Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone/Yr Ymchwiliwr Cenadol
← Y Cenadwr | Hanes Bywyd ac Anturiaethau Dr Livingstone gan Henry Morton Stanley |
Y Dirprwywr Dros y Llywodraeth a'r Archwiliwr Dyngarol → |
PENNOD III
YR YMCHWILIWR CENADOL
Rhaid i ni yn awr ddilyn camrau Livingstone fel Ymchwiliwr Cenadol o Benrhyn Gobaith Da hyd i Linyanti, yn ngwlad y Makololo, ac oddiyno drachefn i'r gorllewin hyd y Mor Werydd, ac ar hyd cwrs y Zambesi i Kilmane, ar lan y Mor Indiaidd. Cawn brofion amlwg ei fod yn adrodd hanes y daith hon allan o gofnodlyfr a gadwesid ganddo yn fanwl, a'i fod ef ei hun yn teimlo ddarfod iddo gyflawni gwaith teilwng i'w gofrestru yn mhlith yr anturiaethau archwiliadol ardderchocaf a wnaed erioed yn Affrica. Edrydd i ni fanylion y daith yn y modd mwyaf gofalus, ac y mae ei sylwadau a'i nodiadau yn llafurfawr a manylgraff
Teimlwn wrth ddechreu darllen y llyfr fod profiad yr awdwr am un mlynedd ar ddeg yn Affrica Ddeheuol wedi ei berffeithio yn y gelfyddyd o deithio, fod ei gyfansoddiad megys wedi ei haiarneiddio a'i gyfaddasu i ddal pob caledwaith, a'n bod ninau ar fedr derbyn hyfforddiant a goleuni mewn perthynas i gyfandir a oedd hyd yma braidd yn gwbl anhysbys. Ysgrifena yn arddull bwysig dyn o awdurdod wyddonol uchel, fel pe buasai mawredd ei daith ardderchog wedi urddasoli ei natur. Y mae y bummed bennod o'i lyfr, yn mha un y ceir crynodeb o'r wybodaeth a gasglai efe gyda'r fath amynedd ac ymroddiad, yn cynnwys desgrifiad eang a meistrolgar o'r holl Gyfandir Affricanaidd. Nis gall y darllenydd ychwaith lai na theimlo ei fod yntau yn cael ei urddasoli gan y rhwyddineb gyda pha un y galluogir ef megys ar un gipdrem i amgyffred natur a nodwedd y fath gyfran eang o'r ddaear, yr hon oedd mor ddiweddar yn anadnabyddus. Desgrifia gefndir y Penrhyn mewn dull nodedig o darawiadol. Dywed fod y rhandir yma yn ffurfio tri dosbarth mawreddog a gwahạnol o ran hinsawdd, arwynebedd, a phoblogaeth. Y dosbarth dwyreiniol yn fynyddig a choediog, yn cynnwys llawer o goed ar ba rai nis gallai na thân na sychder effeithio; a desgrifia y trigolion fel pobl wrol, egnïol, ddeallus, yn dal, cyhyrog, a chyttrym eu gwneuthuriad. Yr ail ddosbarth a ddesgrifir fel iseldir eang, difynyddoedd, a'r trigolion, er yn hanu o'r un gwehelyth gwreiddiol a phreswylwyr y dosbarth cyntaf, eto yn israddol i'r, Caffreriaid o ran dadblygiad eu cyrff, ac yn llawn o lwfrdra ofnus. Y mae'r dosbarth gorllewinol yn iselach a gwastatach fyth, ac yn cynnwys Anialwch Kalahari. Y mae ei sylwadau cyffredinol ar y wlad yn profi mai ychydig ddynion allesid gael mor gymhwys i fod yn genadon a darganfyddwyr.
Pan gyrhaeddodd Livingstone i Kuruman, efe a glybu am y cyfnewidiadau oeddynt wedi cymeryd lle yn sefydliad dymunol a llwyddiannus Kolobeng. Ymosodasid ar Sechele, Penaeth y Bakwainiaid, gan y Boeriaid. Mewn llythyr a anfonasai Sechele gyda'i wraig Masabele i'r Dr. Moffat, dywedid:—"Y Boeriaid a ladratasant yr holl anifeiliaid a'r nwyddau perthynol i'r Bakwainiaid, ac yspeiliasant dy Livingstone, gan gymeryd ymaith ei holl nwyddau. Llosgasant holl eiddo yr helwyr (Mr. W. F. Webb, o Newstead Abbey, Mr. W. C. Oswell, a boneddigion Seisnig ereill), sef yr eiddo oeddynt wedi ystorio yn nhy Livingstone tra y byddent hwy yn hela yn y gogledd." Clybu Livingstone hefyd am y cableddau a ledaenasid yn ei erbyn ef, y rhai a gawsant y fath effaith ar feddyliau y bobl, fel yr analluogwyd ef am amryw fisoedd i gario allan ei fwriad o fyned i Linyanti. Pa fodd bynnag, ar yr 20fed o Dachwedd, 1852, gwedi cael ohono dri o weision ewyllysgar i'w ddilyn, ymadawodd Livingstone am y waith olaf o Kuruman, gan amgylchu Anialwch Kalahari, a gadael y Boeriaid i'w dichellion a'ų tynged. Ar y 15fed o Ionawr, gwedi ymweled a thref Sechele, a bod am bum' diwrnod cyfan yn llygad-dyst o ddyoddefiadau arswydus y Bakwainiaid truain, dymunodd Livingstone hir ffarwel i'r dosbarth anffodus, ac aeth yn mlaen yn benderfynol ar ei daith fawr i Linyanti, i'r hwn le y cyrhaeddodd yn mhen pedwar mis. Holl boblogaeth prif ddinas y Malkololo, yn rhifo chwech neu saith mil, a ddaethant allan i groesawu y dyn gwyn, ac yn enwedig i weled y fath ryfeddod a gwageni symudol.
Llywodraethai Pennaeth newydd ar lwyth y Makololo, Mamochisone, merch y Pennath a'r rhyfelwr enwog Sebituane, a deimlodd yn ei chalon fenywaidd nad oedd hi yn ei lle priodol megys pennaethes llwyth dewr fel y Makololo. Teimlodd y dewisai hi yn hytrach fod yn briod dyn a allai garu, ac i'r hwn y gallai gyflawni dyledswyddau gwraig, ac oherwydd hyny hi a ddymunodd ar henuriaid y llwyth i dderbyn Sekeletu, ei brawd deunaw mlwydd oed, fel eu Penaeth. Parhaodd y ddadl yn mhlith yr henuriaid am dri diwrnod, ond trwy ei dylanwad mawr, llwyddodd Mamochisane yn y diwedd i ddenu y Patriarchiaid a'r Physygwyr i dderbyn llywodraeth Sekeletu.
Gwedi i'r dyn ieuanc gael ei sefydlu yn ddiogel mewn awdurdod, Livingstone, gan feunyddiol ystyried ei ddyledswyddau a'i genadaeth, a gynnygiodd ar fod i ddynt esgyn y Zambesi. Cydsyniodd Sekeletu â syniadau y dyn gwyn ar unwaith, ac o'i wirfodd cynnygiodd ei ddilyn. Heblaw hyn, pwysodd y Penaeth ieuanc ar Livingstone fynegi iddo ef pa beth bynag oedd arno eisieu, gan ddywedyd y rhoddid iddo gyda pharodrwydd llawen unrhyw beth oedd i'w gael oddifewn neu oddiallan i'r dref ebrwydded y gofynai am dano. Y Cenadwr duwiol a atebodd ac a ddywedodd mai ei unig ddymuniad ef ydoedd dyrchafu y Penaeth a'i bobl i fod yn Gristionogion; ond y Penaeth ieuanc a ddywedodd nad oedd ef yn ewyllysio dysgu darllen y Beibl rhag i'w galon gael ei chyfnewid, ac iddo yntau ddyfod i ymfoddloni ar un wraig, fel y proselyt Sechele, Penaeth y Bakwainiaid. Ar hyn, cynnygiodd Livingstone fod iddo ddysgu y Makololo i ddarllen. Ni dderbyniodd y cynnygiad hwn nemawr fwy o ffafr na'r cyntaf; ond уn mhen ychydig wythnosau drachefn, darfu i Motibe, tad yn nghyfraith y Penaeth, ac amryw ereill, benderfynu ceisio dysgu y gelfyddyd ddyrus a chyfriniol o ddarllen y Llyfr, i'r hyn ni ddangosai y Penaeth ieuanc wrthwynebiad. Gwedi ymdrech amyneddgar i feistroli llythryenau annirnadwy yr iaith Saesneg, dywedodd Motibe wrth Sekeletu nad oedd dim yn ddrwg yn y gelfyddyd, ac y gallai anturio dysgu darllen y Llyfr heb i'r un niwaid mawr ddeilliaw o hyny. Gan fod y cynghor hwn yn dyfod oddiwrth Motibe, colonogwyd Sekeletu a'i gymdeithion ieuainc i geisio cyflawni y gwaith anhawdd; a chyn pen amser maith, yr oedd yno amryw yn alluog i adrodd yr egwyddor o'i dechreu i'w diwedd; ond cyn i lawer iawn o gynnydd gymeryd lle yn eu haddysg, yr oedd Livingstone ar ei daith i San Paulo de Loanda, ar y Morlan Gorllewinol.
Un o'r pethau y penderfynodd y Cenadwr eu gofyn gan Benaeth caredig y Makololo oedd cwrwgl i'w gymeryd i fyny y Zambesi. Rhoddodd Sekeletu iddo nid yn unig gwrwgl, ond mynai gael ganddo dderbyn deg dusk, sef oddeutu saith gan' pwys o ifori, yr hyn a fuasai yn werth 170p. yn marchnad y Penrhyn. Er nad oedd Livingstone yn derbyn ar y pryd ond y cyflog cwrtais o gan' punt y flwyddyn, eto efe a wrthododd y cynnygiad haelionus hwn yn y modd mwyaf penderfynol. Gan fod y Penaeth yr un mor benderfynol yn gwrthod eu derbyn yn ol, rhoddodd Livingstone yr ifori i fasnachydd Negroaidd o'r enw George Fleming. Y dyn hwn, wedi cael ei lwytho a rhoddion Livingstone, a ad-dalodd garedigrwydd y Cenadwr ar ei ddychweliad i'r Penrhyn, trwy gyhoeddi ei hun fel gwir ddarganfyddwr Llyn Ngami! Gwedi aros yn Linyanti am fis ymadawodd y Cenadwr, yn cael ei osgorddio gan Sekeletu a rhyfelwyr y Makololo. Y Penaeth a Livingstone a gyd-gysgent mewn pabell fechan, a chydgyfranogent o ystor y dyn gwyn o siwgr, cacenau, te, a choffi. Tybiai ei Sekeletu fod yn canfod uwchraddoldeb natur y dyn gwyn o'i gydmaru â'r Portuguaid, yn rhagoroldeb ei goffi a'i gacenau. Ebe efe wrth Livingstone:—Myfi a wn eich bod chwi yn fy ngharu, oherwydd y mae fy nghalon yn gwresogi wrth fwyta yr ymborth a roddwch i mi. Nid ydyw blas te a choffi y trafnidwyr haner cystal a'r eiddo chwi, am eu bod hwy yn caru, fy ifori, ac nid myfi fy hun.
Gwedi cyrhaedd Sesheke, y Makololo a ymdrechasant gael ychwaneg o gwrwglau i'r dyben o wneyd archwiliadau pellach ar y Zambesi. Adnabyddir yr afon ardderchog hon o dan wahanol enwau, megys yr Afon Fawr, y Juambeji Ambesi, Ajimbesi, a'r Zambesi, &c., yn ol y gwahanol ieithoedd a siaredir gan y Makalolo a'u cyd-lwythau. O'r diwedd, casglwyd llynges o 33ain o gwrwglau, a dechreuwyd y daith i fyny i'r afon.
O Linyanti i Sesheki, yr oedd y wlad yn iseldir gwastad, ac yn ddarostyngedig i orlifiadau blynyddol yn ystod y tymmor gwlawog. Ymgyfyd yr afon ar brydiau ugain troedfedd uwchlaw ei harwyneb rheolaidd. Mewn rhai lleoedd, ceid y Leeabmye, neu y Zambesi, heb fod uwchlaw un droedfedd o ddyfnder. Ceid ynysoedd o gryn faintioli yn brithio ei gwyneb llydan. Gwelid cyflawnder o wyllt-helwriaeth gyda'i glanau, a cheid ar hyd-ddi amrywiaeth o ddwfr-adar. Pan gyrhaeddodd y cwmni i Gonge, hwy a ddaethant at raiadr yn meddu disgynfa o ugain troedfedd; ac fe y'u gorfodwyd i gario eu cychod ar hyd y tir am oddeutu milldir. Gwedi ail gychwyn eu taith ar yr afon, hwy a gyrhaeddasant i Nalieh, tref fawr a hardd, ac uwchlaw i'r dref hono hwy a ddarganfyddasant arllwysiad y. Leeba, afon Lunda; i'r brif afon, neu Lieambye. Yn Libonta, cymer yr afon yr enw Kabompo. Y mae ei lled oddeutu tri chant o latheni, tra nad oedd lled y Leeba ond dau gant a haner o latheni. Ychydig yn uwch i fyny, cafwyd y Loeti, yr hon a redai o'r gorllewin trwy wastadedd Mango, yn ymuno â'r Lieambye. Gwedi esgyn y Zambesi cybelled a hyn, ac heb weled unrhyw randir iachus i ffurfio sefydliad ar ei glan o fewn tiriogaeth y Makololo, penderfynodd Livingstone gwblhau yr ail ran o'i gynllun, sef treiddio hyd Loana, ar y Mor-lan Gorllewinol, i'r dyben o ddarganfod ffordd hyd pa un y gallai y Makololo a llwythau mewn-dirol ereill fwynhau y fantais o feddu cymundeb masnachol gyda'r bobl a breswylient lanau y mor. I'r perwyl hwn, efe a gydsyniodd i ddychwel i Linyanti, i ba le y cyrhaeddodd gwedi absennoldeb o naw wythnos. Wedi cyrhaedd Linyanti, eglurodd Livingstone ei ail fwriad i Sekeletu, a daeth ei gynllun i fod yn bwnc dadl frwd yn mhlith yr henuriaid, llawer o ba rai a wrthwynebent y fath feddylddrychau dyeithr a beiddgar. Hwy a lefent yn y Cynghor fod ar y dyn gwyn eisieu "bwrw ymaith y Penaeth ieuanc", a haerent "fod sawyr gwaed ar ei ddillad eisoes;" ond yr oedd llais y mwyafrif o blaid Livingstone, ac o ganlyniad dewisiwyd cwmni o saith ar hugain o wyr ieuainc y Makololo i'w ddilyn ef i'r Gorllewin. Enynwyd tueddiadau masnachol y Makololo gan y rhagolwg am agoriad trafnidiaeth uniongyrchol rhyngddynt a'r dynion gwynion oddiar y mor; ac yr oedd y gogwydd yma o'r eiddynt yn cyd-daro âg argyhoeddiad Livingstone nas gellid dwyn oddiamgylch ddyrchafiad parhaus unhyw lwyth deb gysylltu trafnidiaeth â dysgeidiaeth yr efengyl.
Ar yr 11eg o Dachwedd, 1853, cychwynodd y Cenadwr parchedig o Linyanti, yn cael ei ddilyn gan Sekeletu a'i brif ddynion, i hwylio ar y Chobe. Fel yr elai y cwmni i fyny i'r afon, y Makololoaid, yn ngwyddfod eu Penaeth, a dyngaşant ffyddlondeb i'r dyn gwyn, gan ymrwymo i'w wasanaethu a'u holl egni, ac i ufuddhau iddo yn mhob peth. Mynych y canent:—
"Bydded ein taith gyda'r dyn gwyn yn llwyddiannus."
"Trenged ei elynion, a gwneler plant Nake yn gyfoethog.
"Bydded iddo gael cyflawnder o gig ar ei daith!"
Gwedi cyrhaedd at ymuniad y Leeba gyda'r Leeambye, yr ymchwylwyr a esgynasant yr afon gyntaf a nodwyd. Yma yr oedd coedwigoedd trwchus yn gorchuddio glanau yr afon. Gwelid planigion mawrion yn ymglymu am ac yn dringo i fyny hyd goed aruthr o breiffion. Er gwaethaf y gwlaw a fynych ddisgynai, a'r dwymyn yr oedd Livingstone weithian yn ddarostyngedig iddi yn aml, eto yr oedd y golygfeydd coediog, &c., yn peri iddo lawer o hyfrydwch, ar gyfrif y gwahaniaeth tarawiadol oedd rhyngddynt a noethni hagr Anialwch Kalahari, yr hwn a adawsai effaith annileadwy ar feddwl y cenadwr. Yn Shinte, lle y cyfarfu y teithwyr a derbyniad ardderchog, hwy a adawsant eu cychod, ac o hyny allan teithiasant ar draws y tir, gan glywed am lwythau lluosog a phenaethiaid nerthol ar y deau iddynt, y Cazembe fawr i'r gogledd-ddwyrain, a'r Matiamvo i'r gogledd. Yn mis Mawrth, Livingstone a'i gwmni a groesasant y dyfrgelloedd aruthur sydd yn gwahanu yr afonydd deheuol a gogleddol.
Gwedi disgyn i'r gwastadeddau o gylch Loanda, y Makololo, cynnrychiolwyr plant didwyll Canolbarth Affrica, a welsant y mor mawr am y waith gyntaf erioed, yr olwg ar ba un a enynodd ynddynt deimladau rhyfedd. Fel hyn y desgrifiasant hwy eu hunain yr amgylchiad :—"Nyni a ymdeithasom yn mlaen gyda'n tad (Livingstone) gan gredu yr hyn a ddywedasai yr hynafiaid, sef nad oes derfyn i'r byd, ond wele y byd yn dyweyd wrthym yn sydyn Dyma fi wedi darfod! nid oes ychwanego honof fi." Yr oeddynt hwy wedi credu yn wastadol fod y byd yn un gwastadedd diderfyn.
Ar yr 31ain o Fai, y cwmni blinedig a gyrhaeddasant dref Bortuguaidd San Paulo de Loanda, ar lan y Mor Werydd. Yr oedd Livingstone ar y pryd yn dyoddef oddiwrth ymosodiad peryglus o'r gwaedglwyf, Derbyniwyd ef a breichiau agored gan Mr. Gabriel, y Dirprwywr Prydeinig er attal y gaethfasnach. Yr oedd efe wedi bod am gydol chwe' mis yn gorfod cysgu ar y ddaear; a gellir dychmygu mai mawr oedd mwynhad y dyn claf a blinedig pan y cafodd y rhagorfraint foethus o gysgu mewn gwely da. Rhoddwyd i Livingstone a'i weision Makololoaidd lawer o grosawa charedigrwydd gan foneddigion Seisnig a Phortuguaidd yn Loanda. Ar y cyntaf, taer erfyniwyd arno fyned i St. Helena neu i Loegr i ymofyn adnewyddiad nerth, ond nis gallai y teithiwr cenadol dderbyn y cynnygiad gludiad rhad, gan fod gofal ei gyfeillion Makololoaidd arno; ac nid oedd wiw meddwl am dori gair y dyn gwyn, er fod diogeliad ei iechyd yn gofalu am hyny. Cafodd lledneisrwydd a charedigrwydd swyddogion y Llynges Seisnig oedd yn Loanda yr effaith fwyaf dymunol ar feddyliau y Makololoiaid, a bu hyny yn foddion i ddyrchafu Livingstone yn uwch yn eu meddyliau. Gwedi i Livingstone gyhoeddi ychydig o hanes ei daith yn newyddiaduron Loanda, ac egluro ei amcanion yn dyfod a'r Makololo yno; ac ar awgrym yr Esgob Portuguaidd, darfu i Lywodraeth a marsiandwyr Loanda ymuno i wneyd anrhegion gwerthfawr a phrydterth i'r Penaeth Sekeletu, yn gynnwysedig o wisg gyflawn milwriad a march; a rhoddasant hefyd wisg i bob un o osgorddlu brodorol Livingstone.
Ar yr 20fed o Fedi, ac iechyd Livingstone wedi ei gyflawn adfer, ac efe a'i osgordd yn llwythog o anrhegion, hwy a brynasant gyflenwadau o frethyn cotwm, gwelyau, saethau, &c., a chychwynasant eu siwrnai ddychweliadol i Linyanti. Yn Shinte, derbyniwyd y teithwyr dychweledig gyda chroesawiad rhwysgfawr, a chymerodd Livingstone ofal i argraffu ar feddwl y, Penaeth y manteision a ddeillient iddo ef a'i bobl trwy fasnachu a'r Glanau Gorllewinol. Ymbiliodd a'r Penaeth hefyd i wrthod gwerthiant caethion, gan ddadleu y byddai parhad y fasnach mewn dynion yn rhwym o wanychu ei allu, a'i wneyd ef ei hun, mewn amser, yn ddarostyngedig i ryw Benaeth arall.
Gellir dyweyd fod taith ddychweliadot Livingstone trwy wlad y Makololo yn orymdaith fuddugoliaethus ac ardderchog. Yr oedd miloedd o bobl yn mhob man yn arllwys eu bendithion ar ei ben, gosodent eu danteithion penaf ger ei fron, eu hanifeiliaid mwyaf pasgedig a laddasant er anrhydedd iddo, a dygent flaenffrwyth eu tiroedd i'w bwyta yn y gwleddoedd a gynnalient i ddathlu ei ddychweliad a dangos eu diolgarwch am ei garedigrwydd i'r Makololo. Yn nhref fawr Naliele, daeth torf luosog i wrando ar Livingstone yn llefaru ar ei genadaeth, ac am yr Hwn yr oedd efe a'u cydwladwyr yn ddyledus iddo am ddiogeliad eu bywydau a'u dychweliad hapus.
Fel yr oedd efe yn disgyn yr Afon Leeambye o Naliele mewn corwgl, tarawyd blaen y cwch gan afon-farch (hippopotamus) anferth. i Cyfododd un ran o'r bâd yn gwbl o'r dwfr, a bu agos iddo ei lwyr ddymchwel. Gan rym y tarawiad, taflwyd un o'r Makololo i'r dwfr, ond Livingstone a'r gweddill o'i gwmni a lwyddasant i neidio i'r lan. Yn ffodus, ni ddigwyddodd gwaeth niwed na throchiad lled dda i ddynion a nwyddau. Yn Medi, 1855, cyrhaeddodd y cwmni i Linyanti; a galwyd cyfarfod mawr ac ysblenydd o'r Makololo i dderbyn eu hadroddiad a'r anrhegion a' ddygent gyda hwy oddiwrth bobl garedig Loanda. Ymddangosai y Penaeth Sekeletu yn y wisg filwrol (gwisg Milwriad) a anfonasid iddo, ac er i Livingstone draddodi pregeth adeiladol ar yr achlysur, eto gorfodir y Cenadwr i addef fod dillad gwychion Sekeletu wedi derbyn mwy o sylw na'r bregeth. Cafodd yr adroddiad a dderbyniodd llwyth Makololo gan eu cydwladwyr am y manteision o feddu cymundeb masnachol gyda glan y mor effaith mor ffafriol, fel y cynnygiwyd fod i'r holl lwyth ymfudo i Ddyffryn Barotse, mewn trefn i fod yn agosach i'r farchnad, and Sekeletu a safodd i fyny gan awgrymu y priodoldeb iddynt aros lle yr oeddynt hyd ddychweliad Livingstone o Loegr gyda "Ma-Robert," ei wraig.
Gwedi gweled pa mor anymarferol oedd ceisio sefydlu cludiaeth gyda cherbydau a gwageni rhwng y Canolbarth a'r Morlan Gorllewinol, dechreuodd Livingstone efrydu pa ffordd a ddewisai i gyrhaedd yr Arfor Dwyreiniol. Gan fod yr Afon Zambesi yn ymddangos yn fwy manteisiol nag unrhyw gwrs arall penderfynodd yr Ymchwiliwr Cenadol roddi prawf arni trwy deithio i lawr yr afon. Ar y 25ain o Hydref, dechreuodd Livingstone barotoi. Mam Sekeletu a ddarparodd iddo gydiad o gnau daear, a gwragedd Makololoaidd ereill a falasant rawn Ind yn flawd, gan barotoi yr ymborth goreu a allent gogyfer â'r daith. Ar y 5ed o'r mis dilynol, cychwynwyd y daith i'r Dwyreinfor, pryd yr aeth Sekeletu a dau gant o'r Makololo i hebrwng Livingstone gan gymeryd gyda hwy amryw greaduriaid defnyddiol i'w lladd a'u bwyta ar y ffordd. Dylid cofio yn y fan hon fod Livingstone er ys amser maith wedi treulio yr oll o'r dillad a'r nwyddau a ddygasai gydag ef o Benrhyn Gobaith Da, ac mai y Makololo a ddygasant dreuliau ei daith i Loanda, o For y Gorllewin, ac mai hwynthwy hefyd a ymgymerasant â dwyn treuliau y daith bresennol i'r Dwyreinfor. Gan mai dyma yr esiampl gyntaf a gofnodwyd erioed o lwyth barbaraidd yn awdurdodi ac yn cyflogi dyn gwyn i wneyd ymchwiliadau, gellir derbyn hyn fel prawf pendant o alluoedd rhyfeddol Livingstone i ddenu a pherswadio, neu ynte fod y Makololo lawer yn uwchraddol i unrhyw lwyth arall a ddarganfyddwyd erioed gan Ewropeaid yn Affrica. Hawdd ydyw i ni, y rhai ydym hysbys o'r anhawsdra i gael gan y Llywodraeth danysgrifio arian tuagat ddwyn traul archwiliadau Arctaidd neu Affricaidd, gyflawn brisio y dystiolaeth hon o awydd y Makololo am fwynhau cynnydd gwareiddiad. Sekeletu a ddilynodd Livingstone ar ei daith i'r Dwyrain am gryn bellder, ac wedi hyny a ddychwelodd i Linyanti, gan adael i'r Cenadwr fyned yn mlaen yn nghwmni gosgordd o'r llwyth.
Yn nghanol mis Tachwedd, yr archwilwyr a ddarganfyddasant raiadrau ardderchog Mosiatunya, i ba rai y rhoddodd Livingstone yr enw Rhaiadrau Victoria. Yr oedd y ddwfrddisgynfa odidog yma yn fil o droedfeddi o led, ac yn gan' troedfedd o uchder, ac yn cael ei ffurfio gan yr Afon Zambesi. Yn Mazanzwe, pan oedd y cwmni wedi gadael yr afon ac yn teithio dros y tir, achoswyd iddynt ddirfawr flinder a chyffro am amser gan haid o Fualod (buffaloes), y rhai a ruthrasant trwy rengau eu gorymdaith. Yr oedd Livingstone ar y pryd yn marchogaeth ych, yr hwn a garlamodd ymaith gydag ef. Pan allodd y Cenadwr edrych drach ei gefn er gweled pa fodd yr ymdarawai ei gyd-deithwyr, efe a welodd un dyn anffodus wedi ei luchio i fyny i'r awyr oddeutu pum' troedfedd uwchlaw cyrn bual gorphwyllog, o ochrau yr hwn y pistylliai gwaed. Pan ymosodwyd ar rengau, y cwmni gan y bualod. ymddengys ddarfod i'r dyn anffodus ddodi ei faich i lawr a thrywanu un bual yn ei ochr, yr hwn a drodd arno yn y fan ac a'i taflodd gyda'i gyrn i'r awyr fel pryf. Er iddo dderbyn cryn niwed trwy y tafliad a'r codwm, eto efe a wellhaodd gyda'r fath gyflymdra fel yr oedd yn alluog i hela yn mhen yr wythnos.
Gwedi cyfarfod â llawer o anturiaethau cyffrous, a gwneyd llu o ddarganfyddiadau dyddorol, cyrhaeddodd y Parchedig Dr. D. Livingstone a'i osgordd i Killmane, ar yr 20fed o Fai, 1856. Yr oedd cyfnod o agos i bedair blynedd wedi myned heibio er ys pan yr ymadawsai efe o Dref y Penrhyn, Penrhyn Gobaith Da. Gan ymddiried ei osgorddlu i ofal cyfeillion caredig yn nhref Bortuguaidd Tette, cychwynodd Livingstone o Killmane ar y 12fed o Orphenaf, 1856, i Mauritius, lle y'i derbyniwyd yn garedig a llettygar gan yr Is-Gadfridog C. M. Hay. Gwedi aros yno dros ychydig amser i'r dyben o gryfhau ei iechyd, efe a hwyliodd tua chartref, a chafodd olwg ar ei "Anwyl Hen Loegr" ar yr 12fed o Ragfyr yr un flwyddyn, ar ol absennoldeb o un mlynedd ar bymtheg. Dychwelodd i'w wlad gyda chalon orlawn o ddiolchgarwch am y nawdd Dwyfol a fuasai yn amddiffyn a chysgod iddo yn nghyflawniad ei lafur mawr a'i deithiau meithion, a chan weddïo am i'w fywyd dyfodol gael ei gyflwyno yn ostyngedig i wasanaeth Rhoddwr pob daioni.
Goddeferi ni obeithio fod y bennod uchod yn datguddio ysbryd yr Ymchwiliwr Cenadol, ac y gellir gweled trwyddi y llareidd-dra duwiolfrydig gyda pha un y dygodd efe flinderau difrif ei fywyd yn Affrica, y gwroldeb gyda pha un y daeth drwy bob rhwystrau ac anffodion, ac y dyoddefodd bob cyni ac angenoctyd, a'r, ysbryd di-ildio gyda pha un yr ymwthiodd yn mlaen, o gam i gam, ar draws Affrica, o'r Mor Werydd i'r Mor Indiaidd, heb anghofio y duwioldeb trwyadl a'i cynnaliodd yn ei holl dreialon.
Gwelsom ef yn treiddio i wyllt-diroedd Cyfandir anhysbys, ac mewn pellafoedd anhygyrch, lle yr oedd natur yn holl wylltineb ei morwyndod cyntefig, nyni a'i. gwelsom ef, gyda'i Feibl yn ei law, yn gweithio gyda gwroldeb urddasol y gwir arwr. Nyni a welsom ynddo yr holl nodweddau sydd yn ardderchogi y gwir Gristion. Ynddo ef ni chaed dim o'r gwag-rwysg a amgylcha y dyn a ddirprwyir i ddinystrio ei gyd-ddynion gyda'r dryll a'r cledd. Cenad hedd oedd ef, yn dwyn Efengyl y tangnefedd i'r Pagan; dyn ydoedd o agwedd syml a gwisg dlodaidd; dyn a gablwyd ac a wrthodwyd gan ei gydwladwyr gwynion yn Magaliesberg, ac, a dlodwyd gan eu gelyniaeth, eu trachwant, a'u balchder hwy—yr Ymchwiliwr Cenadol duwiol a llariaidd! Pan y cyrhaeddodd i Loegr wedi ei lafur blin a'i ymdrech hirfaith gyda Phaganiaeth, croesawyd ef gan y byd gwareiddiedig gyda pharch purach a mwy gwirioneddol nag a roddwyd erioed i ddynion o uwch ond llai eu gwerth a'u teilyngdod.