Gwrid y Machlud/Claddu
← Y Gyfrinach | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Symledd → |
CLADDU
LLUDW i'r lludw, pridd i'r pridd,"
Wynebau y dyrfa'n drist;
Sŵn dyrnaid o bridd o'r domen lac
Yn chwalu ar blât y gist.
Gweddi ac emyn uwch y bedd,
A hwyrach, air o barch,
Wedyn gwahanu, ac ambell un hy
Yn aros i weld yr arch.
Hers a cherbyd yn troi i ffwrdd,
Y dyrfa'n parablu'n rhydd;
A neb yn meddwl wrth gilio draw
Claddu pwy nesaf fydd.