Hanes Cymru O M Edwards Cyf I (testun cyfansawdd)

Hanes Cymru Cyf I (testun cyfansawdd)

gan Owen Morgan Edwards

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Cymru O M Edwards Cyf I

YNG NGWLAD ARTHUR Y RHAMANTAU.

HANES CYMRU
I YSGOLlON, CYFARFODYDD LLENYDDOL, A THEULUOEDD

RHAN I.
Hyd Farwolaeth Gruffydd ab Llywelyn yn 1063

[TRYDYDD ARGRAFFIAD]

GAN

OWEN M. EDVARDS, M.A.,

RHYDYCHEN

CAERNARFON:
SWYDDFA CYMRU
1911

Hanes Cymru - Owen M Edwards

Cyfrol 1


RHAGYMADRODD

Ail argraffiad ydyw y rhan fwyaf or llyfr bychan hwn o'r penodau ymddanghosodd yng nghyfrolau cyntaf Cymru. Y mae'r cyfrolau hynny wedi mynd yn brin erbyn hyn; ac nis ceir hwy ond trwy daro bargen ail law; ac felly y mae'r ffordd yn rhydd i mi ail argraffu'r penodau hanes. Yr oedd trefn y penodau, fel yr ymddanghosasant, yn gwneyd yr hanes ychydig y fwy dyrus nag y dylasai fod; yn yr argraffiad hwn y mae'r penodau wedi eu hail drefnu o'r dechreu i'r diwedd, er mwyn i'r hanes fod yn gliriach.

Addawodd y rhai sy'n rheoli arholiadau lleol Rhydychen roddi Cymraeg ar restr eu testynau, ar yr amod fod i'r penodau hyn gael eu cyhoeddi yn ffurf llawlyfr hylaw. Bwriedir ef hefyd ar gyfer Ysgolion Canolraddol, ar gyfer y cyfarfodydd llenyddol roddir ymron i gyd i ddysgu hanes Cymru, ac ar gyfer aelwydydd Cymreig.

Yn y bennod gyntaf rhoddir desgrifiad byr o wlad y Cymry. Y mae'n amhosibl deall hanes unrhyw wlad heb wybod am ffurf a natur ei daear. Gall yr athraw ychwanegu at y darluniau roddir o'r mynyddoedd; goreu po fwyaf o fanylion ddysgir am ddaearyddiaeth a daeareg.

Sylwer mai rywbryd rhwng 577 a 613 y dechreuodd y mynyddwyr alw eu hunain yn Gymry, a'u gwlad yn Gymru: ond gelwir hwy ar yr enwau hyn o'r dechreu yn w llyfr hwn, er mwyn eglurder.

Yn yr ail bennod desgrifir y bobl y ffurfiwyd y genedl Gymreig o honynt. Yr Iberiaid ddaeth i ddechreu, yna'r Gwyddyl Celtaidd, yna'r Brythoniaid Celtaidd - hwy yw corff mawr y genedl. Yna daeth Rhufeinwyr, Eingl, Saeson, cenhedloedd duon, Normaniaid, ac y mae dyfodiaid yn dod o hyd.

Yn y drydedd bennod desgrifir y Rhufeiniaid roddodd atalfa am ennyd ar grwydriadau'r cenhedloedd tua'r gorllewin. Gwnaethant Brydain hefyd yn rhan o'u hymerodraeth, gorchfygasant lwythau rhyfelgar Cymru, newidiasant lawer agwedd ar eu bywyd, a gadawsant ar eu holau deimlad fod yr ynys yn un, a fod pawb i ufuddhau i un brenin. Erbyn eu hymadawiad hwy, yr oedd mwyafrif y Cymry'n Gristionogion hefyd.

Yn y bedwaredd bennod adroddir hanes y cenhedloedd Teutonaidd barbaraidd yn torri trwy'r caerau oedd ar draeth dwyreiniol Lloegr, yn ennill gwastadedd Lloegr, ac yna yn cau am fynyddoedd Cymru.

Yn y bumed bennod cesglir traddodiadau am yr ymladd rhwng y Cymry a'r barbariaid, traddodiadau sydd wedi ymglymu yn enw Arthur arwr dychymyg Cymru

Yn y chweched bennod ceir hanes Maelgwn Gwynedd a'i deulu. Hwy unodd Gymru gyntaf wedi cwymp y Rhufeiniaid, eu llynges hwy amddiffynnodd ei glannau, saint eu dyddiau hwy orffennodd ennill Cymru i Grist.

Yn y seithfed bennod adroddir hanes brwydr Caer, - y frwydr benderfynodd lle yr oedd terfynau Cymru i fod. Y mae hanes dyddorol i'r hen dref hon, yr olaf o'r dinasoedd mawr Rhufeinig i herio'r barbariaid.

Yn yr wythfed bennod darlunir ymdrech Cadwallon i enill y gogledd yn ol, ac i wneyd y mur yn derfyn gogleddol i Gymru drachefn. O'r diwedd cyll y Cymry unbennaetb yr ynys; ac nid yw brenin Cymru onid un ymysg nifer o frenhinoedd cedyrn o'i mhewn.

Wedi gweled terfynau gweddol eglur rhwng y Cymry a'u cymdogion, gwelwn, yn y nawfed bennod, elyn newydd yn dod o du'r mor,- y cenhedloedd duon. Ymosodid ar Gymru'n awr o'r mor ac o'r tir. Rhodri Mawr oedd prif dywysog y dyddiau hyn; a'i wyr, Howel Dda, gasglodd gyfreithiau ei wlad.

Yn y ddegfed bennod adroddir hanes dau frenin mwyaf Cymru yn y cyfnod hwn, - Llewelyn ab Seisyllt a Gruffydd ab Llywelyn

Yn yr unfed bennod ar ddeg ceir cipolwg ar hen grefyddau Cymru; allor goch y derwydd Iberaidd, yr addoli hynafiaid Celtaidd, yr hen dduwiau.

Yn y bennod olaf amlinellir hanes Cristionogaeth yng Nghymru, - y tyfu, y trefnu, yr ymrannu, y rheoli gan y saint, yr ymdrech yn erbyn Rhufain a Lloegr.

Yna rhoddir trem ar ddadblygiad bywyd Cymru hyd 1063, - ei daearyddiaeth, ei bwystfilod, ei thrigolion, a dull bywyd ei hanes.

CYNHWYSIAD

RHAGYMADRODD

PENNOD I CYMRU Daear Cymru. Mynyddoedd wedi eu hamgylchu gan wastadedd a mor, cadarnle anibyniaeth a chartref ymraniad. Prif deuluoedd y mynyddoedd,-Eryri, y Berwyn, Plumlumon, y Mynydd Du.

PENNOD II Y CENHEDLOEDD CRWYDR

Pobl Cymru, ddaeth yma'n don ar ol ton,

  • I. Iberiaid. Pobl fyrion pryd du o'r de. Eu nodweddion. Hwy yw prif elfen y genedl eto.
  • II. Celtiaid (Brythoniaid a Gwyddyl). Pobl dal bryd goleu, o ganolbarth Ewrob. Eu hiaith hwy yw'r iaith Gymraeg.
  • III. Rhufeiniaid, yn rheolwyr, milwyr, a marsiandwyr.
  • IV. Teutoniaid (Saeson, Eingl, &c.). Llwythau ddaeth o wastadeddau genau'r Rhein o 450 ymlaen.
  • V. Pobl gymysg-
    • (a) Cenhedloedd duon, o benrhynnoedd y gogledd, -1081.
    • (b) Normaniaid, Ffemingiaid, Llydawiaid, &c., 1063—1272.
    • (C) Dyfodiaid ereill,-milwyr, gweithwyr, &c., —hyd heddyw.

PENNOD III Y RHUFEINIAID

Gwaith Rhufain-Atal y crwydro a rhoi trefn undeb ar y byd. Darganfod Prydain gan y Groegwr Pytheas. Ymweliad Cesar, 55 C.C. Tua chan mlynedd wedyn, yn 43, y mae'r Rhufeiniaid yn penderfynu gwneyd Prydain yn rhan o'u hym- herodraeth.

43-78. Y goncwest. Aulus Plautius, Ostorius Scapula, a'i frwydr fawr a Charadog ; Aulus Didius a Veranius a'r Silur- iaid ; Suetonins Paulinus yn difodi cartref derwyddon yn ynys Mon, ac yn llethu gwrthryfel Buddug: Julius Frontinus yn gorchfygu'r Siluriaid.

78—120. Y Rhufeneiddio. Daeth Agricola yn 78, i orffen gorchfygu ac i reoli'r wlad mewn trefn a heddwch. Gwneyd ffyrdd, adeiladu tai a dinasoedd, codi mwn.

120—250. Amddiffyn rhag y gelynion oedd yn torri i'r ymherodraeth. Codi'r muriau. Hadrian a Severus.

250-450. Y gwrthryfela. Arweinwyr uchelgeisiol yn ymgodi'i deyrnasu. Ymadawiad y llengoedd. Y barbariaid yn cau o gwmpas Prydain.

PENNOD IV Y SAESON Prydain wedi ei rhannu yn ddwy gan y Rhufeiniaid,-talaeth wastad y de-ddwyrain a thalaeth fynyddig y gorllewin a'r gogledd. Ymosod ar y ddwy tua 450; y Saeson a'r Eingl yn ymosod ar y traeth, a'r Pictiaid ar y mur.

Darluniad Tacitus o'r Eingl a'r Saeson yn eu cartrefi.

Concwest Prydain. 450-516. Concwest y tu de i'r Tafwys gan y Jutes (Caint), y South Saxons, a'r West Saxons (Gwent). Eu gyrru yn eu holau ym Mrwydr Mynydd Baddon: wedi hyn y mae trymder y rhyfel hyd draeth y dwyrain, o'r Tafwys i'r Forth, hyd 577. Yn 577 ail gychwynnodd y West Saxons dan Ceawlin, ac estynnodd buddugoliaeth Deorham eu terfynau i for yr Hafren. Yn 613 daeth yr Eingl dan Aethel frith o'r gogledd, ac estynnodd buddugoliaeth Caer eu terfynau i'r mor ar draeth Dyffryn Maelor. Erbyn 613 y mae'r barbariaid wedi gorlifo'r gwastadedd ac wedi amgylchu Cymru.

PENNOD V ARTHUR

Y mae'r traddodiadau am yr ymladd rhwng Cymry'r dalaeth orllewinol a'r barbariaid (Pictiaid, Eingl, a Saeson) wedi casglu oddiamgylch Arthur. Pwysigrwydd y mur; unbennaeth yr ynys yn eiddo i'w amddiffynnydd. Yr Angl a'r Sais yn graddol hawlio bod yn breiwalda, dux Britanniarum, neu Wledig.

Y traddodiadau am yr hen dduwiau a'r hen arwyr; Rhonabwy yn eu gweled yn ymdeithio yn ei freuddwyd hyd ddyffryn Hafren; son yng nghaneuon Llyfr Du Caerfyrddia a Llyfr Coch Hergest am y mur ac am feddau'r dewrion.

PENNOD VI MAELGWN GWYNEDD

Gwaith Maelgwn Gwynedd oedd (1) symud cartref y Gwledig oddiwrth fur y Gogledd i Wynedd; (2) gorffen darostwng pob cenedl, yn Wyddyl a dyfodiaid, yng Nghymru; (3) gorffen darostwng derwyddiaeth i Gristionogaeth. Cunedda Wledig a'i achau, rhoddi Rhufeiniaid a hen dduwiau yn hynafiaid iddo. Maelgwn Gwynedd,-darluniad Gildas o hono tua 550. Gwr adawodd ei fynachlog a'i weddi, mewn amseroedd enbyd, i reoli ei wlad a braich gref a gwialen haearn. Maelgwn yn unben,-ei gader edyn. Ei lynges, a'r morladron. Ei deyrnasiad ar dywysogion a saint, a'u grwgnach. Y Cenhadwr Cristionogol yn dilyn ei fyddinoedd a'i longau. Yblander a grym a phechod ei fab Rhun.

PENNOD VII BRWYDR CAER

Prif dywysogion y Cymry, yr Eingl, a'r Saeson, o ymadawiad y Rhufeiniaid hvd 613, blwyddyn brwydr Caer. Pwysigrwydd Caer,—yn uno de a gogledd, dwyrain a gorllewin. Safodd hyd nes yr oedd y dinasoedd Rhufeinig ereill i gyd wedi cwympo. Ymdrech Ceawlin a'r Saeson i'w chyrraedd yn 584. Ymgyrch yr Eingl ac Aethelfrith yn 613. Cyflafan y mynachod, gorchfygu'r fyddin Gymreig, cymeryd y ddinas. Effeithiau brwydr Caer.

PENNOD VIII COLLI'R GOGLEDD

Yr ymdrech rhwng y Cymry a'r Eingl am y gogledd, y mur, a'r unbennaeth. Cadwallon ac Edwin. Buddugoliaeth Cadwallon trwy gyngrhair a Phenda, hen frenin paganaidd Mers. Brwydr Croesoswallt. Cwymp Cadwallon. Marw Cadwaladr. Diffyg undeb a brenhinoedd gweiniaid yng Nghymru; brenhinoedd cedyrn yn Lloegr.

PENNOD IX Y CENHEDLOEDD DDUON

Cartref a chymeriad y cenhedloedd duon. Yn anrheithio Cymru'n druan yn adeg Cynan Tindaethwy, 815—840. Rhodri Mawr yn codi yn eu herbyn ; ac yn llwyddo, er gorfod ffoi un. waith o'u blaenau. Anhawsterau mawrion Rhodri Mawr. Brwydr Dydd Sul, a chwymp Rhodri. Ei feibion a'i wyrion. Hywel Dda a'i gyfraith. Anghyfraith, ac ofn fod diwedd y byd gerllaw.

PENNOD XI DAU FRENIN GALLUOG

Ymrafael ac ymladd ymysg y tywysogion. Llywelyn ab Seisyll yn dechreu rhoi trefn ar Gymru. Brwydr Aber Gwili. Llwyddiant Llywelyn. Trallodion newydd gyda'i farw; ei fab Gruffydd ar ffo. 1038. Gruffydd ab Llywelyn yn dod yn ol. Brwydrau Rhyd y Groes a Phen Cader. Wedi uno Cymru, trodd Gruffydd yn erbyn Lloegr. Yn ymuno ag Aelfgar, iarll y Mers. Brwydr Henffordd. Yn 1062 dechreua'r ymdrech rhwng Gruffydd a Harold, iarll Wessex. Dau gynllun Harold. Bradychu Gruffydd, 1063.

PENNOD XI YR HEN GREFYDD Darluniadau Iwl Cesar. Y derwyddon, eu lle a'u gwaith, a'u breintiau, yr archdderwydd. Trawsfudiad eneidiau. Pobl grefyddol. Yr aberthau, adeg byw ac adeg marw. Olion yr hen aberthu.

Ai peth Iberaidd oedd derwyddiaeth? Y gromlech. Y bedd a'r ty. Da a drwg derwyddiaeth.

Yr hen dduwiau,-Lludd Llaw Arian, Myrdain, Llyr, Elen Luyddawg; Mâth, Gwydion ab Don, Ceridwen, Dwynwen, &c.; Ellyll, Naf, Angeu, Tegid, &c.

Cartrefi'r hen grefydd, -Yr Allor Goch, Gorsedd Arberth, Cader Idris, Ffynnon Gybi, Ffynnon Gwenffrewi.

PENNOD XII Y GREFYDD NEWYDD

Dechreu hanes eglwys y Cymry. Cyfnod y tyfu, 200-300, yng ngoleu tanau'r erlid. Cyfnod y trefnu, 300—400 ; esgobion Prydeinig yng Nghynghorau Arles a Nicea; tystiolaeth y Tadau; Padrig. Cyfnod yr heresiau, 400—500; Pelagius ac Awstin; brwydr Haleliwia; llif y barbariaid yn gwahanu Eglwys y Cyfandir ac Eglwys yr Ynys. Cyfnod y Saint, 500—500; Dyfrig, Deiniol, Cyndeyrn, Cybi, Teilo, &c.; y deyrnas a'r esgobaeth.

Eglwys y Cymry ac Eglwys y Saeson wyneb yo wyneb; Awstin Fynach, Gregori, Derwen Awstin.

TREM YN ÔL .

Mynyddoedd yn aros; y coed a'r llysiau newydd. Yr arth, y blaidd, yr afanc, yr eryr; yr anifeiliaid dor; traddodiad am foch a gwenyn.

Tonnau o genhedloedd yn troi'n haenau cymdeithas ; gwaed cymysg Iaith ac enw. Y taeog a'r teuluog. Cyfraith a llys- enwau. Ty a theulu.

NODION.-Hen raniadau Cymru, 14; Ffynhonellau hanes,

22, 38, 85; y goncwest Seisnig, 41, 46; 125, 6.

AMSEROEDD

  • Dyfodiad yr Iberiaid.
  • Dyfodiad y Gwyddyl | Celtiaid
  • Dyfodiad y Brythoniaid.
  • 43—450 Dyfodiad y Rhufeiniaid.
  • 450—600 Dyfodiad yr Eingl, Saeson, &c.
  • 800—1000 Dyfodiad y Cenhedloedd Duon.
  • 1000— Dechreu dyfodiad y Normaniaid.
  • C.C. 330 Pytheas yn darganfod Prydain.
  • 55 Iwl Cesar yn gorchfygu Caswallon.
  • Geni Crist.
  • 50 Orosius yn gorchfygu Caradog a'r Siluriaid.
  • 55 Nero'n anfon Suetonius, yntau'n anfon y llengoedd i ynys Mon.
  • 78 Agricola’n gorchfygu'r Ordovices, ac yn rheoli Cymru.
  • 80—450 Cymru'n rhan o dalaeth Rufeinig gorllewin Prydain.
  • 200— 450 Cenhedloedd y gogledd yn ymosod ar ymherodraeth Rhufain. Y Pictiaid, Eingl, Saeson, &c., yn ymosod ar draeth Prydain.
  • 200 Cristionogaeth ym Mhrydain.
  • 288 Carausius yn cyhoeddi anibyniaeth. Coroni Cystenyn Fawr ym Mhrydain.
  • 400 Pererinion Prydeinig yng Nghaersalem.
  • 450 Ymadawiad y llengoedd Rhufeinig.
  • 450–516 Y Saeson yn meddiannu deheudir Lloegr.
  • 516 Brwydr Mynydd Baddon. Geni Gildas.
  • 5164-613 Yr Eingl yn meddiannu gogledd Lloegr.
  • 550 Maelgwn Gwynedd yn uno Cymru.
  • 577 Brwydr Deorham.
  • 534 Brwydr Fethanlea.
  • 613 Brwydr Caer.
  • 633 Brwydr Heathfield. Cadwallon yn gorchfygu Edwin.
  • 635 Cadwallon yn cwympo, ym mrwydr Heavenfield, wrth y mur.
  • 642 Brwydr Maserfield.
  • 655 Brwydr Winwaedfield.
  • 664 Marw Cadwaladr.
  • 686 Brwydi Dun Nechtain; gorchfygu'r Eingl.
  • 755 Marw Rhodri Molwynog. Offa ym Mercia.
  • 815 Marw Cynan Tindaethwy.
  • 840 Marw Merfyn Frych, Rhodri Mawr yn teyrnasu.
  • 877 Rhodri ar ffo.
  • 878 Brwydr Dydd Sul.
  • S80 Brwydr Aber Conwy—dial Rhodri.
  • 908 Marw Cadell.
  • 915 Marw Anarawd.
  • 950 Marw Hywel Dda.
  • 999 Ofn fod diwedd y byd yn ymyl.
  • 1010 Llywelyn ab Seisyllt yn frenin Cymru.
  • 1027 Marw Llywelyn ab Seisyllt.
  • 1038 Gruffydd ab Llywelyn yn frenin Cymru.
  • 1039 Brwydr Rhyd y Groes.
  • 1041 Brwydr Pen Cader.
  • 1044 Brwydr Aber Tywi.
  • 1054 Gruffydd yn ymdeithio i Loegr.
  • 1058 Yn adfer Aelfgar i iarllaeth Mercia.
  • 1062 Yr ymdrech rhwng Gruffydd a Harold.
  • 1063 Bradychu Gruffydd ab Llywelyn.

RHAI O BRIF DDIGWYDDIADAU'Y. BYD HYD 1063

  • 9 Gorchfygu'r Rhufeiniaid gan y barbariad Arminius.
  • 333 Yr ymherawdwr Cystenyn yn marw'n Gristion.
  • 525– 565 Buddugoliaethau a chyfreithiau Justinian.
  • 622 Mahomet yn dianc o Mecca i Medina.
  • 732 Gorchfygu'r Mahometaniaid ym mrwydr Tours.
  • 800 Siarl Fawr yn ymherawdwr y byd.
  • 1000 Anrhefn, ac ofn fod diwedd y byd yn ymyl. Cynnwrf ymysg y cenhedloedd. Gobaith, a dechreu llawer newydd

ERYRI

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD I - CYMRU

"Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, a hyfrydwch y nefoedd, a gwlith, ac a dyfnder yn gorwedd isod; Hefyd a hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac a hyfrydwch addfed-ffrwyth y lleuadau; Ac a hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac a hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb; Ac a hyfryd wch y ddaear ac a'i chyflawnder; ac ag ewyllys da preswylydd y berth."

O'r môr a'r gwastadeddau sy'n eu hamgylchu, gellir gweled mil mynyddoedd Cymru'n ymgodi tua'r nef. I estron, y mae golwg ryfedd a gwyllt a dieithr arnynt: i Gymro crwydredig y mae pob peth ond hwy'n ddieithr - ar wastadeddau pellaf y ddaear Lloegr hwy, mewn dychymyg a hiraeth, yn ei groesawu'n ôl. Os mynnir deall hanes Cymru, ac os mynnir adnabod enaid y Cymro, rhaid dechrau gyda'r mynyddoedd. Hwy fedr esbonio datblygiad hanes Cymru, - dangos paham y mae'n wlad ar wahân, pam mae'n rhanedig, ac eto'n un. Hwy fedr esbonio cymeriad amlochrog y Cymro,- eu haruthredd gwyllt hwy a thawelwch eu cadernid hwy sydd wedi ymddelwi yn ei enaid, enaid mor lawn o rinweddau ac mor lawn o ddiffygion.

Wrth edrych ar fap o Brydain, gwelwn ei bod yn ymrannu'n ddwyrain ac yn orllewin. Ar hyd ei thraethell orllewinol ymestyn rhes hir o fynyddoedd uchel, gan edrych, dros fryniau'r Iwerddon, tua'r môr mawr agored, a'r dyfodol. Ond gwastadedd ydyw'r rhan ddwyreiniol, yn edrych yn ôl, dros gulfor, tua'r hen fyd. Mewn rhyw dri lle neu bedwar, y mae toriad yn y rhes o fynyddoedd, ac ymestyn y gwastadedd, trwy'r agoriadau hyn, i fin môr y gorllewin. Rhennir y mynydd-dir, felly, yn wahanol wledydd, - Cernyw, Cymru, Ystrad Clwyd, a'r Alban, - gyda llinell droeog glan y môr yn derfyn ar ochr y gorllewin, a chyda gwastadeddau [w:Lloegr|Lloegr]] ar ochr y dwyrain.

Ymestyn Cymru allan i'r môr, a golchir godrau ei mynyddoedd ganddo ar dri thu, - y gogledd, y gorllewin, a'r de. I'r dwyrain gorwedd gwastadedd Lloegr, yr hwn dery fôr y gorllewin wrth enau'r Ddyfrdwy, gan wahanu Cymru oddi wrth Ystrad Clwyd, ac wrth enau'r Hafren, gan wahanu Cymru oddi wrth Gernyw. Gwelir ar unwaith fod natur wedi gwahanu Cymru oddi wrth rannau eraill Prydain, a fod iddi ei hanes priodol ei hun. Ymgyfyd ei mynyddoedd mewn annibyniaeth naturiol uwchlaw'r gwastadedd, yn bod, bydd gwahaniaeth hanfodol rhwng Cymry'r bryniau a Saeson y gwastadeddau; er y gallant ymuno at lawer amcan, at lawer amcan arall rhaid iddynt fod byth ar wahân. Y mae gwir yng ngeiriau'r bardd ddarluniodd y mynyddoedd,

"Dyma gastell gododd Duw,
Ar eira ar ei ben,
I anibyniaeth Cymru fyw,
Ar frig Eryri wen."

Os ydyw ei mynyddoedd yn gwahanu Cymru oddi wrth bobman arall, y maent yn ei rhannu hefyd - heblaw ysbryd annibyniaeth cawn ynddi ysbryd ymbleidio ac ymsectu. Pe buasai natur wedi gwastadau pennau'r mynyddoedd a llenwi'r dyffrynnoedd dyfnion sy'n eu rhannu, gan wneud y wlad yn wastad yn ogystal ag yn uchel, buasai Cymru'n unol yn ogystal ag yn annibynnol. Ond ymsaetha'r mynyddoedd i fyny, mewn afreoleidd-dra rhamantus, a rhennir y wlad gan afonydd sy'n gwneud eu dyffrynnoedd yn ddyfnach bob dydd.

Trwy ganol Cymru rhed trum ardderchog o fynyddoedd o ogledd i dde, o fôr i fôr. Y mynyddoedd hyn a'u llethrau ydyw Cymru. Nid oes ond ychydig o'r wlad, - rhannau o Fôn, Dyffryn Clwyd, Dyffryn Maelor, a thraeth y de, yn llai na dau gant o droedfeddi o uchder,- rhyw gylch bychan o amgylch y wlad. Y tu mewn i'r cylch hwn ceir cylch mwy, o dir dan bum cant o droedfeddi. Ond ymgyfyd canolbarth y wlad, y rhan fwyaf o lawer o honni, i uchder sydd rhwng pum cant a dwy fil o droedfeddi ac ymsaetha rhai pigau yn uwch na hyn, cyrhaedda mynyddoedd Eryri'n uwch na thair mil a hanner o droedfeddi. Cyrhaedda'r mynyddoedd yn uwch na llinell y ddwy fil mewn pedwar lle - a gellir edrych ar bedwar mynydd uchel fel pedwar penteulu, gyda thylwyth lluosog o'u hamgylch. Y cewri mud hyn, - rhyfelwyr o lech a charreg galch, gyda chrib o wenithfaen ar eu helmau, - wnaeth hanes Cymru y peth ydyw, ac nid oes frenin eto wedi medru dileu eu dylanwad ar hanes a chymeriad eu preswylwyr.

Yn y gogledd ymgyfyd yr Wyddfa a theulu Eryri. Uchel ac ysgythrog ydyw y rhain, rhes gribog yn ymestyn o ddyffryn Conwy i eithaf penrhyn Llŷn. Wrth eu traed gorwedd Môn yn dawel yn y môr. Cymdogaeth agosaf Eryri ydyw mynyddoedd Berwyn, teulu lluosocach a manach, a'r Aran yn ymgodi mewn prydferthwch o'u canol. Yr un defnydd sydd i'r rhain, - llech a chrib o wenithfaen, - ond gyda charreg galch yn ymyl wen i odrau eu gwisg. Nid ydynt yn sefyll mor agos at eu gilydd a mynyddoedd Eryri, ac nid ydyw'r wisg sydd dan eu hamwisg wen yn unlliw, - y mae mynyddoedd llech Meirion yn laslwyd, bryniau calch Dinbych yn wynion, ac is-fryniau glo Fflint yn dduon. Mynyddoedd Eryri a llethrau gorllewinol y Berwyn ydyw gwlad Gwynedd; llethrau dwyreiniol y Berwyn ydyw gogledd gwlad Powys.


Yn nes i'r de gorwedd Plunlumon a'i blant, mewn hanner cylch yn edrych tua'r môr, gyda Cheredigion yn ei fynwes, a Phowys wrth ei gefn. Wrth ei droed y mae gwlad Dyfed yn ymestyn i'r môr, gyda phigau gwenithfaen yn ymgodi o fryniau ei gogledd, a chestyll yn gwylio dyffrynnoedd hafaidd tlysion y de.


Os edrychir i'r de-ddwyrain o drumau Plunlumon gwelir y Mynydd Du a'i dylwythau, - yn llawn o gyfoeth dihysbydd, - a gwastadedd bras rhwng eu godrau a môr y de. O gymoedd eu dwyrain rhed yr Wysg a'r Wy, - yn loyw fel arian cyn gadael y mynyddoedd, - i ymdroelli'n ddioglyd trwy ddaear goch Gwent tua genau'r Hafren a'r môr. Rhwng Gwent a Dyfed y mae bro a bryniau Morgannwg gwlad y cyfoeth a'r lluoedd; gwlad "yn llwynaidd gan berllanau, a gwlad yr haearn a'r glo: gwlad y maendai lle mae mwynder," a gwlad pebyll Cedar.

Fel eu gwlad a glannau eu moroedd, felly hefyd y mae'r Cymry. Gwyllt ydyw'r wlad, amrywiol, a rhyfedd; troellog ydyw ei ffyrdd, ac ni wel neb a'u tramwyo fawr ymlaen. Y mae Lloegr yn wastad, ei ffyrdd yn union, Lloegr y teithiwr o ben y daith faint sydd ganddo i'w gerdded, a faint fydd ei ludded. Felly am drigolion y wlad, - gŵr rheolaidd a phwyllog ydyw'r Sais, gŵr y gellir dibynnu arno, gŵr wel lwybr dyletswydd ei fywyd yn glir o'i flaen, gŵr heb bryder nac ansicrwydd meddwl nac ofn nac anwadalwch. Ond am y Cymro, y mae ei feddwl ef yn rhamantus ac athrylithgar, a gobaith yn gryfach na ffydd; ni wel ymhell ymlaen, y mae ei holl fryd ar y llecyn y digwydd fod ynddo: y mae ei lwybr heibio cornel y mynydd, ni wel beth sydd o'i flaen, nid yw dyfalbarhad dyn y llwybrau sythion yn perthyn iddo, ac nid oes sicrwydd beth a wna pan fo'r mynydd rhyngoch ag ef. Plentyn y mynyddoedd ydyw,-yn addaw i Dduw ar lawer awr o frwdfrydedd fwy nag y medrai bywyd o ddyfalbarhad ei gyflawni. Cryfder dychymyg a dyhead am fywyd gwell, a phruddglwyf wrth weled mor anodd ydyw sylweddoli pan fo'r brwdfrydedd wedi oeri, - dyna brif nodweddion y Cymro. Rhoddwyd swm ei gymeriad, hawster dychmygu ac anhawster cyflawni, mewn geiriau sydd erbyn hyn yn ddihareb,-

Hawdd yw dwedyd, Dacw'r Wyddfa;
Nid eir drosti ond yn ara,

Yr ymdrech gyntaf yn hanes Cymru yw'r ymdrech i gadw yr holl fynyddoedd dan eu teyrn. Dyna oedd amcan llawer un galluog o Arthur ddychymyg hyd Gadwallon hanes. Ond y mae toriad yn y mynyddoedd, ymestyn Dyffryn Maelor rhwng y Berwyn a mynyddoedd Teyrnllwg ac Ystrad Clwyd, ac nid oedd Caer yn ddigon cadarn i rwystro'r gelyn dorri hen Gymru'n ddwy.

Wedi hynny bu'r mynyddoedd yn ymladd gyda'r tywysogion Cymreig yn erbyn brenhinoedd Lloegr. Ac er i Gymru ddod yn rhan o deyrnas brenhinoedd Lloegr, cadwodd y mynyddoedd hi'n wlad ar wahân. Y mae'r mynyddoedd yn sicrhau y bydd y Cymry'n bobl neilltuol, bydd yr Wyddfa yn y môr cyn y collant nodweddion eu hanes a'u meddwl.

Rhoddodd y mynyddoedd i Gymru undeb ac annibyniaeth; undeb trwy wneud gwahaniaeth rhyngddi a Lloegr, annibyniaeth trwy ei rhannu'n gantrefi ac yn gymydau. A dyna ydyw hanes hapus gwlad fynyddig fo dan wenau Rhagluniaeth, - undeb ac annibyniaeth yn graddol gryfhau eu gilydd, cyfraith a rhyddid yn dod yr un peth.

Nodyn I golygu

Rhennid tir Cymru yn dywysogaethau, cantrefi, cymydau. Yr oedd terfynau'r tywysogaethau'n newid o hyd. Y pedair gadarnaf oedd Gwynedd, Powys, Deheubarth, a Morgannwg, - yn ateb i ryw fesur i bedair esgobaeth y wlad.

GWYNEDD. Yr oedd Môn yn dair cantref, dau gwmwd ymhob un. Ar ei chyfer yr oedd cantrefi Arllechwedd ac Arfon. Ar lethrau deheuol Eryri yr oedd cantrefi Llŷn, Eifionydd, ac Ardudwy. O amgylch Gwynedd yr oedd cylch o gantrefi fyddai'n aml yn rhan o honni, - Rhos a Rhufoniog, sef ehangder Mynydd Hiraethog, rhwng Conwy a Chlwyd; Tegeingl, y gantref fryniog rhwng Clwyd a Dyfrdwy; Dyffryn Clwyd; Edeyrnion a Phenllyn, cantrefi mynyddig dyffryn uchaf y Ddyfrdwy; Meirionnydd, rhwng Maw a Dyfi. Weithiau byddai Mawddwy a Chyfeiliog, holl lethrau dyffryn Dyfi, dan dywysog Gwynedd hefyd.

POWYS, gwlad y Berwyn, cantrefi a chymydau Dyfrdwy a Hafren. Dyffrynnoedd y Ddyfrdwy sy'n agor i Loegr yw Powys Fadog, - Ial, Ystrad Alun, Maelor, y Waen, Croesoswallt, Dyffryn Ceiriog. Dyffrynnoedd Hafren yw Powys Wenwynwyn,—Llannerch Hudol, Ystrad Marchell, Mechain, Caereinion, Cedewain, Arwystli.

Rhwng y rhain a'r De, y mae cymydau Ceredigion o du'r môr i Blunlumon; a Maelenydd, Elfael, Buallt, a Brycheiniog yr ochr arall,—cymoedd Gwy a'r Wysg. Byddai'r tywysogaethau bychain hyn yn newid dwylaw'n aml, weithiau dan Wynedd, dro arall dan Bowys, yna dan arglwyddi'r goror, a phob amser yn llawn ysbryd annibyniaeth.

MORGANNWG a Gwent,—dau gwmwd ar hugain hyfryd,—sydd ar lethrau a bro y De o Wy i Nedd. I'r gorllewin y mae tair cantref mawrion Ystrad Tywi, rhan arhosol y DEHEUBARTH o Nedd i Deifi. Rhwng hon a'r môr y mae ugain cwmwd Dyfed, bryniau a gwastadeddau y de-orllewin.

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD II - Y CENHEDLOEDD CRWYDR

Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwliog, fel y wawr wedi ymwasgaru a'r y mynyddoedd; pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith a'r eu hol hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth.

Y CYNTAF, hwyrach, i ymgartrefu yn y mynyddoedd oedd yr Iberiad. Un byr ac egwan oedd ef; yr oedd ei bryd yn dywyll. a'i wallt a'i lygaid yn ddu; ei ben yn hir a'r ei gorff byr; ei dalcen yn gul, a'i ên yn hir. Er eiddiled oedd, yr oedd bywyd rhyfedd ynddo; ac yr oedd eiddilwch ei gorff yn gwneud ei enaid yn effro, ac yn fyw i weled ac i glywed ac i deimlo pob peth oddi allan. Yr oedd sŵn y môr a su gwynt y mynydd yn ei glustiau o hyd, ymhyfrydai mewn prydferthwch lliw a melusder sŵn. Ogof y mynydd oedd ei gartref, a'i fedd. Yn ddiweddarach yn ei hanes, gwnai dŭ hir a bedd hir a'r lun ogof, - mynedfa hir gul ac ystafell yn ei phen draw. Cerrig nadd oedd ganddo'n offer rhyfel a heddwch; ni wyddai pa fodd i weithio pres neu haearn, ac afluniaidd iawn oedd ei ychydig lestri pridd.

Bu Prydain i gyd yn eiddo'r Iberiad hwn. O'r de ddwyrain y daeth. Pe dilynem ei lwybr, a phe crwydrem trwy'r gwledydd fu unwaith yn gartref iddo, aem trwy Ffrainc a Spaen, ac a'r hyd traeth Môr y Canoldir, ochr Ewrob neu ochr Affrig, tua'r Aifft ac Arabia.

Er ei orchfygu ymhob gwlad yr ymgartrefodd ynddi, y mae wedi gor-fyw llawer cenedl o orchfygwyr. Efe yw Siluriad Gwent a Morgannwg, - gellir ei weled a'r nos Sadwrn yng Nghaer Dydd neu Gasnewydd, gwelir ef yn mwynhau ac yn beirniadu canu'r Eisteddfod, ac nid anaml y cyfarfyddir ef yn nrysau Coleg yr Iesu. Trwy Gymru i gyd, yn enwedig yng Ngwent, ym Morgannwg, ac yng Ngwynedd, y mae ef wedi aros, - rhoddodd ei bryd a'i athrylith i'w orchfygwyr. Ond collodd ei iaith, ac nid oes yn aros o honni erbyn hyn ond ambell enw lle.

Iaith y Celt ydyw iaith Cymru Gymreig heddyw. A'r ôl yr Iberiad y daeth ef, gan wneud i hwn ymostwng iddo, neu gilio tua'r gorllewin o'i flaen. Hwyrach mai atgofion am yr ymdrech rhwng yr Iberiaid a'r Celtiaid ydyw rhai o'r ystraeon adroddir o oes i oes wrth blant am y tylwyth teg. Adroddir am wŷr bychain yn canu rhyw hen alaw felys, ac yna'n diflannu i ogof yn y ddaear, - efallai mai'r Iberiad yn dianc o flaen y Celt oedd hwn, yn amser y rhyfel rhyngddynt.

Yr oedd y Celt yn dal, yn ŵr o gryfder corfforol mawr, gyda phen crwn, llygaid gleision, a gwallt coch neu grasgoch. Pan ddaeth i Brydain yr oedd wedi dysgu adeiladu caban crwn uwchlaw pantle yn y ddaear; yr oedd wedi dofi'r ci a'r ych a'r afr; ac yr oedd ganddo offer pres, yn lle offer Carreg ac asgwrn yr Iberiad, yn fuan wedi iddo ymgartrefi yma. Y mae ei fedd fel ei fwthyn, yn grwn; ac nid yn hir fel bedd ac ogof yr Iberiad.

O'r iseldiroedd ddyfrheir gan y Rhein a'r Scheldt y daeth y Celt i Brydain. Pe olrheiniem ei lwybr ef, a phe crwydrem drwy'r gwledydd fu'n gartref iddo, aem a'r hyd y Rhein, ac a'r hyd y Danube wedi hynny, ac o'i dyffryn hi ymlaen i ganolbarth Asia. Yr oedd llwybr y Celt yn gyfochrog, felly, â llwybr yr Iberiad, - y naill yn dod drwy ganolbarth Ewrob, a'r llall a'r hyd ei godrau. Ym Mhrydain ymgyfarfyddodd y ddau bobl, a thrigasant ynghyd o fewn yr un ynys.

Daeth y llanw Celtaidd dros yr ynys a'r ddwywaith, yn ôl pob tebyg. Daeth y Gwyddel i ddechreu, a'r Brython a'r ei ôl. Bu ymdrech rhwng y Gwyddel a'r Iberiad am y mynyddoedd i ddechrau, ac yna rhwng y ddau â'r Brython oedd yn eu dilyn. Cyrhaeddodd yr Iberiad draeth eithaf yr Iwerddon; cyrhaeddodd y Gwyddel ymhell i'r ynys honno; cyrhaeddodd y Brython draeth gorllewin Prydain, rhwng afon Mawddach a'r afon Wyre, ond ni chroesodd y môr i'r Iwerddon.

Gwelir, felly, mai ymsymud tua'r gorllewin yr oedd y cenhedloedd hyn. Ac nid hwy oedd y cenhedloedd olaf; cawn weled y Sais a'r Norman, - dau dylwyth yn perthyn i'w gilydd fel y perthynai'r Gwyddel a'r Brython i'w gilydd, - yn dod â'r eu holau. Pan ddarlunnir Prydain i ni gan y Rhufeiniaid, y mae'n debyg fod yr Iwerddon a'r rhan fwyaf o fynyddoedd gorllewin Prydain yn eiddo'r Gwyddyl, ac yr oeddynt yn prysur ymgymysgu â'r Iberiaid oeddynt wedi gorchfygu. Dros yr holl wastadeddau yr oedd y Brythoniaid wedi ymledaenu, gan ymgymysgu â'r Gwyddyl a'r Iberiaid orchfygasent hwythau.

Pwy oedd yng Nghymru pan anwyd Crist? Yr oedd yma Iberiaid, Gwyddyl, a Brythoniaid. Yr oedd yr Iberiaid a'r Celtiaid wedi ymgymysgu dros y wlad. Rhennid y wlad rhwng y ddau dylwyth Celtaidd, - rhwng y Gwyddyl a'r Brythoniaid. Gwlad y Gwyddyl oedd Gwent, Morgannwg, Dyfed, a Gwynedd. Ac yr oedd y Gwyddyl yn dri llwyth, - y Demetæ yn Nyfed; y Silures yng Ngwent a Morgannwg; a llwyth Gwynedd, y tu hwnt i'r Ddyfrdwy a'r Mawddach. O'r Brythoniaid nid oedd ond un llwyth wedi cyrraedd Cymru, - yr Ordovices: a chanolbarth Cymru, mynyddoedd y Berwyn a'r Aran a Phlunlumon, oedd eiddo hwn.

Gwelir felly fod y Gwyddyl wedi ymdaenu dros ein holl wlad, ac wedi ymgymysgu â'r Iberiaid bychan pryd du. A gwelir fod yr Ordovices Brythonig wedi ymwthio drwy ganol y llwythau Gwyddelig hyd nes y cyrhaeddasant y môr, gan rannu Cymru Wyddelig yn ddwy.

Tywyll iawn, hyd yn hyn, ydyw'r hanes am yr ymdrech rhwng y Gwyddel a'r Brython. Y mae eu caerau eto'n aros hyd aeliau ein bryniau, ond mud ydynt,—nid oes neb wedi eu dysgu i ddweud eu hanes. Hwyrach mai trwy ganolbarth Cymru yr oedd yr Iberiad a'r Gwyddel wedi mynd i'r Iwerddon, ac mai mynd i'r gorllewin a'r eu holau yr oedd y Brython. Hwyrach fod y Brython hefyd wedi ymledaenu dros Gymru i gyd; ac mai dod o'r Iwerddon yn eu holau, oherwydd diffyg lle ac amlder gelynion yno, ddarfu'r tylwythau welodd y Rhufeiniaid yng Ngwynedd ac yn y Deheubarth. Hwyrach fod y llwythau hyn hefyd wedi mynd i'r Iwerddon hyd y llwybr Brythonig trwy ganol Cymru, wedi ymrannu yn ddau dylwyth yn y wlad honno,—y naill yn troi tua'r gogledd a'r llall tua'r de,—ac yna wedi troi'n ôl i Gymru.

Beth bynnag am y dull y daeth, y mae'n amlwg fod y Celt wedi dod, ac wedi gorchfygu'r Iberiad oedd yma o'i flaen; ac y mae'n eglur fod y Celt a'r Iberiad wedi mynd yn un genedl. Y mae'n hawdd esbonio pam y gorchfygodd y Celt hefyd,—yr oedd yn gryfach. Yr oedd ganddo hefyd, yn ôl pob tebyg, arfau pres; ac nid peth hawdd oedd i ddyn bychan heb ddim ond carreg yn ei law wrthsefyll dyn mawr yn meddu tarian a phicell o bres.

O'r ddau yma,—y Dafydd a'r Goliath,—y mae'r Cymro wedi dod. Y mae wedi etifeddu athrylith freuddwydiol y naill ac ynni y llall; cafodd delyn Dafydd a tharian Goliath. Y mae llawer o'r Iberiad eto yn ei natur, a llawer mwy nag sydd o'r Celt. Yr Iberiad roddodd iddo ei naws grefyddol, ei gariad at gerdd, a'i athrylith droeog wyllt. Ni synnwn i pe profid mai o anialwch diderfyn y dwyrain y daeth. Fel cragen yn cario sur môr gyda hi i bob man, y mae'r Cymro wedi cadw syniadau'r anialwch drwy ei holl grwydradau a'i hanes, - hiraeth am dragwyddoldeb, ymdeimlad parhaus o bresenoldeb Duw, gallu i greu drychfeddyliau, - gallu i ymhyfrydu mewn unigedd a distawrwydd, - y mae adlais o'r anialwch mawr pruddglwyfus yn ei gân, y mae ysbryd mawredd yr anialwch ym mhob meddwl o'i eiddo. Ac y mae presenoldeb y mynyddoedd yn cadw'r hen argraffiadau hyn yn fyw. Damcaniaeth efrydwyr penglog ac iaith ydyw dweud, mai o'r dwyrain ac o'r anialwch y daeth yr Iberiad; ond pan gofir mor gyfaddas i feddwl Cymro ydyw'r Hen Destament, nid ydyw'n anodd credu mai brodyr o'r anialwch ydyw'r Cymro a'r Hebrewr.

Os mai oddi wrth yr Iberiad y cafodd y Cymro ei allu i ddychmygu a breuddwydio a rhyfeddu, oddi wrth y Celt y cafodd hynny o allu sydd ganddo i drefnu ac i lywodraethu. Ei natur Iberaidd wna iddo weled byd arall, ei natur Geltaidd wna iddo geisio trin y byd hwn. Gŵr rhyfel oedd y Celt; sefydlodd ymherodraethau, a thaflodd ymherodraethau i lawr. Yr oedd yn perthyn yn agos i'r Rhufeiniwr, a'r un oedd ei athrylith, - athrylith at uno a threfnu a llywodraethu. Efe roddodd ei ysbryd i Hanes Cymru; ond yr Iberiad roddodd ei ysbryd i Lenyddiaeth Cymru.

Nid ydyw'r ymdrech rhwng yr Iberiad a'r Celt wedi darfod eto. Yng nghyfnod cryfder ei athrylith y mae Shakespeare yn gwneud i ysbrydion ei arwyr ymladd y frwydr drosodd drachefn. Ac yn hanes Cymru, dan bob ymdrech arall, y mae ysbryd yr Iberiad yn ymdrechu yn erbyn ysbryd y Celt. Y mae pob diwygiad crefyddol yn fuddugoliaeth i'r Iberiad; y mae darganfod gwaith glo neu waith aur newydd yn fuddugoliaeth i'r Celt. Mewn pob cân newydd y mae llais yr Iberiad; yn hanes hela a chware pêl droed clywir llais y Celt. Y cymorth cryfaf gafodd yr Iberiad ydyw'r Beibl; y cymorth cryfaf gafodd y Celt ydyw'r Sais.

Fel rheol, y cyntaf i wladychu mewn gwlad fydd byw hwyaf ynddi. Nid ydyw dyfodiaid yn medru ymgynefino cystal â natur y wlad, oherwydd hynny y maent yn gwanhau ac yn marw mewn amser. A than bopeth. y peth rhyfeddaf a phwysicaf yn hanes Cymru ydyw adfywiad yr Iberiad. Trwy'r diwygiadau crefyddol y mae wedi ennill Llenyddiaeth Cymru yn eiddo iddo; ac oherwydd estyn yr etholfraint, y mae'r gallu politicaidd yn ei law. Dan ei ddylanwad y mae Cymru'n dod yn fwy llenyddol ac yn fwy gwerinol bob dydd.

Er hyn oll, rhaid cofio mai nid Iberiad pur ydyw'r Cymro. Y mae gwaed y Celt ynddo hefyd. Oni bai am y gwaed hwn, ni fedrasai dim ei gadw rhag gorfreuddwydio; diwinyddiaeth ac athroniaeth a barddoniaeth fuasai ei unig fyfyrdod holl ddyddiau ei fywyd. Ond yn y gwaed Celtaidd sydd ynddo y mae awydd am lywodraethu, am gysuron, ac am feddiannau. Y mae'r gwaed oer hwn yn tymheru ei natur ddychmygol wyllt.

Paham y desgrifir y Cymro mor aml fel Celt, a phaham yr anghofir am ei waed Iberaidd? Y rheswm am hyn ydyw mai iaith Geltaidd ydyw'r Gymraeg. Collodd yr Iberiad ei iaith, a dysgodd iaith ei orchfygwr, ond nid hwyrach heb newid peth a'r yr iaith honno. GalI Cymru golli ei hiaith lawer gwaith eto, ond erys neilltuolion meddwl y bobl o hyd. A newidir pob iaith ddysgant hyd nes y bo'n alluog i osod allan neilltuolion meddwl y bobl hynny. Erys rhyw adlais o iaith goIl yr Iberiad, ac o iaith y Celt, ymhen oesoedd rif y gwlith, ymysg preswylwyr y mynyddoedd hyn. Nid mewn geiriau wyf yn feddwl, ond mewn arddull, - yn null ffurfio brawddeg, yn nhroadau meddwl.

Ai hanes yr Iberiad a'r Celt ydyw hanes Cymru? Na, tra'r oedd y rhain yn ymdrechu neu ymgyfuno yng Nghymru, yr oedd galluoedd eraill yn ymffurfio draw dros y môr, galluoedd fu'n gweithio'n nerthol wedi hynny yn ein hanes ni. O'r rhai hyn, y ddau bwysicaf oedd dinas yn codi mewn cors a haid o farbariaid yn ymwthio drwy goedwigoedd.

Mewn cors afiach a'r lan y Tiber, yng nghanol penrhyn red i Fôr y Canoldir, gwelwyd Rhufain yn cael ei hadeiladu, nid mewn un dydd. Yr oedd ei phreswylwyr yn perthyn o bell i'r Celtiaid oedd wedi crwydro tua'r gorllewin, ac yn debyg iddynt mewn meddwl ac iaith. Y ddinas hon, mewn amser, oedd i uno pob llwyth ac iaith mewn un ymherodraeth; wneud y byd yn ddinas, a dynion yn gyd-ddineswyr. Cawn weled llengoedd Rhufain yn gwneud ffyrdd gysylltai Gymru âr byd oddi allan. a'r amaethwr a'r gwladweinydd yn dod â'r hyd y ffyrdd hyn, a thraed yr hwn gyhoeddai efengyl tangnefedd ar y mynyddoedd.

Tra'r oedd yr Iberiad yn cyrchu tua Phrydain trwy ddeheubarth Ewrob, a'r Celt hyd lwybr cyfochrog trwy'r canolbarth, a thra'r oedd muriau Rhufain yn codi ar lwybr y cenhedloedd crwydr, yr oedd cenedl arall yn paratoi at ymsymud i'r un cyfeiriad hyd lwybr cyfochrog arall, yn y gogledd. Cenedl o bobl dalgryfion, o gorff anferth, oedd y genedl Deutonaidd hon. Yr oedd y Teuton yn gawr o ddyn, yn felynwallt, lygadlas, ac yn hagr iawn. Yr oedd ei ben yn fychan, ei dalcen yn isel, ei drwyn yn hir. a'i lygad yn enfawr. Yr oedd yn ddewr iawn, yn hoff o ryfel a hela, ond araf iawn oedd ei feddwl. Medrai orchfygu mewn brwydr, ond ni fedrai lywodraethu na chadw yr hyn a enillai. Gorchfygodd orllewin Ewrob, a daeth gwastadeddau Prydain a'u trigolion yn eiddo iddo. Erbyn heddyw nis ceir ef ond fel tir feddiannydd y gwahanol wledydd, - ni chymer fawr o ddiddordeb mewn celfyddyd na llenyddiaeth, deil i ymhyfrydu yn hen arferion helwriaethol ei hynafiaid barbaraidd. Y mae eto yn ein plith yng Nghymru; clywir ei helgorn,. a deil i redeg a'r ôl llwynogod a dyfrgwn, a'r ychydig anifeiliaid gwylltion eraill sydd eto heb eu difa yn ein hynys. Dinistrio Rhufain, lladd ac ymladd oedd gwaith ei gyndadau; lladd rhyw fwystfil ydyw ei hoff waith yntau hyd y dydd heddyw. Ni roddodd ddim i lenyddiaeth y byd, ond cryfhaodd ysbryd annibyniaeth a rhyddid, ac y mae rhywbeth iachusol yn ei ddylanwad barbaraidd. Ymysg pa genedl bynnag y mae ef wedi sefydlu, y mae'r genedl honno wedi derbyn y diwygiad Protestannaidd ac wedi taflu ymaith iau offeiriadol Rhufain. Efe drwythodd Gristionogaeth y gorllewin âi natur filwrol, - peth mor anghydnaws â natur yr Iberiad a'r Celt; efe drodd yr eglwys yn eglwys filwriaethol, - peth mor annhebyg i wir eglwys brenin tangnefedd. Yr Iberiad fun ddeiliad y byd, y Celt yn llywodraethwr, a'r Teuton yn wrthryfelwr.

Ymhen amser wedi i'r tri hyn ddod, daeth un arall, - y Norman o'r gogledd. Daeth yn ddinistrydd i ddechrau. Gadawodd greigiau a hafanau Norwy, a daeth i losgi eglwysi, ac i ddymchwelyd teyrnasoedd. Daeth drachefn fel llywodraethwr, wedi ei ddofi a'i ddysgu. Hyd y môr y daeth i Gymru yn ei ddyddiau barbaraidd; o wastadeddau Lloegr y daeth pan wedi ei wareiddio, i godi cestyll a mynachlogydd - mae eu hadfeilion eto ymysg rhyfeddodau ein gwlad.

Ac o'r holl genhedloedd hyn, ddilynodd eu gilydd i'r mynyddoedd, y gwnaed cenedl y Cymry.

NODYN II. golygu

Gellir darllen ychwaneg a'r testun y bennod hon yn y llyfrau a enwir yn y nodyn hwn, ymysg eraill. Yn llyfr diddorol ac eglur Isaac Taylor,—The Origin of the Aryans,—ceir crynhodeb o'r hyn a ddywedir yn y dyddiau hyn am y cenhedloedd crwydr. Ceir manylion gwerthfawr yn Village Communty Gomme hefyd.

Am hanes trigolion ein hynys ni'n dod yma, darllener llyfrau John Rhys, pen Coleg yr Iesu, yn enwedig ei Celtic Britain, ei Celtic Heathendom, a'i Arthur. Gweler ei amrywiol ddarlithiau, yn enwedig y Rhind Lectures.

Os mynnir darllen llyfrau syn taflu goleuni ar fywyd cyntefig cenhedloedd anwaraidd, darllener y traethawd a'r y teulu yn Custom and Myth Andrew Lang,—crynodeb o weithiau cyflawnach Morgan a Maclennan. Y mae erthygl debyg, ond yn dod i well canlyniad, ar Sylfeini Cymdeithas, yn yr ail lyfr o'r Llenor. Am y goleuni deifl hen gyfreithiau, darllener Ancient Law Syr Henry Maine. Y mae pob peth ysgrifenna Professor Tylor yn werth ei astudio hefyd; ac ennyn Grant Allen ein diddordeb bob amser.

Wedi cael peth cyfarwyddyd o lyfrau fel hyn, dechreua'r gwir efrydydd ddarllen yr hen gyfreithiau Cymreig yn fanwl; a dechreua graffu a'r traddodiadau, enwau lleoedd, a hen lysenwau, na feddent ddiddordeb iddo o'r blaen. Lloegr fod olion haenau o genhedloedd yn y cyfreithiau; medr weithio'n ôl oddi wrth wahaniaethau rhwng dosbarthiadau mewn cymdeithas at goncwest ar ôl concwest nad oes ond eu heffeithiau i ddangos eu bod.

Y FENAI AC YNYS MON,—GER PORTHAMEL

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD III.- Y RHUFEINIAID.

Urbem fecisti orbem terrarum.

TRA'R oedd cenedl ar ôl cenedl yn crwydro tua'r gorllewin, i'r ynys oedd y pryd hwnnw a'r ymyl eithaf y byd, yr oedd dinas yn codi a'r lan Môr y Canoldir, dinas oedd i roi terfyn am rai canrifoedd i grwydradau'r cenhedloedd, dinas oedd i estyn ei theyrnwialen dros ynysoedd eithaf y ddaear, dinas oedd i wneud tylwythau gelynol yn gyd-ddinasyddion, dinas oedd i wneud gwledydd y ddaear yn un ymherodraeth. Y mae gwaith Rhufain wedi ei ddarlunio'n gyflawn yn y geiriau ddywedwyd wrthi gan un o'i beirdd,

Yn ddinas ti a wneist y byd i gyd.

Ond, ymhell cyn sylfaenu Rhufain, yr oedd dychmygu wedi bod yn heolydd dinasoedd gorwych, pa ynysoedd orweddai draw y tu hwnt i golofnau Moloch, yn y môr y tybid nad oedd terfyn iddo. Gwelwyd llongau Tyrus yn chwilio holI gilfachau Môr y Canoldir, ac yn meiddio hwylio rhwng y colofnau i'r môr dieithr di-lan. Yr oedd medr morwyr Tyrus yn ddihareb, - dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long lywiawdwyr. Yr oedd llongau Tyrus yn syndod y byd, - eu rhwyfau o dderw a'u meinciau o ifori, lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti, glas a phorffor o ynysoedd Elisah oedd dy do. Ymsefydlodd y Phoeniciaid hyn yma ac acw hyd lannau Môr y Canoldir, - a dwy ferch enwocaf Tyrus a Sidon oedd Carthage a'r dueddau Affrig a Tharsis a'r lan Hispaen. Tarsis oedd y bellaf i'r gorllewin o ferched Tyrus, a daeth mor gyfoethog fel y gofynnodd proffwyd Hebreig am ei llongau,

Pwy yw y rhai hyn ehedant fel cwmwl Ac fel colommenod i'w ffenestri?

I Darsis y doi cyfoeth Prydain a'r gorllewin, - yr arian a'r haearn a'r alcan a'r plwm â'r rhiai y marchnatai ei marsiandwyr yn ffeiriau Tyrus. Ond daeth dydd cwymp Tyrus, y ddinas sylfaenesid a'r y graig, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer. Ymadnewyddodd wedi i Nebuchodonosor ei dinistrio, - dy derfynau oedd yng nghanol y môr, dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch. Ond, yn y flwyddyn 332 cyn Crist, dinistriwyd hi gan Alecsander Fawr a'i Roegwyr, a'r ynysoedd y rhai oedd yn y môr a drallodwyd wrth ei mynediad hi ymaith.

Wedi cwymp Tyrus, ymholodd y Groegiaid o ba le yn y gorllewin y deuai ei gollid. Tua'r adeg yr oedd Alecsander yn gwarchae a'r Dyrus, yr oedd llong Groegwr yn hwylio allan o Fôr y Canoldir, rhwng colofnau Moloch, i chwilio am ynysoedd y gorllewin. A daeth colofnau Moloch, duw Tyrus, yn golofnau Hercules, enw Groeg. Erbyn hyn y mae magnelau Prydain ar graig Gibraltar, yn lle temlau'r hen genhedloedd fu'n anfon morwyr i chwilio am dani.

Pytheas oedd enw'r Groegwr anturiodd allan i fôr y gorllewin. Un o frodorion Marseilles Roegaidd oedd,—efrydydd lledredau, a sêr, a dylanwad y lleuad ar y tonnau. Wedi dod allan i Fôr y Werydd, hwyliodd i'r gogledd, gyda gororau Spaen a Llydaw, ac o'r diwedd cyrhaeddodd Brydain yn gynnar yn yr haf.

Gwelodd drigolion yr ynys yn dyrnu eu gwenith, ac yn gwneud medd o wenith a mêl, ond y mae'n amheus iawn a aeth yn ddigon pell i'r gorllewin i weled ardaloedd yr alcan. O Brydain hwyliodd i'r gogledd, gan gadw gyda thraethell y Cyfandir. Gwelodd Gimbrir Iseldiroedd yn gorfod ffoi yn awr ac eilwaith a'r eu ceffylau cyflymaf i osgoi'r llanw ddoi dros eu gwlad, gwelodd y fforestydd tywyll oedd yn gorchuddio gogledd Ewrob, hwyliodd a'r hyd glannau mynyddig danheddog Norwy tua Phegwn y Gogledd, hyd nes y cafodd ei hun mewn gwlad lle gellid gweled yr haul ganol nos, ac ymysg pobl dangosent iddo y lle'r oedd yr haul yn cysgu. O fôr oer marw'r gogledd trodd Pytheas yn ôl tua Phrydain, ac oddi yno adre, wedi dechrau masnach, feallai, rhwng Marseilles ac ardaloedd alcan Prydain, a rhyngddi ac ardaloedd amber rhuddgoch y Baltic.

Wedi ei farw, ni chredid Pytheas. Tybid mai cread ei ddychymyg ei hun oedd y petha welsai, ac ni roddid gwerth a'r ei ffeithiau ond fel defnyddiau rhamantau. I gyfoedion Pytheas,—megis Plato ac Aristotl,—nid oedd ynysoedd y gorllewin ond enw ar wlad o fwnau heb eu darganfod, rhywbeth fel enw Peru i'r rhai ganasant emynau Pant y Celyn gyntaf.

Collwyd Prydain eilwaith yn niwl a hud dychymyg y Groegiaid.

Wedi cwymp Tyrus, a thra gwywai Groeg, cododd Rhufain. Ei gwaith hi oedd uno gwledydd y ddaear, a gwneud ffyrdd i bob man. Erbyn 275 c.c., yr oedd yr Eidal yn eiddo iddi; erbyn 202 yr oedd wedi gorchfygu Hannibal, ac yn ymbaratoi at ddinistrio Carthage: erbyn 190 yr oedd Macedonia, Groeg, a Syria wedi eu gorchfygu: erbyn 133, yr oedd Spaen wedi ei hennill a Charthage yn lludw: yr oedd holl lannau Môr y Canoldir yn eiddo Rhufain. Yna trodd y ddinas aniwalladwy ei llygaid tua'r dwyrain a thua'r gogledd. Croesodd Iwl Cesar, hoff arweinydd y bobl, yr Alpau, yn y flwyddyn 58 c.c.: a chyn pen y deng mlynedd yr oedd Gallia, yr holl wlad rhwng y Rhein a Môr y Werydd wedi dod yn wlad Rufeinig, - ffyrdd Rhufeinig yn rhedeg drwyddi i'r môr eithaf, a'i thrigolion yn ddeiliaid ffyddlon. Pan oedd Cesar yn gorchfygu trigolion Gallia, gwelodd eu bod yn cael cymorth o ynys Prydain oedd a'r eu gororau. Ac er mwyn cwblhau ei goncwest, penderfynodd ddarostwng yr ynys honno hefyd. Croesodd y culfor, gyda'r ail a'r seithfed leng, yn niwedd Awst 55 c.c. Nid oedd ei fyddin yn ddigon i orchfygu'r wlad, ac yr oedd yn hwyr ar y flwyddyn. Aeth yntau'n ôl, a daeth yn gynharach yn y flwyddyn wedyn, gyda byddin gryfach. Dywed ei hanes ei hun yn gorchfygu Caswallon, tywysog y Brytaniaid, yn cymeryd dinas noddfa ei lwyth, yn derbyn ymostyngiad llwythau dwyrain yr ynys, ac yn troi ei gefn a'r Brydain. Casglodd beth gwybodaeth am ganolbarth a gorllewin yr ynys, - dywed fod eu pobl yn gwisgo crwyn ac yn byw ar gig a llaeth eu praidd, fod yr Iwerddon y tu hwnt i Brydain, ac Ynys Môn rhwng y ddwy.

Am gan mlynedd wedyn ni ddaeth milwyr Rhufeinig i Brydain. Yr oedd y can mlynedd hyn yn gan mlynedd rhyfedd yn hanes y byd. Ynddynt y cyrhaeddodd Rhufain binacl ei gogoniant, ac y dechreuodd wywo. Ynddynt y gwelwyd Iwl Cesar yn gorchfygu cyrrau'r byd, o Balestina i Brydain, ac yn dod yn ymerawdwr mewn popeth ond enw, hyd nes y llofruddiwyd ef gan garedigion yr hen weriniaeth. Ynddynt rhoddwyd enw ymerawdwr, yn gystal â'r gallu, i Augustus. Yn ystod ei ymherodraeth ef y canodd beirdd gorau Rhufain, - daw cyfnod aur llenyddiaeth bob amser yn adeg gorthrwm a llwyddiant, - Virgil a Horas ac Ovid. Yn ystod ei ymherodraeth ef yr oedd hen gredoau'r byd wedi gwanhau, yr oedd yr hen dduwiau wedi mynd mor lluosog fel nad oedd gan un awdurdod ar feddyliau a bywydau dynion. Ac yn nheyrnasiad Augustus, pan oedd wedi anfon gorchymyn allan i drethu yr holl fyd daeth teulu tlawd o Nazareth i Fethlehem Judea, a'r gyrrau eithaf yr ymherodraeth, i'w trethu yn eu dinas eu hun.. A thithau Bethlehem Ephratah, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Judah, eto o honot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel: yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwvddoldeb.

Yr oedd y baban hwnnw aned ym Methlehem yn amser y dreth i newid mwy a'r y byd ac a'r gymeriad dynion nag a wnaeth Rhufain, gyda'i holl gyfoeth a'i hathrylith a'i llengoedd. Ond cyn i'r newydd am yr Iesu ddod â'r hyd yr ymherodraeth i Brydain, yr oedd dyddiau blin a chynhyrfus. a chyfnewidiadau mawrion, i gyfarfod yr ynyswyr. Wedi i Iwl Cesar droi ei gefn, i lywodraethu byd yn lle gorchfygu ynys, yr oedd enw Rhufain, heb long rhyfel na milwr, yn gorchfygu ym Mhrydain. Yr oedd rhyw dywysog beunydd yn apelio at ymerawdwr y byd. Yn Ancyra bell darganfyddwyd carreg yn dweud fod brenhinoedd o Brydain wedi dianc o'u gwlad a dod at Augustus i gwynfan, ac ar gais rhyw ffoadur pendefigaidd y penderfynodd yr ymerawdwr Claudius orchfygu'r ynys.

Erbyn ail ddyfodiad y Rhufeiniaid, yr oedd Rhufain wedi dechrau gwywo, - yr oedd Augustus wedi marw, yr oedd Tiberius wedi ymroddi i ddrygioni gwarthus cyn ei fygu, ac yr oedd Caligula wedi gwallgofi cyn ei lofruddio. Yr oedd calon yr ymherodraeth wedi dechrau pydru, ac yr oedd dirywiad y brifddinas yn dinistrio'r gallu ddaliai'r byd yn un, yn gwanhau nerth y llengoedd oedd yn gorfod cilio'n ôl o gam i gam o flaen cenhedloedd y gogledd. Yr oedd y trethi'n drymion, yr oedd y swyddogion yn drahaus, yr oedd y milwyr yn greulon, yr oedd caethiwed y gorchfygedig ymron yn anioddefol, pan ddygodd Rhufain ein hynys dan ei hiau. Ar yr un pryd, yr oedd Prydain yn prysur ddadblygu, - yr oedd celf yn blodeuo, yr oedd mwnau'n cael eu gweithio, a hwyrach y buasai Caradog wedi gwneud yr holl ynys yn un ymherodraeth. Y maen anodd dweud pa un ai ennill ai colli wnaeth Prydain wrth golli Caradog a gorfod ymostwng i iau haearn Rhufain. Pe buasai'r Rhufeiniwr heb ddod ni fuasai Prydain wedi cael ei ffyrdd, ei dinasoedd, ei phlasau, ei hamaethyddiaeth, ei gweithfeydd, a'i hundeb mor fuan; ni fuasai wedi dioddef gorthrwm y llengoedd ychwaith, ni fuasai ei hamaethwyr a'i mwnwyr wedi talu trethi trymion Rhufain, ni fuasai wedi ei gwanhau ar gyfer ymosodiad y barbariaid Teutonaidd dorasant gaerau'r ymherodraeth ac a ddylifasant iddi, i ddinistrio pob peth. Yn lle ymddadblygu yn ei nerth ei hun, daeth Prydain yn rhan o ymherodraeth yr oedd ei sylfeini wedi dechrau gollwng. Yn narluniadau byw Tacitus, ac yn ysgrifeniadau Lladinwyr diweddarach, cawn hanes ein cyfnod Rhufeinig. - y goncwest, y trefnu, yr amddiffyn, y gwrthryfela, y colli.

I. Y GONCWEST 43—78

Yn y flwyddyn 43 wedi geni Crist, anfonodd yr ymerawdwr Claudius, yn ei awydd am goncwest, ei gadfridog Aulus Plautius i orchfygu Prydain. Gydag ef yr oedd pedair lleng o filwyr,- tua hanner can mil

TREM GYNTAF Y RHUFEINIAID AR ERYRI.

o ddynion. Gydag ef hefyd, fel is-swyddogion, yr oedd tad a mab ddaethant yn ymerawdwyr ar ôl hynny,—y Vespasian a'r Titus ddinistriodd Jerusalem. Gorchfygodd Plautius ddeheudir Lloegr, - y wlad y tu de i'r Tafwys, - i ddechrau. Yr oedd un o'i brif gaerau, Caerloyw, yn nyffryn yr Hafren, ac yng ngolwg mynyddoedd Cymru. Cyn iddo groesi'r Tafwys, daeth yr ymerawdwr i'r fyddin, ac yna cychwynasant i dir Caradog, prif frenin y deyrnas, a'r wastadeddau'r dwyrain. Wedi ymladd deg brwydr ar hugain a gweled y Rhufeiniaid yn cymeryd Camalodunum drwy ruthr, dihangodd Caradog ar draws yr ynys i fynyddoedd y gorllewin, a galwodd ar Siluriaid rhyfelgar y mynyddoedd i baratoi ar gyfer dyfodiad y Rhufeiniaid.

Ar ôl Plautius daeth Ostorius Scapula, un o gadfridogion yr un ymerawdwr. Wedi gorchfygu pob gwrthryfel y tu dwyreiniol i'r Hafren, arweiniodd hwn fyddin yn erbyn y Cangi, llwyth breswyliai fynyddoedd Arfon, a daeth ymron hyd lannau môr Cymru. Cyn iddo orffen darostwng pobl Arfon, gorfod iddo droi i ymladd a'r Brigantes y tu ôl iddo.

Ond llwyth mwyaf anhyblyg Prydain oedd y Silures. Yr oeddynt yn rhyfelgar wrth natur, ac yn llawn hyder oherwydd fod Caradog, cadfridog dewraf y Prydeiniaid, yn eu mysg. Arweiniodd Caradog hwy i randir mwy mynyddig yr Ordovices, ac yno, yn rhywle ar odrau mynyddoedd Cymru, gyda milwyr yr holl lwythau, arhosodd Caradog i ddisgwyl Ostorius a'i Rufeiniaid, i ymdrechu'r ymdrech olaf am ryddid ei wlad. Yng Nghymru y mae pob hen achos yn marw, yno yr ymladd pawb ei frwydr olaf. Ni fu rhyfel ym Mhrydain, o amser y .Rhufeiniaid hyd y Rhyfel Mawr, nad yng Nghymru y ceid y milwr olaf neu'r castell olaf yn sefyll dros yr hwn orchfygwyd.

Rhydd Tacitus ddarluniad byw o'r frwydr rhwng Ostorius a Charadog. Er gwaethaf medr Caradog, ac er gwaethaf brwdfrydedd y Prydeiniaid, nid oedd bosibl sefyll o flaen disgyblaeth ac arfau dur y Rhufeiniaid. Collwyd y frwydr, a chyn hir syrthiodd Caradog ei hun i ddwylaw'r Rhufeiniaid. Arweiniwyd ef i Rufain, yr oedd pawb yn awyddus am weled un heriasai allu brenhines y byd cyhyd. Wrth gael ei arwain gyda charcharorion drwy'r ddinas i ddangos buddugoliaeth Rhufain, brenin oedd Caradog o hyd; o flaen gorsedd yr ymerawdwr ymddygodd fel brenin yn disgyn o hynafiaid anrhydeddus ac yn teyrnasu ar genhedloedd lawer.

Canmolwyd buddugoliaethau Ostorius yn Rhufain, ond nid oedd wedi llwyr orchfygu'r Silures. Ymladdasant yn ddewrach wedi colli Caradog, enillasant frwydrau, a dinistriasant lawer ysgwadron Rufeinig yn llwyr. Tybia'r hanesydd Rhufeinig fod y Rhufeiniaid wedi colli eu disgyblaeth pan yn sicr nad oedd Caradog ger llaw, neu fod y Silures wedi ymdynghedu y dialent ef. Yr oedd y llwyth diflino hwn, nid yn unig yn ymosod ar y Rhufeiniaid eu hunain bob cyfle gaent, ond yn codi'r llwythau eraill i wrthryfela ym mhob man. Bu Ostorius farw dan bwys ei bryder wrth ymladd yn eu herbyn; nid oedd profiad hir Aulus Didius yn ddigon i wneud mwy na'u rhwystro i ymddial ar y rhannau oedd y Rhufeiniaid wedi ennill; bu Veranius hefyd farw heb wneud dim ond ennill rhyw frwydrau bychain dibwys yn eu herbyn. Ni fedrai'r cadfridogion hyn wneud dim ond codi caerau i rwystro'r mynyddwyr ymosod ar daleithiau'r gwastadedd, rhes o gaerau ar hyd gororau Cymru ddaeth wedi hynny'n ddinasoedd ardderchog,— Uriconium, Caer Went, a Chaer Lleon ar Wysg.

Cyn marw, dywedodd Veranius y medrasai ennill Prydain i gyd i Nero pe cawsai fyw ddwy flynedd. Anfonodd Nero un ar ei ôl dreiodd wneud hyn,—Suetonius Paulinus alluog, uchelgeisiol, boblogaidd. Gwelodd ef mai Ynys Môn oedd dinas noddfa a chartref brwdfrydedd llwythau'r mynyddoedd, a phenderfynodd ymosod arni. Cludodd ei wŷr traed dros y Fenai mewn cychod, a nofiodd ceffylau'r gwŷr meirch a'r eu holau. Wedi glanio gwelodd y Rhufeiniaid olygfa nas gwelsent ei thebyg yn un o wledydd y byd,—byddin fawr, gwragedd mewn dillad duon a chyda thorchau fflamllyd yn eu dwylaw'n gwibio drwy'r fyddin, a Derwyddon yn tywallt y melltithion mwyaf ofnadwy. Ni pharhaodd dychryn y Rhufeiniaid ond am ennyd ; rhuthrasant ar y fyddin a'r Derwyddon, a llosgasant holI lwyni'r ynys,—lle'r aberthai'r Derwyddon aberthau dynol i'w duwiau creulon.

Er hynny, yr oedd Suetonius fel pe dan felltith byth wedyn. Gorfod iddo adael Môn oherwydd fod y gwastadeddau'n codi mewn gwrthryfel o'i ôl; ac er iddo orchfygu Buddug wedi'r galanastra ofnadwy wnaeth ar y Rhufeiniaid, gwelodd y Prydeiniaid ef yn gorfod ymostwng i un o gaethion Nero,—un o'r gwibed oddi ar domen fydd yn ehedeg yn uchel,—ac yn gorfod rhoddi ei allu i fyny i dywysog anfedrus. Pan ddechreuodd Vespasian deyrnasu, anfonodd gadfridogion grymus i Brydain, ac o'r diwedd medrodd Julius Frontinus orchfygu'r Silures. Erbyn y flwyddyn 78 yr oedd holl lwythau'r ynys wedi eu gorchfygu, yr oedd y llengoedd yn gwneud ffyrdd drwy'r ynys, ac ymysg caerau eraill gallasid gweled Caer Lleon Fawr ar lan y Ddyfrdwy.

II Y RHUFENEIDDO 78—120

Yn 78 daeth Cnæus Julius Agricola i lywodraethu Prydain. Yr oedd ef yn fwy na chadfridog, yr oedd yn wladweinydd. Dywed ei fab yng nghyfraith, yr hanesydd Tacitus, nad oedd gerwinder y milwr yn ei ymddanghosiad,—gŵr addfwyn oedd, un yr oedd yn hawdd credu ei fod yn un da, un yr oeddis yn foddlon i gredu ei fod yn un mawr.


Ei waith cyntaf oedd gorffen gorchfygu. Ymladdodd frwydr â'r Ordovices, a gwnaeth i'w fyddin nofio'r Fenai i Fôn a llwyr orchfygu'r ynys dywell honno. Gorffennodd y goncwest, ond ni ddefnyddiodd ei fuddugoliaeth ar Gymru er ei glod ei hun, eithr defnyddiodd hi er dwyn tangnefedd a dedwyddwch i'r mynyddoedd. "Ni anfonodd lythyr llawryf i ddesgrifio ei lwyddiant."

Dechreuodd trwy roddi trefn ar ei dŷ a'i weision ei hun, gan ddewis gweision na fuasai raid eu cosbi am ddrwgweithredoedd. Rhoddodd drefn ar y fyddin hefyd,—yr oedd bob amser ymysg y milwyr yn cosbi'r drwg ac yn canmol y da. Cyn ei amser ef yr oedd ar y Prydeiniaid gorchfygedig fwy o ofn heddwch na rhyfel, yr oedd trethi anghyfiawn heddwch yn fwy annioddefol na chreulonderau rhyfel. Mewn rhyfel gwynebai'r Prydeinwyr ddur a phigyn tarian y Rhufeiniwr; mewn heddwch newynid ef nes y rhoddai ei geiniog olaf am angenrheidiau bywyd. Rhoddodd Agricola derfyn ar y gorthrwm chwerw hwn, ac enillodd serch y Prydeiniwr. Gwnaeth fywyd yn ddiogel ac yn esmwyth, gwareiddiodd farbariaid trwy godi tai a themlau a llysoedd barn yn eu mysg. Addysgodd feibion y brenhinoedd, gan hoffi cyflymder deall naturiol y Prydeiniwr. A daeth yr ynyswyr gorchfygedig i hiraethu am feddu hyawdledd iaith Rhufain, iaith a ddirmygasent hyd yn hyn. Hoffasant bopeth Rhufeinig.—tai, gwisgoedd, pleserau, pechodau. Yn eu hanwybodaeth galwasant y cyfnewidiad yn wareiddiad, ebe Tacitus, pan nad oedd mewn gwirionedd ond rhan o'u caethiwed.

O ororau Cymru aeth Agricola i ucheldiroedd yr Alban, a gorchfygodd eu trigolion rhyfelgar mewn brwydr fawr. Eiddigeddai'r ymerawdwr Domitian wrth ei fuddugoliaethau; gwrandawai am danynt gyda gwên ar ei wyneb a phryder yn ei galon. Wedi llwyr orchfygu'r ynys, a morio o'i hamgylch, ymadawodd Agricola yn 84, ond aeth ei waith ymlaen.

Yr oedd ffyrdd Rhufeinig yn croesi'r wlad ym mhob man. Gwelir eu holion eto hyd fynyddoedd Cymru, a gall unrhyw fugail ddweud mai'r Rhufeiniaid neu Helen Luyddawg a'u gwnaeth. Y maent wedi eu gwneud mor gadarn fel nas gallodd traed pobl deunaw canrif eu treulion ddim,—daear i ddechrau, cerrig mawr ar hynny, haen o gerrig bychain a morter ar y rheini, haen o galch a chlai wedyn, a phalmant yn uchaf peth. A phan golli'r y ffordd, y mae ei henw,—strata,—yn aros yn aml. Yr oedd yn dringo y llethr acw,—Llechwedd Ystrad ydyw enw'r amaethdy; yr oedd yn croesi afonig yn Rhyd Fudr draw; yr oedd yn rhedeg yn union hyd y gwastadedd isod,—y Stryd Ddŵr ei gelwir eto.

Yr oedd ffordd yn rhedeg hyd ororau Cymru o Gaer Lleon ar Wysg i Uriconium, ac oddi yno i Gaer Lleon Fawr,—ffordd y dwyrain. Yr oedd ffordd arall yn rhedeg yn gyfochrog a hi o Gaerfyrddin i Ddeganwy,—ffordd y gorllewin. Cysylltid y ddwy ffordd hyn, oedd yn rhedeg ar hyd Cymru, gan lawer o ffyrdd croesion. Rhedai ffordd o Gaer Lleon ar Wysg ar hyd Bro Morgannwg ac ymlaen trwy Gaerfyrddin a thros fryniau Penfro i Dyddewi i lan y môr; rhedai ffordd arall i fyny dyffryn yr Wysg, a chyfarfyddai'r llall yng Nghaerfyrddin. Cychwynnai ffordd

O Gaerfyrddin i fyny Dyffryn Tywi. a rhedai dros rosdiroedd cefn Plunlumon i Gaer Sws, ac oddi yno i Uriconium. Yng ngogledd Cymru, cysylltid ffordd y dwyrain a ffordd y gorllewin gan ddwy ffordd groes; rhedai y naill ar draws mynyddoedd Meirion a Maldwyn, rhedai'r llall ar draws mynyddoedd Dinbych a Chaernarfon o Gaer Lleon i Gaer Seiont.

Yr oedd dinasoedd yn codi,—Caer Lleon gadarn, Uriconium enfawr, Caer Lleon ar Wysg orwych. Yr oedd plasdai Rhufeinig i'w gweled hefyd,—onid yw eu hadfeilion eto'n aros ar rai o'n bronnydd heulog? Yr oedd y Cymro'n ysgrifennu Lladin ar ei garreg fedd fel yr ysgrifenna Saesneg yn awr. Yr oedd yn dysgu pethau newyddion rhyfel a heddwch, fel y gwelir oddi wrth y geiriau fenthyciodd o'r Lladin,—caer, ffos, twr, saeth; wal, stryd, porth; aradr, caws.

III.YR AMDDIFFYN. 120—250

Wrth eu darostwng i wareiddiad Rhufain, collodd y tylwythau Prydeinig eu hysbryd rhyfelgar, ac aethant yn foethus a dirywiedig a gwan. Ar yr un pryd yr oedd cenhedloedd barbaraidd y gogledd yn curo ar gaerau'r Ymherodraeth Rufeinig, ac yn bygwth dylifo i mewn. Yr oedd Prydain yn un o'r rhai cyntaf i ddioddef, yn un o'r rhai cyntaf i gael ei gadael i gynddaredd a rhaib y barbariaid. Yr oedd llwythau annibynnol ucheldiroedd yr Alban yn torri trwy fur Agricola o hyd, ac yn difrodi meysydd a gweirgloddiau'r dalaethau Rhufeinig. "Bu gwynt angerddol yr ail waith", ebe adlais rhyw hen gwynfan, ac y dodes y Gwyddyl Ffichti dân wrth adenydd yr adar gwylltion yn y gogledd; achos hynny llosged llawer iawn o dai ac ysguboriau a deisydd ŷd. Ac ar yr un amser yr oedd llongau môr—ladron y gogledd yn ymgynnull i ymosod ar y dalaeth Rufeinig gyfoethog a diymwared hon. Yn 120 daeth yr ymerawdwr Hadrian, a chododd fur newydd i atal ymosodiadau Pictiaid yr Alban. .A phan fyddai raid, doi'r llengoedd o bob rhan o'r ynys a'r hyd y ffyrdd Rhufeinig i amddiffyn hwn. Rhwng 207 a 210 bu'r ymerawdwr Severus yma, yn adeiladu mur amddiffynnol arall. Yng Nghaer Efrog, cartref y seithfed leng, y bu farw, gan bryderu am ddiogelwch yr ymherodraeth a phoeni am bechodau ei fachgen drwg.

IV. Y GWRTHRYFELA. 220—450

Yr oedd Rhufain yn ymlygru ac yn gwanhau, ac yr oedd cenhedloedd y gogledd a'r dwyrain yn ymosod arni ar hyd ei therfynau,—canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod. Yn yr anrhefn yr oedd rhyw gadfridog buddugoliaethus, mewn rhyw ran o'r ymherodraeth, yn gwrthryfela ac yn cyhoeddi ei hun yn ymerawdwr. A llawer gwrthryfelwr enwog welodd Prydain yn y dyddiau hynny. Yn 288 cododd Carausius, llyngesydd medrus, o Gymru neu'r Iwerddon, a chyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr ym Mhrydain. Dano ef, bu yr ynys yn annibynnol am flynyddoedd. Yr oedd wrth fodd y bobl, ac yn deyrn llwyddiannus. A'r un o'i ddarnau arian y mae darlun o honno'n cydio yn llaw Britannia; a'r yr ochr arall i'r darn y mae'r ysgrifen EXPECTATE VENI,—"Tyred, yr hwn a hir ddisgwyliwyd". Ac o rywle o'r gorllewin y daeth. Lladdwyd Carausius tua 293 gan Allectus, un o'i swyddogion, yr hwn a deyrnasodd yn ei le hyd 298.

A'r adeg hon, gwelodd yr ymerawdwr Diocletian nad oedd modd i un ymerawdwr deyrnasu mwyach, a rhannwyd yr ymherodraeth rhwng amryw ymerawdwyr. Daeth Prydain i ran Constantius, a gorchfygwyd Allectus ganddo. Adferodd heddwch a dedwyddwch cyn marw yng Nghaer Efrog yn 306. Bendithiwyd coffadwriaeth ei wraig Helen,—un ragorol, er o isel radd,—am ganrifoedd wedi ei marw; dywedid mai Cymraes oedd gan lais traddodiad diweddarach, ac mai hi wnaeth y ffyrdd a welir eto ar ein mynyddoedd, ar hyd y rhai y byddai ei milwyr yn dod i helpu brenhinoedd ormesid gan estron.

Mab Constantius a Helen oedd Cystenyn Fawr, yr hwn ail unodd ymherodraeth Rhufain. Ym Mhrydain y coronwyd ef; gyda byddin Brydeinig y cychwynnodd i orchfygu ei elynion ac i deyrnasu ar yr holl fyd. O'r holl ymerawdwyr, Cystenyn oedd y Cristion cyntaf. Erbyn ei ddyddiau ef yr oedd yr Efengyl wedi ei phregethu ym Mhrydain, ac yr oedd rhai wedi rhoddi eu bywyd i lawr drosti. Yr oedd sêl y Derwyddon wedi oeri, ymdoddodd eu duwiau i fysg duwiau'r Rhufeiniaid,—ac ymysg y gwahanol dduwiau y soniai'r milwyr am danynt yr oedd Iesu, a hwnnw wedi ei groeshoelio. Pwy bregethodd yr Efengyl gyntaf nis gwyddom, hwyrach nad oes dim ond y Dydd Olaf ddengys pwy.

Wedi marw Cystenyn, daeth y barbariaid a'r anrhefn drachefn. Llawer cadfridog ddilynodd ei esiampl, gan arwain byddin o Brydain i'r Cyfandir; eithr nid i orchfygu, ond i gael ei dinistrio. Ac yr oedd y barbariaid yn ymosod ar Brydain o hyd; ni fedrodd buddugoliaethau Theodosius a Stilicho eu cadw draw. Yr oedd Rhufain ei hun mewn perygl, a chyn hir syrthiodd y ddinas dragwyddol o flaen Alaric. Cyn 456 yr oedd y lleng olaf wedi troi ei chefn a'r Brydain, gan adael rhyngddi a'r dinistrwyr oedd yn ymgasglu o'i chwmpas.

Er trymed y trethi, ac er amled y rhyfeloedd, yr oedd Prydain yn wlad gyfoethog pan adawodd y Rhufeiniaid hi. Yr oedd pobl gwastadedd dwyrain yr ynys yn siarad Lladin, ac yn byw fel Rhufeiniaid ym mhob peth. Ac yr oedd pobl mynyddoedd y gorllewin,—ein Cymru ni,—yn prysur ddysgu Lladin hefyd. Y mae geiriau Lladin yn ein hiaith eto, y mae enwau Lladinaidd a'r rai o'n trefydd a'n hafonydd hyd y dydd hwn. Yr oedd llawer plas prydferth ar ein llechweddau, a'i berchennog yn feistr ar gaethion lawer, a meysydd ffrwythlawn o'i amgylch. Yr oedd ffyrdd ardderchog yn rhedeg trwy hyd a lled y wlad. Yr oedd coedwigoedd wedi eu clirio, a chorsydd wedi eu sychu. Yr oedd gweithydd copr ym Môn, gweithydd plwm ym Maldwyn, gweithydd haearn ym Mynwy, a gweithydd aur ym Meirionnydd. Ar ein gororau yr oedd dinasoedd gwychion,—Caer Lleon ar Ddyfrdwy gadarn; Uriconium anferth ar yr Hafren, dair milltir ysgwâr o arwynebedd; Caer Lleon ar Wysg, gyda'i phlasau goreurog ysblennydd, ei thyrau uchel, a'i hystrydoedd a'i chaerau fu'n syndod canrifoedd wedi i'r Rhufeiniwr olaf ei gadael.

Wrth edrych ar y Gymru hon dros oesoedd o anrhefn a difrod rhyfel, hawdd y gallai croniclydd Cymreig roddi ffrwyn i'w ddychymyg, a chredu popeth ddywedai'r Rhufeiniwr am dani, ac ysgrifennu cyfieithiad anghelfydd, estronol ei gystrawen,—

"Bryttaen, oreu o'r ynysoedd, yr hon a elwit gynt y wen ynys yggollewigawl eigawn. A pha beth bynnac a fo reit y ddynawl arfer o andyffygedic ffrwythlonder, hi ae gwassanaetha. Y gyt a hynny, cyflawn yw o'r maestiredd llydan amyl; a brynneu ardderchawc, addas y dir dywyliodraeth, drwy y rei y deuant amryfaelon genedloedd ffrwytheu. Yndi hefyt y maent coetydd a llwyneu cyflawn o amgen genedloedd anifeileit. a bwystifileit. Ac y gyt a hynny, amrai cenfeinoedd o'r gwenyn, o blith y blodeuoedd yn cynulaw mel. Ac y gyt a hynny, gweirgloddyeu amyl o dan awyrolyon fynyddedd, yn y rei y maent ffynhoneu gloew eglur, o'r rei y cerddant ffrydyeu, ac a lithrant gan glaer sein, a murmur arwystyl cerdd; a hun yw y rei hynny yr neb a gysgo ar eu glan. A llynneu ac afonoedd; ac amryfael gyfnewityeu o'r gwladoedd tramor; ac wyth prif ddinas ar hugaint, a themleu seint ynddunt yn moli Duw, a muroedd a chaeroedd ardderchawc yn eu teccau. Ac yn y temlau, cenfeinoedd o wyr a gwragedd yn talu gwasanaeth dylyedus y eu Creawdyr ynherwydd Cristionogawl fyd."

Pan welwn Gymru nesaf, bydd Uriconium yn garnedd, Caer Lleon yn anghyfannedd ar lan y Ddyfrdwy, gogoniant CaerLleon ar Wysg yn ymadael, a chaniadau y deml yn troi yn udo ar y dydd hwnnw.

NODYN IV. golygu

Tacitus, mab yng nghyfraith Agricola, yw prif ffynhonnell ein gwybodaeth am y goncwest Rufeinig. Yn ei Annales dywed hanes y goncwest, yn ei Agricola dywed hanes y Rhufeineiddio, ac yn ei Germania, a rhydd ddarlun o'r Eingl ar Saeson fel yr oeddynt cyn dechrau ymosod ar Brydain. Ysgrifennodd Gildas ei gwynfan yng nghanol y rhyfel rhwng y Prydeiniaid a'r Saeson. Traddodiadau a darnau o hen faledi yw croniclau'r Saeson eu hunain am eu can mlynedd cyntaf yn yr ynys hon.

Pryden tua 600 yng Nghanol y Rhyfel Rhwng Cymru a Saeson

—————————————

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD IV.- Y SAESON

Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear. Yn y bwa ar waewffon yr ymaflant, creulawn ydynt, ac ni chymerant drugaredd; eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwyr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.

TRA'R oedd Rhufain yn llywodraethu ac yn trethu y cenhedloedd orchfygasai, a thra'r oedd pob cenedl o fewn terfynau'r ymerodraeth yn ymroddi i amaethu'r ddaear ac i adeiladu trefi a masnachu, ac ymgyfoethogi mewn heddwch, yr oedd cenhedloedd y gogledd yn ymwthio drwy'r fforestydd tywyllion a'r corsdiroedd oedd y tu hwnt i ragfuriau eithaf y llengoedd, ac yn edrych gyda llygaid hiraethlawn ar feysydd heulog cnydiog yr ymerodraeth fawr. O flaen y barbariaid crwydrol aneirif hyn, gorfod i'r llengoedd Rhufeinig gilio'n ôl yn raddol; gan adael y taleithiau cyfoethog i'r anwariaid a dinistr. Hanner can mlynedd wedi i'r llengoedd adael Prydain i ymdaro gorau gallai yn erbyn y gelyn a'i anrhaith, y mae mynach Prydeinig yn cwyno yng nghanol difrod dinasoedd a themlau fel hyn,—

Oni chyflawnwyd ynom ni air y proffwyd, - Y cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i'th etifeddiaeth. halogaeant dy deml sanctaidd. Onid oedd dros yr holl wlad gelain y trigolion gyda'r eglwyswyr, yn ddarnau hyd yr heolydd, ie yn dyrrau cymysgedig, megis mewn gwryf mawr y gwesgir afalau ynddo, heb fedd iddynt? Dihangodd y gweddillion i'r môr a'r mynyddoedd gan oernadu. Rhoddaist ni fel defaid i'w bwyta, gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.


Ni ddaeth diwedd ymerodraeth Rhufain yn ddirybudd. Ers canrifoedd yr oedd wedi bod yn cadarnhau y caerau a'r muriau oedd yn amddiffyn ei therfynau gogleddol. Bygythid ynys Prydain o ddau gyfeiriad. Ymosodid arni o du'r gorllewin a'r gogledd gan y Pictiaid. Ac ar draeth y dwyrain ceisiai llwythau Teutonaidd, Eingl a Saeson, lanio o hyd. Yr oedd y Rhufeiniaid wedi trefnu'r ynys yn y ffordd oreu i wrthsefyll y ddau elyn hyn. Yr oeddynt wedi ei rhannu'n ddwy dalaeth filwrol, y dalaeth agored i ymosodiadau'r Pictiaid, a'r dalaeth agored i ymosodiadau'r Saeson. Talaeth y gorllewin oedd y naill, a thalaith y dwyrain oedd y llall. Ymestynnai talaeth y gorllewin o enau'r Hafren hyd yr hen amddiffynfa wgus sydd eto'n edrych oddi ar graig Dumbarton ar ddyffryn y Clyde. Cynhwysai, felly, y rhan fynyddig o Brydain y Rhufeiniaid, - yr ardaloedd elwid wedi hynny'n Gymru, Teyrnllwg, Ystrad Clwyd, Deifyr, a Bryneich. Wrth edrych ar fap, gwelir fod y dalaeth hon yn hir ac yn gul, - yn agored i ymosodiadau ac yn hawdd ei thorri'n rhannau. A'r hyd ei thraethell orllewinol yr oedd yn agored i'r Scotiaid oedd yn ymosod arni o'r Iwerddon. A'r ei therfyn gogleddol nid oedd y mur Rhufeinig mor gadarn nas gallasai'r Pictiaid dorri drwyddo. Ac yr oedd Deifyr a Bryneich, - y rhan o'r dalaeth oedd ar lan Mor yr Almaen, - i weled llongau'r Eingl yn hwylio tuag atynt o lannau'r Almaen draw dros y môr. Cyn i'r Rhufeiniaid ymadael, a'r y dalaeth hon yr oedd y curo mwyaf. Llywodraethid hi gan y Dux Britanniarum, yr hwn a arolygai symudiadau ei llengoedd hyd y ffyrdd arweiniai o Gaer Lleon ar Wysg yn y de i'r gwahanol orsafoedd ar fur y gogledd. Trwy ymladd caled yn unig y medrid rhwystro'r barbariaid Pictaidd rhag torri'r mur a dylifo i'r dalaeth. Wedi i'r Rhufeiniaid ymadael, cymerwyd gwaith a theitl y Dux, Rhufeinig gan y Gwledig Cymreig. Unwyd trigolion y dalaeth gan eu perygl, galwasant eu hunain yn GYMRY, "trigolion yr un fro", - a'u gwlad yn GYMRU. Er i'r wlad hon gael ei thorri'n ddwy wedyn, ac er Seisnigo y rhan ogleddol o honni, - y mae darn o'r rhan honno, Cumberland, eto'n cadw'r hen enw, - ymladdodd am flynyddoedd i gadw ei hundeb ac i rwystro'r Saeson rhag dod i mewn iddi. Ond nid y Pictiaid, wedi'r cwbl ddinistriodd Gaer Lleon, gan rannu yr hen Gymru'n ddwy.


Yr oedd y cenhedloedd Teutonaidd yn ymosod ar draethell ddwyreiniol Prydain er ys canrifoedd, a phrif waith llywydd y dalaeth ddwyreiniol oedd gwrthsefyll eu hymosodiadau. Rhan wastad yr ynys oedd y dalaeth ddwyreiniol, o Gaer Efrog yn y gogledd i draethell y de. Llywydd y dalaeth hon oedd y Cornes Litoris Saxonici, - iarll traeth y Saeson. Ar hyd traeth y Saeson - o enau'r Ouse hyd Ynys Wyth, - yr oedd rhes o gestyll Rhufeinig. Y mae map Rhufeinig o'r traeth hwn a'r gael a chadw. Y map olaf mewn llyfr o fapiau Rhufeinig ydyw, ac nid oes ond rhan o honno'n ddigon eglur i'w ddarllen, - rhan yn dangos cestyll y traeth a'r ffyrdd a'u cysylltai. Pan ymadawodd y Rhufeiniaid, ymosododd y Saeson ar yr holl gestyll, gan dorri drwyddynt i'r dalaeth ddwyreiniol, ac y mae llawer traddodiad ynglŷn â rhuthr y barbariaid i'r trefydd caerog.


Pwy oedd y Saeson hyn? Rhai o'r tylwythau Teutonaidd, grwydrent tua'r gorllewin trwy fforestydd a chorsydd gogledd yr Almaen, oeddynt. Yr oeddynt y tu allan i derfynau gogleddol yr Ymerodraeth, ac felly heb golli eu hannibyniaeth na'u barbariaeth. Fel y Scotiaid a'r Pictiaid, yr oeddynt yn fwy rhyfelgar na'r llwythau oedd wedi ymheddychu dan lywodraeth Rhufain ac efengyl tangnefedd; a phan gollodd Rhufain ei gallu i amddiffyn, ymosodasant ar y llwythau Rhufeinig fel adar rhaib ar adar dof.

PRYDEN RUFEINIG

NODYN IV. golygu

Dyma drefn hanes ymosodiad yr Eingl ar Saeson ar Brydain, -

  • 450—516. YR YMOSOD AR DRAETH Y DWYRAIN A'R DE.
  • 450—473. Y Jutiaid yn ennill Caint, ac yn aros yno.
  • 473—490. Y South Saxons yn ennill y tir i'r gorllewin.
  • 490—556. Y West Saxons yn glanio ymhellach yn y gorllewin, yn ennill Gwent, ond yn cael eu hyrddio'n ôl ym mrwydr Mynydd Baddon.
  • 516—577. YR YMOSOD AR Y GOGLEDD DDWYRAIN. Ennill y traeth o'r Tafwys i'r Forth. Gwladychu yr holl dalaeth isaf.
  • 577—613. YR YMOSOD AR Y DALAETH ORLLEWINOL.
  • 577—Brwydr Deorham. Ceawlin a'r Saeson yn cyrraedd genau'r Hafren, ac yn llosgi Uriconium. Eu hyrddio'n ôl o Fethanlea, 584.
  • 613—Brwydr Caer. Aethelfrith ar Eingl yn cyrraedd y Ddyfrdwy. Rhydd Tacitus ddarluniad ohonynt yn eu cartref pan drigent ar y tir isel rhwng genau'r Rhein a'i Oder. Yr oedd eu llygaid yn leision a chreulawn eu gwallt yn goch, a'u cyrff yn enfawr. Diadelloedd defaid a gyrroedd o wartheg oedd eu prif olud nid oeddynt yn malio mwy mewn aur ac arian na mewn clai. Nid oeddynt yn byw mewn dinasoedd codai pawb ei fwthyn lle y mynnai, wrth ffynnon neu goedwig neu weirglodd. Aberthent i dduwiau, - aberthau dynol weithiau; ond ni chyffelybent wyneb ar eu duwiau i unrhyw wyneb dynol, ac nid oedd ganddynt demlau ond y goedwig. Chwilient allan farn eu duwiau oddi wrth ehediad adar, ond yn bennaf oddi wrth ymddygiad ceffylau gwynion sanctaidd y llwyth. Pobl ddiog oeddynt; ond hoff o ryfel a gloddest. Barbaraidd oedd eu gwisg,- croen wedi ei sicrhau â phigau drain. Ymhyfryda Tacitus wrth gymharu eu bywyd iach Barbaraidd â bywyd mas weddol llwgr Rhufain. Ni wyddent beth oedd anniweirdeb, ac yr oedd eu harferion yn well na bywyd cenhedloedd wareiddiasid gan gyfraith. Crogen ddrwg - weithredwyr; ac am yr hwn a gyflawnai bechodau gwarthus., cleddid ef yn fyw mewn cors, a llidiart ar ei gefn.

Yr oedd y tir yn perthyn i'r llwyth yn gyffredin gellid gweled aradrau'r holl lwyth yn dilyn eu gilydd yn yr un cae. Yna rhennid y tir tro rhwng teuluoedd y llwyth, yn ôl y nifer o ychen anfonasant i aredig.

Pan oedd Tacitus yn ysgrifennu yr oedd bywyd cenedlaethol y tylwythau Almaenaidd yn dechrau newid. Llwythau o bobl ryddion oeddynt i ddechrau: heb frenin, na chyfraith, na threth. Ond, yn narlun Tacitus, gwelwn y brenin yn codi'n raddol i fri ac awdurdod. Un math o frenin oedd yr arweinydd milwrol. Byddai'r arweinydd hwn yn dewis bechgyn ieuainc mwyaf rhyfelgar y llwyth, yn rhoddi march a tharian a phicell iddynt, ac yn eu harwain i ryfel, er mwyn dod ag ysglyfaeth yn ôl. Fel yr oedd Rhufain yn gwanhau câi'r arweinydd milwrol fwy o gyfle, ac arweiniai filwyr i diroedd cyfoethocach a mwy heulog, gan ymsefydlu yno. Arweiniai rhai o'r brenhinoedd hynny fyddin i'r môr, gan ymosod ar ynys Prydain, a chludo ei hysbail yn ôl. Nid oedd y rhai hyn ond rhyw ddafnau o flaen y gawod. Tua chanol y bumed ganrif yr oedd llwythau cyfain yr Eingl ar Saeson yn gadael eu tiroedd tlawd gwlyb, ac yn cyfeirio eu llongau tua thraethell ddwyreiniol Prydain, traeth a chaerau ar ei hyd, ond traeth a gwlad gyfoethog amaethedig y tu hwnt iddo.

Nid oes wybodaeth sicr am yr ymladd fu rhwng y Saeson a'r Prydeiniaid yng nghaerau Rhufeinig traeth y dwyrain. Ymhell wedi hynny yr ysgrifennodd mynachod Seisnig hanes dyfodiad eu tadau barbaraidd. Dywedai traddodiadau'r Saeson mai yng Nghaint y glaniasant gyntaf. Dyma damaid o'u croniclau:—

"448.Yn y flwyddyn hon datguddiodd Ioan Fedyddiwr ei ben i ddau fynach ddaethai o'r dwyrain i Gaersalem i weddïo, ar y fan y safai tŷ Herod gynt.

"Ar y pryd hwnnw Martianus a Valentinianus oedd yn teyrnasu; ac ar y pryd hwnnw daeth pobl Seisnig i'r gwledydd hyn, ar wahoddiad Gwrtheyrn, i'w gynorthwyo ef, ac i orchfygu ei elynion. Daethant mewn tair llong hir, a'u harweinyddion rhyfel oedd Hengist a Horsa. Yn gyntaf, lladdasant holl elynion y brenin, a gyrasant hwy ymaith; ac yna troisant yn erbyn y brenin ac yn erbyn y Prydeiniaid, a llwyddlasant, drwy gymhorth tân a min y cleddyf."

Cyn 450, yr oedd y Saeson wedi gwneud llawer ymosodiad penderfynol ar yr hanner cylch o gaerau amddiffynnai yr ynys, ac efallai mai trwy wahoddiad tywysog Prydeinig y cawsant eu dyfodfa gyntaf drwy'r caerau hynny. Hyn sydd wir, - rhwng 450 a 516 yr oeddynt wedi gorchfygu'r holl wlad y tu

BRWYDR MYNYDD BADDON.

deheu i'r Tafwys, o Gaint hyd derfyn gorllewinol gwastadedd Gwent. Ucheldir gwastad ydyw'r wlad hon rhwng dyffryn Tafwys a'r môr; a chyrchodd tri llwyth o'r dyfodiaid rhyfelgar iddo. Caint ydyw ei gornel ddwyreiniol, ynddi hi ymsefydlodd y Jutiaid, wedi torri ei chestyll gwarcheidiol, a difrodi'r meysydd ffrwythlawn enillasai celfyddyd y Rhufeiniwr oddi ar y môr.

Ar ôl y Jutiaid, daeth un o dylwythau'r Saeson, - y South Saxons, - y creulonaf a'r mwyaf anwaraidd o'u hil. Hwyliasant heibio traethell Caint, ac ymsefydlasant ymhellach i'r gorllewin ar draeth y Saeson. Cofiwyd yn hir am eu hymosodiad ar gaer Anderida, - "lladdasant bawb a drigai ynddi, ni adawyd un Prydeiniwr yn fyw." Ar ôl y South Saxons daeth y West Saxons, gan lanio ymhellach fyth i'r gorllewin. Cyrhaeddasant hwy ucheldir braf Gwent, lle'r oedd llawer bedd a theml a dinas ardderchog, daeth y wlad yn eiddo iddynt hyd ddyffryn Tafwys, - a gwelent ffordd Rufeinig yn eu gwahodd ymlaen i ddyffryn Hafren, at gyffiniau ail dalaeth Prydain, talaeth y Dux Britanniarum. A thra'r oeddynt hwy yn gorchfygu rhannau deheuol talaeth y dwyrain, yr oedd tylwythau o Eingl yn ymdywallt i'w rhannau gogleddol. Ond onid oedd y dalaeth ddwyreiniol yn un,-dan un swyddog? Paham y :gadewid iddi gael ei gorchfygu bob yn ddarn? Paham y gadewid i ddinas fel Anderida ymladd ei hun, heb gynorthwy? Pa le'r oedd iarll traeth y Saeson yn amser caledi'r ddinas ffyddlon a dewr? Yr oedd amryw yn ymgeisio at fod yn olynydd i'r Comes Rhufeinig, gan ymladd yn erbyn eu gilydd yn lle .amddiffyn eu gwlad. Pan ymchwalodd yr Ymerodraeth, yr oedd rhyw ymerawdwr yn codi ymhob congl iddi. A phan adawodd Rhufeiniaid ein hynys ni, cododd rhyw Wledig ymhob cornel o honi. Yr oedd Gwrtheyrn yng Ngaint, Emrys yng Ngwent, a rhywun arall yng Nghernyw, - pob un yn tybied ei hun yn wir olynydd i'r Comes Litors Saxonici, a phob un yn edrych ar y llall fel gwrthryfelwr yn ei erbyn. Wedi gorchfygu Gwrtheyrn a meddiannu Caint, dechreuodd y Saeson ymwthio ymlaen i'r gorllewin, a gwelsant gaerau Caer Loew a thyrau Caer Lleon ar Wysg. Ond yr oedd llwyddiant y barbariaid wedi uno'r Prydeinwyr, a chyn i'r West Saxons gyrraedd ffin talaeth y gorllewin, arweiniodd Emrys fyddin fawr yn eu herbyn. Yn rhywle ar derfyn y ddwy dalaeth, ymladdwyd brwydr Mynydd Baddon, tua'r flwyddyn 516.

Yr oedd hon yn un o frwydrau pwysicaf y rhyfel. Tyfodd yr hanes am dani yn nychymyg yr oesoedd ar ei hol, a thybid mai Arthur Fawr oedd yn arwain lluoedd y Prydeiniaid ynddi. Ond prin y medrai dychymyg Cymru ei gwneyd yn fwy pwysig nag ydoedd. Rhoddodd atalfa ar y llanw Seisnig am hanner can mlynedd; gwnaeth i'r ymosodwyr chwilio am fannau gwannach yn uwch i'r gogledd; a rhoddodd ysbryd newydd yn y Prydeiniaid.

Ym mlwyddyn y frwydr, yn rhywle ar gyffiniau'r ddwy dalaeth, ganwyd Gildas, ebe ef ei hun. Gwelodd olion y rhyfel, gwelodd yr anfoesoldeb ar anuwioldeb oedd wedi ei dilyn, gwelodd y tywysogion Cymreig yn ymladd, fel cynt, am unbennaeth eu talaeth. Efe yw hanesydd cyntaf ei bobl, a Jeremiah eu llenyddiaeth. Taniwyd ei ddychymyg wrth ddarllen proffwydi'r Hebreaid, chwerw ydyw ei gwynfan am bechodau ei bobl. Darlunia egni'r Prydeinwyr yn adeg y frwydr, a'u difrawder yn union wedyn.

"Nid aeth destrywedigaeth yr ynys, a'r cynhorthwy a ddigwyddodd iddi heb ei ddisgwyl, byth allan o gof y rhai ai gwelsent. Am hynny gwnaeth y brenhinoedd, a'r penaethiaid, a'r eglwyswyr, a'r cyffredin, bob un eu dyledswyddau. Ond pan gyfododd to arall na wyddai oddi wrth ddim ond y tawelwch presennol, dymchwelwyd gwirionedd a chyfiawnder, fel na welir mo'u hol mewn gradd yn y byd o ddynion, oddieithr ychydig iawn y sydd â'u bywyd yn hoff gan Dduw, ac a'u gweddïau yn cynnal ein gwendid ni."

Nis gwn a fu Gildas byw i weled pethau gwaeth na'i broffwydoliaethau'n dod i ben. Tra'r oedd tywysogion y Prydeiniaid yn ymrafaelio am yr unbennaeth yr oedd y Saeson yn ymuno ac yn ennill nerth. Yn y flwyddyn 577 yr oedd Ceawlin wedi uno tylwythau'r Saeson ymgartrefasant y tu deheu i'r Tafwys; ac arweiniodd eu llu yn erbyn y dalaeth orllewinol. Cyn i'r llu hwn gyrraedd dyffryn Hafren, ymladdwyd brwydr Deorham rhyngddynt a thywysogion ,y dyffryn goludog hwnnw. Gorchfygwyd y Prydeiniaid, a syrthiodd tair dinas, - Caer Baddon, Caer Loew, a Cirencester, - i ddwylaw yr anrheithiwr. Trwy'r fuddugoliaeth hon, estynnodd Ceawlin derfynau ei deyrnas i lan môr y gorllewin, gan wahanu Cymru a Chernyw am byth oddi wrth eu gilydd. Yr oedd dyffryn bras yr Hafren yn agored iddo hefyd, gyda'i ddinasoedd a'i blasau. Ymdeithiodd i fyny'r dyffryn, - yr oedd ei amddiffynwyr wedi marw yn Neorham, - a gadawodd blas Cynddylan yn dywyll, wedi ei losgi a'i anrheithio. Ond nid Ceawlin oedd i orchfygu Cymru; ym mrwydr Fethanlea, yn 584, gorchfygwyd ef, a gorfod iddo gilio'n ôl o ddyffryn Hafren.

Erbyn dechrau'r seithfed ganrif yr oedd yr holl dalaeth ddwyreiniol, oddigerth Cernyw, wedi ei gorchfygu. Dros holl wastadeddau'r dwyrain a'r canoldir, yr oedd y Saeson ar Eingl wedi ymledaenu. Ac yr oeddynt wedi dechrau ymosod ar y dalaeth orllewinol, ar hyd ei chyffindir, o'r Hafren i Ystrad Clwyd. Yr oedd plas Cynddylan wedi ei losgi, yr oedd Bryneich a Deifr yn eiddo i'r Eingl. O flaen yr ymosodiad arnynt ymunodd y Cymry,— oherwydd Cymry y galwent eu hunain yn awr, - yn erbyn gallu unedig y Saeson a'r Eingl oedd am ennill oddi arnynt goron eu talaeth orllewinol.

Ond yn awr dyma ni yn nechrau hanes Cymru. Yr ydym ym mysg rhai adwaenwn, gwelsom Gynddylan yn ymladd yn Neorham, clywsom alar Llywarch Hen. Y mae'r dwyrain yn Seisnig, y mae Cymry'r gogledd yn cilio'n ôl o gam i gam o flaen y gelyn, - cyn pen y deng mlynedd bydd Cymru, ein Cymru ni, wedi ei hamgylchu gan y Saeson a'r môr.

NODYN V. golygu

Mewn llyfrau hanes hen ffasiwn cymerir yn ganiataol fod y Saeson ar Eingl naill ai wedi lladd Prydeiniaid Lloegr neu wedi eu hymlid i fynyddoedd y gorllewin. i rywun sydd wedi darllen hanes cenhedloedd bore y mae hyn yn beth anghredadwy.

Haerir fod y Lloegriaid wedi eu difodi am (i) na adawsant eu hiaith, (2) na'u crefydd, (3) nac enwau lleoedd; (4) fod y croniclau'n dweud yn bendant fod pob Prydeiniwr wedi ei ladd yn Anderida; (5) fod Gildas yn darlunio anrhaith creulawn yr ymosodwr.

Atebir (1) fod dyrnaid o Sbaenod wedi rhoddi eu hiaith i gyfandir bron, ac mai Lladin siaradai'r Lloegriaid; (2) fod crefydd Lloegr wedi dirywio; (3) gadawsant rai o brif enwau lleoedd Lloegr; (4) ni soniasid am Anderida oni bai mai eithriad ydyw; (5) dywed Gildas fod Lloegriaid yn ymuno â'r gelyn.

Osdifodwyd, y mae hanes ein sefydliadau'n anesboniadwy hefyd.

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD V.- ARTHUR

Ac ar hynny nachaf feirdd yn dyfod i ddatganu cerdd i Arthur, ac nid oedd dyn a adnabai y gerdd honno, eithr ei bod yn foliant i Arthur.
BREUDDWYD RHONABWY

Y MAE hanes a thraddodiadau am yr ymosod ar y mynyddoedd rhwng ymadawiad y Rhufeiniaid ac ymddanghosiad Maelgwn Gwynedd, wedi eu gweu yn rhamant fedd Arthur yn arwr iddi. Yma ac acw gyda godrau y mynyddoedd fu'n amddiffyn, y mae llawer ogof lle y tybir fod Arthur eto'n huno, i aros awr gwared ei wlad.

Er ys canrifoedd, er y goncwest Rufeinig, yr oedd y Pictiaid wedi bod yn curo yn erbyn y muriau godasid i amddiffyn terfyn gogleddol y dalaeth; ac yr oeddynt wedi torri trwyddynt lawer gwaith. Y mae olion y muriau hyn eto'n aros, wedi cyfnewidiadau ac ystormydd dwy ganrif ar bymtheg. Yr oedd un mur, mur Antoninus, rhwng y Forth ar Clyde. Wrth ymosod ar y mur hwn, mur saith milltir ar hugain o hyd, nis gallai'r Pict o'r mynyddoedd lai na rhyfeddu at athrylith y Rhufeiniaid, a thybid gan oesau eraill mai gallu goruwchnaturiol oedd wedi gwneud y muriau, ar ffosydd, ar ffyrdd. Yn gyntaf peth, doi'r Pict at ffos deuddeg troedfedd o led, yr hon oedd yn gorwedd o flaen y mur trwy ei holl hyd. Yn codi o'r ffos hon yr oedd mur, dwy droedfedd o led, o gerrig ysgwâr. Yr oedd hwn, mae'n debyg, yn uchel iawn, yn uwch na'r wal nesaf i mewn, ac yn gysgod i'r rhai safai i ergydio oddi arno. Ochr oedd y mur cerrig ysgwâr i'r wal fawr, ddeg troedfedd o led,—wal o gerrig a phridd. Y peth welai'r Pict felly fyddai mur cerrig yn codi'n syth o'r ffos, a throsto gwelai helmau disglair y milwyr oedd yn cerdded hyd ben y wal. Gyda gwaelod y wal, ar yr ochr ddeheuol, rhedai llwybr pum troedfedd o led. Ar yr un ochr, hefyd, yr oedd tyrau'n edrych dros y mur, a gwylwyr arnynt ddydd a nos.

Yn nes i'r de, rhwng y Solway ar Tyne, yr oedd mur arall, mur Hadrian. Yr oedd hwn yn wyth troedfedd o led, ac yn ugain troedfedd o uchder. Nid oedd eisiau ffos o'i flaen, gan ei fod wedi ei godi ar ael garegog y bryniau saif uwchlaw dyffrynnoedd yr Eden ar Tyne. Yr oedd tri chant ac ugain o dyrau ar y mur hwn, a thros dri ugain o gestyll, a ffordd filwrol yn ei gysgod. Yn gyfochrog a hwn yr oedd mur triphlyg arall, a ffos, a ffordd.

Pan ymadawodd y Rhufeiniaid, gwelsom fod ymryson am y gallu wedi bod yn y dalaeth ddwyreiniol rhwng Gwitheyrn ac, Emrys. Bu llawer un, yn y dalaeth orllewinol hefyd, yn ymgeisio am swydd a gallu'r Gwledig gadwai'r mur. Ym mysg y darnau o ganeuon Cymreig y dywedi'r eu bod yn perthyn i'r bumed ar chweched ganrif, y mae cân o fawl, yn llyfr Taliesin, i Arthur Wledig. Dyma ychydig linellau o honi,—

Ketwyr colledic.
Tebygafi dull dic.
O diua pendeuic.
O dull diuynnic.
Oleon luryc.
Dyrchafawt gwledic.

Eu hystyr, feallai, yn ein Cymraeg ni ydyw hyn,—

Colledig yw gwyr y gad,
Debygaf fi, mewn dull dig.
O ddifa'r pendefigion,
O ddull difaol,
O'r lleng lurygog,
Ymddyrchafodd y Gwledig.


Yr oedd y gwahanol bendefigion yn ceisio eu hanibyniaeth ym mhob rhan o'r dalaeth, ac yn gwrthod ymostwng i'r Gwledig unai'r dalaeth, ac a'i hamddiffynnai. Pan fyddai'r gelyn yn difrodi, a'r ysbeiliwr heb neb i'w atal, ceisiai rhyw bendefig galluog uno'r dalaeth, a'i rheoli yn null y Dux Britanniarum. Cyn y medrai un felly wneud ei hun yn Wledig yr holl dalaeth, yr oedd yn rhaid ymladd llawer câd ddig; yr oedd yn rhaid difa llawer cydbendefig eiddigeddus; yr oedd yn rhaid cael lleng lurygog, fel gosgorddlu'r tywysog Rhufeinig, i gynnal ei freichiau ac i roddi grym i'w air. A phan fyddai'r Gwledig wedi medru gwneud ei hun yn un ben y dalaeth, byddai bob amser yn dynwared rhwysg ac awdurdod y Dux Britanniarum,—y fantell goch, ei gader gymhesur, ei osgorddlun cerdded hyd. y mur. Ac ebe'r un gân o fawl i Arthur Wledig,—

Ae goch gochlessur.
Ae ergur dros uur.
Ae kadeir gymessur.
Ym plith goscord uur.

Y maen debyg mai gwaith Arthur oedd amddiffyn mur y gogledd yn erbyn y Pictiaid a'u cyfeillion, môr—ladron o'r cyfandir. Sonnir am Arthur rai gweithiau fel am ryw Wledig arall, yn y caneuon sydd yn Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest a Llyfr Taliesin, caneuon sy'n dweud hanes y chweched ganrif, os credir eu bod wedi dod i lawr o amser mor bell. Ni sonia Gildas am y Gwledig hwn, ond yn Nennius cawn hanes y deuddeg brwydr ymladdodd. Hwyrach mai ym mro mur y gogledd yr ymladdwyd y brwydrau hyn, hwyrach mai yno y mae Coed Celyddon a Threwryd. Hwyrach mai yno y mae Camlan, lle collodd y Gwledig ei fywyd wrth amddiffyn y dalaeth.

Ar lan uchaf Llyn Tegid y dywed traddodiad i Arthur gael ei Addysg

Ymhen canrifoedd wedi'r chweched ganrif y mae Arthur yn ymherawdwr, ac y mae dychymyg cenedl wedi ei wneud yn amddiffynnydd anfarwol ei wlad. Tuedd y gorllewin ydyw gwneud ei harwyr yn dduwiau; tuedd y dwyrain ydyw gwneud ei duwiau'n ddynion. Yn yr hen Rufain baganaidd gwneid yr ymherawdwr yn dduw wedi ei farw: a phan syrthiodd Prydain yn ôl i ryw hanner paganiaeth yn y rhyfeloedd yn erbyn y Saeson, cofid yr hen draddodiadau paganaidd am yr ymherawdwr. Daeth Arthur, amddiffynnydd diweddaf y mur, yn ymherawdwr ac yn anfarwol.

Y mae darlunio tlws ar Arthur ym Mreuddwyd Rhonabwy,—un o ramantau prydferthaf llenyddiaeth y byd. Nid fel hanes y rhoddir y darluniadau, ond fel breuddwyd. FelIy y mae un o wýr y ddeuddegfed ganrif yn sefyll ger bron Arthur, ac y mae Arthur yn gwenu wrth weled mor fychain yw'r gwýr breswylia ei ynys yn awr.

Yr oedd gŵr o'r enw Rhonabwy, ebe'r hanes, gyda dyn coch o Fawddwy a dyn mawr o Gynlleitlh, yn ymlid ar ôl lleidr oedd yn diffeithio tri chwmwd gorau Powys. Ryw ddiwrnod dacw dŷ yn ymgodi o'u blaen,—hen neuadd burddu dal union, a mwg ddigon yn dod o honi. O flaen ystorm o wynt a gwlaw. troisant i mewn iddi. Nid oedd yr hen neuadd yn lle mwyn i aros ynddi, ac nid prydferth oedd yr olwg ar yr hen wrach ar gŵr coch a'r wraig feinlas fechan oedd bia'r tŷ. Nid oedd eu gwely yn esmwyth,—byrwellt dysdlyd chweinllyd. a bonau gwrysg yn aml drwyddo. Methai Rhonabwy gysgu. Cododd, a gorweddodd ar groen dyniawed melyn, a chysgodd ar hwnnw. Gydag iddo gysgu, yr oedd yn teithio eilwaith, debygai, gyda'i gymdeithion, tua Rhyd y Groes ar Hafren, hyd faes. Edrychodd dros ei ysgwydd, ac wele'n dilyn ar eu holau ŵr
Taith Rhonabwy
Taith Rhonabwy

TAITH RHONABWY.

ieuanc pengrych melyn, ar farch melyn. Yr oedd ei goesau, o ben ei lin i lawr, yn Ias; ac amdano yr oedd gwisg o sidan melyn wedi ei wnïo ag edau las, godreu'r wisg yn Ias hefyd,—y glas cyn Iased a dail ffynidwydd, a'r melyn cyn felyned â blodau'r banadl.Daeth ofn ar Ronabwy a'i gymdeithion wrth ei weled, a dechreuasant ffoi. Daeth y marchog o hyd iddynt ac addawodd ei nawdd iddynt, gan ddweud mai ei enw oedd Iddawc Cordd Prydain, a phaham y cafodd yr enw hwnnw. Pan oedd Iddawc yn gorffen dweud hanes ei ddrwg a'r bennyd ar drugaredd, clywent dwrf. Wedi edrych yn ôl, gwelent ŵr melyn—goch ieuanc, mewn gwisg o felyn a choch,—sidan melyn fel blodau'r banadl yn ymyl i wisg oedd gyn goched â'r gwaed cochaf erioed. Gofynnodd i Iddawc a gaffai ran o'r dynion bychain hynny oedd gydag ef, a dywedodd Iddawc y cai ran o'u cymdeithas. Wedi cerdded ychydig gyda hwy. Aeth ymaith a dywedodd Iddawc mai Rhuawn Pybyr ab Deorthach Wledig oedd. O'r diwedd cyrhaeddasant Ryd y Groes, a gwelent luestau a phebyll llu mawr. Yr oedd Arthur yn eistedd mewn ynys wastad islaw'r rhyd, ac esgob a phendefig gerllaw: a cher eu bron yr oedd gwas mawr mewn gwisg burddu, a'i wyneb cyn wynned ag asgwrn eliffant. Wedi ateb cyfarch i lddawc, gofynnodd Arthur dan wenu, ym mha le y cafodd y dynion bychain hynny. Gofynnodd Iddawc, wrth ddweud mai ar y ffordd y cafodd hwynt, paham y chwarddai Arthur. Iddawc, ebyr Arthur, nid chwerthin a wnaf, namyn truaned gennyf fod dynion cyn fawed a hyn yn gwarchod yr ynys hon, wedi gwŷr cystal â'i gwarchodai gynt. Gwelodd Rhonabwy y fodrwy oedd am fys Arthur, pe nas gwelsai honno ni allasai gofio dim o'r hyn welodd yn ei freuddwyd. Gwelodd hefyd fyddinoedd yn cyrchu tua'r rhyd. Daeth byddin o wýr ar feirch cochion, mewn gwisgoedd cochion,—cymdeithion Rhuawn Pebyr, oedd a hawl i'r hyn a ofynnent ym mhob man. Daeth byddin arall tua'r rhyd; yr oedd rhan uchaf pob march cyn wynned â'r alaw,[1] a'r rhan isaf cyn ddued a machudd,—byddin Adaon fab Taliesin, ac ymwersyllodd hon hefyd ger y rhyd. Yna gwelodd Rhonabwy ŵr tal hardd, Caradog Freichfras, yn codi ac yn dweud yn eofn na ddylai byddin mor fawr fod mewn lle mor fychan, eithr y dylai fod yn ymladd ag Ossa Gyllell Fawr. Ac wrth arch Arthur wele'r holl fyddin yn cychwyn, a Rhonabwy wrth sgil Iddawc, tua Chefn Digoll. Wrth groesi'r rhyd, edrychodd Rhonabwy'n ôl, a gwelai ddwy fyddin arall yn dod. Yn y fyddin gyntaf yr oedd y milwyr mewn gwisg o sidan gwyn gydag ymylau purddu, ar feirch canwelw oddieithr eu gliniau duon, ac yr oedd eu baneri'n wynion a'u pigau'n dduon. Gwŷr Llychlyn oedd y fyddin wen, dan arweiniad March fab Meirchion: ac ar eu holau doi gwŷr Denmarc, dan arweiniad Ederri fab Nudd. Yr oedd y rhain mewn gwisgoedd purddu,[2] gydag ymylau gwynion, ar feirch duon gyda gliniau gwynion, ac yr oedd eu baneri'n dduon a'u pigau'n wynion. Gwelodd Rhonabwy ruthr y milwyr i weled Cai, y tecaf ddyn yn llys Arthur, yn marchogaeth ymhlith y llu. Gwelodd Gadwr, iarll Cernyw, yn dod â chleddyf Arthur iddo,—cleddyf o aur, a llun dwy sarff danllyd arno. Pan arafhaodd y llu dygwyd cader Arthur, a'r llen oedd i fod oddi tani,—llen na fynnai liw ond ei lliw gwyn ei hun: llen na welid neb fyddai arni, tra ef yn gweld pawb. Yna dechreuodd Arthur ac Owen fab Urien chwareu gwyddbwyll. Tra'r oedd y chware ar ei ganol, wele drindod i ddweud fod gweision Arthur yn blino brain Owen; ac yna wele dri o farchogion Arthur yn dod i ddweud fod y brain wedi ymosod arnynt i'w difa. Y cyntaf o'r rhai ddaeth i ddadleu achos y brain oedd Selyf fab Cynan o Bowys,—gŵr fu farw yn y gad ar forfa Caer yn 613. Gwelodd Rhonabwy wŷr Arthur yn eistedd mewn cyngor, i wneud heddwch am ennyd ag Ossa Gyllell Fawr. Gwelodd wŷr Groeg yn dwyn teyrnged i Arthur, clywodd Gai yn galw ar y milwyr i ddilyn Arthur tua'r de, ac wrth dwrf y fyddin yn cychwyn deffrodd, a gwelodd ei fod wedi cysgu teirnos a thridiau ar groen y dyniawed melyn yn yr hen dŷ.

Y mae arwyr chwe chant o flynyddoedd, o'r hen Garadog i Selyf ieuanc, wedi eu casglu at eu gilydd, i ymdaith gydag Arthur hyd ddyffryn Hafren yn erbyn Saeson y de. Y mae perffeithrwydd arddull y rhamant hon yn dangos yn eglur fod cenhedlaethau lawer, wrth ei hadrodd o oes i oes, wedi bod yn gloewi ac yn gloewi ei ffurf. Nid mewn un dydd y gwnawd llenyddiaeth fel llenyddiaeth hon, y mae ei hadeiladwyr wedi cario eu meini o bell,—y mae ymhob rhamant hen ddefnyddiau hanes wedi eu caboli gan y rhamantwr at ei bwrpas ei hun. O'r breuddwyd hwn, ac o'r rhamantau eraill, cawn lawer awgrym am hanes cyfnod cyntaf ein cenedl,—darnau o hen hanes ydynt, wedi eu gwneuthur yn adeilad arall. Yn y breuddwyd gwelwn orymdaith y llengoedd Rhufeinig fu'n cerdded hyd y mur, ac hyd y ffyrdd Rhufeinig sy'n arwain o honno i'r de. .Ac yn lle'r Dux Britanniarum gwelwn Arthur, a'r rhai fu'n ymladd dros Gymru o oes i oes.

Y mae llai o newid wedi bod ar ein barddoniaeth hynaf nag ar ein rhyddiaith hynaf. Yr oedd yn rhaid i'r rhamantwr wneud ei ystori yn ddealladwy iddo ei hun cyn y medrai ei chofio, yr oedd yn rhaid iddo ei gwneud yn ddealladwy cyn y mwynheid hi gan y tywysog a'r mynach a wrandawai arno. Ond yr oedd ffurf y gerdd yn help i'w chofio, pan na

llyn tegid a'r aran yn y pellder.
Ar lan uchaf Llyn Tegid y dywed traddodiad i Arthur gael ei addysg.

ddeallid hi gan yr hwn a'i hadroddai; ac yr oedd yn hawddach ganddo ddweud geiriau na ddeallai, a sôn am wŷr nas gwyddai pwy oeddynt, pan gofiai nad adrodd ei feddyliau ei hun yr oedd, eithr meddyliau beirdd y tybiai eu bod ymron yn ysbrydoledig.

Yn Llyfr Du Caerfyrddin, yn Llyfr Coch Hergest, yn Llyfr Taliesin ceir casgliadau o hen farddoniaeth, yn llawn adlais o'r brwydro fu rhwng Ffichtiaid a Gwyddyl a Chymry ac Eingl a Saeson, ar draeth y gorllewin, ar fur y gogledd, ac yn nyffryn Hafren.

Y mae llawer o'n barddoniaeth foreuaf yn desgrifio'r ymladd fu ar fur y gogledd. Dywed am gwýr gerddai'r mur mewn anrhydedd ac ardderchowgrwydd,—balchder y mur. Dywed am y mynych ymgyrch dros y mur i wlad y Pictiaid, pan anturiai'r Gwledig dros derfyn hen fyd y Rhufeiniaid, i wlad y gogledd neu i ynysoedd y môr,

"Tri llonnaid Prydwen yr aethom ni iddi,
Namyn saith ni ddaethom o Gaer Sidi."

Dywed am dri ugain cannwr yn sefyll ar y mur, ac am ddim ond saith yn dychwelyd gydag Arthur o Gaer Golud. Dywed am frad Cristionogion wrth amddiffyn y mur, am un

Fradychodd Iesu,
Ac ef yn credu.

A darlunia'r gelyn creulawn, yr hwn a ddygodd gysgod ar y byd, ac a wnaeth i fedydd fod mewn enbydrwydd, yn myned

"Ym mhlith oer gethern
Hyd yng ngwaelod uffern."

Dywed y farddoniaeth hon, hefyd, am yr ymdrech rhwng Gwyddel a Brython, am gywreinwaith a hud y naill, ac am fuddugoliaeth y llall, pan ddarostyngwyd Gwyddyl y traeth gan Wledig Cymru,—

"Hudlath Mathonwy
yng nghoed pan dyfwy,
Cynan a'i caffwy Pryd pan wladychwy."

Yn y farddoniaeth hon y mae y Gwledig yn bob peth,—rhuthr Geraint ab Erbin ym mrwydr Llongborth, cledd a tharian Urien yng Ngwenystrad, ateb Owen ab Urien ym mrwydr Argoed Llwyfein, distawrwydd tywyll plas Cynddylan wedi'r anrhaith. Bob yn dipyn rlioddir yr holl ymladdwyr hyn yng nghwmni eu gilydd, dan un Gwledig. Gwnawd i bob unben yn hanes boreu Cymru ymladd dan faner Arthur,—yn wÿr y gogledd, yn wÿr y gorllewin, yn wÿr y de, ie yn hen dduwiau paganaidd hefyd. Y mae rhestr o'r milwyr hyn yn y Llyfr Du,—y porthor Glewlwyd Gafael Fawr, Cai deg, Mabon Fab Mydron fun gwasanaethu Uthyr, Manawyddan gyda'i ddwys gyngor a'i darian dolciog, Bedwyr a Gwrhyr, ar dewrion fu'n amddiiffyn pob goror yn yr ynys hon. Daeth y rhai hyn i gyd yn wÿr Arthur, ac yr oedd Arthur yn Wledig ar bawb. Oherwydd fod eisieu amddiffyn y dalaeth drwy ymladd parhaus rhag gelynion oedd yn ymgryfhau bob dydd, daeth y Cymry'n un, a daeth y Gwledig a'i air yn air ar bawb. Yn un o'r caneuon gelwir Arglwydd nefoedd a daear yn Wledig nef goludog.

Rywbryd ar ol yr ymladd rhwng Gwyddyl, Brythoniaid, Eingl, a Saeson, crwydrodd prydydd, Llywarch Hen neu rywun arall, dros y wlad, o fedd i fedd. A darlunia hwynt,—y beddau a wlych y gwlaw ar fro a bryn. Mae Dylan yn huno yn swn y don, a gorffwys Pryderi hefyd lle tery'r tonnau ar y tir. Mae bedd Gwrwawd mewn lle uchel, a bedd Cynan dan gysgod y bryn. Mae bedd Owen ab Urien ym mhellder byd, mae bedd Rhydderch Hael yn Aber Erch.

"Bedd mab Osfran yng Nghamlan,
Gwedi llawer cyflafan;
Bedd Bedwyr yn Allt Tryfan."

Wedi gwisgoedd coch a chain dyma fedd Owen yn Llan Heledd; dyma fedd da Owen ab Llywarch Hen; ac wedi clwyfau a meusydd gwaedlyd, wedi marchogaeth ceffylau gwynion, onid hwn yw bedd Cynddylan? Mewn ynys y mae bedd cul a hir Meigen ab Rhun, mae bedd Llia Wyddel dan y gwellt a'r dail crin yn Ardudwy. Nis gwyr neb pwy biau'r beddau hir yng Ngwanas; mae bedd Llew Llaw Gyffes,—gwr oedd hwnnw na roddai'r gwir i neb,—wrth y môr.

"Pwy pieu y bedd yn llethr y bryn?
Llawer nis gwyr a'i gofyn.—
Bedd Coel mab Cynfelin."

Y mae bedd yn y dyffryn, a bedd yn y morfa, bedd dan y derw, a bedd dan ael y bryn, bedd isel llednais a bedd enwog,—ac am laweroedd o'r beddau gofyn y bardd,—Pwy pia hwn, a bedd pwy yw hwn? Nid oedd ond un heb fedd,—

"Bedd March, bedd Gwythyr,
Bedd Gwgawn Gleddyfrudd,
Ynfyd son fod bedd i Arthur."

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD VI MAELGWN GWYNEDD

Llu Maelgun bu yscun y doethan.

LLYFR DU CAERFYRDDIN.

TRA'R oedd y Pictiaid yn ymosod ar y mur, yr oedd yr Eingl yn ymosod ar y traeth. Cyn diwedd y chweched ganrif yr oedd Bryneich a Deifr yn eiddo iddynt, — holl arfordir y dwyrain, o Gaer Efrog i'r mur. Newidiodd hyn y rhyfel; yn lle Pictiaid ac Eingl yn ymosod ar dalaeth Brydeinig y Cymry, cawn deyrnas Anglaidd yn ymladd yn erbyn Cymry'r gorllewin a Phictiaid y gogledd. Wedi ymsefydlu ym Mryneich, gorfod i'r Eingl ddal pwys ymosodiadau'r Pictiaid, a chafodd y Cymry amser i ymosod ar elyn arall.Yr oedd y Gwyddyl wedi ymsefydlu yng Ngwynedd ac yn Nyfed, wedi ymfudo o'r Iwerddon ac o'r Alban, ac wedi medru ymgartrefu ar hyd traeth gorllewin Cymru tra'r oedd y Gwledig yn ymladd â'u cydgenedl ar y mur. Pan ddaeth yr Eingl rhwng y Cymry a Gwyddyl y gogledd, trodd y Gwledig ar y Gwyddyl oedd yng Nghymru. Yn llyfr Taliesin sonnir am Gunedda, a'r ofn wnâi Eingl Bryneich yn welw wrth feddwl am dano. Efe yw Cunedda Wledig y traddodiadau Cymreig. Dywed Nennius mai o'r gogledd, o Fanau Gododin, y daeth. Dywed traddodiad ei fod yn fab i ferch Coel, yr hwn oedd yn byw, yn ôl bob tebyg, yn rhan orllewinol Ystrad Clwyd. Erys enw Coel eto yn enw Kyle, yn sir Ayr; ac y mae wedi aros, heblaw hynny, mewn hwiangerddi. Nid oes ryw lawer o ddadblygiad mewn hwiangerdd, y mae plant pob oes yn debyg iawn i'w gilydd, ac y mae plant y Saeson eto'n clywed, —

Old King Cole was a merry old soul,
:And a merry old soul was he.

Y mae traddodiadau Rhufeinig yn hanes teulu Cunedda Wledig. Y mae enwau Rhufeinig ymysg ei hynafiaid, gelwid un o honynt yn Beisrudd, yr oedd ganddo osgordd a gwregys aur y Dux Britanniarum. Tra'r oedd Cunedda'n Wledig daeth rhan ddeheuol y dalaeth,—ein Cymru ni,—yn fwy pwysig na gogledd y dalaeth. Yr oedd yr Eingl wedi mynd â darn o'r gogledd; ac nid oedd y mur yn amddiffyn rhag y Pictiaid mwy. Daeth Cunedda Wledig a'i deulu tua'r de, ac yngln â Gwynedd a Cheredigion y sôn traddodiad fwyaf am dano. Pan ddaeth i gyffiniau Gwynedd y mae'n debyg fod yr holl Gymry, Ordovices y gogledd a Silures y de,—wedi ei dderbyn fel eu Gwledig. Ei waith oedd gyrru'r Gwyddyl o Wynedd a Dyfed, neu eu darostwng dan lywodraeth Gwledig y Cymry. Dywed traddodiad mai oddi wrth fab iddo ef, Meirion, y cafodd Meirionnydd ei henw; ac mai oddi wrth fab arall neu frawd, Ceredig, y cafodd Ceredigion ei henw hithau. Y maen debyg mai Ceredigion a Meirionnydd,—yr hen Feirionnydd rhwng afon Mawddach ac afon Dyfi,—orchfygwyd gan Gunedda a'i deulu ym mhoethder yr ymladd. Gyrasant y Gwyddyl, efallai, o'r parthau hyn; ond, pan oedd nerth ac undeb y Gwyddyl wedi eu torri, gadawyd iddynt aros yng Ngwynedd a Dyfed, naill a'i fel deiliaid i'r Gwledig, neu dan is—frenhinoedd darostyngedig iddo. Gallwn yn hawdd ddyfalu mai'r perygl yr oedd y Cymry ynddo oherwydd ymfudiad parhaus y Gwyddyl i'w gwlad,—ymfudiad parhaus wnai'r dyfodiaid yn allu cryfach na hen breswylwyr y tir,— gallem feddwl mai'r perygl hwn wnaeth i'r Gwledig ddod o'r gogledd, a gallem feddwl mai'r perygl hwn hefyd wnaeth i holl dywysogion y Cymry ymuno i gynnal breichiau Cunedda Wledig.

Nis gellir byth, hwyrach, ddweud achau teulu Cunedda Wledig yn glir. Ond y mae un peth yn sicr am danynt, mai hwy ddarostyngodd allu'r Gwyddyl ac a roddodd unbennaeth Cymru i'r Cymry. Gorchfygasant y dyfodiaid, wedi rhyfel blin am amryw genhedlaethau. Ar yr un pryd, y mae'n sicr fod y rhyfel yn para ar ororau gogleddol y dalaeth,—rhwng Cymry, Gwyddyl, ac Eingl. Bu dau ganlyniad, o leiaf, i ryfeloedd a buddugoliaethau Cunedda a'i deulu. Un oedd,—bu'r rhyfel, fel bob amser, yn ddinistr i burdeb crefydd a moesoldeb y wlad. A chanlyniad arall oedd hwn,—pan aeth y perygl oddi wrth y Gwyddyl heibio, nid oedd y tywysogion eraill mor foddlon i ddisgynyddion Cunedda fwynhau gallu a rhwysg y Gwledig.

Dyma ddau ganlyniad fuasem yn ddisgwyl; ac y mae gennym sicrwydd mai'r ddau ganlyniad hyn fu. Gellir ameu'r traddodiadau gasglwyd gan Nennius, a thraddodiadau loffwyd gan eraill ar ei ôl; gellir ameu caneuon Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest a Llyfr Taliesin, wrth gofio mai wedi'r ddeuddegfed ganrif yr ysgrifennwyd y llyfrau hyn. Ond nid oes wiw ameu Gildas. Yr oedd ef yn byw yng nghanol y chweched ganrif, ac y mae'r ffeithiau hanesyddol sydd yn ei gwynfan chwerw, er mor ychydig ydynt, yn werthfawr iawn. Yn ei amser ef, pan oedd y Gwyddyl wedi eu darostwng, a'r Saeson wedi eu gorchfygu yn y dalaeth ddwyreiniol ym mrwydr Mynydd Baddon, yr oedd amryw fân frenhinoedd yng Nghymru. A'i allu'n fwy na'u gallu hwy, yr oedd Maelgwn Gwynedd, pen teulu Cunedda Wledig. Cofier mai mynach oedd Gildas, ac mai ei duedd oedd gwneud ei ddarlun mor ddu ag y medrai, fel pob pregethwr cyfiawnder. Ac yna darllenner ei ddesgrifiad o dywysogion Cymru yn hanner olaf y chweched ganrif,—

"Canys i ba beth y celwn ni yr hyn y mae’r cenhedloedd oddi amgylch, nid yn unig yn ei wybod, ond yn ei ddannod, sef, fod gan Brydain frenhinoedd o dreiswyr, a barnwyr o orthrymwyr, ie, y rhai a ysglyfaethant y gwirion, ac a gadwant yr euog, a chanddynt lawer o wragedd puteinaidd, yn llochesu lladron a godinebwyr, yn anudonwyr, yn cyfodi terfysgodd ym mysg eu gilydd? Megis y darfu i'r gormes—deyrn Cystenyn yleni yn yr eglwys ladd dau o'r had brenhinol, er iddo ymrwymo a lIw cyhoeddus na wnai dwyll i'w bobl; wedi iddo o'r blaen yrru ymaith ei wraig o serch ar buteiniaid. O paham yr wyt ti yn archolli dy enaid dy hun? O paham yr wyt ti yn ennyn y tan i ti dy hun? Edifarha a thyred at Grist. Y tad daionus a wna wledd o gysur nefol i'r dychweiedig, fel y profo mor dda yw'r Arglwydd.

A pheth a wnei dithau, Aurelius Conan, y cenaw llew? Onid wyt ti ar soddi yn yr unrhyw fryntni o fwrdwr a godineb? Oni throi at yr Arglwydd yn fuan, Efe a chwery a’r cleddyf atat ti ar fyrder, ac ni bydd a'th waredo di o'i law Ef.—A thithau, Vortipor benllwyd, rheolwr Dyfed, tebyg i lewpart amliwiog o anwireddau, mab diras i frenin da, fel Manasse i Hezeciah, beth a wnei di yn cyffio yn dy orseddfainc dwyllodrus, halogedig gan fwrdwr a phuteindra? Na threulia yr ychydig sydd yn ôl o'th ddyddiau yn digio Duw, canys yn awr y mae'r amser cymeradwy a dydd iechydwriaeth yn tywynnu i'r edifeiriol.

A thithau, Cuneglas, paham y gwnei gymaint helbul i ddynion trwy ryfel cartrefol, ac i Dduw trwy aneirif bechodau, yn erbyn y gair syn dywedyd nas gall godinebwyr etifeddu teyrnas nef? Paid â'th ddigofaint tuag at Dduw a'i braidd, newid dy foddion, fel y byddo iddynt hwy weddio drosot ti, y rhai a allant rwymo yr euog ar y ddaear a rhoi gollyngdod i'r edifeiriol? Tithau hefyd, Maglocun, a yrraist gymaint o frenhinoedd gormesol allan o'u teyrngader a'u bywyd, paham yr ymdreigli yn y fath dduon bechodau, megis pe bait wedi meddwi ar win Sodoma? Oni orthrymaist ti, drwy gleddyf a thân, dy ewythr y brenin, a'i filwyr dewr, y rhai oedd mewn brwydr nid anhebyg yr olwg arnynt i genawon llewod? Esgeulusaist eiriau'r proffwyd a ddywed, Gŵyr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau. Gwae di, anrheithiwr, pan ddarffo it anrheithio, y'th anrheithir. Pan addunedaist fyned yn fonach—ysgatfydd o ran pigiadau dy gydwybod—ac wedi troi o frân yn golomen, ac ehedeg rhag ewinedd creulon y gwalch, i gelloedd diogel y saint, O faint fuasai llawenydd yr Eglwys, oni buasai i elyn dynolryw dy dynnu di allan o'i mynwes hi! O, fel y buasai gobaith nefol yn calonogi yr ysbrydoedd cystuddiedig, pe buasit heb ddychwelyd fel ci at ei chwydfa. Yn awr rhoddi dy aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod a diafol! Ni wrendy dy glustiau hyfrydlais disgyblion Crist yn canu mawl i Dduw, ond dadwrdd gwenieithwyr celwyddog yn canu dy fawl dy hun. Ie, yr wyt ti, fel ebol gwyllt, yn rhedeg trwy faesydd anwiredd, gan dybied fod y fan lle ni bu yn felysach, ac fyth yn myned rhagddo. Canys, gan ddirmygu dy wraig briod, ceraist wraig gŵr arall, ac yntau yn fyw; a hwnnw nid estron oedd, ond mab dy frawd. Ac i soddi dy war galed yn ddyfnach, bwriaist arni ychwaneg o bwys euogrwydd, gan i ti, trwy hoced y butain, ladd dy wraig dy hun a gŵr y llall, i'w chymeryd atat! Pa ŵr duwiol, wrth glywed y fath beth, nad ocheneidia ei ymysgaroedd ynddo? Pa eglwyswr, yr hwn y mae ei galon yn union tuag at Dduw, na ddywed gyda'r proffwyd, Pwy a rydd i'm pen ddwfr, ac i'm llygaid ffynnon o ddagrau, fel y wylwn ddydd a nos am laddedigion fy mhobl! Nid oes diffyg cynghorion arnat ti, gan fod gennyt athraw sydd ddysgawdwr huawdl agos i Brydain oll. O frenin, golch dy galon oddi wrth dy ddrygioni, ac na ddirmyga Dduw sydd yn dywedyd, Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth, os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi.—Hefyd yn Deuteronomium, Cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt. O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd! Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddeng mil i ffoi? Na fychana'r proffwydi, na ninnau chwaith, er ein gwaeledd, y rhai ydym, mewn mesur o ddiragrith a dwyfolder meddwl, yn dal ar air y proffwydi, rhag ein cael yn gwn mudion."

Y mae Sieffre o Fynwy wedi defnyddio'r hanes hwn, neu draddodiadau am yr un brenhinoedd, ac wedi ychwanegu llawer ato o ryw gyfeiriad neu gilydd. Cynan oedd y Gwledig, ond y mae'n amlwg fod gallu Maelgwn yn cynyddu o hyd. Yr oedd ei dad, Caswallon Law Hir, wedi estyn terfynau Cunedda, trwy ddarostwng holl Wyddyl Gwynedd, neu eu gyrru’n ôl i'r môr. Estynnodd Maelgwn fwy fyth ar derfynau teyrnas ei deulu. Darostyngodd ynys Môn, a daeth yn eiddo iddo; a dyna'r rheswm paham ei gelwir yn ddraig yr ynys. Heblaw hyn, aeth mewn llongau i'r môr, a daeth ynysoedd eraill yn eiddo iddo; hen lochesfeydd y Gwyddyl a môr—ladron eraill. Dywed Sieffre, o ba le bynnag y cafodd y traddodiad, fod Maelgwn wedi cael holl Brydain dan ei lywodraeth, a chwe ynys gyda hi. Ni chafodd Maelgwn unbennaeth yr holl ynys, ac ni ddarostyngodd, o "fynych greulawn ymladdau", yr holl wledydd enwir gan Sieffre,—Iwerddon, Ysgotland, Orc, Llychlyn, a Denmarc. Eto i gyd, y mae peth gwirionedd yn y traddodiadau hyn.

Yn un peth, y maen sicr fod Maelgwn Gwynedd wedi darostwng Gwyddyl Gwynedd yn hollol, wedi adeiladu llynges, ac wedi ymlid pob môr—ladron i'r Iwerddon ac ynysoedd y gogledd, gan osod ei arswyd arnynt. O'r cyfeiriad hwn nid oedd berygl mwyach.

Rhoddodd llwyddiant Maelgwn, maen ddiameu, fri mawr iddo,—"tecaf gwas o holl frenhinoedd ynys Prydain, diwreiddiwr llawer o wŷr creulawn Cadarn." Yr oedd y tywysog enwocaf yng Nghymru yn cael enw'r Gwledig, fel yr oedd tywysog enwoca'r Saeson wedi hynny yn cael yr enw Bretwalda. Pan oedd Gildas yn ysgrifennu ei alarnad chwerw, Cynan oedd y Gwledig, ond yr oedd Maelgwn, er ei bechodau, wedi llwyddo. Cynan oedd teyrn Powys, yn ol pob tebyg, ac yr oedd y Saeson i ymosod cyn hir ar ei ochr ef o Gymru, fel yr oedd y Gwyddyl wedi ymosod ar ochr Maelgwn. Gyda glan y môr y cysylltir enw Maelgwn; ond gan mai yn y gorllewin yr oedd mwyaf o berygl ar yr adeg hon, ar lan môr y gorllewin yr oedd lle i ennill brwydrau a chlod.

Pan oedd Maelgwn yn anterth ei lwyddiant, yr oedd eisieu Gwledig, ac ymgrymodd tywysogion ereill Cymru i frenin y gorllewin ar môr. Pa un a'i wedi brwydr ynte o'u bodd y rhoddodd y lleill ei goron iddo, nis gallaf ddweyd. Dywed traddodiad fod y tywysogion wedi ymgynnull ar y traeth ger Aber Dyfi, ac wedi eistedd yn eu cadeiriau ar lan y môr, i ddewis brenin ar holl Gymru. Penderfynwyd mai yr hwn fedrai eistedd yn ei gader olaf, heb gilio o flaen y Ilanw, fyddai brenin Cymru. Yr oedd rhyw wr o ran Maelgwn o'r wlad, o Arfon neu Feirionnydd, o'r enw Maeldaf Hen, wedi gwneyd cader o edyn cwyredig i Faelgwn Gwynedd. A nofiodd honno, pan oedd y cadeiriau ereill wedi eu dymchwelyd, ar rhai eisteddai arnynt wedi cilio i fyny'r traeth. Ac am hynny coronwyd Maelgwn yn frenin Cymru.

Beth bynnag arall ydyw ystyr yr hen draddodiad hwn, dengys fod Maelgwn wedi ei ddewis yn Wledig. A dengys hefyd, hwyrach, fod a fynno ei lynges rywbeth a'i ddyrchafiad. Ac felly daeth brenin y gorllewin ar môr, yn ei gader nofiadwy, yn Wledig holl Gymru, yn ben ar yr holl fân frenhinoedd ereill.

Dywed Gildas mai mynach oedd Maelgwn unwaith, ac mai pechod oedd gadael ei fynachdy. Byddai meibion brenhinoedd yn aml yn cymeryd gwisg a llw'r mynach, gan ddewis tangnefedd y mynachdy yn hytrach na bywyd tymhestlog brenin daearol. I fynach fel Gildas nid oedd ond drygioni ym mywyd y byd, a'r mynachdy oedd unig noddfa crefydd a rhinwedd. Ond gallai fod Maelgwn, yn nhawelwch ei fywyd mynachaidd, wedi meddwl fel arall. Yr oedd y gelyn paganaidd yn bygwth Cymru, a dewisodd adael ei noddfa a'i weddi, i ymladd ag ef. A phan orchfygwyd y gelyn, yr oedd uchelgais a gwladgarwch yn gwneyd iddo feddwl am gader Gwledig ei wlad. Pa fodd bynnag, efe a'i deulu waredodd Gymru oddiwrth y Gwyddyl, efe roddodd arswyd ei enw ar fôr—ladron y gogledd, efe unodd frenhinoedd ei wlad dan ei lywodraeth ei hun.

Paganiaid oedd y gelynion orchfygasai Maelgwn. Cenhedloedd paganaidd oedd yn bygwth ymdaenu dros Gymru o'r Iwerddon a'r gogledd, yn ogystal ag o for y dwyrain. Wrth gymeryd iau Maelgwn Gwynedd, yr oedd y cenhedloedd paganaidd hyn yn cymeryd iau Cristionogaeth arnynt hefyd. Oes Cunnedda Wledig a'i deulu oedd oes y seintiau Cymreig. Pan ddaeth gallu Maelgwn yn oruchel ym Môr yr Iwerddon, dilynodd cenhadon Cristionogol ol ei longau. Dyma gyfnod effro yng nghenhadaeth Gristionogol Cymru. Tra'r oedd teulu Cunedda mewn awdurdod, daeth y Gwyddyl a'r Pictiaid barbaraidd, fyddai'n arfer anrheithio'r dalaeth, yn Gristionogion. Pregethodd Padrig Sant yr efengyl yn yr Iwerddon, adferodd Cyndeyrn Sant Gristionogaeth y gogledd, a phregethwyd yr efengyl i Wyddyl Dyfed gan Ddewi Sant,—yr hwn a wnaeth ei gartref yn Nhyddewi yn eu canol.

Derbyniodd Gwyddyl Cymru, felly, lywodraeth a chrefydd teulu Cunedda Wledig; ac ymledodd Cristionogaeth i'r Iwerddon, gan ddofi a gwareiddio'r llwythau oedd yno. O hynny allan, nid oedd berygl o'r gorllewin; o hynny allan yr oedd cysylltiad agos rhwng Cymru ar Iwerddon. Daeth yr Iwerddon yn noddfa ffoaduriaid Cymreig; oddiyno, mewn adeg bwysig yn hanes Cymru, lawer canrif wedyn, y daeth Gruffydd ab Cynan a Rhys ab Tewdwr i Gymru'n ôl.

Y mae traddodiadau hefyd am deulu Cunedda'n dod i Gymru, ac yn gorffen uno'r trigolion, drwy ddarostwng pob rhan iddynt eu hunain ac i Gristionogaeth. Y mae'r traddodiadau hyn, nid yn y Mabinogion, ond ym Mucheddau'r Saint. Yn hanes y saint, ceir llawer traddodiad am ymdrech Maelgwn i ddarostwng pob rhan o'r deyrnas dan ei gyfraith a than ei dreth. Fel ymhob oes, hawliai gwŷr eglwysig ryddid oddiwrth bob treth; a phan ysgrifennwyd y rhan fwyaf o fucheddau'r saint, yr oedd Eglwys Rufain yn gwneyd ymdrech i fod yn rhydd oddiwrth y gallu gwladol.

Pan drowd Cybi Sant i'r môr terfysglyd gan un o frenhinoedd yr Iwerddon, daeth i Sir Fôn, ac yno y gosododd ei babell. Ar amser hwnnw, ebe'r hanes, yr oedd Maelgwn Gwynedd yn teyrnasu ar Ogledd Cymru. Ac ar ryw ddydd ymhlith y dyddiau aeth Maelgwn i'r mynyddoedd i hela. Cododd hydd o flaen y ci, a diangodd am nodded i gell y sant. Dilynodd Maelgwn a’r ci ar ei ôl, ac ebe'r brenin wrth y sant,—Gollwng yr hydd allan. Nis gollyngaf ef, ebe Cybi, oni addewi arbed ei fywyd. Os na ollyngi ef, ebe'r brenin yn ddigllon, mi a’th symudaf oddi ar y tir yma. Ac ebe Cybi,—Ni fedri fy symud oddi ar y tir hwn, y y mae hynny y tu hwnt i dy allu. Duw yn unig fedd y gallu i’m troi oddi yma. Eto mi addawaf yrru'r hydd allan os aberthi ef i’r Hollalluog Dduw, ac os rhoddi i mi y tir y rhedodd dy gi o'i amgylch. Mi a'i haberthaf yn ewyllysgar, ebe'r brenin. Gollyngodd Cybi Sant yr hydd, dilynodd y ci ef, ond daeth yr hydd i’r gell yn ôl. Bu ymdrech wedyn rhwng Maelgwn a Chybi Sant; ond ni fedrai’r brenin wrthsefyll gŵr Duw.

Dengys yr hanes hwn fod Maelgwn wedi ennill terfynau eithaf Ynys Môn. Fel brenin y gogledd y sonnir am dano fynychaf, ond dengys y traddodiadau sydd ym mucheddau saint eraill fod ei dreth gasglwyr yng nghymoedd eithaf deheubarthoedd Cymru. Yr oedd Padarn Sant wedi dod o'r môr, ac wedi ymsefydlu yn Llan Badarn Fawr yng Ngheredigion. Ryw dro daeth Maelgwn, brenin y gogledd, a llu mawr i ddarostwng y de. Pan gyrhaeddodd lan afon Clarach, anfonodd ddau gennad i demtio'r sant â dwy sachaid o fwswgl a graian,— trwy ddweud fod y ddwy sach yn llawn o drysorau brenhinol. Daeth y brenin yn ôl, wedi llwyddo i ddarostwng y wlad, a haerodd y ddau gennad fod Padarn wedi cymeryd y trysorau o'r ddwy sach, gan roddi mwswgl a graian yn eu lle. Y pryd hwnnw yr oedd y brenin wedi gorchymyn trwy'r deyrnas fod pob lleidr i gael ei brofi trwy roddi ei law mewn dwfr poeth. Rhoddodd Padarn ei law yn y dwfr poeth, a thynnodd hi oddi yno heb fod yn ddim gwaeth; ond llosgwyd dwylaw y ddau gennad celwyddog. A daeth dallineb ar Faelgwn, a saldra, a chryndod gliniau; a chyffesodd ei fod ar farw oherwydd y sant. Aeth at Badarn ar ei liniau, ac am iachad rhoddodd iddo yr holl wlad rhwng Rheidol a Chlarach.

Ym muchedd Catwg Ddoeth cawn draddodiadau am Faelgwn, a'i fab Rhun ar ei ôl, yn teyrnasu ar Forgannwg. Yr oedd Maelgwn, ebe'r hanes, yn teyrnasu ar Brydain i gyd. Anfonodd ei swyddogion i Wynllwg i gasglu'r dreth, a daethant i dŷ gwas Catwg, gan gymeryd merch brydferth y gwas oddi arno. Ymlidiodd gwŷr Gwynllwg ar ôl y swyddogion, a lladdasant rai o honynt. Yna daeth ofn mawr dros y fro, ofn gwg a dial Maelgwn Gwynedd, a deisyfasant ar Gatwg eu hamddiffyn. Gweddiodd Catwg, ac yn y bore wele golofn niwl yn mynd o'i flaen, ac yn gordroi pebyll a lluoedd Maelgwn fel na fedrid gweled dim. Yn y niwl hwn daeth Catwg at y brenin, a chondemniodd ef i'w wyneb am anrheithio'r wlad yn ddiachos. Cyffesodd Maelgwn ei bechod, a thywynnodd goleuni haf o'i gwmpas, yn lle'r niwl tywyll, pan ddywedodd Catwg fod ei bechodau mawrion wedi eu maddeu iddo. Ac adnewyddodd Maelgwn freintiau Catwg, gan fendithio ei ddisgynyddion os amddiffynnent hwy.

Dywedi'r ym muchedd Teilo hefyd fod Maelgwn yn cadarnhau breintiau Llan Daf. Yn Llyfr Llandaf y mae buchedd Teilo, a chawn ddesgrifiad ynddo o'r clefyd heintus a dieithr a elwid y Fad Felen. Gelwid ef ar yr enw hwnnw oherwydd fod croen pawb a syrthiai i'w afael yn melynu ac yn sychu. Gwelid ef gan ddychymyg dychrynedig y bobl yn ymdeithio drwy'r wlad. Colofn o gwmwl dyfrllyd oedd, gydag un pen ar y ddaear ac un yn y nefoedd, yn tramwy dros ddyffrynnoedd Cymru. Pwy bynnag ddelai i'w anadl heintus, byddai farw ar unwaith neu byddai'n dihoeni ychydig cyn marw. Ni thyciai meddyg ddim, aberthai pob meddyg ei fywyd wrth fynd i gyrraedd y Fad Felen. Ac anadlodd hwn ar Faelgwn Gwynedd, a bu'r brenin farw tra'r oedd yr haint yn anrheithio ei wlad.Yn ôl traddodiad arall, ni fu Maelgwn Gwynedd farw'n ddirybudd. Rhybuddiasid ef gan fardd rhyfedd ddaethai i'w lys unwaith. O'r môr y daethai hwn, mewn rhwyd bysgota y cafwyd ef ar draeth Cors Fochno, rhwng y Ddyfi ac Aber Ystwyth. Trwy ei hud ef, distawyd cerdd beirdd Maelgwn Gwynedd, trwy ei hud ef enillodd march ei feistr Elffin yr yrfa yn erbyn meirch buanaf Maelgwn Gwynedd. Gyda'i hud a'i fedr i ganu, y maen anodd peidio meddwl mai'r Iberiad ydyw, yn nerthu'r Gwyddel yn erbyn teulu Cunedda. Yr oedd ganddo ddawn proffwyd, a rhagfynegodd, wedi gweled cadwen arian am draed ei feistr, fod gelyn y byddai raid i hyd yn oed Maelgwn Gwynedd blygu o'i flaen,—

Mi a ryddhaf Elffin o fol twr meinin,
Ac y ddyweda i'ch brenin bethe i gyffrin,—
Fe ddaw pryf rhyfedd 'iar Forfa Rhianedd,
I ddial anwiredd ar Faelgwn Gwynedd,
A'i flew a'i ddannedd a'i lygad yn eurwedd,
A hwnnw a wna ddial ar Faelgwn Gwynedd.

Medrwn edrych ar yr ymdrech rhwng Maelgwn ac Elffin fel yr ymdrech rhwng y Brythoniaid a Gwyddyl traeth y gorllewin, cyn iddynt ymdoddi'n un bobl. A medrwn, hwyrach, edrych ar yr ymdrech rhwng beirdd Maelgwn a'r dewin Taliesin fel yr ymdrech olaf rhwng Cristionogaeth a Phaganiaeth am Gymru. Gwelwn yn eglur, oddi wrth y traddodiadau, fod Maelgwn Gwynedd wedi uno Cymru dan ei deyrnwialen ef. Yr oedd y Gwyddyl wedi eu gorchfygu, yr oedd ei longau'n gwylio'r moroedd, yr oedd ei glod a'i dreth—gasglydd ymhob rhan o Gymru. Enillodd Cristionogaeth bob congl,—y mae sant ym mhob man braidd,—a daeth Cymru'n un. Mewn oesoedd i ddod, edrychid yn ôl, dros gyfnod o ryfel ac anrhaith, ar deyrnasiad Maelgwn Gwynedd fel oes heddwch, oes y bardd ar delyn. Ac yn eglwys ger llaw Deganwy yn ei gastell ei hun y bu farw, ebe Sieffre o Fynwy. Dywedai prydyddion oesoedd wedyn am y brenin yn ymguddio mewn eglwys rhag y Fad Felen, ac yn marw wedi edrych arni drwy dwll y clo. Ond nid oedd elyn arall fedrodd ei orchfygu, ac er nad oedd yn hollol wrth fodd y saint bob amser, y mae traddodiad yn rhoddi darlun euraidd o'i lys,—

"A oes yn yr holl fyd frenin mor gyfoethog a Maelgwn? Rhoddodd y Tad o'r nef roddion ysbrydol iddo,—pryd a gwedd, ac addfwynder,—nerth, heblaw pob gallu enaid. Ac heblaw hyn,—pwy ddewrach ei wr, pwy decach a buanach ei feirch, pwy gyfarwyddach a doethach ei feirdd na Maelgwn Gwynedd?" Dau fab a fu i Faelgwn,—Rhun ac Einawn. I Run y bu fab Beli. I Feli y bu fab Iago. I Iago y bu fab Cadfan. Nid oes le i ameu gwirionedd y tipyn hanes hwn, er mai Sieffre o Fynwy a'i dywed, mor bell ag y mae a fynno a lle Rhun yn y gadwen achau.

Yn y traddodiadau darlunir Rhun fel brenin tebyg Faelgwn, ac y maen bur sicr yr adroddir am dano ystoriau adroddir am Faelgwn ac am Arthur hefyd. Fel Arthur ym Mreuddwyd Rhonabwy ac ym Muchedd Cadog, cawn Run yn eistedd yn ei babell ar ochr rhyw fynydd, ac yn chware gwyddbwyll gyda'i weision. Yr oedd wedi dod i ddeheudir Cymru, ac i gyffinau tir Cadog Sant. Yr oedd yn boeth yn yr haf, a daeth syched ar rai o'i wŷr wrth dramwyo drwy'r gwres. Cofiasant am ysgubor Cadog, ac am y gwartheg blithion oedd yno, ac am y llawnder o laeth. Pan gyrhaeddasant yr ysgubor, ni fynnai gwas y sant roddi llaeth iddynt; eithr ymesgusododd trwy ddweyd faint o glerigwyr a milwyr ei feistr fyddai raid sychedu, os rhoddai ef y llaeth i dorri syched pobl ddieithr. Diwedd hyn oll fu rhoddir ysgubor ar dân.

Yr oedd Rhun yn chware gwyddbwyll o hyd. Ond daeth mwg ysgubor y sant,—ni wnai ond mygu, ni losgai,—dros babell y brenin. Ac er fod llygaid Rhun yn agored, ni welai ddim. Cofiodd am ddallineb ei dad flynyddoedd cynt, ac ymholodd a oedd rhywun wedi ymyrryd â'r sant. Wedi chwilio, cafwyd y gwir. Ac anfonodd Rhun am Gadog, a dywedodd wrtho,—Bendigedig wyt ti gan yr Arglwydd, bydded dy ddyfodiad yn heddychlawn, pechais yn erbyn Duw ac yn dy erbyn dithau. Holodd y sant beth oedd, ac wedi clywed yr hanes, gweddiodd ar i ddallineb Rhun gilio, a chilio a wnaeth wrth ei weddi. Yna cynyddodd Rhun ei freintiau,—y breintiau roddasid iddo gan Arthur a chan Faelgwn ei dad,—gan ddymuno bendith ar ei gymhwynaswyr a melldith esgymundod ar y rhai a'i drygai.

Sonnir am allu Maelgwn, ac am ei lwyddiant,—gŵr garw ydyw yn y traddodiadau, yn meddu syniad am gyfiawnder, ond wedi penderfynu bod a'i air yn air ar bawb. Sonnir am ardderchowgrwydd ymddanghosiad Rhun, ac am ei hoffter o bleser,—gŵr moesgar ond aniwair ydyw, wedi etifeddu llwyddiant. Ym Mreuddwyd Rhonabwy ceir yr ymgom hon,—

Pwy yw y gŵr gwinneu y daethpwyd ato gynneu? Rhun fab Maelgwn Gwynedd, gŵr y mae o fraint iddaw ddyfod pawb i ymgyngor ag ef.

Yn hanes Taliesin y mae traddodiad am ei fuchedd, a'i rodiad,—un o'r gŵyr anllataf o'r byd oedd Rhun, canys nid a'i na gwraig na morwyn yn ddiogan ar ei caffai ef ennyd i ymddiddan â hi. Ond tra mae'r rhamant yn darlunio Rhun yn dyfod ar frys at y castell lle'r oedd gwraig Elffin, i amcanu llygru ei diweirdeb hi, y mae cyfreithiau Hywel Dda yn ei ddarlunio'n ymlid gelynion ei wlad, ac yn ymddangos gyda'i lu wrth fur y gogledd.

CAER

PENNOD VII

BRWYDR CAER

GADEWCH i ni rannu'r amser niwliog yr ydym wedi ceisio tremio iddo yn ddwy ran,- y naill yn gan mlynedd, ar llall yn hanner can mlynedd.

I. 450-550. MAN DYWYSOGION. Erbyn 450 yr oedd lleng olaf Rhufain wedi ymadael, a gafael y ddinas dragwyddol ar Brydain wedi llacio am byth. Cododd pob hen lwyth yn erbyn yr iau haearn; penderfynodd pob tywysog gael coron aur yr hen ymherodraeth; gwelodd y cenhedloedd barbaraidd amgylchai Brydain eu cyfle i ymosod arni,- Gwyddyl yr Iwerddon, Ffichtiaid yr Alban, a thylwythau Teutonaidd isel - diroedd corsiog y cyfandir. Yn y croniclau gwelwn fân lwythau o Eingl yn ymsefydlu hyd oror y dwyrain, gwelwn Wyddyl yn meddiannu traeth y gorllewin. Ni unai'r mân — dywysogion i amddiffyn eu gwlad, ni ymostyngent i un Gwledig. Yn y caneuon boreua cawn hwynt yn ymladd ar wahan, a'u beddau ar wahan. Ym mhen canrifoedd wedyn y gwnaeth dychymyg iddynt ymladd fel y dylasent, dan faner un Arthur; ac nid ydyw Gildas, yr hwn y tybir ei fod yn cyd - fyw ag Arthur, yn son gair am dano wrth adrodd pechodau a chynhennau brenhinoedd ei oes.

Fel yr oedd tylwythau estronol yn ennill tir, a'u sefydliadau yn taro ar eu gilydd, unwyd hwy gan benaethiaid dan eu brenhiniaeth eu hun. Unwyd Eingl y gogledd dan ddau frenin, ac wedyn dan un. Unwyd Saeson y de dan un brenin. A than eu brenhinoedd, dechreuodd yr Eingl ar Saeson ymosod ar y Cymry. Ac yng ngwyneb y perygl, gorfod i'r Cymry hefyd ymuno, a rhoddi ymrannu heibio am ennyd.

II. 550-600. PRIF DYWYSOGION. Yn y flwyddyn 550 yr oedd MAELGWN yn frenin Gwynedd, ac yn dal ei deyrnwialen uwchben Ceredigion, Dyfed, a Morgannwg; yr oedd CYNAN yn frenin Powys, gyda hen enwr Gwledig arno; yr oedd IDA FFLAMDDWYN yn frenin ar Eingl y gogledd; ac yr oedd CYNRIC yn frenin ar Saeson y de.

Yn 547 ymgastellodd Ida Fflamddwyn ar graig Barnborough, ar draeth y gogledd - ddwyrain, unodd yr Eingl, ac arweiniodd hwy yn erbyn y Cymry, - gan eu gyrru, wedi brwydr ar ol brwydr, yn nes i'r gorllewin. Yng nghaneuon Aneurin a Llywarch Hen ceir hanes yr Urien Rheged a'r Morgan Fawr a'r Rhydderch Hael fu'n ymladd yn ei erbyn. Ac yr oedd yn hawdd i Faelgwn Gwynedd, oherwydd buddugoliaethau'r Eingl, deyrnasu ar Wynedd ar Deheubarth, ac heb gweryla a brenin Powys,-rhag eu hofn.

Tra'r oedd Idan uno Eingl y gogledd, yr oedd Cynric yn uno Saeson y de. Yn 552 yr oedd y Saeson yn ymdeithio tua'r gorllewin hyd ffyrdd Rhufeinig redai drwy ddinasoedd ac heibio beddau dros wastadedd Gwent,—Wiltshire y dyddiau hyn,—tua dyffryn Hafren. Yn 577 gwelodd gwŷr yr Hafren fyddin CEAWLIN yn croesi'r Cotswolds tuag atynt. Cwympodd amddiffynwyr y dyffryn ym mrwydr Deorham, ac yr oedd y dyffryn bras, a'i weithfeydd, a'i ddinasoedd goludog, heirdd, at drugaredd y pagan. Cyrhaeddodd Uriconium a Phen Gwern, lle mae'r Hafren yn gadael Cymru ac yn troi tua'r de,—a gadawodd y ddwy ddinas yn garnedd. Bu Uriconium yn garnedd byth, bu ei hadfeilion yn syndod yr ymdeithydd am ganrifoedd, ac yna cuddiodd y ddaear hi. Ac am Ben Gwern, llys Cynddylan, a'n Hamwythig ni, canai Llywarch Hen,—

Ystafell Cynddylan sydd dywell heno,
Heb dân, heb wely;
Wylaf dro, tawaf wedy.

Ystafell Cynddylan sydd dywell heno,
Heb dân, heb ganwyll;
Namyn Duw, pwy im ddyry bwyll?

Ystafell Cynddylan sydd dywell heno,
Heb gân, heb gerddau;
Digystudd deurudd dagrau.

Y ddinas nesaf o flaen Ceawlin oedd Caer, ac arweiniodd ei lu buddugoliaethus tuag ati. Ond yr oedd mwg y dref wen yn y coed ar perygl wedi galw holl luoedd Powys at eu gilydd i amddiffyn tir Brochwel. Cyfarfyddodd y ddau lu yn Fethanlea, yn 584, yn rhywle rhwng yr Hafren ar Ddyfrdwy, ac yno gorchfygwyd Ceawlin yn llwyr. Dinistriodd Ceawlin ddinasoedd ardderchog, cymerodd ysglyfaeth difesur, ond nid oedd i gael anrheithio Caer. Dychwelodd yn ol yn ddigllon i'w wlad, a nerth ei fyddin wedi diflannu; ac ymhen ychydig o amser yr oedd yn alltud o'i wlad ei hun.

Ond nid am byth y gwaredwyd Caer. Pan aeth y perygl o'r de heibio, daeth perygl o'r gogledd. Ar ol Ida Fflamddwyn daeth Ellan frenin yr Eingl, daeth Aethelric ar ei ol yntau, ac yn 593 yr oedd AETHELFRITH yn frenin Northumbria a'i Heingl i gyd. Trodd yn gyntaf yn erbyn Gwyddyl a Chymry'r gogledd, ac yn rhywle ar y mynyddoedd orwedd rhwng . Ystrad Clwyd a Northumbria cyfarfyddodd luoedd unedig y Gwyddyl ar Cymry dan lywyddiaeth AIDAN. Yno, yn 603, mewn lle o'r enw Daegsastan, bu ymladdfa galed, a lladdfa fawr. Ddeng mlynedd a thriugain wedi'r frwydr, ganwyd yr hanesydd Baeda heb fod ymhell o'r fan yr ymladdwyd hi. Cafodd ei hanes, maen sicr, gan rai oedd wedi gweled milwyr fu'n ymladd ynddi, a dywed ef fel hyn:

Yr adeg hon yr oedd Aethelfrith, gŵr da ac awyddus am glod, yn rheoli teyrnas Northumbria, ac yn diffeithio'r Prydeiniaid yn fwy na holl wŷr mawr yr Eingl, fel ag y gellid ei gymharu â Saul, ond yn unig yn hyn,- ei fod yn anwybodus am y wir grefydd. Oherwydd gorchfygodd fwy o froydd Prydeinig na'r un brenin o'i flaen,- gan wneyd y trigolion yn w&375;r treth iddo, neu drwy eu gyrru ymaith a rhoddi Eingl yn eu lle. Cywir y gellir dweyd am dano fendith y patriarch ar ei fab,- Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd; y bore y bwyty yr ysglyfaeth, ar hwyr y rhan yr ysbail. Wrth weled ei lwyddiant, daeth Aidan, brenin y Gwyddyl syn preswylio ym Mhyrdain, yn ei erbyn, gyda byddin enfawr gref, ond gorchfygwyd ef gan lu llai nai lu ei hun, ac aeth ar ffo; oherwydd lladdwyd ymron yr oll o'i fyddin mewn lle enwog a elwir Daegsastan. Yn y frwydr honno hefyd lladdwyd Eodbald, brawd Aethelfrith, gyda bron yr oll o'r fyddin a arweiniai. O'r amser hwnnw, ni fedrodd un brenin y Gwyddyl ddod i Brydain ar ymgyrch rhyfel hyd y dydd hwn.

Wedi'r frwydr hon nid oedd dim i'w ofni oddiwrth frenhinoedd y gogledd am amser hir, yr oedd terfynau gogleddol Northumbria'n ddiogel. Gwaith nesaf Aetheifrith oedd ymosod ar Wynedd a Phowys, a'u gwahanu am byth oddiwrth eu cyd-genedl yn y gogledd. Prif dywysogion Cymru oedd IAGO, etifedd Maelgwn Gwynedd, a SELYF, mab Cynan Powys. Ymunodd y ddau hyn i achub Caer rhag Aethelfrith, a bu brwydr fawr arall. Felly gellir edrych ar drydydd gyfnod,-

III. 600-613. YMDRECH RHWNG PRIF DYWYSOGION,-yr Angl Aethelfrith, y Gwyddel Aidan, a'r Cymry Iago a Selyf.

Ym mrwydr Caer, yn 613, collwyd y gogledd; ac, o hyn allan, y peth feddylir wrth y gair Cymru yw ein Cymru ni. Y mae i Gaer,- Caer Lleon Fawr ar Ddyfrdwy, - le pwysig yn hanes Lloegr ac yn hanes Cymru. Erbyn hyn y mae Lerpwl wedi cymeryd ei lle fel porthladd y gorllewin, erbyn heddyw nid yw ei muriau yn .werth dim i'r milwr, ac nid hawdd ydyw sylweddoli, heb dipyn o ystyriaeth, fod Caer wedi bod yn un o ddau neu dri lle pwysicaf yr ynys hon. Ei safle wnai Gaer yn bwysig - hi sy'n cysylltu mynyddoedd y gogledd â mynyddoedd y gorllewin, dwy ran fynyddig y Gymru fawr ymestynnai unwaith o enau'r Hafren i enau'r Clyde. Ynddi hi y safai'r Rhufeiniwr i lywodraethu talaeth y gorllewin, a'i law aswy ar y gogledd a'i law dde ar y gorllewin. Iddi hi y doi llongau moroedd y gorllewin, hi oedd clo'r ffyrdd redai yn unionsyth i'r gogledd ac i'r dwyrain dros wastadedd Maelor, ar ffyrdd ymddolennai hyd lan môr Gwynedd ac hyd lethrau bryniau Powys. Yr oedd llawer caer heblaw hon, a llawer caer y llengoedd, ond hi yn unig oedd yn ddigon pwysig i gael yr enw Caer, heb ddim i esbonio pa gaer oedd.

Saif Caer lle mae'r afon Dyfrdwy yn rhoi tro sydyn, gan redeg i'r gogledd orllewin yn llen unionsyth i'r gogledd. Y peth wnaeth i'r afon roir tro hwn oedd bryncyn o garreg goch gyfodai o'r gwastadedd, gan sefyll yn ffordd yr afon. Ar y bryncyn hwn yr adeiladodd y Rhufeiniaid gaer eu llengoedd. Yr oedd yr afon a'i chorsydd yn derfyn

/ ac yn amddiffyniad ar du y de a thu y gorllewin; ac ar y ddau du arall cloddiodd y Rhufeiniaid ffos yn y garreg goch feddal. Yna y tu fewn i'r afon a'r ffos, codasant furiau Caer,—muriau, wedi llawer o drwsio arnynt, sydd yn aros hyd y dydd heddyw.

O Gaer rhedai ffyrdd i bob cyfeiriad, gallai'r llengoedd ymdaith i unrhyw fan y byddai gwrthryfel yn galw am danynt. Un diwrnod gwelid mintai'n cychwyn trwy borth y gogledd tua'r mur, i golli eu bywydau hwyrach yng Nghoed Celyddon; ddiwrnod arall gwelid lleng yn cychwyn ar hyd ffordd y dwyrain, ar eu ffordd adref i Rufain neu i ryw ran arall o'r ymherodraeth; diwrnod arall pasiai lleng drwodd ar ei ffordd i fynyddoedd y gorllewin. Gellir edrych ar Gaer fei y fan lle croesai dwy ffordd eu gilydd, - ffordd o'r gogledd i'r de, a ffordd o'r dwyrain i'r gorllewin,- Caer oedd eu man cyfarfod.

Ond, erbyn 600, nid canolbwynt teyrnas oedd Caer, yn anfon milwyr yma ac acw, ond lle ar oror dwy deyrnas elynol, yn crynnu rhag ofn yr Eingl oedd yn ymfyddino yn ei herbyn. Hwyrach mai Brochwel oedd yn ei rheoli hi ar gwastadedd o'i hamgylch. Dywedi'r mai lluoedd Brochwel ymdeithiodd i Fethaniea i gyfarfod Ceawlin, yr hwn, wedi diffeithio dinasoedd gwych yr Hafren, oedd yn cyrchu tua Chaer, i'w diffeithio hithau hefyd. Brochwel Ysgythrog, tywysog Caer Lleon, y geilw Sieffre o Fynwy ef. Efe hefyd alwodd luoedd Gwynedd a Phowys i achub y ddinas pan oedd gelyn arall, mor fuddugoliaethus a Cheawlin, yn ymosod arni o du y gogledd, pan gyfarfyddodd y Cymry ar Eingl eu gilydd ym mrwydr alaethus Caer.

Gwrandawer yr hanes fel y rhydd Baeda ef, - ganwyd ef driugain mlynedd union wedi'r frwydr. Y mae ei gydymdeimlad â'i genedl ei hun, er eu bod ar y pryd yn baganiaid, ar Cymry'n Gristionogion.

Wedi hynny cynhullodd Aethelfrith, am yr hwn y siaradasom o'r blaen, fyddin enfawr, a gwnaeth laddfa fawr ar y genedl fradwrus honno yng Nghaer y Llengoedd, lle enwit gan yr Eingl yn Legacastir, ond yn fwy priodol gan y Prydeiniaid yn Garlegion (Caer Lleon). Cyn dechrau'r frwydr, gwelodd eu hoffeiriaid, a ymgynhullasant i weddio ar Dduw dros y milwyr, yn sefyll o'r neilltu mewn lle diogelach. Gofynnodd pwy oeddynt, ac i ba beth y daethent ynghyd. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn dod o Fynachlog Bangor, lle'r oedd dros ddwy fil o fynachod yn byw ar lafur eu dwylaw eu hunain. Yr oedd llawer o honynt wedi ymprydio am dri diwrnod, ac wedi dod gydag eraill i weddio yn y frwydr, dan amddiffyniad rhyw Frochwel, yr hwn a'u cadwai, tra y gweddient, rhag cleddyfau y paganiaid. Pan hysbyswyd i Aethelfrith paham y daethant, dywedodd, - Os ydynt yn galw ar eu Duw yn ein herbyn, yna y maent yn ymladd yn ein herbyn â'u gweddiau, er na chludant arfau. Gorchmynnodd, felly, ymosod arnynt hwy i ddechreu, ac yna dinistriodd y gweddill o'r fyddin anfad, eithr nid heb golli lliaws o'i filwyr ei hun. Dywedi'r fod deuddeg cant o'r gweddïwyr wedi eu dinistrio, ac na ddihangodd o honynt ond hanner cant. Trodd Brochwel ei gefn gyda'r gweddill, ar ymgyrch cyntaf y gelyn, gan adael y rhai ddylasai amddiffyn i gleddyfau'r gelyn.

Dyna ddesgrifiad o'r frwydr fel y cofid hi yn nhraddodiadau'r Eingl, fel yr adroddasid ei hanes gan y milwyr fu ynddi wrth eu plant. Ac y maen debyg y cenid llawer cerdd am dani, darn o gerdd ydyw'r adroddiad sydd yng nghroniclau'r Saeson,-

Aethelfrith led his host to Legeceaster
And offslew Welshmen without number.

Ond cwestiwn naturiol ydyw,- Paham yr oedd Brochwel, tywysog Caer Lleon, yn amddiffyn mynachod o'r neilltu, pan y dylasai arwain y milwyr? A phaham yr aeth ar ffo, hen fuddugwr Fethanlea?

Os trown i'r croniclau Cymreig ac i'r croniclau Gwyddelig, cawn eglurhad. Nid Brochwel, tywysog Caer Lleon, oedd y prif dywysog ar y dydd hwnnw. Yr oedd lluoedd Gwynedd yno, dan arweiniad Iago, fab Beli, fab Rhun, fab Maelgwn Gwynedd; a lluoedd Powys, dan arweiniad Selyf fab Cynan. Am y mynachod yr oedd Baedan meddwl, - y mae ei gydymdeimlad gyda'r Cymry pan gofia am danynt hwy, - a naturiol oedd iddo sôn am Brochwel. Naturiol hefyd oedd i groniclau'r Saeson sôn am dano, - efe oedd amddiffynnydd Caer ac arglwydd y morfa, ac efe hefyd drodd ei gefn. Y maen eithaf tebyg fod Aethelfrith wedi meddwl dychrynnu'r Cymry drwy yrru'r mynachod ar ffo, a dangos na thyciai eu gweddiau ar eu rhan. Digon tebyg fod y Cymry'n meddwl nad ymosodai brenin yr Eingl, er mai pagan oedd, ar y mynachod diniwed, gwŷr nad oedd ganddynt ond eu gweddi, a phan welodd Brochwel y paganiaid yn dod, gwelodd nad oedd dim am dani ond ffoi. Digon tebyg fod yr ymosodiad anisgwyliadwy ar y myneich, y rhai o goron merthyroliaeth a gawsant nefawl eisteddfâu, wedi taflu'r fyddin Gymreig i anrhefn, ac wedi peri penbleth i'r ddau frenin oedd wedi eu gosod yn drefnus ar y gwastadedd ger y ddinas. Ond pan gyfarfu byddin yr Eingl â byddin Selyf ac Iago, aeth yr ymladd yn chwerw; nid heb golled yr enillodd Aethelfrith y dydd, a bur ddau frenin Cymreig farw ar y maes.

Brwydr bwysig oedd brwydr Caer, un o frwydrau pwysicaf hanes Cymru. Yn un peth, gwahanodd Gymru oddi wrth y Gogledd, Teyrnllwg ac Ystrad Clwyd, - fel y gwahanasai brwydr Deorham Gymru oddi wrth Wlad yr Haf. Daeth gwastadedd Maelor yn eiddo i'r Eingl, cyrhaeddodd eu tir fôr y gorllewin. Beth a ddaeth o Frochwel nis gwn. Os y Brochwel fu'n ymladd yn erbyn Saeson Ceawlin oedd, rhaid ei fod yn hen, ac nid oedd ganddo lawer o amser i fyw. Os y Brochwel y dywedi'r iddo farw yn 662 oedd, rhaid ei fod yn ieuanc iawn, a gwelodd lawer ymdrech i ail ennill y gwastadedd. Ond, pa un bynnag, wedi 613, yr oedd Caer yn furiau llosgedig moelion, ar Eingl yn ymdaenu dros y dyffryn amddiffynnai gynt.

Peth arall am y frwydr hon, - llwyddodd Aethelfrith lle y methasai Ceawlin. Gorchfygwyd Ceawlin gan fyddinoedd Caer, diflannodd ei nerth, ac aeth ei Wessex yn ddarnau. Gwnaeth Aethelfrith furiau Caer yn garnedd, torrodd nerth Cymru trwy ei rhannu'n ddwy, gwnaeth ei Northumbria'n ddiberygl. Y canlyniad oedd hyn, - Northumbria, ac nid Wessex, ddaeth yn brif deyrnas Lloegr i ddechreu; yr Eingl, ac nid y Saeson, lwyddodd gyntaf i ennill hen unbennaeth Prydain oddi ar y Cymry.

Peth arall hefyd, - wedi'r frwydr hon, daeth Gwynedd yn bwysicach na Phowys. O hyn allan y mae Powys yn colli tir, a Gwynedd yn ennill.

Gyda brwydr Caer y dechreua hanes ein Cymru fechan ni. Cyn y frwydr hon nid oedd ond rhan o Gymru fwy. Daeth teyrnas Maelgwn a gweddillion Powys yn noddfa olaf anibyniaeth y Cymro. O 613 ymlaen, y mae ein hanes yn meddu undeb di-dor, y mae yn hawdd ei adrodd, ac yn hawdd ei gofio. A OEDD galar yng Nghymru wrth gofio fod mynyddoedd y Gogledd wedi eu colli, wrth gofio fod aml gwm Cymreig yn gorfod dal i ymladd brwydr yn erbyn yr Eingl, wrth gofio fod unbennaeth yr ynys wedi ymadael oddi wrth y Cymry? Oedd, yn ddiameu, ac oherwydd y galar hwnnw y medrodd Cadwallon uno'r Cymry i ennill eu hen goron yn ôl, - am ennyd.

Edrydd Sieffre o Fynwy hanes trawiadol am febyd Cadwallon ac am febyd Edwin, yr hwn fu'n cydymgeisio â Chadwallon am unbennaeth yr ynys. Faint o wir sydd yn yr hanes, nis gwn. Hwyrach mai hanes bywyd y ddau frenin wnaeth i ddychymyg oesau wedyn daflu cysgodion eu brwydrau yn ôl i adeg eu plentyndod. Ond dyma'r hanes. Yr oedd Aethelfrith, brenin yr Eingl, wedi ymladd â Chadfan, brenin y Cymry, am y frenhiniaeth. Gwnaethant heddwch, gan rannu yr ynys rhyngddynt, - ar goron i fod ar ben brenin Cymru. Ac yn yr amser hwnnw alltudiodd Aethelfrith greulon ei wraig. Dihangodd hithau at Gadfan, brenin Cymru, am nodded; ac wedi iddi gyrraedd Cymru, ganwyd Edwin, ei mab. Ar yr un pryd ganwyd Cadwallon, mab Cadfan. A magwyd hwy gyda'u gilydd yn yr un llys, ac anfonwyd hwy i'r ysgol gyda'u gilydd at Selyf, brenin Llydaw. Wedi hynny bu farw Cadfan ac Aethelfrith, a daeth eu dau fab yn frenhinoedd yn eu lle. Yr oedd yr un heddwch i fod rhyngddynt. Ond yr oedd Edwin am wisgo coron hefyd; a rhyw ddiwrnod gwelodd Cadwallon filwr Cymreig yn wylo wrth feddwl mai nid brenin Cymru oedd unig frenin yr ynys. Ac aeth y ddau gyfaill i ryfela am y goron; a Chadwallon a'i henillodd hi.

Y mae llawer o bethau anghywir yn yr hanes fel yr edrydd Sieffre ef, ond dengys yn eglur beth oedd ymgais Cadwallon, - ymgais i adennill brenhiniaeth Cymru. Wrth gymharu croniclau Seisnig, Cymreig, a Gwyddelig, - y cwbl sydd ar gael, - medrir dweud hanes Cadwallon heb fethu rhyw lawer iawn.

Yr oedd Eingl gogledd Lloegr yn ddau dylwyth mawr, - Eingl Bryneich ac Eingl Deifr. Tua 610 yr oedd Aethelfrith yn frenin ar Eingl Bryneich; a'i frawd yng nghyfraith Aella yn frenin ar Eingl Deifr. Bu Aella farw, gan adael ei aer Edwin yn blentyn. Ac ar hynny cymerodd Aethelfrith feddiant o deyrnas y bachgen, gan deyrnasu ar yr holl Eingl. Ffodd Edwin, a phan ar ffo daeth gŵr ato pan yn unigedd anobaith, a dywedodd wrtho y byddai'n frenin grymusach na neb o'i dadau o'i flaen. Yr oedd llwyddiant Aethelfrith yn gwneud i'r Cymry ac Eingl a Saeson y de ymosod arno. Ymladdodd y Cymry ag ef ar forfa Caer, fel y gwelsom; ac er iddo ennill y frwydr honno, ni lethwyd ei elynion. Yr oedd Cadwallon wedi dilyn Cadfan fel brenin Cymru; ac yr oedd Eingl Deifr yn dechrau anesmwytho. Yn 617 bu Aethelfrith farw, a daeth Edwin yn frenin yn ei le.

Y cwestiwn yn awr oedd, - pa un a'i Cadwallon a'i Edwin oedd i fod gryfaf. Hawliai'r ddau unbennaeth a choron yr ynys. Pan ddechreuodd yr ymladd, aeth y rhyfel yn erbyn Cadwallon. Y mae traddodiadau a hanes am y rhyfel. Fel ei ewythr o'i flaen, arweiniodd Edwin fyddin i Gymru. Cyfarfyddodd Cadwallon ef ar y gefnen fynydd sy'n gorwedd rhwng dyffryn yr Hafren a Lloegr; ac wedi ymladdfa waedlyd, gorfod i'r Cymry gilio yn ôl. Yn rhywle ar lannau Conwy ceisiodd Cadwallon rwystro'r Eingl buddugoliaethus ymdeithio ymhellach i Gymru. Yno hefyd collodd y dydd; ac yn 629 yr oedd Edwin yn gwarchae arno yn ynys Glannog, ar duedd Môn. Y diwedd fu i Gadwallon ffoi o'i wlad; a daeth ynysoedd Môn a Manaw yn eiddo i Edwin. Edwin, felly, oedd unben yr ynys hon; cerddai gyda baner yr unbennaeth yn gorymdeithio o'i flaen.

Yn nydd ei lwyddiant, daeth Edwin yn Gristion, gan geisio arwain ei luoedd paganaidd i ffordd y bywyd. Dywed rhai fod y gŵr hwnnw a'i cysurodd yn unigedd ei adfyd wedi dod ato, gan gynnig cyfraith newydd iddo. Dywed eraill mai Cymro, o'r enw Rhun fab Urien, a'i bedyddiodd. Ond hyn sydd sicr, - collodd Edwin ei nerth wrth droi'n Gristion. Tra'r oedd ei bobl wedi eu rhannu rhwng y grefydd newydd ar hen, daeth Cadwallon yn ôl i Gymru. Ffurfiodd gynghrair â Phenda, brenin paganaidd Eingl y Mers, ac ymosodasant ar Edwin. Yn 633 ymladdasant yn erbyn Edwin ym Meiceren neu Heathfield yn ei wlad ei hun, gan ei lwyr orchfygu. Ac yn y frwydr honno cwympodd Edwin.

Bellach y mae Cadwallon yn unben yr holl ynys, wedi ennill y Gogledd yn ôl hyd at y mur Rhufeinig, ac y mae Cymru gymaint ag y bu erioed. Ac yr oedd Cadwallon yn dal ei deyrnwialen uwchben yr Eingl, a chafodd y Cymry oedd yn eu mysg lonydd. Dywed prif hanesydd yr Eingl, anwyd ddeugain mlynedd ar ôl y frwydr, mai caled oedd iau Cadwallon ar y gorchfygedig. Yr oedd Cadwallon, meddai, er ei fod yn proffesu Cristionogaeth, yn ymddwyn yn null barbariaid. Nid arbedai wragedd, na ieuenctid tyner plant, ond rhoddai hwynt i farwolaeth greulon, gan ddiffeithio yr holl wlad, a phenderfynu difodi holl hil yr Eingl o fewn terfynau Prydain.

Gwnawd llawer ymdrech i ysgwyd iau Cadwallon ymaith. Daeth meibion Aethelfrith,—Osric ac Eanfrid,—yn ei erbyn. Casglodd Osric fyddin, a gwarchaodd ar Gadwallon mewn dinas gadarn; ond rhuthrodd lluoedd Cadwallon allan, gan ddinistrio Osric a'i fyddin. Amser du i'r Eingl oedd yr amserau hyn, - cawsant hwythau brofi chwerwder caethiwed.

Yr oedd byddin Cadwallon yn fawr, ac ymffrostiai ei bod yn anorchfygol. Ond brenin ar luoedd o frenhinoedd eraill oedd; ac yr oedd yn anodd cael y rhai hynny i ymlawenhau yn ei unbennaeth, yr oedd yn anodd cadw ei fyddin ar y maes o hyd. Daeth Oswald, mab arall i Aethelfrith, yn erbyn Cadwallon. Casglodd fyddin, a threfnodd hi o amgylch croes yn ymyl mur y gogledd. Ac yno, mewn lle elwir yn Denisesburn a Catscaul gan wahanol haneswyr, yng ngolwg mur y Rhufeiniaid, gorchfygwyd y Cymry a syrthiodd Cadwallon.

Ni chredai y Cymry oesoedd wedyn fod Cadwallon wedi cwympo. Credent ei fod wedi byw i reoli'r ynys fel uchel unben tra'r ymladdai mân frenhinoedd am dalaethau dano, ac y cymodent wrth ei orchymyn. Y boneddicaf a'r cyfoethocaf Gadwallon, brenin y Brytaniaid, ebe Ystorya Brenhinoedd y Brytanieit, yn dreuledig o henaint, - pythefnos wedi calan gaeaf yr aeth o'r byd hwn. A'i gorff a irwyd ag ireiddiau gwerthfawr, ac a ddodwyd mewn delw o efydd a wnaethid ar ei fesur a'i faint ei hun. Ar ddelw honno a ddodwyd ar ddelw march o efydd, yn arfog, yn rhyfedd ei thegwch. A honno a ddodwyd ar y porth parth a'r gorllewin yn Llundain, yn arwydd y rhagddywedigion fuddugoliaethau uchod, er aruthredd i'r Saeson.

Ond ar faes y gad, draw wrth y mur, y cwympodd Cadwallon, yn 635.

Ni fu diwedd ar yr ymdrech gyda marw Cadwallon. Unodd tywysogion y Cymry gyda Phenda yn erbyn Oswald. Yr oedd y Cymry ac Eingl Penda mewn perygl, oherwydd yr oedd Oswald a'i luoedd yn ymdeithio tua'r de. Fel yr aeth y Cymry i gyfarfod Edwin, aethant i gyfarfod Oswald hefyd. Ymunasant âg Eingl Penda, ac mewn lle o'r enw Maserfield, yn rhywle ar wastadedd Maelor, heb fod ymhell o Groes Oswallt, gorchfygasant a lladdasant Oswald. Yn 642 y bu hyn. Ieuanc oedd Oswald pan fu farw, dim ond deunaw ar hugain oed. Yr oedd galar mawr ymysg ei bobl ar ei ôl, oherwydd yr oedd yn frenin trugarog a da. Clywodd Baeda hen bobl yn dweud fod llawer wedi eu hiachau wrth orwedd ar y pridd lle syrthiodd Oswald.

Ieuanc hefyd oedd brenin Cymru, - Cadwaladr, mab Cadwallon. A pheth anodd iawn i wŷr ieuainc oedd cadw eu teyrnasoedd yn gyfaeon yn yr amseroedd hynny. Ond cafodd Cadwaladr le teg i dreio. Yr oedd ei gyfaill, yr hen bagan mawreddog Penda, yn gymorth iddo. Ac yr oedd Northumbria, gwlad Edwin ac Oswald, wedi ei rhannu rhwng Oswiu ac Oswine. Cyn hir medrodd Oswiu gynllunio brad Oswine, a daeth yn frenin ar Northumbria i gyd. Yna cychwynnodd ar hyd llwybr ei gyn - frenhinoedd yn erbyn Penda a Chadwaladr. Cymerodd y frwydr le mewn maes ar lan afon,-Winwaedfield, - yn 655. Cyn y frwydr gadawodd amryw frenhinoedd Penda, gyda'u lluoedd. Ymysg y rhain yr oedd rhyw frenin Cymreig o'r enw Cadafael, yr hwn a lysenwyd wedi hynny yn Gad-afael Cad-ornedd. Oswiu drechodd, a bu Penda farw yn y frwydr honno.

Yn awr yr oedd Oswiu yn barod i ymosod ar Gymru a Chadwaladr. Ond daeth brenin mwy ofnadwy i'r wlad. Ar ôl y rhyfeloedd meithion, daeth haint. Ymysg eraill bu Cadwaladr farw o honno, tua 664. Oes enbyd oedd yr oes honno, fel pob oes wedi rhyfeloedd hir. Dywed traddodiad, er hynny, mai yn Rhufain y bu Cadwaladr farw.

Tywyll a niwliog ydyw hanes Cymru am dros gan mlynedd wedi cwymp Cadwallon a marw Cadwaladr. Yr oedd Eingl Northumbria wedi meddiannu gwastadedd Maelor, ac wedi gwahanu Cymry ein Cymru ni oddi wrth eu brodyr yn y gogledd. Ymladdent ar wahan mwy, -ein tadau ni yn erbyn Northumbria a Mercia, a Chymry'r gogledd yn erbyn Northumbria a'r Pictiaid, - hen Wyddyl Ffichti oedd yn parhau i ymosod arnynt o fynyddoedd gogledd yr Alban. Clywai y Cymry hanes yr ymladd rhwng eu brodyr a'r Pictiaid; clywsant am frwydr Maes Ydawc, lle lladdwyd Talargan, brenin y Pictiaid, gan y Brytaniaid; ond cyn hir daeth newydd arall, - fod y paganiaid wedi rhuthro ar Alclwyd, y gaer safai ar graig uchel fel amddiffynfa fwyaf gogleddol y Cymry, ac wedi ei dinistrio. Dumbarton, yn nyffryn y Clyde, oedd y gaer hon; ac y mae muriau duon eto'n gwgu ar ben y graig yng nghyfeiriad dyffrynnoedd mynyddig y Pictiaid ac i lawr dyffryn y Clyde, ond nid yr un muriau ag a fu'n herio'r Pictiaid ddoi i lawr dyffryn y Leven a'r paganiaid o fôr - ladron ddoi i fyny'r Clyde.

Ond yr oedd gan y Cymry ddigon o drallodion eu hunain, heb sôn am drallodion Ystrad Clwyd. Y mae'n wir fod Northumbria, eu hen ddinistrydd, yn dechrau gwanhau. Ar ôl Oswiu daeth Egfrith, efe arweiniodd fyddin yn erbyn y Pictiaid yn 686, ym mrwydr Dun Nechtain. Wedi hynny daeth llawer o drallodion i ran Northumbria; ymosodid arni gan y Pictiaid a chan fôr-ladron, ac nid oedd mwyach yn un wlad gref.

O gyfeiriadau eraill yr oedd perygl Cymru'n awr. Yr oedd perygl oddi wrthi hi ei hun. Ni fynnai ymuno. Pan fydd gwlad wedi colli rhan bwysig, fel rheol daw undeb y rhannau syn weddill yn dynnach. Ond wedi colli Ystrad Clwyd ac wedi colli ei hunbennaeth olaf, llaciodd undeb y Cymry, ac ymroddodd pob tywysog i wneud drwg yn ei ffordd ei hun. Yn ôl pob tebyg ni bu brenin ar holl Gymru am beth amser ar ôl Cadwaladr. Yr oedd Northumbria yn gwanhau, Mercia eto heb ddechreu bygwth, a'r cenhedloedd duon eto heb ddod fel cwmwl o'r môr. A chan nad oedd perygl o'r tu allan i'w huno, dechreuodd y tywysogion Cymreig ymladd â'u gilydd. Dywed Brut y Tywysogion mai Ifor, mab brenin Llydaw, fu'n teyrnasu ar y Cymry am beth amser. Dywed traddodiad mai amser mân ryfeloedd a haint a dychryn a daeargrynfâu oedd yr amser hwnnw, - trodd y llaeth a'r menyn yn waed, a'r lleuad a drodd yn waedol liw. Crynodd y ddaear yn Llydaw; glawiwyd cawod o waed ym Mhrydain; yr oedd yr haint yn yr Iwerddon. Yn yr amseroedd hynny, anodd oedd byw ond wrth ysbeilio neu ryfela. Yr oedd milwyr hur yn heidio yng Nghymru. Gyda milwyr logasent yng Nghymru yr ymladdai mân frenhinoedd yr Iwerddon â'u gilydd. Onid oedd un o hil Cunedda i gasglu byddin, i uno Cymru, ac i rwystro'r dadfeiliad andwyol?

Rhodri Molwynog oedd y cyntaf i wneud hynny. Mab Tudwal, ac wŷr Cadwaladr oedd efe. Gelwir ef yn frenin y Brytaniaid, - edrychid arno fel olynydd Cadwaladr a Chadwallon. Paham y gadawodd y mân dywysogion i ŵr o linach Cunedda ail osod iau brenin ar eu gwarrau? Yr oedd Mercia'n dechrau bygwth Cymru, - dyna'r rheswm. Gwastad-diroedd canolbarth Lloegr oedd Mercia, tylwythau'r Eingl wedi ymuno dan frenhinoedd galluog. Daeth tri brenin nerthol ar ôl eu gilydd ,- Aethelbaid, Offa, Cenwulf, - a'u penderfyniad oedd darostwng yr ynys a gwisgo ei choron., Ymosododd Mercia ar Gymru yn y gorllewin ac ar Wessex yn y de, gan geisio ehangu ei therfynau dros y Tafwys ar Hafren yr un pryd. Bu brwydrau yn Heilin yng Nghernyw, ac yng Ngarthmaelog ac ym Mhen Coed yn y Deheubarth; ond ni wyddys i sicrwydd pa frenin oedd yn ymosod ar Gymru yn y brwydrau hyn, na pha frenin oedd yn amddiffyn. Y tebyg yw mai brwydrau rhwng Rhodri Molwynog ac Aethelbald oeddynt. Collodd Aethelbald frwydr yn erbyn Saeson Wessex; a bu ef a Rhodri Molwynog farw yn 755, - y brenin geisiai unbennaeth y Saeson a'r brenin geisiai unbennaeth y Cymry.

Wedi marw Rhodri Molwynog, diflannodd pob gobaith am undeb Cymru drachefn. Dechreuodd ei ddau fab ieuanc, Cynan Tindaethwy a Hywel, ymladd â'u gilydd am ynys Môn, gan yrru y naill y llall allan o honni lawer tro. Tra'r oeddynt hwy yn ymladd â'u gilydd, a thywysogion Cymru'n dilyn eu harfer, yr oedd Offa'n teyrnasu. Dyma un o'r gelynion chwerwaf a galluocaf gafodd Cymru erioed. Yr oedd ganddo amcan clir o'i flaen. Fel yr oedd Siarl Fawr yn gwneud y cyfandir yn un ymherodraeth, felly meddyliai Offa am wneud pob rhan o ynys Prydain naill a'i yn rhan o'i dalaeth ef, Mercia, neu'n ddarostyngedig iddi. Sefydlodd archesgobaeth yn Lichfield, i wneud Mercia'n anibynnol ar Gaer Grawnt a Chaer Efrog; cafodd feddiant o brif afonydd Lloegr, tramwyfeydd masnach, a dengys yr arian a fathodd fod ei fryd ar lywodraethu masnach Prydain. Ymysg yr afonydd ddaeth yn eiddo iddo, yr oedd yr Hafren o'r .Amwythig i'r môr. Estynnodd derfynau Mercia ymhell i Gymru, a galwyd hen glawdd redai gydag ymylon y mynyddoedd ar ei enw ef.

Teyrnasodd Offa am amser maith, am ddeugain mlynedd namyn un, o 755 i 794. Pan ddechreuodd deyrnasu, yr Hafren oedd y terfyn rhwng Cymru a Lloegr, yr oedd Cymru yn cyrraedd hyd Gaer Wrangon (Worcester) a Chaer Loew (Gloucester). Ar ddiwedd oes Offa yr oedd y Cymry wedi colli, nid yn unig y wlad dda rhwng Hafren a Gwy, ond llawer o'r hyn sydd y tu yma i'r Wy a'r ar Ddyfrdwy. Aeth yr Amwythig, prif ddinas Powys, a Henffordd yn eiddo i'r Eingl. Nid heb ymladd brwydrau lawer yr aeth Cymru mor fechan,-yn llai nag ydyw yn awr. Bu brwydr yn Henffordd, pan groesodd Offa'r Hafren, i'w rwystro rhag croesi'r Wy hefyd. Dro ar ôl tro arweiniodd ei fyddin i Gymru, gan ddiffeithio. Ac yna y bu distryw y Deheubarthwyr gan Offa frenin, - dyna'r hanes adroddir o hyd. Yr oedd Cymru ar ei drugaredd; yr oedd dau fab Rhodri Molwynog yn ymladd â'u gilydd draw ym Môn; ac ni fedrai tywysogion gwahanol dalaethau Cymru ond aros hyd nes y byddai raid iddynt wynebu Offa bob yn un.

Ar ôl Offa daeth Cenwulf, a bu yntau'n ddychryn i Gymru o 785 hyd 819. Hawdd oedd iddo orchfygu'r tywysogion; ni fynnent ymuno. Meredydd, brenin Dyfed; Caradog, brenin Gwynedd; Cadell, brenin Powys; Arthen, brenin Ceredigion, - syrthiasant bob yn un. Brodyr yn ymladd, a'r Saeson yn diffeithio, - dyna hanes brenhiniaeth anhapus Cynan Tindaethwy, rhwng 755 a 815. Y Saeson yn lladd brenin Gwynedd; colli anibyniaeth Eglwys Cymru llosgi Tyddewi yn y de a Deganwy yn y gogledd; y Saeson yn diffeithio mannau diogelaf Cymru, - mynyddoedd Eryri a breniniaethau Dyfed; colli brwydr, colli Rhufoniog, darnio Powys, - nid oes adeg mor alaethus yn hanes Cymru i gyd. Yr oedd yn hawdd gweled fod y gogledd wedi ei golli am byth; ac yr oedd yr undeb ar unbennaeth oedd ynglyn a'r mur wedi diflannu o Gymru. Ac yr oedd gelyn arall yn dod o'r môr.

—————————————

==NODYN VI.==

Prif ffynonellau ein gwybodaeth am y blynyddoedd y sonnir am danynt yn y bennod hon ac yn y penodau sy'n dilyn yw,- Y CRONICLAU CYMREIG, yn Lladin a Chymraeg,-Annales Cambrice a Brut y Tywysogion (o farwolaeth Cadwaladr ymlaen). Ceir llawer o oleuni hefyd o'r caneuon sydd yn Llyfr Du Caerfyrddin, o'r caneuon a'r rhamantau sydd yn Llyfr Coch Hergest, ac o ganeuon Llyfr Taliesin. Gweler hefyd Fucheddau'r Saint, a'r hen gyfreithiau Cymreig. Ac nac anghofier Nennius a hanes bywyd Alfred gan Asser.

Y CRONICLAU SEISNIG, - yr Anglo - Saxon Chronicles. - A phwysicach o lawer na'r rhain yw hanes Baeda, - yr Historia Ecclesiastica.

Y CRONICLAU GWYDDELIG, - Tighernach, Cronicl Ulster, Chronicon Scotorum, Cronicl Loch Ce, Cronicl Inisfallen.

Cyhoeddir yr Annales Cambria yn y Rolls Series; y rhannau o Lyfr Coch Hergest sy'n cynnwys y Brutiau a'r Mabinogion gan Rhys a Gwenogfryn Evans; Llyfr Du Caerfyrddin mewn facsimile gan Gwenogfryn Evans; Gildas, Nennius, ac Asser, yng nghyfrolau CYMRU. Y mae rhai o Fucheddau'r Saint wedi eu cyhoeddi, a'u cyfieithu'n wael gan Rees; y mae tri yn Llyfr Llan Daf, cyhoeddedig gan Gwenogfryn Evans.

Cyhoeddir y Croniclau Seisnig gan y Clarendon Press, dan olyglaeth Earle a Plummer; cyhoeddir Baeda yn yr un gyfres hefyd, dan olygiaeth Plummer. Y mae rhai o'r croniclau Gwyddelig yn y Rolls Series.

PENNOD IX - Y CENHEDLOEDD DUON.

O'r gogledd y tyrr drwg allan ar holl
drigolion y tir.

YR oedd brenhinoedd yng Nghymru a Lloegr yn ceisio darostwng is frenhinoedd a thywysogion dan eu gallu eu hunain. Yr oedd yr un ymdrech yn Scandinavia, - y penrhyn hwnnw yng ngogledd Ewrob sydd wedi anfon cymaint o filwyr a meddylwyr i wledydd mwy heulog y de. O'r hafanau dirifedi sydd ar draethell fynyddig gorllewin y wlad honno, ac o'r fforestydd diderfyn ac unig sydd ar ei hochr ddwyreiniol, daeth llu o fôr-dywysogion tua'r de yn amser Cynan Tindaethwy ac Offa frenin. Rhy anibynnol eu hysbryd oedd y penaethiaid hyn i aros gartref dan lywodraeth brenin; ac yr oeddynt wedi clywed gan fasnachwyr am hinsoddau tynerach, ac am wledydd mwy ffrwythlawn, ac am drysor diderfyn mewn dwylaw gweiniaid.

Yr oedd y môr-wibwyr hyn yn perthyn i ddwy genedl, - y naill yn bobl dal a goleubryd, y lleill yn bobl fyrion pryd tywyll. Y bobl fyrion ydyw cenhedloedd duon y croniclau. Nid oeddynt wedi clywed yr efengyl, y paganiaid y gelwid hwy gan y Cymry. Ond nid oedd eu paganiaeth yn un chwerw nac yn un erlidgar. Y mae'n wir mai'r eglwysi a'r mynachlogydd oedd eu hoff ysbail, ond y rheswm am hynny oedd mai yn y sefydliadau hyn yr oedd yr aur a'r llestri gwerthfawr. Heblaw hynny, yr oedd y mynachlogydd yn eu cyrraedd, - ar ynysoedd neu ar lan y môr, wedi eu hadeiladu pan mai o ochr y tir yn unig yr oedd y perygl. Dyna paham yr ysbeilid

Cartre'r Cenhedloedd Duon
(Ose Fjord Norway)

—————————————

Tyddewi a Llanbadarn a Llan Faes. Yr oedd y Daniaid yn berffaith barod i droi'n Gristionogion os tybient y byddai hynny o ryw elw; a gweddient yn null y Cristionogion weithiau o flaen brwydr, rhag ofn mai hynny oedd oreu iddynt. Yr oedd ganddynt ddwylaw medrus at lawer gwaith,-gwneud cychod, saernio, gweithio brethyn garw, gweithio haearn.

Yr oedd symudiadau eu llynghesoedd yn berffaith drefnus, ac ni welsid byddin erioed fedrasai symud mor gyflym ar dir a môr. Daethant fel llif o'r gogledd, rhannwyd y ffrwd yn ddwy gan yr ynysoedd Prydeinig, - y naill yn mynd hyd y lan orllewinol i ymosod ar yr Iwerddon ac ar Gymru, ar llall yn mynd hyd y lan ddwyreiniol i ymosod ar Loegr a Ffrainc. Deng mlynedd a phedwar ugain a saith cant oedd oed Crist, ebe Brut y Tywysogion, pan ddaeth y paganiaid gyntaf i'r Iwerddon. Ymosod ar brif ddinas oedd cynllun cyffredin y Daniaid, a pharlysu gwlad felly. Ond nid oedd i Gymru brifddinas; a gwaith y Daniaid oedd ymosod o'r môr tra yr oedd yr Eingl yn ymosod o'r tir.

Wedi ei oes hir a thrallodus, ni adawodd Cynan Tindaethwy ond un ferch. Gŵr o'r gogledd oedd gŵr honno, o'r enw Merfyn Frych; a theyrnasodd yntau yn y blynyddoedd blin rhwng 815 ac 840. Yr oedd y Daniaid yn ymosod yn ffyrnig ar yr Iwerddon a Chymru; yr oedd y Saeson yn ymosod ar Bowys, ac nid oedd ond rhan fechan o honni'n aros. Colli brwydr, marw brenin, diffyg ar yr haul, - dyna hanes teyrnasiad Merfyn Frych.

Anobeithiol iawn oedd yr olygfa gafodd Rhodri ar Gymru pan ddechreuodd deyrnasu yn lle ei dad yn 840. Yr oedd y tywysogion yn ymladd â'u gilydd er fod Saeson, Eingl, a Daniaid yn eu bygwth. Nid ydyw'r hanes rydd Brut y Tywysogion o flynyddoedd cyntaf ei deyrnasiad ond un rhestr o drallodion, - Ac y bu farw Merfyn. "Ac y bu waith Ffinant. Ac y llas Ithel brenin Gwent gan wŷr Brycheiniog. Deg mlynedd a deugain ac wyth cant oedd oed Crist pan las Meurig gan y Saeson. Ac y tagwyd Cyngen gan y cenhedloedd. Ac y diffeithiwyd Mon gan y cenhedloedd duon."

Yr oedd cyflwr Cymru'n resynus. Ac yr oedd yr amser i'w gwaredu wedi dod. Yr oedd Mercia wedi ei darostwng gan Wessex, ac yr oedd y Daniaid yn dechrau bygwth honno. Yr oedd Rhodri yn un fedrai ddefnyddio ei gyfleusdra; a chyn ei farw yn 877 yr oedd wedi uno Cymru ac wedi ei gwneud yn fwy cadarn nag y bu er marw Cadwallon.

Tra'r oedd y Daniaid yn chwilfriwio pob teyrnas arall o'i gwmpas, medrodd Rhodri Mawr amddiffyn ei wlad rhagddynt. Yn 855 bu brwydr rhyngddo â'r cenhedloedd duon, a lladdwyd Horm eu pennaeth. Wedi hynny aeth y Daniaid i chwilio am frenhinoedd gwannach; troisant i'r Iwerddon, ymosodasant ar Gernyw, a chyn hir yr oeddynt yn bygwth pob un o deyrnasoedd Lloegr. Y mae bron yn sicr fod gan Rodri lynges i amddiffyn y glannau rhag y Daniaid ac i ymuno â brenhinoedd yr Iwerddon; ac efallai mai mewn brwydr ar y môr y boddodd Gwgwn, mab Meurig brenin Ceredigion. Tuag 868 yr oedd y Daniaid fel pe ar orchfygu pob congl o ynysoedd Prydain a'r Iwerddon. Yr oedd Dulyn a Chaerefrog wedi cwympo, yr oedd Alclwyd wedi ei gorchfygu hefyd, ac yr oedd y lluoedd paganaidd anorchfygol yn ymbaratoi i ymdeithio tua'r de. Brenin Cymru a brenin Wessex yn unig oedd heb eu gorchfygu. Yn 876 yr oedd Rhodri ar ffo yn yr Iwerddon, wedi ei yrru o'i wlad gan y cenhedloedd duon. Ac yn 878 yr oedd Alfred, brenin Wessex, yn niffeithleoedd Athelney, ar ffo o flaen yr un gelyn. Ond gwanhaodd gallu'r Daniaid, - ymsefydlodd llawer o ohonynt ar y tir enillasent, ac aeth lluoedd i ymosod ar Ffrainc, - a daeth Alfred a Rhodri yn ôl at eu pobl.

Nid y Daniaid oedd unig elynion Rhodri; aml dro yr ymladdodd yn erbyn y Saeson hefyd. Weithiau yr oedd mewn cynghrair â'r Saeson yn erbyn y Daniaid, ond yn amlach na hynny yr oedd y Daniaid yn gynghreirwyr iddo yn erbyn y Saeson. Ac er fod Mercia yn wannach nag y bu, yr oedd hi o gyrraedd y Daniaid, ac yn ymosod ar Gymru o hyd. Yn 864, tra'r oedd y Daniaid yn paratoi i ymosod ar Loegr o bob cyfeiriad, yr oedd y Saeson wedi medru treiddio cyn belled ag Ynys Môn, hoff ynys teulu Cunedda, a dywed un cronicl Gwyddelig fod y Cymry wedi eu gyrru o'u gwlad a'u carcharu yn ynys Môn. Yn ynys Môn, yn ddiamau, yr oedd un o hoff gartrefi Rhodri; a phan ymosodai y Saeson ar Gymru, cychwynnent o Gaer, ymladdent eu ffordd trwy Gonwy, ac ymosodent ar Fôn.

Gwaith caletach na chadw'r Daniaid a'r Saeson draw oedd uno Cymru yn un wlad. Ac y mae'n sicr fod Rhodri Mawr wedi llwyddo i wneud hyn. Gwelodd yn eglur y mynnai pob talaeth gael brenin iddi ei hunan yn ogystal â brenin holl Gymru. A'i gynllun ef oedd rhoddi ei feibion yn is-frenhinoedd pa le bynnag y gallai. Fel Aetllelwulf, brenin Lloegr, yr oedd ganddo feibion rhyfelgar a galluog. Yr oedd chwech o feibion yn is-frenhinoedd dano; a'r rhai enwocaf oedd Anarawd, Cadell, a Merfyn.

Yn 877 yr oedd y Daniaid wedi crynhoi eu holl nerth i ymosod ar Wessex. Yr oedd Rhodri Mawr wedi ymheddychu â hwy, ac ofnai Eingl Mercia yr ymosodai ar Loegr yr un amser ar Daniaid. Tra yr oedd Alfred yn ymladd yn erbyn,y Daniaid, ymosododd Saeson ac Eingl Mercia ar Rodri. Prin yr oedd wedi cael amser i drefnu ei luoedd pan ddaeth y gelyn i ynys Môn. Ac yno, ym mrwydr Dydd Sul, cwympodd Rhodri a'i frawd.

Ceisiodd meibion Rhodri Mawr deyrnasu ar frenhiniaeth eu tad fel yr oedd ef wedi teyrnasu. Gwaith cyntaf Anarawd oedd dial marwolaeth ei dad ac ymlid Saeson ac Eingl Mercia o Gymru. Yng Nghonwy y bu'r frwydr, yn 880, a dialwyd gwaed Rhodri Mawr. Yna gwnaeth Anarawd gyfamod â hen elyn ei deulu, Northumbria, yn erbyn Mercia.

Gwaith anhawddach na gorchfygu'r Saeson oedd cadw'r tywysogion rhag gwrthryfela. Gorfod i Anarawd ddiffeithio Ceredigion ac Ystrad Tywi. A theimlad yr holl Ddeheudir oedd fod iau meibion Rhodri'n drom; aeth Gwent a Morgannwg dan iau ysgafnach Mercia; ac yr oedd Dyfed a Brycheiniog wedi dewis Alfred, brenin Wessex, yn hytrach na Chadell fab Rhodri Mawr.

Cyn hir ail ddechreuodd ymosodiadau'r Daniaid, a gorfod i Wessex, Mercia, a Chymru ymuno yn eu herbyn, a chawn Alfred Fawr, Aethelflaed arglwyddes Mercia, Anarawd, a Chadell, yn cyd-ymladd yn eu herbyn. Ddychrynwyd hwynt nes gwneud heddwch â'u gilydd gan enbydrwydd yr amseroedd. Yr oedd y Daniaid eto'n diffeithio Lloegr a Gwent a Morgannwg a Brycheiniog a Buallt a Gwynllwg. Yr oedd haint a newyn yn dilyn eu camrau diffeithiol. Yn yr Iwerddon diffygiodd y bwyd, canys daeth pryfed o'r nef i'w fwyta, a dau ddant gan bob un. Yn erbyn y gelyn newydd hwn, nid oedd gan y Gwyddel ond ympryd a gweddi. Tua 909 ymosododd Daniaid Ingimundr ar ddeheudir Cymru, a gwynebwyd yr arweinydd ffyrnig hwn gan fyddin Cadell a byddin arglwyddes Mercia, chwaer Alfred. Ac yn yr amser hwn bu Cadell farw. Aeth yr ymdrech yn erbyn y Daniaid ymlaen am flynyddoedd lawer, a chollodd llawer un o dylwyth Alfred ac o dylwyth Rhodri Mawr ei fywyd wrth geisio eu cadw o'i wlad.

O Fôn i Fynwy ymleddid bob blwyddyn ymron ar y traeth, a llawer un heblaw mab Merfyn gollodd ei fywyd wrth amddiffyn Môn neu Dyddewi.

Bu Alfred farw yn 901, Cadell yn 908, ac Anarawd yn 915, a chladdwyd yr arglwyddes Aethelflaed yng Nghaerloyw yn 918. Rhwng y rhai hyn i gyd, yr oedd gallu'r Daniaid wedi ei ddinistrio am beth amser. Daeth Edward, mab Alfred, i reoli yn ei le. Nid oedd yr un o feibion ac wyrion Rhodri Mawr yn frenin ar Gymru i gyd; ac yr oedd meibion Cadell, brodyr Hywel Dda, yn ymladd â'u gilydd. Ail ddechreuodd brenhinoedd Wessex feddwl am unbennaeth yr ynys.

Yr ydym wedi teithio peth trwy anialwch hanes y nawfed ganrif, - oes Rhodri Mawr ac Alfred. Prif nodwedd y ganrif yw ei hanrhefn, - cenhedloedd yn gadael hen gartrefi ac yn ymosod ar wledydd eraill, hen ddeddfau'n malurio dan draed anghyfraith, tylwyth yn ymladd yn erbyn tylwyth, a deiliaid yn erbyn brenin ymhob man.

Nid anrhefn ac anghyfraith oedd breuddwyd brenhinoedd y ganrif. Tua'r flwyddyn 800, gallasid meddwl y buasai holl wledydd cred yn fuan mewn heddwch, dan gysgod teyrnwialen gref mewn llaw gyfiawn. Yr oedd anrhefn wedi teyrnasu dros wledydd Ewrob; ond, nos cyn Nadolig 800, yr oedd esgob Rhufain wedi gosod coron aur y byd ar ben Carl Fawr, - Siarlymaen y chwedlau. Nid oedd Carl ond arweinydd un o'r llwythau Teutonaidd oedd newydd gymeryd enw Cristionogion, ac nid oedd esgob Rhufain ond arolygwr eglwysi y ddinas fu'n brif ddinas y byd. Yr oedd gan Carl allu milwrol, yr oedd gan esgob Rhufain ogoniant traddodiadau a chyfraith hen allu Rhufain. Ac o 800 allan, yr oedd y ddau i lywodraethu Ewrob, -y naill yn Ymherawdwr a'r llall yn Bab. Trwy rym yr anwariaid oedd wedi dinistrio Ymherodraeth Rhufain, unwyd yr hen ymherodraeth â Christionogaeth, a gwelwyd hi'n ymddyrchafu drachefn fel Ymherodraeth Sanctaidd Rhufain. Yr oedd dynolryw i fod dan un gallu gwladol a than un gallu ysbrydol, dan yr Ymherawdwr ar Pab. Ac o hynny hyd ein dyddiau ni, y mae ymdrech rhwng ymherodraeth a rhyddid, rhwng offeiriadaeth a chydwybod. Ymdrech ydyw rhwng hen allu Rhufain ac anibyniaeth cenhedloedd, rhwng gallu milwrol ac athrylith, rhwng awdurdod a rhyddid, rhwng deddf unffurf ac amrywiaeth tyfiant, rhwng ysbryd Rhufain ar y naill law ac ysbryd Athen a Chaersalem ar y llaw arall.

Yr oedd yr un ymdrech yn ynys Prydain. Yr oedd Egbert wedi dod o lys Carl Fawr i'w deyrnas, ac yr oedd wedi penderfynu troi brenhiniaeth llwyth yn ymherodraeth. Yr oedd yr un meddwl yng Nghymru hefyd. Tybiodd Rhodri Mawr y medrai wneud ymherodraeth Gymreig o'r llwythau oedd yn ymladd â'u gilydd dan wahanol frenhinoedd. Dyma oes adfywiad traddodiadau Arthur; tybiodd y Cymry fod iddynt hwythau ymherawdwr unwaith, fel Carl Fawr.

Ofer fu'r ymdrech hon i sefydlu ymherodraeth. Ofer fu ar y cyfandir; rhannwyd tiriogaethau enfawr Carl. Ofer fu yn Lloegr, daeth y Daniaid cyn i Egbert orffen ei gynllun; a phe buasent heb ddod, yr oedd anibyniaeth y tylwythau Anglaidd a Sacsonaidd yn rhy gryf iddynt ymlonyddu dan ymherawdwr. Ofer fu yng Nghymru hefyd; yn fuan wedi marw Rhodri Mawr, os nad cyn ei farw, yr oedd yr anrhefn cynddrwg ag erioed.

Un rheswm am fethiant Rhodri oedd dyfodiad y Daniaid. Pwy fedrai reoli mewn heddwch pan oedd mw^g rhyw hen eglwys sanctaidd yn esgyn mewn rhyw gyfeiriad o hyd? A phwy fedrai weinyddu cyfraith tra'r oedd llongau lladronllyd yn barod i groesawu pob ffoadur, ac i roddi byddin iddo i'w harwain yn erbyn ei frenin?

Ond prif achos methiant Rhodri oedd awydd cryf y tywysogion am fod yn anibynnol. Yr oedd ffyddlondeb y deiliaid i'w tywysogion yn gryfach yng Nghymru, hwyrach, nag yn unlle; a gwaith anobeithiol oedd torri nerth tywysog heb wneud ei genedl yn elynion chwerwon ar yr un pryd. Llwyddodd llawer brenin Cymreig i uno'r tywysogion mewn adegau cyfyng; ond ni lwyddodd brenin erioed pan yn ceisio darostwng eu gallu am byth i'w gyfraith ei hun. Y Norman ddarostyngodd ieirll anibynnol Lloegr; ar estron fu'n allu yn llaw Rhagluniaeth i ddinistrio gallu'r tywysog Cymreig. Ond yn y nawfed ganrif efe ac anrhefn oedd yn llywodraethu.

Cyn y medrid cael gwlad unol dan frenin galluog, yr oedd yn rhaid cael cenedl oleuedig a gwladgar. Ond ni fedrai gwahanol ardaloedd Cymru fyw heb eu tywysogion bach. Cynllun Rhodri oedd rhoddi brenhinoedd iddynt o'i dylwyth ei hun. Yr oedd hyn yn hanner y ffordd rhwng tywysogion anibynnol a brenhiniaeth unedig gref. Hawdd ydyw beio Rhodri am fethu uno Cymru'n un deyrnas. Ond cofier ei anhawsderau. Nid oedd bosibl i lysoedd y gwahanol ardaloedd weithio heb dywysog, ac ni fedrai'r brenin mwyaf teithiol gymeryd lle'r tywysog ymhob man. Ymhell wedi amser Rhodri y daeth y brenin i anfon swyddogion yn ei le; yr unig beth fedrai brenin y nawfed ganrif wneud oedd penodi is-frenhinoedd ffyddlon iddo. Nerth Rhodri oedd nifer ei feibion.

Tybiwyd ymhell ar ôl amser Rhodri mai efe rannodd Gymru yn Wynedd, Powys, a Deheubarth. Felly, hefyd, y tybiwyd mai Alfred rannodd Loegr yn siroedd. Y gwir yw i Rodri ac Alfred ddefnyddio'r rhaniadau hyn at eu pwrpas eu hunain; ni fuasent yn eu creu.

Peth rhyfedd yw dweud am oes anrhefn mai oes cyfraith ydoedd. Ond dyna'r gwir. Yr oedd y Daniaid wedi parlysu pob braich cyfiawnder, yr oedd gwŷr traws yn rhy gryfion i un llys barn. Ac ymdrech y brenhinoedd oedd adfer cyfraith. Yr oedd Carl Fawr wedi rhoi cyfraith i'w ymherodraeth, dan gyfarwyddyd meddylwyr enwocaf ei ddydd. A cheisiodd brenhinoedd Lloegr a Chymru ei ddynwared. Y mawr, yr hen, a'r doeth, y gelwir ef gan Asser, y mynach Cymreig o Ddyfed ysgrifennodd hanes bywyd Alfred.

Yn Lloegr, Alfred oedd y deddfroddwr. Casglodd hen gyfreithiau, a newidiodd hwy yn ôl ysbryd Cristionogaeth. Cyfaddasodd hwy hefyd i anghenion ei oes ei hun.

Yng Nghymru, un o wyrion Rhodri Mawr, - Hywel Dda,oedd y deddfroddwr. Teyrnasodd Hywel ar rannau o Gymru rhwng 909 a 950. Gelwir ef gan y croniclau yn frenin Cymru, ond na feddylier oddi wrth hynny ei fod yn frenin ar Gymru i gyd. Ond os nad oedd yn frenin ar Gymru, paham y dywedi'r fod ei ddeddfau yn ddeddfau i Wynedd, Dyfed, a Gwent, yn eu gwahanol dafod ? ieithoedd? Un rheswm ydyw mai arferion llysoedd gwlad wedi eu casglu ynghyd oedd ei gyfreithiau, rhai fuasai'n gyfraith pe bai Hywel Dda heb ei eni erioed. Rheswm arall oedd hwn, - yr oedd yr eglwyswyr yn helpu Hywel i wneud y cyfreithiau'n fwy tebyg i gyfreithiau'r Beibl, ac yr oeddynt hwy'n dweud wrth drigolion pob talaeth mai dull Hywel oedd dull y gyfraith iawn. Wedi anrhefn dyddiau'r Daniaid, da oedd cael yr hen gyfreithiau, wedi eu cyfnewid yn ôl anghenion newydd yr amseroedd newyddion. Dywedi'r fod Hywel Dda wedi galw tywysogion Cymru at eu gilydd yn yr Hen Dy Gwyn ar Daf, a'i fod yno wedi ail gyhoeddi cyfreithiau ei wlad, gan eu nhewid yn ôl cyngor y tywysogion ar esgobion. Oddiwrth y cyfreithiau hyn, gellir cael syniad pur glir am ddull bywyd politicaidd Cymru yn y nawfed a'r ddegfed ganrif. Y mae'r brenin erbyn hyn yn bwysig iawn, ac y mae ei weision yn brysur ddod yn weision gwlad. Ond y mae y tywysogion yn bwysig hefyd, ac y mae'n amlwg nas gallai'r brenin wneud fawr ond yn hen ddull y genedl. Syml iawn oedd y syniad am ddrwg, ac am anghyfiawnder, - yr oedd pris cymod yn perthyn i bob drwg gyflawnid, rhyw hyn a hyn o wartheg. Yr oedd i bob rhan o'r corff ei bris, yn ôl defnyddioldeb y rhan. Nid bywyd oedd bwysicaf, ond bywyd y brenin; ac yr oedd modd talu iawn hyd yn oed am ladd brenin, - can buwch am bob cantref, tarw gwyn a chlustiau cochion gyda phob can buwch, gwialen arian cyhyd a'r brenin, a dysgl aur cyfled a'i wyneb.

Y mae tri phrif gasgliad o gyfreithiau Hywel Dda, - yn nhafodiaith Gwynedd, Dyfed, a Gwent. Casgliad o gyfreithiau y tair talaeth ydyw y rhain, - yn rhoddi darlun pur lawn o fywyd yr oes. Faint o'r cyfreithiau hyn gasglodd Hywel Dda, a faint ychwanegwyd wedyn, cawn weled wrth ymdrin â hanes cyfreithiau Cymru.

Dywed y croniclau fod Hywel Dda wedi mynd â'i gyfreithiau i Rufain, i'w dangos i'r pab. Y mae llawer o bethau anhygoel yn hanes y daith hon, ond y mae'n ddigon tebyg i Hywel Dda fod yn Rhufain.

Aeth llawer brenin ar bererindod i hen brifddinas y byd, o Gymru ac o Loegr, yn yr amseroedd hyn.

Pen a moliant yr holl Frytaniaid oedd Hywel Dda, medd Brut y Tywysogion. Ond prin y gellir edrych arno, er clodfored oedd, fel brenin holl Gymru. A ffeithiau digon trist ydyw ffeithiau adeg Hywel Dda. Yr oedd y Daniaid oedd wedi ymsefydlu yn Nulyn yn diffeithio Môn: yr oedd y Saeson yn gwneud mynych ruthr i Gymru, gan ladd ryw dywysog; yr oedd y gwahanol dalaethau yn ymladd yn erbyn eu gilydd.

Rhwng marw Hywel Dda ac amser Llywelyn ab Seisyllt, - o 950 hyd 1010,-nid oedd frenin ar Gymru, ond mân frenhinoedd ar y gwahanol rannau. Ac o bob cyfnod, dyma'r adeg yr oedd yn rheitiaf wrth frenin ac undeb.

Yr oedd y cenhedloedd duon wedi ail ddechreu ymosod ar ochr y môr. Fel o'r blaen, y lleoedd agosaf at y môr oedd yn dioddef, lleoedd y gallai'r Daniaid forio i fyny atynt hyd yr afon yn y nos, a lleoedd y gellid eu cyrraedd yn hawdd o'u llongau, a dianc yn ôl cyn i'r wlad godi i'w herlid. Lleoedd felly oedd Caer Gybi, Penmon, Aberffraw, Llanbadarn, Llandudoch, Tyddewi, a Llanilltud. Ond yr oedd llynges Seisnig rhyngddynt â Chaer Lleon ar Wysg.

Tra'r oedd y cenhedloedd duon yn ymosod ar Gymru o'r môr, yr oedd y Saeson drachefn yn ei bygwth o'r tir. Yr oedd brenhinoedd Wessex yn meddwl ennill unbennaeth yr ynys. Yr oedd Edward, mab Alfred, wedi gorchfygu'r Daniaid, ac yr oedd y Cymry wedi derbyn ei amddiffyniad ef ac amddiffyniad ei dad, yn erbyn y môr-ladron. Ond, yn bur fuan, gwelodd tywysogion y Cymry fod yn well iddynt hwy wneud cyfeillion o'r môr-ladron nag o'r Saeson. Yr oedd cyflwr rhanedig Cymru yn temtio brenhinoedd Wessex i ymosod arni, yr oedd yn hawdd iddynt feddiannu ei broydd brasaf heb i'r broydd eraill gynhyrfu dim.

Bu teulu Rhodri'n weddol unedig; ond pan aethant yn gefndryd, buan y dechreuodd ymladd ffyrnicach rhyngddynt nag a welwyd rhwng dieithriaid hyd yn oed yn y dyddiau hynny. Yr oedd ysbryd anrhefn wedi lledu ei esgyll dros y byd. Yr oedd trais a melldith a newyn yn tramwy trwy'r ddaear. Yr oedd y flwyddyn 1000 yn ymyl. Yr oedd y byd mor ddrwg fel y tybiodd amryw fod ei ddiwedd yn ymyl. Cymysgwyd syniadau'n rhyfedd, - meddyliai pobl am y mil blynyddoedd ac am ddyfodiad y Barnwr i farnu yr oes draws honno.

PENNOD X
DAU FRENIN GALLUOG.

ADEG ofn a dychryn oedd y flwyddyn 1000; ac wedi iddi fyned heibio dechreuodd pobl anadlu'n rhwyddach, ac edrych oddi amgylch i chwilio am rywun a'u harweiniai i heddwch a llawnder drachefn.

Tybiai llawer mai'r flwyddyn 1000 fyddai diwedd y byd. Yr oedd pob peth yn ddrwg iawn, a thybid fod y Barnwr ar ddod ar gymylau'r nef. Y mae'n anodd rhoddi un rheswm clir am y dyb hon; o wahanol anghyson dybiau y tarddodd. Yr oedd yr apostol Paul wedi gorfod rhybuddio'r Thesaloniaid rhag tybied fod diwedd y byd yn ymyl. Ond ofer oedd ei rybudd, mynnai dychymyg y byd dynnu'r dydd olaf ar Farn yn agos. A meddylid yn sicr, pan oedd y filfed flwydd yn dod, mai hi fyddair diwedd. Yr oedd Awstin, fe ddywedid, yn credu hynny. Ac yr oedd llawer wedi cymysgu'r Milflwyddiant yn eu meddyliau gyda'r flwyddyn 1000.

Hawdd oedd meddwl fod diwedd y byd yn ymyl. Yr oedd y Babaeth, ar ôl gwrhydri dros grefydd, wedi suddo i ddyfnderoedd llygredigaeth. Anaml bab gâi farw o farwolaeth yr union, - yr oeddynt yn llofruddion, yn ysbeilwyr, ac yn odinebwyr ar y gorau. Dwy ddynes anfad oedd yn dweud pwy gâi eistedd ar orsedd Pedr a llywodraethu'r Eglwys. Yn 999 yr oedd Pab newydd wedi dod, - Sylvester yr Ail, - ac wedi penderfynu puro'r Babaeth ar offeiriadaeth. Y mae moesoldeb Rhufain yn rhyfeddod i'r byd, meddai, yn chwerw. Yr oedd Sylvester wedi bod gyda Mahometaniaid yr Yspaen, ac wedi yfed o ffynhonnau eu dysgeidiaeth, ac wedi gweled mor fawreddog â phur oedd eu crefydd hwy rhagor Cristionogaeth ddirywiedig ei ddydd. Ond prin yr oedd wedi cael yr awenau i'w ddwylaw, prin yr oedd wedi cael agor ei lygaid ar yr holl lygredigaeth oedd yn Rhufain, pan dorrodd angau ef i lawr. A oes rhywun, gofynnid, ond Barnwr y dydd diweddaf, fedr buro Rhufain a'i hoffeiriaid yn y flwyddyn 1000?

Yr oedd yr ymerawdwr yn gwisgo llawer coron - coron yr Almaen, coron haearn yr Eidal, a choron aur y byd. Ato ef y gallai'r gorthrymedig apelio yn erbyn y bleiddiaid dynol oedd yn cyniwair trwy'r gwledydd. Ac yr oedd breuddwyd wedi codi o flaen dychymyg Otto'r Trydydd, yr ymerawdwr elwid yn Rhyfeddod y Byd. Yr oedd wedi meddwi am buro byd ac eglwys, ac i roddi holl alluoedd ei ymherodraeth fawr ar waith i ddarostwng anghyfiawnder a drygioni, ac i gynorthwyo'r tlawd a chodir gwan i fyny. Ond pan ar fin sylweddoliad ei freuddwyd, a phan wedi croesi'r Alpau i'r Eidal, daeth angau mewn dull dieithr ac ofnadwy i'w dorri yntau i lawr tua'r flwyddyn honno.

Yr oedd cedyrn arfog ymhob man, ac nid oedd ymwared i'r tlawd a'r gwan. Yr oedd Ffrainc yn llawn o ysbeilwyr mewn cestyll cedyrn, a phrin y meiddiai'r blodau dyfu yn y wlad honno. Yn Spaen yr oedd y Mahometaniaid anorchfygol yn rhuthro dros gaerau tref ar ôl tref. Yr oedd llofrudd ar orseddfainc Cystenyn yng Nghaercystenyn ardderchog; a thraw, y tu hwnt i'r Tigris ar Gihon, yr oedd y Twrc creulon yn dechrau edrych yn flysig ar sefyllfa ddiamddiffyn gwledydd cred.

Yn Lloegr yr oedd rhyfel enbyd rhwng y brenin Ethelred ar Daniaid. Yr oedd y Saeson a'r Daniaid wedi ymgreuloni, a llawer lladdfa fawr fu yn amser heddwch. Yn y flwyddyn 999 yr oedd Swegen a'i farbariaid yn ymosod ar yr ynys, ac nid oedd a fedrai ei wrthsefyll. Yr oedd Cymru hefyd yn cael ei hanrheithio yn druan. Ymosodai'r Daniaid arni'n ddibaid o ochr y môr, ymosodai'r Saeson arni o'r tir, ac yr oedd ei thywysogion yn ymladd â'u gilydd tra'r oedd y gelyn yn ymosod arnynt o bob tu. Drachefn a thrachefn codai mwg Tyddewi a Llanbadarn a Chaer Gybi i'r nefoedd, a'r barbariad yn crechwen wrth ei weled o'i long, - arwydd sicr fod ei ffagl wedi llwyddo. Drachefn a thrachefn treiddiodd lluoedd Seisnig i ganol Cymru, gan ddiffeithio'r dyffrynnoedd a'u gwneud yn anialwch unig.

Ac ymysg y tywysogion yr oedd ymladd. Yr oedd teulu Rhodri wedi colli eu gafael ar bob rhan o Gymru; ac ni wyddai neb ym mha le yr oeddynt, ac a oedd rhai o honynt ar dir y rhai byw. Yr oedd cred gref yng Nghymru mewn brenin, yr oedd yno adar na chanent ond ar arch y brenin cyfiawn. Bu rhyfel rhwng tywysogion am le'r brenin. Rhyw Aedan, fab Blegywryd, oedd fwyaf nerthol, ac efe a'i bedwar mab oedd yn tra-arglwyddiaethu ar Gymru.

Ni ddaeth Barnwr y byd ar y cymylau yn y flwyddyn 1000. Daeth blynyddoedd ar ei hol fel o'r blaen. Yr oedd llawer wedi trosglwyddo eu tiroedd i'r eglwysi, - fel pe buasai'r eglwysi'n meddu gallu i'w rhwystro i losgi yn y goelcerth ddiweddaf, - a gwelsant yn awr na fuasai waeth iddynt heb. Ailddechreuodd bywyd pob gwlad. Daeth Flildebrand cyn bo hir i buro'r Babaeth trwy ymdrechion mawr. Daeth Harri'r Sant i godi'r Ymherodraeth i binacl uchaf ei gogoniant. Trodd Cnut, brenin Danaidd Lloegr, yn ŵr trugarog a mwyn. Ac yr oedd obaith fod y barbariaid symudol yn peidio â'u cyffro; yn Spaen yr oedd brenin Castile wedi gorchfygu'r Mahometaniaid, draw ar ororau Poland a Hungari yr oedd y barbariaid newydd ddod yn Gristionogion eiddgar; ac yn ymyl, yn yr Iwerddon, yr oedd Brian Borumha wedi dinistrio gallu'r cenhedloedd duon ym mrwydr fawr Clontarf.

A'r amser hwnnw daeth ymwared i Gymru hefyd, drwy rym a doethineb Llywelyn ab Seisyll. O'r De y daethai Llywelyn, ond yn y Gogledd yr oedd ei nerth. Yr oedd wedi priodi un o hil Rhodri, os nad oedd o hil Rhodri ei hun. Angharad oedd ei wraig, merch y Meredydd oedd wedi rheoli gwyr Dyfed am beth amser wrth eu bodd. Yr oedd Meredydd yn fab i Owen, a hwnnw'n fab i Hywel Dda.

Yr oedd Meredydd wedi marw yng nghanol y rhyfeloedd â'r cenhedloedd duon ac â phennau teuluoedd Cymreig oedd yn ymgeisio am y goron. Yr oedd Daniaid y môr a Saeson y tir wedi cyfarfod eu gilydd wrth ddiffeithio, ac nid oedd lle diogel i'r gwan yng Nghymru i gyd.

Ar Wynedd y dechreuodd Llywelyn deyrnasu, drwy orchfygu Aedan a'i feibion, a Meurig fab Artlifael. Tybiodd rhyw Ysgotyn y medrai yntau deyrnasu ar y De, trwy ddychmygu yn gelwydd ei fod yn fab i Feredydd frenin. Cymerodd gwyr y De y Rhein hwn yn frenin arnynt, a chynyddodd ei allu. Nis gallai dau fod yn frenin Cymru, ac apeliwyd at y cledd i benderfynu rhwng Llywelyn ar ymhonnwr. Ymdeithiodd Llywelyn a'i luoedd tua'r De; a daeth yr Ysgotyn i'w gyfarfod. Dywedodd Rhein yn ymddiriedus wrth wŷr y De mai efe a orfyddai, a chredasant hwythau y chwyddedig drahaus anogwr hwnnw. A rhuthrodd y ddwy fyddin yn erbyn eu gilydd yn Aber Gwili, gan fedi eu gilydd i lawr. Gwnaeth gwyr Gwynedd lewder, a darfu ymffrost Rhein, ac a gilyawdd yn waradwyddus o lwynogawl ddefawt". Ar ol y frwydr hon, y mae'n amlwg i Gymru i gyd ddod dan lywodraeth Llywelyn.

Peidiodd y cenhedloedd duon a diffeithio, a daeth y wlad yn heddychlon a llawn drachefn. Peidiodd cyffro'r tywysogion, yr oedd y brenin yn ddigon cryf i gadw'r heddwch rhyngddynt. Cofid am Lywelyn fel pennaf a chlodforusaf frenin o'r holl Frytaniaid. Arferai hen wŷr y deyrnas ddweud yn ei amser ef fod ei deyrnas, o'r môr bwy gilydd, yn gyflawn o amlder da a dynion, hyd na thebygid fod tlawd na gwan yn yr holl wledydd, na thref wag na chyfle diffyg.

Paham y daeth Llywelyn mor gryf, a pha fodd y medrodd wneud ei wlad mor ddedwydd? Trwy ymgyfamodi â brenhinoedd y Gwyddelod yn erbyn y cenhedloedd duon. Yr oedd clod brenin Cymru wedi cyrraedd i gyrrau eithaf yr Iwerddon, ac y mae'r croniclydd Gwyddelig yn sôn am ei farw wrth sôn am farw ei frenhinoedd ei hun.

Cyn marw Llywelyn dechreuodd y cenhedloedd ail anrheithio, a thraw yng nghwr pellaf ei deyrnas gwelodd y brenin Dyddewi ar dân.

Yn 1022 (yn 1023 yn ôl y croniclau Gwyddelig) y bu Llywelyn ab Seisyll farw. Gyda'i farwolaeth ymadawodd yr heddwch a'r llwyddiant i gyd. Aeth Rhydderch fab Iestyn a'r De oddi wrth y Gogledd. Lladdwyd Cynan fab Seisyll; ac aeth Gruffydd, mabo Llywelyn, ar ffo. Lladdwyd Rhydderch gan yr Ysgotiaid; a daeth meibion Edwin, - Meredydd a Hywel, - i'w le. Yna bu brwydr Hiraethwy rhyngddynt a meibion Cynan. Yr oedd y Saeson yn bygwth hefyd; ag yr oedd Iago frenin Gwynedd yn rhy wan i'w gwrthsefyll. Ymha le yr oedd Gruffydd, mab Llywelyn?

Tua 1038 lladdwyd Iago, ac yr oedd y ffordd yn rhydd i Ruffydd ab Llywelyn. Yr oedd ei dad wedi dangos iddo pa fodd i ennill ei deyrnas, a pha fodd i'w rheoli. Y peth cyntaf oedd gyrru'r Saeson dros y terfyn adre, yr ail beth oedd darostwng penaethiaid Cymreig gwrthryfelgar oedd yn gwrthod ymostwng iddo. Wedi hynny, tybiai Gruffydd ab Llywelyn y medrai herio pob ymosodiad o Loegr arno. Ei waith cyntaf oedd rhyddhau Cymru oddi wrth y Saeson oedd yn diffeithio dyffrynnoedd yr Hafren ar Ddyfrdwy. Casglodd fyddin fawr, a llwyr orchfygodd ei elynion ym mrwydr Rhyd y croes, ar afon Hafren. Yn y frwydr honno cwympodd Edwin, brawd iarll Mercia, a llawer o swyddogion pwysig eraill. Cafodd y Cymry lonydd gan y Saeson am flynyddoedd lawer wedi'r frwydr hon. Tua 1039 yr ymladdwyd hi.

Gwaith nesaf Gruffydd oedd gwneud ei hun yn frenin yr holl Gymry. Ym mlwyddyn buddugoliaeth Rhyd y Groes, trodd ef a'i fyddin tua'r Deheubarth, lle'r oedd Hywel ab Edwin yn mynnu teyrnasu. Cymerodd Gruffydd Lanbadarn, gyrrodd Hywel o'r wlad, a llywodraethodd ar y Deheubarth ei hun. Ymhen rhyw flwyddyn daeth Hywel yn ôl o'r môr, a llu o fôr-ladron gydag ef, a bu brwydr rhyngddo â Gruffydd ym Mhen Cader, yn 1041. Ac y gorfu Ruffydd ar Hywel, ebe Brut y Tywysogion, ac y delis y wreic, ac ae kymerth yn wreic idaw ei hun. Dywed cronicl arall mai dyna'r unig dro wnaeth Gruffydd ab Llywelyn yn groes i feddwl gwŷr doeth ei wlad. Yr un fu ymddygiad ei orchfygwr ato yntau, fwy nag ugain mlynedd wedi brwydr Pen Cader.

Gydag i Ruffydd orchfygu Hywel fab Edwin, ymosododd y cenhedloedd duon ar oror Cymru. Gorfu Hywel ar y rhai oedd yn diffeithio Dyfed ym mrwydr Pwll Dyfach; ond syrthiodd Gruffydd ab Llywelyn i ddwylaw Daniaid Dulyn. Prynodd ei ryddid, ac yn fuan yr oedd yn ei ôl. Prynodd Hywel yntau wasanaeth llu o fôr-ladron, a daeth a llynges o genedl Iwerddon ymosod ar Gymru. Ym mrwydr Aber Tywi, yn 1044, cyfarfyddodd Gruffydd ef. Ac wedi bod creulawn frwydr a dirfawr aerfa ar lu Hywel a'r Gwyddyl, yno daeth diwedd Hywel a lladdwyd ef. Er marw o Hywel, nid oedd Gruffydd ab Llywelyn i gael y Deheubarth heb ymdrech arall. Yr oedd meibion Edwin wedi gyrru meibion Rhydderch, - Gruffydd a Rhys,-o'u gwlad, gan deyrnasu yn eu lle. Wedi clywed am farw mab Edwin yn Aber Tywi, daethant i'r Deheubarth. Ond, trwy gymorth y Saeson, gorchfygodd Gruffydd ab Llywelyn hwy, a gorfod iddynt fyned ar ffo drachefn. Er hynny nid oedd derfyn ar lid gŵyr y De yn erbyn un aethai i gyfamod â'r Saeson fu'n elynion iddynt er ys canrifoedd. Lladdwyd gwŷr Gruffydd drwy dwyll yn Ystrad Tywi, a diffeithiodd Gruffydd ab Llywelyn y fro i ddial ei wŷr. Daeth Gruffydd ab Rhydderch a'i ladron cyflogedig i ddiffeithio Dyfed hefyd. Ac ar y Deheubarth difrodedig disgynnodd eira mawr yr amser hwnnw, gan aros o galan Ionawr hyd ŵyl Badrig.

Gwaith nesaf Gruffydd ab Llywelyn oedd cadarnhau Cymru yn erbyn Lloegr. Yr adeg honno yr oedd gallu Wessex yn cynyddu bob dydd, dan lywodraeth teulu uchelgeisiol ac athrylithgar Godwin. Yr oedd yn amlwg mai Harold, fab Godwin, fyddai Brenin Lloegr wedi marw'r Edward dduwiol oedd yn hanner cysgu ar yr orsedd yr adeg honno. Ac yr oedd yn amlwg y ceisiai ddarostwng yr holl ynys.

Gwelodd Gruffydd mai'r peth gorau iddo ef oedd ail godi teyrnas Mercia, i rannu'r Saeson yn eu herbyn eu hunain. Yr oedd Aelfgar, mab Leofric, yn alltudiedig gan deulu Godwin er 1039. Yr oedd hen gynnen rhyngddo â Gruffydd, oherwydd syrthiasa [CySill : xxx]'i ei ewythr Edwin ym mrwydr Rhyd y Groes. Ond aeth y ddau hen elyn i gyfamod; a phriododd Gruffydd ferch brydferth Aelfgar, - Eadgyth, - yr hon oedd wedi syrthio mewn cariad âg ef. Yna dechreuodd Gruffydd ymosod ar Loegr. Ciliodd y Saeson o'i flaen, yn ieirll a milwyr, yn waradwyddus, wedi brwydr chwerwdost. Yr oedd Henffordd a Llanllieni at ei drugaredd. a gorfod i'r Saeson gynnig amodau heddwch. Gwnaed yr heddwch hwnnw yn 1054, a chafodd Gruffydd ei amcan, - rhoddi Aelfgar, ei dad yng nghyfraith, yn iarll Mercia.

Ymhen dwy flynedd yr oedd Gruffydd yn cychwyn tua Henffordd drachefn. Gwnaed pob ymdrech gan y Saeson i'w wrthsefyll, ond ni safai dim o'i flaen. Enillodd frwydr fawr, cwympodd esgob Henffordd a'r sirydd ynddi, a gorfod gwneud heddwch â Gruffydd ar ei delerau ei hun. Am chwe blynedd wedi hyn, yr oedd yn frenin Cymru; a phrin y medrai holl nerth Lloegr wneud dim iddo. Yr oedd mewn cyfamod â'r Daniaid, ac yr oedd ganddo lynges ei hun, felly gallasai ymosod ar Gaer Loew o'r tir neu o'r môr. Yr oedd Aelfgar, iarll Mercia, mewn cynghrair cadarn âg ef; a phan fedrodd Harold yrru Aelfgar ar ffo o'i dalaeth yn 1058, buan y rhoddodd Gruffydd ef yn ei ôl.

Yr oedd Harold yn rheoli Lloegr erbyn hyn, er fod Edward frenin eto'n fyw. Ac yn 1062 dechreuodd yr ymdrech rhwng Harold a Gruffydd ab Llywelyn, rhwng Lloegr a Chymru.

Gruffydd ymosododd gyntaf. Cychwynnodd i Loegr: a phan ddaeth Harold i'w gyrraedd, ni chynhigiai frwydr. Gwyddai Gruffydd nad oedd bosibl i'w Gymry ef, heb ddim ond gwaywffyn, wrthsefyll y traed-filwyr Seisnig yn eu haearn-wisg trwm. A gwyddai Harold na fedrai orchfygu Gruffydd heb fedru dal ei fyddinoedd o filwyr cyflym. Penderfynodd Harold arfogi ei wŷr fel yr arfogai Gruffydd ei wŷr yntau - gydag arfau digon ysgafn iddynt fedru symud mor gyflym â'r Cymry. Wedi gwneud hyn, treiodd Harold ddau gynllun i ddinistrio gallu Gruffydd ab Llywelyn.

Y dull cyntaf oedd hwn.- teithio'n gyflym ar hyd Cymru, a dal Gruffydd yn ei gartref, a'i ladd cyn i'w filwyr fedru ymgasglu. Caer Loew wnaeth Harold yn gartref yn ystod y rhyfel; ac yn Rhuddlan, yn nyffryn Clwyd, yr oedd cartref Gruffydd ab Llywelyn. Medrodd Harold gyrraedd Rhuddlan yn ddiogel yng nghanol y gaeaf, ond methodd gyrraedd ei amcan. Er mor annisgwyliadwy y daethai Harold, medrodd Gruffydd ddianc i'r môr yn ei long. Cysur gwael i Harold oedd llosgi cartref y brenin Cymreig, a chychwynnodd yn ei ôl cyn i'r plas a'r llys orffen llosgi.

Wedi methu yn yr amcan hwn, penderfynodd Harold ymosod ar Gymru o'i chwr, a'i gorchfygu. Cychwynnodd ef ei hun o Fryste, gan arwain ei lynges ar hyd traeth Cymru i'r gogledd. Ac o'r tir yr oedd byddin o wŷr Northumbria, dan ei frawd Tostig, yn dod i'w gyfarfod. Canmolir llawer ar Harold am y gwaith hwn; ond cofier fod Gruffydd dan anfantais fawr. Yr oedd gan Harold fyddin fawr yn barod i'w ddilyn bob dydd o gwmwd i gwmwd yng Nghymru, ac yr oedd yn cael dewis ei fan i ymosod. Ond peth anodd iawn i Ruffydd oedd cadw byddin digon cref i wrthsefyll Harold ymhob man y disgwylid ymosodiad. Crwydrodd Harold a'i fyddin drwy Gymru, dan orchfygu byddinoedd bychain, a chan ladd yn ddidrugaredd. Yma y gorchfygodd Harold oedd yr ymadrodd adawodd ar lawer carreg o'i ôl.

Yr oedd Cymru'n anrheithiedig, ond ni fedrai Gruffydd ab Llywelyn roddi byddin ddigon cref i orchfygu Harold ar y maes. Gwyddai y byddai raid i Harold droi'n ei ôl cyn hir, ac yna gallai ei ddilyn ac ymosod ar ei lu wrth iddo encilio. Ond yr oedd amynedd y Cymry'n fyrrach nag amynedd eu brenin, ac nid oeddynt yn gweld mor bell. Tybient mai oherwydd ystyfnigrwydd eu brenin y daliai'r Saeson i'w hanrheithio o'r Mai hyd yr Awst hynny. Ac aeth rhyw fradwyr a lladdasant eu brenin, er mwyn cyhuddo'r Saeson. A dyna ddiwedd un o frenhinoedd galluocaf Cymru ar galan Awst, 1063.

Pen a tharian ac amddiffynnwr y Cymry oedd y gŵr laddwyd drwy dwyll ei wŷr ei hun. Y gŵr a fuasai anorchfygedig cyn hynny, yr awr hon a adewid mewn glynnoedd diffaith, wedi dirfawr anrheithiau a buddugoliaethau difesur, wedi aneirif oludoedd, - aur ac arian a gemau a gwisgoedd porffor.

Syrthiodd ei wraig yn anrhaith i Harold, yr hwn a'i priododd. Rhannwyd ei deyrnas, oedd wedi uno trwy gymaint gallu, rhwng dau hanner brawd iddo, - Bleddyn a Rhiwallon, meibion Cynfyn. Ond yr oedd y rhain yn talu treth a than warogaeth, ac nid fel Gruffydd ab Llywelyn.

Yr oedd diwedd truenus Gruffydd ab Llywelyn, ar ôl ysblander ei deyrnasiad, yn ddigon i ennyn tosturi hyd yn oed ei elynion. Yn hanes ei gwymp y mae ffawd fel pen cellwair â'r buddugwr, - buasai'n dda i Harold ei orchfygwr wrtho ymhen y tair blynedd. Cawsai Harold ei gymorth cyfamserol i wrthwynebu'r Normaniaid.

Edrychir ar Ruffydd ab Llywelyn gan haneswyr y Saeson, o'i oes ei hun hyd ein hoes ni, fel un o frenhinoedd galluocaf y Cymry. Yr oedd ef yn frenin ar holl hil y Cymry, ebe croniclydd ysgrifennai newydd glywed am ei farw. [3]. "Lladdwyd Gruffydd fab Llywelyn, ardderchocaf frenin y Brytaniaid, ebe croniclydd Normanaidd oes wedi hynny, drwy dwyll ei wŷr ei hun". [4] "Efe oedd y pennaeth Cymreig olaf", ebe hanesydd gor-Seisnig sydd newydd huno, "i'w enw fod yn wir ddychryn i glustiau Seisnig".[5] Wedi ei gwymp ef gadawyd Cymru'n wan ac yn rhanedig fel o'r blaen. A phan nad oedd amddiffynnydd, yr oedd y Norman yn parotoi i gyrchu tua dyffrynnoedd mwyaf dymunol Cymru, Efe oedd yr olaf i ddod i'r mynyddoedd, a chyda'i ddyfodiad ef dechreua cyfnod newydd yn ei hanes.

NODYN VII. golygu

Gyda chwymp Gruffydd ab Llywelyn yn 1063, cawn ddiwedd cyfnodau cyntaf a thywyllaf hanes Cymru. Gallesid meddwl fod Cymru, wedi ei farw ef, at drugaredd Saeson. Wessex. Ond yn 1066 daeth William, y gorchfygwr Normanaidd, a darostyngodd Loegr iddo ei hun rhwng 1066 a 1087. Dechreuodd ei farwniaid orchfygu Cymru hefyd. Ond, fel y cododd Llywelyn ab Seisyll a Gruffydd ab Llyweiyn yn erbyn y Saeson, cododd Gruffydd ab Cynan a Gruffydd ab Rhys yn erbyn y Normaniaid. Mewn cyfnod wedyn, pan aeth y Saeson ar Normaniaid yn un bobl, arweinid y Cymry gan Owen Gwynedd, Llywelyn Fawr, a'r Llywelyn Olaf. Mewn cyfnod wedi hynny, pan geisiai'r Cymry gyfiawnder fel deiliaid brenin Cymru a Lloegr, arweinid hwy gan Owen Glyn Dŵr.

Fel yr awn ymlaen, daw hanes Cymru'n llai politicaidd, ac yn fwy cymdeithasol a llenyddol. Yn y rhan nesaf o'r hanes, rhoddir cipolygon amlach ar fywyd yr hen Gymro yn ei gartref.

CROMLECH YN NYFED

PENNOD XI - YR HEN GREFYDD

YN hanes rhyfeloedd Iwl Cesar, a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun, rhoddir darluniad o grefydd Celtiaid y cyfandir, a gallwn ei gymeryd, hefyd, fel darlun o grefydd Cymru. Yr oedd y bobl dan awdurdod dau fath o lywodraethwyr, - y tywysogion, yn meddu gallu'r byd hwn; a'r derwyddon, yn meddu gallu dieithr ac ofnadwy y byd arall. Gwaith y derwyddon oedd arolygu pob peth crefyddol, gofalu am yr aberthau wneid ar ran gwlad neu ŵr, ac esbonio egwyddorion crefydd. Hwy oedd athrawon yr ieuanc, ac ymdyrrai gwŷr ieuainc y gwledydd i'w hysgolion. Hawdd ydyw gweled oddi wrth hyn eu bod yn uchel ym meddyliau'r bobl, ac mewn anrhydedd mawr. Hwy oedd barnwyr y wlad; os cyflawnai rhywun drosedd, os llofruddid neb, os byddai ymrafael am etifeddiaeth neu am derfynau, - y derwyddon fyddai'n cyhoeddi'r gyfraith ac yn dyfarnu'r gosb. Os gwrthodai neb dderbyn eu cosb neu eu cerydd, boed ef un enwog neu un dinod, un cyhoeddus neu anghyhoedd, gwaharddent iddo ddod i'r aberthau. Yr ysgymundod hwn oedd eu penyd eithaf; a buan y teimlai'r ysgymunedig mai penyd annioddefol oedd, - cyfrifid ef ymysg yr euog ar annuwiol, gochelai ei gyfaill gorau ef fel un heintus, nid oedd cyfraith a'i hamddiffynnai, ac ni ddisgynnai un anrhydedd i'w ran. Eisteddai'r derwyddon mewn man canolog, mewn llecyn cysegredig, a doi'r rhai oedd a chŵyn atynt o bob cyfeiriad.

Yr oedd yr offeiriaid hyn yn un dosbarth annibynnol, dan lywodraeth un archdderwydd. Y derwydd pwysicaf ymysg y derwyddon oedd yr archdderwydd. Weithiau cymerai un ei le yn naturiol fel archdderwydd ar farwolaeth y llall, dro arall byddai etholiad cynhyrfus, ac weithiau ymleddid âg arfau am y lywyddiaeth bwysig hon.

Yr oedd gan y derwyddon lawer o freintiau. Ni ofynnid iddynt ymladd mewn rhyfel, ni osodid treth arnynt, a medrent ymgadw, os mynnent, oddi wrth bob dyletswydd gwladol. Yr oedd eu breintiau'n tynnu llawer atynt, o'u gwirfodd neu drwy gymhelliad eu rhieni, i dreulio eu dyddiau wrth draed athrawon, yn lle mentro eu bywydau yn rhyfeloedd aml a ffyrnig yr amseroedd hynny. Eisteddai rhai wrth draed y derwydd am ugain mlynedd. Defnyddid ysgrifen mewn materion gwladol; ond mewn materion crefyddol, nid oedd lyfr i fod ond y cof. Dysgid miloedd o adnodau a phenillion. Tybient y collent eu gafael ar y bobl os gadawent i'w dysg fynd o'u dwylaw trwy ei roddi ar ysgrif: a pheth arall, tybient fod rhoddi gwybodaeth mewn ysgrif yn magu diogi yn y meddwl trwy arbed llafur. Un o'u prif ddaliadau, - daliad dynnai sylw Iwl Cesar mewn modd neilltuol, - oedd eu cred yn nhrawsfudiad eneidiau. Dalient nad oedd yr enaid yn marw, ond ei fod yn mudo o'r naill i'r llall. Hyn oedd un rheswm am wroldeb y rhyfelwyr, - yr oedd ofn marw wedi ei dynnu o'u meddwl. Dysgent eu disgyblion, hefyd, y peth wyddent am y sęr a'u troeon, am faint y byd, am natur pethau, ac am allu a grym y duwiau anfarwol.

Teyrnasent ar bobl dra chrefyddol. i'w meddwl hwy, y duwiau oedd yn rheoli pob peth. Pan flinid hwy gan afiechydon hynod boenus, neu pan oedd raid wynebu perygl mewn brwydr, gwnaent i'r derwyddon aberthu bodau dynol yn aberth. Tybient na fedrid achub un dyn heb aberthu un arall yn ei le i'r duwiau. Yr oedd gan y genedl gyfan ei haberthau. Llenwid delw wiail anferthol â dynion byw; rhoddid hi ar dân, a llosgid y dynion yn aberth. Tybient mai yr aberth mwyaf dymunol gan y duwiau oedd llofruddion a lladron,-ond os na byddai digon o'r rhain, llenwid y ddelw â rhai diniwed.

Ar awr claddu, taflent bob peth oedd annwyl gan yr ymadawedig i'r tân, - hyd yn oed creaduriaid byw. Ac ychydig cyn amser Iwl Cesar, pan fyddai'r seremonďau claddu drosodd, llosgid y caethion a'r gweision anwylaf gan y marw, fel y dilynent ef i'r byd arall yr oedd y derwydd yn ceisio tremio iddo trwy'r tywyllwch mawr.

Y mae olion aberthu adeg gwneud adeilad neu bont yng Nghymru eto. Yn un o lecynnau mwyaf anghysbell Ceredigion y mae un bont yn cael ei galw eto ar enw un o'r duwiau y tybid ei fod yn gofalu am bontydd, - Pont y Cwr Drwg. Dywed yr hanes mai efe ei hun a'i cododd. a'i fod wedi gofyn aberth i'r hen wraig y cododd hi er ei mwyn. Yr aberth oedd y peth byw cyntaf groesai. Yr oedd yn meddwl yn sicr mai'r hen wraig fyddair peth byw hwnnw. Ond anfonodd hi ei chi o'i blaen, ac - nad oedd hwnnw'n aberth gwerth trafferth yr ysbryd drwg. Traddodiad ydyw'r hanes hwn, mae'n sicr, am yr aberthu bywyd fu wrth osod sylfeini pontydd.

Allor yr Iberiad oedd yr allor waedlyd honno. Ei grefydd ef oedd derwyddiaeth. Yr oedd crefydd ac addoli yn ei natur, ac yr oedd ofn byd arall ym ei wneud yn wasaidd i'r offeiriaid oedd yn gwybod meddwl y duwiauo.Ond yr oedd gan y Celt fwy o nerth corff, a llai o ddychymyg. Nid oedd rhyw lawer o wahaniaeth rhwng ei dduwiau ef a dynion, mwy nag oedd rhwng duwiau'r Teutoniaid a dynion.

Ymffrostiai yn ei nerth ei hun, wrth hela'r baedd ar arth, ac wrth gyfarfod ei elyn mewn brwydr ffyrnig. Y parch a dalai o gwbl, fei talai'i ysbrydion ei gyndadau, ac nid oedd ei dduwiau ond ei hynafiaid ef ei hun.

Y mae'r gromlech ar lun y tŷ. Yn aml y mae cylch o gerrig geirwon ar eu pennau yn y ddaear, a dwy res o gerrig eraill yn myned tuag atynt. A'i y rhain, un waith, yr oedd to o bridd. Dyna dŷ cyntefig y llwyth. Gwnaed y bedd ar lun y tŷ ,- preswylfa'r marw oedd. Ym mhlith rhai llwythau paganaidd, hyd y dydd hwn, gadewir yr hen dŷ i gorff marw'r pen teulu, a thry'r teulu allan i chwilio am dŷ newydd. A oedd y llwythau'n addoli wrth y gromlech, wrth fedd eu pennaeth? Maen ddiamau eu bod; nid oedd fawr o wahaniaeth rhwng dal cymundeb â'u hynafiad a'i addoli. Yn y gromlech yr oedd eu pennaeth coll yn byw, a chyda pharch y dynesent at y lle. Ceidwadol iawn ydyw dyn, ymhob oes, gyda seremonďau claddu. Yr oedd y gromlech, - tŷ'r marw, ar lun ei adeiladau cyntaf, ogofeydd yn , y ddaear hwyrach; Tra'r oedd tŷ'r byw ar gynllun mwy cyfaddas at anghenion newyddion y bobl.

Ond, wedi dod i gyffyrddiad â'r Iberiad, cafodd y Celt syniadau eraill am fyd y bedd. Dysgodd grefydd newydd, - sef derwyddiaeth. Y mae'n ddi ddadl mai o'r Iberiad gorchfygedig y cafodd Celtiaid Ffrainc a Phrydain y grefydd hon. Ymysg yr Iberiaid, yn eithafion gorllewinol Cymru, yr oedd ei dysgawdwyr gorau. Oddi yno, sylwai dieithriaid, yr adnewyddid derwyddiaeth; oddi yno y deuai ei hoffeiriaid.

Y mae'n amlwg beth oedd effeithiau'r grefydd dywyll hon. Yn un peth, gwnâi i ddynion gofio fod duwiau creulon eiddigus yn gwylio symudiadau eu bywyd; a pheth arall, rhoddai ddylanwad anarferol i'r offeiriaid. Ei drwg oedd, - gwnâi fywyd dynion yn anhapus, dan gysgodion tywyll o hyd; a rhoddai allu dirfawr yn nwylaw offeiriaid wyddent ba fodd i orthrymu. Ei da oedd, - rhoddai atalfa ar nwydau hunanol yr anwar; a rhoddai allu yn llaw rhywun heblaw'r Celtiaid trahaus.

Lludd Law Arian oedd duw trafnidiaeth ar fôr a thir, perchennog a rhoddwr diadelloedd a llongau. Y mae olion ei deml i'w gweled eto ar lan yr Hafren, mewn lle yn dwyn ei enw, - Lydney. Y mae Lydstep yn neheudir Penfro. Yr oedd teml i'r un duw,. mae'n ddiamau, yn y lle y deuai llongau i fyny'r afon Tafwys, - lle mae Llundain yn awr. Dyna ystyr yr enw Cymreig am y brifddinas, - Caer Ludd; a dyna ystyr enw Ludgate Hill hefyd. Cofid am Ludd fel gwaredwr ei wlad oddi wrth dair gormes.[6]

Hen dduw diddorol arall oedd Myrddin. Syrthiodd hwn mewn serch, a dangosodd i'w gariad pa fodd y medrai wneud plasdy hud, plasdy na fedrai carcharor ddod o honno byth. Gwnaeth hithau blasdy felly o gwmpas Myrddin pan oedd yn cysgu, ac yn y tŷ gwydr hwnnw y mae Myrddin byth.

Y mae Llyr wedi dod yn enw adnabyddus oherwydd ei fod yn destun un o ddramâu gorau Shakespeare, ac y mae Coel wedi aros mewn hwiangerdd. Duwies fu mewn bri mawr oedd Elen Luyddawg. Y mae darluniad prydferth o honni ym Mreuddwyd Macsen Wledig. Gwelodd Macsen hi mewn breuddwyd, yn eistedd mewn cader aur, ac yr oedd mor anodd edrych ar ei thegwch disglair ag ar haul pan fydd decaf. Mewn amser anwylwyd ei henw trwy ei gysylltu ag enw'r ymerawdwr Rhufeinig cyntaf gofleidiodd Gristionogaeth. Gelwir yr hen ffyrdd syn croesi ein mynyddoedd ar ei henw hi.

Clywai Mâth Hen beth a ddywedid mewn unrhyw bellder; ond yr oedd llawer o dduwiau a rhyw anaf corfforol neu arwydd henaint arnynt, megis Tegid Foel a Dyfnwal Moelmud. Gwydion ab Don ydyw'r mwyaf prydyddol a difyr o'r holl hen dduwiau, - efe greodd Flodeuwedd o wahanol flodau, efe ddaeth a moch o'r de, efe oedd yr hanesydd huawdl a'r adroddwr ystraeon difyr. Gwyn oedd brenin y Tylwyth Teg a'r marw, Cai oedd duw'r tân, Beli Mawr oedd duw rhyfel, Pwyll fedrodd reoli uffern drwy rym a doethineb. Yr oedd Owen a'i frain yno hefyd, a Pheredur, a llu o dduwiau eraill. Nid Elen oedd yr unig dduwies ychwaith; yr oedd Ceridwen ymysg duwiesau hen Gymru, yn paratoi defnynnau doethineb yn ei phair ger Llyn Tegid; yr oedd Dwynwen yno hefyd, duwies cariad, a'i ffynnon yn datguddio cyfrinion serch.

Mae enwau llawer o'r hen dduwiau, mae'n ddiamau, wedi diflannu. Erys rhai fel enwau ar ysbrydion drwg, megis Ellyll. Meddiannwyd eraill gan Gristionogaeth, megis Naf. Erys rhai mewn enwau lleoedd, megis Tegid. Ond erys y rhan fwyaf fel arwyr hanner dynol, megis Cai, Bran.

Y mae llawer llecyn yng Nghymru fu'n gysegredig gynt i'r hen dduwiau. Y mae llyn du trist yn Eryri o'r enw Dulyn. Aberthid ar ei gerrig unwaith aberthau i dduw'r gwlaw. Dechrau'r ganrif hon, ceid gwlaw drwy daflu dŵr ar y garreg bellaf yn y llyn, a elwid yn allor goch. Y mae llawer crug a thomen a gorsedd fu'n gysegr i ryw dduw a ofnid gynt. Ni feiddiai neb fynd i orsedd Arberth heb orfod dioddef poen corfforol am ei ryfyg:[7] ni fedr neb gysgu ar ben Cader Idris heb fod yn barod i dderbyn un o dri pheth a gynhigid iddo,- athrylith, gwallgofrwydd, neu farwolaeth. Y mae llawer pen bryn nas gellir cloddio ynddo heb dynnu ystorm o fellt a tharanau, - y mae ofn yr hen dduwiau wedi aros eto yng ngreddf gwlad.

Lle'r arhosodd gallu'r hen dduwiau hwyaf oedd o gylch ffynhonnau. Yr oedd ugeiniau o ffynhonnau hyd Gymru, ac yr oedd ugeiniau o fân dduwiau'n warcheidwaid i'r rhain, duwiau fedrai daro â chlefyd, neu iachau. Gwaith cymharol hawdd i Gristionogaeth oedd gorchfygu'r duwiau pwysicaf; ond gwaith anodd iawn oedd gorchfygu'r mân dduwiau hyn. Arosasant hyd ein dyddiau ni. Y peth wnaeth y cenhadon Cristionogol oedd cymeryd lle'r hen dduwiau, a chymeryd meddiant o'r ffynhonnau eu hunain. Daeth sant at y ffynnon, yn lle'r hen dduw, a daeth y bobl a'u hafiechydon at y dyfroedd yr un fath. Wrth odreu Carn Bentyrch yr oedd ffynnon rinweddol, a delw duw, - mae'n debyg, - yn ei gwylio yn agen y graig wrth ben. Daeth Cybi sant, ebe'r hanes, i Langybi; galwyd y ffynnon yn ffynnon Gybi, a rhowd y sant i eistedd yn gysurus yn y graig yng nghader yr hen dduw. Rhoddwyd sant yn lle hen dduw i warchod dyfroedd iachaol ffynnon Degla hefyd. Yr oedd y claf i orwedd dan allor yr eglwys drwy'r nos, a gollyngai aderyn i ehedeg o gwmpas yr eglwys wag. Os byddai'r aderyn wedi marw erbyn y bore, byddai afiechyd y pererin wedi myned iddo ef, a'r pererin ei hun yn holliach. Ac felly y gwnaeth saint eraill gydag hen dduwiau eraill.

Cenid clodydd ffynnon Gwenffrewi gan Iolo Goch, bardd Owen Glyn Dŵr, ac un o feirdd mwyaf y canol oesoedd. Cadwodd llawer ffynnon ei rhin tan ein dyddiau ni; ac aberthir pin neu ddernyn o frethyn eto ger ffynhonnau gâi ragorach aberth gynt.

Er wedi ei darostwng i grefydd y goleuni, cadwodd hen grefydd dywyll y mynyddoedd ei gorsedd mewn llawer modd. Aeth ei haberthau a'i duwiau, i raddau pell, yn rhan o grefydd newydd.

PENNOD XII.
Y GREFYDD NEWYDD.

TUA 200, dywed Tertullian yn eglur fod Cristionogion mewn lleoedd ym Mhrydain nad oedd y Rhufeiniaid wedi eu Cyrraedd. Ac o'r flwyddyn 200 y mae hanes eglwys y Cymry'n dechrau. Er mwyn eglurder gellir rhannu hanes yr eglwys fel hyn,-

200-300 Cyfnod y tyfu.
300-400 Cyfnod y trefnu.
400-500 Cyfnod yr heresïau.
500-600 Cyfnod y saint. Cyfnod annibyniaeth.

Ni wyddom ryw lawer am gyfnod y twf, nid oes fawr o fanylion am y dull yr ymledodd yr efengyl dros ein hynys gyntaf. Aneglur a chymylog, ond prydferth iawn, er hynny, ydyw bore pell ein crefydd ni. Ni fedr yr hanesydd ysgrifennu dyddiadau na darlunio cymeriad y pregethwyr cyntaf, - y mae y rhai hyn wedi cilio i ddistawrwydd bythol. Ond medr y bardd weled eglwys Brydeinig yn graddol ymffurfio, fel teml Solomon yn codi heb sŵn morthwylion, neu fel cedrwydden yn cynyddu yn Libanus. Gwelai'r tadau Cristionogol Brydain yn derbyn yr efengyl, ac y mae aml un o honynt yn ymlawenhau wrth ddarlunio'r efengyl wedi cyrraedd eithafion byd, ie wedi cyrraedd Prydain. A phan erlidiodd Diocletian y Cristionogion yn 304, cafwyd rhai ym Mhrydain i roddi eu bywyd i lawr dros y ffydd.

Gwyddom beth mwy am gyfnod y trefnu, oherwydd fod Cristionogion o Brydain wedi croesi'r môr i gydymgynghori â'u brodyr ynghylch materion eu ffydd. Ceir eu hanes mewn cyngor ar ôl cyngor, a phob amser ar ochr yr uniongred. Yr oedd tri esgob Prydeinig yng Nghyngor Arles yn 315. A phan gododd yn ymryson chwerw ynghylch natur y Drindod, cawn Brydeiniwr bron ymhob Cyngor o bwys. Yr oedd esgobion Prydeinig yn Nicea yn 325, pan oedd Athanasius yn amddiffyn y ffydd yn erbyn heresïau newyddion; a chawn hwynt yn unfryd â'u brodyr ar y cyfandir, ac yn trefnu eu heglwys a'u ffydd yn yr un modd. Erbyn 400 yr oedd Prydain yn un o wledydd cred. Yr oedd eglwysi yma ac acw ynddi, yr oedd allorau Duw ymysg allorau drylliedig yr hen dduwiau. Yr oedd sôn am demlau rhyfedd; dywed Ierom yn 388 fod llawer yn sôn am deml Duw, a gofyn iddynt gofio geiriau'r apostol, - Oni wyddoch chwi mai teml Duw ydych, a bod ysbryd Duw yn trigo ynoch? Ac yna, meddyliodd fod yr hanes wedi mynd i bob man, fod yr efengyl yn allu yng Nghaersalem, lle y dioddefodd yr Iesu, ac ym Mhrydain, y lle pellaf oddi wrth Gaersalem, - O Gaersalem ac o Brydain y mae'r wlad nefol yr un mor agored; y mae teyrnas Dduw ynoch chwi. A thra mae Ioan Aurenau, tua 400, yn llawenhau fod Prydeiniaid fu'n bwyta cnawd dynol yn awr yn meithrin eu heneidiau trwy ympryd, dywed Ierom, - Un Crist addolir gan Brydain a Gallia, ac Affrig a Phersia, ar Dwyrain ac India, ac un rheol y gwirionedd sydd iddynt. Yr oedd y cymundeb agosaf rhwng eglwysi Prydain ac eglwysi'r Cyfandir, ac yr oedd pererinion Prydeinig yn cyfarfod pererinion o eithafoedd Persia yng ngwlad Canan. Cyfnod dedwydd i'r eglwys oedd hwn, cyfnod 11awenydd llwyddiant ac ieuenctid, cyfnod gobaith fedrai weled gwaith mil o flynyddoedd yn cael ei wneud mewn un dydd, cyfnod ffydd fedrai fwrw mynyddoedd i'r môr. Yr oedd Llydaw hefyd yn derbyn yr efengyl: a chyn 400 yr oedd y Gwyddelod wedi cymeryd bachgen yn garcharor yn Ystrad Clwyd. A'r bachgen hwnnw oedd Padrig, apostol yr Iwerddon.

Yna daeth cyfnod o ofidiau i'r eglwys ieuanc. Rhwng 400 a 500 daeth heresïau i'w rhannu, a daeth y Saeson paganaidd i ymosod arni o'r tu allan. Cyn 415, yr oedd yr Eglwys Gristionogol yn gwybod am ddysgawdwr o Brydain, oedd wedi teithio trwy Rufain ac Affrica i Gaersalem, gydag efengyl newydd. Pelagius oedd ei enw; a chan mai Prydeiniwr oedd o genedl, mae rhai, gyda mwy o wladgarwch nag o wybodaeth, wedi tybied mai cyfieithiad o'r enw Morgan yw'r enw Pelagius. Dysgai Pelagius ryddid yr ewyllys, a chondemniwyd ef yn ddiarbed gan Ierom o'i gell ym Methlehem, a chan Awstin, y mynach sydd wedi goruwch lywodraethu cyhyd ar feddwl dyn. Y mae dwy ochr i'r gwirionedd.-annibyniaeth ac ufudd-dod, rhyddid ewyllys ac etholedigaeth, rhyddid cydwybod a chyfundrefn. Pregethai Pelagius y naill, pregethai Awstin y llall. Rhyddid crefyddol ydyw dyhead y Prydeiniwr erioed: am drefn anhyblyg, am un ffydd uniongred, am un Eglwys, y dyheai Rhufain. Yr oedd ysbryd ei oes yn erbyn Pelagius, medrodd Awstin gondemnio ei ddysgeidiaeth, nid fel hanner gwirionedd, ond fel heresi groes i'r gwirionedd; a medrodd ddefnyddio grym y gallu gwladol i erlid disgyblion y Prydeiniwr. Ymosodwyd ar ei heresi yn ei wlad enedigol. Yn 429 daeth Germanus a Lupus, - Garmon a Bleiddian, - esgobion Auxerre a Troyes, i bregethu yn erbyn Pelagiaeth ym Mhrydain. Daeth cynulliad enfawr i'w cyfarfod i Verulanium, a dywed eu brodyr yn y ffydd i'w hyawdledd orchfygu eu gwrthwynebwyr yn llwyr. Dywed traddodiad iddynt fod yng Nghymru, ac y mae yn ddiamau fod iddo sylfaen o wirionedd. O'r cyfarfod mawr yn Verulanium, aeth y ddau esgob ymlaen i'r gogledd orllewin, hyd nes y daethant i lannau'r Ddyfrdwy ac i fro'r Alun. Tra yn pregethu yno, daeth y newydd fod y Pictiaid barbaraidd ar ymosod arnynt. Arweiniodd Garmon ei disgyblion yn erbyn y gelyn, a ffodd y gelyn wrth eu clywed yn bloeddio "Haleliwia", - gair eu gorfoledd, - a'r bryniau yn eu hateb. Llwyddodd y disgyblion yn eu neges; dros gan mlynedd wedi eu dod, y mae Gildas yn sôn am heresi Pelagius gyda'r casineb ar ddiystyrwch mwyaf. Ond, rhwng 450 a 500, dylifodd barbariaid Teutonaidd i ynys Prydain; daeth fel ffrwd dros ran ddwyreiniol yr ynys, gan ei thaflu'n ôl i baganiaeth, a chan wahanu eglwysi Cymru ar Iwerddon yn y gorllewin oddi wrth eglwysi'r Cyfandir. Rhwng 500 a 600 gadawyd eglwys y Cymry iddi ei hun, - yr oedd gwlad o farbariaid terfysglyd gelynol rhyngddi â Rhufain ac a Chanan, man geni a man trefnu y ffydd Gristionogol. Y canlyniad oedd, ymddadblygodd y ddwy eglwys mewn dulliau gwahanol; a phan ail gyfarfyddodd Cristionogion o Gymru a Christionogion o Rufain dan goeden dderwen yn rhywle yn nyffryn yr Hafren, darganfyddasant nad oedd eu ffydd mwyach yr un.

Nis gallasid disgwyl i Gristionogaeth Cymru ar Iwerddon a Christionogaeth Rhufain ddatblygu yn yr un dull. Yn y gwledydd Lladinaidd, yr oedd traddodiadau am drefn anhyblyg llywodraeth Rhufain yn gryfion iawn. Ond yng Nghymru, ac yn enwedig yn yr Iwerddon, yr oedd ysbryd annibyniaeth yn gryfach nag ysbryd trefn. Ar ffurf llywodraeth berffeithiedig y tyfodd Cristionogaeth, - yn fuan iawn ffurfiwyd yr eglwysi'n esgobaethau, yr esgobaethau'n arch esgobaethau, ac unwyd yr holl gyfundrefn daclus dan lywodraeth esgob Rhufain, fel yr unid yr ymherodraeth dan lywodraeth ymerawdwr Rhufain.

Ond yng Nghymru ac yn yr Iwerddon, nid oedd datblygiad yr Eglwys mor rheolaidd, yr oedd yr holl drefniadau'n llawer mwy ystwyth. Ar anibyniaeth llwythau, nid ar undeb ymerodraeth, yr oedd Eglwys Cymru ac Eglwys yr Iwerddon wedi eu sylfaenu. Llac iawn oedd yr undeb, yr oedd yr annibyniaeth yn gryf. Yr oedd llu o esgobion yng Nghymru fel mewn gwledydd eraill, ond y mae'n debyg mai pregethwyr enwocaf y wlad oeddynt; ac nid oedd y wlad wedi ei rhannu'n esgobaethau, ac un esgobaeth wedi ei rhoddi dan ofal neilltuol un dyn. Ni bu archesgob ar Gymru erioed.

Rhwng y blynyddoedd 500 a 600, yr oedd gan y saint ddau waith. Un oedd efengylu i'r rhai oedd eto'n baganiaid, - megis y Gwyddyl oedd yn eithafion Dyfed a'r Pictiaid oedd yn parhau i ymwthio o fynyddoedd yr Alban tua'r de. A'u gwaith arall oedd cadw ysbryd Cristionogaeth yn fyw yn ystod cyfnod o ryfeloedd gwaedlyd. Aml iawn y cawn hanes sant yn ceryddu brenin.

Y prif saint oedd Dyfrig, gysylltu'r â Llan Daf ac a fu farw, meddir, yn ynys Enlli; Deiniol, yng Ngwynedd; Cyndeyrn, ym Mhowys; Gwynllyw, tywysog Gwynllwg ym Morgannwg; Catwg, ei fab; Illtyd; Samson, aeth wedi hynny i Ddôl Llydaw; Cybi yn ynys Môn; Dewi yn Nyfed; Teilo ym Morgannwg: a Phadarn yng Ngheredigion. Y rhai hyn roddodd i'r efengyl lwyr fuddugoliaeth yng ngwahanol rannau Cymru. Cenhadon oeddynt, wedi eu geni yn Llydaw neu yng Nghernyw neu yng Nghymru ei hun.

Yn ystod y ganrif hon, dechreuwyd edrych ar y sant enwocaf ym mhob teyrnas yng Nghymru fel esgob y deyrnas honno. Yr oedd mynachdy,- teulu o wŷr crefyddol, - ym mhob teyrnas; ac o dipyn i beth, daeth pen y teulu hwn yn esgob y deyrnas. Edrychid ar deyrnas Gwynedd, mewn ystyr eglwysig, fel esgobaeth Bangor: a Deiniol, fu farw yn 584, roddir yn esgob cyntaf iddi. Yn raddol edrychid ar Bowys fel esgobaeth Llanelwy; a Chyndeyrn, medd haneswyr y ddeuddegfed ganrif, a wnaeth yr esgobaeth. Dyfed, gyda'i therfynau symudol, ddaeth yn esgobaeth Tyddewi; Ceredigion oedd esgobaeth Llanbadarn. Bu Brycheiniog, hwyrach, yn esgobaeth iddi ei hun, - esgobaeth Llanafan. Daeth Gwent a Morgannwg yn esgobaeth Llandaf; ond hwyrach fod Morgannwg hefyd wedi bod unwaith yn esgobaeth iddi ei hun, - esgobaeth Margam.

Tra'r oedd Eglwys y Cymry'n ymffurfio fel hyn, yr oedd y Saeson yn derbyn yr efengyl, a daeth Cristionogion y gorllewin a Christionogion Rhufain i gyffyrddiad â'u gilydd drachefn. Ond erbyn hynny prin yr oeddynt yn adnabod eu gilydd. Yr oedd Eglwys Rhufain dan unbennaeth Pab erbyn hyn; ond yr oedd annibyniaeth yr eglwys gyntefig eto'n feddiant i'r Cymry. Ac yr oedd llu o fân wahaniaethau, - nid yr un oedd amser eu Pasg; nid yr un oedd eu cyfieithiad o'r Beibl; nid oedd eilliad eu mynachod yr un,-eilliai'r Rhufeiniwr ei goryn, a'r Prydeiniwr ei dalcen; nid oedd dull y bedydd yr un, na dull ordeinio esgob. A chyfarfod rhyfedd oedd cyfarfod cyntaf y cefndryd fu gynt yn frodyr yn y ffydd.

Awstin Fynach, abad mynachdy Andreas Sant yn Rhufain, a ddaeth yn genhadwr dros y Pab at Saeson ac Eingl paganaidd Lloegr. Cychwynnodd yn 595, ond trodd yn ei ôl. Ail gychwynnodd yn haf y flwyddyn wedyn, a chyrhaeddodd oror Caint yn 597. Yr oedd tua deugain o gyd - grefyddwyr gydag ef, ac ymysg y cyfieithwyr yr oedd rhai o'r un iaith ar Saeson, - rhai wedi aros ar ôl eu brodyr ar y Cyfandir.

Unwaith gallasid meddwl fod Rhagluniaeth wedi bwriadu i Gregori ddod i efengylu i Loegr. Ond rhoddwyd gwaith mwy iddo, - efe drefnodd Eglwys y Gorllewin ac a sylfaenodd Babaeth y canol oesoedd, y Babaeth wnaeth ddaioni mor ddifesur cyn ymddirywio. Mewn adegau pwysig a rhyfedd yn unig yr ymddengys dynion fel Gregori Fawr. Mewn byd drwg, mewn amser anfoesoldeb yn dilyn rhyfeloedd, yr oedd yn bosibl cael sêl mor danllyd â hunanaberth mor lwyr. Dechreuodd Greogri fel mynach, drwy gwbl orchfygu ei nwydau ei hun, a chyflwyno ei enaid, - heb chwant ac heb gariad at ddim darfodedig, - i'w Dduw. Yn nistawrwydd a thawelwch mynachdy Andreas bu'n ymladd a phob temtasiwn fedrai dychymyg nerthol greu, gan feddwl mai gwaith ei fywyd oedd achub ei enaid ei hun i Grist. Ond ryw ddiwrnod cerddodd allan i'r farchnad brysur. Ac ymysg y pethau oedd ar werth wele blant bychain o Eingl wedi eu cludo o Loegr i farchnad Rhufain. Fel pob un wnaeth ei ôl ar y byd, yr oedd gan Gregori hoffder at wyneb plentyn. Nid Eingl, ond engyl, meddai, wrth edrych ar lygaid gleision a gwallt euraidd y Saeson bach; a phenderfynodd gychwyn i'w hynys i bregethu Crist i'w cydgenedl. Cafodd ganiatâd y Pab, ac yr oedd wedi teithio tri diwrnod pan ddaeth negesydd buan i'w alwn ôl. Yr oedd i wneud gwaith mwy pwysig. Efe oedd i fynd i Gaercystenyn i gymodi ymerawdwyr, i gasglu byddinoedd i wrthsefyll y Lombardiaid annynol a heintus, ac efe oedd i drefnu Eglwys Rhufain, i estyn ei therfynau, ac i'w hamddiffyn.

Un arall ddaeth i Loegr, ac yr oedd Awstin yn llai dyn na Gregori. Yr oedd yn hoff o ddangos ei awdurdod, ac mewn rhwysg y dygodd yr efengyl i'r Saeson. Effeithiodd y rhwysg hwnnw ar feddyliau'r brenhinoedd Seisnig, ond bu'n achos rhwyg am ganrifoedd rhwng Eglwys Rufain ac Eglwys y Cymry. Cariai ei genhadon groes arian o'i flaen yn lle baner, a darlun o'r Iesu, a chanent. Llwyddodd yn rhyfedd ac yn fuan; ac erbyn 603 y mae'n hawlio awdurdod ar esgobion y Cymry yn y gorllewin.Tua 603 teithiodd i gyffiniau Cymru. Mewn lle adwaenid yr oes wedyn wrth yr enw Derwen Awstin, galwodd ar brif wŷr eglwysig y rhannau Cymreig agosaf -esgobion a gwŷr dysgedig Gwent,-a gofynnodd iddynt gydymffurfio â defodau Eglwys Rhufain, a gadael eu hen ddefion eu hunain. Ni thyciodd na dadl nac erfyn na bygwth; ni fynnai'r Cymry ymwrthod â dull ffydd eu tadau. A gwaith oesau wedyn oedd llethu annibyniaeth eu heglwys.

Yn 739 y mae'r pab Gregori III yn condemnio cenhadon Cymreig fel hereticiaid. Ond erbyn tua 800 y mae esgobion Cymru wedi cymodi â Rhufain, trwy Elfod, archesgob Gwynedd. Ond ni fynnai esgobion eraill Cymru gydnabod uchafiaeth esgob Bangor lle yr oeddynt eu hunain yn archesgobion hŷn o fraint.

Ymdrech nesaf esgobion Cymru yw bod yn annibynnol ar bob man ond Rhufain. Yr oedd Caer Gaint yn dechrau hawlio uchafiaeth arnynt. RHWNG boreu eu hanes a 1063, y mae mynyddoedd Cymru yn agos iawn i'r pethau ydynt heddyw. Yr oeddynt yn uwch o ryw ychydig, y mae rhew'r gaeaf yn malurio rhywfaint arnynt o hyd. Ac yr oedd mwy o goed arnynt o,lawer. Derw, gwern, helyg, bedw, y llwyfen, ffynidwydd, collwydd, ffawydd, - safent oll yn y dyffrynnoedd ac ar ochrau'r mynyddoedd, fel y gallai gwiwer fynd o'r naill ben i'r wlad i'r llall heb daro ei throed ar lawr. Yr oedd llwyni tewion o goed eirin perthi ac o fafon hyd ochrau'r drymiau. Dringai'r gwynwydd aroglus ar eiddew hyd y llwyni o ddrain duon a gwynion. Addurnid y mynyddoedd â rhedyn a grug, ac ag ysblander melyn eithin a banadl. Yr oedd yr aeron newydd ddod hefyd, a'r pren ceirios, a'r pren gellyg.

Yr oedd yr arth yn prysur ddiflannu, ond yr oedd heidiau o fleiddiaid newynog yn chwilio am eu hysglyfaeth, ac yr oedd yr afancod cywrain yn gwneud eu tai yn yr aberoedd. Yr oedd yr eryr brenhinol i'w weled yn aml hefyd. Yr oedd ein cyndadau wedi dofi pob anifail syn ddof yn ein plith ni heddyw, - y march, y fuwch, yr afr, y ddafad, y ci. Y pethau olaf ddofwyd, mae'n debyg, oedd moch a gwenyn, oherwydd y mae traddodiadau am eu dyfodiad hwy. Credid mai o'r nefoedd y daeth y gwenyn, a chyfeiria Dafydd ab Gwilym at y dyb hon yn y canol oesoedd wrth ddarlunio'r plu eira'n disgyn, -

Trwy Wynedd y trywenynt,
Gwenyn o nef, gwynion ynt.

Ond o le arall y tybid fod moch wedi dod. Ym mabinogi Math fab Mathonwy, ceir ymgom rhwng Math a Gwydion ab Don. Arglwydd, ebe Gwydion, im a glywais ddyfod i'r deheu ryw bryfed na ddaeth i'r ynys hon erioed o'r blaen. Beth yw eu henw ? Hobau, arglwydd. Pa fath anifeiliaid ydynt? Anifeiliaid bychain, gwell eu cig na chig eidion; y mae gwahanol enwau arnynt, moch y gelwir hwy weithiau. Pwy pia hwy? Pryderi fab Pwyll: anfonwyd hwy iddo o Annwn, gan Arawn frenin Annwn.

Hanes concwest, gan mwyaf, yw hanes y cyfnodau cyntaf hyn. Daeth ton ar ôl ton o genhedloedd i fynyddoedd Cymru, - gyda iaith a phryd a chrefydd ac arferion newydd bob tro, - a gorchfygai'r genedl newydd yr hen. Collid llawer o fywydau, mae'n sicr, ym mhoethder yr ymladd: ond, wedi'r frwydr, trigai'r gorchfygwr a'r gorchfygedig ynghyd. Deuai gwaed newydd i'r wlad, toddai y cenhedloedd i'w gilydd, a byddai'r genedl newydd yn gryfach na'r hen. Yng ngwythiennau'r Cymro puraf gall fod gwaed o anialdiroedd poeth y dwyrain a gwaed o wledydd eiraog y gogledd yn cyd - redeg.

Erbyn 1063 yr oedd y Cymry wedi siarad yr un iaith, ac wedi galw eu hunain ar yr un enw, am dros bedwar cant o flynyddoedd. Ond eto yr oedd yn hawdd gweled gwahanol haenau yn ffurfiad y genedl. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng dosbarthiadau, ac yr oedd yn hawdd gweled fod y dosbarthiadau wedi bod unwaith yn genhedloedd gwahanol. Yr oedd pob cenedl o orchfygwyr wedi aros fel meistriaid y cenhedloedd gorchfygedig.

Yn y cyfreithiau Cymreig, - ac mewn cyfreithiau y cedwi'r hanes hwyaf, - y mae gwahaniaeth amlwg iawn rhwng dau ddosbarth. Nid ystyrrid fod gan y taeogiaid Iberaidd deulu o gwbl, rhennid y tir rhwng pobl y fro, pa un bynnag a oedd perthynas rhyngddynt a'i peidio. Fel haid, nid fel tylwyth, yr edrychid arnynt i ddechrau gan eu gorchfygwyr, - moch Môn, geifr Arfon, gwybed Mawddwy. Ond yr oedd y bywyd tylwythol yn sylfaenu pob defod a braint ymysg y gorchfygwyr Celtaidd.

Ond er y darostwng a'r gorchfygu, yr oedd gogwydd bywyd y byd yn gryf yng nghyfeiriad rhyddid. Codai'r gorchfygedig ei ben drachefn, a graddol ddiflannai'r gwahaniaeth rhyngddo a'i orchfygwyr. Unid hwy gan fygythiad rhyw elyn newydd, ymasiai eu cyfreithiau, ymunai eu bywydau.

Gadewch i ni edrych ar deulu Cymreig yn y cyfnod hwn. Dacw'r tŷ ar ochr y mynydd neu ar ymyl y goedwig. Y mae ei un ystafell yn ddigon mawr i gynnal teulu cyfan. Adeilad ysgwâr neu grwn ydyw; wedi ei wneud o goed yn eu rhisgl neu wedi eu dirisglo. Plennid y coed ar eu pennau i wneud ochrau'r tŷ, yn nen iddo yr oedd canghennau plethedig dan faich o frwyn neu wellt. Ar ganol llawr y tŷ, y tu mewn, yr oedd y tân, - yn cynnau ddydd a nos. Oddi amgylch yr ochrau yr oedd gwely y teulu, ar yr hwn yr eisteddid y dydd ac y cysgid y nos. Rhwng cylch y gwely a'r tân yr oedd llawr wedi ei orchuddio â hesg. Hesg hefyd, mae'n debyg, oedd defnydd y gwely, ond fod math o frethyn cartref garw yn ei orchuddio. Yr oedd gan bob aelod o'r teulu ei le yn y gwely teuluaidd, ac ar hynny yr oedd ei holl freintiau yn dibynnu, - ei hawl i gael ei amddiffyn gan y teulu, a'i hawl i ran o gynnyrch y tir gwelyawg. Amser bwyd, cyfrannai pawb o gawl, cig, a bara ceirch, gan eistedd o gylch y tân. Gyda'r nos rhoid ychwaneg ar y tân, ac a'i pob un i gysgu i'w barth penodol yn y gwely. Gan fod pob un yn perthyn i'r gwelygordd, yr oedd ganddo hawl i ran o'r tir aradr, hawl i'r tir pori, a hawl i hela'r baedd gwyllt a'r llwynog a'r carw yng nghoedwigoedd y teulu. Ceir darlun, ym Mreuddwyd Rhonabwy, o hen dy adfeiliedig. Darlunni'r tri gŵr yn teithio ar lethrau mynyddoedd Powys o flaen tymhestl. A gwelent o'u blaenau hen neuadd burddu, dal, union, a mŵg yn dod o honni ddigon ei faint. Pan ddaethant i mewn, gwelent lawr pyllog anwastad, a braidd y gellid cerdded ar hyd-ddo, gan mor lyfned oedd, a thail gwartheg ar hyd-ddo. Lle bynnag yr oedd twll, aid dros droed yn y dwfr ar dail cymysg. Yr oedd gwrysg celyn yn aml ar y llawr, a'r gwartheg wedi bwyta eu brig. Llychlyd a lledlwm oedd y parthau; ac yr oedd hen wraig yn y tŷ yn unig yn taflu ambell arffedogaid o us ar y tân, hyd nes nad oedd hawdd i ddyn yn y byd ddioddef y mwg hwnnw. Ac am y gwely, byrwellt dysdlyt chweinllyt oedd dan y lliain llwydgoch caledlwm.

Ond, cyn adfeilio, yr oedd y tŷ yn un cysurus ac eang; ac yr oedd llawer taeog yn hiraethu am hawl i berthyn i'r teulu urddasol breswyliai ynddo.

Arhosai'r teulu yn y tŷ hyd y drydedd genhedlaeth. Pan fyddai'r pen teulu farw, cymerid ei le gan y mab ieuengaf, a chodai'r brodyr eraill dai iddynt eu hunain ar rannau eraill o'r tir gwelyog. Ond yr oedd y tir yn aros yn eiddo cyffredin i'r teulu i gyd, - un cae wedi ei aredig gan aradr neu aradrau'r teulu. Eiddo'r teulu oedd pob eiddo hefyd, y teulu dalai'r ddirwy dros aelod bechasai yn erbyn y llwyth, y teulu a ddialai gam pob un ddrygid. Yr oedd y tir aradr wedi ei rannu'n erwau, a rhoddid ei ran o'r erwau i bob aelod o'r teulu.

Wedi marw'r brodyr, ail-rennid yr erwau rhwng cefndryd: ac wedi marw'r cefndryd, gellid rhannu eilwaith rhwng cyfyrdyr. Yna ystyrrid nad oedd y teulu'n un mwyach, yr oedd wedi ymrannu'n wahanol deuluoedd, a chyn hir byddai'n llwyth.

Ond, er ymrannu, cofiai'r tylwythau eu bod o'r un gwaed. Pan ymosodai gelyn arnynt, ymunent oll dan un arweinydd. Gan eu bod yn byw'n wastad mewn ofn rhyfel, yr oedd yn rhaid wrth dywysog parhaus.

O oes i oes y mae'r da yn llwyddo, - undeb a rhyddid yn cyd - gryfhau, crefydd well a moes mwy pur, amcanion uwch a dynion gwell i'w sylweddoli, yn ofn Duw ac mewn cariad at ddyn.

NODIADAU.

Aifft, Egypt.
Alban, Scotland.
Amwythig, Pen Gwern, Shrewsbury.
Bleiddian, Lupus, esgob Troyes.
Bretwalda, dux Britanniarum, gwledig,-teitl uchaf llywodraethwr Prydain.
Breuddwyd Macsen Wledig, Dream of Maximus the Emperor'.
Breuddwyd Rhonabwy, Dream of Rhonabwy, mabinogi.
Bro Morgannwg, Vale of Glamorgan.
Brut y Tywysogion, Chronicle of the Princes, cronicl Cymreig o 681 i 1282, ysgrifennwyd yn Ystrad Fflur neu Gonwy.
Bryneich, Bernicia.
Bryste, Bristol.
Bucheddau'r Saint, Lives of the Saints.
Caer, Chester.
Caer Dydd, Cardiff.
Caer Efrog, Eboracum, York.
Caer Gybi, Holyhead.
Caer Loew, Gloucester.
Caer Ludd, Llundain, London. Lludd Llaw Arian oedd duw masnach.
Caer Lleon ar Wysg, Caerleon.
Caer Seiont, Segontium, Caernarfon.
Caer Went, Bath.
Caint, Kent.
Caradog, Caratacus.
Casnewydd, Newport.
Cernyw, Cornwall.
Clawdd Offa, Offa's Dyke. Hen glawdd hyd ororau Cymru. Ni wyr neb pwy a'i cododd nac i ba beth.
Croesoswallt, Oswestry.
Cymru, Wales. Galwodd y Prydeiniaid y mynyddoedd eu hunain ar yr enw hwn rywbryd rhwng 577 a 613. Ni chymerwyd ef gan Brydeiniaid Cernyw, ond yr oedd yn enw ar Brydeiniaid anorchfygedig gogledd Lloegr.
Cystenyn Fawr, Constantine the Great.
Deifyr, Deira.
Derwyddon, druids, offeiriaid Iberaidd.
Dulyn, Dublin.
Dux Britanniarum, "bretwalda," tywysog y ddwy Brydain.
Dyfed, Dimetia, de-orllewin Cymru.
Dyfrdwy (dwfr dwyfol), Dee.

Eingl, Angles, roddodd eu henw i England.
Emrys, Aurelius Ambrosius.
Eryri, Snowdonia.
Fichtiaid, Gwyddyl Ffichti, Picts.
Garmon, Germanus, esgob Auxerre.
Groeg, Greece.
Gwent, sir Fynwy, &c. Ar tud. 43 Salisbury Plain ydyw.
Gwledig, bretwalda, dux Britanniarum.
Gwrtheyrn, Vortigern.
Gwynedd, talaeth gryfaf Cymru, y rhan ogledd orllewinol.
Hafren, Severn.
Helen Luyddawg, Helen of the Legions.
Henffordd, Hereford.
Hen Dy Gwyn, Whitland.
Iwerddon, Erin, Ireland.
Iwl Cesar, Julius Caesar
Llandudoch, St. Dogmell's.
Llanilltyd, Lantwit Major.
Llanllieni, Leominster.
Lloegr, England. Cf. Liguria, Loire.
Lludd Llaw Arian, Lud of the Silver Hand.
Llydaw, Brittany, Breiz-Izel.
Mabinogion, nifer o ramantau gedwir yn Llyfr Coch Hergest, rhai ohonynt yn hyn na Christ ac Arthur.
Môn, Anglesey.
Môr y Canoldir, Mediterranean Sea.
Morgannwg, Glamorgan.
Mynydd Du, Black Mountain.
Powys, un o brif dalaethau Cymru, y rhan ogledd-ddwyreiniol.
Prydain, Britain. Enw Rhufeinig yr ynys oedd Britannia.
Prydwen, White Aspect, llong Arthur.
Rhufain, Rome. ddinas wnaeth y cenhedloedd yn ymherodraeth.
Saeson, Saxons, English. Galwodd y Cymry holl bobl Lloegr yn Saeson am mai'r Saxons adnabyddent gyntaf.
Sieffre o Fynwy, Geoffrey of Monmouth, awdwr "Hanes Brenhinoedd y Brytaniaid." Ni chredai ei gydoeswyr ef.
Tafwys, Thames.
Teyrnllwg, rhwng Dyfrdwy a Derwent; Lancashire, &c.
Tyddewi, St. David's.
Unbennaeth, overlordship.
Waen, Chirkland.
Wyddfa, Snowdon.
Ynys Wyth, Isle of Wight.
Ystrad Clwyd, Strath Clyde. Y rhan ogleddol o wlad y Cymry Ymestynnai o'r Ddyfrdwy i'r Clyde (yn yr Alban).
Y fad felen, yellow fever.

  1. Lili'r dwr
  2. jet
  3. Se waes kyning ofer eall Weal cyn. A. S. Chron
  4. Griffinus fllius Lewelini Rex Britonum nobilissimus dolo suorum occisus est
  5. The last British chief whose name was really terrible to Saxon ears. E. A. Freeman, Norman Conquest, 11. 462.
  6. Gweler fabinogi Lludd a. Llefelys. Arg. Rhydychen
  7. Gwel fabinogi Pwyll Pendefig Dyfed. Arg. Rhdychen 1-25