Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Amddiffyn
← Y Rhufeneiddio | Hanes Cymru O M Edwards Cyf I Y Rhufeiniaid gan Owen Morgan Edwards Y Rhufeiniaid |
Gwrthryfela → |
III.YR AMDDIFFYN. 120—250
Wrth eu darostwng i wareiddiad Rhufain, collodd y tylwythau Prydeinig eu hysbryd rhyfelgar, ac aethant yn foethus a dirywiedig a gwan. Ar yr un pryd yr oedd cenhedloedd barbaraidd y gogledd yn curo ar gaerau'r Ymherodraeth Rufeinig, ac yn bygwth dylifo i mewn. Yr oedd Prydain yn un o'r rhai cyntaf i ddioddef, yn un o'r rhai cyntaf i gael ei gadael i gynddaredd a rhaib y barbariaid. Yr oedd llwythau annibynnol ucheldiroedd yr Alban yn torri trwy fur Agricola o hyd, ac yn difrodi meysydd a gweirgloddiau'r dalaethau Rhufeinig. "Bu gwynt angerddol yr ail waith", ebe adlais rhyw hen gwynfan, ac y dodes y Gwyddyl Ffichti dân wrth adenydd yr adar gwylltion yn y gogledd; achos hynny llosged llawer iawn o dai ac ysguboriau a deisydd ŷd. Ac ar yr un amser yr oedd llongau môr—ladron y gogledd yn ymgynnull i ymosod ar y dalaeth Rufeinig gyfoethog a diymwared hon. Yn 120 daeth yr ymerawdwr Hadrian, a chododd fur newydd i atal ymosodiadau Pictiaid yr Alban. .A phan fyddai raid, doi'r llengoedd o bob rhan o'r ynys a'r hyd y ffyrdd Rhufeinig i amddiffyn hwn. Rhwng 207 a 210 bu'r ymerawdwr Severus yma, yn adeiladu mur amddiffynnol arall. Yng Nghaer Efrog, cartref y seithfed leng, y bu farw, gan bryderu am ddiogelwch yr ymherodraeth a phoeni am bechodau ei fachgen drwg.