Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Tri Chryf Arfog
← Ymosodwr Newyddd | Hanes Cymru O M Edwards Cyf II Tri Chryf Arfog gan Owen Morgan Edwards Tri Chryf Arfog |
Dau Dywysog → |
Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol 2
PENNOD II.
TRI CHRYF ARFOG.
“ |
|
” |
HWYRACH nad oes unlle mor gyfleus i un ymosod at bob rhan o Gymru ohono na'r Amwythig.
O adeg llosgi palas Cynddylan ar wawr bore hanes Cymru hyd adeg sefydlu Prifysgol Cymru yn y ganrif hon, y mae'r Amwythig wedi cael lle mawr yn natblygiad hanes ein gwlad.
Gwelodd y Norman Gwilym, gyda'i graffter rhyfeddol, fod y dref ar drofa'r Hafren yn lle i osod un o warcheidwaid gororau Cymru. Ac yno gosododd Roger De Montgomeri. Gadewch i ni adnabod Roger, un o brif elynion y tywysogion Cymreig, cyn adrodd hanes y Gruffydd ap Cynan a'r Rhys ap Tewdwr fu'n amddiffyn Cymru rhagddo ef a'i debyg.
Dechrau digon duwiol sydd i hanes Roger de Montgomeri. Yr oedd teulu o gymdogion yn hael iawn wrth fynachlog Evroult, ac eiddigeddodd Roger wrthynt, "eu bod yn dangos mwy o sêl dros Dduw nag efe, a meddyliodd ynddo ei hun beth tebyg allai yntau wneud am les ei enaid."
Wrth weled ei gymdogion yn hael wrth grefydd, felly, meddyliodd Roger de Montgomeri am rywbeth fyddai'n anrhydedd iddo yn y byd hwn, ac yn lles i'w enaid yn y byd a ddaw. Er lles ei enaid trodd wŷr crefyddol o ganondy Troarn, a rhoddodd rai gwell, sef mynachod, yn eu lle. Cawn ef, yn 1050, yn fforest Lions,- lle y bwytaodd llawer o dduciaid Normandi ormod, un ohonynt hyd farw. Yno torrodd ei enw, gyda lliaws eraill o fawrion Normandi, at femrwn yn cydnabod breintiau mynachlog Evroult. Y mae ei enw dan lawer ysgrif anghyfiawn, a llawer peth traws a wnaeth ei dduc Gwilym drwy;y ei gyngor cyfrwys. Hoffai ef a'i wraig weled ymrysonau rhwng y barwniaid eraill, gan bysgota bob amser mewn dyfroedd terfysglyd. Chwythent y marwor yn dan drwy ennyn nwydau'r duc Gwilym yn erbyn eu cymdogion; gyrasant rai gwell na hwy eu hunain ar ffo, gan adael eu meddiannau iddynt hwy. Trwy ddichell, a ffafr eu duc, yr oedd eu golud yn cynyddu o hyd. Cafodd eu mab ysgol wrth eu bodd yn y rhyfeloedd gwaedlyd rhwng Normandi a Llydaw, pan laddai'r Normaniaid a'r Llydawiaid eu gilydd bob dydd.
Yr oedd Roger de Montgomeri ymysg y gŵyr mawr y gofynnodd Gwilym eu barn cyn penderfynu ymosod ar Loegr. Gellir gweled mor uchel oedd yn ffafr ei dduc pan gofir mai iddo ef yr ymddiriedodd Gwilym Normandi, pan oedd ef ei hun yn croesi'r môr ar ei ymgyrch yn erbyn Harold. Wedi gorchfygu Lloegr, daeth Roger de Montgomeri ymhlith yr adar rhaib eraill at yr ysglyfaeth. Cafodd iarllaeth Chichester ac iarllaeth Arundel at y cyntaf, yn neheudir Lloegr. Ond yr oedd yn rhy alluog ac yn rhy berygl i fod yno, - buasai'n ddychryn i'w gymdogion ac yn achos pryder parhaus i'w dduc. Gosodwyd ef yn yr Amwythig, yng ngwyneb gelynion ffyrnig ac ymysg rhai y medrai Gwilym oddef iddo eu hysbeilio a'u gorthrymu.
Nid Roger de Montgomeri oedd y gwaethaf yn fyw yn yr oes honno. Yr oedd ei wraig yn waeth nag ef, o lawer. Un o deulu creulon melltigedig Belesme oedd Mabel, merch William Talvas, a chafodd Roger gyda hi lawer o etifeddiaeth eang ei theulu a llawer o'u dichell a'u creulondeb. Yr oedd Mabel yn alluog iawn yn hirben ac yn gweld ymhell, yn deg ei geiriau, ac yn greulon y tu hwnt i fesur. Gorthrymai fynachod Evmoult am eu bod yn dda, a deuai atynt i'w blino. Ond, tra yn eu blino unwaith, cafodd boen annioddefol yn ei bron. Ffodd oddi yno i dy amaethwr, cymerodd blentyn bach yr amaethwr yn ei breichiau a gadawodd iddo sugno ei bron. Aeth hi o'r bwthyn yn iach, ond gadawodd y plentyn yn farw am ei hol. Yr oedd ei thafod fel fflam dân, yn codi rhyfel rhwng barwn a barwn o hyd. Casâi deulu Giroie, dinistriodd hwynt, a chafodd feddiant o'u tir. Wrth geisio gwenwyno un o feibion y teulu hwn unwaith mewn gwledd gyfeillgar, gwenwynodd unig frawd ei gwr, ym mlodau ei ddyddiau. Daw'r wraig fechan, alluog, bechadurus hon o'n blaenau eto. Na ddyweder ar hyn o bryd ond hanes ei marw, ar noson hyllig ym mis Rhagfyr, 1082. "O'r diwedd," ebe un geisiai hoffi ei gwr, "gadawodd y Barnwr cyfiawn, a arbed y pechadur edifeiriol ond a ddial at y diedifar, I'r ddynes hon, oedd wedi gwneud i gymaint o wŷr mawr golli eu tiroedd a chardota eu bara mewn gwledydd pell,- gadawodd Ef iddi farw trwy gleddyf Huw, oddi ar yr hwn yr oedd wedi mynnu ei gastell am graig Igé, gan ei ysbeilio'n anghyfiawn o etifeddiaeth ei dadau. Yn angerddoldeb ei ofid, penderfynodd yr Huw hwnnw wneud peth eithafol lawn."
Trwy gymorth ei dri brawd, gwyr dewr rhyfeddol, ymladdodd ei ffordd liw nos i'w hystafell mewn lle o'r enw Bures, ar yr afon Dive. Ac yno, pan oedd hi yn gorwedd yn ei gwely newydd fwynhau pleserau'r ymdrochle, torrodd ei phen, i ymddial am golli ei dreftadaeth. Rhoddodd marwolaeth y ddynes greulon lawenydd i lawer; a chychwynnodd y rhai a wnaeth y weithred at unwaith tua'r Eidal. Pan glywodd Huw ei mab, yr hwn oedd yn y lle gydag un ar bymtheg o farchogion, am ladd ei fam, cychwynnodd ar ôl y llofruddion, ond ni fedrodd eu dal, am eu bod wedi torri'r pontydd ar eu holau. Canol y gaeaf oedd, yr oedd y nos yn dywyll, yr oedd llif mawr yn yr afonydd, a medrodd y llofruddion ddianc o Normandi. Claddwyd y corff archolledig gan frodyr Troarn, ar y pumed o Ragfyr; a rhoddasant yr argraff hwn am ei bedd, oherwydd pleidgarwch cyfeillion yn hytrach nag o ran yr hyn haeddai hi,-
"Mabel, merch y dewr a'r enwog, dyma'i beddrod gwael; Pell tu hwnt i glodydd gwragedd, dalen hanes ddylai gael. Huawdl oedd, a doeth, a pharod at bob gweithred fawr; Er mai bechan oedd, cadd fawredd gwychder daear lawr Tarian gwlad, fel y dangosai ofn a chariad, ydoedd hi, Dial Huw a'i goddiweddodd ar y noson Ragfyr du; Am i'w henaid hi gael gorffwys, wedi terfysg blin, Gyfaill, anfon ambell weddi, i erfyn iddi hedd a hun."
Yr ydym wedi gweled mor bwysig fu Caer er amser boreuaf hanes ein gwlad. Hi oedd yn cysylltu y ddwy ran fawr o'r hen Gymru; a phan enillwyd hi gan y Sacson yn 613, at yr un pryd collwyd y wlad y tu hwnt iddi,-Teyrnllwg ac Ystrad Clwyd. Ac yr oedd yn hawdd ymosod ohoni am yr hyn oedd yn weddill o Gymru; ohoni hi y cychwynnid i fyny'r Dyfrdwy, neu hyd Lan y môr tuag Arfon a Môn. o bob tre y tu allan i Gymru, hwyrach mai Caer yw'r mwyaf diddorol i Gymro. Y mae ei muriau eto'n aros, - y muriau y bu'r Rhufeiniwr a'r Norman a'r Sais yn eu tro yn bygwth Cymru oddi arnynt. Gellir cerdded ar hyd iddynt, fel y cerddai'r gwylwyr a'r saethyddion gynt, ac edrych ar fryniau hyfryd Dinbych a Fflint. Oddi ar y bryniau hyn bu Huw, iarll Caer, yn edrych ar y wlad a'r bobl oedd yn ysbail ac yn helfa iddo. Da y galwyd ef yn Huw Flaidd.
Mab oedd Huw Flaidd, Iarll Caer, i Risiart o Avranches. Y peth yw Caer i Gymru yw Avranches i Lydaw. Fel Caer ger Cymru, saif Avranches ger cornel Llydaw, ac ohoni hi yr ymosodid beunydd am y Llydawiaid. Oddi ar ei bryn uchel gwelir Normandi wastad ymron ar ei hyd i un cyfeiriad, a Llydaw fryniog i gyfeiriad arall. Ond yr oedd ysglyfaeth Huw, y cenau blaidd, dros y môr ymhellach na'r un ohonynt.
Gosododd Gwylim hwn o fewn muriau Caer, ac yn fuan iawn croniclir lladdfeydd mawrion ymysg y Cymry. Yr oedd yr Huw hwn, nid yn unig yn hael, ond yn afradlon; nid oedd yn fodlon ar fod a'i weision o'i amgylch, cadwai fyddin. Nid oedd derfynau ar ei roddi nac ar ei gymeryd. Anrheithiai hyd yn oed ei diroedd ei hun yn aml; a llawer gwell oedd ganddo y rhai a'u canlynai ef i hela ac i heboga na'r rhai driniai y ddaear ac na'r rhai geisiai deyrnas nefoedd. Ymroai gymaint i lythineb fel mai prin y medrai gerdded gan mor dew oedd. Gollyngodd ei hun heb fesur i bleserau'r cnawd, ac yr oedd ganddo laweroedd o blant o'i ordderchadon, ond dinistriwyd hwy oll gan ryw anffawd neu gilydd.
Dyn hollol fydol, a hanner bwystfil, oedd Huw Flaidd, iarll Caer. Yr oedd yn ddewr fel baedd gwyllt. Pan na fyddai'n rhyfela, chwareufeydd geirwon fyddai wrth ei fodd. Chwareuwyr, ceffylau, a chŵn fyddai ei hoffter,- a phob gwagedd. Amgylchynid ef gan wŷr ieuainc, o uchel radd ac o isel radd, yn meddwi ac yn ymdyrfu'n wastadol. Dau hoff gydymaith Huw Flaidd oedd dau Robert,Robert Malpas a Robert o Ruddlan; ymsefydlodd y naill ar wastadedd Maelor a'r llall yn Nyffryn Clwyd. Os oedd y rhain y ddau fwyaf galluog o'r haid ganlynai Huw Flaidd, yn ôl pob hanes yr oeddynt y ddau fwyaf creulon.
Ymysg y dyrfa bechadurus oedd yn gloddesta yng Nghaer wedi lladd tyrfaoedd o wladwyr Cymreig, yr oedd o leiaf un dyn duwiol. Yr oedd yno ryw Gerald, o Avranches. Ni pheidiodd hwn a phregethu yn erbyn pechodau canlynwyr Huw, a mynych y dangosodd, o hanes yr Hen Destament a'r Newydd, pa fodd y dylai milwyr fyw. Ond beth oedd un llais gwan i'w godi yn y fath le pechadurus?
Daeth amser Huw i farw. Wedi'r ymladd yn erbyn Cymru a'r pechodau y cawn eu darlunio eto, daeth ofn marw arno. Mynnodd wisg mynach amdano gan feddwl ymguddio yn honno yn nydd y farn. Gadawodd un plentyn ar ei ôl. Ond aeth hwnnw gyda mab y brenin yn y Llong Wen, yn llawen feddw, ac aeth gyda'r llong i waelod y môr. Felly y darfyddodd hil Huw Flaidd.
Yn nesaf at yr Amwythig a Chaer, nid oes unlle mor bwysig yn hanes gororau Cymru a Henffordd. Saif am yr afon Wy, a hawdd oedd ymosod ohoni hi ar Frycheiniog a Gwent a Morgannwg. Ac yn sicr, ni fu broydd prydferthach a ffrwythlonach yn ysglyfaeth i neb. Cawn weled Henffordd yn cymeryd lle mawr yn hanes Cymru. Ei siarter hi oedd cynllun siarter bobl drefydd Cymru; gwelodd Glyn Dwr mae trwy ymosod arni hi y medrai amddiffyn annibyniaeth Cymru rhag Lloegr; ei dylanwad hi sydd erbyn hyn wedi hollol Seisnigo un sir Gymreig.
Yr oedd William Fitz-Osborn yn un o brif gynghorwyr a milwyr Gwilym. Yr oedd wedi torri ei enw ar ei brif femrynau yn Normandi, yr oedd wedi ymladd gydag ef at faes Senlac. A chafodd wobr ardderchog, - Ynys Wyth a Henffordd. Buasai'n amhosibl rhoddi iddo ddau le mwy dymunol, a buasai'n amhosibl rhoddi iddo ddau le mwy perygl. Yr oedd yr ynys yn hawdd ymosod arni o'r môr; ac yr oedd Henffordd mewn perygl parhaus oddi wrth y Cymry, nid oedd fawr er pan oedd Gruffydd ap Llywelyn yn ei hanrheithio a'i difrodi. Gwyddai Gwilym frenin am allu William Fitz-Osbern, a gofalodd am ei roddi mewn lle y câi ei ynni diorffwys a'i uchelgais gwancus lawn waith.
Buan iawn y dechreuodd Fitz-Osbern chwennych bryniau a dyffrynnoedd Brycheiniog. Gwelodd fod y tywysogion yn ymladd a'u gilydd, ond ymunodd tri ohonynt pan glywsant ei fod yn prysuro yn eu herbyn yn 1071. Ond gorfod i Rys a Meredydd a Chadwgan, cadernid y Deheudir yn yr amser hwnnw, ffoi o'i flaen. Gwelodd fôr Ceredigion, os nad oedd mwg ei anrhaith o'i gwmpas o hyd; a gwelodd, ond odid, mai bechan oedd Cymru wedi'r cwbl.
Yr oedd yn rhaid i'w uchelgais gael cyfandir o'i flaen. Yr oedd ymladd yn Fflanders, rhwng dan frawd, am y wlad. Anfonwyd Fitz-Osbern, nid yn erbyn ei ewyllys, yno, i lywodraethu Normandi ac i edrych a oedd dim i'w gael o anffodion Fflanders. Ond collodd Fitz-Osbern y frwydr a'i fywyd; a gadawodd ei diroedd eang yn Normandi a Fflanders i'w feibion William a Roger. Un hynaws oedd William o'i gymharu â'i dad, ond yr oedd natur yr hen ddyn yn Roger.
Gwrthryfelodd Roger yn erbyn y brenin Gwylim, am na châi fod yn annibynnol ar lan y Gwy, a diffeithio a gorthrymu wrth ei ewyllys. Rhoddodd y brenin ben ar y gwrthryfel yn 1074, a rhoddwyd Roger mewn carchar caeth. Ni welwyd carcharor mwy ystyfnig erioed; yr oedd yn rhy ystyfnig i dderbyn cymwynas na thrugaredd. Unwaith, ar adeg coffa dioddefaint Crist, anfonodd y brenin iddo anrheg i'w garchar, dillad o'r sidan a'r man flew drutaf. Gwnaeth Roger dan fawr, a thaflodd y dillad gwerthfawr gyda dirmyg iddo. "Myn goleuni Duw," ebe Gwilym, pan glywodd am hyn, gan regi yn ôl ei arfer, "ni chaiff byth ddod o'i garchar tra byddaf fi byw." Ni chafodd fynd yn rhydd hyd yn oed pan fu'r brenin farw; angen yn unig a newidiodd ei garchar. Ond ni pheidiodd Henffordd a bod yn ddrws i Gymru. Cawn weled un arall yn cyrraedd Aberhonddu cyn hir, ac yn codi castell yno, wedi brwydr chwerw.
"Yn wir, yn wir," ebe hanesydd y Normaniaid, "y mae gogoniant yn gwywo fel blodeuyn y glaswelltyn, treulir a gwasgerir ef fel mwg. Pa le mae William Fitz-Osbern, iarl1 Henffordd, rhaglaw'r brenin, uchel lywydd Normandi, ac arweinydd y fyddin frenhinol,- pa le y mae yn awr? Efe, heb un eithriad, oedd gorthrymydd mwyaf a phrif anrheithiwr pobl Lloegr; casglodd gyfoeth dirfawr trwy orthrwm, gan achosi dinistr a marwolaeth miloedd trwy ei galedwch. Ond y mae'n Barnwr cyfiawn, sy'n canfod pob peth, yn gwobrwyo pob dyn yn ôl ei haeddiant. o dynged chwerw! Syrth William, a châi'r milwr hyf y gosb a haedda. Llawen un a syrthiodd trwy ei gleddyf ef, a thrwy'r cleddyf y torrwyd yntau'n sydyn oddi wrth y rhai byw." Er ei holl uchelgais, buan iawn y diflannodd ei hil oddi ar wyneb y tir fuont yn gorthrymu ac yn anrheithio cyhyd.
Roger de Montgomeri, Huw Flaidd, a William Fitz-Osbern, - dyna'r tri chryf arfog oedd wedi eu gosod at ororau Cymru, o enau'r Dyfrdwy hyd afon Gwy. Paratoesant y ffordd i'w meibion feddiannu Cymru, - gadawsant iddynt gestyll cerrig allai ddal pob rhuthr, a gwisgoedd dur fedrai wrthsefyll saeth y gŵr bwa Cymreig, ac atgof am aml ruthr dinistriol i Gymru. Ar yr un pryd yr oedd eu cefndryd yn ennill gwledydd gorau ac enwocaf y ddaear; ac yn edrych yn hiraethlawn reibus ar furiau Rhufain a Chaercystenyn a Chaersalem.