Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Llethu'r Norman a'r Cymro

Rhyfeloedd y Brenin Coch Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
Llethu'r Norman a'r Cymro
gan Owen Morgan Edwards

Llethu'r Norman a'r Cymro
Geni Gwladgarwch

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II

Pennod VII

Llethu'r Cymro a'r Norman


PAN gafodd Harri'r Cyntaf ei hun yn eistedd yn ddiogel am orsedd Lloegr, a phan welodd y ddeuddcgfed ganrif yn dod, yr oedd yn gweled y nod y cyfeiriai ato yn glir. Yr oedd am darri nerth y bobl fawr drwy gynhorthwy'r bobl gyffredin. Ei ddull oedd hwn, - galwai'r ieirll ger ei fron o un i un, a chymerai oddiarnynt eu hen hawhlau i wneyd gweithredaodd trawsion, yn enwedig eu hawl i weinyddu yr hyn a gamenwent yn gyfiawnder a'uhbawl i gyhoeddi rhyfel yn erbyn eu gilydd. Cadodd y brenin ei olygon tua gororau Cymru, ac yno gwelai wr traws yn ymgastellu, ac yn ymbaratoi at herio gallu brenin a chyfraith. Robert a Belesme, y galluocaf a'r diffeithiaf o denlu galluog a diffaith Talvas, oedd hwnnw.


Gwelsom y ddau Huw'n garfod gadael Cymru heb ei gorchfygu, ac yr oedd Caer a'r Amwythig yn croesawu arglwyddi newyddion. Bachgen ddaeth yn iarll Caer, a gwae i'r wlad yr oedd bachgen yn frenin arni yn yr oes honno. Ond daeth gŵr yn llawn faint ei rym a'i ddrygioni yn iarll yr Amwythig, brawd i'r Huw Goch wnaethai gymaint o gynnwrf hyd lethrau'r Berwyn a Phlunlumon cyn hyn. Gwelodd le gwag iddo, heb gydymgeisydd. A meddyliadd yn ei galon y medrai bod yn frenin Cymru a'r gororau, a ieirll Normanaidd a thywysogion Cymreig yn wŷr ffydd iddo. Ac wedi cael Gruffydd ap Cynan a Chadwgan ap Bleiddyn yn gyfeillion iddo, gallai ddangos i frenin Lloegr mai dyffryn brenhinol oedd dyffryn Hafren.


Gwelodd Harri'r Cyntaf mai sigledig fyddai ei orsedd cyhyd ag y gadewid llonydd i'r grym traws ymgadarnhau yng Nghymru. Yr oedd ei lygad at Robert er ys blynyddoedd, yn gwylio pob symndiad cyfrwys. Ac a'r diwedd gwysiodd ef i'w lys, gynhelid yn adeg Pasg 1102. Ar y chweched o Ebrill, yn y fiwyddyn honna, yr oedd Robert a Belesme i ymddangas o flaen y brenin, ac i glirio ei hun yng ngwyneb pump a deugain o gyhuddiadau ddygid yn ei erbyn. Yr oedd ei elynion wedi gofalu am ddigon o gyhuddiadau, fel nad oedd bosibl idda ymwinga o afaclian cyfraith. Gwyddai yntau yn dda bod ei dyngcd wedi ei phcndcrfynu, ac na fuasai waeth iddo dafin ei hnn ar drugaredd y brenin at unwaith na cheisia sefyil yn erbyn barn. Nis galhasai'r g~îr traws ddianc rhag barn gyflawn, rhagor y famn oedd wedi ei gwym-gamu at ei gyfer.


Ond nid oedd ar Robert awydd taflu ei hun ar drugaredd neb. Os oedd yn draws, yr oedd yn gadarn hefyd. Yr oedd yn barod i herio brenin Lloegr. Yr oedd ganddo gestyll cedyrn yn Ffrainc, a medrai ymosod ar daleithiau Normanaidd y brenin. Yr oedd ganddo ddau gastell yng nghanol Ll0egrt, - Arundale a Tickhill. Yr oedd cestyll yr Amwythig a Threfaldwyn gyda chestyll cadarnaf yr oes, ac yr oedd castell newydd cryfach fyth yn codi'n brysur yn Bridgnorth. Yr oedd ei frawd Arnulf wrth ei gefn, yng nghastell Penfro, gyda hail luoedd Dyfed. A thu cefn i hwnnw yr oedd ei dad yng nghyfraith, Murtagh, un o frenhinoedd yr Iwerddon.


Ond yn y Cymry yr oedd gobaith Robert. Yr oedd Gruffydd ap Cynan yn heddychion, ac yn rheoli Gwynedd. Ac yr oedd meibion Bleddyn,-Cadwgan, Iorwerth, a Meredydd, - mewn cyngrair a'r gŵr traws. Yr oedd tywysogion Powys, a ymlidiasent y gelyn o gymaint o wlad eu tadau, yn pathau i ofni brenin Lloegr. A gwnai Robert addewidion teg iddynt, - nid yn unig lden o dda a rhoddi rhoddion oedd ei addewidion, ond llawenhau eu gwlad a ryddid. Gwelsant y medrent droi'r gelyn yn amddiffynnydd, byddai Robert a Belesme yn darian rhyngddynt a Harri'r Cyntaf.


Yr oedd Robert yn llawen, am bod ei gynlluniau'n llwyddo i gyd. Cloddiodd ffosydd a chododd furiau o amgylch ei gestyll, rhoddodd lond y cestyll o ymborth, a denodd lawer marchog i'w wasanaeth. Gwelodd orffen castell Bridgnorth, er gwaethaf bygythion y brenin. Yr oedd Arnulf yn galw pob un cynhyrfus i ryfel yn Nyfed, gan addaw ysbail dirfawr yn nhir y Saeson. Yr oedd llongau arfog ar eu ffordd o'r Iwerddon. Yr oedd holl nerth deffraod Cymru, holl nerth ei hawydd am ryddid, i ymladd o du Robert a Belesme.


Gwrthododd Robert ddod i lys y brenin, a dechreuodd y rhyfel. Cymerwyd ei gestyl yn Lloegr, ond nid oedd y brenin nemawr nes er hynny. Yr oedd castell Bridgnorth o'i flaen; ac ynddo yr oedd tri arweiniwr o fri mawr ymysg milwyr yr adeg honna, - Robert mab Corbet, Robert de Nova Villa, a Wulfgar Heliwr. Yr oedd y castell wedi gwrthsefyll pob ymosodiad, yr oedd hydref 1102 yn mynd, a'r gauaf yn dod. Yr oedd yn rhaid i Harri frenin daro ar ryw gynllun i ennill cestyll y gŵr traws, neu gilio'n ol mewn cywilydd a methiant. A chynllun y brenin oedd troi Cymru yn erbyn Robert. Tybiai y byddai ar ben ar Robert y funud y gadawai Iorwerth mab Bleddyn ef. Anfonodd ŵr o'r wlad honno, sef y wlad orthrymai Robert, at Iorwerth. William Pantilf, gŵr a adwaenai Iorwerth, oedd hwn.


74


HANES CYMRU.


Nid peth anodd oedd ennill Iorwerth. Hawdd oedd ei ddarbwyllo y byddai'n well iddo ef fod mewn heddwch.. â'r brenin na bod yn gymydog i un mor berygl a iarll diffaeth yr Amwythig. Hawdd oedd dwyn ar gof iddo fel yr ymdeithiasai tad a brawd Robert drwy Bowys a Cheredigion, gan losgi a lladd y ffordd y cerddent. Ac onid ar dir Bleddyn yr oedd y Norman trahaus yn codi ei gestyll newyddion? Yr oedd y brenin yn barod i addaw llawer hefyd. Yr oedd Iorwerth i gael Powys, Ceredigion, hanner Dyfed, Dyffryn Tywi, Cydweli, a Gŵyr; ac yr oedd i'w cael heb dreth na theyrnged. Yr oedd y frenhiniaeth ardderchog hon, gyda chyfeillgarwch brenin Lloegr, yn llawer gwell, i feddwl Iorwerth, na bod rhwng Robert ac Arnulf.


Hawdd iawn i Iorwerth oedd troi'r Cymry yn erbyn Robert, ac o blaid y brenin. Yn un peth, yr oedd Robert wedi anfon ei dda ai olud i'r mynyddoedd, er diogelwch; ac yr oedd y Cymry yn awyddus iddynt. Peth arall oedd yr hen elyniaeth rhwng y Normaniaid a'r Cymry; pan ymddiriedodd y Norman ei dynged i'r Cvmrv, gwnaeth hynny, ebe'r hanesydd Cymreig, heb goffhau y sarhadau a gawsai y Brytaniaid gynt gan Huw ei dad ef a Rosser frawd ei dad, a hynny oedd guddiedig gan y Brytaniaidyn fyfyr. Er fod Cadwgan a Meredydd eto gydag ef, gwelodd Robert nas gallai wrthsefyll y brenin wedi i Iorwerth droi ei gefn arno. Bu mewn penbleth fawr yng nghastell yr Amwythig; gruddfannai yn ei bryder, bron a gwallgofi, heb wybod beth i'w wneyd. Anobeithio a wnaeth, a thebygu nad oedd dim gallu ganddo, o achos myned Iorwerth oddiwrtho, canys pennaf oedd hwnnw o'r Brytaniaid, a mwyaf ei allu. Daeth i'w fryd, er ei waethaf, roi'r ymdrech i fyny. Anfonodd gennad at y brenin ei fod yn dymuno caniatad i adael y deyrnas, a ffordd rydd. Trodd y gŵr traws ei gefn ar Loegr, er llawenydd i bawb.


Llawenha, O Loegr, ebe un croniclydd, llawenha, Harri frenin, yn awr yr wyt yn frenin mewn gwirionedd.


A dyna ddiwedd ymdrech Robert o Belesme i ennill teyrnas yn y gorllewin, teyrnas o Gymry a Normaniaid unedig, mewn cyngrair â'r Iwerddon a gwŷr y môr. Gorfod iddo adael ei gestyll, aeth i wlad arall, a buan y dechreuodd ei feddwl aflonydd gynllunio terfysg yno hefyd. Traws oedd ar hyd ei fywyd, ac ymhob gwlad y gorfod iddo ffoi iddi.


Ond pwy gai'r gallu yng Nghymru ar ei ol? A gadwai'r brenin ei addewid â Iorwerth?


Wedi cael lle Robert o Belesme, dechreuodd Iorwerth roddi trefn ar Gymru, a'i llawenhau â rhyddid. Nid oedd ei waith yn hawdd iawn. Yr oedd yn rhaid iddo ymheddychu â'i frodyr, Cadwgan a Meredydd, gwŷr oedd wedi gwneyd cymaint dros Gymru ag yntau. Gwnaed heddwch rhwng y brodyr, a rhanasant y wlad rhyngddynt. Ond anesmwythodd Meredydd am rywbeth, a charcharodd Iorwerth ef. Yr oedd Iorwerth yn credu'n ffyddiog yng ngair brenin Lloegr o hyd, ac anfonodd ei frawd i garchar y brenin. Ychydig wyddai y cai ddihoeni yn yr un carchar ei hun cyn y medrai Meredydd ddod yn rhydd o hono. Yr oedd Cadwgan yn cael rhan o Bowys a Cheredigion; a Iorwerth y rhan arall o Bowys a Dyffryn Tywi. Ond yr oedd Dyfed ym meddiant Normaniaid. Cyn ymosod arnynt, gofynnodd i'r brenin gyflawni ei addewid, a rhoddi Dyfed mewn heddwch iddo. Buan y gwelodd fod y brenin am dorri ei addewid. Gwelodd ef yn rhoddi Dyfed i Norman gwrthryfelgar o'r enw Saer; ac Ystrad Tywi, Cydweli, a Gŵyr i Hywel ab Goronwy.


Mwy na hyn, yr oedd Harri'r Cyntaf wedi rhoddi ei fryd ar ddifetha Iorwerth. Gwelodd ei allu, a gwelodd fod y Cymry'n edrych arno fel eu tywysydd i ryddid oddiwrth orthrwm y Sais a'r Norman. Ac fel y galwasai Robert o Belesme i'w lys, felly yn awr galwodd Iorwerth fab Bleddyn. Aeth Iorwerth at y brenin i'r Amwythig, gan hyderu yng nghyfiawnder ei achos; yr oedd wedi gwneyd gwasanaeth gwerthfawr i Harri, ac yr oedd Harri'n torri amod. Pan gyrhaeddodd Amwythig, trefnwyd llys barn. Ar hyd y dydd dadleuwyd ag ef, ac yn y diwedd barnwyd ef ar garn. Taflwyd ef i garchar y brenin,nid oherwydd cyfraith, ond oherwydd ei fod wedi ymddiried ei hun i ddwylaw brenin celwyddog. Ac yng ngharchar brenin Lloegr, y brenin dorrodd amod, y cafodd Iorwerth seibiant hir i ofidio am yrnddiried yng ngair Sais. I'r carchar hwnnw, lle yr oedd ei frawd Meredydd yn barod o'i blegid ef, y diflanna Iorwerth ab Bleddyn. Ac yna y pallodd holl obaith a chadernid ac iechyd a diddanwch yr holl Frytaniaid.


Amcan torri'r amod oedd Seisnigo Dyfed, a thorri'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Iwerddon. Gorfod i Arnulf ddilyn ei frawd o'r wlad, ac yr oedd Harri'r Cyntaf wedi penderfynu cadw Dyfed dan ei lywodraeth ei hun. O gastell Penfro a chastell Rhyd y Gors, dau nythle Normanaidd, dechreuwyd ymosod ar y wlad Gymreig oddiamgylch. Yr oedd gan Saer, osodasid yng nghastell cadarn Penfro, gynlluniau croes i gynlluniau'r brenin; y canlyniad fu i Saer orfod ymadael o Ddyfed, a rhoddodd y brenin Gerald ystiward yng nghastell Penfro yn ei le. Hwn, ar Ricert oedd yng nghastell Rhyd y Gors, a benderfynasant fyned ar wlad oddiar y Cymry.


Y pennaeth Cymreig agosaf atynt oedd Hywel fab Goronwy. Yr oedd y brenin ei hun wedi rhoddi Ystrad Tywi iddo. Ond buan y deallodd Hywel nas gallai fyw mewn heddwch yn ymyl y ddau Norman. Ymosododd ar y Normaniaid a lladdodd lawer o honynt. Yr oedd yn rhy gryf iddynt ei ddarostwng trwy rym arfau; a gwnaethant ei frad drwy dwyll. Yr oedd rhyw Wgawn fab Meurig yn meithrin mab Hywel, ac addawodd hwn helpu'r Normaniaid i ladd ei bennaeth. Ffyddlondeb a haelioni oedd prif rinweddau'r oes honno; ffyddlondeb mewn deiliad a haelioni mewn pennaeth. Brad a chybydd-dod oedd y pechodau gasheid fwyaf. Y mae brad Gwgawn fab Meurig wedi ei ddesgrifion fanwl, fel y casheid ei goffadwriaeth gan wŷr Dyfed byth. Anfonodd at Hywel i'w wahodd i'w dy, mewn heddwch. Daeth Hywel, heb ameu drwg; ond yr oedd ei arfau ganddo, fel gan bawb yn yr oes honno, boed ryfel boed heddwch. Anfonodd Gwgawn at Normaniaid Rhyd y Gors i beri iddynt ddod at ei dŷ; a dywedodd wrthynt ymha le i aros. Tua'r plygain daethant hwythau.


Deffrodd Hywel yn fore, a meddyliodd am wisgo ei arfau a galw ei gymdeithion. Ond nid oedd ei arfau yno; nid oedd ei gleddyf lle y rhoisai ef wrth ben ei wely, ac nid oedd ei bicell wrth ei draed. Yr oedd Gwgawn wedi bod yno'n lladradaidd yn y nos, ac wedi eu cymeryd oddiyno. Nid oedd neb o gymdeithion Hywel o fewn galw, a gwelodd y pennaeth yn eglur fod y gŵr yr ymddiriedasai ei fab iddo yn cynllwyn ei frad. Ceisiodd ddianc am ei fywyd, a Gwgawn oedd ar y blaen ymysg ei erlidwyr. Daliasant ef, a thagasant ef yn y fan. Yna aethant ai gorff at y Normaniaid; a gwnaeth y rhai hynnyn sicr na chai Hywel ab Goronwy eu gwrthsefyll drachefn trwy dorri ei ben.


Wedi hyn yr oedd Dyfed at drugaredd y brenin celwyddog ar Normaniaid di-ymddiried. Yr oedd Gruffydd ab Cynan yn rhy bell; yr oedd Iorwerth wedi ei garcharu gan y brenin, yr oedd Meredydd yn yr un carchar yn aros yr un dynged; yr oedd Cadwgan ab Bleddyn fel pe wedi ei ddychrynnu gan dynged ei frodyr, ac wedi colli'r beiddgarwch tanllyd a'i nodweddai gynt. Penderfynodd brenin Lloegr gymeryd mantais ar wendid Dyfed, er mwyn cadarnhau cestyll Penfro a Rhyd y Gors, ac er mwyn gwneyd ffordd trwy wlad gyfeillgar o Loegr hyd at y tir agosaf i'r Iwerddon.


O Ddyfed yr oedd brenhinoedd Lloegr wedi penderfynu gorchfygu'r Iwerddon; yr oedd Gwent a Morgannwg yn awr dan iau'r Normaniaid, nid oedd ond Dyfed yn eisiau er mwyn i frenin Lloegr fedru cyrraedd glan môr yr Iwerddon yn ddirwystr. A'i gynllun oedd gyrru'r Cymry o ddeheubarth Dyfed, rhwng dyffryn Tywi a dyffryn Niwgel, a rhoddi estroniaid ar eu tir.


Gwelodd y Cymry bobl ryfedd yn Nyfed, y bobl ddygodd Harri frenin yno. Cenedl ddiadnabyddus herwydd cenhedlaeth a moesau oeddynt. Yr oeddynt wedi bod yn llechu yn Lloegr er ys peth amser, ac nid oedd y brenin wedi cael cartref iddynt eto wrth eu bodd. Fflandrwys oeddynt, trigolion tir sydd erbyn hyn dan y môr. Yr oeddynt yn byw yn y rhannau hynny o Holland sydd erbyn hyn dan y Zuyder Zee. Nid oedd ganddynt allu ac athrylith y Normaniaid. Pobl dewion araf y gwastadedd oeddynt, nid meibion beiddgar y mynyddoedd ar môr. Ond yr oeddynt wedi dysgu ymladd yn erbyn anhawsterau, yr oedd eu hamynedd a'u penderfyniad yn ddiderfyn. Y môr oedd eu gelyn di-orffwys. Nid oedd eu gwlad ond nifer o fryniau tywodog tuswog, ar y dechreu, ac ar feirch yn unig y medrent ffoi o flaen llanw'r môr. Trwy lafur aruthrol codasant for-gloddiau, daeth eu gwlad yn ardd o'i chydmaru a gwledydd ereill, a dechreuodd y Fflandrwys gael meddiant o waith a masnach y byd.


Y maer môr yn cilio o rai parthau, ac yn rhuthro i mewn i barthau ereill. Y mae lleoedd, fu unwaith yn borthladdoedd, yn awr yrnhell yn y tir sych; ac y mae lleoedd, fu unwaith yn dir sych, yn awr dan donnaur môr. Y maer môr yn cilio ar dueddau rhewllyd unig Ynys yr Ia, ond y maen ennill tir ffrwythlawn yr iseldiroedd Ellmynig. Rhuthrodd dros lawer o wlad y Fflandrwys yn yr unfed ganrif ar ddeg; ac nid oedd digon o dir yn aros i ateb i amlder y bobl. Yr oedd y môr wedi rhuthro ar draws yr arfordiroedd llawn o ddynion, gan daflu ei wimon ai dywod dros y tir fuasai'n erddi ac yn farchnad-leoedd.


Gadawodd rhai o'r trigolion y wlad, ac erfynasant ar frenin Lloegr, lle y siaredid iaith debyg i'w hiaith hwthau, roddi rhyw gornel o dir iddynt. Ac anfonodd .Harri hwy i dir yr amod dorrwyd, i'r tir addawsai i Iorwerth fab Bleddyn. Ymlidiwyd y Cymry o gantref y Rhos, a chollasant eu priod wlad a'u lle er hynny hyd heddyw. Rhoddwyd y Fflandrwys yn eu lle, ac yno y maent hyd y dydd hwn.


Difyr yw cydmaru hanes y Fflandrwys yn eu hen wlad a hanes y rhai ddaeth i Ddyfed. Yn Nyfed yr oedd gwlad ffrwythlawn hyfryd, heb for yn bygwth, lle ceir y cynnar-wlaw ar diweddar-wlaw yn eu hamser. Yno y mae hafanau diogel a llanerchydd hyfryd heulog, ar môr ar tir mewn heddwch âu gilydd. Ond yn yr hen wlad yr oedd y peryglon fel erioed; ymladd parhaus oedd bywyd y trigolion yn erbyn y môr na chysgai byth. Ac mor wahanol yw hanes y ddwy ran o'r un genedl honno. Yn Nyfed ni chododd tref i gydymgais â Chaerfyrddin am ei masnach, ac ni cheisiodd ei thrigolion ran o gyfoeth y byd newydd pan ddarganfyddwyd ef; yn yr hen wlad daeth Ghent a Bruges yn ddinasoedd pwysicaf y byd, ac yr oedd Antwerp ac Amsterdam, yn wyneb anhawsterau diderfyn, yn ymryson am holl fasnach y gorllewin. Yn nhir y tor amod ni chododd y Fflandrwys uwch bawd sawdl byth, yr oeddynt yn ddiwyd a gonest mae'n wir, ond ni chododd neb o'u mysg y gall y byd edrych arno fel cymhwynaswr. Ond yn yr hen wlad cafodd crefydd ei merthyron a rhyddid ei harwyr; yno dadblygodd masnach a meddwl a chelf; yno y gwnawd y gwaith cywreiniaf gan ofaint haiarn ac arian ac aur, yno y chwilfriwiwyd hen gadwynau caeth-iwed y byd. Mor dawel fu hanes Dyfed, - cysgu, bwyta, gweddi reolaidd, codiad haul a machlud haul. Ac mor gynhyrfus fu hanes yr hen wlad,-maes brwydr cenhedloedd Ewrob, maes yr ymladd mawr rhwng rhyddid a gorthrwm


Bu'r Fflandrwys ar Cymry yn Nyfed yn hir heb ymgymysgu, fel olew a dwfr. Yn amser y Rhyfel Mawr,-ymhen dau gant a hanner o flynyddoedd wedi hyn,-yr oedd y Fflandrwys yn Buritaniaid Presbyteraidd pybyr, tra'r oedd y Cymry'n danllyd o ochr y brenin a'r eglwys. Y mae'r gwahaniaeth iaith yn para eto, ond nid fel y bu.


Wedi ymadawiad Robert o Belesme, ac wedi gosod y Fflandrwys yn Nyfed, daeth tawelwch mawr dros Gymru. Yr oedd un genhedlaeth o wladgarwyr, gwŷr y deffroad, yn heneiddio; ac yr oedd pwyll henaint ac ofn grym y brenin wedi cymedroli llawer ar eu cynlluniau, ac wedi arafu llawer ar eu symudiadau. Erbyn 1104 yr oedd meibion Bleddyn, - y pedwar oedd yn aros, - am beidio rhyfela mwy. Yr oedd Cadwgan yn ceisio rheoli Ceredigion, lle y tybiai brenin Lloegr nas gallai neb, Cymro nac estron, ei reoli byth. Yr oedd Meredydd wedi dianc o'i garchar, ac yn rheoli rhannau deheuol Powys. Yr oedd Rhirid gerllaw yn Ystrad Tywi. Ac o'r diwedd, wedi dihoenin hir, cawn weled gollwng Iorwerth. y galluocaf o feibion Bleddyn, o garchar y brenin. Ond nid yr Iorwerth aethai i'r carchar ddaeth allan o hono; yr oedd ei ysbryd wedi heneiddio, gobeithion ei ieuenctid wedi diflannu, gwell oedd ganddo nychu yn rhywle mewn tawelwch yng Nghymru, na meiddio dadweinio ei gledd dros ryddid mwy. Yng Ngwynedd, yr oedd Owen fab Edwin gynhyrfus wedi marw drwy hir glefyd, ac yr oedd Gruffydd ab Cynan, ei fab yng nghyfraith, yn heneiddio erbyn hyn, er fod ei ysbryd mor ieuanc ag erioed.


Yr oedd arwyr y ganrif o'r blaen yn deisyfu heddwch, ac yr oedd brenin Lloegr yn foddlawn i Ruffydd ab Cynan reoli Gwynedd, ac i feibion Cadwgan reoli Powys. Ac yr oedd heddwch rhwng y Norman ar Cymro; yr oedd Cadwgan ab Bleddyn a Gerald ystiward, ceidwad Castell Penfro, yn croesi'r Teifi yn ol ac ymlaen at eu gilydd mewn heddwch. Yn ol pob. tebyg, yr oedd Harri'r Ail wedi trefnu heddwch i'r Norman feddiannu Cymru bob yn ardal, wrth ei ewyllys, heb obaith i'r Cyrnro fedru ei wrthsefyll. Gwyddai meibion Bleddyn beth oedd pryderu o flaen brwydr a dihoeni mewn carchar, gwyddent mai ofer oedd ceisio gwingo yn erbyn y brenin cadarn celwyddog. Tawelwch oedd eu nod; ac yr oedd yr hen ryfelwyr glewion bron yn barod i droi;r gern arall at y Norman a'u tarawsai.


Ond yr oedd yr hen waed cynhyrfus yn eu meibion.