Gwrid y Machlud/Symledd
← Claddu | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Hen Wraig Drws Nesaf → |
SYMLEDD
DACW angladd bach yn mynd,
Dim ond hers ac wyth o ddynion;
Rhywun eto ar ei daith
Tua hendre y marwolion.
Gyrru'n araf ar y chwith
Drwy y dre â'i thorf ddi-ildio;
Ambell un yn tynnu ei het
Wrth i'r angladd bach fynd heibio.
Gyrru 'mlaen i olaf hun
Hendre dawel y marwolion;
Angladd syml, dyna i gyd,
Dim ond hers ac wyth o ddynion.