Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Gruffydd ab Rhys

Owen ab Cadwgan Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
Gruffydd ab Rhys
gan Owen Morgan Edwards

Gruffydd ab Rhys
Eglwys Cymru

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II

PENNOD X

GRUFFYDD AB RHYS.


MEDDYLIODD Harri'r Cyntaf, y mae'n ddiameu, y byddai Cymru'n llonydd wedi iddo ennill Owen, blaenor y cenedlgarwyr, i'w wasanaeth ei hun. Yr oedd Gruffydd ab Cynan yn dawel a'i wlad mewn heddwch, ac nid oedd yr un arwydd fod hen lew Gwynedd yn meddwl am anrhaith nac ysglyfaeth. Pan ddaeth brenin Lloegr adre o Normandi, ac Owen ab Cadwgan yn ufudd gydag ef, tybiodd y gallai reoli Cymru â llaw gref. Gosododd Norman yn esgobaeth Tyddewi, o anfodd holl ysgolheigion y Brytaniaid gan eu tremygu; ac yr oedd Saeson a Fflandrwys yn llifo i Ddyfed a Cheredigion o hyd. Yr oedd y llanw Normanaidd yn prysur lifo dros y De, ac yr oedd y doeth ar ofnus wedi anobeithio y medrai neb gadwr De fel y cadwai Gruffydd ab Cynan Wynedd ac fel y cadwai Meredydd ab Bleddyn Bowys.


Ond, tua'r flwyddyn 1113, daeth gŵr ieuanc i Ddyfed o'r Iwerddon. Mab i Rys ab Tewdwr, laddwyd gan Normaniaid Brycheiniog yn 1093, oedd. Efe oedd aer brenhinoedd y Deheubarth, ac nid rhyfedd fod brenin Lloegr yn anesmwyth pan glywodd fod Gruffydd ab Rhys ymysg ei bobl. Hiraeth am ei wlad ddygodd Rys yn ôl; nid oedd yn rhy ieuanc, pan gludodd ei geraint ef i'r Iwerddon, i gofio am ei wlad ei hun. Am ddwy flynedd bu'n paratoi ar gyfer gwaith ei fywyd. Weithiau arhosai gyda'i chwaer Nest yng nghastell y Norman ym Mhenfro, dro arall byddai gyda rhai oi geraint, weithiau a'i cyn belled a llys Gruffydd ab Cynan,. ac weithiau crwydrai o le i le. O'r diwedd dywedodd rhywrai wrth Harri frenin fod Gruffydd ab Rhys yn ymdroi ymysg ei bobl, a fod meddwl pawb o'r Brytaniaid gydag ef.


Pan glywodd Gruffydd ab Rhys hyn, meddyliodd ddianc am ei fywyd at Ruffydd ab Cynan, ac addawodd hwnnw ei amddiffyn yn llawen. Yna trodd Gruffydd ab Rhys ei wyneb tua Gwynedd. Gydag ef yr oedd ei hanner brawd Hywel, ac ereill o'i geraint. Yr oedd gan Hywel achos i gashaur Normaniaid. Yr oedd wedi dianc ou carchar yn gloff. Bu yng ngharchar Arnulf, y gŵr gawsai ran o etifeddiaeth ei dad, ac yn anafus y medrodd ddianc. Pan gyrhaeddodd y fforddolion, y gŵr cloff a phawb, at Ruffydd ab Cynan, cawsant dderbyniad croesawgar a chariadus.


Clywodd brenin Lloegr fod y tywysog ieuanc perygl yn llys Gruffydd ab Cynan. Anfonodd genhadau i alw Gruffydd ato. Ufuddhaodd yntau, ac aeth ger bron brenin Lloegr. Addawodd Harri lawer iddo am anfon Gruffydd ab Rhys iddo ef yn fyw neu ei ben. Clywodd Gruffydd ab Rhys beth addawsai'r brenin, a ffodd am nodded i eglwys Aberdaron. Yr oedd yn eithaf diogel ymysg esgobion y wlad honno, tra yr arhosai yn yr eglwys, oherwydd nad oedd yr eglwys eto wedi ymlygru a gwanhau digon i neb dorri ei nawdd. O nawdd yr eglwys honno ffoes yn ei ôl i'r Deheu, a daeth i Ystrad Tywi, hen gartref ei deulu.


Yr oedd erbyn hyn wedi ei orfodi i ddechreu ar ei waith. Y peth cyntaf benderfynodd wneyd oedd torri cestyll Normaniaid oedd yn arglwyddiaethu ar Ystrad Tywi ar cyffiniau. Daeth llu oi bobl i'w ddilyn, a mynych ymgyrch fu yn erbyn y Normaniaid ar Fflemisiaid. Ar gastell Narberth, ym man hyfrytaf Cymru, yr ymosododd gyntaf. Syrthiodd y castell, a llosgodd Gruffydd ef. Yna dechreuodd ymosod ar gestyll y Normaniaid o ddifrif. Y mae'n wir iddo fethu cymeryd tŵr llawer castell, ond rhuthrodd ei filwyr dros lawer rhagfur, a gwelodd y Cymry mai nid peth diobaith oedd gwrthwynebu'r Normaniaid. Cyn hyn edrychai'r Deheuwyr ar gastell cerrig, unwaith yr adeiledid ef, fel cartref anorchfygol eu gormeswr.


Y castell nesaf i Ruffydd ab Rhys ymosod arno oedd castell Llanymddyfri, lle trigai'r Norman osodasid yn arglwydd y Cantref Bychan. Dan y Norman hwn yr oedd amryw Gymry, yn enwedig Meredydd fab Rhydderch fab Caradog, yn ymladd yn ôl dull y Normaniaid, ac yn foddlon dan iau eu meistri. Y mae'r castell ar fryncyn sy'n codi ar lan yr afon ar lawr dyffryn Tywi; ac yr oedd y tŵr, y mae'n amlwg oddiwrth ei weddillion, yn uchel ac yn gadarn iawn. Llosgodd Gruffydd y rhag-gastell, ond ni fedrai wneyd dim i'r twr. Bu saethu rhwng ei saethyddion ef ar rhai oedd yn y twr, ond gorfod iddo adael y dyffryn heb orffen y gwaith. Tebyg yw hanes ei ymgyrch nesaf. Ymosododd ar y castell gadwai Henry Bohemond uwchben porthladd bychan tlws Abertawe, - y mae esgyrn yr hen gastell yn awr yng nghanol y tai lliosog, - torrodd y rhagfur, ond methodd gymeryd y tŵr. Tynnodd ei lwyddiant luoedd ar ei ôl, rhai o gariad at yr anrhaith, a rhai o gariad at eu gwlad, - o chwant anrheithiau, ebe'r croniclydd. Ynfydion ieuainc y geilw'r croniclydd Cymreig ddilynwyr Gruffydd; ac ni thal ewyllys ddim, ebe'r hen fynach duwiol a thawel, oni bydd Duw yn borth iddo.


Gwelodd y Normaniaid eu perygl, a phenderfynasant dorri grym y llifeiriant Cymreig trwy ddefnyddio tywysogion Cymreig i'w cynorthwo. Yr oedd llawer o Gymryn eiddigeddus tuag at Ruffydd, a gwyddent, os medrai ef ail ennill teyrnas ei dad, mai nid y rhai wasanaethasant y Normaniaid gai eistedd ar ei ddeheuIaw. Yr oedd Owen fab Caradog am ddal ei afael o ran o'r Cantref Mawr, yr oedd Meredydd fab Rhydderch wedi ymladd yn erbyn Gruffydd yn barod oddiar furiau Llanymddyfri, yr oedd Rhydderch fab Tewdwr a'i feibion Meredydd ac Owen yn disgyn o Fleddyn ab Cynfyn. Ymddiriedwyd castell pwysig Caerfyrddin, - rhwng Dyfed ac Ystrad Tywi,-i'r rhain bob yn ail. Pan ddaeth tro Owen ab Caradog i amddiffyn y castell yr ymosododd Gruffydd arno, yn y nos. Yr oedd Owen ab Caradog ar flaen ei wŷr, a lladdwyd ef. Cymerodd gwŷr Gruffydd gastell Caerfyrddin ond y tŵr, ciliasant heb gymeryd hwnnw.


Yr oedd noddfa barod i Ruffydd a'i fyddin, - coedwigoedd y Cantref Mawr. Chwyddai ei fyddin beunydd, a thybiai'r gwŷr ieuainc y medrai'r hwn dorrodd gastell Caerfyrddin wneyd pob peth. Trodd i ymosod ar gestyll Gŵyr, a chymerodd gastell yno. Ofnodd Gwilym o Lundain ei weled yn dyfod tuag at gastell Cydweli, a throdd ei gefn ar ei gastell mawr yn ei ofn, gydai anifeiliaid a'i olud.


Ond i Geredigion yr oedd Gruffydd wedi arfaethu troi cyfeiriad ei fuddugoliaeth. Yr oedd gwŷr ieuainc Ceredigion mor barod i'w groesawu ag a fuasai gwŷr ieuainc Dyfed,ac ar flaen gwŷr Ceredigion yr oedd Cedifor ab Goronwy, Hywel ab Idnerth, a Thrahaiarn ab Ithel. Nid oedd gair da i'r rhain, - yn enwedig i Gedifor, er eu bod oII yn perthyn i Ruffydd ab Rhys, - ymysg rhai ofnus Ceredigion, oherwydd eu bod wedi ymgynhyrfu cymaint yn erbyn y Fflemisiaid ar Saeson. Tybiai llawer nad oedd neb ond Duw fedrai wrthsefyll Harri'r Cyntaf, y gŵr oedd wedi dinistrio cymaint o rai grymus. Ac am hynny ni fedrent esbonio paham y rhedai pobl Ceredigion yn gyfun megis yn ddisyfyd at Ruffydd ab Rhys ond trwy roddi rheswm roddid yr amser hwnnw ar bob peth anesboniadwy, - o ddieflig anogedigaeth.


Ymosododd llu Gruffydd ar y Saeson oedd wedi dechreu ymgastellu yng Ngheredigion, ac y mae'n ddiamau i lawer o rai heddychlon o honynt orfod dioddef oherwydd traha hir y castellwyr. Cylchynwyd castell Peithyll, a chymerwyd ef, - gan ei losgi a lladd ei amddiflynwyr. Y nos honno gosodasant eu pebyll ar y Glas Grug, rhwng Llanbadarn ac Aberystwyth, gan feddwl cymeryd castell Aberystwyth drannoeth. Yn ystod y nos bu negeswyr dychrynedig yn rhedeg rhwng Aberystwyth ac Ystrad Meurig, ac yr oedd y castellwyr wedi penderfynu ymladd hyd farw, gan dybied mai ofer fyddai iddynt ddisgwyl trugaredd. Nid oedd fawr drefn ar lu Gruffydd wrth ymosod, ac yn eu gorhyder arweiniwyd hwy i'r fagl gan ddichell y Normaniaid.


Clywodd Harri frenin fod Gruffydd ab Rhys yn prysur ddod yn dywysog Deheudir Cymru, a'i gynllun oedd anfon Owen ab Cadwgan i wrth-weithio ei ddylanwad. Fy ngharedicaf Owen, ebe'r brenin wrth Owen ab Cadwgan, hen arweinydd y blaid wladgarol yng Nghymru, a adwaenost ti y lleidryn Gruffydd ab Rhys, sydd megis yn ffoedig yn erbyn fy nhywysogion i? Am fy mod yn credu dy fod di yn gywiraf gŵr i mi, mi a fynnaf dy fod di yn dywysog llu gyda'm mab i yn erbyn Gruffydd ab Rhys. A mi a wnaf Lywarch ab Trahaiarn yn gydymaith iti, canys ynnoch chwi eich dau yr ymddiriedaf fi; a phan ddychwelwch drachefn, mi a dalaf bwyth iti'n deilwng.


Llawenhaodd Owen, ebe'r hanes, a chynhullodd ef a Llywarch fyddin i fynd i geisio Gruffydd ab Rhys yng nghoetir Ystrad Tywi, - y coedwigoedd anawdd myned iddynt a hawdd rhuthro o honynt.


Rhyfeddai Harri, brenin Lloegr, yn llidus fod gwladgarwch y Cymry'n wenfflam drachefn. A'i yn ofer yr oedd wedi ennill Owen ab Cadwgan, cyneuydd pob tân ac arweinydd y gwladgarwyr, yn ddilynwr ffyddlon iddo ef ei hun? Prin y medrai Norman fel Harri'r Cyntaf ddeall paham y gwresogid calon ac y cryfheid braich neb gan gariad at wlad. I'r Norman yr oedd y byd yn wlad; teimlai mor gartrefol ar wastadeddau'r Seine ag yng nghilfachau traethell greigiog Norway, gallai ef ymgartrefu'n hyfryd yn nyffryn yr Wysg neu yn ynys Sicily neu ar fynyddoedd anial Hebron. Tybiai'r brenin Normanaidd mai hunan-les y cyfrwys oedd yn esbonio bywyd y tywysog Cymreig, am mai hynny oedd yn esbonio bywyd yr iarll Normanaidd. Teimlai, os medrai gael yr arweinyddion i'w law, y byddai gwlad yn dawel ac yn gaeth. Tybiai ei fod wedi lladd cenedlgarwch y Cymry, - peth ynfyd yr adeg honno, hyd yn oed i'w garedigion, - trwy ddenu ac ennill yr Owen ab Cadwgan ddewisasid fel tywysog i'r cenedlgarwch cryf ond ansicr hwnnw. Ond dyma'r cenedlgarwch yn fyw wedi'r cwbl, er fod Owen yn aros yn hyfrydwch llys y brenin. Ac ni fedrai Harri wneyd yn well, yn ôl ei dyb ef, nag anfon Owen i ddiffodd y fflam a gynheuasai gynt.


Erbyn i Owen ab Cadwgan a Llywarch ab Trahaiarn arwain byddin y brenin at y coedwigoedd oedd yn cuddio glannau Tywi yn yr adeg honno, yr oedd llu Gruffydd ab Rhys wedi digalonni oherwydd methu ennill castell Aberystwyth, a gwasgarasant pan welsant fod hen arweinwyr lluoedd Powys ac Arwystli yn dod a byddin Lloegr i'w llethu. Daeth byddin Owen at y coetir, ac yr oedd ei filwyr, wrth fyned i'r coed, dan amod gaeth. Nid oeddynt i arbed gŵr na gwraig, mab na merch, rhag y cleddyf; a phwy bynnag a gyfarfyddent, nid oeddynt i'w adael heb ei drywanu, ei grogi, neu drychu ei aelodau. Aeth y gair ymysg pobl gwlad Gruffydd ab Rhys nad oedd dim i'w ddisgwyl ond marw. Aeth rhai i lechu i guddfeydd y coedwigoedd dyrus, ffodd ereill i Geredigion a Dyfed, ac aeth rhai at y cestyll Normanaidd agosaf i erfyn am nodded rhag y fyddin. Y mae meddwl am y rhai olaf hyn yn dwyn dihareb i feddwl y croniclydd Cymreig, - Y ci a lyf yr arf y brather ag ef.


O bob adeg yn hanes hen Gymru, dyma yr adeg y mae gwir debycaf i ddychymyg y nofelydd medrus. Y nos dywell, Gruffydd ab Rhys ar ffo, Gwenllian yn nhy ei thad draw, y Fflemisiaid a'u lanternin dod yn araf tua Chaerfyrddin, pobl Ystrad Tywi'n llechu yn y coedwigoedd oedd fel rhan o'r nos draw, y cyfarfyddiad damweiniol rhwng Owen ab Cadwgan a Gerald Ystiward, - y ddau wnawd yn elynion gan brydferthwch diarhebol Nest, - dyma hanes tebycach i ffug na'r rhan fwyaf o'r ystraeon nyddir gan nofelwyr y dyddiau hyn. Ond nid fel sail chwedl y mae a fynno fi â'r noson dywell honno.


Yr oedd byddin Owen a Thrahaiarn yn gwylio godraur coedwigoedd, - gwelent y nos ar y bryniau coediog draw, a gwelent lusernau'r gwylwyr ar furiau Caerfyrddin yr ochr arall. Yr oedd Owen ei hun, gyda rhyw ddeng ŵr a phedwar ugain gydag ef, yn gwylied rhag i neb ddianc o'r coedydd i gyfeiriad y dref. A chraffent drwy'r tywyllwch, i edrych a welent oleu rhyw fforddolion. Toc gwelent oleu dynion yn cyrchu trwy'r tywyllwch tua chastell Caerfyrddin, i roi eu harfau i lawr. Ymlidiasant ar eu holau ar frys, a daethant o hyd iddynt ymron dan gysgod y muriau. Dihangodd rhai rhagddynt, ond daliasant rai ereill, ac aethant a hwy'n ôl at eu cymdeithion. A dal ffoedigion y Deheubarth oedd gwaith Owen ab Cadwgan.


Y nos honno, fel y myn pethau ddigwydd, yr oedd llu o Fflemisiaid y Rhos yn cyrchu tua Chaerfyrddin, - prif farchnadle Cymru yn y dyddiau hynny. Yn eu mysg yr oedd Gerald Ystiward, gŵr Nest, hen gariad Owen ab Cadwgan. Hwn oedd y gŵr y torasai Owen ei gastell, gan wneyd iddo ffoi am nodded i'r geudy, a chan ddwyn ei wraig ymaith. Yr un oedd meddwl pob un o'r Fflemisiaid am Owen, - yr oedd wedi dianrhydeddu ceidwad castell Penfro, ac yr oedd wedi bod yn brif elyn y trefedigaethau Ffleming yn Nyfed. Cofiai'r masnachwyr fel yr anrheithiai, fel y lladdai, pan oedd yn arweinydd byddin o Gymry penboeth edrychent ar y Fflemisiaid fel ysbeilwyr eu gwlad.


Yr oedd rhai o'r Cymry yr ymosodai Owen arnynt, fel y gwelwn, wedi dianc. Daeth y rhain i gyfarfod y Fflemiswyr, a dywedasant fod Owen ab Cadwgan yn ymyl, a'i fod wedi eu hanrheithio a'u hysbeilio hwy. Berwodd gwaed cer y dieithriaid wrth gofio cymaint ddioddefasent oddiar law Owen, ac yr oedd Gerald yno i'w cynghori ac i'w harwain. Yr oedd eu casineb yn ddigon cryf i'w gwneyd yn dewr; ond gwyddent nad oedd ond ychydig o wŷr yn gwylio gydag Owen. Aethant allan drwy borth Caerfyrddin, gan feddwl dial llawer o hen gamwri.


Yr oedd Owen a'i wŷr a'i garcharorion yn cymeryd eu hynt yn araf. Nid oedd Owen yn meddwl am ddim drwg, ond am y drwg yr oedd ef ei hun yn feddwl wneyd. Yn sydyn dyma lu dirfawr yn ei ymyl, yn y nos. Yr oedd ef ar y blaen, a gwaeddodd ei gymdeithion yn ddychrynedig, - Dyma liaws yn dilyn ar ein holau, ac nis gallwn eu gwrthwynebu. Trodd Owen yn ôl a gwelodd nad Cymry oedd yr ymlidwyr, ond y Fflemisiaid diog a thawel y dirmygasai gymaint arnynt wrth eu hanrheithio gynt. Nac ofnwch heb achos, meddai wrth ei wŷr, byddinoedd y Fflemisiaid ynt. Ond gallai'r masnachwr Fflernisaidd tewaf a diocaf anelu mor union, yn y tywyllwch, a saethyddiono gwychaf Ystrad Tywi

Trodd Owen yn ei ôl, a safodd ei fyddin fechan ei thir yn ddewr yn erbyn torf yr ymlidwyr. Ond daeth saeth o rywle o'r tywyllwch, a brathodd Owen ab Cadwgan. A phan welodd ei wŷr fod eu harweinydd enwog wedi cwympo, ffoisant o flaen gwŷr Gerald. Ar noson honno cafodd Gerald deimlo fod iawn wedi ei wneyd am anrhaith castell Cenarth a dianrhydedd Nest.


Gyda'r bore clywodd holl fyddin y brenin fel y bu Owen farw, wedi ei ddal megis ym magl nos. Nid oedd Llywarch ab Trahaiarn yn awyddus am gymeryd ei le, a throdd ef a'i wŷr eu cefnau ar Ystrad Tywi, gan deithio tua'u gwlad fynyddig eu hun.


Yr oedd marwolaeth Owen yn golled fawr i Harri frenin, ar adeg yr oedd yn anodd iddo ei hebgor. Tra yr oedd Owen yn fyw, yr oedd Powys o leiaf yn dawel, ac yr oedd Cyfeiliog ac Arwystli a Meirionnydd a Phenllyn yn dawel ar ei gororau. Gyda Gruffydd ab Cynan yng Ngwynedd, yn hen ac yn ddoeth, - yn gwybod mai ynfydrwydd fyddai herio brenin Lloegr; gyda Phowys, a'i thywysogion lliosog ymladdgar, dan lywodraeth Owen ab Cadwgan; gyda'r Deheubarth heb dywysog,o a'r cestyll yn codi a'r Fflemisiaid yn ffynnu yn hyfryd leoedd Dyfed a Gŵyr,- gyda hyn oll tybiai Harri na chai fawr o helbul ynglŷn â Chymru am amser hir.


Ond, gyda marwolaeth Owen, daeth llawer o newid. Yr oedd undeb Powys wedi darfod, yr oedd Meirionnydd a Chyfeiliog a Phenllyn yn paratoi i ymladd yn erbyn goruwchlywodraeth Powys, ac ni wyddid a fedrai wyrion lliosog Bleddyn ab Cynfyn ymgadw rhag ymladd â'u gilydd. Yr oedd cynnwrf i fod yn y Deheubarth hefyd; yr oedd llygaid pawb yn troi at Ruffydd ab Rhys, ac yr oedd adar, meddid, yn barod i godi o hesg llyn Safaddan i ganu ar archiad brenin cyfiawn y wlad. Yng Ngwynedd hefyd yr oedd to newydd yn codi, - yr oedd Gwenllian ac Owen Gwynedd wedi tyfu i addfedrwydd gwrhydri yn llys Gruffydd ab Cynan. Gruffydd ab Rhys sydd i roddi heddwch a mawredd i'r De yn y dyddiau rhyfedd yr ydym yn awr ar eu trothwy. Owen Gwynedd sydd i wneyd defnydd o deimlad gwladgarol y Gogledd, ac i wrthwynebu un o'r brenhinoedd galluocaf welodd Lloegr erioed. A Gwenllian oedd y cwlwm tyner rhwng Gogledd a De yn ystormydd yr adegau terfysglyd hynny.


Ni fradychasai Owen ei wlad. Penboeth yn ieuanc, ofnus yn hen,-dyna ei hanes, fel hanes cymaint o dywysogion Powys. Cododd ei seren yn ddisglaer, a siomodd obeithion lawer. Efe oedd i arwain y gwladgarwyr, ond tawelwch llywodraeth y Norrnan ddaeth; efe oedd i heddychu Cymru, ond bu farw pan oedd y corwynt ar ddeffro. Y mae ei ddechreu a'i ddiwedd yn debyg iawn; gelynion pechodau ei ieuenctyd, - pechodau yr oedd wedi cael digon o amser i edifarhau am danynt, - a ddygodd ddial arno yn y diwedd.


Collodd Harri'r Cyntaf, felly, y gŵr oedd i ddwyn Cymru dan ei iau. Colli wnaeth hefyd ei unig fab, William. Yr oedd ei holl gynlluniau yn troi o gwmpas y bachgen hwn, ac yr oedd newydd wneyd i holl fawrion ei deyrnas dyngu llw ffyddlondeb iddo. Wrth iddo ddod adre o ryfeloedd Ffrainc, yn 1120, i gadarn reoli Cymru, suddodd y Llong Wen, a mab y brenin ynddi.


Clywodd y croniclydd Cymreig am y digwyddiad alaethus, a dychmygodd ef am donnau mawrion a thymhestloedd dirfawr. Ond noson glir rewllyd oedd, a phob peth yn hawdd ei weled dan y lleuad lawn. Daeth llongwr at y brenin i ofyn a gai ei fab groesi'r môr yn ei Long Wen ef. Caniataodd y brenin hynny, a chyda'i fab aeth meibion a merched llawer brenin coronog a phendefig balch. Yfodd rhwyfwyr a milwyr y Llong Wen iechyd da i'w tywysog hyd nes y daethant yn ddigon rhyfygus i wneyd unrhyw ddrwg. Galwyd am i'r llong ruthro drwy'r tonnau, i ddal llongau'r brenin. Yr oedd y milwyr meddwon yn ymdreigio ymysg y rhwyfwyr, ac yn cymeryd eu rhwyfau oddiarnynt; yr oedd morwyr meddwon yn trin yr hwyliau; yr oedd dyn meddw wrth y llyw. Yr oedd craig a'i chrib yn prin godi o'r tonnau. Tarawodd y Llong Wen yn ei herbyn, a throdd llawen ganu'r tywysogion ar tywysogesau'n waedd ofer am achub bywyd. Erbyn y bore nid oedd ond un dyn, - rhyw gigydd tlawd mewn dillad o grwyn defaid, - yn cydio am ei fywyd yn yr hwylbren oedd yn codi o'r dŵr.


Yr oedd esgob wedi bendithio'r Llong Wen wrth iddi gychwyn, yng nghanol gwawd a dirmyg y rhai meddwon fendithiai. Clywai y gwaeddi chwerw, ond ni wyddai beth oedd. Clywodd y brenin y floedd hefyd, er ei fod ymhell ar y môr, ond ni wyddai mai ei fab, - gobaith ei holI amcanion, - oedd yn boddi. Anodd oedd dweyd wrth y brenin fod ei fab yng ngwaelod y môr. Ni fynnai neb o'r mawrion wneyd, ond anfonasant lanc i wylo yng ngwydd y brenin, a hwnnw ddywedodd yr hanes iddo. Syrthiodd y brenin i lewyg, ond daeth ato ei hun i wylo, ac yr oedd ei ofid, medd y croniclydd Normanaidd, fel gofid Jacob ar ôl Joseff ac fel gofid Dafydd am Absalom. Ac yr oedd gofid ymron ymhob teulu pendefigaidd yn Lloegr a Ffrainc am golli mab neu ferch.


Gyda mab y brenin collwyd rhai ereill fuasai'n cymeryd rhan yn hanes Cymru, - Richard, iarll ieuanc Caer; a William, mab Robert o Ruddlan. Gŵr dewr a charedig oedd Richard, mab Huw Flaidd, ac yr oedd wedi priodi wyres y brenin. Yr oedd William yn dod adref ar gais y brenin, i feddiannu'r wlad enillasai ei dad creulon. Ond nid ffyrdd Rhagluniaeth oedd cynlluniau Harri'r Cyntaf. Ni adawyd ei fab, i lethu Cymru â grym unol Lloegr. Ni ddaeth mab Huw Flaidd a mab Robert o Ruddlan, meibion ei hen elynion, i ymosod ar Rufydd ab Cynan yn ei hen ddyddiau. A digon prudd yw unigrwydd brenin Lloegr ymysg ei farwniaid bradwrus, pan gofir fod Owen Gwynedd a Chadwaladr yn etifeddion cynlluniau a gallu eu tad Gruffydd ab Cynan.