Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XXXIII a XXXIV
← Cerdd XXXII | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd XXXV a XXXVI → |
XXXIII. Cyngor i offeiriaid Cymru (yn 1767).
Gweithiwch, a dysgwch dasgau—o'r Beibl
I'r bobloedd, a salmau,
At Dduw, y rhowch weddiau
Am Ei bur râs i barhau.
—DAFYDD JONES, neu Dewi Fardd.[1]
XXXIV. Arall, i bob un o'r addolwyr.
Cais ffydd pur, ufudd parha,—eu synwyr,—
Cusana'r Meseia;
Câr y cariad cywira,
Pur Oen Duw, ein Prynwr da.
—DEWI FARDD, o Drefriw.
Nodiadau
golygu- ↑ Tan yr Yw, Trefriw. Yn ei ogoniant o 1750 hyd 1780. Argraffydd a chyhoeddydd "Blodeugerdd Cymru," ynghyd a chasglydd ei gynhwysiad.