Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone/Rhagarweiniad

Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone

gan Henry Morton Stanley

Dyddiau Maboed

HANES

BYWYD AC ANTURIAETHAU

DR. LIVINGSTONE.

GAN

HENRY M. STANLEY

(MR. JOHN ROWLANDS, GYNT O DDINBYCH)

RHAGARWEINIAD

Dodwyd gweddillion dyn gwir fawr ac ardderchog i orwedd yn y bedd o dan gerrig llwydion llawr Mynachlog Westminster ddydd Sadwrn, y 18fed o Ebrill. Gorlanwyd yr adeilad hybarch gan alarwyr, a llanwyd yr heolydd trwy ba rai y cerddai yr orymdaith angladdol gan feibion a merched a fyfyrient gyda gwynebau pruddaidd a mynwesau llawnion o alar am y dynged a oddiweddasai yr hwn y cludid ei esgyrn i'w claddu gyda'r fath seremoni ddifrifol ac effeithiol. Miloedd o bobl a synasent ac a ryfeddasent trwy gydol y blynyddau wrth glywed am weithredoedd mawrion a hynodion tarawiadol cymeriad y dyn a gyflawnodd y gweithredoedd hyny a edrychent ar yr elorgerbyd gyda llygaid, awyddus i dreiddio trwodd hyd at wyneb y dyn, a meddyliau chwannog i sylweddoli hanes y teithiwri a gleddid gyda'r fath rwysgfawredd ac edmygedd

Ni feddai y mwyafrif o'r edrychwyr namyn syniad egwan am fawredd a gwerth gwirioneddol y gwaith a gyflawnasai y dyn y galarent hwy y golled am dano, canys er ymadawiad olaf y teithiwr o lanau Prydain, y mae cenedlaeth newydd wedi tyfu i fyny a chyrhaedd oedran a gallu i syniaw ac ystyried. Y mae bechgyn oeddynt y pryd hwnw yn analluog i ddirnad pa beth a gynnwysai cyfandir mawr agos hollol anadnabyddus yn ei fynwes anchwiliadwy weithian yn cyflawni dyledswyddau bywyd yn ngwahanol raddau a safleoedd cymdeithas, ac yn mwynhau y rhagoriaethau perthynol i annibyniaeth ac addfedrwydd oedran.

Ond yr oedd un teimlad yn meddiannu yr hen, yr ieuanc, a'r canol oed sef teimlad o barch am ddyn ag y cytunai pawb ei fod yn gyflawn o raslonrwydd a gostyngeiddrwydd ysbryd, a'r hunanymwadiad a'r dyngarwch penaf, y rhinweddau hyny sydd brined mewn oes fel y bresennol—oes wedi ei syfrdanu gan awydd am gyfoeth a moethau.

Y mae nodweddion a gyfrifir yn ganmoladwy hyd yn nod gan y rhai mwyaf bydol—nodweddion a gydabyddir yn rhinweddol gan y rhai balchaf a mwyaf trahaus. Nid rhyfedd, gan hyny, fod. Mynachlog ardderchog Westminster wedi ei llenwi ar yr achlysur hwn gan gynulleidfa o feibion a merched dylanwadol Prydain Fawr, a'r rhai hyny wedi ymgynnull i dalu teyrnged darawiadol o bạrch i weddillion perchenog y rhinweddau a nodwyd. —Naturiol oedd i heolydd y brif-ddinas fawreddog gael eu gwneyd yn dystion o'r deyrnged gyffredinol o edmygedd a dalai y boblogaeth i goffadwriaeth y cenadwr a'r teithiwr marw.

Os oes rhyw olygfa fwy tarawiadol ac effeithiol na'r un a ga llygad y meddwl ar sefyllfa y teithiwr unig yn llafurio ac yn ymdrechu er mwyn ei gyd-ddyn trwy y rhwystrau a'i hamgylchynant yn Nghanolbarth Affrica, rhaid addef mai dyma ydyw—yr olygfa ar y miloedd galarus yn wylo oherwydd y golled am y teithiwr gwedi ei farwolaeth, fel y gwelwyd hwy yn wylo yn heolydd Llundain ddydd Sadwrn, y 18fed o Ebrill, 1874.

Y mae gwybod y gellir enyn y fath gydymdeimlad dwfn ag a fynegwyd mor ddefosiynol, eto mor effeithiol, gan farwolaeth dyn mor dlawd a gostyngedig yn ein, gwneyd yn falchach o'n gwareiddiad ac yn peri i ni werthfawrogi ein gilydd yn well fel cydweithwyr yn yr un achos mawr, nag y buasem pe yr enynasid y fath gydymdeimlad gan farwolaeth gwr goludog neu un meddiannol ar ddylanwad politicaidd a gallu gwladol. Gwna hyn i ni fawrhau ein gilydd fel cyfangorff nerthol a galluog, pan yn unedig, i gyfranu bendithion i holl deulu dyn.

Y teithiwr ymadawedig a gladdwyd yn Mynachlog Westminster, ar y 18fed o Ebrill, oedd David Livingstone, yr hwn, am ei fawr a'i lafurus gariad ar ran y cenedloedd duon a gorthrymedig, a ryglydda ei alw yn Apostol Affrica. Ei fywyd ef oedd fywyd dyn a gerddai yn ostyngedig yn ffordd ei Arglwydd, a lwyr ymroddodd i wasanaethu ei Dduw, a ymdrechodd gyda gwyleidddra, ond eto gyda phenderfyniad ardderchog, a gwroldeb anorchfygol, i adfer cenedl ag oedd o'r braidd wedi ei llwyr anghofio gan Gristionogion y byd.

Wrth fyfyrio ar y cymeriad a adawodd efe ar ei ol fel esiampl ddysglaer i'r cenedlaethau a ddeuant, synir ni gan luosowgrwydd y nodweddion o fawredd ac ardderchawgrwydd a'i 'hynodai o'i febyd i'w henaint. Fel bachgen dinod yn y llaw-weithfa Ysgotaidd, hynododd David Livingstone ei hun ar gyfrif ei dueddiadau myfyrgar, ei ddiffuantrwydd, ei feddwl pybyr, a'i fawrygedd greddfol o werth addysg,

Fel Cenadwr efe a barodd syndod i'w gydweithwyr yn achos yr Efengyl ar gyfrif difrifoldeb a diffuantrwydd ei amcanion a'i weithredoedd, trwy ei ddyfalwch ymroddgar yn meistroli iaith ddyrus ac anhawdd ei dysgu, fel y gallai ei defnyddio yn nerthol a hyawdl, trwy y parodrwydd a ddangosai i ddyoddef pob caledi ac angenoctyd yn ngweinyddiad ei alwedigaeth, trwy, eangder ei amgyffredion a'i wybodaeth am angenrheidiau y gwaith, a thrwy yr awydd cydwybodol a'i llanwai am gyflawni ei waith hyd eithaf ei allu.

Fel ymchwiliwr efe a lanwodd ddynion ag edmygedd o'r beiddgarwch gyda pha un yr ymgymerai ag archwilio tiriogaethau anadnabyddus, trwy y dianwadalwch gyda pha un y cariai ei anturiaethau yn mlaen, gyda nerth rhyfeddol ei gyfansoddiad, trwy lareidd-dra, ei natur, yr hyn' a'i galluogai i ymgyfaddasu ar gyfer bywyd anwar yn ei holl agweddau, a'r awdurdod mawr a feddai 'ar feddyliau yr anwariaid.

Fel sylwedydd a gwyddonydd, nyni a'i hedmygem ar gyfrif dyfalwch trwyadl ei olrheiniadau i arferion, crefyddau, a'r deddfau a lywodraethant y llwythau anwaraidd; 'nodweddau y tiroedd newyddion, eu daearyddiaeth, natur eu planigion a'u hanifeiliaid, defnydd eu creigiau, a galluoedd cynnyrchiol eu gwahanol diroedd. Edmygem ef ar gyfrif y diwydrwydd a nodweddai ei olrheiniadau a'i deithiau, ei fedrusrwydd yn casglu ffeithiau hynod, a'r gronfa fawreddog o wybodaeth a roddodd efe i ni am gyfandir anadnabyddus.'

Fel dyn, edmygem ef oherwydd ei symledd ac plygrwydd ei feddwl, ei ostyngeiddrwydd nodedig, a'r caredigrwydd tyner, a'r llondid hapus a'i nhodweddai yn mhob cyflwr ac amgyllchiad.

Fel cyfaill, efe a synai bawb ar gyfrif diffuantrwydd ei gyfeillgarwch, yr addfwynder a lywodraethai ei gysylltiadau cyfeillgar, sefydlogrwydd y rhwymau cyfeillgar a'i hunent â'r rhai a ddeuent i gyfarfyddiad âg ef, a'i natur agored, gywir, a charuaidd.

Gwelir yr amrywiol nodweddau cymeriadol hyn, yr oll o ba rai yn nghyd a wnant ddyn gwir dda ac ardderchog, wedi eu dadblugu yn y cofnodion canlynol o Fywyd, Llafur, ac Ymchwiliadau David Livingstone.