Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Gwrthryfela
← Amddiffyn | Hanes Cymru O M Edwards Cyf I Y Rhufeiniaid gan Owen Morgan Edwards Y Rhufeiniaid |
Y Saeson → |
IV. Y GWRTHRYFELA. 220—450
Yr oedd Rhufain yn ymlygru ac yn gwanhau, ac yr oedd cenhedloedd y gogledd a'r dwyrain yn ymosod arni ar hyd ei therfynau,—canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod. Yn yr anrhefn yr oedd rhyw gadfridog buddugoliaethus, mewn rhyw ran o'r ymherodraeth, yn gwrthryfela ac yn cyhoeddi ei hun yn ymerawdwr. A llawer gwrthryfelwr enwog welodd Prydain yn y dyddiau hynny. Yn 288 cododd Carausius, llyngesydd medrus, o Gymru neu'r Iwerddon, a chyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr ym Mhrydain. Dano ef, bu yr ynys yn annibynnol am flynyddoedd. Yr oedd wrth fodd y bobl, ac yn deyrn llwyddiannus. A'r un o'i ddarnau arian y mae darlun o honno'n cydio yn llaw Britannia; a'r yr ochr arall i'r darn y mae'r ysgrifen EXPECTATE VENI,—"Tyred, yr hwn a hir ddisgwyliwyd". Ac o rywle o'r gorllewin y daeth. Lladdwyd Carausius tua 293 gan Allectus, un o'i swyddogion, yr hwn a deyrnasodd yn ei le hyd 298.
A'r adeg hon, gwelodd yr ymerawdwr Diocletian nad oedd modd i un ymerawdwr deyrnasu mwyach, a rhannwyd yr ymherodraeth rhwng amryw ymerawdwyr. Daeth Prydain i ran Constantius, a gorchfygwyd Allectus ganddo. Adferodd heddwch a dedwyddwch cyn marw yng Nghaer Efrog yn 306. Bendithiwyd coffadwriaeth ei wraig Helen,—un ragorol, er o isel radd,—am ganrifoedd wedi ei marw; dywedid mai Cymraes oedd gan lais traddodiad diweddarach, ac mai hi wnaeth y ffyrdd a welir eto ar ein mynyddoedd, ar hyd y rhai y byddai ei milwyr yn dod i helpu brenhinoedd ormesid gan estron.
Mab Constantius a Helen oedd Cystenyn Fawr, yr hwn ail unodd ymherodraeth Rhufain. Ym Mhrydain y coronwyd ef; gyda byddin Brydeinig y cychwynnodd i orchfygu ei elynion ac i deyrnasu ar yr holl fyd. O'r holl ymerawdwyr, Cystenyn oedd y Cristion cyntaf. Erbyn ei ddyddiau ef yr oedd yr Efengyl wedi ei phregethu ym Mhrydain, ac yr oedd rhai wedi rhoddi eu bywyd i lawr drosti. Yr oedd sêl y Derwyddon wedi oeri, ymdoddodd eu duwiau i fysg duwiau'r Rhufeiniaid,—ac ymysg y gwahanol dduwiau y soniai'r milwyr am danynt yr oedd Iesu, a hwnnw wedi ei groeshoelio. Pwy bregethodd yr Efengyl gyntaf nis gwyddom, hwyrach nad oes dim ond y Dydd Olaf ddengys pwy.
Wedi marw Cystenyn, daeth y barbariaid a'r anrhefn drachefn. Llawer cadfridog ddilynodd ei esiampl, gan arwain byddin o Brydain i'r Cyfandir; eithr nid i orchfygu, ond i gael ei dinistrio. Ac yr oedd y barbariaid yn ymosod ar Brydain o hyd; ni fedrodd buddugoliaethau Theodosius a Stilicho eu cadw draw. Yr oedd Rhufain ei hun mewn perygl, a chyn hir syrthiodd y ddinas dragwyddol o flaen Alaric. Cyn 456 yr oedd y lleng olaf wedi troi ei chefn a'r Brydain, gan adael rhyngddi a'r dinistrwyr oedd yn ymgasglu o'i chwmpas.
Er trymed y trethi, ac er amled y rhyfeloedd, yr oedd Prydain yn wlad gyfoethog pan adawodd y Rhufeiniaid hi. Yr oedd pobl gwastadedd dwyrain yr ynys yn siarad Lladin, ac yn byw fel Rhufeiniaid ym mhob peth. Ac yr oedd pobl mynyddoedd y gorllewin,—ein Cymru ni,—yn prysur ddysgu Lladin hefyd. Y mae geiriau Lladin yn ein hiaith eto, y mae enwau Lladinaidd a'r rai o'n trefydd a'n hafonydd hyd y dydd hwn. Yr oedd llawer plas prydferth ar ein llechweddau, a'i berchennog yn feistr ar gaethion lawer, a meysydd ffrwythlawn o'i amgylch. Yr oedd ffyrdd ardderchog yn rhedeg trwy hyd a lled y wlad. Yr oedd coedwigoedd wedi eu clirio, a chorsydd wedi eu sychu. Yr oedd gweithydd copr ym Môn, gweithydd plwm ym Maldwyn, gweithydd haearn ym Mynwy, a gweithydd aur ym Meirionnydd. Ar ein gororau yr oedd dinasoedd gwychion,—Caer Lleon ar Ddyfrdwy gadarn; Uriconium anferth ar yr Hafren, dair milltir ysgwâr o arwynebedd; Caer Lleon ar Wysg, gyda'i phlasau goreurog ysblennydd, ei thyrau uchel, a'i hystrydoedd a'i chaerau fu'n syndod canrifoedd wedi i'r Rhufeiniwr olaf ei gadael.
Wrth edrych ar y Gymru hon dros oesoedd o anrhefn a difrod rhyfel, hawdd y gallai croniclydd Cymreig roddi ffrwyn i'w ddychymyg, a chredu popeth ddywedai'r Rhufeiniwr am dani, ac ysgrifennu cyfieithiad anghelfydd, estronol ei gystrawen,—
“ |
"Bryttaen, oreu o'r ynysoedd, yr hon a elwit gynt y wen ynys yggollewigawl eigawn. A pha beth bynnac a fo reit y ddynawl arfer o andyffygedic ffrwythlonder, hi ae gwassanaetha. Y gyt a hynny, cyflawn yw o'r maestiredd llydan amyl; a brynneu ardderchawc, addas y dir dywyliodraeth, drwy y rei y deuant amryfaelon genedloedd ffrwytheu. Yndi hefyt y maent coetydd a llwyneu cyflawn o amgen genedloedd anifeileit. a bwystifileit. Ac y gyt a hynny, amrai cenfeinoedd o'r gwenyn, o blith y blodeuoedd yn cynulaw mel. Ac y gyt a hynny, gweirgloddyeu amyl o dan awyrolyon fynyddedd, yn y rei y maent ffynhoneu gloew eglur, o'r rei y cerddant ffrydyeu, ac a lithrant gan glaer sein, a murmur arwystyl cerdd; a hun yw y rei hynny yr neb a gysgo ar eu glan. A llynneu ac afonoedd; ac amryfael gyfnewityeu o'r gwladoedd tramor; ac wyth prif ddinas ar hugaint, a themleu seint ynddunt yn moli Duw, a muroedd a chaeroedd ardderchawc yn eu teccau. Ac yn y temlau, cenfeinoedd o wyr a gwragedd yn talu gwasanaeth dylyedus y eu Creawdyr ynherwydd Cristionogawl fyd." |
” |
Pan welwn Gymru nesaf, bydd Uriconium yn garnedd, Caer Lleon yn anghyfannedd ar lan y Ddyfrdwy, gogoniant CaerLleon ar Wysg yn ymadael, a chaniadau y deml yn troi yn udo ar y dydd hwnnw.
NODYN IV.
golyguTacitus, mab yng nghyfraith Agricola, yw prif ffynhonnell ein gwybodaeth am y goncwest Rufeinig. Yn ei Annales dywed hanes y goncwest, yn ei Agricola dywed hanes y Rhufeineiddio, ac yn ei Germania, a rhydd ddarlun o'r Eingl ar Saeson fel yr oeddynt cyn dechrau ymosod ar Brydain. Ysgrifennodd Gildas ei gwynfan yng nghanol y rhyfel rhwng y Prydeiniaid a'r Saeson. Traddodiadau a darnau o hen faledi yw croniclau'r Saeson eu hunain am eu can mlynedd cyntaf yn yr ynys hon.