Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Owen ab Cadwgan

Geni Gwladgarwch Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
Owen ab Cadwgan
gan Owen Morgan Edwards

Owen ab Cadwgan
Gruffydd ab Rhys

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II

PENNOD IX

OWEN AB CADWGAN.


ERBYN hyn mae Gruffydd ab Cynan, wedi crwydro ac ymladd a dioddef, yn dechreu heneiddio ar orsedd Gwynedd, ac yn tybio fod heddwch â'r gelyn yn gadernid i'w orsedd. Y mae meibion Bleddyn yn teyrnasu ar Geredigion ac ar wahanol dalaethau Powys, ac y maent hwythau hefyd yn meddwl mai mewn heddwch â Harri'r Ail y mae diogelwch eu gorseddau bach sigledig. Ond fel arall y tybiai y to ieuanc, - y mae Owen Gwynedd a Rhys ab Gruffydd i uno De a Gogledd ac i roddi bywyd Harri'r Ail mewn enbydrwydd wrth geisio darostwng mynyddoedd Cymru.


Ond, ar y cyntaf, gallesid meddwl mai o Bowys y codai byddin gwladgarwch Cymru. Os oedd meibion Bleddyn yn aberthu popeth er mwyn dal y ddysgl yn wastad i frenin trahaus Lloegr, yr oedd eu meibion hwythau a'u bryd ar daflu iau yr estron ymaith. Yr oedd y gwŷr ieuainc hyn, Owen ab Cadwgan a'i gefndryd a'i gyfeillion, yn arweinwyr gwrthryfel heb eu bath; medrai Owen godi hen gynnen rhwng Cymru a Lloegr, a rhwng tylwyth a thylwyth yng Nghymru.


Yr oedd Cymry'r oes honno yn barotach i ryfela gyda'r tywysogion ieuainc nac i ymheddychu gyda'r hen, ac Owen roddai droell chwyrn eu naturiaeth yn fflam. Ond, er y gallai pendefigion ieuainc Powys godi'r dymestl, ni allent ei gostwng pan y mynnent. Medrent yrru llwythau Cymru'n benben, ond ni allent eu huno i wneyd daioni. Ond daw'r dinistriwr diamcan yn aml o flaen yr adeiladydd pwyllog.


Yr oedd yr ymladd â'r Normaniaid wedi dirywio a chreuloni natur llawer o'r tywysogion Cymreig. Y Normaniaid a'u dysgodd i ddallu eu gilydd, ac i gosbi eu gelynion mewn dull rhy waradwyddus i'r hanesydd ei ddarlunio ond yn gynnil gynnil. Yr oedd gwŷr yr oes honno mewn eithafion o hyd, - weithiau'n cyflawni ysgelerderau wnaethai i'r oes hon edrych ar yr hwn a'u cyflawnai fel anghenfil, weithiau'n ymroddi i grefydd rhy galed i sant perffeithiaf ein dyddiau digynnwrf ni. Medrai'r nofelydd wau rhamant ddyddorol am Owen ab Cadwgan,-y gŵr fu'n gwibio rhwng y ddwy ymdrech dros Gymru, - ond buasai raid iddo wneyd Owen yn dynherach nag oedd, a Nest yn fwy pur.


Wedi eu troi o Bowys a Cheredigion, meddyliodd Owen a Madog am nodded ym Meirionnydd mewn heddwch, lle yr oedd Uchtryd yn rheoli y cyffindir mynyddig a garw hwn. Daethant i Gyfeiliog i ddecbreu, a chiliodd meibion Uchtryd oddiyno yn ôl tua Meirionnydd ou blaenau, gan nad oeddynt yn sicr, pe codai ymrafael, ar ochr pwy y safai gwŷr Cyfeiliog.. Lletyodd Owen a Madog a'u canlynwyr yng Nghyfeiliog, gan feddwl troi tua Meirionnydd yn y bore, heb feddwl drwg. Onid oedd digon o le ar y mynyddoedd ac yn ycoedwigoedd, rhwng y Berwyn a glan ogofaog y môr, i Gymry gwladgarol yn chwilio am fan i aros?


Ond yr oedd meibion Uchtryd wedi dychrynnu, ac wedi galw gwŷr Meirionnydd atynt. Prin y gwyddent hwy, hwyrach, nad fel y trinasid Ceredigion y triniai Owen Feirionnydd.


Cychwynnodd gwŷr Owen o Arwystli tua Meirionnydd. Yr oeddynt yn croesi'r mynyddoedd, ac yn ymdaith ymlaen goreu gallent, heb drefn ymladd arnynt, hyd y daith fynyddig anial. Yn sydyn wele wŷr Meirionnydd, wedi eu trefnu ar gyfer brwydr, yn ymdeithio i'w cyfarfcd. Nid hir y buont heb ddeall mai fel gelynion yr edrychai Uchtryd arnynt. Rhuthrodd pobl Meirionnydd yn eu herbyn; a diangasant hwythau yn eu holau, yn llu anrhefnus clwyfedig. Yr oedd Owen yn dyfod; a phan welodd ei wŷr yn dianc i'w gyfarfod, deffrodd ei natur gynhyrfus ar unwaith, a phenderfynodd mai nid mewn heddwch yr a'i i Feirionnydd. Trefnodd ei lu ar amrantiad, trodd eu gwynebau'n ôl tua'r rhai oedd yn eu hymlid, a dechreuodd gyflymu ei gamrau wrth eu harwain. A phan welodd gŷr Meirionnydd ef yn cyrchu'n wrol ac yn barod i ymladd, ffoi yn ddisyfyd a wnaethant. Ac Owen a'i lu a'u hymlidiasant hyd eu gwlad; a diffeithio y wlad a wnaethant, a llosgi y tai a'r ydau, a lladd hynny o ysgrubliaid ag a gawsant. Ond ni ddygasant ddim ymaith yn anrhaith gyda hwy.


Nid diffeithio Meirionnydd oedd amcan Owen, ac anffawd fawr iddo oedd fod ei lid wedi trechu ei amynedd. Nid oedd le iddo ym Meirionnydd mwyach. Trodd Madog yn ôl i Bowys, ac aeth Owen i Geredigion. Yr oedd digon o rai yno yn barod i'w ddiiyn. O'r Mynydd Bach i lannau Teifi yr oedd gwŷr ieuainc yn barod ddydd a nos i ymosod ar y Normaniaid oedd yn edrych yn hiraethlawn ar froydd gweiriog Ceredigion oddia'r furiau Cilgeran.


Cododd Owen lu o wŷr ieuainc Ceredigion, ac arweiniodd hwy i Ddyfed, lle yr oedd y milwyr Normanaidd yn trigo, a Fflandrwys yn ceisio meddiannu'r tiroedd a'r trefydd oedd dan gysgod eu cestyll. Ni fynnai Owen a gwŷr Ceredigion adael lionydd i'r bobi radlon dewion hyn, mwy nag i'r milwyr haerllug didoriad oedd yn llenwi'r wlad â gorthrymder. Prin y credai pobl bwyllog Ceredigion fod Owen yn ei le, ni chai drigo ond ar derfynau'r wlad, - yn y mynyddoedd sy'n derfyn oesol rhwng eu gwlad hwy a phob gwlad arall. Ac ysgrifennai hen fynach yn Ystrad Fflur, a'i waed wedi oeri er ys llawer blwyddyn, wrth glywed hanes Owen gan y rhai ddeuai i erfyn am ei fendith, -

Ac eilwaith yr aethant i alw ynfydion a chwanegi eu rhif, a chyrchu dros nos y wlad a'i llosgi, a lladd pawb ar a gawsant ynddi, ac ysbeilio ereill, a dwyn ereill ganddynt yngharchar, a'u gwerthu i'w canlynwyr Gwyddelig a'u hanfon yn rhwym yn eu llongau.


Ofn am ddiogelwch Cadwgan, tad Owen, oedd ar y mynach. Gwyddai y byddai raid i Gadwgan ffoi o Geredigion wedyn os deuai hanes Owen i glustiau brenin Lloegr. A rhag ofn i hynny ddigwydd, wele'r hen Gadwgan yn mynd gyda Iorwerth tua llys y brenin, i fynnu cael ymddiddan ag ef. Gwyddai fod rhywun arall wedi hen ddeisyfu Ceredigion, ac yn sicr o ddweyd wrth y brenin ychwaneg na'r gwir. Yr oedd Gerald ystiward, gŵr Nest, wedi gorfod ymguddio mewn geudy tra'r oedd Owen yn llosgi ei gastell, ac yn mynd a Nest brydferth oddiarno. Heblaw hyn, yr oedd Norman arall wedi gofyn i'r brenin lawer gwaith am Geredigion, gan ymhyfrydu yn nhrallodion yr hen Gadwgan oherwydd y mynych ddistryw wneid gan ei fab afradlon.


Erbyn i Gadwgan gyrraedd llys y brenin, gwelodd fod y newydd drwg wedi cyrraedd o'i flaen. Yr oedd hynafgwr o'r Fflemisiaid, o'r enw Wiliam o Frabant, wedi ei ladd gan wŷr Owen, a phwy ddaeth i lys y brenin i gyfarfod Cadwgan ond brawd hwnnw, i ddweyd wrth y brenin fod Owen a'i wŷr wedi lladd ei frawd.


Beth ddywedi am hynny? Ebe'r brenin wrth Gadwgan.


Nis gwn i, arglwydd, ebe Cadwgan.


Gan na elli gadw dy frenhiniaeth rhag cymdeithion dy fab, ebe'r brenin, fel y lladdant fy ngwyr i eto, mi a roddaf dy frenhiniaeth i'r neb a'i cadwo. A thithau a drigi gyda mi ar yr amod yma, - na sethrych dy briod wlad. A mi a'th borthaf o'm hymborth i hyd nes y cymraf gyngor am danat.


Gorfod i Gadwgan aros yn llys brenin Lloegr, ond heb roddi gefyn arno. Gallai rodio'n rhydd i'r cyfeiriad a fynnai, ond i'w wlad ei hun. Ac yna anfonodd y brenin am Norman dewr moliannus, cyfaill i'r brenin, a gŵr ardderchog - Gilbert fab Ricert, un oedd wedi gofyn droion am ran o wlad y Cymry yn ysglyfaeth.


Yr oeddit yn wastad yn ceisio rhan o dir y Brytaniaid gennyf, ebe'r brenin wrtho. Mi a roddaf it yr awr hon dir Cadwgan. Dos, a goresgyn ef. Cymerodd Gilbert y rhodd yn llawen gan y brenin. Galwodd ei gymdeithion ato, cynhullodd lu, ac aeth a chymerodd feddiant o Geredigion. Ac adeiladodd ddau gastell ynddi, nid amgen un gyferbyn a Llanbadarn, yn ymyl aber yr afon a elwir yr Ystwyth; ar llall gerllaw aber Teifi, yn y lle a eiwir Dingereint, lle y sylfaenasai'r Norman Rosser gastell cyn hynny. Felly yr oedd Gilbert yn cydio yng Ngheredigion â llaw haiarn o'r ddeutu, a'i wŷr yn tramwyo o gastell i gastell, o gwr i gwr o Geredigion, hyd lan y môr neu hyd fronnau'r bryniau sydd yn sefyll uwchben corsydd mawnoglyd y Teifi.


Dihangodd Owen a Madog i'r Iwerddon. Arhosodd Owen ab Cadwgan am beth amser yn yr Iwerddon, yr oedd ef yn eithaf cynefin ag arferion y Gwyddelod. Ond buan y blinodd ei gefnder Madog ar wlad ei alltudiaeth; ac er cymaint o ddrwg a wnaethai yng Nghymru, trodd ei wyneb yno'n ôl. I Bowys yr aeth, y wlad oedd dan lywodraeth ei ewythr Iorwerth.


Yr oedd Iorwerth mewn anhawster mawr. Nid hoff ganddo oedd gwrthod nodded a chynhaliaeth i fab ei frawd, a gwyddai fod y gwŷr ieuainc yn boblogaidd iawn ymysg y werin. Ond yr oedd brenin Lloegr yn gorfodi pob uchelwr i fod yn gyfrifol am bawb yn ei diriogaeth. Yr oedd hon yn hen ddeddf yn Lloegr, fod i bob un ateb dros ei wŷr ei hun; a gwnaeth y brenhinoedd Normanaidd hon yn un o'u hoffus ddeddfau. Pan ddaeth tywysogion y gororau yn wŷr ffydd iddynt, gosodasant hwy dan yr un ddeddf. Gwyddai Iorwerth na fuasai waeth iddo ysbeilio'r Saeson ei hun na gadael i Fadog wneyd hynny o'i diriogaeth. Yr oedd Cadwgan wedi colli ei gyfoeth o achos Owen; gwyddai Iorwerth, os na allai gadw Madog draw trwy deg neu trwy drais, mai yr un a fyddai ei dynged yntau.


Felly nid hygar na thrugarog fu Iorwerth wrth ei nai cynhyrfus. Nid oedd unrhyw un i eiriol ar ei ran, na dweyd gair am ei weithrediadau wrtho, rhag i neb fedru dweyd wrth frenin Lloegr fod a fynno Iorwerth ddim a'i nai. Chwerwyd ysbryd Madog drwy hyn, a llechodd yn wibiadur yma ac acw, gan ochel gallu Iorwerth. Trodd ei gariad at ei deulu'n gasineb, a phenderfynodd ddial ar ei hen ewythr gochelgar. Yn rhywle yn ei wibiadau, cyfarfyddodd Llywarch ab Trahaiarn, etifedd Arwystli wyllt a gwrthryfelgar, ac un o elynion mwyaf anghymodlawn teulu Bleddyn ab Cynfyn. Gwnaeth y ddau gymod anaturiol ac anuwiol a'u gilydd, gan benderfynu gweithio trwy frad lle nas gallent lwyddo drwy rym a chariad.


Yr oedd Iorwerth i fynd ar daith dros fryniau Powys i Gastell Caer Einion. Gadawodd Madog a Llywarch iddo gyrraedd y tŷ lle yr oedd i aros, ac yna gosodasant eu llu o amgylch y lle. Yna rhoddasant y tŷ ar dân, pan oedd Iorwerth yn cysgu, yn nyfnder y nos. Deallodd cymdeithion Iorwerth eu bod mewn perygl, a rhuthrasant allan trwyr tân. Ond derbyniwyd hwy gan bicellau Madog a Llywarch. Pan welodd fod yr adeilad ar syrthio ar ei ben ac i'r fflamau, wedi ei ddeffro gan y twrw, aeth Iorwerth yntau aIIan. Yr oedd wedi llosgi yn barod, a chollodd ei fywyd trwy waewffyn ei nai. Felly y bu farw un o feibion Bleddyn, y gŵr fu'n penderfynu pa un a'i Robert o Felesme a'i Harri'r Cyntaf oedd i reoli Cymru.


Yr oedd Harri frenin mewn helynt gydai ieirll ei hun, a deallodd y gallai Madog godi Cymru yn ei erbyn. Os oedd yn ddigon mentrus i Iadd ei ewythr ei hun pan safai yn ei ffordd, pa beth na wnai yn erbyn cyfraith a gwŷr y breněn a gashai?. Gwelodd y brenin fod yn rhaid iddo gymeryd mantais ar y casineb rhwng gwahanol aelodau teulu grymus Bleddyn ab Cynfyn.


Yr oedd Cadwgan yn llys y brenin o hyd, ar ei rybudd nad ai'n agos i Gymru, ac yr oedd ei fab Owen ar ffo yn yr Iwerddon o hyd. Dywedodd y brenin wrth Gadwgan fod ei nai Madog wedi lladd ei frawd Iorwerth. Gwell oedd gan Harri weld hen ŵr fel Cadwgan, a'i ysbryd wedi ei ddofi, yn rheoli Powys, na gweled gŵr ieuanc fel Madog yn herio ei allu yno. Dywedodd wrth Gadwgan y cai fynd i Bowys i'w rheoli, a rhoddodd gyngor a chennad iddo ymheddychu â'i fab Owen. Galw ef o'r Iwerddon atat, meddai, i fod yn gymorth i ti.


Prin y tybiodd Madog beth fuasai cynllun y brenin cyfrwys. Gwyddai nas gallai ddal ei dir yn erbyn Cadwgan ac Owen. Ail ddechreuodd lechu mewn coedydd, mor chwerw ei ysbryd ag erioed. Yr oedd wedi meddwl y buasai ei bechod ysgeler yn sicr o .ddwyn Powys i'w ddwylaw llofruddiog, ond dyma ewythr arall yn sefyll ar ei ffordd. Penderfynodd Madog roddi diwedd arno yntau.


Daeth Cadwgan yn llawen i'w wlad, wedi ofni llawer, mae'n ddiameu, mai mewn gwlad estronol y buasai farw. Daeth i ddyffryn hyfryd a ffrwythlawn yr Hafren, i'r Trallwm, lle y tybiodd y cai babellu mewn heddwch. Ond nid oedd heddwch iddo, yr oedd dwedd ei oes helbuius yn ymyl. Anfonodd Madog, oedd yn llechu rhyngddo a Chastell Caer Einion, ysbiwyr i weled ymha le y trigai. Pan ddaethant yn ôl, cychwynnodd Madog a i lu tua'r Trallwm, a'i fryd ar lofruddiaeth fel o'r blaen. Nid oedd yr hen ŵr Cadwgan wedi tybio dim drwg, a llesg iawn oedd i gyfarfod llu beiddgar Madog. Ffodd ei wŷr bob un. Ni fynnai ef ffoi, ac ni allai ymladd. Cafwyd ef yn unig yn y llecyn tlws hwnnw, ac yno y lladdwyd ef.


Tybiodd Madog fod y ffordd yn rhydd iddo gaei tir Powys yn awr. Rhicert, esgob Llundain, oedd yn cynrychiolir brenin yng nghastell yr Amwythig o hyd.. Anfonodd Madog genhadon at y gŵr hwn,-un guddiai ddoethineb droiog plant y byd hwn dan enw un oedd yn dirmygu'r byd a'i bethau, - i ofyn iddo am y tir y gwnaethai ddwy gyflaflan mor erchyll i'w ennill.


Nid fel llofrudd ei deulu yr edrychodd yr esgob ar Fadog, yr oedd yn llawer rhy gynefin â gwŷr o'i fath. Penderfynodd ei gadw'n llonydd, a'i wneyd yn deyrngarol i'r brenin, o leiaf hyd nes y medrid trefnu mewn rhyw fodd arall ar ei gyfer. Rhoddodd iddo y rhan honno o Bowys fuasai'n feddiant iddo ef a'i frawd Ithel cyn hynny. Nid er ei gariad ef y gwnaeth yr esgob hyn i Fadog, eber croniclydd Cymreig, namyn adnabod o honaw ddefodau gwŷr y wlad, mai lladd a wnai pob un o honynt eu gilydd.


Yr oedd gan yr esgob cyfrwysgall reswm arall. Gwyddai nad oedd bosibl cael gafael ar Fadog tra yr oedd yn llechu yn y coedydd, yn arwain llu i ble bynnag y byddai ysglyfaeth, a gwyddai nad oedd bosibl ei gosbi heb ei ddal. Ond, wedi rhoddi tir iddo, gwyddid ymha le i'w gael; a gwyddai Madog, yntau, y collai ei dir os collai ei amynedd neu ewyllys da'r esgob cyfrwys oedd yn llawenhau yng nghastell yr Amwythig wrth glywed fod y Cymry'n difodi eu gilydd.


Yr oedd un o feibion Bleddyn eto'n aros, - y Meredydd oedd yn rheoli y rhannau o Bowys agosaf i Went a Morgannwg. Anfonodd hwn at y brenin i ofyn am dir Iorwerth ei frawd, y tir na chafodd Cadwgan, ei frawd arall, ond prin ei weled cyn i frad Madog ei oddiweddyd. Dywedodd y brenin wrtho y cai y tir hyd nes y deuai Owen ab Cadwgan adre o'r Iwerddon. Bu Owen yn un ofnid fwyaf gan y brenin, ond yr oedd drwg weithredodd Madog wedi taflu rhai ei gefnder i'r cysgod, ac yn awr yr oedd y brenin yn hiraethu am weled Owen yn dod yn ôl.


Daeth Owen cyn hir, ac aeth at Harri frenin ei hun, ar adeg yr oedd yn dda i'r brenin hwnnw wrth wŷr ffyddlon. Cafodd y tir, rhoddodd wystion nad ymunai â'r ieirll gwrthryfelgar, ac addawodd lawer o arian.


Daeth Madog yntau ger bron y brenin, yr oedd yn barod i roddi gwystlon, i wneyd llawer amod, ac i addaw llawer o arian.


Bu heddwch yn nheulu Bleddyn ab Cynfyn am ennyd. Tua 1110 yr oedd Meredydd ab Bleddyn yn rheoli rhan ddeheuol Powys, yr oedd Owen yn nyffryn yr Hafren, ac yn uwch i fyny ar lethrau'r Berwyn yr oedd Madog,-ei gefnder, ei hen gydymaith, a llofrudd ei dad. Yng nghymoedd pell Plunlumon yr oedd Llywarch ab Trahaiarn, a throsodd yng Ngheredigion yr oedd yr estron, Gilbert fab Rhicert, yn ceisio darostwng gwŷr anhyblyg Ceredigion.


Yr oedd arnynt oll ofn eu gilydd, ac ymogelodd pob un rhag eu gilydd hyd ddiwedd y flwyddyn honno. Ond nid oedd argoel am heddwch er.hynny. Yr oedd llaw Gilbert estron yn drom ar Geredigion, ac yr oedd clywed fod Owen yn y wlad wedi ennyn gobaith y gorthrymedig. Yr oedd Owen wedi ennill lle ym meddwl y bobl fel arweinydd yr ymdrech am ryddid.


Yr oedd cynhyrfiadau ei ysbryd ei hun, a disgwyliadau ei genedl wrtho, yn gwneyd ei waith yn un anodd. Pa fodd y medrai ef wasanaethu brenin Lloegr trwy sefyll ochr yn ochr â gorthrymwyr ysbeilgar fel Gilbert, ac yntau wedi galw Cymry i'r maes gymaint o weithiau i ymladd dros Gymru a thros yr iaith Gymraeg? Pa fodd y medrai uno ei deulu i ymladd dros Gymru tra yr oedd ei gefnder, llofrudd ei dad, yn ymgynhyrfu ar ei derfynau? A pha obaith, - yn y dydd tywyll hwnnw, - oedd i Gymru? Yr oedd llond calon ei thywysogion o frad a llofruddiaeth, a gwiliair estron gwancus hwy.


Onid anodd oedd i'r esgob hwnnw gredu y newydd ddaeth iddo i gastell yr Amwythig o Gymru? Credai y lladdai teulu Bleddyn eu gilydd; ond clywodd eu bod yn maddeu i'w gilydd, ac yn ymuno i wneyd eu Cymru ranedig a thruenus yn Gymru rydd. Clywodd hefyd fod yr hen Ruffydd ab Cynan ymysg y llu.


Wrth edrych ar hen genhedlaeth yn diflannu, ac wrth weled wynon Bleddyn yn cymeryd lle eu tadau ar ororau cythryblus Powys, cawn ein hunain wyneb yn wyneb â gwladgarwch. O ba le y daeth? Trais a thrahar Norman orfododd y tywysogion i anghofio eu heiddigedd at eu gilydd, ac i weled nad allent gadw dim heb ymuno. A chododd Owen gri rhyfedd a newydd, ond cri fu'n effeithiol iawn ar unwaith, - iaith, gwlad, a chenedl.


Yr oedd y gwladgarwch newydd hwn yn beth mor ryfedd fel y condemnid ef gan rai o'r Cymry goreu. Ac, o ran hynny, nid peth hawddgar iawn oedd ar y dechreu. Yr oedd y tywysogion Cymreig wedi ymgreuloni, yr oeddynt wedi eu dysgu gan yr ieirll Normanaidd i ddallu eu gilydd ac i ymawyddu am gestyll a thir. Mewn mantell lofruddiog y daeth gwladgarwch i Gymru i ddechreu; ac nid rhyfedd fod y croniclydd yn tybied ei bod yn symud law yn llaw ag ynfydrwydd a phechod.


Tuag 1110 yr oedd y Cymry'n cael y llaw uchaf ar y Normaniaid. Yr oedd dau Norman cryf ac ysglyfaethus - iarll Caer ar Gilbert oedd yng Ngheredigion - yn gwneyd pob ymdrech i gael y brenin Harri'r Cyntaf a'i lu i ddinistrio gwladgarwyr Cymreig cyn iddynt ymgryfhau. Gwelai iarll Caer fod Gruffydd ab Cynan a'i deulu yn eangu ac yn cadarnhau gallu Gwynedd, fel mai ofer fyddai i'r un iarll Caer feddwl am estyn ei derfynau ymhellach i Gymry mwy. A gwelai Gilbert fab Rhicert fod gallu Owen ab Cadwgan yn cynhyddu ym Mhowys, - yr oedd ef a'i ewythr Meredydd yn rheoli popeth yno, - ac onid naturiol oedd meddwl y mynnai Geredigion yn ôl cyn hir?


Yr oedd y brenin yn pryderu am lawer o bethau pan glywai neges mab Huw Caer a mab Rhicert. Yn un peth, nid oedd am i'r ieirll Normanaidd fynd yn rhy rymus, yr oedd yn cael digon o drafferth oddiwrrh ddeiliaid hanner anibynnol yn barod. O'r ochr arall, ni fynnai er unpeth weled brenin yng Nghymru fedrai herio ei ieirll ac yntau. Mewn dau le yr ofnai Harri'r Cyntaf weled brenin yn codi, - yn Eryri ac yn Ystrad Tywi, - ac yr oedd yn eithaf parod i gychwyn tua Chymru pan ddywedid wrtho fod yr hen Ruffydd ab Cynan yn anesmwytho neu fod rhywun o hil Rhys ab Tewdwr ymysg y Deheuwyr.


Un o nodweddion y brenhinoedd Normanaidd ydyw eu ffyddlondeb i gynlluniau Gwiiym Orchfygwr. Glynodd Harri'r Cyntaf wrth ddull ei dad o ymwneyd â Chymru. Yr oedd Gwilym wedi rheoli Cymru trwy dywysogion Powys; yr oeddynt hwy i gymeryd ei ochr yn erbyn ei ieirll gwrthryfelgar, ac yr oedd yntau i'w dal hwythau yn erbyn y teuluoedd Cymreig ereill. Fel y defnyddiasai ei dad Fleddyn ab Cynfyn at ei bwrpas ei hun, felly y penderfynodd Harri ddefnyddio Owen ab Cadwgan, ŵyr y Bleddyn hwnnw. Y mae'n sicr hefyd fod Owen yn ffafryn ar gyfrifon ereill gan Harri, - yr oedd yn hardd a mentrus a pharod, ac yr ganddo allu i ennill serch. A meddwl Harri oedd ei wneyd yn un oi hoff ddilynwyr ei hun, yn gydymaith ffyddlon a difyr ac yn foddion i gadw Cymru'n llonydd.


Ond nid ar fod yn was i Harri frenin yr oedd bryd Owen. Yr oedd ef a'i ewythr Meredydd am gael meddiant o Bowys. Yr oedd cyfeiriad eu llygaid bob amser ar Arwystli fechan fynyddig, lle'r oedd Llywarch fab Trahaiarn yn rheolir wlad ddyfrheir gan yr Hafren ar Wy pan nad ydynt eto ond ffrydiau gwyllt. Yr oedd Arwystli'n bwysig iawn i Bowys, gan ei bod ar y ffordd i Geredigion ac i Feirionnydd. Ac yr oedd rhan oBowys, y rhan agosaf at Arwystli, ym meddiant Madog. Yr oedd Madog yn nai i Feredydd ac yn gefnder i Owen; ond yr oedd wedi lladd tad Owen a dau frawd Meredydd. Pan oedd llu Meredydd ar eu ffordd tua Llanidloes, yr oeddynt yn mynd trwy Lanfair Caereinion, lle y preswyliai Madog. Yno daliasant ryw ŵr, a gofynasant iddo ymha le yr oedd Madog yn trigo y nos honno. Gwadodd y dyn ar y cyntaf ei fod yn gwybod dim byd am Fadog. Ond yr oedd ganddynt ffordd greulonach i wneyd i rai gyfaddef na'u gogleisio yr adeg honno, - wedi ei gystuddiaw a'i gymell, addefo a oruc fod Madoc yn agos. Rhwymwyd y dyn, ac arosodd ysbiwyr yno ar ôl y fyddin, gan lechu hyd oleu dydd drannoeth. Gan dybied fod y perygl drosodd, daeth Madog i'w hen gynefin. Rhuthrodd yr ysbiwyr arno, gan ei ddal a lladd llawer o'i ganlynwyr. Awd ag ef ar ôl Meredydd, mewn rhwymau. Yr oedd yn dda iawn gan hwnnw weled ei nai, a rhoddodd ef yn ddiogel mewn gefynnau hyd nes y deuai Owen adref i'w cwmni. Yr oedd Owen oddicartref ar y pryd, ond prysurodd yn ôl pan glywodd fod Madog wedi ei ddal. Rhoddodd Meredydd ef yn ei law; a thynnodd Owen ei lygaid, fel na welai byth mwy y tir hyfryd y llofruddiasai ddau ewythr er ei fwyn. Yna rhannodd Meredydd ac Owen dir Madog rhyngddynt, - Caereinion a thraian Deuddwr ac Aberiw,-heb ffrae yn y byd.


Erbyn hyn yr oedd Owen yn llwyddo, ac yr oeddoeiddigedd Gilbert fab Rhicert yn cynyddu gyda'i ofn. Yr oedd Owen wedi ennill Powys hyd gyffiniau Ceredigion, ac ni wyddai Gilbert yn awr pa bryd y byddai raid iddo ffoi o'r wlad oedd wedi ei thrawsfeddiannu. Yr un oedd ofn iarll Caer hefyd wrth weld cynnydd gallu Gruffydd ab Cynan,-y gŵr fu gynt yn garcharor yn naeargell Blaidd Caer. Gwrandawodd y brenin ar eu cyhuddiadau, a phenderfynodd ddwyn holl allu ei deyrnas i ddal breichiau'r barwniaid oedd erbyn hyn yn crynnu rhag colli'r oll a ladratasent. Daeth y gair yn fuan fod Harri'n dod, a fod parotoadau aruthrol wedi eu gwneyd. Daeth ofn dros y bobl; coflent am arwyddion enbyd, - yr oedd y ddaear wedi crynnu ar y gororau o fore hyd yr hwyr, ac yr oedd seren gynffon wedi ymddangos am dair wythnos ym mis Mehefin. Yr oeddynt yn dlodion a di-egni, hefyd, ar ôl gauaf caled; yr oedd prinder ac afiechyd wedi dod o flaen y gwanwyn hwyr. Tybient fod cytundeb wedi ei wneyd rhwng y brenin a'i farwniaid yn erbyn y Cymry, i'w dileu oddiar y ddaear, fel na cheffynt Frytanawl enw yn dragwyddawl.


Wrth weled y ddrycin yn dod, dihangodd Meredydd at y brenin, gan brysuro i wneyd heddwch. Gwyddai fel y dihoenodd ei frodyr Iorwerth a Chadwgan yng ngharchar y brenin; a gwyddai beth fu eu tynged pan yn ceisio cadw eu hunain yn ddiogel rhwng llid y brenin a disgwyliad y Cymry wrthynt. Ond, os oedd cytundeb i ddifodir Brytanawl enw, gwnawd cytundeb arall i'w gadwn fyw.


Symudodd byddin enfawr Harri tua Gwynedd a Phowys yn dair adran. Daeth un o'r tair o gyfeiriad y de, dan iarll Cernyw, yn cynnwys hynny o Normaniaid a Chymry ellid hel o Forgannwg a Brycheiniog a Dyfed. Daeth yr ail lu, yn Albanwyr a Saeson, o'r .gogledd; arweinid hon gan fab Malcom, brenin yr Alban, a iarll Câer. Ychydig ddywedir am yr iarll hwn ei hun gan y croniclwyr Cymreig, gelwir ef braidd bob amser yn fab Huw Flaidd, oherwydd mai am yr iarll enbyd hwnnw y meddylid bob amser. Richard oedd ei enw; unig fab ei dad oedd. Yr oedd yn addfwynach nai dad, ac yn hynod am lendid ei bryd, dywedir fod pawb yn hoff o hono. Ermentrudo, merch Huw o Glaremont, oedd ei fam; a'i wraig oedd Matilda, merch y Stephen ddaeth yn frenin Lloegr ar ôl Harri. Aeth ef a'i wraig gyda mab Harri frenin i Normandi, ac aeth y ddau i lawr yn y Llong Wen. Bu Richard yn iarll Caer am bedair blynedd ar bymtheg.


Yr oedd trydedd adran y fyddin dan y brenin ei hun, a'i chyfeiriad yn amlwg at Bowys. Gwelodd Owen, yn enwedig wedi cilio o'i ewythr, na fedrai wrthsefyll y fath lu. Cynhullodd ei w˙r a chasglodd eu da, a mudasant yn un dyrfafawr i Wynedd. Canys mynyddoedd Eryri oedd y lle cadarnaf i gael lloches ynddo rhag llu'r brenin. Anfonodd Owen genhadau at Ruffydd ab Cynan, ac at ei fab Owen Gwynedd, i ofyn iddynt ymgyfamodi ag ef i ymladd y gelynion peryglus oedd wedi ymddiofrydu eu dinistrio oddiar wyneb y ddaear neu eu gyrru i'r môr, hyt nat enwit Brytanawl enw yn dragywyddawl. Ymgyfamodasant; nid oedd yr un o honynt i wneyd tangnefedd na chytundeb â'u gelynion heb y llall.


Yn fuan iawn daeth prawf ar eu ffyddlondeb i'w haddewidion. Gwaith ffôl fuasai i Harri anturio gydai fyddin fawr afrosgo i gymoedd culion dyrus Eryri. Tybiodd y medrai chware ar hen wendid y Cymry, eu diffyg ymddiried yn eu gilydd. Yr oedd mab brenin yr Alban i geisio cael Gruffydd ab Cynan i fradychu Owen,. ac yr oedd brenin Lloegr i geisio darbwyllo Owen i fradychu Gruffydd ab Cynan. Dyddorol yw dyfalu pa un ai'r Gwyneddwr profiadol araf ynte'r Powyswro gwibiog ffraeth ddeil ffyddlonaf at ei air.


Anfonodd Alexander, mab brenin yr Alban, genhadau at Ruffydd ab Cynan, i erchi iddo ddyfod i heddwch â'r brenin. Addawodd ef ac iarll Caer lawer iddo; a thwyllasant ef i ymheddychu hyd nes y ceid son am delerau wrth y brenin. Yn hyn oll ni thorrodd Gruffydd ei air; gan na wnaethai heddwch heb fod Owen hefyd yn yr heddwch hwnnw. Ond twyll oedd ym meddwl mab yr Ysgotyn ac ym meddwl mab yr hen flaidd.


Bu temtasiwn Owen yn un fwy tanbaid. Anfonodd y brenin genhadau ato, i erchi iddo ddod i heddwch ag ef, gan awgrymu nad oedd wiw iddo ddisgwyl am gymorth a ffyddlondeb oddiwrth Ruffydd ab Cynan a gwŷr y gogledd. Ond safodd Owen at ei air, a gwrthododd ymostwng i frenin Lloegr. Temtiwyd ef gan un a ddywedai,- Bydd yn ofalus, a gwna yn gall yr hyn a wnelych.


Dyma Ruffydd ac Owen ei fab wedi cymeryd heddwch gan fab Malcolm ar iarll,wedi iddynt addawgadael ei dir heb na threth na chyllid na chastell arno tra bydd byw.


Cadwodd Owen ei air er hyn oll, a safodd fel dyn. Ond, gyda'r cenhadon nesaf anfonwyd ato gan frenin Lloegr, yr oedd ei ewythr Meredydd. Ac ebe hwnnw wrtho, - Edrych na hwyrheych ddyfod at y brenin, rhag iereill dy ragflaenu i gael dy gymdeithas.


Credodd o'r diwedd fod yn well iddo adael Gruffydd ab Cynan, a gwneyd cymod â breriin L1oegr. Derbyniodd y brenin ef yn llawen, ac yr oedd peth gwirionedd yn y cariad ar anrhydedd ddanghosid gan frenin Lloegr at ŵyr Bleddyn ab Cynfyn. Canmolodd Harri ef am wneyd heddwch o'i fodd, - er mai rhwng bodd ac anfodd oedd hi, - addawodd dalu i'w bobl am bob cam a wnaethasai, ac addawodd y cai Owen hefyd fod yn dywysog Powys heb dalu dim i neb.


Pan glywodd Gruffydd ab Cynan fod Owen wedi ei ddenu i wneyd heddwch, anfonodd yntau at y brenin i wneyd ei heddwch ei hun. Nid oedd mor hawdd iddo gael telerau manteisiol wedi i Owen droi ei gefn arno, a dywed y croniclydd mai trwy dalu treth fawr y cafodd gan Harri droi ei gefn ar fynyddoedd Cymru.


Un rheswm paham y danghosodd Harri gymaint oogariad ac anrhydedd oedd hyn, - yr oedd ei ieirll yn cynllwyn yn ei erbyn yn Lloegr, yr oedd Roberto o Felesme eto'n fyw, ac yr oedd brawd hynaf Harri'n hudo barwniaid Normandi oddiwrtho. Yr oedd ar Harri eisieu heddwch yng Nghymru, ac eisieu i bobloCymru ymuno â phobl Lloegr i roi pen ar draha a gormes y mawrion. Aeth Harri ag Owen gydag ef i Loegr, ac ebai wrtho, - Yr wyf yn mynd i Normandi; os doi di gyda mi, mi a gyflawnaf bob peth a addewais i ti ; ac mi ath wnaf yn farchog urddol.


Trodd Owen ab Cadwgan ei gefn ar Gymru, ac aeth gyda brenin Lloegr dros y môr, i ymladd drosto yn ei ryfeloedd. Daw Owen yn ôl i Gymru eto, ond nid fel cynt. Bu'n gynrychiolydd gwladgarwch Cymru, ond gwrandawsai ar addewidion brenin Lloegr; a phan ddaeth yn ôl, yr oedd un arall wedi cymeryd ei le yn serchiadaur bobl.


Anawster sydd yn hen ac yn newydd yn hanes gwledydd bychain oedd anhawster Owen ab Cadwgan. Yr oedd yn gyfyng arno o'r ddeutu, -yr oedd wrth ei fodd yn ymladd ymysg marchogion enwocaf byd yn Ffrainc, ac yr oedd wrth ei fodd yn ennyn y teimlad gwladgarol yn fflam yng Nghymru. Gorfod iddo ddewis; a chollodd y Cymry eu harweinydd cynhyrfus. Ond arhosodd gwladgarwch yn y mynyddoedd.


Pan ddaeth Harri'n ôl, clywodd fod gan Ruffydd ab Cynan gynghreiriad newydd, peryclach hyd yn oed nag a fuasai Owen ab Cadwgan. Yr oedd aer y Deheubarth wedi dod i fysg ei bobl, a dywedid wrth y brenin fod meddwl pawb o'r Brytaniaid gydag ef.