw gwyllt,' ebr un arall, 'a ddyco fy mam, am ei balchder cybyddus yn rhwystro i mi gael gwr wrth fy rhaid, ac felly gwneyd i mi ledrata'r peth a allaswn ei gael yn onest.' 'Uffern, a dwbl uffern, i'r tarw cynddeiriog o wr boneddig a ddechreuodd gyntaf fy hudo i,' meddai'r drydedd; 'oni buasai i hwnw, rhwng teg a hagr, dori'r cae, nid aethwn i yn gell egored i bawb, ac ni ddaethwn i'r gell gythreulig yma!' ac yna ymrwygo eilwaith.
Ond ereill wedi ymbobi, aent o dwll i dwll tan gyneica, a thynent y diawliaid rhwng eu traed; weithiau ffo'i y rhai hyny rhagddynt; ac weithiau rhoent iddynt dân at dân; cynient[46] hwy ag ebillion o ddur gwynias, oni chaent ddigon o ymrygnu, a'u perfedd yn sio ac yn ffrïo.
Yr oedd yn rhyhwyr genyf ymadael â ffiaidd ganel[47] y geist cynäig. Ond cyn myned nemor ym mlaen, bu ryfedd genyf weled carchar-lwyth arall o ferched dau ffieiddiach na hwythau. Rhai wedi myned yn llyffaint; rhai yn ddreigiau; rhai yn seirff, yn nofio ac yn chwibianu, yn glafoerio ac yn ymdolcio mewn merbwll[48] drewllyd, mwy o lawer na Llyn Tegid.[49] 'Atolwg,' ebr fi, 'beth bosibl i'r rhai hyn fod?' Mae yma," ebr yntau, bedair rhywogaeth benigamp o ferched, heb law eu cynffonion: 1. Carn-buteiniaid, a fu yn cadw mân fudrogod tanynt, i gael gwerthu yr un morwyndod ganwaith; a rhai o'r puteiniaid penaf yma o'u hamgylch. 2. Meistrosod y Chwedlau, ac o'u cwmpas fyrdd o wrachod y newyddion. 3. Marchogesau, â phac[50] o lyfrgwn llechwrus o'u deutu; canys nid ai ddyn erioed ar eu cyfyl ond rhag eu hofn. gowliaid, wedi myned yn gan erchyllach na nadroedd, yn cnoi fyth dy rinc, dy rinc,[51] â'u colyn gwenwynig.
Tygaswn[52] fod Luciffer yn weddeiddiach brenin na rhoi gwraig foneddig o'm gradd i gyda'r mân ddiawlesod hyn,' ebr un syrn debyg, ond ei bod hi yn llawer gerwinach na sarff hedegog. 'O! na yrai fo yma seith-gant o'r diawliaid dyhiraf yn uffern yn gyfnewid am danat ti, uffern-bryf gwenwynig!' meddai rhyw wiber wrthun arall. O, diolch i chwi yn fawr,' ebr un cawr o gythraul oedd yn clywed; yr ym ni yn cyfrif ein lle a'n haeddiant yn beth gwell: er y poenech chwi bawb cynddrwg a ninnau; er hyny, ni chollwn ni eto mo'n swydd i chwi.' 'Ac hefyd,' eb yr Angel yn ddystaw, 'mae achos arall i Luciffer roi cadwraeth ddichlyn ar y rhai hyn, rhag iddynt, os torant allan, yru holl uffern bendramwnwgl.'
Oddi yno ni aethom ar i waered fyth, lle gwelais ogof anferthol, ag ynddi'r fath ddrygnad echrys, na chlywswn i eto mo'i gyffelyb, gan dyngu, a rhegu, a chablu, ac ymddanneddu, ac ochain, a gwaeddi. 'Pwy sy yma?' ebr fi. 'Dyma,' ebr ef, 'Ogof y Lladron: yma mae myrdd o fforestwyr, cyfreithwyr, stiwardiaid, a'r hen Suddas[53] yn eu mysg;" a blin iawn oedd arnynt weled y ffardial[54] deilwriaid a'r gwëyddion uwch eu llaw ar ystafell esmwythach. Prin y cawswn ymdroi, nad dyma geffyl o ddiawl yn dwyn physigwr a photecari, ac yn eu taflu ym mysg y pedleriaid, a'r hwndlwyr ceffylau, am werthu war[55] ddrwg fethedig: ond dechreuasant rwgnach eu gosod mewn cwmpeini mor wael. 'Aröwch, aröwch,' ebr un o'r diawliaid, 'chwi haeddech le amgenach: ac a'u taflodd hwy i waerod i blith y cwncwerwyr a'r mwrdrwyr. Yr oedd yma fyrdd i mewn am chwareu disiau ffeilsion, a chuddio cardiau: ond cyn i mi gael dal fawr sylw, clywn yn ymyl y drws, anferth drwp a thrwst, a gyru hai, hai, hai-ptrw-how, ho, ho-o-o-o-hwp.[56] Trois i edrych beth oedd: methu canfod dim ond yr ellyllon corniog. Gofynais i'm tywysog ai cycwalltiaid[57] oedd gyda'r diawliaid? Nag e,' ebr ef, 'mae y rhai hyny mewn cell arall: Porthmyn yw y rhai hyn, a fynai ddianc i le Torwyr y Sabbath, ac a yrir yma o'u hanfodd.' Gyda'r gair, edrychais, a gwelwn eu penglogau yn llawn o gyrn defaid a gwartheg; a dyma'r gyrwyr yn eu taflu hwy i lawr tan draed yr ysbeilwyr gwaedlyd. Llechwch yna,' ebr un; 'er maint yr ofnech chwi ladron ar ffordd Llundain gynt, eto nid oeddych chwi ond y fath waethaf o ladron ffordd fawr eich hunain, yn byw ar y ffordd ac ar ledrad; ïe, ac ar ladd teuluoedd tlodion, wrth ddal llawer o gegau newynllyd yn egored i ddysgwyl eu heiddo eu hunain i'w porthi, a chwithau yn y Werddon, neu yn y King's Bench,[58] yn chwerthin am eu penau; neu ar y ffordd, yn eich gwin a'ch puteiniaid.'
Wrth ymadael â'r ogof greision-boeth, ces olwg ar y walfa benaf ond un a welais i yn uffern, am echryslawn ffieidd-dra drewedig, lle yr oedd cenfaint o foch meddwon melltigedig yn chwydu ac yn llyncu, yn llyncu ac yn chwydu llysnafodd erchyll fyth heb orphwys.
Y twll nesaf oedd lletty'r Glothineb, lle yr oedd Difes a'i gymheiriaid ar eu torau yn bwyta baw a thân bob yn ail, fyth heb ddim gwlybwr. Ddant neu ddau yn is, yr oedd cegin rost helaeth iawn, a rhai rhost ac yn ferw, ereill yn ffrio ac yn fflamio mewn simnai syrn danbaid. 'Dyma le yr Annhrugarog a'r Annheimladwy,' eb yr Angel; a throis dipyn ar y llaw aswy, lle yr oedd cell oleuach nag a welswn i eto yn uffern: gofynais pa le ydoedd. Trigfa'r Dreigiau Uffernol,' eb yr Angel, 'sy'n chwyrnu ac yn ymchwerwi, yn rhuthro ac yn anrheithio eu gilydd bob mynyd.' Mi neseais; ac och â'r olwg annhraethadwy oedd arnynt! y tân byw yn eu llygaid oedd y goleuni oll. 'Hil Adda yw y rhai hyn,' ebr fy nhywysog, yn ysgowliaid, a gwŷr digllon cynddeiriog: ond dacw,' ebr ef, rai o hen sil y Ddraig fawr Luciffer;' ac yn wir, ni wyddwn i ddim rhagor hawddgarwch rhwng y naill a'r llall.
Y seler nesaf yr oedd y Cybyddion mewn dirboen echrys, gerfydd eu calonau yng nglŷn wrth gistiau o arian tanllyd, a rhwd rhai hyny yn eu hysu fyth heb ddiwedd, megys na feddyliasent hwythau am ddiwedd fyth yn eu casglu: ac yr awran ymddryllio yr oeddid yn waeth na chynddeiriog gan ofid ac edifeirwch. Is law hyn, yr oedd bachell[59] swrth, lle yr oedd rhai o'r potecariaid wedi eu malu a'u gwthio i botiau priddion, mewn Album Græcum, [60] a baw gwyddau a moch, a llawer enaint hendrwm.
Ym mlaen ar i waered fyth yr oeddym ni yn teithio hyd y gwyllt dinystriol, trwy aneirif o arteithiau annhraethol a thragwyddol, o gell i gell, o seler i seler; a'r olaf fyth yn rhagori ar y lleill o erchylldod anferth: o'r diwedd i olwg cyntedd dirfawr, annhirionach fyth na dim o'r blaen. Cyntedd trahelaeth ydoedd a hyllserth,[61] a gwga[62] ei redfa at ryw gongl ddugoch anghredadwy o wrthuni ac erchylldod: yno yr oedd y breninllys. Ym mhen uchaf y brenin-gwrt melltigedig, ym mysg miloedd o erchyllion ereill, wrth lewyrch fy nghydymaith, gwelwn yn y fagddu ddau droed anferthol o anferthol o faint![63] yn cyrhaedd i doi'r holl ffurfafen uffernol. Gofynais i'm tywysog beth allai'r anferth hwnw fod. Wel,' ebr yntau, ti a gei helaethach golygiad ar yr anghenfil yma wrth ddychwelyd: ond tyred ym mlaen yr awran i weled y breninllys.'
A ni yn myned i waered hyd y cyntedd ofnadwy, clywem drwst o'n hol, megys llawer iawn o bobl: wedi i ni osgoi i'w gollwng hwy ym mlaen, gwelwn bedwar llu neillduol; ac erbyn ymorol, pedair tywysoges y Ddinas Ddienydd oedd yn dwyn eu deiliaid yn anrheg i'w tad. Mi adnabum lu y Dywysoges Balchder, nid yn unig am eu bod yn mynu'r blaen ar y lleill, ond hefyd wrth eu gwaith yn pendwmpian bob yn awr eisieu edrych tan eu traed. Yr oedd gan hon fyrdd o freninoedd, penaethiaid, gwŷr llys, boneddigion, a ffrostwyr, a llawer o Gwaceriaid, a merched aneirif o bob gradd.
Y nesaf oedd y Dywysoges Elw, â'i llu henffel iselgraff, a llawer iawn o hil Sion Lygad Arian, llogwyr, cyfreithwyr, cribddeilwyr, goruchwylwyr, fforestwyr, puteiniaid, a rhai eglwyswyr.
Nesaf i hyny oedd y Dywysoges fwyn Pleser, a'i merch Ffolineb, yn arwain ei deiliaid, yn chwaryddion disiau, cardiau, tawlbwrdd, castiau hug, yn brydyddion, cerddorion, hen chwedleuwyr, meddwon, merched mwynion, masweddwyr, teganwyr, a mil fyrddiwn o bob rhyw deganau, i fod weithian yn beiriannau penyd i'r ynfydion colledig. Wedi i'r tair hyn fyned â'u carcharorion i'r llys i dderbyn eu barn, dyma Ragrith, yn olaf oll, yn arwain cadfa luosocach na'r un o'r lleill, o bob cenedl ac oed, o dref a gwlad, boneddig a gwreng, meibion a merched. Yng nghynffon y llu dauwynebog, ninnau aethom i olwg y llys, trwy lawer o ddreigiau, ac ellyllon corniog, ac o gawri annwn, porthorion duon y Fallgyrch eirias; a minnau yn llechu yn ofalus iawn yn fy llen gel, ni aethom i mewn i'r adail erchyll; aruthrol a thra aruthrol o erwindeb oedd bob cwr; y muriau oedd anfad greigiau o ddiemwnt eirias; y llawr yn un gallestr gyllellog anoddef; y pen o ddur tanllyd, yn ymgyfhwrdd fel bwa maen o fflamau gwyrddlas a dugoch, yn debyg, ond ei faint a'i boethder, i ryw anferth bobdy cwmpasog erchyll.[64] Gyferbyn a'r drws, ar orseddfainc fflamllyd, yr oedd y Fall fawr, a'i brif angylion colledig o'i ddeutu ar feinciau o dân tra echryslawn, yn eistedd yn ol eu graddau gynt yng ngwlad y goleuni, yn genawon hawddgar; ni waeth i ti hyny nag ofer bregeth, i geisio dadgan mor ysgeler ysgethrin oeddynt; a pha hwyaf yr edrychwn ar un o honynt, saith erchyllach fyth. Yn y canol, uwch ben Luciffer, yr oedd dwrn mawr, yn dal bollt tra ofnadwy. Y tywysogesau, wedi gwneyd eu moes, a ddychwelasant i'r byd at eu siars yn ddiymaros. A phan gyntaf yr ymadawsant, dyma gawr o ddiawl ceghir, ar amnaid y brenin, yn rhoddi bonllef uwch na chan ergyd o ganon,[65] cyfuwch, pe posibl, a'r udgorn diweddaf, i gyhoeddi'r Parliament uffernol: ac yn ebrwydd, dyma giwed annwn wedi llenwi'r llys a'r cyntedd ym mhob llun, yn ol delw a chyffelybiaeth y pechod penaf a'r a garai pob un ei wthio ar ddynion. Wedi gorchymmyn gosteg, dechreuodd Luciffer, â'i olwg ar y penaethiaid nesaf ato, lefaru yn rasusol fel hyn:—
Chwychwi benaethiaid Annwn, tywysogion y Fagddu anobaith! Os collasom y meddiant lle buom gynt yn dysgleirio hyd teyrnasoedd gwynion Uchelder, er maint, eto gwych oedd ein cwymp ni, nid oeddym ni yn bwrw am ddim llai na'r cwbl; ac ni chollasom mo'r cwbl chwaith; canys wele wledydd helaeth a dyfnion hyd eithaf gwylltoedd Distryw fawr, tan ein rheolaeth ni eto. Gwir yw, mewn dirboen anaele yr ŷm ni yn teyrnasu; eto gwell gan ysbrydion o'n huchder ni deyrnasu mewn penyd na gwasanaethu mewn esmwythyd. [66] Ac heb law hwn, dyma ni agos ag ennill byd arall; mae mwy na phum rhan o'r Ddaiar tan fy maner i er's talm. Ac er darfod i'r Gelyn Hollalluog yru ei Fab ei hun i farw trostynt, eto yr wyf fi wrth fy nheganau, yn mynu deg enaid am un a gaffo Fo gyda'i Fab croeshoeliedig. Ac er na chyrhaeddwn ei gyffwrdd Ef yn y goruchafon, sy'n ergydio'r taranau anorchfygol; eto melus yw dial rywffordd. Gorphenwn ninnau ddifa'r gweddill sy o ddynion yn ffafr ein Distrywiwr ni. Mae yn gof genyf yr amser y parasoch iddynt losgi yn fyddinoedd ac yn ddinasoedd, ie, i ddaiar-lwyth cyfan ddisgyn trwy'r dwr atom ni i'r tân. Ond yr awran, er nad yw eich nerth a'ch creulonder naturiol ronyn llai, eto yr ych chwi wedi rhyw ddiogi: ac oni bai hyny, gallasem fod er's talm wedi difa yr ychydig rai duwiol, ac wedi ennill y ddaiar i fod yn un â'r llywodraeth fawr yma. Ond gwybyddwch hyn, weinidogion duon fy nigofaint, oni byddwch glewach a phrysurach weithian, a byred yw ein hamser ni, myn Annwn a Distryw, ac myn y Fagddu fawr dragwyddol, cewch brofi pwys fy llid arnoch eich hunain yn gyntaf, mewn poenau newyddion a dyeithrol i'r hynaf o honoch.' Ac ar hyn, fe guchiodd oni chymylodd y llys yn saith dduach nag o'r blaen.
Yn hyn, cododd Moloc,[67] un o'r penaethiaid cythreulig, ac wedi gwneyd ei foes i'r brenin, ebr ef, 'O Empriwr yr awyr, rheolwr mawr y tywyllwch, nid ammheuodd neb erioed fy ewyllys i at eithaf malais a chreulonder; canys dyna fy mhleser i erioed; odiaeth oedd genyf glywed plant yn trengu yn y tân, megys gynt pan aberthid hwy i mi, tu allan i Gaersalem. Hefyd, wedi i'r Gelyn croeshoeliedig ddychwel i'r uchelder, mi a fum, yn amser deg o ymherodron, yn lladd ac yn llosgi ei ddilynwyr Ef, i geisio difa'r Cristianogion oddi ar wyneb y ddaiar, tra thyciodd i mi. Gwnaethym ym Mharis ac yn Lloegr, ac amryw fanau ereill, lawer lladdfa fawr o honynt wedi hyny: ond beth ydys nes? Tyfu a wnai'r pren pan dorid ei geinciau: nid yw hyn oll ond dangos dannedd heb allu mo'r brathu.'
'Pshaw!'[68] ebr Luciffer; 'baw i'r fath luoedd digalon a chwi; ni hyderaf fi arnoch chwi mwy. Mi wnaf y gwaith fy hun, ac a fynaf yr orchest yn ddi-ran: af i'r ddaiar yn fy mherson breninol fy hun, ac a lyncaf y cwbl oll; ni cheir dyn ar y ddaiar i addoli'r Goruchaf mwy.' Ac ar hyn fe roes hedlam[69] cynddeiriog i gychwyn, yn un ffurfafen o dân byw; ond dyma'r dwrn uwch ei ben yn gwyntio'r follt ofnadwy, onid oedd e'n crynu yng nghanol ei gynddaredd; a chyn ei fyned e'n neppel, llusgodd llaw anweledig y cadno yn ei ol heb waethaf ei ên, gerfydd y gadwyn: ac yntau yn ymgynddeiriogi yn saith pellach; a'i lygaid yn waeth na dreigiau; mwg dudew o'i ffroenau; tân gwyrddlas o'i geg a'i berfeddau; gan gnoi ei gadwyn yn ei ofid, a sibrwd cabledd ochryslawn, a rhegfeydd tra arswydus.
Ond wrth weled ofered oedd geisio ei thori, neu ymdynu â'r Hollalluog, fe aeth i'w le, ac ym mlaen yn ei ymadrodd beth gwareiddiach, eto yn ddau mileiniach. Er na threchai neb ond y Taranwr Hollalluog fy nerth i a'm dichell; eto gan fod yng ngorfod ymostwng i Hwnw heb y gwaethaf, nid oes genyf mo'r help; ond mi a gaf fwrw fy llid yn is ac yn nes ataf, a'i dywallt yn gafodydd ar y rhai sy eisys tan fy maner i, ac yng nghyrhaedd fy nghadwyn. Codwch chwithau, swyddogion distryw, rheolwyr y tân anniffoddadwy; ac fel y bo fy llid a'm gwenwyn i yn llenwi, a'm malais yn berwi allan, taenwch chwithau'r cwbl oll yn ddichlyn rhwng y damniaid, ac yn benaf y Cristianogion; cymhellwch y peiriannau penyd hyd yr eithaf; dyfeisiwch; dyblwch y tân a'r berw, oni bo'r peiriau yn codi yn damchwëydd tros eu penau; a phan font mewn eithaf poen annhraethawl, yna gwawdiwch, gwatwerwch hwynt, ac edliwiwch; a phan ddarffo i chwi'r cwbl a fedroch o ddirmyg a chwerwder, brysiwch ataf fi, a chewch ychwaneg.'
Buasai gryn ddystawrwydd yn uffern er's ennyd, a'r poenau yn hydr[70] creulonach wrth eu cadw i mewn. Ond yr awran torodd yr ostega barasai Luciffer, pan redodd y cigyddion erchyll, fel eirth newynllyd cynddeiriog, ar eu carcharorion; yna cododd y fath och! och! och! a'r fath wae, ac udfa gyffredin, mwy na swn llifddyfroedd, neu dwrw daiargryn, onid aeth uffern yn saith erchyllach. Minnau a lewygaswn, oni buasai i'm hanwyl gyfaill fy achub. 'Cymmer,' ebr ef, 'lawer yr awron i'th nerthu i weled pethau garwach eto na'r rhai hyn.' Ond prin y daethai'r gair o'i eneu ef, pan, wele'r nefol Gyfiawnder, sy uwch ben y geulan yn cadw drws uffern, yn dyfod dan scwrsio[71] tri o ddynion â gwiail o ysgorpionau tanllyd. Ha, ha!' ebr Luciffer, 'dyma driwyr parchedig, y teilyngodd Cyfiawnder ei hun eu hebrwng i'm teyrnas i.' 'Och fi fyth!' ebr un o'r tri, pwy oedd yn ceisio ganddo ymboeni?' 'Ni waeth er hyny,' ebr yntau (â golwg a wnaeth i'r diawliaid ddelwi a chrynu, onid oeddynt yn curo yn eu gilydd), 'ewyllys y Creawdr mawr oedd i mi fy hun ddanfon y fath fwrdrwyr melltigedig i'w cartref.' 'Syre,' ebr ef wrth un o'r cythreuliaid, 'egorwch i mi ffollt[72] y mwrdwr, lle mae Cain, Nero, Bradshaw,[73] Boner,[74] ac Ignatius,[75] ac aneirif ereill o'r cyffelyb.' 'Och! och! ni laddasom ni neb,' ebr un. 'Diolch i chwi, eisieu cael amser, am ddarfod eich rhwystro,' ebr Cyfiawnder. Pan egorwyd yr ogof, daeth allan y fath damchwa echrys o fflamau gwaedlyd, a'r fath waedd, a phetai fil o ddreigiau yn rhoi'r ebwch olaf wrth drengu. Ac wrth i Gyfiawnder fyned heibio yn ol, ar hanner tro, fe chwythodd y fath dymmestl o gorwyntoedd tanllyd ar y Fall fawr a'i holl benaethiaid, oni chipiwyd ymaith Luciffer, yna Belsebub, Satan, Moloc, Abadon, Asmodai, Dagon, Apolyon, Belphegor, Mephostophiles,[76] a'r holl brif gythreuliaid ereill, ac a'u pendifadwyd oll i ryw sugn-dwll can ffieiddiach ac erchyllach ei olwg a'i archfa ofnadwy na dim oll a'r a welswn i, a hwnw yn cau ac yn agoryd yng nghanol y llys. Ond cyn i mi gael gofyn, Dyma,' eb yr Angel, dwll sy'n disgyn i fyd mawr arall.' "Beth,' ebr fi, 'ertolwg, y gelwir y byd hwnw?' 'Fo'i gelwir,' ebr ef, 'Annwn, neu Uffern Eithaf, cartref y cythreuliaid, ac lle yr aethant yr awron. A'r holl wylltoedd mawrion y daethost ti tros beth o honynt, a elwir Gwlad yr Anobaith, lle a drefnwyd i ddynion damnedig hyd ddydd-farn; ac yna fe syrth hon yn un â'r Uffern Eithaf ddiwaelod; yna daw un o honom ninnau, ac a gau ar y diawliaid a'r damniaid yng nghyd, ac byth yn dragywydd ni egorir arnynt mwy. Ond yn y cyfamser maent yn cael cynnwysiad i ddyfod i'r wlad oerach yma i boeni yr eneidiau colledig. Ië, maent yn fynych yn cael cenad i fyned i'r awyr, ac o gwmpas y ddaiar, i demtio dynion i'r ffyrdd dinystriol sy'n tywys i'r diadlam garchar tra ysgethrin hwn.'
Yng nghanol hyn o hanes, a mi yn synu fod ceg Annwn yn rhagori cymmaint ar safn Uffern uchaf, mi a glywn dramawr drwst arfau ac ergydion geirwon o un cwr, ac megys taranau croch yn eu hateb o'r cwr arall, a'r creigiau angeuol yn diaspedain.[77] Dyma swn rhyfel,' ebr fi, os bydd rhyfel yn uffern.' Bydd,' ebr ef; 'ac nid posibl fod yma ond rhyfel gwastadol.' A ni yn cychwyn allan i edrych beth oedd y mater, gwelwn gog Annwn yn ymagor, ac yn bwrw i fyny filoedd o ganwyllau gwyrdd-hyllion; y rhai hyn oedd Luciffer a'i benaethiaid wedi gorfod y dymmestl. Ond pan glybu o'r trwst rhyfel, fe aeth yn lasach nag Angeu,.ac a ddechreuodd alw a hel byddinoedd o'i hen sawdwyr profedig i ostegu'r cythryfwl: yn hyny, dyma fe'n taro wrth gorgi o ddieflyn bach, a ddiangasai rhwng traed y rhyfelwyr. Beth yw'r mater?' ebr y brenin. Y fath fater ag a berygla eich coron, oni edrychwch atoch eich hun.' Yngnghynffon hwn, dyma redegwas cythreulig arall yn crygleisio: Yr ych chwi yn dyfeisio aflonyddwch i ereill: edrychwch[78] weithian at eich llonydd eich hun; dacw'r Tyrciaid, y Papistiaid, a'r Rowndiaid llofruddiog, yn dair byddin, yn llenwi holl wastadedd y Fagddu, ac yn gwneyd y mawrddrygau, yn gyru pob peth dinbenstrellach.'[79] Pa fodd y daethant allan?' ebr y Fall fawr, tan edrych yn waeth na Demigorgon.[80] 'Y Papistiaid,' ebr y genad, 'ni wn i pa fodd, a dorasant allan o'u Purdan; ac yna, o achos hen lid, aethant i ddifachio[81] ceuddrws Paradwys Mahomet, a gollyngasant y Tyrciaid allan o'u carchar; ac wedi yn y cythryfwl, caed rhyw ffael i hil Cromwel dori allan o'u celloedd.' Yna troes Luciffer, ac a edrychodd tan ei orseddfainc, lle yr oedd yr holl freninoedd colledig, ac a barodd gadw Cromwel ei hun yn ei ganel, a hefyd holl ymherodron y Tyrciaid yn ddiogel. Felly hyd wylltoedd duon y tywyllwch prysurodd Luciffer a'i luoedd, a phawb yn cael goleu a gwres ar ei gost ei hun; wrth yr anferth drwst cyfeiriodd yn lew tuag atynt; yna gorchymmynwyd gosteg yn enw'r brenin; a gofynodd Luciffer, 'Beth yw achos y cythryfwl yma yn fy nheyrnas i?' 'Rhyngai fodd i'ch mawrhydi uffernol,' ebr Mahomet, 'dadladdechreuodd rhyngof fi a'r Pab Leo, pa'r un a wnaethai i chwi fwyaf o wasanaeth, ai fy Alcoran i, ai crefydd Rufain: ac yn hyny,' ebr ef, 'dyma yr o Rowndiaid wedi tori eu carchar yn y trwst, ac yn taro i mewn hwythau, gan daeru yr haeddai eu Lêg a'u Cofenant[82] fwy parch ar eich llaw nag yr un; felly o ymdaeru i ymdaro, o eiriau i arfau. Ond weithian, gan i'ch mawrhydi ddychwelyd o Annwn, mi a rof y mater arnoch chwi eich hunan.' 'Aröwch, ni ddarfu i ni â chwi felly,' ebr Pab Iulius; ac ati hi, ewinedd a dannedd, eilwaith yn gynddeiriog, onid oedd yr ergydion megys daiargryn, a'r tair byddin damniaid hyn yn darnio eu gilydd, ac yn asio eilwaith fel nadroedd, ar draws, y tarenydd[83] eirias danneddog, nes peri o Luciffer i'w hen sawdwyr, cawri Annwn, eu tynu oddi wrth eu gilydd; ac ni bu hawdd.
Pan ddystawodd y derfysg, dechreuodd y Pab Clement[84] lefaru: 'O Empriwr yr Erchyllion, ni wnaeth un gadair eriood ffyddlonach a chyffredinach gwasanaeth i'r goron uffernol, nag a wnaeth esgobion Rhufain, tros lawer o'r byd, er's uncant ar ddeg o flynyddoedd; gobeithio na oddefwch i neb ymgystadlu â ni am eich ffafr.'
Wel,' ebr Scotyn o lwyth Cromwel, 'er maint gwasanaeth yr Alcoran er's wythgant o flynyddoedd, ac ofergoelion y Pab or cyn hyny, eto gwnaeth y Cofenant fwy er pan ddaeth allan; ac mae pawb yn dechreu ammheu a diflasu ar y lleill, ond yr ym ni eto ar gynnydd hyd y byd, ac mewn grym yn Ynys eich gelynion, sef Prydain, ac yn Llundain, y ddinas ddedwyddaf sy tan haul.' 'Hai, hai,' ebr Luciffer, 'os da clywaf i, yr ych chwi yno ar fyned tan gwmwl chwithau. Ond beth bynag a wnaethoch mewn teyrnasoedd ereill, ni fynaf fi mo'ch gwaith yn cythrybio fy nheyrnas i. Am hyny, gwastatewch yn frau,[85] tan eich perygl o fwy o boenau corfforol ac ysbrydol.' Ar y gair, gwelwn lawer o'r diawliaid, a'r holl ddamniaid, yn taro eu cynffonau rhwng eu carnau, ac yn lladrata bawb i'w dwll, rhag ofn cyfnewid waeth.
Yna wedi peri cloi'r cwbl yn eu llochesau, a chospi a newid y swyddogion diofal a'u gollyngasai hwynt i dori allan, dychwelodd Luciffer a'i gynghoriaid i'r breninllys, ac eisteddasant eilwaith, yn ol eu graddau, ar y gorseddfeinciau llosg: ac wedi peri gosteg, a chlirio'r lle, dyma glamp o ddiawl ysgwyddgam yn gosod cefnllwyth o garcharorion newyddion o flaen y bar. 'Ai dyma'r ffordd i Baradwys?' ebr un (canys ni wyddent amcan pa le yr oeddynt). 'Neu os y Purdan yw yma,' ebr un arall, mae genym ni gynnwysiad tan law'r Pab i fyned i Baradwys yn union, heb aros yn un lle fynyd: am hyny dangoswch i ni ein ffordd; onid e, myn bawd y Pab, ni a wnawn iddo eich cospi.' 'Ha, ha, ha, he,' ebr wythgant o ddiawliaid; a Luciffer ei hun a wahanodd ei ysgythredd[86] hanner-llath i ryw chwerw chwerthin. Synodd y lleill wrth hyn. 'Ond,' ebr un, 'wele, os collasom y ffordd yn y tywyll, ni a dalwn am ein cyfarwyddo.' 'Ha, ha,' ebr Luciffer, 'cewch dalu'r ffyrling eithaf cyn yr eloch' (ond erbyn chwilio yr oedd pob un wedi gadael ei glos ar ei ol). 'Gadawsoch Baradwys ar y llaw chwith tu uchaf i'r mynyddoedd fry,' ebr y Fall; 'ac er hawsed dyfod i waered yma, eto nesaf i ammhosibl yw myned yn ol, gan dywylled a dyrysed yw'r wlad, a maint sy o elltydd heirn tanllyd ar y ffordd, a chreigiau dirfawr yn crogi trosodd, ac ysblentydd[87] dibyn o rew anhygyrch, ac ambell raiadr serthgryf, sy'n rhydost oll i ymgribinio trostynt, oni byddai genych ewinedd diawledig o hyd. 'Hai, hai,' ebr ef, 'ewch â'r penbyliaid hyn i'n Paradwys ni at eu cymheiriaid.' Ar hyn, clywn lais rhai yn dyfod tan dyngua rheguyn greulon, 'O diawl! gwaed diawl! mil canmil o ddiawl! mil myrddiwn o ddiawl[88] el â mi os af!' ac ar hyny, dyma eu taflu chwap ger bron. Dyma,' ebr y ceffyl, 'i chwibwn o gystal tanwydd a'r goreu yn uffern.' 'Beth ydynt?' 'Meistri[89] y gelfyddyd foneddigaidd o dyngu a rhegu,' ebr yntau; gwyr a fedr iaith uffern cystal a ninnau.' 'Celwydd yn eich gên,[90] myn diawl,' ebr un o honynt. 'Syre, a gymmerwch chwi fy enw i yn ofer?' ebr y Fall fawr. Hai, ewch a bechiwch hwy yng nghrog gerfydd eu tafodau wrth y clogwyn eirias acw, a byddwch barod i'w gwasanaethu; os diawl a alwant, neu os mil o ddiawl, hwy a gânt eu gwala.'
Pan aeth y rhai hyn, dyma gawr o gythraul yn gwaeddi am glirio'r bar, ac yn taflu yno lwyth o wr. 'Beth sy yna?' Tafarnwr,' ebr yntau. 'Pa beth,' ebr y brenin, un Tafarnwr? lle byddent yn dyfod o fesur chwemil a seithmil. Onid ych chwi allan er's deg mlynedd, Syre, ac heb ddwyn i ni ond un? a hwnw yn un a wnaethai i ni chwaneg o wasanaeth yn y byd, na chwi, ddrewgi diog.' 'Yr ych chwi yn rhy deg i'm bwrw cyn fy ngwrando,' ebr yntau. 'Ni roisid ond hwn yn fy siars i, ac wel, dyma fi yn rhydd oddi wrth hwn. Ond eto mi yrais i chwi o dŷ hwn lawer oferwr wedi yfed cynnaliaeth ei dylwyth, ambell deisiwr a chardiwr, ambell dyngwr tlws, ambell folerwr mwyn difalais, ambell was diofal, ambell forwyn groch yn y gegin, a mwynach na dim yn y seler neu'r gwely.' 'Wel,' ebr y Fall fawr, 'er yr haeddai'r tafarnwr fod ym mysg y Gwenieithwyr oddi tanom ni, eto [ewch[91]] ag e'r awron at ei gymheiriaid i gell y Mwrdwr[92] gwlyb, at lawer o Botecariaid a Gwenwynwyr, am wneyd diod i ladd eu cwsmeriaid; berwch yntau yn dda, eisieu iddo ef ferwi ei gwrw yn well.' 'Trwy eich cenad,' ebr y tafarnwr, tan grynu, 'ni haeddwn i ddim mo'r fath beth; ond rhaid i trad[93] fyw 'Ai ni allech chwi fyw,' ebr y Fall, 'heb gynnwys oferedd a chwareuon, puteindra, meddwdod, llyfon,[94] cwerylon, enllib, a chelwydd? ac a fynech chwi, hen uffern-gi, fyw bellach yn well na ninnau? Ertolwg, pa ddrwg sydd genym ni yma, nad oedd genyt tithau gartref, ond y gosp yn unig? Ac o ddywedyd i chwi'r caswir yma, nid oedd y gwres a'r oerfel uffernol ddyeithr i chwi chwaith. Oni welsoch wreichionen o'n tân ni yn nhafodau'r tyngwyr, a'r ysgowliaid wrth geisio eu gwŷr adref? Onid oedd llawer o'r tân anniffoddadwy yng ngheg y meddwyn, yn llygad y llidiog, ac yng ngaflach y butain? Ac oni allasech weled peth o'r oerfel uffernol yng ngharedigrwydd yr oferwr; ac yn sicr yn eich mwynder eich hun tuag atynt, tra pharhai ddim ganddynt; yn ysmaldod y gwawdwyr; yng nghlod y cenfigenus a'r athrodwr; yn addewidion yr anllad; neu yng nghroesau'r cymdeithion da, yn fferu tan eich byrddau? Ai dyeithr genyt ti uffern, a thithau yn cadw uffern gartref? Dos, fflamgi, at dy benyd.'
Yn hyn, dyma ddeg o gythreuliaid yn bwrw eu beichiau ar llawr tanbaid, tan erthwch[95] yn aruthr. Beth sy genych yna?' ebr Luciffer. Mae genym,' ebr un o'r ceffylau cythreulig, 'bump o bethau a elwid echdoe yn freninoedd.' (Edrychais lawer a welwn i Lewis o Ffrainc yn un.) Teflwch hwy yma,' ebr y brenin. Yna taflwyd hwy at y penau coronog ereill tan draed Luciffer.
Nesaf i'r breninoedd, daeth y Gwyr llys a'r Gwenieithwyr lawer. Bwriwyd y rhai hyn bob un tan din[96] ei frenin ei hun, fel yr oedd y breninoedd tan dinau'r diawliaid, yng nghachdy Luciffer. Ond yr oedd rhan o'r bawdy o tan y diawliaid gwaelaf, lle yr oedd y Witsiaid, fel gynt ar nos Iau, felly fyth yn cusanu tinau yr ellyllon.
Ni ches i fawr ymorol, na chlywn i ganu cyrn pres, a gwaeddi, 'Lle! lle! lle!' Erbyn aros ychydig, beth oedd ond gyr o wyr y Sessiwn,[97] a diawliaid yn cario cynffonau chwech o Ustusiaid, a myrdd o'u sil, yn gyfarthwyr,[98] twrneiod, clarcod, recordwyr, beiliaid, ceisbyliaid, a checryn y cyrtiau. Bu ryfedd genyf na holwyd un o honynt; ond deallodd y rhai hyn fyned o'r mater yn eu herbyn yn rhy bell; ac felly ni agorodd un o'r dadleuwyr dysgedig mo'i safn; ond Cecryn y Cyrtiau a ddywed y rho'i gwyn camgarchariad yn erbyn Luciffer. "Cewch gwyno trwy achos weithian,' ebr y Fall, 'a bod fyth heb weled cwrt â'ch llygaid.' Yna gwisgodd Luciffer ei gap coch yntau, ac â golwg drahaus-falch anoddef, 'Ewch,' ebr ef, 'â'r Ustusiaid i ystafell Pontius Pilat, at Meistr Bradshaw, a fwriodd y Brenin Charls. Sechwch y Cyfarthwyr gyda mwrdrwyr Syr Edmwnt Buwri Godffri,[99] a'u cymheiriaid daueiriog ereill, a gymmerent arnynt ymrafaelio â'u gilydd, dim ond i gael lladd y sawl a ddêl rhyngddynt. Ewch, ac anerchwch y cyfreithiwr darbodus hwnw, a gynnygiodd wrth farw fil o bunnau am gydwybod dda, gofynwch a ro'i ef yr awron ddim ychwaneg. Rhostiwch y Cyfreithwyr wrth eu parsmant[100] a'u papyrau eu hunain, oni ddêl eu perfedd dysgedig allan; ac i dderbyn y mygdarth hwnw, crogwch y Cyrtwyr cecrus uwch ei ben, â'u ffroenau yn isaf yn y simneiau rhost, i edrych a gaffont fyth lonaid eu bol o gyfraith. Y Recordwyr, teflwch hwy yr awran i fysg y Maelwyr, a fydd yn attal neu yn rhagbrynu yr yd, ac yn ei gymmysgu; yna gwerthu yr ammhur yn nwbl bris y pur-yd: felly hwythau, mynant am gam, ddwbl y ffis[101] a roid gynt am uniondeb. Am y ceisbyliaid, gedwch hwy yn rhyddion, i bryfeta,[102] ac i'w gyru i'r byd i geunentydd a pherthi, i ddal dyledwyr y goron uffernol: o blegid pa'r diawl sy o honoch a wna'r gwaith yn well na hwy?'
Yn y man dyma ugain o ddiawliaid, fel Scotsmyn, a phaciau traws ar eu hysgwyddau, yn eu disgyn o flaen yr Orsedd ddiobaith; a pheth oedd ganddynt erbyn gofyn, ond Sipsiwn. 'Ho!' ebr Luciffer, 'pa fodd y gwyddech chwi ffortun rhai ereill cystal, ac heb wybod fod eich ffortun eich hunain yn eich tywys i'r fangre hon?' Nid oedd ateb gair wedi synu weled bethau gwrthunach na hwy eu hunain. "Teflwch hwy,' ebr y Brenin, 'at y Witsiaid i'r cachdy uchaf, am fod eu hwynebau mor debyg i liw'r baw. Nid oes yma na chathod, na chanwyllau brwyn iddynt; ond gedwch iddynt gael llyffant rhyngddynt unwaith bob dengmil o flynyddoedd, os byddant dystaw, heb ein byddaru a'u gibris dy glibir dy glabar[103]
Yn nesaf i'r rhai hyn, daeth, debygwn i, ddeg ar hugain o Lafurwyr. Synodd ar bawb weled cynnifer o'r alwedigaeth onest hòno, ac anamled y byddont yn dyfod: ond nid oeddynt o'r un fro, nac am yr un beiau. Rhai am godi'r farchnad; llawer am attal degymau, a thwyllo yr Eglwyswr o'i gyfiawnder; ereill am adael eu gwaith i ddilyn boneddigion, ac wrth geisio cydgamu â'r rhai hyny, tori eu ffwrch; rhai am weithio ar y Sul; rhai am ddwyn eu defaid a'u gwartheg yn eu penau i'r Eglwys, yn lle ystyried y gair; ereill am ddrwg fargenion. Pan aeth Luciffer i'w holi, O! yr oeddynt oll cyn laned a'r aur; ni wyddai neb arno ei hun ddim a haeddai'r fath letty. Ni choelit ti rhawg daclused esgus oedd gan bob un i guddio ei fai, er eu bod eisys yn uffern o'i herwydd; a hyny dim ond o ddrygnaws i groesi Luciffer, ac i geisio bwrw anghyfiawnder ar y Barnwr cyfion a'u damniasai. Eto buasai rhyfeddach genyt ddeheued yr oedd y Fall fawr yn dynoethi'r briwiau, ac yn ateb eu coeg esgusodion hyd adref.
Ond pan oedd y rhai hyn ar dderbyn y farn uffernol oll, dyma ddeugain o Ysgolheigion yn dyfod ger bron ar lamidyddion[104] o ddiawliaid gwrthunach, petai bosibl, na Luciffer ei hun. A phan glybu yr ysgolheigion y llafurwyr yn ymresymu, hwy a ddechreuasant yn hyfach ymesgusodi. Ond, O! barFoted yr oedd yr hen Sarff yn eu hateb hwythau, er maint eu dichell a'u dysgeidiaeth. Eithr gan ddygwydd i mi weled y cyffelyb ddadleuon mewn brawdle arall, mi rof yno hanes y cwbl tan un; ac a fynegaf yr awran it' beth a welais nesaf yn y cyfamser.
Prin y traethasai Luciffer y farn ar y rhai hyn, a'u gyruam oered eu rhesymau i'r ysblent fawr yng Ngwlad yr ia tragwyddol, a hwythau yn dechreu rhincian eu dannedd eisys cyn gweled eu carchar, dyma uffern eilwaith yn dechreu dadseinio yn aruthrol, gan ergydion ofnadwy, a tharanau croch rhuadwy, a phob swn rhyfel; gwelwn Luciffer yn duo ac yn delwi; yn y mynyd, daeth ysguthell[105] o ddieflyn carngam i mewn tan ddyhead a chrynu. Beth yw'r mater?' ebr Luciffer. 'Y mater peryclaf i chwi er pan yw uffern yn uffern,' ebr y bach; 'mae holl eithafoedd teyrnas y tywyllwch wedi tori allan i'ch erbyn, a phawb yn erbyn eu gilydd, yn enwedig y sawl oedd â hen alanasdra rhynddynt, ddant yn nant, nad yw bosibl eu tynu oddi wrth eu gilydd. Mae'r Sawdwyr benben â'r Physigwyr, am ddwyn eu trad lladd. Mae myrdd o Logwyr bonbon â'r Cyfreithwyr, am fynu rhan o'r trad ysbeilio. Mae'r Cwestwyr a'r Hwndlwyr ar falu y boneddigion, am dyngu a rhegu heb raid, lle yr oeddynt hwy yn byw wrth y trad. Mae'r Puteiniaid a'u cymdeithion, a myrddiwn ereill o hen geraint a chyfeillion gynt, wedi syrthio allan yn chwilfriw. Ond gwaeth na dim yw'r gad sy rhwng yr hen Gybyddion a'u plant eu hunain, am afradloni'r da a'r arian a gostiodd i ni (medd y cotiaid) gryn boen ar y ddaiar, ac anfeidrol ing yma dros byth a'r meibion, o'r tu arall, yn rhegu ac yn rhwygo'r cribinwyr[106] yn felltigedig, gan roddi eu galanasdra tragwyddol ar eu tadau, am adael iddynt ugain gormod i'w gwallgofi o falchder ac oferedd, lle gallasai ychydig bach, gyda bendith, eu gwneyd yn hapus yn eu dau fyd.[107] 'Wel,' ebr Luciffer, digon, digon! rheitiach arfau na geiriau. Ewch yn ol,' ebr ef, Syre, ac ysbiwch ym mhob gwyliadwriaeth, pa le bu yr esgeulusdra mawr hwn, a pheth yw yr achos: canys mae rhyw ddrygau allan na wyddys eto.' Ymaith â hwnw ar y gair; ac yn y cyfamser cododd Luciffor a'i benaethiaid mewn braw ac arswyd mawr, a pharodd gasglu'r byddinoedd dewraf o'r angylion duon; ac wedi eu trefnu, cychwynodd ei hun allan ym mlaenaf i ostegu'r gwrthryfel, a'r penaethiaid a'u lluoedd hwythau ffyrdd ereill.
Cyn i'r fyddin freninol fyned yn neppell, fel mellt hyd y fagddu hyll (a ninnau o'u lledol), dyma'r trwst yn dyfod i'w chyfhwrdd. Gosteg, yn enw'r brenin!' ebr rhyw fonllefwr cythreulig. Nid oedd dim clywed; haws tynu'r hen afanc[108] o'i gafael nag un o'r rhai hyn. Ond pan darawodd hen sawdwyr profedig Luciffer yn eu plith, dechreuodd y chwyrnu a'r ymdolcio a'r ergydion laryeiddio. Gosteg yn enw Luciffer!' ebr y crochlefwr eilwaith. 'Beth ydyw'r mater,' ebr y brenin; 'a phwy yw y rhai hyn?' Atebwyd, 'Nid oes yma ddim ond darfod, yn y cythryfwl cyffredin, i'r Porthmyn daro wrth y Cycwalltiaid,[109] a myned i ymhyrddio, i brofi pa'r un oedd galetaf eu cyrn; ac hi a allasai fyned yn hen ymgornio, oni buasai i'ch cawri corniog chwithau daro i mewn.' Wel,' ebr Luciffer, gan eich bod oll mor barod eich arfau, trowch gyda mi i gystwyo'r[110] terfysgwyr ereill.' Ond pan aeth y si at y gwrthryfelwyr ereill, fod Luciffer yn dyfod â thair byddin gorniog i'w herbyn, ceisiodd pawb i'w wâl.
Ac felly ym mlaen yn ddiwrthwyneb yr aeth Luciffer, hyd y gwylltoedd dinystriol, tan holi a chwilio beth oedd dechreu'r cynhwrf, heb air son. Ond ym mhen ennyd, dyma un o ysbiwyr y brenin wedi dychwelyd, ac â'i anadl yn ei wddf: 'O ardderchocaf Luciffer,' ebr ef, 'mae'r tywysog Moloc wedi gostegu peth o'r Gogledd, a darnio miloedd ar draws yr ysblentydd; ond mae eto allan dri neu bedwar o ddrygau geirwon yn y gwynt.' 'Pwy ydynt?' ebr Luciffer. 'Mae,' ebr ef, 'Athrodwr, a Medleiwr, a Checryn Cyfreithgar, wedi tori'r carcharau, a myned yn rhyddion.' 'Nid oes ynte ddim rhyfedd,' ebr y Fall fawr, 'ped fuasai chwaneg o gythryfwl.' Yn hyn, dyma un arall, a fuasai ar ysbi tua'r Deheu, yn mynegu fod y drwg yn dechreu tori allan yno, oni charcherid tri oedd eisys wedi gyru pob peth bendramwnwgl yn y Gorllewin: a'r tri hyny oedd Marchoges, a Dyfeisiwr, a Rhodreswr. 'Wel,' ebr Satan, oedd yn sefyll nesaf ond un at Luciffer, 'er pan demtiais i Adda o'i ardd, ni welais eto o'i hil ef gymmaint o ddrygau allan ar unwaith erioed. Marchoges, Rhodreswr, a Dyfeisiwr; ac o'r tu arall, Athrodwr, Cyrtiwr, a Medleiwr! Dyna gymmysg a bair i fil o ddiawliaid chwydu eu perfeddau allan.' 'Nid oes ryfedd,' ebr Luciffer, 'eu bod mor adgas gan bawb ar y ddaiar, a hwythau yn gallu gwneyd cymmaint blinder i ni yma.'
Gronyn ym mlaen, dyma'r Farchoges fawr yn taro wrth y brenin yng ngwrth ar ei hynt. Ho! modryb â'r clos,' ebr rhyw ddiawl croch, 'nos da'wch.' 'Ie, eich modryb, o ba'r du, atolwg?' ebr hithau, yn ddigllon, eisieu ei galw Madam. 'Brenin gwych ydych chwi, Luciffer, gadw'r fath benbyliaid anfoesol pechod fod cymmaint teyrnas tan un mor anfedrus yn eu llywodraethu: O na wneid fi,' ebr hi, 'yn rhaglaw arni.' Yn hyn, dyma'r Rhodreswr, tan bendwmpian yn y tywyll: Eich gwasanaethwr, Syr,' meddai fo wrth un, tros ei ysgwydd. Ych chwi yn iach lawen?' wrth y llall.—'Oes dim gwasanaeth a'r a allwn i i chwi,' wrth y trydydd, tan gilwenu yn goegfall.[111] Mae eich glendid yn fy hudo i,' ebr ef wrth y Farchoges. Och! och! ymaith â'r fflamgi yma,' ebr hono; a phob un yn gwaeddi, 'Ymaith â'r poenwr newydd yma! uffern ar uffern yw hwn.' 'Rhwymwch ef a hithau dinben drosben,' ebr Luciffer.
Ym mhen ennyd, dyma Gwmbrus y Cyrtiau yn nal rhwng dau ddiawl. O ho! angel tangnoddyf,' ebr Luciffer, 'a ddaethost ti!' 'Cedwch e'n ddiogel tan eich perygl,' ebr ef, wrth y swyddogion. Cyn i ni fyned nemor, dyma'r Dyfeisiwr a'r Athrodwr yn rhwym rhwng deugain o ddiawliaid, ac yn sisial yng nghlustiau eu gilydd. 'O ardderchocaf Luciffer,' ebr y Dyfeisiwr, 'drwg iawn genyf fod cymmaint cythryfwl yn eich teyrnas; ond mi a ddysgaf i chwi ffordd well, os caf fi fy ngwrando; nid rhaid i chwi ond yn esgus Parliament ddyfyn y damniaid oll i'r Fallgyrch eirias, ac yna peri i'r diawliaid eu pendifadu bendramwnwgl i geg Annwn, a'u cloi yn y sugnedd, ac yna cewch lonydd ganddynt.' 'Wel,' ebr Luciffer, tan guchio yn dra melltigedig ar y Dyfeisiwr, mae'r Medleiwr cyffredin eto yn ol.' Erbyn ein dyfod eilwaith i gyntedd y llys cythreulig, pwy a ddaeth decaf i gyfhwrdd y brenin, ond y Medleiwr. O fy mrenin,' ebr ef, 'mae i mi air â chwi.' 'Mae i mi un neu ddau â thithau, ond odid,' ebr y Fall. Mi a fûm,' ebr yntau, 'hyd hanner Distryw yn edrych pa fodd yr oedd eich materion chwi yn sefyll. Mae genych lawer o swyddogion yn y Dwyrain heb wneyd affaith,[112] ond eistedd yn lle edrych at boeni eu carcharorion, na'u cadw chwaith; a hyny a barodd y cythryfwl mawr yma. Heb law hyny,' ebr ef, 'mae llawer o'ch diawliaid, ac o'ch damniaid hefyd, a yrasoch i'r byd i demtio, heb ddychwelyd er darfod eu hamser; ac ereill wedi dyfod, yn llechu, yn lle rhoi cyfrif o'u negesau.
Yna parodd Luciffer i'w grochlefwr gyhoeddi Parliament drachefn; ac ni bu yr holl benaethiaid a'u swyddogion dro llaw[113] yn ymgyfhwrdd i wneyd yr eisteddfod gythreulig i fyny eilwaith. Cyntaf peth a wnaed oedd newid swyddogion, a pheri gwneyd lle o amgylch ceg Annwn i'r Rhodroswr a'r Farchoges drwyndrwyn; ac i'r terfysgwyr ereill yn rhwym dinben drosben; a rhoi allan gyfraith pa ddieflyn neu gollddyn bynag a droseddai ei swydd rhag llaw, y cai ei fwrw yno rhyngddynt hyd ddydd-farn. Wrth y geiriau hyn gwelid yr holl erchyllion, ie, Luciffer ei hun, yn crynu ac yn cythruddo. Nesaf peth fu alw i gyfrif rai diawliaid a rhai damniaid, a yrasid i'r byd i hel cymdeithion: a'r diawliaid yn dywedyd eu hanes yn deg; ond yr oedd rhai o'r damniaid yn gloff yn eu cyfrif, ac a yrwyd i'r ysgol boeth, ac a sewrsiwyd â seirff clymog tanllyd, eisieu dysgu yn well.
Dyma fenyw lân, pan ymwisgo hi,' ebr diawl bach, 'a yrwyd i fyny i'r byd, i hel i chwi ddeiliaid gerfydd eu canolau; ac i bwy yr ymgynnygiai hi, ond i ryw weithiwr llafurus yn dyfod adref yn hwyr o'i orchwyl; a hwnw, yn lle ymdrythyllu gyda hi, aeth ar ei luniau i weddio rhag diawl a'i angylion. Amser arall, hi ai at wr afiachus.' 'Hai, teflwch hi,' ebr Luciffer, 'at y goll-ferch ddiles hòno a fu yn caru Eignion ab Gwalchmai[114] o Fon gynt.' 'Aröwch, nid yw hwn ond y bai cyntaf,' ebr y feinir; nid oes eto oddi ar flwyddyn er y diwrnod y darfu am danaf, pan y'm damniwyd i'ch llywodraeth folltegedig chwi, frenin y poenau!' 'Nac oes eto mo'r tair wythnos,' ebr y diawl a'i dygasai hi yno. Am hyny ynte,' ebr hi, pa fodd y mynech fi mor hyddysg a'r damniaid, sy yma er's trichant neu bumcant o flynyddoedd allan yn ysglyfaetha? Os mynech genyf fi well gwasanaeth, gollyngwch fi i'r byd eto, i roi tro neu ddau yn ddigerydd; ac oni ddygaf i chwi ugain puteiniwr am bob blwyddyn y bwyf allan, rhowch arnaf y gosp a fynoch.' Ond fe aeth ferdit[115] yn ei herbyn; a barnwyd iddi fod gan mlynedd hirion tan gerydd, y cofiai hi yn well yr ail tro.
Yn hyn, dyma ddiawl arall yn gwthio mab ger bron. Dyma i chwi,' ebr ef, 'ddarn o negeswr teg, oedd ar grwydr hyd ei hen gymmydogaeth uchod y nos arall, ac a welai leidr yn myned i ddwyn ystalwyn; ac ni fedrai gymmaint a helpu hwnw i ddal yr ebol, heb ymddangos; a'r lleidryn, pan ei gwelodd, a ymgroesodd[116] byth wedi.' Trwy genad y cwrt,' ebr y mab, os cai blentyn y lleidr roddiad oddi uchod i'm gweled i, a allwn i wrth hyny? Ond nid yw hwn ond un,' ebr ef; nid oes oddi ar gan mlynedd er y dydd diesgor[117] y darfu byth am danaf! a pha sawl un o'm ceraint a'm cymmydogion a hudais i yma ar fy ol, yn hyny o amser? Yn Annwn y bwyf, onid oes genyf gystal ewyllys i'r trad a'r goreu o honoch; ond fe geir gwall ar y callaf weithiau.' Hai,' ebr Luciffer, 'bwriwch ef i ysgol y Tylwyth Teg, sy eto tan y wialen am eu castiau diriaid gynt, yn llindagu a bygwth eu cyfneseifiaid, a'u deffroi felly o'u diofalwch; canys gweithiai'r dychryn hwnw chwaneg ond odid arnynt na deugain o bregethau.'
Yn hyn, dyma bedwar ceisbwl, a chyhuddwr, a phymtheg o ddamniaid, yn llusgo dau gythraul ger bron. 'Wel,' ebr y cyhuddwr, 'rhag i chwi fwrw yr holl gam negeswriaeth ar hil Adda, dyma,' eb ef, ddau o'ch hen angylion a gamdreuliodd eu hamser uchod cynddrwg a'r ddau o'r blaen. Dyna walch ail i hwnw yn y Mwythig, y dydd arall, ar ganol Interlud y Doctor Ffaustus;[118] a rhai (yn ol yr arfer) yn godinebu â'u llygaid; a rhai â'u dwylo; ereill yn llunio cyfarfod i'r un pwpras; a llawer a bethau ereill, buddiol i'ch teyrnas: pan oeddynt brysuraf, ymddangosodd y diawl ei hun i chwareu ei bart;[119] ac wrth hyny gyrodd pawb o'i bleser i'w weddïau; felly hwn hefyd ar ei hynt hyd y byd; fe glywai rai yn son am fyned i droi o gwmpas yr eglwys i weled eu cariadau; a pheth a wnaeth y catffwl,[120] ond ymddangos i'r ynfydion yn ei lun ei hun gartref: ac er maint fu eu dychryn, eto pan gawsant eu cof, rhoisant ddiofryd oferedd[121] ond hyny: lle ni buasai raid iddo ond ymrithio ar lun rhyw fudrogod diffaith, fo'u tybiasent eu hunain yn rhwym i gymmeryd y rhai hyny; ac yna gallasai yr ellyll brwnt fod yn wr y ty gyda'r ddwyliw,[122] ac yntau wedi gwneyd y briodas. Ac dyma un arall,' ebr ef, 'aeth nos Ystwyll ddiweddaf i ymweled â dwy ferch ieuanc yng Nghymru, oedd yn troi'r crysau;[123] ac yn lle denu'r genethod i faswedd, yn rhith llanc glandeg, myned ag elor i sobreiddio un; a myned â thrwst rhyfel at y llall mewn corwynt uffernol, i'w gyru o'i chof ym mhellach nag o'r blaen; ac ni buasai raid. Ond nid hyn mo'r cwbl; eithr wedi iddo fyned i'r llances, a'i thaflu a'i phoeni yn dost, gyrwyd am rai o'n gelynion dysgedig ni, i weddïo drosti hi, ac i'w fwrw ef allan; yn lle ei themtio hi i anobeithio, a cheisio ennill rhai o'r pregethwyr, myned i bregethu iddynt, a dadguddio dirgelion eich teyrnas chwi; ac felly yn lle rhwystro, helpu eu hiechydwriaeth.' Ar y gair Iechydwriaeth, gwelwn rai yn dychlamu yn dân byw o gynddaredd. Teg pob chwedl heb wrthwyneb,' ebr y dieflyn: 'gobeithio na ad Luciffer i'r un o hil domlyd Adda ymgystadlu â mi sy'n angel, llawer uwch fy rhyw a'm bonedd.' 'Hai,' ebr Luciffer, 'bid sicr iddo ei gosp: ond, Syre, atebwch i'r achwynion yma, yn brysur ac yn eglur; neu, myn Distryw diobaith, mi wnaf'—'Mi ddygais yma,' ebr yntau, 'lawer enaid er pan fu Satan yng Ngardd Eden, ac a ddylwn ddeall fy nhrad yn well na'r cyhuddwr newydd yma.'—'Gwaed uffernol bentewyn!' ebr Luciffer, 'oni pherais i chwi ateb yn brysur ac yn eglur?' 'Trwy eich gorchymmyn,' ebr y dieflyn, 'bûm ganwaith yn pregethu, ac yn gwahardd i rai amryw o'r ffyrdd sy'n arwain i'ch terfynau chwi, ac eto yn ddystaw, â'r un anadl, hyd ryw goeglwybr arall yn eu dwyn yma yn ddigon diogel: fel y gwnaethym wrth bregethu yn ddiweddar yn yr Ellmyn,[124] ac yn un o Ynysoedd Fferoe,[125] ac amryw fanau ereill. Felly drwy fy mhregethiad i y daeth llawer o goelion y Papistiaid, a'r hen chwedlau, gyntaf i'r byd, a'r cwbl tan rith rhyw ddaioni. Canys pwy fyth a lwnc fach heb ddim abwyd? Pwy erioed a ga'dd goel i ystori, oni byddai ryw fesur o wir yn gymmysg â'r celwydd, neu beth rhith daioni i gysgodi'r drwg? Felly, os caf finnau wrth bregethu, ym mysg cant o gynghorion cywir a da, wthio un o'm heiddo fy hun, mi wnaf â'r un hwnw, trwy amryfusedd neu goelgrefydd, fwy lles i chwi nag a wnel y lleill i gyd fyth i'ch erbyn.' 'Wel,' ebr Luciffer, 'gan eich bod cystal yn eich pulpud, yr wyf yn dy orchymmyn tros saith mlynedd i safn un o bregethwyr yr Ysgubor, a ddywed y peth a ddêl gyntaf i'w fochau; yno cei dithau le i roddi gair i mewn weithiau at dy bwrpas dy hun.'
Yr oedd llawer o ddiawliaid ac o ddamniaid ychwaneg yn gwau fel mellt trwy eu gilydd o amgylch yr orsedd echryslawn, i gyfrif ac i ail dderbyn swyddau. Ond yn sydyn ddiarwybod, dyma orchymmyn i'r holl negesyddion a'r carcharorion fyned allan o'r llys, bawb i'w dwll, a gado'r brenin a'i ben-cynghoriaid yno yn unig. Ond goreu i ninnau ymadael,' ebr fi wrth fy Nghyfaill, 'rhag iddynt ein cael?' 'Nid rhaid it' unon,' eb yr Angel; 'ni wel un ysbryd aflan byth trwy'r llen yma.' Felly yno yr arosasom yn anweledig, i weled beth oedd y mater. Yna dechreuodd Luciffer lefaru yn raslawn wrth ei gynghoriaid, fel hyn: Chwi'r prif ddrygau ysbrydol, chwi Ben-Ystrywiau Annwfn, eithaf eich dichellion maleisgar wrth raid yr wyf yn ei ofyn. Nid dyeithr i neb yma, mai Prydain a'r Ynysoedd o'i hamgylch yw'r deyrnas beryelaf i'm llywodraeth i, a llawnaf o'm gelynion: a pheth sy gan gwaeth, mae yno yr awron frenines beryclaf oll, heb osio[126] troi unwaith tuag yma, nac hyd hen ffordd Rufain o'r naill du, na chwaith hyd ffordd Geneva[127] o'r tu arall; a maint lles a wnaeth y Pab i ni yno yn hir, ac Olfir[128] hyd yr awran! Beth a wnawn weithian? Yr wyf yn ofni y collwn yr hen feddiant a'n marchnad yno yn glir, oni phalmantwn chwipyn ryw ffordd newydd yn dramwyfa iddynt; canys adwaenant yr holl hen ffyrdd sy'n tywys yma yn rhy dda.
A chan fod y dwrn anorfod hwn yn byrhau fy nghadwyn, ac yn fy rhwystro i fy hun i'r ddaiar, eich cynghor pwy a wnaf yn rhaglaw tanaf i wrthwynebu'r frenines adgas acw, rhaglaw ein Gelyn ni.'
O Empriwr mawr y tywyllwch,' ebr Cerberus, diawl y Tobacco, myfi sy'n rhoi traian cynnaliaeth y goron hòno: myfi a af ac a yraf i chwi ganmil o eneidiau eich gelynion trwy dwll pibell.' 'Wel,' ebr Luciffer, 'ti a wnaethost i mi wasanaeth digon da, rhwng peri lladd y perchenogion yn yr India, a lladd y cymmerwyr â glafoerion, gyru llawer i'w segur gludo o dŷ i dŷ, ereill i ledrata i'w gaol, a myrdd i'w serchu cymhelled nad allent fod ddiwrnod yn eu hiawn bwyll hebddo. Er hyn oll, dos di, a gwna dy oreu; ond nid wyt ti ddim i'r pwrpas presennol.'
Ar hyn eisteddodd hwnw; a chododd Mammon, diawl yr Arian; ac â golwg dra chostog[129] lechwrus:[130] 'Myfi,' ebr ef, 'a ddangosodd y mwynglawdd cyntaf i gael arian; ac byth er hyny yr wyf yn cael fy moli a'm haddoli yn fwy na Duw; a dynion yn rhoi eu poen a'u perygl, eu holl fryd, eu hoffder, a'u hyder arnaf fi: ie, nid oes neb yn esmwyth, eisieu cael ychwaneg o'm ffafr i; a pha mwyaf a gaffont, pellaf fyth oddi wrth orphwysdra, nes dyfod o'r diwedd, tan geisio esmwythyd, yma i wlad y poenau tragwyddol. Pa sawl cybydd henffel[131] a ddenais i yma, hyd lwybrau tostach nag sy'n arwain i deyrnas yr hapusrwydd! Os ffair, os marchnad, os sessiwn, os 'lecsiwn, os rhyw ymgyfhwrdd arall, pwy amlach ei ddeiliaid, pwy fwy ei allu a'i awdurdod na myfi? tyngu, rhegu, ymladd, ymgyfreithio, dyfeisio, a thwyllo, ymgurio, ymgribinio, lladd a lledrata, tori'r Sul, anudoniaeth, angharedigrwydd, a pha nod du arall, heb law y rhai hyn, sy'n marcio dynion at gorlan Luciffer, nad oes genyf fi law yn ei roi? Am hyny y galwyd fi "Gwreiddyn pob drwg." Am hyny, os gwel eich mawrhydi yn dda, myfi a af,' ebr ef; ac a eisteddodd.
Yna cododd Apolyon. Nis gwn i,' ebr hwnw, 'beth a'u dwg hwy yma sicrach na'r peth a'ch dug chwithau yma, sef Balchder; os caiff hon blanu ei phawl syth ynddynt, a'u chwyddo, nid rhaid unon yr ymostyngant i godi'r groes, nac i fyned trwy'r porth cyfyng. Myfi a af,' ebr ef, 'gyda'ch merch Balchder, ac a yraf y Cymry, tan ucheldremio ar wychder y Seison, a'r Seison tan ddynwared sioncrwydd y Ffrancod, i syrthio yma cyn y gwypont amcan pa le bônt.'
Yn nesaf cododd Asmodai, diawl yr Anlladrwydd. 'Nid anhysbys i chwi, frenin galluocaf y Dyfnder,' ebr ef, 'na chwithau, dywysogion gwlad anobaith, faint a lenwais i o gilfachau uffern, trwy drythyllwch a maswedd: beth am yr amser y cynneuais i'r fath fflam o drachwant yn yr holl fyd, oni orfu gyru'r diluw i lanhau'r ddaiar oddi wrthynt, ac i'w hysgubo hwy oll atom ni i'r tân anniffoddadwy? Beth am Sodoma a Gomorra, dinasoedd teg a hyfryd, a losgais i â thrythyllwch, nes i gafod o uffern ennyn yn eu trachwantau uffernol, a'u curo hwy yma yn fyw i losgi yn oes oesoedd? A pheth am fyddin fawr yr Assyriaid,[132] a laddwyd oll mewn unnos o'm hachos i? Sara[133] a siomais i am saith o wyr; a Solomon, y doethaf o ddynion, a llawer mil o freninoedd ereill, a welliais[134] i â merched. Am hyny,' ebr ef, 'gollyngwch fi â'r pechod melus yma, ac mi a ennynaf y wreichionen uffernol yno mor gyffredin, hyd onid el yn un a'r fflam aniffoddadwy hon canys odid o un a ddychwel fyth oddi ar fy ol i, i gym- meryd gafael yn llwybrau bywyd.' Ar hyn fe eisteddodd.
Yna cododd Belphegor, penaeth y Diogi a'r Seguryd. 'Myfi,' ebr ef, 'yw tywysog mawr y Syrthni a'r Diogi, mawr fy ngallu ar fyrdd o bob oed a gradd o ddynion; myfi yw'r merllyn[135] mud,[136] lle mag sil pob drygau, lle ceula sorod pob pydredd a llysnafedd dinystriol. Beth a delit ti, Asmodai, na chwithau'r prif Ddrygau colledig ereill, hebof fi, sy'n cadw'r ffenestri yn agored i chwi, heb ddim gwyliadwriaeth, modd y galloch chwi fyned i mewn i'r dyn, i'w lygaid, i'w glust, i'w safn, ac i bob twll arall arno, pan fynoch. Myfi a af, ac a'u treiglaf hwy oll i chwi tros y dibyn trwy eu cwsg.'
Yna cododd Satan, diawl yr Hug,[137] oedd nesaf i Luciffer ar ei law chwith; ac wedi troi gwep hyllgrech at y brenin: 'Afraid i mi,' ebr ef, 'ysbysu fy ngweithredoedd iti, archangel colledig, nac i chwithau, dywysogion duon y Distryw: oblegid y dyrnod cyntaf erioed ar ddyn, myfi a'i tarawodd; a dyrnod nerthol ydoedd, i bara yn farwol o ddechreu'r byd i'w ddiwedd. Ai tybied nad allwn i, a anrheithiais yr holl fyd, roi yr awran gynghor a wasanaethai am un ynysig fechan? ac onid allwn i, a siomais Efa ym Mharadwys, orchfygu Ann ym Mhrydain? Os tâl ddim ddichell naturiol, a phrawf gwastadol, er's pummil o flynyddoedd, fy nghynghor i ichwi drwsio eich merch Rhag- rith i dwyllo Prydain a'i brenines: ni feddwch chwi ferch yn y byd mor wasanaethgar i chwi a hòno; mae hi yn lletach ei hawdurdod, ac yn amlach ei deiliaid, na'ch holl ferched ereill. Onid trwyddi hi y siomais i y ferch gyntaf? ac byth er hyny hi arosodd ac a gynnyddodd yn ddirfawr ar y ddaiar. Ac yr awron, nid yw'r byd oll fawr ond un Rhagrith i gyd trosto. Ac oni bai gywreindeb Rhagrith, pa fodd y cai yr un o honom ddim masnach mewn un cwr o'r byd? O blegid pe gwelent bechod yn ei liw a than ei enw ei hun, pa ddyn byth a'i cyffyrddai? Byddai haws ganddo gofleidio diawl yn ei lun a'i wisg uffernol. Oni bai ei bod hi, Rhagrith, yn medru dyeithro henw a natur pob drwg, tan rith rhyw dda, a llysenwi pob daioni â rhyw enw drwg, ni chyffyrddai ac ni chwennychai neb ddrwg yn y byd. Rhodiwch yr holl Ddinas Ddienydd, cewch weled faint yw hon ym mhob cwr. Dos i Ystryd y Balchder, ac ymorol am wr trahäus, neu am geiniog- werth o fursendod wedi ei gymmysgu trwy falchder; " gwae finnau," medd Rhagrith, "nid oes yno ddim o'r fath beth;" ac i ddiawl ddim arall yn yr holl ystryd ond yr uchder. Neu gerdd i Ystryd yr Elw, a gofyn am dy'r Cybydd; ffei! nid oes neb o'r fath ynddi; neu am dy'r Mwrdriwr ym mysg y physigwyr; neu am dŷ'r carn lleidr ym mysg y porthmyn; byddai cynt it' gael carchar am ofyn, na chael gan neb gyfaddef ei henw. Ië, mae Rhagrith yn ymlusgo rhwng dyn a'i galon ei hun, ac mor gelfydd yn cuddio pob camwedd, tan enw a rhith rhyw rinwedd, oni wnaeth hi i bawb agos golli eu hadnabod arnynt eu hunain. Cybydd-dod a eilw hi cynnilweh; ac yn ei hiaith hi, llawenydd diniwed yw oferwch; boneddigeiddrwydd yw balchder; gwr ffest[138] gwrol yw'r traws; cydymaith da yw'r meddwyn; ac nid yw godineb ond cestyn[139] ieuenctyd. O'r tu arall, os coelir hi a'i hysgolheigion, nid yw'r duwiol ond rhagrithiwr neu benbwl; nid yw'r llaryaidd ond llyfrgi; na'r sobr ond cerlyn; ac felly am bob camp arall. Gyrwch hon,' ebr ef, 'yn ei llawn drwsiad yno, mi a warantaf y twylla hi bawb, ac y dalla hi'r cynghoriaid, a'r milwyr, a'r holl swyddogion gwledig ac eglwysig, ac a'u tyn hwy yma yn fynteioedd chwap, â'r mwgwd[140] symmudliw ar eu llygaid.' Ac ar hyn yntau a eisteddodd.
Yna cododd Belsebub, diawl yr Anystyriaeth, ac â llais garw-gryf rhuadwy: 'Myfi,' ebr ef, 'yw tywysog mawr y Syndod; myfi a piau rhwystro i ddyn ystyried a chonsidrio[141] ei ystad; myfi yw penaeth y gwybed taer-ddrwg uffernol sy'n pensyfrdanu dynion, wrth eu cadw fyth a hefyd mewn rhyw ddwned[142] gwastadol yng nghylch eu meddiannau neu eu pleserau, heb adael iddynt, o'm bodd, fyth fynyd o hamdden i feddwl am eu ffyrdd na'u diwedd. Ni wiw i'r un o honoch ymgystadlu â mi am orchestion buddiol i deyrnas y tywyllwch. Canys beth yw tobacco, ond un o'm harfau gwaelafi, i ddwyn syndod i'r ymenydd? A pheth yw teyrnas Mammon, ond cainc o'm llywodraeth fawr i? Ie, pe dattodwn i y rhwymau sy genyf ar ddeiliaid Mammon a Balchder, ïe, ac ar ddeiliaid Asmodai, Belphegor, a Rhagrith, nid aroai ddyn fynyd hwy tan reolaeth un o honynt. Am hyny,' ebr ef, 'myfi a wnaf y gwaith, neu na sonied un o honoch chwi fyth.'
Yna cododd Luciffer fawr ei hun o'i gadair eirias, ac wedi troi wyneb hygar (neu hagr) o'r ddeutu: Chwi brif ysbrydion Hirnos, penaethiaid y ddichell ddiobaith,' ebr ef, 'er nad yw'r Fagddu fawr a gwylltoedd Distryw rwymedicach i neb am ei thrigolion, nag i'm breninol oruchelder fy hunan; canys myfi gynt, eisieu gallu tynu yr Hollalluog o'i feddiant, a dynais fyrddiwn o honoch chwi, fy angylion duon, gyda'm cynffon, i'r erchyllfa anesgor[143] hon; ac wedi, a dynais fyrddiwn o ddynion atoch, i gael rhan o'r byd sy yma; eto nid oes wad na wnaethoch chwithau eich rhan oll at gynnal a chynnyddu yr ymherodraeth fawr uffernol hon.'
Yna dechreuodd Luciffer eu hateb o un i un. 'Ac,' ebr ef, 'o un o godiad diweddar, ni wadaf fi na ddygaist ti, Cerberus, i ni lawer ysglyfaeth yn ynys y gelynion, o achos y tobacco, rhwng sy o dwyll yn ei gludo, yn ei gymmysgu, ac yn ei bwyso; ac y mae e'n ei ddenu i lymeitian cwrw; ac ereill i dyngu, rhegu, a gwenieithio i'w gael; ereill i ddywedyd celwydd i'w wadu; heb law yr afiechyd sy ynddo i amryw gyrff, a gormodedd yn niweidiol i bob corff, heb son am yr enaid. A pheth sy well, mae myrdd o dlodion, na chaem ni oni bai hyny mo'u cyffwrdd, yn soddi yma wrth roi pwys eu serch ar y tobeccyn, a gadael iddo eu meistroli, i dynu'r bara o safnau eu plant. Ac yn nesaf, fy mrawd Mammon, mae eich gallu chwi mor gyffredin a hysbys hefyd ar y ddaiar, a'i myned hi yn ddiareb, "Ceir pob peth am arian." A diammheu,' ebr ef, gan droi at Apolyon, 'fod fy anwyl ferch Balchder yn dra buddiol i ni; canys beth sy, nac a all ddrygu dyn fwy yn ei ystâd, ei gorff, a'i enaid, na'r 'piniwn balch ystyfnig hwnw a wna i ddyn wastraffu can-punt yn hytrach na phlygu i roi coron am heddwch. Mae hi yn eu cadw hwy mor warsyth, a'u golwg mor ddyfal ar uchel bethau, oni bo digrif eu gweled, wrth dremio ac ymgyrhaedd â'r awyr, yn syrthio chwap i eigion uffern. Chwithau Asmodai, mae yn gof genym oll eich gwasanaeth mawr chwi gynt; nid oes neb lewach am gadw ei garcharorion tan glo, na neb mor ddigerydd a chwi; nid oes ond chwerthin tipyn am ben cestyn anllad. Ond bu agos i ti â thrigo o newyn yno'r blynyddoedd drudion diweddar. Ond, fy mab Belphegor, penaeth pryfedog y Diogi, ni wnaeth neb ini fwy pleser na chwi; mawr iawn yw eich awdurdod ym mysg y boneddigion, a'r gwreng hefyd hyd at y cardotyn. Ac oni bai cywreindeb fy merch Rhagrith yn lliwio ac yn ymwisgo, pwy fyth a lyncai un o'n bachau ni? Ond wedi'r cwbl, oni bai ddyfal lewdid fy mrawd Bolsebub, yn cadw dynion mewn syndod anystyriol, ni thalech chwi oll ddraen. Weithian,' ebr ef, 'ail grynöwn y cwbl. Beth a delit ti, Cerberus, â'th fygyn[144] tramor, oni bai fod Mammon yn dy achlesu? Pa farsiandwr fyth a gyrehai dy ddeiliach, trwy gymmaint perygl o'r India, oni bai o ran Mammon? Ac ond o'i achos ef, pa frenin a'i derbyniai, yn enwedig i Brydain? a phwy, ond o ran Mammon, a'i cludai i bob cwr o'r deyrnas? Er hyny, beth a delit tithau, Mammon, heb Falchder i'th wastraffu ar dai teg, dillad gwychion, cyfreithiau afraid, gerddi, ameirch, perthynasau drudfawr, dysglau aml, bir[145]. a chwrw yn genllif, uwch law gallu a gradd y perchenog: canys ped arferid arian o fewn terfynau angen- rhaid, a gweddeidd-dra cymmesurol, pa les a wnai Mammon i ni? Felly ni theli dithau ddim heb Falchder. Ac ychydig a dalai Falchder heb Anlladrwydd; o blegid bastardiaid yw'r deiliaid amlaf a ffyrnicaf a fedd fy merch Balchder yn y byd. Chwithau, Asmodai, penaeth Anlladrwydd, beth a dalech oni bai Ddiogi a Seguryd? pa le caech letty noswaith? Nid oedd wiw i chwi ddysgwyl gan un gweithiwr nac astudiwr llafurus. Tithau, Belphegor y Diogi, pwy, gan gywilydd a gwarth, a'th groesawai fyth fynyd, oni bai Rhagrith, sy'n cuddio dy wrthuni tan enw afiechyd oddi mewn, neu fod yn bwrpaswr da, neu tan rith dibrisio golud, a'r cyffelyb. Hithau fy anwyl ferch Rhagrith, beth a dal neu a dalasai hi erioed, er cywreinied gwniadyddes, a glewed yw, oni bai eich help chwi, fy mrawd hynaf Belsebub, tywysog mawr y Pensyfrdandod: pe gadawai hwn lonydd a hamdden i bobl i ddwys ystyried natur pethau a'u gwahaniaeth, pa dro byddent yn ysbio tyllau yn nyblygion eurwisg Rhagrith, ac yn gweled y bachau trwy yr abwyd? Pa wr yn ei gof a holiai deganau a phleserau darfodedig, swrffedig,[146] ffol, a gwaradwyddus, a'u dewis o flaen heddwch cydwybod, a hyfrydwch tragywyddoldeb ogoneddus? Pwy a rusiai[147] oddef ei ferthyru am ei ffydd, tros awr neu ddiwrnod, neu ei gystuddio ddeugain neu drigain mlynedd, ped ystyriai fod ei gymmydogion yma yn dyoddef mewn awr fwy nag all ef oddef ar y ddaiar fyth? Nid yw tobacco yntau ddim heb Arian, nac Arian heb Falchder, na Balchder ond egwan heb Anlladrwydd, nac Anlladrwydd ddim heb Ddiogi, na Diogi heb Ragrith, na Rhagrith heb Anystyriaeth. Weithian,' ebr Luciffer, ac a gododd ei garnau cythreulig ar ei garnewinedd,[148] 'i draethu fy meddwl innau fy hunan; er däed y rhai hyn oll, mae genyf fi gyfaill sy well at yr elynes Prydain na'r cwbl.'
Yma gwelwn yr holl brif gythreuliaid â'u cegau tra erchyll yn egored ar Luciffer, i ddysgwyl beth bosibl a allai hwn fod; a minnau cyn rhyhwyred genyf glywed a hwythau.
'Un,' ebr Luciffer, 'y bûm i yn rhy hir heb ystyried ei haeddiant hi, fel dithau Satan gynt wrth demtio Iob yn troi'r tu hagr fel ffwl. Hon fy nghares yr wyf yn awr yn ei hordeinio yn rhaglaw ar holl achosion fy llywodraeth ddaiarol yn nesaf ataf fy hun; hi a elwir Hawddfyd: hon a ddamniodd fwy o ddynion na chwi i gyd; ac ychydig a dalech chwi oll hebddi hi; canys mewn rhyfel, neu berygl, neu newyn, neu glefyd, pwy a brisia mewn na thobacco, nac arian, na hoewdra balchder, nac a feiddia feddwl am groesawu nac anlladrwydd na diogi? Ac mae dynion yn y cyfyngoedd hyny yn rhy effro i gymmeryd eu pendifadu gan Ragrith nac Anystyriaeth chwaith; ni lefys[149] un o'r uffernol wybed y Syndod ddangos ei big ar un o'r ystormoedd hyn. Eithr Hawddfyd esmwythglyd yw eich mammaeth chwi oll: yn ei chysgod tawel, ac yn ei monwes hoewal[150] hi, y megir chwi oll, a phob pryfed uffernol ereill yn y Gydwybod, a ddaw i gnoi eu perchen yma byth heb orphwys. Tra bydder esmwyth, nid oes son ond am ryw ddigrifwch, gwleddoedd, bargenion, achan, ystorïau, newyddion, a'r cyffelyb; ni sonir am Dduw, oddi eithr mewn ofer lyfon a rhegfëydd; lle mae'r tlawd a'r claf, &c., a Duw yn ei eneu ac yn ei galon bob mynyd. Ewch chwithau eich saith yng nghynffon hon, a chedwch bawb yn ei hun a'i heddwch, mewn llwyddiant ac esmwythyd, a llawnder a diofalwch; ac yno cewch weled y tlawd gonest yn myned yn garl[151] trawsfalch anhywaith, pan gyntaf yr yfo o hudol gwpan Hawddfyd; cewch weled y llafurwr diwyd yn troi yn llefarwr diofal ysmala; a phob peth arall wrth eich bodd. O blegid Hawddfyd hyfryd yw cais a chariad pawb; hithau ni chlyw gynghor, nid ofna gerydd; os da, nid edwyn; os drwg, hi a'i meithrin. Hon yw'r brif brofedigaeth; y dyn a ymgadwo rhag ei swynion mwynion hi, gellwch daflu eich cap iddo; ffarwel i ni byth am gwmni hwnw. Hawddfyd, ynte, yw fy rhaglaw ddaiarol i; dilynwch hon i Brydain, ac ufuddhëwch iddi, megys i'n breninol oruchelder ni ein hunain.'
Ar hyn, gwyntiwyd y follt fawr, a tharawyd Luciffer a'i ben-cynghoriaid i sugnedd Uffern Eithaf; ac och fyth erwined oedd weled ceg Annwn yn ymagor i'w derbyn! Wel,' eb yr Angel, 'weithian ni a ddychwelwn: ond ni welaist ti eto ddim wrth y cwbl sydd o fewn cyffiniau Distryw; a phe gwelsit y cwbl, nid yw hyny eto ddim wrth sydd o drueni annhraethawl yn Annwn; canys nid yw bosibl bwrw amcan ar y byd sy'n Uffern Eithaf.' A chyda'r gair fe a'm cipiodd yr Eryr nefol fi i entrych y Fagddu felltigedig, ffordd nas gwelswn, lle ces o'r llys hyd holl ffurfafen y Distryw duboeth, a holl dir anghof, hyd at gaerau'r Ddinas Ddienydd, lawn olwg ar yr anfad anghenfil o Gawres y gwelswn ei thraed hi o'r blaen. 'Ac nis meddaf mo'r geiriau i ddadgan ei moddion hi: ond mi fedraf ddywedyd iti mai cawres dri-wynebog oedd hi: un wyneb tra ysgeler at y nefoedd, yn cyfarth, yn chwyrnu, ac yn chwydu ffieidd-dra melltigedig tuag at Brenin nefol: wyneb arall teg tua'r Ddaiar, i ddenu dynion i aros yn ei chysgod; a'r wyneb anaele arall at Annwn, i'w poeni byth bythoedd. Mae hi yn fwy na'r ddaiar oll, ac yn cynnyddu eto beunydd, ac yn gan erchyllach na holl uffern. Hi a barodd wneyd uffern, ac sy'n llenwi hi â thrigolion. Pe ceid hon o uffern, fe ai Annwn yn Baradwys: a phe ceid hi o'r ddaiar, fe ai'r byd bach yn nef; a phe cai hithau fyned i'r nef, hi a droai'r gwynfyd yn Uffern Eithaf! Nid oes dim yn y bydoedd oll (ond hon) nad Duw a'i gwnaeth. Hon yw mam y pedair Hudoles ddienydd; hon yw mam Angeu; a hon yw mam pob Drygioni a Thrueni; â chanddi grap ofnadwy ar bob dyn byw. Hi a elwir PECHOD. Y sawl a ddiango o'i bachau hi, gwyn ei fyd fyth,' eb yr Angel. Ar hyn fe ymadawodd; a chlywn ei adlais e'n dywedyd, 'Ysgrifena yr hyn a welaist; a'r sawl a'i darlleno yn ystyriol, ni fydd byth edifar ganddo.'
Nodiadau
golygu- ↑ Cymharer y Weledigaeth hon â chweched Weledigaeth Crevedo.
- ↑ Cyfieithad Rowland Fychan o'r Practice of Piety, gwaith y Dr. Lewis Bayley, Esgob Bangor. Ymddangosodd yn Gymraeg y waith gyntaf yn 1630, ac argraffwyd ef amryw weithiau wedi hyny. Cyfieithwyd y gwaith hefyd i'r Ffrancaeg; a bu agos i gant o argraffiadau o hono yn yr iaith Seisoneg.
- ↑ Dylêd'—y dull Gwyndodig o seinio dyled.
- ↑ Llanerch, talwrn, buarth, gardd.
- ↑ Caer Gwydion'=cylch neu lwybr dysgleirwyn yn y ffurfafen, yn cael ei achosi, fel yr ydys yn barnu, gan luaws aneirif o ser sefydlog, y rhai nis gellir eu canfod a'u gwahaniaethu â thremwydrau cyffredin. Gelwir ef hefyd y Llwybr Llaethog, y Ffordd Laeth, Galaeth, Eirianrod, Crygeidwen, Heol y Gwynt, a Llwybr y Mab Afradlawn. Cafodd yr enw Caer Gwydion, oddi wrth Gwydion Ab Don, un o seryddion y drydedd ganrif: a dychymmyga'r prydyddion iddo deithio drwy'r nefoedd ar ol merch a ddiangasai gyda Gronwy Befr; ac iddo adael llwybr ar ei ol yn y ffurfafen, yr hwn a alwyd Caer Gwydion' o'r pryd hwnw allan.
- ↑ Y Twr Tewdws'-Y Saith Seren Siriol: saith seren yng ngwddf cydser y Tarw; y rhai a elwir hefyd Pleiades (Iob, ix. 9; xxxviii. 31).
- ↑ Rhaiadydd,' arg. 1703; ac yr un modd yn y tudalen nesaf.
- ↑ 'Damchwa' (dam-chwa)=chwa neu ager amgylchynol. Ond tebygol nad yw y gair yn y lle hwn, ac mewn rhanau ereill o'r Weledigaeth, ond cyfnewidiad o tanchwa (Seis. fire-damp), sef yr agerdd neu fwg dinystriol a dyr allan mewn mwngloddiau a lleoedd cyffelyb. Gwel t. 87, 88.
- ↑ Neu, Dives y gair Lladin am oludog neu gyfoethog. Gwel Luc, xvi. 19, 26.
- ↑ 'Ysgethrin'=gyrol, hyrddol, lluchiol, diriol; yn gyru, yn hyrddio: ysgethrog; erchyll, ofnadwy, cethin, irad. Iterative, impulsive—Dr. Puw. Tywydd ysgethrog y gelwir yn y Deheubarth, dywydd garw, ystormus, pan y bo'r gwynt a'r gwlaw megys yn ysgethru, yn ysgubo, yn lluchio, neu yn gyru pob peth o'u blaen.
- ↑ Erchyll, ofnadwy, irad: hefyd anfeddyginiaethol, anfeddygadwy,
anwelladwy; megys,
Anacle fydd fy nolur.—Ed. Richard. - ↑ Dychymmygeiriau: gwel t. 53, n. 2.
- ↑ Gefeiliau. Gweler Geiriadur y Dr. Owain Puw, d.g. Gwrthrimyn.
- ↑ 'Briwlio' (Seis, broil; Ffr. brûler)=briwlian, briwlio; rhostio megys ar alch neu ar farwor.
- ↑ Lledfen yw peth tenan, gwastad, megys llech, a'r cyffelyb; peth a fo wedi ei ledu a'i wasgu yn lled deneu. Gorwedd yn lledfen-gorwedd yn ei hyd gyhyd, â'i faglau ar led; gorwedd yn aflêr o'i hyd gyhyd.
- ↑ Neu, 'erchyll a fu.' Erchylla fu,' arg. 1703.
- ↑ Hyll a chryg; erchyll a chryglyd.
- ↑ Math o gribau â dannedd heiyrn iddynt; heisylltan, trafelau.
Pigau heislan o annwn.—Syr Rhosier Offeiriad. - ↑ Gwel t. 41, n. 1.
- ↑ Cymharer Coll Gwynfa, ii. 627-34.
- ↑ 'Heirn' (lluosog o harn-haiarn)=heiyrn, heieirn.
- ↑ Hyll a chref; erchyll a nerthol.
- ↑ Po bellaf, gwaethaf yw'r gwerth.—Guto'r Glyn.
- ↑ 'Scwrs'=scourge: ffrewyll, fflangell.
- ↑ 'O that I hads'.—L'Estrange's Quevedo, p. 169.
- ↑ Gwel L'Estrange's Quevedo, p. 170.
- ↑ Blino, poenydio, poeni, dygnu, plaeo.
- ↑ Griddfan, tuchan, ebychu.
- ↑ Sicio'=yn briodol, gwlychu, mwydo; gwasgu neu faeddu yn wlych: ond yma, gwasgu, nyddasgu, neu nydd-droi: Seis. wring.
- ↑ Torf, tyrfa, haid, lluaws.
- ↑ Cyrhaedd=cynnyg, ceisio, osio. Cymh. t. 86.
- ↑ Cymharer L' Estrange's Quevedo, pp. 180-2.
- ↑ Clamp, enwff, llach, neu dwlffyn o wr boneddig.
- ↑ 'Ysgwier'=Esquire: yswain.
- ↑ 'Cart' card, neu chart: achres.
- ↑ Coffeir enwau Pymtheg Llwyth Gwynedd yn y ddau englyn isod :—
Cilmin, Hwfa, Brân, Gweirydd gell, a Hedd,
Collwyn, Maelog, Nefydd,
Edwin, Braint Hir, a'u bedydd,
Marchweithiau, a Merchudd bydd:
Dau Ednowain gain i gyd, Gwernynwy,
Gwŷr uniawn gadernyd;
I'r rhai'n y bu o'u rhan byd,
Gwindai Pymtheg-llwyth Gwyndyd.
(Y Greal, t. 155-8, 167.) - ↑ 'Ystent' hen dreftadaeth; hen gartrefle; ystâd.
I'th dent y mae 'stent mwyaf 'stor.—L. Glyn Cothi. - ↑ Deiliaid a thenantiaid;' dau air, un yn Gymraeg a'r llall o'r Seisoneg, yn arwyddo yr un peth. Y blaenaf sydd ar gyffredin arfer gwlad yn y Deheubarth, a'r olaf yng Ngwynedd a Phowys.
- ↑ Tarcwin Falch, neu Tarquinius Superbus, y seithfed a'r olaf o freninoedd Rhufain, cyn Cred 534-510.
- ↑ Chweched ymherawdwr Rhufain.
- ↑ Trydydd ymherawdwr Rhufain.
- ↑ Cymharer L'Estrange's Quevedo, pp. 161-7
- ↑ Tollgraig' (o toll, benywaidd o twll, a craig)=craig dyllog; craig ddrylliog neu ddarniog.
Ogof y dollgraig a wna les, Yn lloches i'r cwningod.—Edm Prys (Salm civ. 18).
- ↑ 'Allan o fath'=allan o fesur, tu hwnt i fesur.
- ↑ 'Celffaint'=hen bren crin; pren wedi erino a chialedu gan henaint; cyff, boncyff, cippill; hen beth gwywedig.
Carn Sais ar gellaint-Trivedd.
Celffaint o henaint yw hwn.—Llew. ab Gutyn.
</poem
- ↑ Cynio (o cŷn=gaing)=sicrhau â chŷn neu aing; geingio, llettemu; rhoi neu yru cŷn ym mheth.
- ↑ 'Canel'=kennel: cynel, ty cŵn, cyndy, cyullwst; ceudwll, ffau.
- ↑ 'Merbwll' (marm-bwll)=pwll o ddwfr marw neu lonydd; pwll budreddi; merllyn.
- ↑ Llyn Tegid, ger y Bala, ym Meirionydd, yw y llyn mwyaf yng Nghymru.
<poem>
Drwyodd, er dyddiau'r Drywon,
Y rhwyf y Dyfrdwyf ei don.' - ↑ 'Pac'=pack: haid, gyr, cniw, cnud, tocyn.
- ↑ Dychymmygeiriau, i ddynwared swn cnoi, neu rincian dannedd.
- ↑ Tygaswn=tybygaswn. Gwel Davies, Ant. Ling. Brit. Rud. 136-7,
- ↑ 'Suddas'=Iudas-Iudas Iscariot.
- ↑ Ffardial' (o'r Seis. fardel, sypyn)=sypyn o ddyn, torpwth, ffallach, swbach, pwtyn o ddyn, ffwtiar.
- ↑ 'War'=ware: nwyddau, moddion, eiddo.
- ↑ Dychymmygeiriau, i ddynwared gwaedd gyrwyr gwartheg.
- ↑ 'Cycwalltiaid' (Seis. cuckolds)=rhai a gywilyddir drwy anniweirdeb eu gwragedd; gwŷr corniog, hoffdyniaid. Cwewaldiaid, arg, 1703.
Yn gycwallt salw y'm galwant.
—D. ab Gwilym. - ↑ King's Bench=y Llys Penadur, un o brif lysoedd y gyfraith.
- ↑ Congl, cornel, cilfach, ebach.
- ↑ Stercus Canis officinale, Dog's white dung, Album Græcum as 'tis commonly called. This is said to cleanse and deterge: but it is used in little else but inflammation of the throat, with honey: and that outwardly, as a plaster, more than any other way: but seldom as appears to any great purpose.—Quincy's Compleat English Dispensatory, 12th edit. 1749.
- ↑ Hyll a serth.
- ↑ Golwg, edrychiad; gogwydd.
- ↑ Felly yn arg, 1703, a rhai Durston.
- ↑ Gwel Coll Gwynfa, i. 68, &c.
- ↑ Cannon: cyflegr, magnel, gwn mawr.
- ↑ Gwel Coll Gwynfa, i. 259-89.
- ↑ Gwel Coll Gwynfa, i. 414.
- ↑ Pw twt! tw tw!
- ↑ 'Hedlam' (hed a llam)=llam neu naid ar hedeg; llam hedegog; cam pan y bo'r troed olaf wedi ymadael â'r llawr, cyn y bo'r blaenaf yn cyffwrdd ag ef.
- ↑ Yn hydr creulonach=yn llawer mwy creulon. Hydr=hy, eofn, dewr, pybyr, cryf. Oddi yma y daw hytrach, cyhydr, cyhydrey, &c. Gwel y Dr. Dafis, d. g.
Hydr fydd dwfr ar dal glan.'—Diareb.
'Gan roddi i'n tywysogion gwbl barch a goruch-fawredd yn fwyaf ac yn hytraf y gallom.—Morus Cyffin.
Heddyw tydithau haeddol
Sy ddewraf, hydraf o'u hol.—I. B. Hir. - ↑ 'Scwrsio'=scourge: ffrewyllio, flangellu.
- ↑ Ffollt'=ffald, lloc, gwarchae, carchar. 'Ffolt' yw darlleniad rhai o'r argraffiadau, a 'follt' (bollt) a geir yn y lleill; ffollt' yn arg. 1703.
- ↑ Ioan Bradshaw, blaenor yr uchel lys a gollfarnodd y Brenin Carl i'w ddienyddu. Gwel t. 94.
- ↑ Edmund Bonner, esgob gwaedlyd Llundain, yn nheyrnasiad y Frenines Mair. Bu farw yn 1569.
- ↑ Ignatius Loyola, sylfaenydd yr Iesuaid, neu Gymdeithas yr Iesu. Ganwyd ef yn yr Yspacn, yn 1491; bu farw yn 1556; a seintiwyd ef gan y Pab Gregor XV. yn 1622. Ei gofwyl yw Gorphenaf 31.
- ↑ Neu, Mephistopheles, fel y gelwir yn y Faust, eiddo Goethe.
- ↑ Dadseinio, adscinio, tryseinio.
- ↑ Edrych,' arg. 1703.
- ↑ Bendramwnwgl, blith draphlith, dinben drosben.
- ↑ Neu yn hytrach, Demogorgon, fel y llythyrenir yr enw gan Milton:
Cyda hwynt y safent Erch
A Had, ac yr arswydus enw, ïe,
Y Demogorgon, nesaf Son a Chwaen
A Therfysg ac Annhrefniad llawn o gur,
Anghydfod ag ei rhydd dafodau fil.Coll Gwynfa, ii. 1018.
Ar Demogorgon, rhydd y Dr. Owain Puw yr eglurhâd canlynol:—
Tybia rhai mai un yw hwn à Demiurgus; ereill mai efelly y gelwid am y gallai edrych ar y Gorgon, a droai dremyniaid ereill i feini: mor ofnadwy oedd llafaru ei enw, nas gallent y penaf o uffernolion hyny heb grynu a ffoi." - ↑ Dadfachu; tynu neu daflu oddi ar y colfachau.
- ↑ The Solemn League and Covenant y gelwid y cytundeb a wnaed rhwng Cymmanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban, a Dirprwywyr oddi wrth Senedd Lloegr, yn 1643; a'i amcan proffesedig oedd unffurfiaeth addoliad, athrawiaeth, a dysgyblaeth, trwy yr Alban, Lloegr, ac Iwerddon.
- ↑ Tarenydd'=darnau neu glytiau o dir; twmpathau, cnyciau, cnoliau, crugiau, banau: un. taren.
- ↑ Bu 14 o Babau o'r un enw hwn. Clement XI. oedd yr amser yma (1700-1721) yn llenwi'r gadair anffaeledig.
- ↑ 'Yn frau'=yn ebrwydd, yn fuan, toe; yn rhwydd, yn barod.
O ewch i'w byrth â diolch brau.—Edm. Prys (Salm c. 4).
Ni chânt yn frau mo'n gorfod.—Edm. Prys (Salm ii. 3). - ↑ Dannedd hirion blacnllym, megys daint baedd, a'r cyffelyb.
- ↑ 'Ysblentydd'=lleni o ia; talpiau dirfawr o ia hylithr: ysglentiau: Seis, glaciers. Gwel t. 96, 98.
- ↑ Felly yn arg. 1703, dau Durston, ac un 1774; 'ddiawliaid,' arg. 1768.
- ↑ Meistr,' arg. 1703.
- ↑ Celwydd yn eich gên=celwydd yn eich dannedd.
- ↑ Nid yw 'ewch' yn arg. 1703; ond ymddengys mai gwall oedd ei adael allan, gan fod yr ystyr yn gofyn am dano.
- ↑ Mwrdwr'=murder: llofruddiaeth, murn.
- ↑ 'Trad'=trade; masnach, trafnid; galwad, galwedigaeth.
- ↑ Llyfon'=llwon.
- ↑ Erthwch'=dyhëu; tuchan.
- ↑ Nid yw y gair hwn mor werinol yng Ngwynedd ag yn y Dehenbarth; ac ymddengys nad oedd cyfieithwyr hybarch yr Ysgrythyrau i'r Gymraeg (y rhai, oddi eithr Huet, oeddynt Ogleddwyr) yn ystyried fod dim gwerinaidd neu serthus ynddo yn eu hamser hwy. Gwel Esa. xx. 4. Gellid gwneuthur sylw gogyffelyb ar amryw eiriau ereill sy'n dygwydd yn y gwaith hwn.
- ↑ Sessiwn session; assizes: brawdlys, proflys, brawdle.
- ↑ Anhawdd gwybod yn iawn pa ddosbarth o wyr y gyfraith a anrhydeddir â'r enw cyfarthwyr. Gellid meddwl nad yw, mewn ambell fan, ond gair arall am gyfreithwyr: eithr yn y wahanran hon, ychydig yn y blaen, crybwyllir am y naill a'r llall o honynt, a derbyn pob un ei briodol gosp. Tebygol, gan hyny, mai dadleuwyr, neu foneddigion y bar,' a olygir; ac nid ystyrir eu holl hyawdledd ddim amgen na chyfarth. Cymh. t. 27-O'r cyfarthwyr hyd at y ceisbwl.'
- ↑ Syr Edmondburi Godffrey oedd heddynad nodedig yn amser Carl II., a bu dra diwyd i gael allan y Cydfrad Pabaidd oedd ar droed y pryd hwnw. Buan wedi hyny cafwyd ef yn farw, wedi ei drywanu â'i gleddyf ei hun. Bwrid ei alanas ar y labyddion; ac o herwydd hyny, claddwyd ei weddillion gyda gwychder mawr. Dygwyddodd ei drancedigaeth, Hydref 17, 1678.
- ↑ 'Parsmant'=parchment: memrwn; croen i neu wedi ysgrifenu arno.
- ↑ 'Ffis'=fees: tâl, gwobr.
- ↑ Hel neu ddal pryfed; gwybeta, gwibiaw o fan i fan.
- ↑ Geiriau gwneuthur. Cymharer t. 53, n. 2.
- ↑ 'Llamidyddion' (o llamu)=llamwyr; rhai yn arfer llamu neu neidio.
- ↑ Ysguthell'=rhedegydd ar frys gwyllt; un a fo yn ysgubo neu hwysgo'r cwbl o'i flaen; hedegydd, hedwr, ysgutyll; rhedegwas.
- ↑ Cribinwyr'=rhai yn cribinio, yn crafu, neu yn rhacanu pob peth atynt eu hunain; pentyrwyr mwnws; cybyddion, cotiaid.
- ↑ Gwel L'Estrange's Quevedo, t. 168.
- ↑ Tri phrif orchestwaith Ynys Prydain: Llong Nefydd Naf Neifion, a ddug ynddi wryw a benyw o bob byw, ban dores Llyn Llion; ac Ychain Banog Hu Gadarn, a lusgasant Afanc y Llyn i dir, ac ni thores y llyn mwyach; a Main Gwyddon Ganhebon, lle y darllenid arnynt holl gelfyddydau a gwybodau byd.'—Trioedd.
Addane ni thynir o anoddyn dwfr.—L. G. Cothi. - ↑ Cwcwaldiaid,' arg. 1703. Gwel t. 82, n. 5.
- ↑ Cospi; ceryddu; darostwng.
- ↑ Coegfall,' arg. 1703, 1755, 1759, 1767, 1768, 1774; 'coegfalch,' rhai diweddarach.
- ↑ Effaith cydfrad: help neu gymhorth i arall yng nghyflawniad drwg weithred; cynnorthwy; gwaith.
- ↑ Dro llaw='yn nhro llaw; yn ebrwydd; mewn dim o amser.
- ↑ Gweler 'Dammeg Einion ab Gwalchmai a Rhian y Glasgoed,' yn Ysgriflyfrau lolo, t. 176.
- ↑ Ferdit=verdict: dedfryd, rheithfarn, barn.
- ↑ Ymgroesi=ymswyno, ymswyn; gwylio neu ochelyd rhag peth.
- ↑ 'Diesgor'=nas gellir esgor arno, na chael gwared o hono; na ddaw byth yn ol; anesgorol, anesgor.
- ↑ Y Dr. Ffaustus neu Ffaust ydoedd Sion Cent yr Almaen. Yr oedd yn ei flodau yn nechreu yr 16fed ganrif; cyfrifir ef yn enwog ei wyhodaeth a'i ymarfer o'r gelfyddyd ddu; ac adroddir aneirif o chwedlau am ei orchestion goruchanianol, y rhai a gyflawnid ganddo drwy ei gynghrair â'r ellyll Mephistopheles; yn y cyffelyb fodd ag y tadogir llawer o weithredoedd cyfunrhyw ar y Dr. Cent yng Nghymru. Ar y traddodiadau hyn y syfaenodd Goethe ei gerdd nodedig a elwir Faust
- ↑ Ei ran.
- ↑ 'Catffwl' (o cat a ffwl)—cetyn neu ddarn o ffwl; cryn ffwl; ffwleyn, cuall, hurthgen, folyn, hurtyn.
Taw a'th swn, ddigywilydd gatffwl.—Thomas Edwards. - ↑ 'Rhoi diofryd oferedd'=ymwrthod ar lw ag oferedd; ymddiofrydu ar ymwrthod ag oferedd; penderfyuu ymwrthod ag oferedd.
- ↑ Y ddwy blaid.
- ↑ Cyfeiriad at arferion ofergoelus rhai merchetach ynfyd gynt (ac ambell ffolcen hyd heddyw) i geisio cael gwybod pwy a fyddai eu gwŷr. Byddai olrhain yr holl ddefodau gwarthus cyssylltedig â'r ofergoelion hyn, yn gofyn llawer mwy o le nag a ellir ei hebgor yn y gwaith hwn. Am yr ofergoel o droi o gylch yr Eglwys, gweler y Brython, ii. 120.
- ↑ Gwel t. 44, n. 4.
- ↑ Ynysoedd Fferoe,' Ffaroe, neu Ffarverne, sydd haid o ynysoedd perthynol i Denmarc, yn gorwedd ym Môr y Gogledd, rhwng Norway ac Ynysoedd Shetland.
- ↑ 'Osio'=cynnyg, ceisio, profi.
- ↑ 'Ffordd Geneva'=Calfiniaeth. Yn Geneva y preswyliai Calfin.
- ↑ 'Olfir'=Oliver Cromwel.
- ↑ Sarig, afrywiog, taiog, sur.
- ↑ Celgar, ffel, ystrywus, cyfrwys, cadnoaidd: Seis. sly.
Dynion llechwrus iselgraff.'
—Gweledigaeth y Byd. - ↑ Hen a ffel; hen a chyfrwys.
- ↑ Gwel 2 Bren. xix. 35.
- ↑ 'Sara'=merch Raguel, a gwraig Tobias. Gwel Tobit, vi. vii.
- ↑ Gwel t. 33, n. 1.
- ↑ Merllyn' (marw-llyn)-llyn o ddwr llonydd: merbwll; llynwyu.
- ↑ 'Mudd,' arg. 1703, 1755, 1759, 1768, 1774; 'mud,' arg. 1767.
- ↑ Hud, twyll, hoced; gorchudd i dwyllo. Gwel Iob, ix. 24; xxiv. 15.
- ↑ Ffel, craff, call, deheuig.
- ↑ Cestyn' (bychanig o cast)=cast bychan, pranc.
- ↑ Gorchudd, llen gel.
- ↑ Consider: ystyried, ystyrio, pwyllo.
- ↑ Dwndwr, dadwrdd, siarad.
- ↑ Gwel t. 21, n. 6; a 100, n. 4.
- ↑ 'Mygyn' (o mwg)=chwiff, pwff o fwg.
Mygyn o'r cetyn cwta.—Gronwy Owain. - ↑ Seis. beer: ewrw, diod frag. Dywed y Dr. Johnson mai o bir y Gymraeg y mae beer y Seisoneg yn dyfod. Ceir y gair, gydag ychydig o amrywiaeth arddygraff, ym mhrif gangenau y Geltaeg, yn gystal ag mewn amryw ereill o ieithoedd Ewrop; megys, Gwyddeleg beoir; Gaeleg, bebir; Llydaweg, bir, ber, neu boer; Cernyweg, bior (dwfr); Almaeneg ac Isdiraeg, bier; Ffrancacg, bière; Italeg, birra; Rhineg, bior. Ceir ef hefyd yng ngwaith rhai beirdd Cymreig lled gynnar; ac ni ddylid anghofio ei fod wedi ei gyflëu megys gair Cymreig yng Ngeirlyfr y dysgedig Ddr. Dafis.
Dy fir i'w yfed fal dwr afon.—Hywel Aerdrem - ↑ Surfeited: alarllyd; wedi alaru neu ddiflasu arno.
- ↑ Pwy a rusiai'=pwy a betrusai; pwy a ofnai.
- ↑ Blaen yr ewinedd; rhanau blaenaf y carn. Gweler Geiriadur y Dr. Puw dan y gair.
- ↑ Llafasu, neu llyfasu=beiddio, meiddio, anturio.
Ni a welwn yn y byd hwn, na faidd ac na lefys neb wneuthur yn erbyn mawredd tywysog bydol,'—Dr. Dafis. - ↑ 2 Hoewal= llonydd, tawel, digyffro, digynhwrf. Ystyr hoewal, fel enw cadarn, yn ol Geiriadur y Dr. Puw, ydyw—Agitation of water; the whirling of a stream; an eddy; the waves formed by anything thrown into the water. Ac yn ol Lewis Morys—'The stream of the sea or a river, Pa fodd bynag, yng Ngheredigion, a manau ereill, defnyddir y gair am ddwfr llonydd neu ddigyffro; llynwyn; llyn neu gronfa mewn afon, a'r cyffelyb. A'r ystyr hw y cytuna dosbeniad y Dr. Dafis—Pars fluminis tardiùs transiens;' a thebygol mai yn yr un golygiad yr arferir ef gan y beirdd canlynol:
Od ä i'r hoewal adar hwyaid.—L. G. Cothi.
Hely'r wyf hoewal yr afon.—Meredydd ab Rhys
Edwyn llaw dyn edu lle dêl, A yr hwyaid i'r hoewel.—H. ab D. ab Ieuan ab Rhys.
Hywel, hoewal pob eirchiad.—Llywarch ab Llywelyn.
Ardal dwyn hoewal Dinmilwy.—Llyw. ab Llywelyn.
Gwâr Hywel, hoewal cyfeddwch.—Llyw. ab Llywelyn. Heol dyfnion afonydd,
Hoewal o fewn heli fydd.—I. ab Tudur Penllyn
Ail i'r âr ael Eryri,
Cyfartal hoewal a hi—Gronwy Owain.
Ond yn yr enghreifftiau sy'n canlyn, gellir barnu ei fod yn arwyddo canol ffrwd, brwynen neu frydle afon; yn unol ag eglurhâd L. Morys, ac â'r ystyr y dywed Dafis fod rhai yn ei roddi iddo—Alii volunt esse alreum fluminis et aquam festinantem.
Cynt wyf Ieuan, lle'r ä gan—nyn,
Nag awel o wynt i'r gwiail yn,—
Ac na hoewal llif trwy ganol llyn.—L. G. Cothi.
F'al yr awel ei helynt,
Anhawdd dal hoewal ei hynt.—M. ab H, Lewys.
Ac ymddengys mai yr un peth a olygir wrtho yn yr ymadrodd hwn, eiddo un o'r gogynfeirdd:
Ef a wnai—
Hwrdd aflwfr mal hir—ddwfr hoewal.— Cynddelw.
Gwraidd hoewal, medd Puw ydyw hoew—al; ond tebycach ei fod yn tarddu o hoe a gwâl. Hoe yw y gair cyffredin yn nhafodiaith Dyfed am orphwysfa, seibiant, neu lonyddwch: ac felly ystyr llythyrenol hoewal yw, y wâl lle mae'r dwfr yn cymmeryd hoe; y gwely lle mae'r dwfr yn gorphwys; neu gasgliad o ddwfr llonydd.
Hoewal llong= ol long ar y dwfr. - ↑ Cerlyn, cybydd, mab y crinwas.