Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo/Ieuenctid
← Cyflwyniad | Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo Bywgofiant gan Thomas Williams, Capelulo Bywgofiant |
Ei gyfnod milwrol → |
CEFAIS fy ngeni a'm magu yn Llanrwst, Swydd Dinbych, lle trigai fy rhieni a'u perthynasau. Yr oedd fy nhad yn Ffeltiwr, ac yn un o brif gantorion y Llan, a fy mam yn bobwraig. Nid oeddynt hwy na'r gweddill o'm teulu yn hynod mewn cywreinrwydd celfyddydol, na daioni, na drygioni; — yr oedd atal dywedyd ar bob un o honom. Arferwn fyned i wrando i'r Llan, oherwydd nid oedd gan yr Ymneillduwyr un Capel yn y dref oddigerth rhyw dy fyddai gan y Methodistiaid Calfinaidd, ac nid oedd ysgol Sul wedi dechreu; ond yr oedd ysgol ddyddiol ddigon rhad i'w chael i'r tylotaf o honom. Rhoddwyd finau ynddi am ychydig; ond deuais oddiyno cyn dysgu darllen na dim arall o les; a thrwy fy mod yn un o unarddeg o blant, a fy rhieni yn dylodion , yr oedd yn rhaid i mi fel hwythau ymdrechu enill rhywfaiat can gynted ag y gallwn. Arferwn ddal penau ceffylau boneddigion, a gwneud negesau a mân orchwylion hyd y dref. Byddai hen foneddigesau Maenan yn fy ngalw yn Tom Ddrwg. Pan oeddwn oddeutu deg oed , aethum at benau ceffylau rhyw gariwr oedd yn sefyll ar yr heol, a gofynodd y dyn i mi fyned gyda'r drol a'r ddau geffyl ychydig yn mlaen i'r naill du i'r dref, tra byddai yn myned i ryw dŷ; dywedais inau yr awn. Nid oeddwn yn gwybod fod gwahaniaeth rhwng gwaeddi ho, neu height, wrth y ceffylau, mwy na rhywbeth arall; a phan oeddwn yn myned dros bont lled gul , gwaeddais ho yn lle height, a nesodd y ceffylau ataf, nes y gwasgwyd fi rhwng yr olwyn ar wal, ac aeth fy ysgwydd o'i lle: a bu chwarter blwyddyn cyn llwyr wellâu. Byddai plant y dref yn arfer myned i chwareu hyd ffordd o'r bont fawr at Wydyr; ac un tro dygwyddodd fod yno luaws o fulod, a pherswadiodd y plant ereill fi i fyned ar gefn un o honynt, rhoisant ddrain a dail poethion dan ei gynffon yn ddiarwybod i mi; a chyn gynted ag y gollyngwyd ef, rhedodd yn mlaen nes y syrthiais a thori fy mraich . Cariwyd fi i'r dref, a bum yn sâl am dri mis.
Pan oeddwn oddeutu deuddeg oed, cefais fyned i'r Eagles Inn i lanhau esgidiau, lle yr ydoedd telynor o'r enw William Ellis yn cael ei gadw at wasanaeth y tŷ; a byddwn inau yn ei brovocio trwy ei ddynwared yn chwareu y delyn. Yr oedd yno foneddwr a boneddiges o'r Iwerddon yn aros i fwrw yr haf, y rhai a alwent am danaf yn aml i'w hystafell i ddynwared y telynwr, gyda choes ysgub neu rywbeth cyffelyb; ac yr oeddwn yn gwneyd mor debyg iddo ac yn eu difyru mor fawr, fel y gorchymynent roddi ciniaw i mi bob dydd braidd o'u bwyd eu hunain. Yr wyf yn cofio i mi ddyfod o hyd i boteli gwin gweigion yno, a fy mod wedi dyferu yr ychydig ddafnau ddygwyddodd fod yn eu gwaelod; a thrwy rhyw fân lymeidiau felly, yn nghyd ag ambell i lwnc gan y morwynion, am wneud negesau iddynt, dechreuais hoffi gwiriodydd nes arfer eu hyfed yn fynych. Yr amser hwnw yr oedd Coach fawr yn rhedeg o'r Amwythig i Gaergybi; a thra safai wrth bont Llanrwst i newid ceffylau, byddai'rhai boneddigion yn taflu arian oddiarni i'r afon, a neidiwn inau i'r gwaelod i'w codi, er mwyn eu cael, yn benaf, i'w rhoddi am ddiodydd meddwol.
Pan wnelun ryw ddrwg yn yr Eagles, rhedwn adref i Capelilo. (Capelilo y gelwid tŷ fy nhad am ei fod yn debyg i dŷ o'r enw yn Nwygyfylchi; ac oddiwrth hyny y gelwir finau hyd heddyw yn "Twm Capelilo.") Bum yno am ddwy flynedd yn farch was, (Ostler,) a thrwy fy mod yn fachgen bywiog, mentrus, a direidus, rhoddwyd fi i yru yr Express oddiyno i'r Cernioge, gyda merlyn gwyllt a chastiog o'r enw "Paul Jones". Un noswaith cyn i mi fyned yn 'mhell oddiwrth y dref, dychrynodd a neidiodd yn ol yn sydyn nes y syrthiais i lawr, a bum yn hir hyd y ffordd yn methu ei ddal, a thrwy hyny gorfu imi golli llawer o amser. Pan ddaethum yn ol, gorchymynodd Mr. Mouldsdale i ddau o'i weision fy nghuro yn yr ystabl. Ymadawais oddiyno ac aethum i'r Bull Conwy, i yru yr Express; ond cyn hir daethum yn ol i Lanrwst i yru coaches drachefn.
Ar ol bod am beth amser yn ngwasanaeth Mr. Titley, Penloyn, ymunais â Militia Sir Gaerynarfon, yn amser yr "Heddwch bach;" ac yr oedd guinea Sir yn dyfod i bob un o honom , yr hwn a wastreffais am oferedd tra yn exercisio yn Nghaerynarfon . Yn mhen tri mis daeth galwad (route) am y Militia i fyned i Loegr, a gosodwyd ni yn Canterbury, tu draw i Lundain. Aethom oddiyno i Bensi Barracks, yn Sussex, lle yr ymunais a'r fyddin yn filwr rheolaidd, gan dderbyn £ 10 o bounty, y rhai a weriais i gyd mewn tri neu bedwar diwrnod am ddiodydd i'w rhanu rhwng Militia Arfon, yn lle prynu crysau a phethau angenrheidiol ereill i fyned gyda'r fyddin. Aethum o Sussex i Chelsea; a chawsom orchymyn oddiwrth y llywodraeth ,gan Syr Arthur Wellesley, (Duke of Wellington,) i fyned oddiyno i Portsmouth; ac o Portsmouth hyd y môr i St. Iago, (un o ynysoedd Cape Verd,) lle dywedid fod Buonaparte wedi anfon llu o Ffrancod i'w chymeryd. Ar ol aros yno am fis, hwyliasom yn mlaen i Cape of Good Hope; ac oddiyno, yn mhen pythefnos, St. Helena; o St. Helena i Monte Vides, yn Neheudir America; ac o Monte Vides, hyd yr afon Plata i Buenos Ayres, lle yr oedd rhyfel yn myned yn mlaen rhwng ý Spaniards a'r Prydeiniaid. Rhoddwyd fi a 300 eraill i wylio Yspytty (Hospital) y Prydeiniaid. Yn mhen ychydig ddyddiau gorchymynwyd i mi a 15 ereill yn nghyd a swyddog, i fyned trwy y wlad yn genadon heddwch at ran o'r fyddin oedd mewn lle arall; a chaniateid i ni yspeilio tai y brodorion at ein cynaliaeth, Pan oeddym yn tori un tŷ