Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Rhyfeloedd y Brenin Coch

Caethiwed Gruffydd ab Cynan Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
Rhyfeloedd y Brenin Coch
gan Owen Morgan Edwards

Rhyfeloedd y Brenin Coch
Llethu'r Norman a'r Cymro

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II

PENNOD VI.

RHYFELOEDD Y BRENIN COCH.


ERBYN 1095 yr oedd Cymru wedi deffro; ac yr oedd cestyll y Normaniaid, o Aber Lleiniog ym Môn hyd y cestyll frithent odre Morgannwg, yn syrthio o flaen y byddinoedd Cymreig. Yr oedd Gruffydd ab Cynan wedi gwneud i'r Norman ollwng ei afael haearnaidd ar Wynedd, ac yn adnewyddu awdurdod ei deulu, yn araf lawn, ar uchelwyr cynhyrfus Môn ac Arfon a Llŷn. Yn y De, yr oedd Rhys ab Tewdwr wedi colli ei fywyd yn 1093, wrth ryfela yn erbyn Normaniaid Brycheiniog, ac yr oedd ei fab Gruffydd ab Rhys ar ffo.


Oherwydd prysured oedd Gruffydd ab Cynan y tu arall i'r Eryri, ac oherwydd ieuanged oedd aer y Deheubarth, gadawyd lle i aer Powys wneyd gwrhydri. Yr aer hwn oedd Cadwgan, fab Bleddyn ab Cynfyn, a nai i Ruffydd ab Llywelyn, - y gŵr a wnaeth i Loegr ofni o gwr i gwr. Un o brif wendidau Cymru oedd yr elyniaeth chwerw rhwng Powys a Deheubarth,- rhwng teulu Bleddyn ab Cynfyn a theulu Rhys ab Tewdwr. Gwelsom frwydr rhyngddynt yn Llwch Crei, ac yn honno gorchfygodd Rhys ab Tewdwr feibion Bleddyn yn llwyr. Cwympodd Madog a Rhirid ar y maes, ond dihangodd Cadwgan. Yr oedd dau frawd ereill iddynt gartref, Iorwerth a Meredydd, i ddod yn wyr grymus yn y man. Ond wedi marw Rhys ab Tewdwr, yn 1093, nid oedd ond geneth a bachgennyn o'i deulu'n aros, ac wele le rhydd i feibion Bleddyn achub ac amddiffyn Cymru


Yr oedd popeth yn barod pan ddaethant. Yr oedd y tanwydd yno, nid oedd eisiau ond y fflam. Yr oedd gwŷr Dyfed yn barod i daflu iau'r Norman trahaus- falch oddiar eu gwarrau. Daeth Cadwgan yno, ac yn ofer y cadarnhaodd y Normaniaid eu cestyll yng Ngheredigion a Dyfed,- syrthiasant oll o flaen Cad- wgan, ond Penfro a Rhyd y Gors yn unig. Yr oedd Morgannwg hefyd yn gyffro i gyd. Yr oedd y Norman- iaid yn ceisio rheoli'r Cymry yn ol eu deddfau tir estronol hwy, ac ni fynnai gwÿr Morgannwg ond eu deddfau tir eu hunain. Yr oedd y werin bobl wedi gadael i estron godi castell ar adfail palas eu tywysog; ond, pan aeth i'w rheoli yn ol ei ddull ef, ac nid yn ol eu dull hwy, buan y gwrthryfelasant. Iddynt hwy yr oedd rhoi etifeddiaeth i'r mab hynaf, ac iddo ef yn unig, yn anghyfiawnder; a daeth hawlio "cyfraith Hywel Dda" mor boblogaidd yng Nghymru ag oedd hawlio "cyfraith Edward frenin" yn Lloegr. Ym Morgannwg cafodd y Cymry Norman yn arweinydd. Payn Twrbil oedd hwnnw, arglwydd y Coyty, estron briododd aeres Gymreig, ac a ddysgodd Gymraeg ei hun.


Ond nid oedd gan Gadwgan amser i wneud ychwaneg na dryllio cadwynau'r De. Cyn adeiladu dim yno ei hun, trodd ei olygon tua Phowys, hen wlad ei dadau. Gadawodd y De o'i ôl, wedi gwanhau'r Normaniaid; gadawodd yr arglwydd Normanaidd at drugaredd ei ddeiliaid, ac ar hanner y ffordd i ddod yn dywysog Cymreig. Wedi iddo droi ei gefn, cododd cestyll eraill o'r newydd; ond cestyll bychain gwŷr anenwog oeddynt. Adeiladwyd castell Aber Tawe, ar ochr bryn lle mae'r Tawe'n ymarllwys i'r môr; y mae ei adfeilion yno eto, yng nghanol ffwrneisiau gweithfeydd copr; a phe byddai i'r fath beth ddigwydd ag i'r hen gastell ddihuno, ei feddwl fyddai,- " Tybed ai myfi wnaeth y wlad hon mor hell ?" Ar gwr arall Bae Aber Tawe, ymhellach i fewn yng ngwlad Gwyr, y mae castell Ogmor yn edrych ar fro sy'n ddiarhebol am ei thlysni. Yr ochr arall i benrhyn hyfryd Gwyr, cododd castell Aber Llwchwr. Ymhellach fyth i' r gorllewin, ar fryncyn uwch glan afon Gwendraeth, cododd rhyw Wilym o Lundain, gastell Cydweli. Y mae'r castell yno eto, yn ddigon unig a thawel heddyw, a hanner cylch o fryniau o'i gwmpas fel cynt. Y mae'r brain yn nythu yn y coed sy'n tyfu yn ei gynteddau; ni feiddiasai coeden na brân na Chymro ymddangos ynddo tua 1095, pan oedd y gŵr arfog o Lundain yn edrych oddi ar ei furiau newyddion ar fryniau a môr. Y dydd hwnnw yr oedd yn hawdd iddo ymfalchïo, cafodd adeg gyfleus i godi castell yn y dyffryn bychan hafaidd hwn, pan oedd Ystrad Tywi heb arglwydd, a phan oedd Cadwgan ab Bleddyn yn brysur mewn lle arall.


Oherwydd yr oedd Cadwgan wedi meddwl am ddyffryn yr Hafren, ac am y cestyll oedd y Norman wedi godi yng ngwlad ffrwythlon ei deulu. Yr oedd y Brenin Coch wedi bod i ffwrdd o'r wlad am hir, yn meddiannu Normandi wedi i Robert fynd i Ryfeloedd y Groes,- " i amddiffyn ac i gadw teyrnas Robert ei frawd, a aethai hyd yng Nghaersalem i ymladd â'r Sarasiniaid a chenhedloedd anghyfiaith eraill, ac i amddiffyn y Cristionogion, ac i haeddu mwy o glod." Tra yr oedd Robert yn ennill clod yn y dwyrain poeth heintus, a thra yr oedd ei frawd coch yn dwyn ei deyrnas, gadawyd i farwniaid gororau Cymru gael eu ffordd eu hunain. A hwy a wnaethant bob rhyfeddod. Nis gallai'r Cymry oddef eu gorthrwm a'u creulonder yn hwy. Rhuthrasant ar eu cestyll, a llawer lladdfa ac anrheithfa fu yn nyffryn yr Hafren ac ar lethrau'r Berwyn. Gwnaeth Normaniaid y gororau ymdrech egniol i lethu'r gwrthryfel, ond daeth Cadwgan i arwain gwŷr Powys, a llwyr orchfygwyd y Normaniaid ym mrwydr Coed Hysbys. Yn 1094 yr oedd Cadwgan ab Bleddyn a Gruffydd ab Cynan wedi ymuno, ac yr oedd eu lluoedd yn croesi'r gororau, ac yn bygwth ac yn anrheithio trefydd Lloegr.


Yr oedd y Brenin Coch wedi ymladd llawer yn erbyn y barwniaid Normanaidd. Yr oeddynt hwy bron yn unfryd o ochr ei frawd Robert, mab hynaf Gwilym y Gorchfygwr. Yn nechrau ei deyrnasiad yr oedd wedi gorfod ymladd â hwy, ac wedi eu gyrru i gastell Rochester, lle y gwarchaeodd arnynt. Ymysg y rhai hynny gwelsom Robert o Ruddlan mewn cyni mawr, yn newid ei gredo boliticaidd ar ffrwst, er mwyn achub ei fywyd. Erbyn 1095, drwy ymosod arnynt bryd bynnag y gwrthryfelent, a thrwy ymddwyn tuag at y gorchfygedig yn y dull creulonaf y clywyd am dano erioed, yr oedd y brenin wedi gwanhau'r barwniaid ac wedi gosod ei arswyd arnynt. Clywodd fod y Cymry'n codi'n erbyn barwniaid y gororau, - nid oedd hynny'n newydd drwg o gwbl iddo. Clywodd cyn hir fod dau dywysog galluog yng Nghymru, - Gruffydd ab Cynan yng Ngwynedd a Chadwgan ab Bleddyn ym Mhowys,- a'u bod yn ymosod ar Loegr ac yn herio gallu Lloegr a'r Cyfandir. Yna cyffrôdd y brenin, a thyngodd lw mawr am sicrwydd tynged y Cymry beiddgar hynny.


Clywodd y Cymry fod y Brenin Coch yn dod yn gefn i'r arglwyddi. Gwyddent am dano, a daeth cwmwl dros y llawenydd a gawsant o'u buddugoliaethau aml. Gŵr nwydwyllt anifeilaidd oedd y Brenin Coch. Ni fedrid edrych ar ei gorff trwchus ysgwâr ac ar ei lygaid gwibiog ac ar ei wallt fflamgoch, ni ellid gwrando ar ei eiriau bras ac amherffaith, - yr oedd atal dweud arno,- heb weled y cynhyrfid ef ar droeon gan y nwydau mwyaf arswydus. Llawer Iddew ariannog a llawer tywysog Cymreig fu'n sefyll o'i flaen, ac yn crynu gan mor erchyll oedd ei regfeydd. Yr oedd ei falchder yn ddiderfyn, rhaid oedd ei ddarbwyllo mai efe oedd yn gwisgo'r wisg orau cyn ei rhoi am dano, ac yr oedd meddwl am rywun yn herio ei allu yn deffro'r holl leng o ellyllon oedd ym marchog ei nwydau. Yr oedd yn annuwiol y tu hwnt i fesur, ymhyfrydai ym mhechodau erchyll yr oesoedd paganaidd, ac efe oedd y cablwr mwyaf ofnadwy yn yr oes gableddus honno.


Nid oedd dim penderfyniad yn ei gymeriad, - nid penderfyniad, ond gwylltineb anifail, a welid yn ei lygaid. Ond yr oedd angerddoldeb ei nwydau, y nwydau wnaeth iddo herio tymhestloedd Cymru a Duw gynifer o weithiau, - yn rhoddi lliw penderfyniad ar ei fywyd.


Nid ofnai Dduw na dyn, ofer oedd apelio at ei reswm na'i drugaredd. Yn 1093 yr oedd newydd wella o afiechyd; a thyngodd yr adeg honno na châi Duw byth ei weled ef yn ddyn da, oherwydd y drwg a wnaethai Duw iddo. Yr oedd herwhelwyr Seisnig unwaith wedi apelio am eu prawf at Dduw, - plannu eu breichiau i ddwfr berwedig, - ac wedi dod yn rhydd. Tyngodd y Brenin Coch na châi Duw farnu yr un o'i ddeiliaid ef wedyn, am nad oedd yn barnu'n iawn. "Ni chododd o'i wely un bore," ebe hanesydd a'i hadwaenai yn dda, "heb fod yn waeth na phan aeth iddo; ac nid aeth i'w wely un noson o'i fywyd, heb fod yn waeth na'r bore y cododd ohono." A hwn dyngodd y darostyngai'r Cymry i'r arglwyddi gorthrymus yr oeddynt newydd ysgwyd eu hiau ymaith.


Y peth gynhyrfodd fwyaf ar y Brenin Coch oedd clywed fod Cadwgan wedi cymeryd castell Trefaldwyn yn 1095. Cyn diwedd y flwyddyn honno, cynullodd lu Ymosododd y llu ar Gymru'n ddwy fyddin, ac yr oedd y cwbl i gyfarfod yng ngŵydd yr Wyddfa wedi gorffen eu gwaith. Yr oedd yn hwyr ar y flwyddyn, a gwyddai'r Cymry mai hawdd fuasai i fyddin mor gref eu gorchfygu hwy ar y maes. Ond gwyddent mai gelynion mwy anorchfygol fyddai ystormydd Hydref a Thachwedd. Felly ciliasant i'r coedydd a'r glynnoedd, a gadawsant y gwastadeddau yn ddiffaith ac yn ddiamddiffyn. Hawdd oedd i luoedd y Brenin Coch gyrraedd yr Wyddfa, ond beth oeddynt nes? Nid oes gennym fawr o hanes yr ymdaith honno, nid oes hanes cymaint ag un rheg ddaeth o enau'r Coch yng nghanol yr ystormydd. . Ond symir yr hanes gan bob croniclydd ymron yn yr un geiriau,- " dychwelodd Gwilym adref yn orwag, heb ennill dim."


I'r De y bu'r ymgyrch nesaf. Yn 1096 bu farw'r Gwilym fab Baldwyn a godasai gastell Rhyd y Gors. Rhuthrodd y Cymry ar y castell hwnnw a chymerasant ef; ac nid oedd wedi hynny gastell yn Nyfed na Cheredigion ond castell Penfro yn unig. Wrth glywed am fuddugoliaeth eu cydgenedl yn Nyfed, cododd Cymry Brycheiniog a Gwent yn erbyn y Normaniaid, gan eu gyrru ar ffo o'r holl gymoedd rhamantus a'r holl wastadeddau hyfryd y rhed yr Wysg a'r Rhymni drwyddynt. Yr oedd y rhyfel hwn mor bwysig, a'r gwledydd hyn mor werthfawr, fel y galwyd holl fyddinoedd gorllewin Lloegr i adennill Brycheiniog a Gwent. Daeth y byddinoedd, ac ymosod y Cymry arnynt yng Ngelli Trafant, gan eu lladd. Ond nid un frwydr fedrai roddi'r wlad honno'n ôl i'r Cymry. Daeth y Normaniaid a'u byddinoedd Seisnig eilwaith. Fel o'r blaen anrheithiasant y wlad; ac fel o'r blaen ymosododd y Cymry arnynt wrth iddynt ddychwelyd. Dau o wyrion Cadwgan, sef Gruffydd ac Ifor, oedd yn arwain gwŷr Gwent a Brycheiniog y tro hwn. Yn Aber Llech y bu'r frwydr, a gorchfygwyd y Normaniaid a'r Saeson yn llwyr.


Cyn diwedd 1096 yr oedd gwŷr Dyfed yn gwarchae castell Penfro, ac yr oedd Gerald ystiwart yn ofni drachefn y doi'r Cymro i'r tŵr mawr. Ond yr oedd achos Cadwgan yn wan ar y cyfan yn y De. Nid ei ganlynwyr, ond ei elynion, ? Uchtrud fab Edwin a Hywel fab Goronwy, ? oedd yn gwarchae ar Benfro. Ac yn fuan iawn yr oedd Gerald yn meiddio dod allan o'i gastell, ac yn anrheithio terfynau'r wlad oedd ym meddiant esgob Tyddewi, rhwng Normaniaid Penfro a Normaniaid Trefdraeth.


Yn y gogledd yr oedd nerth y cynhyrfiad newydd, a gwyddai'r Brenin Coch mai Cadwgan ab Bleddyn a Gruffydd ab Cynan oedd yn beryglus iddo ef. Yn 1097 gwnaeth ymdrech egniol i lethu'r ddau. Yr oedd ei dymer yn fwy afrywiog nag erioed; yr oedd wedi tynnu llygaid rhai o'i brif farwniaid. Tyngodd lw mwy ofnadwy nag arfer y difodai holl feibion Cymru. Yn union wedi'r Pasg cychwynnodd tua Chymru; ac aeth yn ôl, fel o'r blaen, yn orwag heb ennill dim. Prin y medrodd ladd un Cymro; ond collodd lawer o'i wŷr ei hun, a chollodd lawer o'i geffylau. Ac i'r Brenin Coch yr oedd ceffyl yn fwy gwerthfawr na dyn, a charw yn llawer mwy gwerthfawr na'r ddau.


Ond ni liniarodd digofaint y brenin. Meddyliodd fod hindda yn yr haf hyd yn oed yng Nghymru. Pan ddaeth yr haf ailgychwynnodd tuag Eryri. Clywodd y Cymry ei fod yn dod, gydag "aneirif o luoedd a dirfawr feddiant a gallu." Dihangodd y Cymry rhagddo, dan weddïo. Gochelodd y Brytaniaid ei gynnwrf, ebe hanesydd y tywysogion, heb obeithio ynddynt eu hunain; ond rhoddasant eu gobaith yn Nuw, creawdwr pob peth, gan ymprydio a gweddïo a rhoddi cardodau a chymryd garw benyd ar eu cyrff. Nid yw hyn yn wir i gyd, oherwydd yr oedd Gruffydd ab Cynan yn ymdaith gyda'r Brenin Coch o hirbell, ac yn ei ddyfal wylio. Ond y mae'n hawdd credu fod y Cymry wedi gweddïo am waredigaeth oddi wrth y brenin annuwiol. Yr un yw hanes yr ymgyrch olaf hon. Ni fedrai byddin y brenin ond "gwibio ar y gwastad feysydd. Yn y diwedd yn orwag y dychwelsant adref heb ennill dim, a'r Brytaniaid yn hyfryd ddigrynedig a amddiffynasant eu gwlad."


Gwelodd y Brenin Coch na fedrai orchfygu tywysogion Cymru yn yr un dull ag y gorchfygasai farwniaid Lloegr. Tynnodd lygaid William d'Eu, crogodd William d'Alderi, a buasai wedi tynnu llygaid Robert de Mowbray o flaen muriau ei gastell ei hun oni bai i wraig y barwn agor drws y castell iddo. Ond ni fedrodd warchae ar Ruffydd ab Cynan mewn castell; a chadwodd Cadwgan ab Bleddyn ei lygaid hyd ddiwedd ei fywyd prysur a chyffrous.


Yr oedd y Brenin Coch, trwy rym creulondeb, wedi rhoddi ei ofn ar bawb, ac yr oedd Lloegr yn dawel. Nid oedd un barwn Normanaidd fedrai herio'r brenin mwy; buasai diwedd ei oes yn berffaith dawel oni buasai am y ddau dywysog Cymreig. O ddiwedd y rhyfel yng Nghymru hyd ei farwolaeth yn 1100, nid oedd gan y brenin ond ychydig i'w wneud. Treuliai ei fywyd i hela ceirw neu i ymladd â rhywrai yn Ffrainc; ac unwaith, wrth hela, aeth saeth oddi ar fwa gwyrgam rhywun iddo, a bu farw ymysg y ceirw yn y goedwig. Bu farw'n anedifeiriol, heb ofyn cymod eglwys na gelyn. Er hynny dyweder am dano mai ei amcan oedd dinistrio'r gŵyr mawr, a rheoli'r bobl gyda rhyw fath o gyfiawnder garw.


Paham y rhoddodd ymladd â'r Cymry i fyny? Gwelodd mai ofer oedd anfon byddinoedd i Gymru. Er iddo aros o amgylch yr Wyddfa o Fehefin i Awst unwaith, nid oedd fymryn nes i orchfygu gwlad y mynyddoedd. Newidiodd ei gynllun. Penderfynodd adael dau Huw reibus ar y gororau, a gallu brenhinoedd ganddynt. Ac yr oeddynt hwy i orthrymu'r Cymry, ac i godi cestyll yn eu gwlad, fel yn yr amser gynt. Y canlyniad oedd hyn, - gwelwyd deffroad grymusach fyth yng Nghymru, a chlywyd cân llu o feirdd.


Yr oedd y Brenin Coch yn galw ar holl farwniaid Lloegr i'w ddilyn i'r ymgyrchoedd yn erbyn y Cymry; ac yr oedd yr esgobion, am nas gallent ymladd, i anfon ymladdwyr yn eu lle. Archesgob Caer Gaint yr amser hwn oedd Anselm, un anwyd yng nghanol eira oesol dihalog yr Alpau. Yr oedd yn anodd gweled ysmotyn gwyn ar gymeriad du'r brenin; yr oedd yn anodd gweled ysmotyn du ar gymeriad gwyn yr archesgob. Gresynai Anselm fod Lloegr dan frenin mor ddrwg, ac enynnodd lid y Coch drwy anfon rhy ychydig o filwyr i'w helpu yn erbyn Cadwgan a Gruffydd ab Cynan. Aeth Anselm dros y môr, i gael llonydd yn ei wlad ei hun. Cymerodd ei gartref yn Schiavia, ar ben mynydd uwchlaw'r afon Vulturnus, ac yno yr ysgrifennodd ei lyfr, Cur Deus Homo - y llyfr roddodd i ddynion eu syniadau am berson Crist. Tra yr oedd y Brenin Coch yn tyngu y difodai'r Cymry, yr oedd Anselm draw yn yr Eidal yn ysgrifennu'r llyfr sydd erbyn hyn wedi dod yn rhan mor bwysig o feddwl ein gwlad.


Cyn gadael y Brenin Coch gadawer i mi adrodd ystori Gerald Cymro am dano. Yn ystod ei ryfeloedd yn erbyn Cymru, daeth y brenin unwaith i fangre dawel heddychlawn Tyddewi, lle nad oedd ar adar y to ofn gwŷr mewn dillad duon. O'r fangre honno gellir gweled bryniau'r Iwerddon ar ddiwrnod clir. Safai'r Brenin Coch ar y creigiau, a gwelai'r Iwerddon draw. "Mi a gasglaf holl longau fy mhrenhinaeth," meddai, "a chyda hwy mi a wnaf bont i ymosod ar y wlad acw." Pan adroddodd rhywun ei eiriau wrth dywysog y wlad honno, sef tywysog Leinster, bu hwnnw'n


o ddistaw am ennyd. Yna gofynnodd,- " A ddywedodd y brenin, 'Os Lloegr Duw yn dda' wrth fygwth mor enbyd?" Pan atebwyd ef na soniodd y Brenin Coch am Dduw' yn ei araith, llawenhaodd, a dywedodd, - "Gan fod ei ymddiried mewn dyn, ac nid yn Nuw, nid oes arnaf ofn ei weld yn dod."


Ofer, felly, fu holl gynllwynion y Brenin Coch; gwelodd mai yn orwag y dychwelai o bob taith filwrol i Gymru. Yr oedd yr ystormydd a'r mynyddoedd yn ymladd dros y Cymry. Gallai'r brenin orchfygu eu byddinoedd ar y maes a diffeithio eu meysydd; ond, y munud y troai ei gefn, byddai'r Cymry'n rhyddion drachefn.


Yn araf yr oeddis i orchfygu Cymru, os oeddis i'w gorchfygu hefyd, a gwelodd y Brenin Coch hynny dan regi. Arglwyddi'r gororau oedd i gael gorchfygu Cymru wedi'r cwbl, yr oeddynt hwy mewn cyfle i wylio'r Cymry nos a dydd, i gymeryd mantais ar eu cwerylon, i ennill eu tir bob yn ardal, ac i ruthro arnynt pan yn ddiamddiffyn.


Gadawodd y Brenin Coch y gwaith i'r ddau Huw oedd yn llochesu yn y gororau, - blaidd Caer a gŵr coch yr Amwythig. Er anffyddloned oedd y gwŷr hyn mewn pethau eraill, yr oedd gonestrwydd perffaith yn eu casineb at y Cymry,- ni cheisiasant ei gelu â mantell rhagrith erioed. Dyma'r unig waith y gallai y brenin ei ymddiried iddynt, oherwydd dyma'r unig waith wrth eu bodd. Yn sŵn creulondeb a llofruddio yr oedd Huw Goch wedi ei fagu, o'r pryd y gwelodd lofruddio ei fam ar y noson ystormus honno i'r dyddiau y bu ef yn gwneud lladdfa ar bobl ddiamddiffyn Ceredigion a Dyfed. Ac yr oedd y deffroad cenedlaethol Cymreig wedi ei gynddeiriogi. Gwelodd ysbryd annibyniaeth yn codi ymysg y bobl yr edrychai arnynt fel helwriaeth iddo, i'w lladd lle bynnag y deuai ar eu traws. Ie, gwelodd eu lluoedd yn ymosod ar ei gastell yn Nhrefaldwyn, yn rhuthro yn erbyn ei furiau, ac yn cymeryd meddiant o honno. Mwy dirmygus na llwch fuasent iddo, ac yn awr gwelai nad oedd llurigau dur ei filwyr a muriau cerrig ei gastell yn tycio yn eu herbyn.


Yr un oedd dig Huw Flaidd. Gwelodd yntau ddeffroad ymysg y Cymry, a gwelodd eu byddinoedd oddi ar furiau Caer. Bu adeg yr oedd Gruffydd ab Cynan yn ei garchar, a Môn eithaf yn eiddo iddo. Ond yn awr yr oedd Gruffydd ab Cynan a Chadwgan ab Bleddyn rhyngddynt wedi erlid ei filwyr o Gymru. Yr oeddynt wedi rhuthro i'w gestyll; a mynych y rhodiodd Huw Dew afrosgo hyd furiau Caer, gan edrych tua bryniau Cymru, a bygwth.


Yn nechrau 1098 yr oedd y ddau Huw wedi ymgynghreirio; ac yn paratoi byddin i ymosod ar Ruffydd ab Cynan ym Môn ac yn nyffryn Conwy. Yr oedd llawer o uchelwyr Gruffydd ab Cynan yn anesmwytho erbyn hyn, ac yn teimlo fod iau Gruffydd yn drwm. Y mae'n debyg fod gelyniaeth wedi codi yn ei erbyn hefyd ymysg ei dylwyth ei hun erbyn hyn. Yr oedd byddinoedd Owen ab Edwin, tad yng nghyfraith Gruffydd, gyda'r Normaniaid, ac Owen yn eu harwain i Fôn. Anffyddlondeb rhai o'i ddeiliaid barodd iddo orfod cilio o flaen y ddau Huw yn 1098 gan roddi i fyny bob gobaith y medrai eu hwynebu ar y maes, hyd nes y deuent i Fôn. Ym Môn crynhodd Gruffydd a Chadwgan eu byddinoedd, a llogasant lawer o'r môr-ladron yn gynhorthwy iddynt. Ond medrodd y ddau Huw lwgrwobrwyo y môr-ladron, ac ni anelwyd saeth ganddynt o blaid Gruffydd ab Cynan. Daeth y ddau Huw i'r ynys, ac ail adeilasant gastell Aberlleiniog. Gerfydd y castell hwnnw yr oedd Huw Flaidd yn meddwl dal ei afael ym Môn. Ofnodd Gruffydd a Chadwgan y syrthient i ddwylaw'r anrheithwyr; gwyddai Gruffydd ab Cynan beth oedd carchar Caer, a gwyddai Cadwgan pa fodd y triniai'r Norman ei elyn. Dihangodd y ddau i'r Iwerddon, i ddyfeisio cynlluniau, ac i aros am amser mwy cyfleus. Ychydig fu raid iddynt aros. Yr oedd anghyfiawnder y Normaniaid yn annioddefol i wŷr Môn. Gwrthryfelsant, ac Owen ab Edwin, y gŵr arweiniasai'r blaidd i Fôn, yn ben arnynt. Yr oedd creulondeb y ddau Huw, pan ddaethant drachefn, yn erchyll. Eu hanesydd hwy eu hunain sydd yn dweud hanes eu creulonderau. Llofruddiasant laweroedd o'r Cymry syrthiodd i'w dwylaw, torasant draed a dwylaw eraill oddi wrth eu cyrff, a thynasant eu llygaid, a gwnaethasant erchyllwaith gwaeth. Yr oedd yno offeiriad o'r enw Cenred, gŵr doeth, a roddai gynghorion i'r Cymry yn eu rhyfeloedd. Aeth y ddau Huw a llusgasant ef o'i eglwys, - gwnaethant ffieiddbeth.. ag ef, tynasant un o'i lygaid, a thorasant ei dafod.. Ond, trwy drugaredd Duw', ebe'r croniclydd Seisnig, adferwyd ei leferydd iddo.


Dywedir hanesyn arall am Huw Flaidd. Aeth oddi amgylch i weled rhyfeddodau'r ynys, ? a dangoswyd carreg iddo, tebyg i forddwyd dyn, a dywedwyd wrtho, pe cariai'r garreg i unrhyw bellter, y doi'n ôl i'r fan honno yn y nos ohoni ei hun. Cymerodd yntau hi, a gwnaeth iddynt ei chysylltu â charreg arall fw'y, a'i thaflu i eigion y môr. Ond bore drannoeth, wele yr oedd y garreg yn ei lle fel o'r blaen; a gorchymynnodd Huw Flaidd nad oedd neb i ymyrryd â hi.


Aeth Huw Goch yntau oddi amgylch yn ynys Môn.. Mynnai hela yno, fel ym mhobman. Ond ym mha le y cadwai ei gŵn? Yr oedd eglwys Llandyfrydog gerllaw; a rhyw noson aeth a'i gŵn yno, a chaeodd hwy dros nos yn yr eglwys. Erbyn y bore yr oedd y cŵn i gyd yn gynddeiriog, a gwelodd y bobl farn yn disgyn ar Huw Goch ei hun.


Yr oedd Harold Droednoeth, brenin Norwy, yn crwydro hyd y moroedd yr adegau hynny, a'i feddwl oedd cael ynysoedd y môr yn feddiant iddo. Yr oedd gwŷr Llychlyn wedi ennill ynys Manw a'r holl fân ynysoedd sydd ar ororau'r Alban. Ac yn awr yr oeddynt a'u llygaid ar ynys Môn, a Harold Droednoeth wedi penderfynu y mynnai hi oddi ar y Normaniaid.


Clywodd y ddau Huw fod y Llychlynwyr yn dod.. Buont yn gwylio am danynt yn hir yn Neganwy.. Oddi ar furiau castell Deganwy gallent weled y môr rhyngddynt a Môn, a gweled llongau Harold yn dyfod. o bell. O'r diwedd wele lynges Norwy'n dod, ac yn cyfeirio at yr ynys. Prysurodd y ddau Huw drosodd i Fôn i'w' derbyn gyda'u cleddyfau a'u picellau. Cyraeddasant yno cyn i'r Llychlynwyr lanio, a safasant hwy a'u byddin ar y traeth. Daeth y llongau'n agos at y lan. Yr oedd Huw Goch ar geffyl bywiog ar y traeth pan oedd y llongau'n dod ato. Daeth rhyw wylltineb dros y ceffyl neu Huw Goch. Gwelodd y môr- ladron Huw'n carlamu i'r tonnau ar ei farch gwyllt i'w cyfarfod. Yr oedd gwisg o ddur am Huw, ac nid oedd dim yn y golwg o honno ond ei lygaid. Ond yr oedd y môr- ladron yn anelwyr heb eu bathau. Safodd Harold eu brenin ar ben blaen ei long, ac anelodd saeth at lygad Huw Goch. Aeth y saeth yn syth at y nod, a thrwy lygad Huw. Syrthiodd oddi ar ei farch yn ei arfau trymion, a gorweddodd yn llonydd ddigon ar y tywod, wedi peidio â'i gyffro o'r diwedd.


Yr oedd yr Huw arall yn heneiddio oherwydd amlder blynyddoedd a drygioni. Yr oedd yn dew iawn ac yn afrosgo fawr, - Huw Fras y galwai'r Cymry ef. Ciliodd yn ei ôl wedi marw ei gyd- iarll, a gadawodd Fôn i Ruffydd ab Cynan. Yn bur fuan yr oedd Gruffydd ab Cynan a Chadwgan ab Bleddyn mor gryfion ag erioed, y naill yn ymgartrefu yng Ngheredigion a'r llall ym Môn, ac yn ennill cantref ar ôl cantref oddi ar y Normaniaid.


Aeth Huw Flaidd i Normandi, lle'r oedd ei bobl. Tra yno, clywodd fod y Brenin Coch wedi marw, - fod saeth oddi ar fwa rhyw heliwr wedi myned i'w gorff yn y goedwig.


Prysurodd Huw'n ôl, a bu'n gymorth mawr i'r brenin newydd Harri yn ei ystryw i gael y deyrnas oddi ar Robert ei frawd hynaf. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1100. Y flwyddyn wedyn teimlodd Huw Flaidd fod angau 'n dod ato. Ym mis Gorffennaf cymerodd wisg mynach am dano; bu'n rhyfela ar hyd ei oes, ond yr oedd am farw marwolaeth yr heddychlon. Nid oedd yn meddwl y buasai ei weithredoedd yn ei ddilyn, ac yntau yng ngwisg mynach yn gorwedd dan lawr eglwys.


Dyna ddiwedd y Brenin Coch a'r ddau iarll. Bu'r ddau farw heb allu difetha Gruffydd ab Cynan na Chadwgan ab Bleddyn. Beth ddeuai ar eu hol? Yr oedd unig fab Huw Flaidd yn ieuanc iawn, yn ddim ond saith mlwydd oed. Ond yr oedd y brenin dan ormod o rwymau i Huw iddo gymeryd mantais ar ieuenctid ei fab. "Ar ei ôl," ebe'r croniclydd Cymreig am Huw Flaidd, "daeth Rosser ei fab, cyd bei bychan oedd ei oed; ac eisoes y brenin a'i gosodes yn lle ei dad, o achos y maint y carai ei dad." Ond aeth y mab hwn i lawr i waelod y môr yn 1119, gyda'r Llong Wen. Gadawodd Huw Flaidd amryw blant anghyfreithlon, y mae gennym hanes un ohonynt yn mynnu swyddau eglwysig ar gam.


Nid oedd Huw Goch yn briod, a daeth ei frawd Robert - y Robert o Belesme a adnabyddid trwy Ewrob, - yn ei le


Dyna ni 'n awr ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg. Ar ddechrau'r ganrif gwelsom bobl yn ofni fod diwedd y byd yn ymyl, ac yn ei chanol gwelsom obeithion Cymru'n suddo gyda chwymp Gruffydd ab Llewelyn. Ar ei diwedd, wele elyn ar ôl gelyn wedi marw, ac wele ddau frenin galluog, - Gruffydd ab Cynan a Chadwgan ab Bleddyn, - yn rheoli llawer ohoni ac yn paratoi i reoli mwy.