Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone/Dyddiau Maboed

Rhagarweiniad Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone

gan Henry Morton Stanley

Y Cenadwr

PENNOD I.

DYDDIAU MABOED

GANWYD David Livingstone yn Mlantyre, swydd Lanark, Ysgotland, ar y 19eg o Fawrth, 1813. Yn y rhagymadrodd dyddorol i'w lyfr ar ei "Deithiau, ac, Ymchwiliadau yn Neheudir Affrica," cawn adroddiad ganddo ef ei hun am ei haniad a'r modd y treuliodd efe foreu ei oes. Yn ngeiriau agoriadol y buchdraith hwnw, dengys Livingstone ei fod yn cyfranogi o falchder 'traddodiadol trigolion yr Ucheldir o'u cenedl a'u henafiaid. Teimla yn falch oherwydd ei fod yn alluog i ddyweyd ddarfod i'w daid ymladd a marw dros deulu Stuart yn Mrwydr Culloden. Yna, gyda diffuantrwydd tarawiadol ag sydd yn anrhydedd iddo ef a' chenedl yr Ucheldir, o ba un yr hanodd, efe a edrydd hanes teuluaidd a brofa mai meddyldrych mawr, llywodraethol ei deulu oedd bod yn onest. Dywed fod un o'i henafiaid, pan ar ei wely angau, wedi galw ei blant ato, gan eu hysbysu ddarfod iddo ef ddyfal chwilio yr holl gofnodau teuluaidd, yn mha rai y methodd a chanfod cymaint ag argoel o anonestrwydd yn hanes ei henafiaid, ac o ganlyniad yr oedd efe yn testamentu iddynt fel etifeddiaeth gyffredin y cynghor—Byddwch Onest."

Amaethwr yn Ulva oedd ei daid, yr hwn, wedi canfod nad oedd cynnyrch ei dir ddigonol i gynnal ei deulu lluosog, a ymadawodd ac a aeth i Weithfeydd Cotwm Blantyre.

Ei ewythroedd a ymunasant â gwasanaeth y Brenin fel milwyr a morwyr, ond ei dad a arhosodd yn Mlantyre; a phan y cyfeiria Livingstone at gymeriad ei riant, arddengys deimlad o falchder gwresog wrth adrodd fel y cofiai ac y parchai efe arwyddair ardderchog y teulu—"Bydd Onest." Ymchwydda ac ymwresoga ei falchder cyfreithlon fwyfwy wrth ddesgrifio y modd cydwybodol y cariai ei dad y rhinwedd traddodiadol hwn i weithrediad yn y cymeriad o fasnachydd bychan mewn te. Cofnodir hefyd ddarfod i'w dad, yn ychwanegol at egwyddori ei blant mewn gonestrwydd, eu dwyn i fyny mewn modd crefyddol yn athrawiaethau Eglwys Bresbyteraidd Sefydledig Ysgotland. Hysbysa y teithiwr enwog yn mhellach fod duwioldeb cyson ac esiampl dda yn teilyngu y diolchgarwch mwyaf a'r warogaeth uchaf oddiar ei ddwylaw ef.

Am ei fam, efe a lefara gyda'r edmygedd a'r parch mwyaf, gan ei desgrifio fel mam awyddus a phryderus i ymarfer cynnildeb, er mwyn gwneyd i ddau ben llinyn yr amgylchiadau teuluaidd gyfarfod yn hwylus,

Yn yr oedran cynnar o ddeng mlwydd, galwyd ar David ieuanc i gyflwyno ei wasanaeth plentynaidd tuag at gynnaliaeth y teulu, a chyflogwyd ef yn Melin Gotwm Blantyre. Wedi dechreu ohono weithio y dydd, efe a gyflwynodd ei brydnawniau i efrydu. Ar brydiau, ceid ef yn dilyn ei efrydiau a'i ymchwil am wybodaeth nes peri dychryn i'w fam, yr hon, mewn pryder am ei iechyd, a ymyrai yn benderfynol, trwy gymeryd ei lyfrau o'i ddwylaw a'i anfon yntau i'w wely.

Yr oedd oriau gwaith yn y Felin yn feithion—o chwech yn y boreu hyd wyth yn yr hwyr, heb ddim gorphwys ond yn unig dros amser boreufwyd a chiniaw. Modd bynag, er gwaethaf y fath lafur dyddiol hirfaith, efe a lwyddodd i gasglu swm mawr o wybodaeth trwy osod ei lyfrau ar garfan y gwehydd, o flaen ei lygaid, a dilyn ei wersi y nos gydag athraw a gadwai ysgol am bris cyfiseled fel y gallai hyd yn nod y plant tlotaf fwynhau manteision ei hyfforddiant.

Yn y modd yma, trwy hunanymroddiad dyfal, y gosododd Livingstone i lawr sylfaen ei addysg. Llyfrau gwyddonol a hanesion teithiau a dynent ei fryd a'i sylw penaf; ac yr oedd cwrs ei ddarlleniad yn cynnwys rhai o'r llyfrau clasurol mwyaf dewisedig, megys yr eiddo Homer, Virgil, Horace, ac Ovid.; ac nid esgeulusodd y fath ddoethineb grefyddol ag a geid trwy efrydu "Athrawiaeth Crefydd," "Athroniaeth Sefyllfa Ddyfodol," ac yn enwedig y Beibl. Sut bynąg; oddiwrth efrydu y Llyfr olaf—ffynnonell ddihysbydd ysbrydoliaeth grefyddol—ac, oddiwrth y gofal a fynwesid gan ei rieni'i nawseiddio ei feddwl a gwybodaeth Gristionogol, y tueddwyd ef i gyflwyno ei hun yn gyfan gwbl i lafur Efengylaidd, ac i gyflawni dyledswyddau cenadwr awyddus i hyrwyddo cyhoeddiad yr Efengyl i drigolion pob parth o'r byd, ac i liniaru dyoddefiadau a lleihau trueni dynoliaeth.

Wrth fyfyrio am y modd mwyaf effeithiol i wneyd daioni i'w gyd-ddynion, a chwedi darllen am yr hyn a wnaethid gan deithwyr a chenadon ereill dros achos Crist, efe a benderfynodd fyny peth gwbodaeth o'r gelfyddyd feddygol, gan farnu yn gywir y byddai y wybodaeth hono yn gynnorthwy gwerthfawr i ymdrechion Efengylydd.

Fel yr heneiddiai, ac fel yr ymeangai ei feddwl wrth ddrachdio yn barhaus o gwpan ysbrydoledig gwybodaeth, efe a ganfu werthfawredd gwybodaeth o egwyddorion daeareg, a gwnaeth deithiau ymchwiliadol meithion gyda glanau yr afon a thros y bryniau cylchynol yn nghwmni ei frodyr John a Charles, yr hyn, heblaw boddhau ei gariad at olygfeydd natur, a fu hefyd yn foddion i gadarnhau ei benderfyniad i ddyfod yn genadwr dros Grist i wledydd pellenig.

Pan yn bedair ar bymtheg oed, dyrchafwyd ef i'r gelfyddyd uwch a mwy enillgar o nyddiedydd cotwm, trwy yr hyn y daeth i enill gwell cyflog ac i feddu moddion i dalu am y fraint o gael gwrando darlithiau prydnawnol ar feddygaeth a duwinyddiaeth. Heb gynnorthwy neb arall, efe a gynnaliodd ei hun dros y gauaf yn Nglasgow, i efrydu y canghenau a nodwyd; a'r haf dilynol a dreuliodd i lafurio dros oriau meithion yn ddyddiol wrth ei droell gotwn. Gweithiai lawer mwy na'r oriau arferol er mwyn enill moddion i ddilyn ei efrydiau yn ystod y gauaf.

Ei wladgarwch, a'r teimlad gwir Seisnig hwnw, edmygedd o weithredoedd clodfawr ei gydgenedl—y teimladau a amlygasant eu hunain mor fynych yn ei darfodaethau dilynol â dynion barbaraidd—y teimladau goruchel hyn a feithrinwyd yn effeithiol yn ei fynwes gan yr amrywiol gofgolofnau hanesyddol oddiamgylch Blantyre, megys Priordy Blantyre, Pont Bothwell (lle y gorchfygwyd y Cyfammodwyr gan Monmouth yn 1679), yn nghyda'r lluaws golygfeydd oddiamgylch Hamilton, y rhai ydynt gyflawn o ddyddordeb barddonol a hanesyddol. Ysgrifau Syr Walter Scott ac ereill a wasanaethasant i enyn yn ei fynwes barch mawrfrydig i ogoniant yr Ysgotland yn yr amser gynt, yn nghyda'r gwladgarwch uchel ac angerddol hwnw a ysbrydolodd. ei mheibion i enill iddynt eu hunain anrhydedd mewn rhyfel ac mewn heddwch agos yn mhob gwlad o dan haul.

O'r diwedd, wedi llafurio yn bybyr, fel bachgen Ysgotaidd gwrolfryd, i orchfygu anhawsderau a rhwystrau tlodi, ac i gyfaddasu ei hun i lanw y cylch y rhyngasai bodd i Dduw enyn yn ei galon awydd i'w lanw, daeth yr amser i brofi swm y wybodaeth feddygol a gasglasai efe trwy ei hunan-addysgiant llafurfawr. Arholwyd ef gan Fwrdd Meddygol, pryd y daeth trwy y prawf llymaf mewn modd anrhydeddus, ac y cafodd ei wneyd yn un o Drwyddedogion Cymdeithas y Physygwyr a'r Meddygon.

Yr oedd Livingstone wedi dilyn ei efrydiau meddygol gyda'r bwriad o'u defnyddio er budd y Chineaid, fel Physygwr Cenadol; ond erbyn yr adeg iddo dderbyn ei raddogaeth, yr oedd ei faes dewisedig wedi cau yn ei erbyn trwy doriad allan ryfel y pabsudd (opium war). Gwedi ei gynghori gan gyfeillion yn nghylch yr annoethineb o geisio cario allan ei fwriad cyntefig, efe a gynnygiodd ei hun fel ymgeisydd am le yn ngwasanaeth Cymdeithas Genadol Llundain, "am nad oedd hono (yn ei eiriau ef ei hun) yn anfon Esgobyddiaeth, Presbyteriaeth, nac Annibyniaeth i'r Paganiaid—dim ond Efengyl Iesu Grist yn unig." Yr oedd y cynllun rhyddfrydig hwn yn gwbl gydweddol a'i syniadau eang a goleuedig ef am ddyledswyddau efengylydd.

Oddeutu yr adeg hon, yr oedd ymdrechion cenadol Robert Moffat yn Nheudir Affrica yn tynu sylw pawb, ac yn destynau clod a chanmoliaeth trwy Brydain Fawr. Gwedi mwy nag ugain mlynedd o brofiad yn mhlith llwythau Bechuana, dychwelsai Robert Moffat i Frydain, ac yr oedd efę ar y pryd yn ysgrifenu hanes y gwaith da a gyflawnasid ganddo yn Affrica.

Ac efe yn gyflawn o ysbryd awyddus i efelychu ymdrechion dynion daionus yn ngwaith Crist; David Livingstone a ymofynodd am yr anrhydeddus Moffat, gan geisio ei gynghor; a'r cenadwr profiadol, yntau yn gyflawn o'r brwdfrydedd sancteiddiaf dros ei alwedigaeth gysegredig, a gyfarwyddodd y dysgybl ieuanc yn nghylch y modd mwyaf effeithiol i gario allan ei gynlluniau hir fabwysiedig, gan awgrymu y buasai Deheudir Affrica yn faes tra dewisiol iddo ymgymeryd â'i lafurio. Canlyniad ymweliad Livingstone ieuanc â'r cenadwr enwog a fu i'r blaenaf dderbyn y dyledswyddau a gynnygiasid iddo gan Gymdeithas Genadol Llundain; a mordwyodd i Affrica yn y flwyddyn 1840, ac efe yn y seithfed flwydd ar hugain o'i oedran.

Yn y ddwy flwydd ar bymtheg cyntaf o fywyd Living stone, nyni a welsom arwyddion digonol i brofi ei fod ef yn uwchraddol i ddynion cyffredin. Cawsom brawfion o hyn yn ei ymdrechion diflin i ymddyrchafu uwchlaw y dosbarth yn mhlith pa un y'i ganesid—trwy gwrs ymroddgar o hunan-ddiwylliant, a'i waith yn ymgyfaddasu gydag ysbryd dewr gogyfer â'r yrfa ddewisedig, yr hon, ar ei laniad yn Affrica, y cawn ef ar fedr, ei chychwyn. Gwelsom ddechreuad dyn ardderchog, yn hanu o ddefnydd mor anaddfed a bachgen o wehydd mewn melin gotwm. Efe a ymddadblygodd trwy nerth elfenau dyrchafedig mawredd dynol, y rhai a etifeddwyd ganddo yn ddamweiniol oddiwrth Natur ei hun. Gan ymddyrchafu o ddinodedd bachgen tlawd, ond addawol, yn mhen tri mis wedi ei ymadawiad o Loegr, cawn ef yn glanio fel cenadwr ar ddaear Affrica Ddeheuol. Bydded i ni ei ddilyn, gan sylwi ar ogwyddiad ei lwybrau a'i ymdrechion.