Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Ymosodwr Newydd
← Rhagymadrodd | Hanes Cymru O M Edwards Cyf II Ymosodwr Newydd gan Owen Morgan Edwards Ymosodwr Newydd |
Tri Chryf Arfog → |
Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol 2
PENNOD I.
YMOSODWR NEWYDD.
“ |
"Cenedl greulon, farbaraidd, ryfedd."
|
” |
ANRHEITHIODD Harold Gymru o gwr i gwr, a dygwyd iddo gan fradwr ben Gruffydd ap Llywelyn, y brenin allasai wneud Cymru'n un. Yn annyledus yr enillasai Harold uchelder teyrnas Lloegr, ac yr oedd hawlydd arall y tu draw i'r môr, sef Gwilym, duc Normandi. Dair blynedd wedi cwymp Gruffydd ap Llywelyn, clywodd y Cymry fod Harold wedi ei ladd ym mrwydr Senlac, a bod Gwilym y Norman yn teyrnasu yn ei le. A llawenhaodd y Cymro oherwydd yr "anorchfygedig law" a'r "boneddicaf lu" a lethasai anrheithiwr ei wlad.
Daeth dau beth newydd i Brydain gyda'r Norman, llenyddiaeth newydd, a threfn.
Yn ei ymwneud â Llydaw yr oedd y Norman yn barod wedi ei swyno gan lenyddiaeth y Brython. Efe wnaeth Arthur a'i farchogion yn arwyr llenyddiaeth y cyfandir. Gwnaeth i lenyddiaeth Lloegr ddechrau o'r newydd, ac ar sylfaen Gymreig y dechreuodd adeiladu yr hyn sydd erbyn heddyw yn adeilad mor ogoneddus. Daeth Arthur yn arwr llenyddiaeth y bobl a'i gorchfygasai. Ac yng Nghymru ei hun, hefyd, adnewyddodd yr ysbryd llenyddol grymus hwn.
Daeth y Norman i roddi trefn undeb hefyd. Hyd yn hyn, man arglwyddi yn ymladd â'u gilydd, ac yn cadw gorsedd eu brenin yn rhy sigl iddo fedru anelu ergyd at neb, fu yn Lloegr. Ond yn awr, dyma wr galluog yn frenin, un fedrai lethu'r Saeson â'i fyddin Normanaidd, a llethu gwrthryfel yn Normandi â'i Saeson. Ac yr oedd estyniad ei deyrnwialen haearn i fod at fynyddoedd Cymru.
Anrhefn oedd ar y mynyddoedd hynny.
Pan fu farw Gruffydd ap Llywelyn yn 1063, gosododd Harold rai wrth ei fodd ei hun i deyrnasu ar Gymru. Dau frawd unfam Gruffydd ap Llywelyn oeddynt, - Bleddyn a Rhiwallon, meibion Cynfyn. Ond, os oedd y rhain wrth fodd Harold ac yn cael cynhorthwy ganddo, nid oeddynt wrth fodd yr holl Gymry. Yr oedd iddynt elynion chwerw yng Ngogledd Cymru, yn enwedig eu neiaint, meibion Gruffydd ap Llywelyn, - Ithel a Meredydd. Yn y De yr oedd iddynt elynion ymron ymhob cwr. Un o'r rhai chwerwaf yno oedd Caradog, mab y Gruffydd fu'n ymladd am Ddeheudir Cymru gyda Gruffydd ap Llywelyn. Yr oedd Caradog yn casáu'r Saeson fel hen elynion ei wlad; ac yr oedd yn casáu Harold oherwydd mai nid efe ei hun, ond Meredydd ab Owen, roddwyd i reoli yn hen deyrnas ei dad. Gwelodd y Caradog hwn wyr Harold yn codi pabell ym Mhorth Iscoêd, ar wastadedd hyfryd Gwent, ryw ddiwrnod. Newydd orchfygu'r wlad yr oedd Harold, ac yr oedd am gael lle hyfryd i hela ynddi, i'r hwn y gallai wahodd y brenin Edward. Ac er mwyn codi'r hafdy hwn, casglodd i'r lle lawer o weithwyr a llawer o dda. Gwelodd Caradog ap Gruffydd weithwyr a da'r Sais ar dir ei dad. "Ond," ebe cronicl y Saeson, "pan oedd y cwbl yn barod, yna daeth Caradog, mab Gruffydd, ynghyd â hynny o wyr a fedrai gael; lladdasant agos yr holl bobl oedd yno'n adeiladu, a chymerasant y da oedd wedi ei baratoi yno."
Heblaw meibion Cynfyn a meibion Gruffydd yn ymladd â'u gilydd yn y Gogledd, a meibion Owen a Charadog yn ymladd â'u gilydd yn y De, yr oedd llu o rai eraill, yn perthyn i'r rhai hyn, yn barod i wneud gorchest er mwyn cael y frenhiniaeth. Yr oedd llawer o deuluoedd yn Ne a Gogledd yn hawlio awdurdod, ac yr oedd ymron bob teulu yn rhanedig yn ei erbyn ei hun. Yr oedd gelyniaeth hefyd rhwng De a Gogledd.
Rhwng marw Harold a llwyr orchfygiad Lloegr gan Gwilym yr oedd amser, chwe blynedd neu wyth, i ryw un brenin galluog uno Cymru, a'i gwneud yn ddigon cadarn i wrthsefyll dylif y Normaniaid. Pe buasai Gruffydd ap Llywelyn yn fyw, y mae'n ddigon tebyg y medrasai, trwy gynhorthwy Iarll Mersia, wneud y Gorllewin yn annibynnol ar Gwilym. Y cwestiwn oedd, - a feddai Cymru rywun fedrai reoli'r tywysogion a llaw gref ac uno De a Gogledd. Y gwr mewn awdurdod oedd Bleddyn ap Cynfyn. Yr oedd wedi cael cyfleustra da. Am dair blynedd yr oedd Harold wrth ei gefn, a gwelwyd ef yn "Ŵr a oedd, wedi Gruffydd ei frawd, yn cynnal yn ardderchog holl deyrnas y Brytaniaid." Ond wedi marw Harold, gwelwyd fod Bleddyn, er cystal rheolwr oedd, yn rhy lariaidd i lwyddo yn yr adegau cynhyrfus hynny. "Y gwaraf a thrugarocaf o'r brenhinoedd" y gelwir ef. Pan godid yn ei erbyn, o'i anfodd y dialai yntau ar y gwrthryfelwyr. Amddiffynnwr amddifaid a gweinion a gweddwon, a chadernid y doeth, ac anrhydeddwr eglwysi oedd. Diddanai ei wlad, yr oedd yn hael i bawb, ond digon prin y medrwn gredu ei fod yn aruthr mewn rhyfel.
Ar y cyntaf, gallasid meddwl y byddai dau dywysog, un yn y Gogledd ac un yn y De, yn teyrnasu yng Nghymru. Gallasid meddwl y gorchfygai Bleddyn bob cydymgeisydd yn y Gogledd, ac y gorchfygai Caradog neu Rys bob cydymgeisydd yn y De; ac yna yr ymladdai'r ddau am fod yn frenin holl Gymru.
Yn y flwyddyn 1066, felly, yr oedd dau frawd, Bleddyn a Rhiwallon, meibion Cynfyn, yn teyrnasu yn y Gogledd. Yn y De yr oedd dau frawd arall, Meredydd a Rhys, meibion Owen, yn ceisio dal eu tir yn erbyn ymosodiadau Caradog ap Gruffydd. Rhywbeth yn debyg yw helynt y ddau bâr o frodyr,- lladdwyd Un ohonynt mewn brwydr, a theyrnasodd y llall.
Ym mrwydr Mechen, penderfynwyd pa un ai meibion Cynfyn ynte eu neiaint, meibion Gruffydd ap Llywelyn, oedd i deyrnasu. Trodd y fuddugoliaeth o du meibion Cynfyn, er i un ohonynt, Rhiwallon, gwympo yn y frwydr. Bu farw dau fab Gruffydd ap Llywelyn; syrthiodd Ithel ar y maes, a bu Meredydd farw o anwyd wrth ffoi. Wedi'r frwydr honno nid oedd neb i wrthwynebu Bleddyn ap Cynfyn yng Ngwynedd a Phowys.
Yn y De bu brwydro rhwng meibion Owen a Charadog. Cwympodd Meredydd ab Owen mewn brwydr a Charadog ar lan afon Rhymni. Ond llwyddodd Rhys i gadw'r holl Dde.
Y peth nesaf oedd penderfynu pa un ai tywysog y Gogledd ynte tywysog y De, Bleddyn ap Cynfyn ynte Rhys ab Owen, oedd i reoli Cymru. Ychydig wyddom am yr ymdrech, a digon dieithr yw hanes y diwedd yn y croniclau Cymreig,-"Ac yna lladdwyd Bleddyn ap Cynfyn gan Rys ab Owen, drwy dwyll drwg ysbrydolion benaethau ac uchelwyr Ystrad Tywi."
Ond, er iddo orchfygu Bleddyn, ni chafodd Rhys reoli'r Gogledd. Daeth Trahaiarn, cefnder Bleddyn, i'w le yn 1075. Yr oedd Trahaiarn yn wr galluog a grymus, ac ni fedrai Rhys ymosod arno ar unwaith, oherwydd fod Caradog a meibion Cadwgan yn ymgynhyrfu y tu ôl iddo. Trodd Rhys adref, i fynd yn erbyn y rhain. Gorchfygodd hwy yng Nghamddwr, ac wedi hynny yng Ngwenotyll. Yna tybiodd ei bod yn bryd mesur ei nerth a Thrahaiarn, oedd yn dal ei dir yn erbyn pob cydymgeisydd yn y Gogledd. Ym mrwydr Pwll Gwddwg cyfarfyddodd y ddau fuddugwr. Trahaiarn a orfu, dialodd waed Bleddyn, bu lladdfa fawr ar deulu Rhys, a gorfod iddo yntau ffoi am ei einioes o'r frwydr,-" megis carw ofnog ymlaen y milgwn drwy y perthi a'r creigiau."
Paham na chymerodd Trahaiarn lle Gruffydd ap Llywelyn fel brenin Cymru ar ôl y frwydr hon? Yn un peth, nid oedd bosibl uno De a Gogledd heb i frenin y naill fod yn orthrymwr y llall. A pheth arall, yr oedd dau dywysog ieuanc wedi ymddangos ar y maes,- un yn hawlio gorsedd y Gogledd, ar llall i gymeryd lle ei berthynas, Rhys ab Owen, yn y De. Gruffydd ap Cynan ddaeth i hawlio gorsedd y Gogledd, a Rhys ap Tewdwr ddaeth i'r De.
Yr oedd Gruffydd ap Cynan, Wyr Iago, yn perthyn i hen Deulu brenhinol Gwynedd, y teulu fu'n teyrnasu am gynifer o ganrifoedd cyn i Lywelyn ap Seisyllt gymeryd eu lle. Ar ffo yr oedd yn yr Iwerddon; ond, pan gwympodd Bleddyn yn 1075, gwelodd gyfleustra i ail ennill hen orsedd ei gyndadau. Daeth i Fôn i ymladd brwydr, ac ymladdodd un wedyn ym Mron yr Erw, ond ni fedrai syflyd gorsedd Trahaiarn. O'r diwedd ymunodd â'r hwn oedd yn ceisio rheoli'r De, Rhys ap Tewdwr.
Yr oedd Rhys ap Tewdwr wedi bod ar ffo hefyd, yn Llydaw. Yn 1079 cymerodd lle Rhys ab Owen, a'i brif amcan oedd rhoddi terfyn ar allu Trahaiarn. Felly ymunodd â Gruffydd ap Cynan oedd yn gwrthryfela yn y Gogledd, ac ymunodd Trahaiarn â'r rhai oedd yn gwrthryfela yn ei erbyn yntau yn y De. Cyfarfyddodd y ddwy fyddin ym Mynydd Cam, yn ,1081. Trodd y fuddugoliaeth i Ruffydd ap Cynan a Rhys ap Tewdwr, a syrthiodd Trahaiarn ar y maes.
Wedi blynyddoedd hirfaith o gwsg a galar, deffrodd awen Cymru, a phan ddaeth amser Meilir i alaru am Ruffydd ap Cynan, medrai sôn yn orfoleddus am yr amser
“ |
"Pan las Traharn yng Ngharn fynydd." |
” |
Er amser Gruffydd ap Llywelyn yr oedd ansicrwydd wedi bod yng Nghymru, yr oedd mwynder y wlad yn cael ei ysu gan y tywysogion lluosog oedd yn ymladd yn ddiddarfod Gwelodd y Cymry mai eu hunig obaith oedd ymuno dan ddisgynnydd eu hen frenhinoedd. Ond yr oedd rheswm arall dros awydd y Cymry am nerthu dwylaw Gruffydd ap Cynan,- yr oedd y Normaniaid wedi Dechrau ymsefydlu ar y gororau, ac yr oedd eu cestyll cerrig yn codi i wgu dros ddyffryn Maelor a dyffryn yr Hafren at Gymru. Tra'r oedd y Cymry'n difa eu nerth trwy ymladd â'u gilydd, yr oedd y Normaniaid yn araf ddynesu at y broydd breision oeddynt wedi chwenychu.
Wedi brwydr Senlac a chwymp Harold, ni wyddai Gwilym yn sicr beth a wnâi ieirll Seisnig y gogledd a'r gorllewin a thywysogion y Cymry. Gwelodd Edwin a Morcer a'r ieirll eraill mai tynged Harold fyddai eu tynged hwythau os ymladdent, a gadawsant i Gwilym goroni ei hun yn frenin Lloegr am ddydd Nadolig, 1066. Ond yn fuan iawn, trymhaodd iau'r Normaniaid ar y Saeson, a chyneuodd y gwrthryfel yn fflam ymhobman yn y gorllewin ac yn y gogledd. Ymgyfamododd yr ieirll Edwin a Morcer a Bleddyn ap Cynfyn. Aeth Bleddyn a byddin gref i ymuno â'r ieirll, heriasant y Normaniaid, ac anfonasant rai i godi gwrthryfel yn y gogledd. Nid oedd ond ynni a phenderfyniad Gwilym fedrasai orchfygu'r gwrthryfel mawr hwn. Prysurodd y brenin digllon i'r gogledd yn gyntaf, a gwnaeth y wlad yn anialwch anghyfannedd am gan mlynedd. "Yr oedd ei wersyllfaoedd wedi eu gwasgaru hyd gan milltir o wlad," ebe hanesydd ddywed lawer gair da am dano, "syrthiodd niferoedd o wrthryfelwyr dan gleddyf ei ddial, gwastadhaodd eu llochesfeydd â'r llawr, difrododd eu tiroedd, a llosgodd eu hanheddau ynghyda phopeth oedd ynddynt. Ni wnaeth Gwilym erioed gymaint o greulondeb; er cywilydd tragwyddol iddo, rhoddodd ffrwyn i'w nwydau gwaethaf, ni roddodd derfyn i'w ddicllonedd, eithr condemniodd y dieuog a'r euog i farn gyffelyb. Yn llawnder ei ddigofaint, gorchymynnodd iddynt gasglu ynghyd y grawn a'r anifeiliaid, yr offer amaethu a phob math o fwyd yn bentwr, a'u rhoddi at dan nes dinistrio y cwbl; ac felly dinistriodd ar unwaith bob peth fedrai gynnal bywyd yn y wlad sy'n gorwedd y tu hwnt i'r Humber."
Wedi dinistrio'r da a'r drwg mewn un goelcerth, gadawodd Gwilym yr hynafgwyr gwallt gwyn a'r plant diniwed i farw o newyn yn yr anialwch wnaethai, a throdd ei wyneb tua'r gorllewin. Ei ysglyfaeth nesaf oedd Iarll Mersia a Bleddyn ap Cynfyn. Wrth iddo gyflymu at ororau Cymru, yn Ionawr 1070, yr oedd yr eira'n drwchus at fryn a chwm, ac yr oedd yn rhewi'n galed. Crwydrai'r fyddin ymlaen drwy'r eira heb fawr o drefn arni. Unwaith collodd y brenin ei ffordd, gyda dim ond chwe milwr, a bu heb wybod ymha le yr oedd drwy'r nos. Cyrhaeddodd Gaerefrog, a phenderfynodd fynd yn ei flaen i Gaer. Yr oedd y Cymry, ymysg pethau eraill, wedi gwarchae ar yr Amwythig. Ond pan glywodd ei filwyr, yn enwedig gwyr Llydaw ac Anjou, sôn am Gymru, meddyliasant ar unwaith mor anhygyrch oedd y wlad, mor erwin fyddai'r tywydd, mor anodd fyddai cal bwyd, ac mor ddewr oedd y trigolion. Er gwaethaf pob ofnau, gwnaeth y brenin anhyblyg iddynt ei ddilyn. Gorfod iddynt ei ddilyn dros fynyddoedd a cheunentydd, drwy afonydd gwylltion a chorsydd perygl. Doi'r glaw i lawr yn genllif yn feunyddiol, a chenllysg yn aml. Weithiau nid oedd ganddynt i'w fwyta ond cig y ceffylau a fuasai farw yn y corsydd. Ond arweiniodd y brenin hwy i Gaer. Gorchfygodd bob anhawster a phob gelyn. Cododd gastell yng Nghaer, ac un arall yn yr Amwythig wrth ddychwelyd. Gosododd farwn creulon a diegwyddor yng Nghaer, ac un arall yn yr Amwythig, a gadawodd y Cymry yn helwriaeth iddynt.
Tybiai, ond gosod y milwyr diffaith hyn ar y gororau, y câi lonydd gan eu cyffro; byddent yn estyn ei deyrnas yng nghyfeiriad y gorllewin heb gost na thrafferth iddo ef, a byddent yn amddiffyn gwell na Chlawdd Offa rhag ymgyrchiadau'r Cymry. Buan iawn y Dechreuodd y Normaniaid gymeryd gafael haearnaidd at dir Cymru, a chodi eu cestyll cerrig arno. Yn ystod teyrnasiad Bleddyn yr oedd Normaniaid yr Amwythig wedi difrodi Ceredigion a Dyfed hyd y môr, a chyn marw Bleddyn yr oeddynt yng Ngheredigion eilwaith. Yn ôl eu harfer ymhob gwlad, dechreuasant ymyrryd yng nghwerylon y tywysogion Cymreig, yr oeddynt yn helpu Gruffydd ar lan afon Rhymni pan laddwyd Meredydd ab Owen.
Er eu creuloned, deallasant Gymru'n well na'r Saeson, a bu eu dylanwad arni'n llawer mwy. Gorchfygwyd hwy gan ei llenyddiaeth, os nad gan ei chrefydd. Gyda hwy daeth Deffroad cenedlaethol a dechreuad y llenyddiaeth flodeuodd wedi hynny yn Nafydd ap Gwilym. Daeth Harold Sais i Gymru i ddinistrio; daeth Gwilym y Norman i Gymru i weddïo. Dywed croniclau'r Saeson am Gwilym ei fod yn greulon at ddynion, ond ei fod "yn caru'r ceirw tal fel pe buasai'n dad iddynt," a'r geiriau olaf yn ei hanes ydyw dymuniad am i Dduw drugarhau wrth ei enaid. Ond geiriau olaf y croniclau Cymreig am dano ydyw, - "Ac yna y daeth Gwilym Fastard, brenin y Saeson a'r Ffrainc a'r Britaniaid, wrth weddïo, drwy bererindod i Fynwy."