Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo/Cyflwyniad

Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo
Cyflwyniad
gan Thomas Williams, Capelulo

Cyflwyniad
Ieuenctid


HANES BYWYD

THOMAS WILLIAMS

&c

Y MAE llawer o ffyrdd gan ddynion i wneuthur eu hunain yn hynod yn y byd; ond nid ydyw pob. math o hynodrwydd i genfigenu wrtho. Y mae y gwrthddrych y sonir am dano yn nhu dalenau y llyfr hwn yn uu o'r rhai rhyfeddaf a hynotaf a fu yn y byd erioed, a chymeryd ei holl fuchedd o'r dechreu hyd yma dan sylw. Buasai yn anhawdd genym, gredu fod yn bosibl i ddyn fyned i'r fatha ddyfnderoedd o drueni wrth ddilyn ei chwantau, oni buasai ini glywed y peth o'i enau ef ei hun. Y mae yr hanes yn debycach i ffug-chwedl nag i wirionedd ar lawer o gyfrifon; eto yr ydis yn gorfod creda mai gwir ydyw; oblegid na fedd y cyfaddefwr ddigon o fedr i ddyfeisio y fath ddarlun didor a chyson o ddrygioni, ac nid ydyw y peth ye elw nac yn anrhydedd iddo. Y mae y ffeithiau yn dyfod y naill ar ol y llall i glymu yn eu gilydd. Y mae y gweithredydd wedi bod drostynt ganoedd o weithiau yn nghlyw ei gyfeillion a'i gymydogion, ae y mae wedi eu hadrodd bob amser yr un fath. Efallai, y dywed rhywrai na ddylasid dodi y fath gasgliad o bethau rhyfedd wrth eu gilydd. Gan mai ysgrifenu hanes bywyd yr oeddid, yr ydyni ni yn barnu yn ostyngiedig y dylasid; a phe byddai hanes bywydau dynion yn cael eu hysgrifenu gyda mwy o onestrwydd, y byddai hyny yn llawer gwell i'r oesau a ddeuant na'r dull a gymerir. Gwnai y meddwl y byddai hanes holl gampau drygionus ac ysgeler dyn ar gof a chadw, i lawer un edrych pa fath lwybrau a wnelai i'w draed, wrth fyned drwy y byd; ond y mae y dull darnguddiadol a gymerir gyda hanes bywydau dynion, yn gyffredin, sef, peidio coffa ond yr hyn fydd yn anrhydedd iddynt, yn peri i amryw fod yn hollol ddiofal pa fath fywyd fyddant byw; oblegid y maent yn gwybod y bydd rhyw rai yn ddigon gofalus am eu coffadwriaeth fel na cheiff dim ond y da ei gyhoeddi. Y mae y Bibl yn rhoi y da a'r drwg am bob un yr ysgrifenai; heb hyny nid oes fodd cael allan y gwirionedd; ac nid ydyw coffa am y drygedd ond yn peri i'r daioni fod yn fwy dysglaer a llewyrchus. Y mae dangos y dyfnder y mae dyn wedi bod ynddo, mewn halogrwydd a thrueni, yn dangos mawredd y drugaredd a'i hachubodd; ac yn ei osod yntau dan rwymau parhaus yn ngolwg pob un i fod yn ddiolchgar am ei waredigaeth. Nid ydyw yn gweddu i rai a gafwyd yn isel iawn mewn pechadurusrwydd siarad yn uchel am y gweddill o'u hoes; gan nad beth fyddo eu rhinweddau ar ol eu galw o dywyllwch i oleuni ; oblegid y mae ganddynt hwy fwy o waith nag a allant gyflawni mewn amser byr i ddyfod i'r marc yr oedd ereill yn cychwyn oddiwrtho pan oeddynt hwy yn y ffos. Gormod o waith iddyn fyddo wedi bod dros ei ben am flyneddau mewn halogrwydd fydd enill digon o ragoroldeb yn fuan i'w osod ef mewn sefyllfa y gall lefaru yn hyf gyda golwg ar gyflyrau ereill. Dylai yn hytrach rodio yn alarus dros y gweddill o'i ddyddiau , a diolch am i'w gymydogion gymeryd sylw o hono; ac uwchlaw y cwbl am i'r Arglwydd gymeryd trugaredd arno, a rhoddi iddo le yn ei dy, ac enw yn mhlith ei bobl.

Y mae y Gymdeithas lwyrymataliol wedi ateb dyben goruchel yo amgylchiadau Tomos Williams, megis y gwelir yn amlwg. Bu iddo ef yn ymgeledd i'w godi ar ei draed fel creadur rhesymol i gychwyn ar lwybrau rhinwedd; ac er ei gynorthwyo i enill ymddiriedaeth y rhai a'i hadwaenent; canys yr oedd efe cyn myned yn llwyrymataliwr wedi myned tu allan i bob cylch yn y wladwriaeth; ac wedi ffurfio cylch iddo ei hun nad oes neb yn fynych yn troi yn ei gyffelyb; a'r cwbl oll er porthi angerddoldeb y chwantau ynfyd a niweidiol oedd ynddo. Wrth edrych dros yr hanes y mae yn drueni meddwl i amser dyn gael ei dreulio nid mor ddiwerth ond mor lygredig. Cafodd ei gychwyn allan heb addysg dymorol nac ysbrydol, mewn teulu tylawd; yr oedd yn rhyhwyr ei gael o'r ffordd. Ni chafodd gelfyddyd i'w dilyn; ond yr oedd ei gychwyniad allan yn arwain i segurdod ac i bethau gwaeth. Nid oedd ryfedd i'r Iuddewon ddyweud mai yr un peth oedd magu plentyn heb grefft a'i fagu yn lleidr. Pa swydd salach a allasai plentyn yn ei oed ef gael na dal penau ceffylau boneddigion, fel y geilw efe y rhai oedd yn dyfod i Lanrwst, y pryd hwnw; a gwneuthur man negesenau ar hyd y dref yr oedd hyny yn ei arwain yn union i ymofyn am ryw swydd segur; megis, glanhau esgidiau a chael myned yn ostler neu yn farchogwr; gan ei ddwyn ar unwaith i safn profedigaeth nad oes prin un o gant heb fyned yn ysglyfaeth iddi. Dyma y dosbarth tebycaf i anifeiliaid a drinir, ac a yrir ganddynt, ag sydd i'w gael yn yr holl fyd adnabyddus. Y maent yn dechreu eu gyrfa mewn twyll, ac yn ei threulio allan , yn gyffredin , mewn meddwdod. Y mae yn drueni gweled cynifer o ddynion mewn gwlad efengyl, yn treulio eu hoes o gwmpas y prif westai (inns, ac ar benau cerbydau, a phethau byd arall mor ddyeithr iddynt a phe byddent yn Hotentots. Yr ydym ni yn son am y dosbarth yma, yn gyffredin, ond gwyddom fod eithradau anrhydeddus yn bod. Y mae y rhai a elont i'r fath swydd yn derbyn llawer o'u talion drwy ddiod feddwol; ac y mae gyriedyddion y cerbydau yn cael eu bwrw ar drugaredd y teithwyr am eu cyflogau, yr hyn sydd hollol amheg. Y maent drwy hyny yn cael eu hanog i fyned yn anonest; ac os yn anonest, yn gelwyddwyr hefyd er mwyn cadw eu penau ar ol gwneud cam a'u meistri. Dyma lle cafodd Tomos Williams didechreu ei yrfa yn nghanol tyngwyr, rhegwyr, a meddwon halogedig; ac ni chafodd fantais i wybod yn more ei oes lle r oedd drygau yn dechreu, na rhinwedd a moesoldeb уп diweddu. Daeth yn fuan iawn i ddangos fod yn ei natur yntau gymaint o halogedigaeth ag oedd yn natur neb o honynt.

O fod yn yriedydd ceffylau aeth yn filwr; sef, y nesaf i geffyl o ran dim llywodraeth a fedd dyn drosto ei hun. Yr oedd efe, yn bresenol, mewn sefyllfa nodedig fanteisiol i holl aflendid a halogrwydd ei natur enynu allan; a gallem sicrhau y darllenydd na fu efe yn ol i'r milwr penaf am bob castiau drwg ac am feddwdod. Y mae y milwr mewn cyfleusdra nad all na ostler na gyrwr ceffylau gael ei chyffelyb. Gall ef, ar amgylchiadau neillduol, fwrw allan holl halogedigaeth ac aflendid cnawd ac ysbryd . Gall ladd, treisio, meddwi, rhwygo beichiogion, yspeilio, a llosgi tai a phobl heb fod yn agored i gael ei alw i gyfrif. Y mae yn ddeddf iddo ei hunan mewn amryw amgylchiadau. Y peth mwyaf y mae Tomos Williams yn gyfaddef yn ei erbyn ei hun yw meddwdod a phuteindra; nid ydyw yn son fawr am ei orchestion fel lladdwr ei gyd ddynion mewn gwaed oer; ond yr oedd ei gyflwr yn ddu iawn yn rhestr meddwon, godinebwyr, celwyddwyr, &c. tra bu gyda'r fyddin: yr oedd efe yn rhydd i wneud pob cast er mwyn cael diod. Costiodd i'w gnawd a'i esgyrn ddyoddef lawer gwaith o achos ei fariaeth. Wedi iddo ddyfod yn rhydd dilynodd yr unig swydd ag oedd yn debyg o gadw y defnyddiau oedd yn ei enaid llygredig i gyneu; sef, gyru gwartheg a moch. Bu mewn cyfyngderau mawrion lawer gwaith, ac nid oedd dim ond ei feddwdod a'i ddigywilydd-dra a allasai ei wared o honynt. Yr oedd efe, yn ddiameu, yn un gwir ddrygionus cyn ei ddychwelyd at grefydd; ac un o'r pethau rhyfeddaf yn yr oes hon yw ei fod ef yn fyw ar ol goddef cynifer o driniaethau celyd y buasai yn gofyn nerth behemwth i fyned drwyddynt? ond y peth rhyfeddaf oll yw ei fod yn proffesu crefydd. Nid oes gan neb ddim amgenach na da i'w ddyweud am dano, er pan y mae wedi ymuno â chrefydd. Y inae efe yn ffyddlawn hyd at ddiareb gyda phob moddion crefyddol; ac y mae yn ymddangos fel dyn yn cael hyfrydwch yn ffyrdd crefydd. Nid oes dim wedi cymeryd lle hyd yma i beri i neb ammeu nad ydyw Tomos Williams yn bentewyn wedi ei achub. Gyda golwg ar ei ardystiad y mae wedi cadw ato yn holol, er y dydd y dodes ei enw ar y llyfr. Yr ydym yn cwbl gredu fod cymaint o awydd ynddo am sefyll at ei air, yn hyn, ag oedd yoddo. o'r blaen at feddwdod a phechodau gwarthus ereill.


Yr ydym ni wedi cael cyfleusdra lawer o weith iau i'w glywed yn dyweud ei hanes yn ei gyflwr pechadurus; ac ymddangosai fel dyn yn teimlo o herwydd ei ddrygioni. On o'i wendidau penaf yw bod yn o lawdrwm ar ddynion sydd wedi byw yn well nag ef ar hyd eu hoes; os na fyddant yn cyd weled ag ef mwen pethau y mae dadl yn eu cylch. Y mae yn debyg ei fod ef yn rhy hen i ddiwygio llawer yn hyn; ond os ceir yr hyfrydwch o'i weled yn dal yn sobr ac yn grefyddol hyd ei fedd, maddeuir hyn iddo yn gystal a'i wendidau ereill . Derbyniodd anogaethau taerion lawer gwaith i ysgrifenu hanes ei fuchedd o'i febyd, a chydsyniodd yn ddiweddar. Bu ganddo wrthwynebiad yn hir i'r hen deitl ei ganlyn; ond gan mai enw ty ei dad, ac nid ei feddwdod a'i ddrygioni a barodd iddo gael ei alw yn Twm Capelulo, barnwyd mai gwell oedd iddo beidio diosg yr hen enw; oblegid hebddo byddai yn rhy anhawdd i ddyeithriaid wneud allan hanes pwy yw y llyfr.

Y mae yr hanes canlynol wedi ei ysgrifenu o' enau ef ei hun: a chan mai gwell fydd gan y darllenydd ei glywed ef na neb arall yn dyweud ei hanes, ymwrandawn arno ef.