Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XXXV a XXXVI

Cerdd XXXIII a XXXIV Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd XXXVII a XXXVIII

XXXV. A wnaed pan oedd y mŵg bron a'm mygu yn fy ngwely,—oedd wrth y tân.

Dirfawr led hyllfawr dywyllfŵg,—a dudew
Gyfodadwy hwrwg;
Trwyth tawddwres yw'r tarth tewddrwg,—
Uwch tân mawn, tawch tonnau mŵg.
—SION POWELL.[1]


XXXVI. Wedi i'r mŵg gilio, gwelwn y sêr trwy y to tyllog o'm gwely,—pryd y cenaisiddynt,—

Gerddi crogedig harddwych,—fel adar,
Neu flodau'n yr entrych;[2]
Tariannau aur tirionwych,
Meillion nef,——mae eu lle'n wych.
—SION POWELL.


Nodiadau

golygu
  1. Nant Rhyd yr Eirin, Llansannan. Gwehydd ydoedd. Bu farw yn 1767. Ystyrir ei gywydd i'r "Haul yn orchestol. Canmolai Goronwy Ddu ef."
  2. Mewn rhai ysgrifau, ceir y ddwy linell gynttaf yma fel hyn,―
    "Wele ser luaws eurwych—o flodau,
    Fel adar yn'r entrych."