Gwrid y Machlud/Angel Gethsemane
← Y Nadolig Hwn | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Yn y Cysgod → |
III
Cerddi'r Cysgodion
ANGEL GETHSEMANE
O, ANGEL Gethsemane drist,
Dy hanes sydd yn hen;
Tydi fu'n gymwynaswr Crist
Ar noson oer ddi-wên.
Ni wn dy enw, angel mwyn,
Ymhlith angylion Duw,
Ond gwn mai ti fu'n lleddfu cwyn
Gwaredwr dynol ryw.
Yn yr unigedd, Iesu'n brudd
Blygasai dan y pren,
A blodau tristwch ar ei rudd
A barrug ar ei ben.
Ei chwys yn disgyn wrth ei draed
Oddiar ei wyneb hardd;
Defnynnau lliw y cochaf waed
Ar farrug oer yr ardd.
Yn nos y gofid bryntaf du
Pob ffrind ynghwsg ond Un,
Yng Ngethsemane gwelwyd di
Yn ymyl Mab y Dyn.
Dy law osodaist dan ei ben
Yn awr y drymaf loes;
A'th wên oleuodd dywyll nen
Y ffordd i Fryn y Groes.