Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)/Cân Gweledigaeth Angeu

Gweledigaeth Angeu Yn Ei Freninllys Isaf Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)

gan Ellis Wynne


golygwyd gan Daniel Silvan Evans
Gweledigaeth Uffern


AR Y DÔN A ELWIR LEAVE LAND,' NEU GADAEL Y TIR."

1. GADAEL tir, a gadael tai
(Byr yw'r rhwysg i ddyn barhau),
Gadael pleser, mwynder mêl,
A gadael uchel achau.

2. Gadael nerth, a thegwch pryd,
Gadael prawf a synwyr ddrud,
Gadael dysg, a cheraint da,
A phob anwyldra'r hollfyd.

3. Oes dim help rhag Angeu gawr,
Y carn-lleidr, mwrdriwr mawr,
Sy'n dwyn a feddom, ddrwg a da,
A ninnau i'w gigfa gegfawr!

4. Gwyr yr aur, ond gwych a fai
Gael fyth fwynhau'ch meddiannau ;
Mael[1] y gwnewch chwi rhyngoch rodd,
A ryngo fodd i'r Angeu.

5. Chwi rai glân o bryd a gwedd,
Sy'n gwallio[2] gorseddfeinciau!
Mael[1] trwsiwch chwithau'ch min
I ddallu'r brenin Angeu.

6. Chwi'r ysgafnaf ar eich troed,
Yng ngrymus oed eich blodau,
Ymwnewch i ffoi, a chwi gewch glod,
O diengwch rhag nod Angeu.

7. Mae clod i ddawns a pheraidd gân,
Am wario aflan ddrygau:
Ond mawr na fedrai sioncrwydd Ffrainc
Rygyngu caine rhag Angeu.

8. Chwychwi drafaelwyr môr a thud,[3]
A'r byd i gyd a'i gyrau,
Yn rhodd, a welsoch mewn un lle
Ryw gongl gre' rhag Angeu?

9. Chwi 'sgolheigion, a gwŷr llys,
Sy'n deall megys duwiau!
A rowch chwi 'm mysg eich dysg a'ch dawn
Ryw gynghor iawn rhag Angeu?

10. Y byd, y cnawd, a'r cythraul yw
Prif elynion pob dyn byw;
Ac eto gwiliwch Angeu gawr,
O'r gollborth fawr ar Ddistryw.

11. Son am Angeu nid oes bris,
A'i gollborth, a'i ddiang-borth lys;
Ond beth pan elech di dy hun,
Oes fater p'r un o'r ddeu-lys?

12. Nid oes yma ronyn pris,
Fyn'd tros y strip[4] yn uwch neu'n is;
Nid yw'r bythol bethau mawr,
I'th dyb di'n awr ond breubys.[5]

13. Ond pan fo'r Angeu 'm mron dy ddal,
Wrth odre'r wal ddiadlam,
Gwybydd y bydd iti bris,
Os cemi ris yn lledgam.

14. Pan fo d'enaid am y clo,
A myn'd'[6] i'r fawr dragwyddol fro,
Oes bris wrth agor cil y ddor,
Pa du i'r agendor fyddo?

15. Credu ac edifarhau,
A buchedd sanctaidd, a gwelläu,[7]
Y rhai'n yw'r unig help i ddyn
Rhag ing a cholyn Angeu.

16. Gwael y gweli'r rhai'n yn awr;
Ond wrth fudo i'r byd mawr,
Tydi a'u prisi'n fwy na hyn,
Ar fin dy derfyn dirfawr.

17. Pan fo'r byd i gyd ar goll,
A'i fwynder oll ar d'ollwng,
Anfeidrol fydd eu pris a'u gwerth,
Wrth gae yr anferth gyfwng.

Nodiadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Mael,' arg. 1703; 'mal,' y rhai diweddar
  2. 2 Gwel t. 33, n. 1.
  3. Tir
  4. Llain; dernyn hirgul neu hirfain. Strip' yw argraffiad yr awdwr; a thebygol mai strip a fwriedid; ac felly y darllen argraffiadau Durston, un 1768, a 1774. Ystryd' a geir yn yr argraffiadau mwy diweddar.
  5. Briwsion, tameidiau, catiau, teilchion, cyrbibion
  6. Yn myn'd?
  7. Y gwellâu,' arg. 1703.