Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)/Gweledigaeth Angeu Yn Ei Freninllys Isaf

Cân Gweledigaeth Cwrs y Byd Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)

gan Ellis Wynne


golygwyd gan Daniel Silvan Evans
Cân Gweledigaeth Angeu


II

GWELEDIGAETH ANGEU YN EI FRENINLLYS ISAF.

PAN oedd Phoebus[1] unllygeidiog ar gyrhaedd ei eithaf benod yn y Deheu, ac yn dal gwg o hirbell ar Brydain Fawr, a'r holl Ogledd-dir; ryw hirnos gauaf dduoer, pan oedd hi yn llawer twymnach yng nghegin Glyn Cywarch[2] nag ar ben Cader Idris, ac yn well mewn ystafell glyd gyda chywely cynhes, nag mewn amdo ym mhorth y fonwent; myfyrio yr oeddwn i ar ryw ymddyddanion a fuasai wrth y tân rhyngof fi a chymmydog, am fyrdra hoedl dyn, a sicred yw i bawb farw, ac ansicred yr amser;[3] a hyn, newydd roi fy mhen i lawr, ac yn lled-effro, mi glywn bwys mawr yn dyfod arnaf yn lledradaidd o'm coryn i'm sawdl, fel na allwn symmud bys llaw, ond y tafod yn unig; a gwelwn megys mab ar fy nwyfron, a merch ar gefn hyny. Erbyn craffu, mi adwaenwn y mab wrth ei aroglau trwm, a'i gudynau gwlithog, a'i lygaid mol-glafaidd, mai fy Meistr Cwsg ydoedd. 'Ertolwg, Syr,' ebr fi, tan wichian, 'beth a wnaethym i'ch erbyn pan ddygech y wyddan[4] yna i'm nychu?' Ust,' ebr yntau, 'nid oes yma ond fy chwaer Hunllef;[5] myned yr ŷm ni ein dau i ymweled â'n brawd Angeu: eisieu trydydd sy arnom; a rhag i ti wrthwynebu, daethom arnat (fel y bydd yntau) yn ddirybudd. Am hyny, dyfod sy raid i ti, un ai o'th fodd ai o'th anfodd.' Och,' ebr finnau, 'ai rhaid i mi farw?' 'Na raid,' eb yr Hunllef; ni a'ch arbedwn hyn o dro.' 'Ond trwy eich cenad,' ebr fi, 'nid arbedodd eich brawd Angeu neb erioed eto a ddygid i'w ergyd ef; y gwr o aeth i ymaflyd cwymp ag Arglwydd y Bywyd ei hun; ond ychydig a ennillodd yntau ar yr orchest hòno.' Cododd Hunllef ar y gair yma yn ddigllon, ac a ymadawodd. Hai,' ebr Cwsg, 'tyred ymaith, ni bydd i ti ddim edifeirwch o'th siwrnai. 'Wel,' ebr fi, 'na ddêl byth nos i Lan-gwsg, ac na chaffo'r Hunllef byth orphwys ond ar flaen mynawyd, oni ddygwch fi yn ol lle y'm cawsoch.' Yna i ffordd yr aeth â mi tros elltydd a thrwy goedydd, tros foroedd a dyffrynoedd, tros gestyll a thyrau, afonydd a chreigiau; a pha le y disgynem ond wrth un o byrth merched Belial, o'r tu cefn i'r Ddinas Ddienydd; lle gwelwn fod y tri Phorth Dienydd yn cyfyngu yn un o'r tu cefn, ac yn agor i'r un lle: lle mwrllwch oerddu gwenwynig, llawn niwl afiach a chymylau cuwchdrwm[6] ofnadwy. 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'pa le yw'r fangre hon?' 'Ystafelloedd Angeu,' ebr Cwsg. Ni ches i ond gofyn, na chlywn i rai yn crio, rhai yn griddfan, rhai yn ochain, rhai yn ymleferydd,[7] rhai yn dal i duchan yn llesg; ereill mewn llafur mawr, a phob arwyddion ymadawiad dyn; ac ambell un ar ei ebwch[8] mawr yn tewi; a chwap[9] ar hyny, clywn droi agoriad mewn clo. Minnau a drois wrth y swn i ysbio am y drws; ac o hir graffu, gwelwn fyrdd fyrddiwn o ddrysau yn edrych ym mhell, ac er hyny yn fy ymyl. 'Yn rhodd, Meistr Cwsg,' ebr fi, 'i ba le mae'r drysau yna yn egor?' Y maent yn agor,' ebr yntau, 'i Dir Anghof, gwlad fawr tan lywodraeth fy mrawd yr Angeu; a'r gaer fawr yma yw terfyn yr anferth Dragwyddoldeb.' Erbyn hyn, gwelwn Angeu bach wrth bob drws, heb un yr un arfau, na'r un enw a'u gilydd; eto, gwyddid arnynt mai swyddogion yr un brenin oeddynt oll; er y byddai aml ymryson rhyngddynt am y cleifion; mynai'r naill gipio'r claf yn anrheg trwy ei ddrws ei hun, a'r llall a'i mynai trwy ei ddrws yntau. Wrth nesäu, canfum yn ysgrifenedig uwch ben pob drws, henw'r Angeu oedd yn ei gadw; ac hefyd wrth bob drws, ryw gant o amryw bethau wedi eu gadael yn llanastr,[10] arwydd fod brys ar y rhai a aethent trwodd.

Uwch ben un drws, gwelwn Newyn; ac eto ar lawr yn ei ymyl byrsau a chodau llawnion, a thrynciau[11] wedi eu hoelio. 'Dyma,' ebr ef, 'Borth y Cybyddion.' 'Pwy,' ebr fi, 'pioodd y carpiau yna?' Cybyddion, eb ef, 'gan mwyaf, ond mae yna rai yn perthyn i segurwyr, a hwsmyn tafod,[12] ac i ereill, tlawd ym mhob peth ond yr ysbryd, oedd well ganddynt newynu na gofyn."

Yn y drws nesaf yr oedd Angeu Annwyd; gyfeiryd â hwn clywn lawer hydyd—ydyd—cian[13]; wrth y drws hwn yr oedd llawer o lyfrau, rhai potiau a fflageni, ambell ffon a phastwn, rhai cwmpasau, a chyrt, a chêr llongau. Fe aeth ffordd yma ysgolheigion,' ebr fi. 'Do,' ebr yntau, 'rai unig a dihelp, a phell oddi wrth amgeledd a'u carai, wedi dwyn hyd yn oed y dillad oddi arnynt.'[14] 'Dyna,' ebr ef (am y potiau) 'weddillion y cymdeithion da, a fydd â'u traed yn fferu tan feinciau, tra bo eu penau yn berwi gan ddiod a dwndwr: a'r pethau draw sy'n perthyn i drafaelwyr mynyddoedd eiryog, ac i farsiandwyr y Gogledd-for.' Yn nesaf oedd ysgerbwd teneu a elwid Angeu Ofn; gellid gweled trwy hwn nas meddai'r un galon; ac wrth ddrws hwn hefyd godau, a chistiau, a chloiau, a chestyll. I hwn yr air llogwyr, a drwg wladwyr, a gorthrymwyr, a rhai o'r mwrdrwyr;[15] ond yr oedd llawer o'r rhai hyny yn galw heibio i'r drws nesaf, lle yr oedd Angeu a elwid Crog, â'i gortyn parod am ei wddf.

Nesaf i hyny oedd Angeu Cariad, ac wrth ei draed fyrdd o bob offer a llyfrau miwsig[16] a cherdd, a llythyrau mwynion, ac ysmotiau a lliwiau i harddu yr wyneb, a mil o ryw siabas[17] deganau i'r pwrpas hwnw; a rhai cleddyfau. 'A'r rhai hyn,' eb efe, y bu'r herwyr[18] yn ymladd am y feinwen, a rhai yn eu lladd eu hunain.' Mi a welwn nad oedd yr Angeu yma ond cibddall.

Y drws nesaf yr oedd yr Angeu gwaethaf ei liw o'r cwbl a'i afu wedi diflanu; fo'i gelwid Angeu Cenfigen. 'Hwn,' ebr Cwsg, a fydd yn cyrchu colledwyr, athrodwyr, ac ambell farchoges a fydd yn ymwenwyno wrth y gyfraith a barodd i wraig ymddarostwng i'w gwr.' 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'beth yw marchoges?' 'Marchoges,' ebr ef, 'y gelwir yma y ferch a fyn farchogaeth ei gwr, ei chymmydogaeth, a'i gwlad, os geill; ac o hir farchogaeth, hi ferchyg ddiawl o'r diwedd, o'r drws yna hyd yn annwn.'

Yn nesaf yr oedd drws Angeu Uchelgais, i'r sawl sy'n ffroenio yn uchel, ac yn tori eu gyddfau eisieu edrych tan eu traed; wrth hwn yr oedd coronau, teyrnwiail, banerau, a phob papyrau am swyddau, pob arfau bonedd a rhyfel. Ond cyn i mi edrych ychwaneg o'r aneirif ddrysau hyny, clywn lais yn peri i minnau wrth fy henw ymddattod. Ar y gair mi'm clywn yn dechreu toddi, fel caseg eira yng ngwres yr haul; yna rhoes fy Meistr i mi ryw ddiod gwsg, fel yr hunais; ond erbyn i mi ddeffro, fo a'm dygasai i ryw ffordd allan o bellder y tu arall i'r gaer; mi'm gwelwm mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac i'm tyb i, nid oedd dyben arno: ac ym mhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel canwyll ar ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif o gysgodion dynion, rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel y gwynt, yn ddystaw ac yn ddifrifol aruthr: a gwlad ddiffrwyth, lom, adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed, nac anifail, oddi eithr gwylltfilod marwol a phryfed gwenwynig o bob math; seirff, nadroedd, llau, llyffaint, llyngyr, locustiaid, pryf y bendro, a'r cyffelyb oll sy'n byw ar lygredigaeth dyn. Trwy fyrddiwn o gysgodion ac ymlusgiaid, a beddi, a monwentau, a beddrodau, ni aethom ym mlaen i weled y wlad yn ddirwystr, tan na welwn[19] i rai yn troi ac yn edrych arnaf; a chwipyn, er maint oedd y distawrwydd o'r blaen, dyma si o'r naill i'r llall, fod yno ddyn bydol.[20] Dyn bydol!' ebr un; 'Dyn bydol!' eb y llall; tan ymdyru ataf, fel y lindys, o bob cwr. 'Pa fodd y daethoch, Syre?' ebr rhyw furgyn o Angeu bach oedd yno. 'Yn wir, Syr,' ebr fi, 'nis gwn i mwy na chwithau.' Beth y gelwir chwi,' ebr yntau? 'Gelwch fi yma fel y mynoch yn eich gwlad eich hun, ond fe'm gelwid i gartref, Bardd Cwsg.'

Ar y gair, gwelwn gnap o henddyn gwargam, a'i ddeupen fel miaren gen lawr, yn ymsythu, ac yn edrych arnaf yn waeth na'r dieflyn coch; a chyn dywedyd gair, dyma fe'n taflu penglog fawr heibio i'm pen i. Diolch i'r gareg fedd a'm cysgododd. 'Llonydd, Syr, ertolwg,' ebr fi, 'i ddyn dyeithr na fu yma erioed o'r blaen, ac ni ddaw byth, pe cawn unwaith ben y ffordd adref.' Mi wnaf i chwi gofio eich bod yma,' eb ef, ac eilwaith ag asgwrn morddwyd, gosododd arnaf yn gythreulig, a minnau yn osgoi fy ngoreu. 'Beth,' ebr fi, dyma wlad anfoesol iawn i ddyeithriaid; oes yma un ustus o heddwch?' 'Heddwch,' ebr yntau, 'pa heddwch a haeddit ti, na adewit lonydd i rai yn eu beddi?' 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'a gawn i wybod eich henw chwi; o blegid nis gwn i flino ar neb o'r wlad yma erioed.' 'Syre,' ebr yntau, gwybyddwch mai fi, ac nid chwi, yw'r Bardd Cwsg; ac a ges lonydd yma er's naw cant o flynyddoedd gan bawb ond chwychwi;' ac a aeth i'm cynnyg i drachefn.

Peidiwch, fy mrawd,' ebr Merddyn,[21] oedd yn agos; 'na fyddwch ryboeth; diolchwch iddo yn hytrach am gadw coffadwriaeth parchus o'ch enw ar y ddaiar.' 'Yn wir, parch mawr,' eb yntau, 'oddi wrth y fath benbwl a hwn. A fedrwch chwi, Syre, ganu ar y pedwar mesur ar hugain? a fedrwch chwi ddwyn achau Gog a Magog, ac achau Brutus ab Silvius hyd gan—mlwydd cyn difa Caer Troia? A fedrwch chwi frutio pa bryd, a pheth a fydd diwedd y rhyfeloedd rhwng y llew a'r eryr, a rhwng y ddraig a'r carw coch? ha!' 'Hai! gadewch i minnau ofyn iddo gwestiwn,' ebr un arall, oedd wrth efyddan[22] fawr yn berwi, soc, soc, dy gloc, dy gloc.[23] Tyred yn nes ebr ef, beth yw meddwl hyn?'—

Mi fyddaf hyd ddydd—brawd,
Ar wyneb daiar—brawd,
Ac ni wyddys beth yw 'nghnawd,
Ai cig ai pysgawd,'

Dymunaf eich henw, Syr,' ebr fi, 'fel y'ch atebwyf yn gymhwysach.' 'Myfi,' ebr ef, 'yw Taliesin Ben Beirdd y Gorllewin, a dyna beth o'm difrogwawd[24] i. 'Nis gwn i ebr finnau, beth a allai eich meddwl fod, onid allai'r fad felen[25] a ddyfethodd Faelgwn Gwynedd, eich lladd chwithau ar y feisdon,[26] a'ch rhanu rhwng y brain a'r pysgod.' 'Taw, ffwl,' ebr ef, 'brutio yr oeddwn i am fy nwy alwedigaeth, gwr o gyfraith a phrydydd: a ph'run, meddi di yr awran, debycaf ai cyfreithiwr i gigfran reibus, ai prydydd i forfil? Pa sawl un a ddigiga un cyfreithiwr i godi ei grombil oi hun? ac O! mor ddifater y gollwng e'r gwaed, a gadael dyn yn lledfarw! A'r prydydd yntau, pa le mae'r pysgodyn sy'r un lwnc ag ef! ac mae hi yn for arno bob amser, eto ni thyr y môr heli mo'i syched ef. Ac erbyn y bai ddyn yn brydydd ac yn gyfreithiwr, pwy a ŵyr pa'r un ai cig ai pysgod fyddai: ac yn sicr, os byddai yn un o wyr llys, fel y bûm i,[27] ac yn gorfod iddo newid ei flas at bob geneu. Ond dywed i mi,' ebr ef, 'a oes yr awran nemor o'r rhai hyny ar y ddaiar?' 'Oes,' ebr finnau, 'ddigon; os medr un glytio rhyw fath ar ddyri,[28] dyna fe'n gadeirfardd. Ond o'r lleill,' ebr fi, mae'r fath bla yn gyfarthwyr, yn fân dwrneiod,[29] a chlarcod,[30] nad oedd locustiaid yr Aipht ddim pwys ar y wlad wrthi rhai hyn. Nid oedd yn eich amser chwi, Syr, ond bargeinion bol clawdd, a lled llaw o ysgrifen am dyddyn canpunt, a chodi carnedd, neu goeten Arthur, yn goffadwriaeth o'r pryniant a'r terfynau. Nid oes mo'r nerth i hyny yr awran, ond mae chwaneg o ddichell ddyfeisddrwg, a chyfied a chromlech o femrwn ysgrifenedig i sicrhau'r fargen; ac er hyny, odid na fydd, neu fe fynir, rhyw wendid ynddi.' Wel, wel,' ebr Taliesin, 'ni thalwn i yno ddraen; ni waeth genyf lle yr wyf: ni cheir byth wir lle bo llawer o feirdd, na thegwch lle bo llawer o gyfreithwyr, nes y caffer iechyd lle bo llawer o physigwyr.'

Yn hyn, dyma ryw swbach[31] henllwyd bach, a glywsai fod yno ddyn bydol, yn syrthio wrth fy nhraed, ac yn wylo yn hidl. Ocho druan!' ebr fi, 'beth wyt ti?' 'Un sy'n cael gormod o gam yn y byd beunydd,' ebr yntau; 'fe ga eich enaid chwi fynu i mi uniondeb.' 'Beth,' ebr fi, 'y gelwir di? Fe a'm gelwir i Rhywun,' ebr ef; 'ac nid oes na llateiaeth,[32] nac athrod, na chelwyddau, na chwedlau, i yru rhai benben, nad arnaf fi y bwrir y rhan fwyaf o honynt. "Yn wir," medd un, "mae hi yn ferch odiaeth, ac hi fu yn eich canmol chwi wrth Rywun, er bod Rhywun mawr yn ei cheisio hi." "Mi a glywais Rywun," medd y llall, "yn cyfrif naw cant o bunnau o ddyled ar yr ystâd hòno." "Gwelais Rywun ddoe," medd y cardotyn, "â chadach brith fel moriwr, a ddaethai â llong fawr o yd i'r borth[33] nesaf;" ac felly pob cerpyn a'm llurgynia i i'w ddrwg ei hun. Rhai a'm geilw i yn Ffrind.[34] "Mi ges wybod gan Ffrind," medd un, "nad oes ym mryd hwn a hwn adael ffyrling i'w wraig, ac nad oes dim diddigrwydd rhyngthynt." Rhai ereill a'm diystyrant i ym mhellach, gan fy ngalw yn Frân: "Fe ddywed Brân i mi fod yno gastiau drwg," meddant. Ië, rhai a'm geilw ar henw parchedicach yn Henwr; eto nid eiddof fi hanner y coelion, a'r brutiau,[35] a'r cynghorion a roir ar yr Henwr; ni pherais i erioed ddilyn yr hen-ffordd, os byddai'r newydd yn well; ac ni feddyliais i erioed warafun cyrchu i'r Eglwys wrth beri—"Na fynych dramwy lle bo mwyaf dy groeso;" na chant o'r fath. Ond Rhywun yw fy enw cyffredinaf i,' ebr ef; 'hwnw a gewch chwi glywed fynychaf ym mhob mawrddrwg; o blegid gofynwch i un, lle dywedpwyd y mawrgelwydd gwaradwyddus, pwy a'i dywed; "Yn wir," medd yntau, "nis gwn i pwy, ond fo'i dywed Rhywun yn y cwmni;" holi pawb o'r cwmpeini am y chwedl, fe'i clybu pawb gan Rywun, ond nis gŵyr neb gan bwy. Onid yw hyn yn gam cywilyddus?' ebr ef. Ertolwg, a hysbyswch chwi i bawb a glywoch yn fy henwi, na ddywedais i ddim o'r pethau hyn? Ni ddyfeisiais ac ni adroddais i gelwydd erioed i waradwyddo neb, nac un chwedl i yru ceraint bendramwnwgl â'u gilydd; nid wyf yn dyfod ar eu cyfyl;[36] nis gwn i ddim o'u hystorïau, na'u masnach, na'u cyfrinach felltigedig hwy; na wiw iddynt fwrw mo'u drygau arnaf fi, ond ar eu hymenyddiau llygredig eu hunain.'

Ar hyn, dyma Angeu bach, un o ysgrifenyddion y brenin, yn gofyn i mi fy henw, ac yn peri i Meistr Cwsg fy nwyn i yn ebrwydd ger bron y brenin. Gorfod myned o'm llwyr anfodd, gan y nerth a'm cipiodd fel corwynt, rhwng uchel ac isel, filoedd o filltiroedd yn ei hol ar y llaw aswy, oni ddaethom eilwaith i olwg y wal derfyn; ac mewn congl gaeth, ni welem: glogwyn o lys candryll penegored dirfawr, yn cyrhaedd hyd at y wal lle yr oodd y drysau aneirif, a'r rhai hyny oll yn arwain i'r anferth lys arswydus hwn: â phenglogau dynion y gwnelsid y muriau,[37] a'r rhai hyny yn ysgyrnygu dannedd yn erchyll; du oedd y clai, wedi ei gyweirio trwy ddagrau a chwys; a'r calch oddi allan yn frith o phlêm[38] a chrawn; ac oddi fewn o waed dugoch. Ar ben bob tŵr, gwelid Angeu bach, â chanddo galon dwymn ar flaen ei saeth. O amgylch y llys yr oedd rhai coed ambell ywen wenwynig, a cypreswydden farwol; ac yn y rhai hyny yr oedd yn nythu ddylluanod, cigfrain, ac adar y cyrff, a'r cyfryw, yn crëu[39] am gig fyth, er nad oedd y fangre oll ond un gigfa fawr ddrewedig. O esgyrn morddwydydd dynion y gwnelsid holl bilerau'r neuadd; a philerau'r parlwr o esgyrn y coesau; a'r lloriau yn un walfa o bob cigyddiaeth.

Ond ni ches i fawr aros, nad dyma yng ngolwg allor fawr arswydus, lle gwelem y brenin dychrynadwy yn traflyncu cig a gwaed dynion, a mil o fân angeuod, o bob twll, yn ei borthi fyth â chig ir twymn. 'Dyma,' eb yr Angeu a'm dygasai i yno, 'walch a ges i yng nghanol Tir Anghof, a ddaeth mor ysgafn-droed, na phrofodd eich mawrhydi damaid o hono erioed.' Pa fodd y gall hyny fod?' ebr y brenin, ac a ledodd ei hopran[40] cyfled a daiargryn i'm llyncu. Ar hyn, mi a drois tan grynu at Gwsg. 'Myfi,' ebr Cwsg, 'a'i dygais ef yma.' 'Wel,' ebr y brenin cul ofnadwy, er mwyn fy mrawd Cwsg, chwi ellwch fyned i droi eich traed am y tro yma; ond gwyliwch fi'r tro nesaf.' Wedi iddo fod ennyd yn bwrw celanedd i'w geubal[41] ddiwala, parodd roi dyfyn[42] i'w ddeiliaid, ac a symmudodd o'r allor i orseddfainc echryslawn dra uchel, i fwrw'r[43] carcharorion newydd ddyfod. Mewn mynyd, dyma'r meirw, fwy na rhif o fynteioedd, yn gwneyd eu moes i'r brenin, ac yn cymmeryd eu lle mewn trefn odiaeth. A'r brenin Angeu yn ei freninwisg o ysgarlad gloewgoch, ag hyd-ddi luniau gwragedd a phlant yn wylo, a gwyr yn ocheneidio; ac am ei ben gap dugoch trichonglog (a yrasai ei gâr Luciffer yn anrheg iddo); ar ei gonglau ysgrifenasid, 'Galar, a griddfan, a gwae.' Uwch ei ben yr oedd myrdd o luniau rhyfeloedd ar fôr a thir; trefi yn llosgi, y ddaiar yn ymagor, a'r dwr diluw; a than ei draed nid oedd ond coronan a theyrnwiail yr holl freninoedd a orchfygasai fe erioed. Ar ei law ddeheu yr oedd Tynged yn eistedd, ac â golwg ddu ddel[44] yn darllen anferth lyfr oedd o'i flaen: ac ar y llaw aswy yr oedd henddyn a elwid Amser, yn dylifo[45] aneirifo edafedd aur, ac edafedd arian, a chopr, a haiarn lawer iawn, ac ambell edyf yn prifio yn well at ei diwedd; a myrddiwn yn prifio yn waeth. Hyd yr edafedd yr oedd oriau, diwrnodau, a blynyddoedd; a Thynged wrth ei lyfr yn tori yr edafedd einioes, ac yn egor drysau'r wal dorfyn rhwng y ddau fyd.

Ni chawswn i fawr edrych na chlywn alw at y bar bedwar o ffidleriaid oedd newydd farw. Pa fodd,' ebr brenin y dychryn, 'a däed genych lawenydd, na ddaliasech chwi o'r tu draw i'r agendor? canys ni fu o'r tu yma i'r cyfwng lawenydd erioed.' 'Ni wnaethom ni,' ebr un cerddor, ddrwg i neb erioed, ond eu gwneyd yn llawen, a chymmeryd yn ddystaw a gaem am ein poen." 'A gadwasoch chwi neb,' ebr Angeu, 'i golli eu hamser oddi wrth eu gorchwyl, neu o fyned i'r Eglwys? ha!' 'Na ddo,' ebr un arall, oddi eithr bod ambell Sul wedi gwasanaeth yn y tafarndy tan dranoeth, neu amser haf mewn twmpath chwareu; ac yn wir, yr oeddym ni yn gariadusach ac yn lweusach[46] am gynnulleidfa na'r person.' 'Ffwrdd, ffwrdd a'r rhai hyn i Wlad yr Anobaith,' ebr y brenin ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu[47] fyth heb na chlod na chlera.'

Y nesaf a ddaeth at y bar, oedd rhyw frenin agos i Rufain. 'Cyfod dy law, garcharor,' ebr un o'r swyddogion. 'Gobeithio,' ebr hwnw, 'fod genych beth gwell moes a ffafr i frenin." Syre.' ebr Angeu, 'chwithau ddylasech ddal y tu arall i'r agendor, lle mae pawb yn freninoedd; ond gwybyddwch nad oes o'r tu yma yr un ond fy hunan; ac un brenin arall sydd i waered obry; a chewch weled na phrisia hwnw na minnau yng ngraddau'ch mawrhydi, eithr yng ngraddau'ch drygioni, i gael cymhwyso eich cosp at eich beiau; am hyny atebwch i'r holion.' 'Syr,' ebr yntau, gwybyddwch nad oes genych ddim awdurdod i'm dal nac i'm holi: mae genyf fi faddeuant o'm holl bechodau tan law'r Pab ei hun. Am i mi ei wasanaethu e'n ffyddlon, yntau roes i mi gynnwysiad i fyned yn union i Baradwys, heb aros fynyd yn y purdan.' Wrth hyn dyma'r brenin, a'r holl gegau culion, yn rhoi oer ysgyrnygfa, i geisio dynwared chwerthin; a'r llall, yn ddigllon wrth y chwerthin, yn eu gorchymmyn i ddangos iddo ei ffordd. Taw, ffwl colledig,' ebr Angeu, tu draw i'r wal o'th ol y mae'r purdan; canys yn dy fywyd y dylasit ymburo; ac ar y llaw ddeheu, tu hwnt i'r agendor yna, y mae Paradwys. Ac nid oes dim ffordd bosibl i ti ddianc weithiau, na thros yr agendor i Baradwys, na thrwy'r wal derfyn yn dy ol i'r byd; canys, pe rhoit dy freniniaeth (lle ni feddi ddimai i roi) ni chait gan borthor y drysau yna ysbio unwaith trwy dwll y clo. Y Wal Ddiadlam[48] y gelwir hon; canys pan ddeler unwaith trwyddi, yn iach fyth ddychwelyd. Ond gan eich bod gymmaint yn llyfrau'r Pab, cewch fyned i gyweirio ei wely ef at y Pab oedd o'i flaen, ac yno cewch gusanu ei fawd ef byth, ac yntau fawd Luciffer.' Ar y gair, dyma bedwar o'r mân angeuod yn ei godi, ac yntau erbyn hyn yn crynu fel dail yr aethnen, ac a'i cipiasant fel y mellt allan o'r golwg.

Yn nesaf at hwn daeth mab a merch. Ef a fuasai yn gydymaith da, a hithau yn ferch fwyn, neu yn rhwydd o'i chorff; eithr galwyd hwy yno wrth eu henwau noethion, meddwyn a phutain. Gobeithio,' ebr y meddwyn, 'y caf fi genych beth ffafr; mi yrais i chwi lawer ysglyfaeth dew mewn llifeiriant o gwrw da; a phan fethais yn lladd ereill, daethym fy hun yn wyllysgar i'ch porthi.' Trwy genad y cwrt,[49] nid hanner a yrais i iddo,' ebr y butain, 'wedi eu hoffrwm yn ebyrth llosg, yn gig rhost parod i'w fwrdd.' Hai, hai,' ebr Angeu, er eich trachwantau melltigedig eich hunain, ac nid i'm porthi i, y gwnaed hyn oll: rhwymwch y ddau wyneb yn wyneb, gan eu bod yn hen gyfeillion, a bwriwch hwy i wlad y tywyllwch, a chwyded ef i'w cheg hi, pised hithau dân i'w berfedd yntau, hyd ddydd-farn."[50] Yna cipiwyd hwythau allan â'u penau yn isaf.

Yn nesaf i'r rhai hyn daeth saith Recordor:[51] peri iddynt godi eu dwylo at y bar; ni chlywid mo hyny, canys yr oedd y cledrau yn ireidlyd;[52] ond dechreuodd un ddadleu yn hyfach: Ni ddylasem gael dyfyn teg i barotoi ein hateb, yn lle ein rhuthro yn lledradaidd.' 'O, nid ym ni rwymedig i roi i chwi yr un dyfyn penodol,' ebr Angeu, am eich bod yn cael ym mhob lle, bob amser o'ch einioes, rybudd o'm dyfodiad i. Pa sawl pregeth a glywsoch am farwoldeb dyn? Pa sawl llyfr, pa sawl bedd, pa sawl clul,[53] pa sawl clefyd, pa sawl cenad ac arwydd a welsoch? Beth yw eich cwsg, ond fy mrawd i? Beth yw eich penglogau, ond fy llun i? Beth yw eich bwyd beunyddiol, ond creaduriaid meirwon? Na cheisiwch fwrw mo'ch aflwydd arnaf fi; chwi ni fynech son am y dyfyn, er ei gael ganwaith.' 'Ertolwg,' ebr un Recordor coch, beth sy genych i'n herbyn?' Beth!' ebr Angeu; 'yfed chwys a gwaed y tlodion, a chodi dwbl eich cyflog.' Dyma wr gonest,' eb ef, gan ddangos cecryn oedd o'u hol, 'a wyr na wnaethym i erioed ond tegwch: ac nid teg i chwi ein dal ni yma, heb genych un bai penodol i'w brofi i'n herbyn.' 'Hai, hai,' ebr Angeu, cewch brofi yn eich herbyn eich hunain: gosodwch,' ebr ef, 'y rhai hyn ar fin y dibyn, ger bron gorsedd Cyfiawnder; hwy a gânt yno uniondeb, or nas gwnaethant.'

Yr oedd yn ol eto saith o garcharorion ereill, a'r rhai hyny yn cadw'r fath drafferth a thrwst; rhai yn gwenieithio, rhai yn ymrincian, rhai yn bygwth, rhai yn cynghori, &c. Prin y galwasid hwy at y bar, nad dyma'r llys oll wedi duo yn saith hyllach nag o'r blaen, a grydwst a chyffro mawr o gylch yr orseddfainc, a'r Angeu yn lasach nag erioed. Erbyn ymorol, un o genadon Luciffer a ddaethai â llythyr at Angeu, yng nghylch y saith garcharor hyn; ac ym mhen ennyd, parodd Tynged ddarllen y llythyr ar osteg; ac hyd yr wyf yn cofio, dyma'r geiriau:—

Luciffer, Brenin Breninoedd y Byd, Tywysog Annwn a Phrif Reolwr y Dyfnder, At ein naturiol Fab, y galluocaf ddychrynadwy Frenin Angeu: cyfarch, a goruchafiaeth, ac ysbleddach[54] dragwyddol.

Yn gymmaint a darfod i rai o'n cenadon cyflym, sy'n wastad allan ar ysbî, hysbysu i ni ddyfod gynneu i'ch breninllys saith garcharor o'r saith rywogaeth ddihiraf yn y byd, a pheryclaf, a'ch bod chwi ar fedr eu hysgwyd tros y geulan i'm teyrnas i: eich cynghori yr wyf fi i brofi pob ffordd bosibl i'w gollwng hwy yn ou hol i'r byd; gwnânt yno fwy o wasanaeth i chwi am ymborth, ac i minnau am well cwmni: canys gwell genym eu lle na'u cwmpeini; cawsom ormod o heldrin[55] gyda'u cymheiriaid hwy er's talm, a'm llywodraeth i yn gythryblus eisys. Am hyny, trowch hwy yn eu hol, neu gedwch gyda chwi hwynt. O blegid myn y goron uffernol, os bwri hwy yma, mi a faluriaf tan seiliau dy deyrnas di, hyd oni syrthio yn un â'm teyrnas fawr fy hun.

'O'n Breninllys ar Sugnedd yn y Fallgyrch[56] eirias,[57] yn y flwyddyn o'n Teyrnasiad, 5425.'

Safodd y brenin Angeu, â'i wep yn wyrdd ac yn las, ennyd ar ei gyfyng gynghor. Ond tra bu e'n myfyrio, dyma Dynged yn troi ato'r fath guwch haiarnddu a wnaeth iddo grynu. Syre,' ebr ef, edrychwch beth a wneloch; ni feddiaf fi ollwng neb yn ol trwy derfyn-glawdd tragwyddoldeb y wal ddiadlam, na chwithau ou llochi[58] hwy yma; am hyny, gyrwch hwynt ym mlaen i'w distryw, heb waethaf i'r Fall fawr; fe fedrodd drefnu llawer dalfa o fil neu ddeng-mil o eneidiau, bob un i'w le mewn mynyd; a pha'r galedi fydd arno yr awran gyda saith, er eu perycled? Pa ddelw bynag, pe troent y llywodraeth uffernol tros ei cholyn, gyr di hwynt yno yn sydyn, rhag ofn i mi gael gorchymmyn i'th daro di yn ddim cyn dy amser. Am ei fygythion ef, nid ynt ond celwyddog: canys er bod dy ddyben di a'r henddyn draw (gan edrych ar Amser) yn nesau o fewn ychydig ddalenau, yn fy llyfr disomiant i; eto nid rhaid i ti unon[59] soddi at Luciffer; er däed fyddai gan bawb yno dy gael di, eto byth nis cânt; o blegid mae'r creigiau dur a diemwnt[60] tragwyddol sy'n toi Annwn, yn rhy gedyrn o beth i'w malurio.' Ar hyny galwodd Angeu, yn gyffrous, am un i ysgrifenu yr ateb fel hyn:—

'Angeu, Frenin y Dychryniadau, Cwncwerwr y Cwncwerwyr, At ein parchedicaf Gâr a'n Cymmydog Luciffer, Brenin Hirnos, Penllywodraethwr y Llynclyn Diffwys: anerch.'

Ar ddwfn ystyried eich breninol ddymuniant hwn, gwelsom yn fuddiolach, nid yn unig i'n llywodraeth ni, eithr hefyd i'ch teyrnas helaeth chwithau, yru y carcharorion hyn bellaf bai bosibl oddi wrth ddrysau'r wal ddiadlam, rhag i'w sawyr drewedig ddychrynu yr holl Ddinas Ddienydd, fel na ddel dyn byth i dragwyddoldeb o'r tu yma i'r agendor; ac felly ni chawn i fyth oeri fy ngholyn, na chwithau ddim cwsmeriaeth rhwng daiar ac uffern. Eithr gadawaf i chwi eu barnu a'u bwrw i'r celloedd a weloch chwi gymhwysaf a sicraf iddynt.

'O'm Breninllys Isaf yn y Gollborth[61] Fawr ar Ddistryw: Er blwyddyn adnewyddiad fy nheyrnas, 1670.'

Erbyn clywed hyn oll, yr oeddwn innau yn ysu am gael gwybod pa ryw bobl allai'r seithnyn hyny fod, a'r diawliaid eu hunain yn eu harswydo cymmaint. Ond cyn pen nemor, dyma Glarc y Goron yn eu galw hwy wrth eu henwau, fel y canlyn: 'Meistr Medleiwr,[62] alias[63] Bys ym mhob Brywes.' Yr oedd hwn mor chwidr a phrysur yn fforddio'r lleill, nad oedd e'n cael mo'r ennyd i ateb trosto ei hun, nes Angeu fygwth ei hollti â'i saeth. Yna, 'Meistr Enllibiwr, alias Gelyn y Geirda.' Dim ateb. Mae e'n orchwylus[64] glywed ei deitlau,' eb y trydydd, 'nis gall aros mo'r llysenwau.' 'Ai tybied,' eb yr Enllibiwr, 'nad oes deitlau i chwithau?' 'Gelwch,' ebr ef, Meistr Rhodreswr Meldafod, alias Llyfn y Llwne, alias Gwên y Gwenwyn.' 'Redi,'[65] ebr merch oedd yno, tan ddangos y Rhodreswr. O,' ebr yntau, Madam Marchoges! eich gwasanaethwr tlawd; da genyf eich gweled yn iach, ni welais i erioed ferch harddach mewn clos;[66] ond, och feddwl druaned yw'r wlad ar eich ol am lywodraethwraig odiaeth! eto eich cwmni hyfryd chwi a wna uffern ei hun yn beth gwell.' 'O fab y fall fawr!' ebr hi; 'nid rhaid i neb gyda thi yr un uffern arall; yr wyt ti yn ddigon.' Yna galwodd y criwr, 'Marchoges, alias Meistres y Clos.' 'Redi,' eb rhywun arall; ond hi ni ddywedodd air, eisieu ei galw hi Madam. Yn nesaf, galwyd Bwriadwr Dyfeisiau, alias Sion o bob Crefft. Ond ni atebai hwnw chwaith; yr oedd ef yn prysur ddyfeisio'r ffordd i ddianc rhag Gwlad yr Anobaith. Redi, redi,' ebr un o'i ol; 'dyna fo yn ysbio lle i dori eich breninllys, ac oni wiliwch, mae ganddo gryn ddyfais i'ch erbyn.' Ebr y Bwriadwr, 'Gelwch yntau, yn rhodd, Meistr Cyhuddwr ei Frodyr, alias Gwyliwr y Gwallau, alias Lluniwr Achwynion.' 'Redi, redi, dynia fo,' ebr Cecry Cyfreithgar; canys gwyddai bob un henw'r llall, ond ni addefai neb mo'i henw ei hunan. 'Gelwch chwithau,'[67] ebr Cyhuddwr, 'Meistr Cecryn Cyfreithgar, alias Cwmbrus y Cyrtiau,"[68] "Tystion, tystion o honoch, fel y galwodd y cnaf fi,' ebr Cecryn. 'Hai, hai,' ebr Angeu, 'nid wrth y bedyddfaen, ond wrth y beiau, yr henwir pawb yn y wlad yma; a thrwy eich cenad, Meistr Cecryn, dyna eich henwau a saif arnoch o hyn allan byth.' 'Aie,' ebr Cecryn, 'myn diawl, mi wnaf yn hallt i chwithau; er y gallech fy lladd, nid oes genych ddim awdurdod i'm llysenwi. Mi rof gydgwyn am hyny ac am gamgarchariad arnoch chwi a'ch câr Luciffer, yng nghwrt Cyfiawnder.'

Erbyn hyn gwelwn fyddinoedd Angeu wedi ymdrefnu ac ymarfogi, a'u golwg ar y brenin am roi'r gair. Yna, ebr y brenin, wedi ymsythu ar ei freninfainc, 'Fy lluoedd ofnadwy, anorchfygol, na arbedwch ofal a phrysurdeb i hebrwng y carcharorion hyn allan o'm terfynau i, rhag diwyno fy ngwlad; a bwriwch hwy yn rhwym tros y dibyn diobaith, a'u penau yn isaf. Ond yr wythfed, y gwr Cwmbrus yna, sy'n fy mygwth i, gedwch ef yn rhydd uwch ben y geulan tan gwrt Cyfiawnder, i brofi gwneyd ei gwyn yn dda i'm herbyn i, os geill.' A chyda'i fod e'n eistedd, dyma'r holl fyddinoedd marwol wedi amgylchu a rhwymo'r carcharorion, ac yn eu cychwyn tua'u lletty. A minnau wedi myned allan, ac yn lled-ysbio ar eu hol, Tyred yma,' ebr Cwsg, ac a'm cipiodd i ben y tŵr uchaf ar y llys. Oddi yno gwelwn y carcharorion yn myned rhagddynt i'w dienydd tragwyddol. A chyn pen nemor, cododd pwff o gorwynt, ac a chwalodd y niwl pygdew cyffredin oedd ar wyneb Tir Anghof, onid aeth hi yn llwyd oleu, lle gwelwn i fyrdd fyrddiwn o ganwyllau gleision; ac wrth y rhai hyny, ces olwg o hirbell ar fin y geulan ddiwaelod: ond os golwg dra ochryslawn oedd hòno, yr oedd yno uwch ben olwg erchyllach na hithau, sef Cyfiawnder ar ei gorseddfainc yn cadw drws uffern, ar frawdle neillduol uwch ben y safn, i roi barn ar y colledigion fel y delont. Gwelwn daflu'r lleill bendramwnwgl, a Checryn yntau yn rhuthro i daflu ei hun tros yr ymyl ofnadwy, rhag edrych unwaith ar gwrt Cyfiawnder; canys, och! yr oedd yno olwg rydost i wyneb euog. Nid oeddwn i ond ysbio o hirbell; eto mi a welais fwy o erchylldod arswydus nag a fedraf fi yr awran ei draethu, nac a fedrais i y pryd hyny ei oddef; canys ymdrechodd a dychlamodd fy ysbryd gan y dirfawr ddychryn, ac ymorchestodd mor egnïol, oni thorodd holl gloiau Cwsg, a dychwelodd fy enaid i'w chynnefin swyddau: a bu lawen iawn genyf fy ngweled fy hun eto ym mysg y rhai byw; a bwriedais fyw wellwell, gan fod yn esmwythach genyf gan mlynedd o gystudd yn llwybrau sancteiddrwydd, na gorfod gweled cip arall ar erchylldod y noson hòno.

Nodiadau

golygu
  1. Enw cyffredin ar yr Haul gan brydyddion Groeg a Rhufain: yr un ag Apolo.
  2. Plasdy, yn sefyll yng ngeneu neu agorfa glyn coedog, o ddeutu 3 milltir o dref Harlech, ar ffordd Maentwrog. Tua hanner y ffordd rhwng Glyn Cywarch a Harlech, y mae'r Lasynys, treftadaeth a phreswylfod awdwr y Bardd Cwsg.
  3. Cymharer yr ail a dechreu'r bedwaredd o Weledigaethau Cweredo
  4. Gwel y sylw ar Gwyddanes, t. 48, n. 4.
  5. Hunlle, arg. 1703 ac ereill.
  6. Trwm ei guwch; trwm a chuchiog; gygus nen sarig yr olwg arno.
  7. Siarad fel dyn gwallgof neu orphwyllog; bod allan o bwyll; ynfydu, gwallgofi.
  8. Uchenaid, griddfan, wban, gwaedd, drygnad.
  9. Uchenaid, griddfan, wban, gwaedd, drygnad.
  10. Yn annhrefnus, mewn annhrefn; blith draphlith; yn gymmysg.
  11. 'Trynciau'=trunks: cistiau, blychau, coffrau.
  12. Hwsmyn tafod'=dynion tafodiog, siaradus, neu chwedlengar; rhai a fyddont byth a hefyd yn siarad am faterion a negesau pobl ereill; ofersiaradwyr, gwagsiaradwyr, baldorddwyr. Presently after these appeared a consort of loud and tedious talkers, that tired and deafened the company with their shrill and restless gaggle.—L'Estrange's Visions of Quevedo, 10th Edit. p. 29.
  13. Dychymmygair, neu air gwneuthur, wedi ei ffurfio er dynwared llais crynedig dyn pan fo ar fferu gan annwyd. Dychymmygair, yn ol Henri Perri, yw, pan fo yr areithiwr yn dychymmyg enw i ryw beth wrth ddynwared sain y peth y bo, drwy gyffelybrwydd, yn ei arwyddocäu. Egluryn Ffracthineb, t. 24, arg. 1807.) Felly Wiliam Lleyn, i fen:—

    Wich wach, yn ol chwech ychain

    .
    A Dafydd ab Gwilym, i'r biogen:—

    Cric crec, ni'm dawr pe crocid.


    A thrachefn, i ddynwared un yn yfed:—

    Cue cue yn yfed sucan.


    Yr un modd, Rhys Cain, i'r gwyddau:—

    Cywion ar dor afon deg,
    Crygion, yn crio wegeg.

    Ar yr un egwyddor y mae Aristophan, y Cymwawdiwr Groeg, yn efelychu crawciad llyffaint â—

    Βρεκεκεκέξ kόαξ kόαξ

    Ac Ennius (yn ol Servius) a ddynwared sain udgorn a'r gair taratantara; a cheir llawer o gyffelyb anghreifftiau yn y rhan fwyaf o ieithoedd, hen a diweddar.
  14. Nay, many times they are stript, ere they are laid, and destroyed for want of clothes to keep them warm.—Estrange's Visions of Quevedo, p. 41.
  15. 'Mwrdrwyr'=murderers: llofruddion, murnwyr.
  16. Music—cerddoriaeth, peroriaeth, alaw.

    Mwyna' cerdd ym min gwerddon
    Ym mysg llu'n gwau minsig llon.
    ::—D. ab Gwilym.

  17. 'Sciabas' (arg. 1703)=siabas. Siabas deganau=teganau diwerth, gwael, oferwag, neu ddiddefnydd; pethau bychain diles; ffrilion; sothach.

    Cnau, ac eirin, a phob siabas,
    Afalau, rhwnyn, a rhai crabas.
    Huw Morus.

  18. Gwel t. 26.
  19. Tan na welwn=hyd oni welwn; nes y gwelwn.
  20. Sef, dyn o'r byd, dyn daiarol.
  21. Sonir yn gyffredin am ddau o'r enw Merddyn neu Myrddin; sef, Myrddin Emrys a Myrddyn ab Morfryn, yr hwn a elwir hefyd Myrddin Wyllt; ond y mae yn gryn debygol mai yr un oeddynt, er yr honir i'r naill flodeuo yng nghylch can mlynedd o flaen y llall. Cyfrifir yn gyffredin fod Myrddin Emrys yn byw tua chanol y bummed, a Myrddin Wyllt o ddeutu canol y chweched ganrif o gyfrif Cred. Ystyrir Myrddin yn ddewin a phrophwyd nodedig yn ei ddydd; ac y mae llawer o chwedlau am dano, ac o brophwydoliaethau yn cael eu tadogi arno, yng Nghymru hyd heddyw. Gweler y Brutiau Cymreig (Myvyrian Archaiology, ii.), a Drych o Prif Oesoedd (arg. Caerfyrddin, 1863, t. 102, 103.) Cynnwysa yr unrhyw Frutiau lawer o chwedlau dyddorol ond disail am Brutus ab Silvius ab Ascanius ab Eneas Ysgwyddwyn, a'i helyntion a'i anturiaethau yn yr Ital, yng ngwlad Groeg, yug Ngal, ac yn Ynys Prydain.
  22. Neu, efydden=padell efydd; pair.
  23. Dychymmygeiriau, oddi wrth swn pair yn berwi. Gwel t. 53, n. 2.
  24. Neu, difregawd=gofyniad neu holiad dychymmygol; ymadrodd â dirgelwch ynddo; prydyddiaeth ddammegol; dychymmyg, gorchan.
  25. Y fad neu fall felen y gelwir yr haint y bu Maelgwn Gwynedd, brenin y Brython yn y chweched ganrif, farw o honi.
    "Tair haint echrys Ynys Prydain —Ail, Haint y fad felen o Ros; ac achos celaneddau y lladdedigion y bu hono; ac od elai neb o fewn eu gwynt, cwympo yn farw yn ddioed a wnelai.'—Trioedd (Myv.Arch. ii. 59).
    'Ac mewn eglwys yn ymyl Dyganwy y bu [Maelgwn Gwynedd] farw, pan weles y fad felen drwy dwll dor yr eglwys.'—Brut Gr. ab Arthur.
  26. Glan y môr, traeth, traethell, tywyn.
  27. Buasai Taliesin yn un o wyr llys Urien Rheged, Gwyddno Garanhiir, a'r Brenin Arthur
  28. Neu, dyrif cerdd tôn a goslef; canu ar fesur rhydd; cân rydd. Mesur cyn cof yw dyri-Barddas.
  29. 'Twrneiod'=attorneys: cyfreithwyr, dirprwywyr cyfreithiol.
  30. 'Clarcod'=clerks: ysgrifenyddion, ysgrifweision.
  31. 'Swbach'=peth wedi ymwasgu neu ymgrynoi yng nghyd; a fo yn swp neu grynswth; sypyn, sybwrn; sypyn o ddyn; cleb, cleirchyn, sybidyn, cor, corach.
  32. Cenadwri rhwng cariadau; negesiaeth yn achos cariad.
  33. Porthladd, porthfa.
  34. Friend: cyfaill.
  35. Ystorïau, hanesion; daroganan
  36. 'Ar eu cyfyl'= yn agos atynt.
  37. Cymharer hanes y llys hwn â'r darluniad o Garchar Oeth ac Anoeth, yn Ysgriflyfrau Iolo, t. 185-7.
  38. Phlegm: llysnafedd, cornboer.
  39. 'Crëu'=crawcio; crefu; erfyn.
  40. Yma, safn, ceg.
  41. Yn briodol bad, cwch, neu ysgraff; ond yma, ceudod, crul, bol.
  42. 'Rhoi dyfyn'=gwysio, rhoi gwys, rhybuddio, galw ger bron.
  43. Barnu, dyfarnu, dedfrydu.
  44. 'Del'=caled, anhyblyg, anhydyn: hefyd, pert, gwych, tlws, dillyn.

    Ni bu haid, ddiawliaid! ddelach eu gwahodd,
    Ni bu ieir un fodd, na brain feddwach.
    ——L. G. Cothi, V. vi. 51.
    Gwr du i daflu gair del.—T. Prys.

  45. Ystofi; gosod edafedd yn y gwydd
  46. Lwcusach' (o'r Seis, lucky)=ffodusach, mwy ffodiog
  47. Rhwbio neu rwtio (ar y tannau)
  48. 'Diadlam' (o di, ad, a llam)=nas gellir llamu, neidio, neu fyned yn ol ar hyd-ddi wedi yr eler unwaith drosti; diwrthlam. Y mae yn un o'r geiriau mwyaf grymus ac ystyrlawn yn yr iaith.

    A'i anadl diadlam dwfn
    Yn megino mwg annwfn.
    Gwilym Wynn.

  49. Cwrt i feinwar i chwareu.—D. ab Gwilym.
  50. 'Dydd-farn' (=dydd y farn), yma a manau ereill, yn arg. 1703.
  51. Recorder=Cofiadur.
  52. Ireidlyd, wedi eu hiro
  53. Cnul, cnill; cloch a genir ar farwolaeth un
  54. 'Ysbleddach',yn ol y Dr. Dafis, yw lusus oblectamentum; sef, chwareu, difyrwch, maldod, sarllach: ond yn ol y Dr. Puw, spoil, prey, or booty, yw ystyr y gair. Dealla Ioan Walters a Thomas Richards ef yr un modd a Dafis. Ond nid yw yn ymddangos i mi fod neb o'r ystyron hyn yn cydweddu yn hollol â'r lle hwn a thybiaf mai cyfathrach, cynghrair, neu gydbleidiaeth, a olygir wrtho, ac mai alliance yw y cyfystyr agosaf iddo yn y Seisoneg.
  55. Trafferth, ffwdan, helgur, helbul
  56. Y fallgyrch' (mall—cyrch)=cyrch neu gyrchfa y Fall; priflys neu brif neuadd y cythreuliaid; cynghethernan: pandemonium.
  57. Llosg, gwynias, chwilboeth, tanllyd.
  58. Llochesu, achlesu, noddi
  59. 'Unon' (un ofn)=ofni; tybio, meddylied.
    *Onid rhaid unon na ddichon dim tramgwydd ddamwain i'r Eglwys, pa raid, ynte, wrth enwau diles yr esgobion?'—Morus Cyffin.
  60. Adamant; y maen caletaf
  61. Porth y colledigion; y porth yr ä'r colledigion drwyddo
  62. Meddler: ymyrwr, dyn ymyrgar, ymhelwr
  63. 'Alias'=gair Lladin, arferedig yn aml yn y gyfraith, yn dynodi, neu amgen, fel arall, mewn modd arall.
  64. Tra gwylaidd, gorwylaidd, gwyl iawn, yswil
  65. Ready: parod, yn barod
  66. Llodrau: brecches
  67. 'Gelw chwitheu', arg. 1703, 1755, 1759, a 1774; 'gelwch chwitheu,' arg. 1768; 'gelwir chwitheu,' rhai diweddarach.
  68. Cumbrous: rhwystrus; un a fyddo yn rhwystr