Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone/Y Cenadwr

Dyddiau Maboed Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone

gan Henry Morton Stanley

Yr Ymchwiliwr Cenadol

PENNOD II

Y CENADWR

Yn fuan gwedi cyrhaedd ohono i Cape Town, cychwynodd David Livingstone i'w daith gyntaf, heibio i Arfor Algoa, i orsaf Kuruman, pwynt pellaf y genadaeth a sefydlasid gan Mr. Hamilton a Mr. Moffat. Yn ystod ei daith hirfaith dros y tir, fynyched y darfu i ddychymyg y cenadwr ieuanc geisio treiddo tuhwnt i'r gorwel bythgyfnewidiol, gan ymofyn rhagolwg ar yr yrfa a'r. dyfodol oeddynt o'i flaen! Fel pob meddwl egniol a bywiog, rhaid ei fod wedi delweddu yn nghysegrleoedd dirgelaidd ei galon luoedd o ddarluniau o ranau mewnol y wlad yn nghylch yr hon y clywsai efe gynnifer o draddodiadau gwylltion. Rhai o'r cyfryw ddarluniau yn ddiau a sylweddolwyd, ac ereilla brofasant yn lledrithiol. Ond nifer bynag o freuddwydion disylwedd a ffurfiodd ei ddychymyg, yr oedd yr adeg hon yn un buredigaethol iddo ef—yn adeg arbenig ie barotoad a'i gyfaddasiad gogyfer â'r genadaeth bwysig a chysegredig yr ymgymerasai â'i chyflawni. Rhaid fod y cyfarwyddiadau a dderbyniasai gan Gymdeithas Genadol Llundain yn wahanol i'r cyfarwyddiadau a roddir yn fynych i rai dibrofiad, canys wedi iddo gyrhaedd Gorsaf Kuruman, canfyddwn oddiwrth yr adroddiad o'i deithiau ddarfod iddo, ar ol mwynhau tymmor byr o orphwysdra, ymadael yn nghwmni cenadwr arall i wlad y Bakwainiaid, ar ba un yr oedd yr enwog Sechele yn benaeth.

Dychwelodd i Kuruman yn fuan drachefn, ac a aeth oddiyno i fan a elwid Lepelole, lle y tariodd am gyfnod o chwe' mis, gan lwyr ymwrthod â Chymdeithas Ewropeaidd o bob math, modd y gallai lwyr feistroli iaith y Bakwainiaid, a chyrhaedd dealltwriaeth drwyadl am ffyrdd, arferion, a defodau y bobl yn mhlith pa rai y bwriadai efe ymsefydlu. Yn ystod ei arhosiad yn Lepelole, darparodd gogyfer a gwneyd yno sefydliad cenadol. Gwnaeth gamlas i ddyfrhau y gerddi, a chyfododd wrychoedd oddiamgylch lleiniau bychain o dir diwylliedig, ac a adeiladodd feudai, ysguboriau, &c. Efe a amrywiaethai lafur rhagarweiniol ei genadaeth trwy wneyd teithiau i blith llwythau Bakaa, Bamangwat, a Makalaka, pryd yr enillodd iddo ei hun uchel anrhydedd yn ngolwg yr holl frodorion trwy wneyd teithiau llafurfawr ac anhawdd eu cyflawni.

Gwedi ei hunanalltudiaeth gwirioneddol yn Lepelole, efe a dalodd ail ymweliad â Kuruman i'r dyben o gyrchu ei gludnwyddau i'r sefydliad newydd; ond yn fuan, efe a glybu y newydd fod y Barologiaid wedi ymosod ar Lepelole, ac wedi ymlid ymaith y rhai y bwriadasai efe eu proselytio, yr hyn a barodd iddo droi allan drachefn i ymchwil am faes cyfaddas i sefydlu arno genadaeth.

Yn 1843 disgynodd ei ddewisiad terfynol ar Ddyffryn y Mabotsa fel lle cyfaddas i gychwyn ynddo sefydliad. Y Bakattiaid ar y pryd a fawr flinid gan lewod, y rhai, trwy gael eu hir oddef, oeddynt wedi dyfod mor hyfion fel yr ymwelent a'r buarthau a'r corlanau i ddinystrio anifeiliaid y brodorion. Yn ei ymdrech i gynnorthwyo у bobl i attal dinystr eu deađelloedd, trwy ymuno â hwy geisio lladd llew, ac felly i gynyrchu ofn yn mhlith y cyniweirwyr dinystriol, y dygwyddodd yr amgylchiad a alluogodd gyfeillion Livingstone i adnabod ei weddillion wedi y dygwyd y gweddillion hyny i Frydain i'w claddu. Ar eu mynediad allan o'r dyffryn, y cwmni a ganfyddasant y llewod ar fryncyn coediog. Yna y bobl a ymffurfiasant yn gadwyn oddiamgylch y bryncyn, gan amgau at eu gilydd fel y dringent i fynu ei lethrau. Safai Livingstone işlaw, gydag ysgolfeistr brodoraidd o'r enw Mebalwe, pryd y gwelodd lew yn eistedd ar graig yn nghanol y cylch dynol. Saethodd Nebalwe at y bwystfil, ond methodd yn ei anneliad; ac ar hyny y llew a gyfododd, gan gnoi y graig yn nghorphwylledd ei gynddaredd, ac yn ebrwydd wedyn torodd trwy y cylch a diangodd. Yn fuan ar ei ol, y llewod ereilla dorasant trwy y cylch yr un modd, a hwythau hefyd a ddiangasant yn ddiglwyf. A hwynt hwy yn dychwelyd i'r pentref yn aflwyddiannus, y cwmni a ddaethant ar warthaf llew arall yn eistedd ar graig fel y lleill. Pan oddeutu deg llath ar hugain oddiwrth y bwystfil hwn, Livingstone, gan gymeryd anneliad gofalus a chywir, a ergydiodd ato trwy friglwyn oedd rhyngddo ag ef. Yn unol a'u harferiad traddodiadol, y brodorion a lefasant mewn geiriau, "Y mae o wedi ei saethu, wedi ei saethu," ond ar amrantiad Livingstone a ganfu gorff y llew megys yn dychlamu trwy yr awyr. Y bwystfil a ymaflodd yn ysgwydd y teithiwr, gan ei daflu i lawr mewn eiliad, a'i ysgwyd fel ped ysgydwid llygoden gan ddywalgi. Hyd yn nod yn y sefyllfa arswydus yna, ni chollodd y teithiwr unrhyw gynneddf feddyliol, er i ryw ledwagder gwibiog, ddyfod drosto, yr hwn a eilw ef yn "fath o lesmair, yn mha un nid oedd feddyldrych am boen na theimlad o arswyd."

Ni chafodd ofn loches yn ei fynwes, er fod y llew yn chwythu ei ddrygsawr mileinig i'w ffroenau. Cadwodd ei lygaid i edrych yn llygaid y llew gyda math o ymwybyddiaeth dyeithr ac anarluniadwy o absenoldeb perygl. Trwy symud ei ben yn arafaidd, efe a waredodd ei hun oddiwrth bwys pawen y llew, yr hon oedd yn gorphwys ar ei wegil, ac wrth wneyd hyn canfu Livingstone y bwystfil y'n edrych tuagat Mebalwe, yr hwn a safai o fewn oddelitu deg llath, gan geisio saethu ato. Dryll Mebalwe a wrthododd danio, a'r llew a neidiodd ar gorff ei wrthwynebydd ac a'i brathodd yn ei glun, Rhuthrodd y llew ar ddyn arall a geisiodd waredu Mebalwe, a chydiodd yn ei ysgwydd; ond dyna oedd yr ymdrech olaf, canys fe syrthiodd yn farw yn y fan oddiwrth effeithiau y clwyfau a dderbyniasai. Torwyd braich Livingstone yn ymyl ei ysgwydd, a maluriwyd yr asgwrn yn ysgyrion. Ni ddodwyd y fraich yn ei lle byth yn briodol; a'r canlyniad o ddiffyg cynnorthwy meddygol cyfaddas ar y pryd a fu'i'r fraich fyrhau cryn lawer trwy i benau yr asgwrn drylliedig basio eu gilydd. Gwellhaodd yr aelod toredig, ond parhaodd yn gwbl ddiwerth i ddybenion yn galw am nerth braich; ac yr oedd llyfr o faintioli gweddol yn gymaint baich ag a allai y fraich hono ddwyn o hyny allan.

Daeth Livingstone i deimlo ymlyniad wrth y Bakwainiaid, a gwnaeth broselyt o Sechele, eu penaeth, yr hwn a gredodd Gristionogaeth mor ddiffuant fel y daeth ef ei hun i fod yn bregethwr a dadleuydd brwd dros yr Efengyl. Ac efe wedi arfer derbyn ufudd-dod, Sechele, ar y cyntaf, a deimlai anhawsder dirfawr i beidio gorfodi ei bobl trwy gyfrwng y fflangell i gredu yr hyn a ddywedid ganddo am Gristionogaeth. Gwedi gwrando ar y cenadwr yn apelio at y bobl i broffesu Crist, a chwedi datgan ei dosturi a'i gydymdeimlad oherwydd yr hyn a ystyriai efe yn llafur areithyddol diangenrhaid, Sechele a gyfarchodd Livingstone un dydd, gan ddywedyd:

"A ydych chwi yn dychmygu y bydd i'r bobl hyn byth eich credu trwy siarad â hwy yn unig? Nis gallaf fi gael ganddynt wneyd dim ond trwy eu curo; ond os mynwch, mi a anfonaf am fy mhrif weision, a chyda'n fflangellau nyni a wnawn iddynt oll gredu 'ar, unwaith".

Y Bakwainiaid oeddynt ar y pryd yn preswylio yn Chonuane; ond yr oedd y lle hwn yn ddarostynedig i sychder peryglus ar brydiau. Yn ystod ei wibdeithiau trwy y wlad, darganfyddasai Livingstone ffrwd brydferth o ddwfr pur, yr hon a elwid y Kolobeng, o fewn oddeutu deugain milldir i Chonuane. Perswadiodd y cenadwr y Bakwainiaid i ymfudo i randir prydferth ar lanau yr afon hon. Ar lanau y Kolobeng, darfu i'r trydydd sefydliad cenadol a blanwyd gan ein Genadwr flodeuo a llwyddo mewn modd dymunol. Torwyd yno gamlas, trwy gyfrwng pa un y dyfrheid y wlad gylchynol. Heblaw adeiladu ei dy â'i ddwylaw ei hun, darfu i Livingstone hefyd gynnorthwyo i adeiladu ty i Sechele, ac arolygu adeiladiad Eglwys Genadol. Efe a ddysgasai gelfyddydau y gof a'r saer yn Kuruman, a'r prif genadwr profiadol ac ymarferol Moffat a ddysgasai iddo y gelfyddyd o wneyd ei hun yn ddefnyddiol mewn sefydliad newydd. Tra yr oedd Livingstone yn llifio coed ac yn curo haiarn er budd ei genadaeth, ac yn diwyllio ei ardd ac ychydig dir llafur i'r dyben a gynnysgaeddu ei deulu â grawn a ffrwythau, yr oedd ei wraig yn gwneyd canhwyllau a sebon, yn nghyda dillad i'r teulu. Gellir crybwyll yn y fan hon ddarfod į Livingstone, yn ystod ei ystod ei ymweliadau i Gorsaf Kuruman, weled merch wylaidd a llednais y Parch, Robert Moffat, at yr hon y coleddodd efe gariad, yr hyn a derfynodd mewn priodas rhyngddynt. Y cwpl ieuanc a dreuliasant eu mis mel yn mhlith y Bakwainiaid cyfeillgar, y rhai a'u derbyniasant fel eu cymwynaswyr a'u gwir ewyllyswyr da.

Cyfarfyddodd cenadaeth Kolobeng â llawer rwystrau; ac nid dedwyddwch digymysg a fu rhan y cwpl Cristionogion ardderchog yn y llanerch anghysbell hon o Affrica. Yr oedd y wlad oddiamgylch Kolobeng yn ddarostyngedig i dymmorau o sychder dinystriol, ac yn niffyg gwlaw deuai y cymysgedd priddlyd yn hollol galed ac anffrwythlon, a'r ddaear i edrych yn llom a diffaeth, a phob planhigyn ac eginyn yn edwino ac yn trengu ar ei gwyneb. Oherwydd hyn, nid oedd yno gyflenwad rheolaidd o ymborth; a mynych y gorfodid y gwrywod perthynol i'r sefydliad i fyned oddicartref am wythnosau mewn ymchwil am gigfwyd pryd na byddai grawn o un math i'w gael.

Heblaw hyn, yr oedd dylanwad drygionus arall hefyd yn llesteirio llwyddiant tymmorol ac ysbrydol trefedigaeth Kolobeng. Mewn llawer gormod o agosrwydd i'r lle er les y genadaeth yr oedd y Boeriaid Seisnig ac Is-Ellmynaidd, neu amaethwyr Mynyddoedd Cashan, Yr oedd y penrhyddid difyr a'r annibyniaeth didrefn a fwynheid gan yr ymfudwyr amaethyddol cyntefig wedi tynu sylw llawer o gymeriadau drygionus, y rhai a deimlent y gyfraith Brydeinig yn Nhrefedigaeth y Cape fel iau annyoddefol. Yr oedd y rhai hyn hefyd, yn ol eu tyb eu hunain, wedi derbyn anghyfiawnder trwy yn hyn a alwent yn rhyddhad diachos y caethion Hottentotaidd; a chan ddilyn tueddfryd eu meddyliau ffromllyd, hwy a gydymunasant i ffurfio math Weriniaeth yn Magaliesberg, o dan gyfreithiau ystwyth yr hon y gallent gadw caethion a mwynhau y rhagorfraint anmhrisiadwy o orfodi llafurwyr i weithio iddynt hwy heb na chyflog nac ymborth.

Gellir crybwyll dernyn dyddorol o hanesiaeth Affricanaidd yn y fan yma er dangos mor ryfeddol debyg yw hanes yr holl genhedloedd duon a gwynion yn mhob parth o'r byd. Adgofir darllenwyr Seisnig fel gwahoddwyd y Sacsoniaid i Loegr i gynnorthwyo y Brytaniaid yn erbyn eu gelynion, a'r modd y darfu i'r Sacsoniaid hyny drachefn feddiannu Lloegr. Preswylid Mynyddoedd Cashan gan y Bechuaniaid, y rhai a fawr flinid gan draha anwar y Caffreriaid, o dan Benaeth o'r enw Dingaan. Pan glybuasant fod dynion gwynion yn awyddus i ymsefydlu yn eu plith, y Bechuaniaid a groesawasant y bwriad gyda brwdfrydedd. Ond ni buont amser maith cyn deall, fod y Boeriaid gwynion yn waeth na hyd y nod y Caffreriaid, er mor annyoddefol oedd y rhai olaf. Yn ol eu dywediad hwy eu hunain:—"Y Boeriaid a ddinystrient eu gelynion ac a wnaent eu cyfeillion yn gaeth-weision." Yn gyfnewid am ganiatad i fyw o dan aden eu hamddiffyniad hwy, y Boeriaid a orfodent y bobl i wrteithio eu tiroedd, i'w chwynu, medi, cyfodi arnynt adeiladau, a gwneyd iddynt lynau a chamlesydd; a chynnal eu hunain yn ychwanegol at y cwbl. Gan fod y Bakwainiaid yn perthyn i'r llwyth Bechuanaidd, ac yn preswylio mewn dosbarth a gytrifid o fewn terfynau y Weriniaeth, cyfrifid; hwythau yn mhlith y llwythau oeddynt ddyledus i lafurio am nawddogaeth ac amddiffyniad y ffermwyr gwynion. Ni phetrusodd Livingstone gyfodi ei lais yn erbyn y gorthrwm annuwiol hwn; ac oherwydd hyny, daeth yntau hefyd yn wrthddrych dygasedd y Boeriaid, y rhai a ddyfal ddysgwylient am gyfleusdra i ddial arno.

Gan ddilyn ei syniadau arbenig ei hun am nodwedd dyledswyddau cenadwr, mabwysiadodd Livingstone gynllun gwahanol i'w ragflaenoriaid, trwy fyned a'r Efengyl i blith llwythau Paganaidd oddiamgylch ogylch Kolobeng, gan deithio tri chant o filldiroedd i'r dwyrain. Ni ddysgwyliai ef i'r Paganiaid ddyfod i ymofyn yr Efengyl, ond penderfynodd fyned a'r Efengyl atynt hwy, ac felly gyflawni yn llythyrenol orchymyn ei Feistr Mawr—"Ewch a phregethwch yr Efengyl i'r holl genedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glan." Ar ei ddychweliad o daith genadol o'r natur yma, canfu Livingstone fod gelyniaeth y Boeriaid tuagat y cenadon yn cynnyddu, ac aeth at eu Penaeth a'u Llywiadur i'w rhybyddio o'r perygl a ddeilliai o geisio attal cynnydd a rhydd-rediad yr Efengyl yn mhlith y llwythau anwaraidd. I hyn yr atebodd y Penaeth Boeraidd ei fod ef yn bwriadu ymosod ar unrhyw lwyth a dderbyniai genadwr brodorol. Gwedi canfod nad oedd bosibl perswadio yr amaethwyr anhyblyg trwy ymresymu â hwy, penderfynodd Livingstone ymchwil am lanerch gyfleus a chyfaddas yn mhell oddiwrthynt, lle y gallai ymsefydlu gyda'i ddeadell Gristionogol heb iddynt fod yn achos o gyffro a therfysg. Yn ystod ei wibdeithiau oddiamgylch Kolobeng, efe a glywsai yn fynych fod tir ffrwythlon a dymunol yn gorwedd i'r gogledd tu hwnt i anialwch Kalahari. Yr oedd Sekomi, Penaeth Bakwainaidd, yn gwybod am ffordd ar hyd yr hon y gellid croesi yr anialwch yn ddiberygl, ond cadwai y Penaeth bob gwybodaeth am y ffordd hono yn gwbl iddo ei hun. Ar gais Livingstone, y Penaeth daionus Sechele a anfonodd genadon at Sekomi, gydag anrhegion dymunol, i erfyn caniatad i'r teithiwr gwyn groesi ei diriogaeth, Ond mam Sekomi, yr hon oedd yn meddu dylanwad mawr ar y Penaeth, a wrthododd roddi y fath ganiatad, a gwrthodwyd hefyd gais dilynol yr un modd, ar y sail y gallai y Matabeliaid, gelynion y Bechuaniaid, niweidio neu ladd y dyn gwyn, a dwyn ar bobl Sekomi waradwydd oherwydd hyny. Gwedi ei attal i groesi yr anialwch trwy yr esgusawd hwn, penderfynodd Livingstone gyrhaedd i'r tir ffrwythlon yr ochr draw trwy amgylchu yr anialwch ar yr ochr ddwyreiniol. Y Milwriad Steele (y presenol Is-Gadfridog, Syr Thomas Steele), yr Uwch-Gapten Frank Vardon, a Mr. W. C. Oswell a ddygwyddasant fod yn y parth hwn o Affrica ar y pryd yn mwynhau eu hunain fel boneddigion cyfoethog trwy hela yr helwriaeth fras a geid mewn cyflawnder yn rhandiroedd y Bakwainiaid. Pan wnaeth Livingstone ei fwriad yn hysbys i'r Milwriad Steele, y boneddwr hwnw a ddenodd ei gyfeillion Verdon ac Oswell i gynorthwyo yr anturiaeth Cyfrifid Anialwch Kalahari fel rhandir gwaharddedig, er nad oedd, mewn gwirionedd, ddim tra dychrynllyd yn nglyn âg ef, oddigerth diffyg dwfr, oherwydd yr hyn y trengasai amryw o'r Bechuaniaid o syched tra yn teithio neu yn hela trosto. Cychwynwyd o Kolobeng ar y 1af o Fehefin, 1849. Yr oedd y cwmni yn gynnwysedig o'r Dr. Livingstone a'i wraig a'i blant, y Milwriad Steele, y Major Frank Vardon, W. C. Oswell, ysw., a Mr. Murray, yn nghyda'r gwahanol weision Bechuanaidd. Gan ddilyn cwrs gogleddol, hwy a aethant trwy gadwyn o fryniau coediog, ac yna cymerasant y brif-ffordd hyd at Afon Bamangwato. Yn Serotli, diangodd dau ar bymtheg o'u hanifeiliaid i diriogaeth Sekomi, ond y Penaeth hwnw yn garedig a'u dychwelodd, gan daer erfyn ar y cwmni ail-ystyried eu. penderfyniad i groesi yr anialwch peryglus. Yn mhen pedwar diwrnod ar ddeg ar hugain wedi iddynt adael Kolobeng, hwy a ddaethant ar draws un o'r pyllau di-ddwfr sydd mor aml eu rhif yn sychdiroedd Affrica, lle y mae gwawl twyllodrus tywyniad yr haul ar y tywod yn arwain y teithwyr i gamdybio eu bod yn agos i wir lyn o ddwfr. Livingstone a'i gwmni a farchogasant i chwilio am y llyn tybiedig, ond ni chanfyddasant ddim ond y Zouga, sef afon a redai i gyfeiriad gogledd orllewinol. Ar yr ochr gyferbyniol i'r afon preswyliai cyfran o lwyth o gyfathrach teuluaidd yr Hottentotiaid, y rhai a holwyd gan y teithwyr yn nghylch tarddiad y Zouga, i'r hyn yr atebasant ei bod yn cychwyn o Lyn Ngami, Gwedi teithio namyn pedwar gant o filldiroedd gyda glan y Zouga i gyfeiriad y llyn, hwy a benderfynasant adael eu holl ychain a'u gwageni, oddigerth yr eiddo Mr. Oswell, mewn pentref a chyflymu yn mlaen at y llyn. Cymerasant gwrwglau ar yr afon, ac yn mhen deuddeng niwrnod drachrefn daethant at lan ogledd-ddwyreiniol Llyn Ngami, yn gyflawn o ddysgwyliadau y byddai i'r darganfyddiad brofi yn fendith a ffynnonell cynnydd i'r parthau hyn. Ymddangosai mai cwrs cyffredin y llyn oedd o'r gogledd ogledd ddwyrain i'r de-dde-orllewin. I'r de-dde-orllewin nid oedd gorwel yn ganfyddadwy. Yr oedd dyfroedd y llyn yn groew. Trwy arbrawsiadau gyda hinraddyr a mesurydd cyfaddas i'r amcan, canfyddwyd fod y llyn oddeutu dwy fil o droedfeddi uwchlaw gwyneb y mor, ac oddeutu dwy fil o droedfeddi yn is na gwastad-dir Kolobeng. Llwyth o'r Batuaniaid a drigiannent lanau y llyn yn y parthau hyn; ac enw penaeth y llwyth oedd Lechulatebe. Livingstone a ofynodd i'r Penaeth hwn roddi iddo weision i'w arwain at Sebituane, Penaeth y Makololo, oherwydd myned at hwnw oedd prif amcan ei daith i'r gogledd. Hyderai y gallai, trwy ymweled ac ymddyddan â'r Penaeth hwnw, eangu cylch y llafur cenadol, trwy gael caniatad i ymsefydlu gydag ef a phregethu yr Efengyl i'r llwyth oedd dan ei lywodraeth. Gwrthododd Lechulatebe ganiatau ei fynediad, am yr ofnai y byddai mynediad Ewropeaid i'w wlad yn foddion i wneyd y Penaeth Sebituane yn alluocach a mwy peryglus i'w annibyniaeth ef. Gyda'i garedigrwydd arferol, cynnygiodd Mr. Oswell fyned yn ol i'r Cape i ymofyn cwch, gyda gwasanaeth pa un'y gallent fyned yn mlaen yn annibynol ar Lechulatebe; ond gan fod y tymmor wedi rhedeg yn mhell, gwrthododd Livingstone y cynnygiad haelfrydig hwn, a chan fod bwriadau y cwmni wedi eu dyrysu, am amser o leiaf, hwy a benederfynasant ddychwel i Kolobeng:

Yn mis Ebrill y flwyddyn ddilynol, gadawodd Livingstone Kolobeng unwaith yn ychwaneg, yn nghwmni Mrs. Livingstone a'u dri plentyn (Robert Moffat, Agnes, a Thomas Steele Livingstone), gyda'r bwriad o groesi y Zouga yn ei phwynt isaf. Aeth Sechele gyda'r Cenadwr a'i deulu hyd yn rhyd y Zouga, a thrwy ymbil a Lechulatebe, efe a gafodd i Livingstone gyflawn ganiatad i groesi yr afon. Ond cyn i'r Cenadwr allu defnyddio y caniatad i ymweled â Sebituane, cymerwyd ei blant yn gleifion gan dwymyn beryglus, yr hyn a'i gorfododd i ddychwel i Kolobeng unwaith yn ychwaneg: Yn ddamweiniol, bu y Cenadwr mor ffodus a chyfarfod yr heliwr caredig Oswell, ar y Zouga. Yr oedd Mr. Oswell wedi bod yn ddyfal a diwyd gyda'r gwaith o ladd cawr-filod (elephants), a chymaint fuasai ei lwyddiant fel y lladdasai ar gyfartaledd bedwar yn y dydd. Yn y cyfwng hwn, y mae calon ddiolchgar Livingstone yn ei orfodi i dori llinyn ei adroddiad er mwyn ymhelaethu ar wroldeb ardderchog a haelioni mawrfrydig y boneddwr Seisnig godidog Oswell. Efe a ddywed:—"Pan ddaethom i'r Penrhyn (Cape) yn 1852, a'm hugan ddu i un mlynedd ar ddeg allan o'r ffasiwn, ac heb ddimai o gyflog ar fy nghyfer, gwelsom fod Mr. Oswell, yn y modd caredicaf, wedi gorchymyn gwisgoedd cyflawn i'r plant haner noethion, y rhai a gostiasant iddo 200p., a rhoddodd y cwbl yn anrheg i ni, gan sylwi fod Mrs. Livingstone yn meddu hawl i'r budd oddiwrth yr helwriaeth a dyfasid ar ei phorfeydd hi."

Ar ei ail-ddychweliad i Kolobeng, cyfarfyddwyd Livingstone gan negeseuwyr oddiwrth Sebitune. Y Penaeth galluog hwn, gwedi iddo glywed am ymdrechion y Cenadwr i ymweled âg ef, a anfonodd dair ar ddeg o wartheg brychion i Lechulatebe, tair ar ddeg o wartheg gwynion i Sekomi, a thair ar ddeg_o wartheg duon i Sechele, gyda dymuniad taer i bob un o'r penaethiaid hyny gynnorthwyo y dyn gwyn i gyrhaedd ato ef. Livingstone yn ddiymaros a gychwynodd ar y drydydd ymgyrch i geisio cyrhaedd gwlad y-rhyfelwr enwog a'r Penaeth galluog Sebituane, a dilynwyd ef gan ei deulu a'i gyfaill Mr. Oswell. Ar eu taith, hwy a gyfarfuasant â llawer o golledion ac anhwylusdod oherwydd y dinystr marwol a wneid yn mhlith eu hanifeiliaid gan y pryf gwenwynig a elwid "tsetse." Dyoddefasant hefyd oddiwrth brinder dwfr, yn nghyda'r rhwystrau mynych ar gyfrif amledd y coedwigoedd a'r llwyni, trwy ba rai yr oedd raid tori ffordd gyda'r fwyell. O'r diwedd, hwy a gyrhaeddasant y Chobe, cangen o'r afon fawr Zambesi, lle y'u derbyniwyd gyda llawenydd mawr gan lwyth Malkololo, y rhai a hysbysent fod eu Penaeth yn byw mewn lle ugain milldir i lawr yr afon. Cafwyd cwrwglau, ac aeth Livingstone ac Oswell i lawr y Chobe hyd at annedd Sebituane. Canfyddasant y Penaeth galluog yn canu mewn tônau a'u hadgofiasant am y gerddoriaeth gysegredig a arferir mewn Eglwysydd. Pan y clybu efe fod dynion gwynion yn ymofyn am dano, prysurasai Şebituane o'i brifddinas Naliele i'r Ynys ar y Chobe, lle y preswyliai efe yn awr. Gwedi i'r Cenadwr a'i gydymaith adrodd iddo yr anhawsderau a gyfarfuasent wrth geisio dyfod ato, efe a archodd iddynt na phrisient y golled a gawsent oherwydd gwenwyniad eu hanifeiliaid gan y "tsetse," yn gymaint a bod ganddo ef gyflawnder o ychain, yr hyn a'i galluogai i'w cynnysgaeddu a'r oll oedd arnynt eisieu. Gwedi hyn, efe a weinyddodd i'w hangenion trwy eu cyflwyno i ofal dyn, yr hwn a roddodd iddynt ychgig a mel i'w fwyta. Rhoddwyd iddynt hefyd grwyn ychain ystwythion ac esmwyth yn welyau. Cofnoda Livingstone mai y penaeth uchel hwn oedd yr anwarddyn ardderchocaf a welodd efe erioed; ac yn ei lyfr cyntaf, cawn ddesgrifiad godidog o berson ac arferion y Penaeth wedi ei ysgrifenu mewn arddull a ddengys fod y Cenadwr yn edmygydd brwdfrydig o'i ragoriaethau. Mawr oedd llawenydd Sebituane oherwydd fod y dyn gwyn yn cyfranu addysg i'w deulu duon ef; ac yn y parodrwydd gyda pha un y derbynid ei olygiadau gan Benaeth Makololo gwelai David Livingstone ddechreuad gyrfa faith o ddefnyddioldeb yn nghalon Affrica, a bod ei zel a'i ymroddiad rhyfeddol, o'r diwedd, ar fedr cael eu coroni â'r llwyddiant a deilyngent. Addawodd Sebituane iddo ef a'i deulu breswylfod mewn unrhyw barth y dymunai ymsefydlu i'r dyben o efengylu yn mhlith y bobl.

Ymadawodd Mr. Oswell yn fuan, gan fyned i archwilio у Zamsbedi ddwyreiniol, a gadael y Cenadwr a'i deulu eu hunain yn ngwlad y Makalalo. Ebrwydded yr oedd Livingstone wedi dechreu llongyfarch ei hun, a sylweddoli yn ei feddwl y dyfodol dysglaer oedd o flaen y parthau hyn o Affrica, goddiweddwyd Sebituane gan salwch peryglus, sef enyniad yr ysgyfạint. Ofnai y Doctor weinyddu arno yn feddygol, rhag dygwydd i'r bobl, os byddai eu Penaeth farw, ei ddal ef yn gyfrifol. Ar brydnawn Sul, sef y diwrnod y bu efe farw, aeth Livingstone i'w weled, gan gymeryd ei fachgen bychan Robert Moffat i'w ganlyn. Yr oedd y Penaeth yn deall ei sefyllfa, a gofynodd i'r Cenadwr ei deimlo er mwyn profi pa un a oedd efe yn parhau yn ddyn ai peidio. Ymgysurai yn y syniad fod gobaith am fywyd tuhwnt i'r bedd. Gwedi ei gyflwyno i drugaredd Duw, yr oedd Livingstone ar fedr ymadael, pryd y ceisiodd Sebituane gyfodi ar ei benelin, gan ddywedyd:—"Ewch a Robert at fy ngwraig, Maunku, a dywedwch wrthi am roddi iddo laeth." Dyna y geiriau olaf a ynganodd efe ar у ddaear.

Wrth fyfyrio ar farwolaeth ei gyfaill eang-galon hwn (er mai arwarddyn ydoedd), cyffesa y Cenadwr fod pwnc y dyfodol mor dra dwfn a thywyll fel mai gwell a diogelach i ni ydyw credu yn ymostyngar a diymwad y. bydd i "Farnwr yr holl ddaear wneyd yr hyn a fo iawn." Gorfodwyd Livinsgtone i aros ar yr Ynys yn yr afon Chobe nes derbyn caniatad merch y diweddar Benaeth i deithio oddiamgylch y wlad, yr hyn a ganiatawyd iddo yn mhen oddeutu mis gwedi marwolaeth Sebituane.

Pan ymunodd Mr. Oswell a Livingstone drachefn, hwy a deithiasant gant a deg ar hugain o filldiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Sesheke, ac yn niwedd Mehefin, 1851, gwobrwywyd eu llafur gan ddarganfyddiad yr afon fawr Zambesi. Yr oedd ei chwrs a'i tharddle yn anhysbys y pryd hwnw, ond canfu Livingstone a'i gyfaill ei bod yn rhedeg o'r gogledd-orllewin, o bwynt pell tuhwnt i ganol y Cyfandir. Y mae'r wlad rhwng y Chobe a'r Zambesi yn Naliele yn wastadedd isel, a chan mwyaf yn orchuddedig â phalmwydd nyphenaidd a choedwigoedd mawrion. Yn ystod y tymmor gwlyb, gorlifir llawer o'r wlad; ac hyd yn nod yn ystod y tymmor sych, ceir ynddi barthau corslyd a thonenog, y rhai, ar gyfrif eu bod yn anhydraidd, a roddant i'r Malkololoiaid amddiffyniad rhag eu gelynion. Hyd ddyfodiad masnachwyr Portuguaidd i'r parthau hyn, nid oedd y Malkaloloiaid syml erioed wedi clywed son am y fath beth a masnachu mewn cnawd dynol, ac er iddynt gael eu temtio i ymadael a nifer o fechgyn pedair ar ddeg oed yn gyfnewid am ddrylliau, eto yr oeddynt yn cashau y fasnach gyda chasineb angeroddol.

Gan nad oedd obaith iddo allu cael gan y Boeriaid ganiatau i'r brodorion dderbyn hyfforddiant mewn modd heddychol, penderfynodd Livingstone ddanfon ei deulu i Benrhyn Gobaith-Da; ac wedi eu gweled hwy yn hwylio ymaith am Frydain, ei gynllun oedd dychwel ei hunan i diriogaeth y Makalolo, i ymofyn rhyw lanerch iachus lle gellid ffurfio sefydliad crefyddol. Cynlluniai hefyd agor ffordd uniongyrchol o'r cyfryw sefydliad i arfordir dwyreiniol neu orllewinol Affrica, mewn trefn i sicrhau y fantais o gyfrwng cymmundeb â glan y mor. Yn gyflawn o'r penderfyniad gwrolfrydig ac ardderchog hwn, efe a gychwynodd i gyfeiriad y Penrhyn, lle y cyrhaeddodd yn Ebrill, 1852, gwedi bod am un mlynedd ar ddeg yn gwbl allan o gyrhaedd gwareiddiad, Llwyddodd i fyned a'i deulu i'r Penrhyn trwy ganol gwlad y Caffreriaid yn amser y rhyfel heb dderbyn un niwed. Wrth ganu'n iach i'w deulu ar fwrdd y llong, efe a addawodd ymuno â hwy yn mhen dwy flynedd; ond fel y mae'n hysbys, nis gallodd gyrhaedd Lloegr am bum' mlynedd yn ddiweddarach. Yn ystod ei arhosiad yn Nhref y Penrhyn, trwy gynnorthwy Syr Thomas Maclear, galluogwyd ef i adfer a pherffeithio ei wybodaeth seryddol, ac felly i barotoi ei hun gogyfer â'r daith fawreddog y penderfynasai ymgymeryd â hi.

Hyd yma, dilynasom symudiadau Livingstone fel Cenadwr syml am y cyfnod o un mlynedd ar ddeg yn teithio ac yn llafurio yn nghanolbarth Deheuol Affrica, yn cael ei symbylu yn unig gan y drychfeddwl mawr fod raid iddo gyflawni yn llythyrenol orchymynion ei Feistr Nefol—fod raid iddo ddyddanu calonau y llwythau Paganaidd gyda gwirioneddau cysurlawn yr Efengyl; a chan ei fod wedi cymeryd arno Groes Crist, credai fod raid iddo ddyoddef yr adfyd a'r caledi cysylltiedig â'i alwedigaeth gysegredig gyda phenderfyniad ac ymroddiad.

Deuddeng mlynedd o alltudiaeth yn Affrica! Fyred y gellir eu henwi! Eto anhawdd sylweddoli y gwirionedd fod dyn a feddai galon mor syml a meddwl mor dduwiolfrydig—dyn boddlawn i ddilyn ôl troed ei Waredwr gyda mynwes mor lawn o gariad mawreddog tuag at blant dirmygedig Affrica, wedi byw yn yr oes falch ac ariangarol hon! Nyni a ddylem ymfalchio yn wir am y gallwn ei hawlio fel un perthynol i'r ganrif bresennol. Nyni a ddylem fod yn ddiolchgar i'w goffadwriaeth am ein cynnysgaethu âg un esiampl berffaith o Genadwr, i'w throsglwyddo, fel un o nodweddion tarawiadol ein hoes, i fod yn wrthddrych edmygedd cenedlaethau a ddeuant yn y dyfodol pell, ac yn ffynnonell gogoniant i ni ein hunain.