Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Abergavenny

Hanover Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Heolyfelin, Casnewydd
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Y Fenni
ar Wicipedia




ABERGAVENNY.

Mae yn amlwg fod Ymneillduaeth wedi ymdaenu i raddau helaeth yn y dref hon a'r gymydogaeth yn lled gynar yn yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid dyma le genedigaeth William Wroth, "apostol Cymru," a Richard Symmonds, athraw yr enwog Richard Baxter, ac nid yw Trefela, lle genedigaeth Walter Cradock, ond ychydig filldiroedd oddiyma; ond y mae yn ymddangos i'r rhan luosocaf o Ymneillduwyr y dref a'r ardal hon fabwysiadu golygiadau y Bedyddwyr tua'r flwyddyn 1650, neu yn fuan ar ol hyny; a'r enwad hwnw sydd wedi parhau y cryfaf a'r lluosocaf yma, o'r pryd hwnw hyd yn bresenol. Mae manylion hanes dechreuad yr achos Annibynol yn Abergavenny, yn anhysbys i ni. Yn rhestr y trwyddedau, a roddwyd i'r Ymneillduwyr i bregethu, yn 1672, yr ydym yn cael tai John Edwards a Christopher Price yn y dref wedi eu trwyddedu at gynal gwasanaeth crefyddol gan yr "Ailfedyddwyr," a thŷ William Pritchard, yn Llandilopertholeu, i'r un enwad. Tŷ John Watkins, yn Llanwenarth, yw yr unig le o addoliad a drwyddedwyd i'r Annibynwyr yn y gymydogaeth. Cafodd y ty hwn ei drwyddedu Awst 10fed, 1672. Mae yn debygol i'r ychydig enwau a ymgynnullent i dy John Watkins, Llanwenarth, yn 1672, lwyddo i gadw yr achos yn fyw hyd nes cael nawdd Deddf y Goddefiad, yn 1688. Yn ol tystiolaeth y diweddar J. J. Morgan, Ysw., un o ddiaconiaid yr eglwys, yr hwn a fu farw Tachwedd 3ydd, 1850, yn 76 oed, henafiaid yr hwn a fuont o oes i oes yn brif golofnau yr achos er ei gychwyniad, yn niwedd y flwyddyn 1690, yr agorwyd y lle addoliad cyntaf gan yr Annibynwyr yn y dref. Ystafell eang yn Cross Street, ar gongl Monk Street ydoedd. Yn yr ystafell hon y parhawyd i ymgynnull hyd y flwyddyn 1707, pryd yr adeiladwyd capel yn Castle Street.[1] Mae enw y gweinidog cyntaf yma yn anhysbys i ni. Tua'r flwyddyn 1695, darfu i wr ieuangc o'r enw Roger Griffiths, gael ei ddewis yn weinidog. Bu yma hyd y flwyddyn 1699, pryd y bradychodd Ymneillduaeth, ac y cymerodd bersoniaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Darfu i'w waith ymwrthod ag Ymneillduaeth greu cryn gynhwrf yn y dref, a thrwy yr oll o'r byd bychan Ymneillduol yn Nghymru, oblegid yr oedd yn wr dysgedig iawn, wedi derbyn ei addysg ar draul yr Ymneillduwyr; ac newydd agoryd athrofa yn Abergavenny, yr hon a amcenid i fod yn olyniad i athrofa enwog Samuel Jones, Brynllwarch. Bu yr amgylchiad agos a bod yn ddinystr i'r achos yn Abergavenny, yr hwn am ychydig amser, a rwygwyd yn ddarnau. Mewn llythyr a ysgrifenwyd at Mr. Blackmore, o Worcester, yn Hydref neu Tachwedd 1698, gan Mr. Rees Protheroe, wedi hyny o Gaerdydd, yr hwn a fuasai am ychydig amser yn athrofa Mr. Griffiths, dywedir: "Yr wyf yn clywed fod Mr. Griffiths, fy niweddar athraw, wedi pregethu yn ddiweddar beth tramgwyddus iawn i bobl Abergavenny. Efe a gyfiawnhaodd Eglwys Loegr o ran ei chred a'i ffurfiau, gan haeru fod ei holl seremonïau, nid yn unig yn ffafriol i weddeidd-dra, ond hefyd eu bod yn arwydd o ostyngeiddrwydd. Efe am hanfonodd i ymaith o'i athrofa er mwyn gwneyd lle i'w nai." Etto, mewn llythyr arall, gan yr un ysgrifenydd, a chyfeiriedig at yr un person, dyddiedig yn Llanymddyfri, Rhagfyr 27ain, 1698, ysgrifena: "Y mae Mr. Griffiths wedi pregethu pregeth yn bleidiol i gydffurfiad, ac wedi rhoddi copi o honi i rai o'r Eglwyswyr, yr hyn er hyny sydd wedi bod yn destyn siarad cyson yn mysg yr offeiriaid. Darfu iddo wedi hyny gadw un cyfarfod cymundeb, ond nid oedd ei eglwys yn gynnwysedig o ychwaneg na Charles Morgan, Samuel Rogers, dau ereill o'r dref, pump o fyfyrwyr, a phump o filwyr-pedwar-ar-ddeg ynghyd. Mae tua phedwar-ar-hugain o bersonau yn myned i dŷ cyfarfod Williams, gweinidog yr Ailfedyddwyr."[2]

Wedi i'r bobl gael eu gwasgaru trwy yr amgylchiad gofidus hwn, bu Mr. Weaver, gweinidog yr eglwys Ymneillduol yn Henffordd, yn gynnorth-wyol iawn i'w casglu yn nghyd a'u haildrefnu. Mae enw "Mr. Evans, diweddar o Abergavenny "yn nghofnodion y Bwrdd Henadurol yn Llundain, am y flwyddyn 1706. Yr ydym yn casglu oddiwrth y cry-bwylliad hwn fod y Mr. Evans yma, pwy bynag ydoedd, wedi bod yn weinidog i'r eglwys am flwyddyn neu ddwy ar ol ymadawiad Roger Griffiths.

Yn y flwyddyn 1703, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Cole, gwr ieuangc o ddinas Caerloew, yr hwn a fu yn weinidog ffyddlon a llwyddianus yma am bymtheng mlynedd. Teimlai Mr. Cole trwy yr holl amser ei fod, fel Sais analluog i bregethu yn y Gymraeg, mewn cylch nad oedd yn addas i'w lenwi, gan fod cynifer o Gymry uniaith yn y dref a'r cylchoedd. Ymdrechodd lawer i feistroli y Gymraeg, fel ag i allu pregethu yn effeithiol ynddi, ond pan welodd fod ei ymdrechion yn aflwyddianus, penderfynodd ymadael, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam eglwys yn Nghaerloew, a symudodd yno yn 1718. Gadawodd Mr. Cole yr eglwys mewn agwedd flodeuog o ran rhif a sefyllfa gymdeithasol, fel y dengys y cyfrif canlynol, a anfonwyd i Dr. John Evans, Llundain, yn Ionawr, 1718: "Rhif y gynnulleidfa 280, yn cynnwys 1 yswain, 16 o foneddigion, 7 yn byw ar eu tiroedd eu hunain, 63 o fasnachwyr, 1 amaethwr yn talu rhent am ei dir, a 7 o weithwyr." Yr oedd gan aelodau y gynnulleidfa 13 o bleidleisiau dros sir Fynwy, 3 dros sir Frycheiniog, 1 dros sir Forganwg, ac 1 dros sir Henffordd; 23 dros fwrdeisdrefi Mynwy, 3 dros Gaerodor, a 3 dros Henffordd. Dilynwyd Mr. Cole yn y weinidogaeth gan Dr. Hugh May, yr hwn a urddwyd ar y 13eg o Fai, 1719. Cawn y cofnodiad canlynol yn hen lyfr yr eglwys o berthynas i urddiad Dr. May: "Mai 7fed, 1719—cyfarfyddodd yr eglwys yr hwyr heno i weddio yn ddifrifol ar Dduw am ei fendith neillduol a'i gymorth i bawb sydd i gymeryd rhan yn y gwaith o urddo ein gweinidog dewisedig, Dr. Hugh May. Ein taer ddymuniad yw i'r gwaith gael ei gyflawni dydd Mercher nesaf, y 13eg o'r mis hwn. Arwyddwyd dros yr eglwys genyf fi David David, Diacon." Cafodd gweddi daer yr eglwys ar yr achlysur hwn ei hateb, fel y dengys y ffaith hynod a ganlyn, yr hon a gofnoda Mr. Peter, yn Hanes Crefydd yn Nghymru, ar awdurdod llythyr oddiwrth Mr. Harries, Abergavenny: "Dywedir mai ar ddydd ei urddiad y cafodd Dr. May ei wir ddychwelyd at yr Arglwydd. Wedi gorphen y gwasanaeth aeth y gweinidogion i giniaw; a phan welsant nad oedd Dr. May yn eu plith, hwy a ymofynasant am dano, a chawsant ef yn ei ystafell ddirgel yn wylo dagrau yn hidl, a chyfaddefodd wrthynt na wyddai efe ddim yn gadwedigol am grefydd hyd y dydd hwnw. Bu yn weinidog ffyddlon a llwyddianus o'r dydd hwnw hyd ddydd ei farwolaeth." Ni bu tymor ei weinidogaeth ond byr. Bu farw yn Abergavenny yn y flwyddyn 1723.

Canlyniedydd Dr. May oedd Mr. Fowler Walker, o Bridgenorth, yn sir Amwythig. Dyddiad ei alwad ef i Abergavenny yw Tachwedd 3ydd, 1723, a pharhaodd i lafurio yno gyda pharch a llwyddiant, hyd ei farwolaeth yn 1751. Nis gwyddom am ddim nodedig a gymerodd le yn hanes yr eglwys yn ystod gweinidogaeth Mr. Walker. Ymddengys i bethau fyned yn mlaen yno yn esmwyth a chysurus trwy yr holl amser, heb un cyfnewidiad hynod er gwell na gwaeth.

Ionawr 13eg, 1752, rhoddwyd galwad i Mr. David Jardine, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, a'r hon y cydsyniodd. Er nad oedd Mr. Jardine, pan ymsefydlodd yno, ond llange ugain oed, cyfododd i barch a dylanwad yn uniongyrchol, a chynyddodd ei ddefnyddioldeb, o flwyddyn i flwyddyn, hyd ei farwolaeth annisgwyliadwy yn 1766, pryd nad oedd ond pedair-ar-ddeg-ar-hugain oed.

Tuag amser sefydliad Mr. Jardine yn Abergavenny, yr oedd sefyllfa pethau yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin yn dra annghysurus, am fod Mr. Samuel Thomas, un o'r athrawon, yn cael ei gyfrif yn Ariad, a'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, ynghyd a'r eglwysi hyny yn Nghymru a lynent with Galfiniaeth, o'r herwydd wedi colli eu hymddiried yn y Sefydliad, ac yn tynu ymaith eu cynnorthwy oddiwrtho.

Mawrth 7fed, 1753, pasiwyd y penderfyniad canlynol gan y Bwrdd Cynnulleidfaol, Fod y Bwrdd hwn yn sefyll yn benderfynol ar i Mr. Davies symud yr athrofa o Gaerfyrddin." Gwrthododd Mr. Davies gydsynio a'r penderfyniad, ac mewn canlyniad ataliodd y Bwrdd bob cynnorthwy oddiwrthy Sefydliad yn Chwefror 1755. Yn mhen ychydig gyda dwy flynedd ar ol hyn, sef Mawrth 7fed, 1757, dewisodd y Bwrdd Cynnulleidfaol Mr. Jardine yn athraw, a sefydlwyd yr athrofa Annibynol Gymreig yn Abergavenny. Ychwanegodd yr amgylchiad hwn yn fawr at enwogrwydd a dylanwad yr achos Annibynol yn y dref a'r gymydogaeth, a daeth Abergavenny i fod yn fath o Jerusalem i Annibynwyr Cymru. Cynelid yno gyfarfod pregethu yn flynyddol, yn nglyn ag arholiad y myfyrwyr, trwy yr hyn y rhoddid cyfleusdra i bobl y dref a'r cylchoedd i gael clywed pregethwyr enwocaf yr enwad, o flwyddyn i flwyddyn. Cynyddodd yr athrofa yn fuan i'r fath bwysigrwydd fel y bu raid i Mr. Jardine gael is-athraw i'w gynnorthwyo, ac yn 1759, dewiswyd Mr. Benjamin Davies, yr hwn oedd newydd orphen ei amser fel myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, i'r swydd hono.

Ar farwolaeth Mr. Jardine, dewiswyd Mr. (wedi hyny Dr.) Davies yn weinidog yr eglwys, ac yn athraw yr athrofa. Penodwyd ef yn athraw gan y Bwrdd Cynnulleidfaol, Rhagfyr 8fed, 1766, ac urddwyd ef yn weinidog yr eglwys, Medi 30ain, 1767. Ysgrifena Phillip Dafydd, yn ei ddyddlyfr, gyferbyn a'r diwrnod hwnw fel y canlyn: "Heddyw bum yn Abergavenny yn urddiad Mr. Benjamin Davies, ac yr wyf fi yn barnu fod y gwasanaeth yn felus i laweroedd yno. Traddododd Mr. Davies ei gyffes mewn modd effeithiol iawn. Yr wyf fi yn credu ei fod ef yn ddyn difrifol a da, ac y bydd yn fendith fel athraw a gweinidog." Felly y bu. Mwynhaodd yr eglwys dangnefedd, cysur, a gradd helaeth o lwyddiant dan ei weinidogaeth efengylaidd a melus, a chafodd ef yr anrhydedd o addysgu yn yr athrofa rai o weinidogion enwocaf Lloegr a Chymru, megys Dr. Edward Williams, o Rotherham; Dr. Jenkin Lewis, o'r Casnewydd; Mr. William Thomas, Bala; Mr. Thomas Bowen, Castellnedd, &c. Ar ol llafurio yn yr athrofa yn Abergavenny am ddwy flynedd ar hugain, ac yn yr eglwys am bedair blynedd ar ddeg, darfu i Dr. Davies, er mawr dristwch i'w eglwys a galar i'w holl gyfeillion yn Nghymru, gydsynio a chais taer y Bwrdd Cynnulleidfaol i ymgymeryd a'r swydd o athraw arosol a chlasurol, yn ngholeg Homerton, ac yn niwedd y flwyddyn 1781, symudodd o Abergavenny i Lundain. Yn ol ystadegau Mr. Josiah Thompson, yr oedd y gynnulleidfa yma yn 400 o rif, yn 1773.

Ar ol ymadawiad Dr. Davies, bu yr eglwys am ddwy flynedd a hanner heb un gweinidog. Mehefin 17eg, 1784, derbyniodd Mr. J. Griffiths, Caernarfon, alwad, a sefydlodd yn weinidog yno. Yr oedd rhyw ysbryd drwg wedi ymlusgo i mewn i'r eglwys yn awr, fel yr ymranodd yn mhen ychydig gyda dwy flynedd wedi sefydliad Mr. Griffiths yno. Aeth ei gyfeillion allan gyda Mr. Griffiths, a chymerasant ystafell yn y dref at addoli ynddi, a chadwodd ei wrthwynebwyr feddiant o'r capel. Mae achosion a natur yr annghydfod hwn yn gwbl anhysbys i ni, ond yr ydym yn casglu fod yn rhaid fod rhyw ysbryd satanaidd iawn wedi ymlusgo i mewn i'r eglwys, cyn y gallasai fod yno neb yn ddigon drygionus i gyfodi yn erbyn gweinidog o enwogrwydd, duwioldeb, a boneddigeiddrwydd Mr. Griffiths. Bu Mr. Griffiths yn pregethu i'w gyfeillion yn yr ystafell o Medi 1786 hyd ddechreu y flwyddyn 1796, pryd y cydsyniodd a galwad ei hen gyfeillion yn Nghaernarfon, ac y dychwelodd yno. Mae yn debygol i'w bobl yn Abergavenny, ar ol ei ymadawiad, ddychwelyd i'r capel yn Castle Street.

Cawn yr hanes canlynol am yr ymryson hwn yn llyfr yr eglwys:— "Medi 25ain, 1786, cymerodd ymraniad gofidus le yn yr eglwys Ymneillduol yn Castle Street. Am y pedair blynedd dilynol bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog ynddi." Hyn yw yr oll a hysbysiri ni am yr amgylchiad. Dichon y gellir priodoli yr ysbryd ymrysongar a ddaeth i mewn i'r eglwys, i raddau, i'r cyfnewidiad disymwth yr oedd wedi myned trwyddo. Trwy ymadawiad Dr. Davies, symudiad yr athrofa i Groesoswallt, ac amddifadrwydd yr eglwys o weinidog am ddwy flynedd a hanner, taflwyd yr achos o ganol cyffro ac enwogrwydd i radd o ddinodedd a llonyddwch; aeth yn nos bruddaidd arno, ar ol dydd bywiog a llewyrchus; ac felly cafodd y gelyn ddyn gyfle i hau efrau yn y maes.

Yn y flwyddyn 1790, rhoddodd y rhan o'r eglwys a arosasai yn y capel alwad i Mr. Ebenezer Skeel, myfyriwr o athrofa Croesoswallt, a'r hon y cydsyniodd, a symudodd i Abergavenny Medi 17eg, yn yr un flwyddyn. Mehefin 15fed, 1791, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Nid oes genym un hanes am lwyddiant nac aflwyddiant neillduol ar yr achos yn amser gweinidogaeth Mr. Skeel. Cyn pen dwy flynedd wedi ei sefydliad dechreuwyd adeiladu capel newydd o fewn ychydig latheni i'r hen addoldy. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr Ebrill 23ain, 1793, ac agorwyd y capel Gorphenaf 13eg, 1794. Yr oedd yr eglwys wedi parhau i ymgynnull yn yr addoldy a adeiladesid yn 1707 hyd yn awr, yna trowyd yr adeilad hwnw yn dy anedd, ac y mae er's ugeiniau o flynyddau bellach wedi bod yn dy y gweinidog. Eiddo yr eglwys ydyw. Yn amser yr athrofa, llofft y ty oedd y capel, ac yn yr ystafelloedd odditano y cynelid yr athrofa. Nis gwyddom pa un ai dyna agwedd yr adeilad o'r dechreuad, ynte ai a'r gychwyniad yr athrofa y cyfnewidiwyd ef i'r agwedd hono.

Parhaodd cysylltiad Mr. Skeel a'r eglwys, fel ei gweinidog, hyd ddiwedd Awst 1806, yna ymneillduodd o'r weinidogaeth, ond parhaodd i drigfanu yn y dref, ac i bregethu yn achlysurol yno ac mewn lleoedd ereill yn yr ardal, hyd derfyn ei oes.

Ar ol ymadawiad Mr. Skeel derbyniodd Mr. William Harries, o Stroud, alwad gan yr eglwys, a dechreuodd ei weinidogaeth Tachwedd 14eg, 1806. Parhaodd cysylltiad Mr. Harries a'r eglwys hon hyd Tachwedd 9fed, 1817, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny. Mae yn ymddangos i Mr. Harries fod yn lled barchus a llwyddianus yma dros rai blynyddau, ond cyn yn hir terfyniad tymor ei weinidogaeth cymerodd rhyw annghydfod le drachefn, ac ymneillduodd nifer o'r aelodau o'r capel, gan osod i fyny addoliad mewn anedd-dy, lle y bu Mr. Skeel, yr hen weinidog, yn pregethu iddynt, nes i Mr. Harries ymadael, yna dychwelasant i'r capel.

Tua haf y flwyddyn 1818, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. James James, o Benyblaen, yr hwn a fuasai yn bregethwr poblogaidd iawn yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd am un mlynedd ar bymtheg ar hugain. Nid cynt y dechreuodd ei weinidogaeth nag y darfu i'w hyawdledd, ei ffraethineb, a'i ddull bywiog ac efengylaidd o bregethu, dynu sylw cyffredinol. Gorlanwyd y capel o wrandawyr, a pharhaodd felly hyd farwolaeth y gweinidog enwog, yr hyn a gymerodd le Ebrill 10fed, 1831. Yn fuan ar ol marwolaeth Mr. James, rhoddwyd galwad i Gymro poblogaidd arall, sef Mr. David Lewis, o'r Aber, sir Frycheiniog. Dechreuodd Mr. Lewis ei weinidogaeth yn Abergavenny, Ionawr 1af, 1832, a pharhaodd yntau fel ei ragflaenydd, yn boblogaidd a rhyfeddol o barchus hyd derfyn ei oes. Bu farw yn gymharol o ieuangc, Ebrill 25ain, 1837, felly ni chafodd pobl Abergavenny fwynhau ei weinidogaeth felus ac adeiladol ef ond am y tymor byr o bedair blynedd a thri mis. Dichon na fu yr eglwys hon ar unrhyw adeg o'i hanes mor llewyrchus, bywiog, tangnefeddus, a lluosog ag y bu yn nhymor gweinidogaeth Mr. James a Mr. Lewis.

Yn Tachwedd 1837, rhoddwyd galwad i Mr. Henry John Bunn, yr hwn a fuasai yn weinidog urddedig yn Lloegr am bedair blynedd ar ddeg cyn hyn. Dechreuodd Mr. Bunn ei weinidogaeth yma ar y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1838, a rhoddodd ei swydd i fyny yn 1868, o herwydd y llesgedd cydfynedol a henaint. Yn niwedd blwyddyn gyntaf gweinidogaeth Mr. Bunn ail-adeiladwyd a helaethwyd y capel, fel y mae yn awr yn addoldy eang, ac yn cynnwys cymaint arall o eisteddleoedd a'r addoldy blaenorol.

Yn mhen ychydig fisoedd, ar ol i Mr. Bunn roddi i fyny ei weinidogaeth, rhoddwyd galwad i Mr. E. H. Smith, myfyriwr o New College, Llundain, yr hwn a urddwyd Awst 12fed, 1869. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. Halley, y Proffeswr Newth, o Lundain, Mr. J. O. Hill, o Henffordd, ac ereill. Hyderwn y bydd oes Mr. Smith yn faith, a'i lwyddiant yn fawr.

Yn y modd hwn yr ydym wedi olrhain hanes yr hen eglwys hon am gant a phedwar ugain mlynedd, a than ofal tri-ar-ddeg o weinidogion. Buasai yn ddymunol pe buasai rhywrai yn yr oesau a aethant heibio yn cofnodi y pethau mwyaf nodedig a ddigwyddasant yn nglyn a'r achos, ond nid ymddengys fod dim o'r fath beth wedi cael ei wneyd. Mae hen lyfr yr eglwys, yr hwn sydd yn awr yn meddiant y cofrestrydd cyffredinol yn Llundain, yn cynnwys ychydig ffeithiau y rhai a gopiwyd yn ofalus genym ychydig wythnosau yn ol. Trwy lawer o ymchwiliadau, yr ydym wedi Ilwyddo i ddyfod o hyd i amseriad dechreuad a diweddiad tymor gweinidogaeth pob un o'r gweinidogion, ond buasai yn ddymunol genym allu dyfod o hyd i lawer o bethau pwysig yn hanes yr achos, y rhai, mae yn debygol na ddaw neb byth o hyd iddynt. Mae yn ddiamheuol i'r eglwys hon, o bryd i bryd, gyfodi llawer o'i haelodau i fod yn bregethwyr a gweinidogion, ond yr ydym ni wedi methu dyfod o hyd i enwau a hanes mwy na dau o honynt.

George Frederick Ryan, D.D. Yn Abergavenny y ganwyd ef yn y flwyddyn 1790. Ei dad oedd Mr. George Ryan, yr hwn a urddwyd yn Minsterly, sir Amwythig, yn 1806, ac a fu am amryw flynyddau yn weinidog yno ac yn y Trallwm. Yr ydym yn lled dybio mai yn Abergavenny y dechreuodd yntau bregethu—yr un modd ei fab. Cafodd Dr. Ryan ei ddwyn i fyny yn Abergavenny, gyda pherthynas i'w fam. Ymunodd a'r eglwys yn Castle Street pan yn bedair-ar-ddeg oed, ac yn mhen dwy flynedd wedi hyny dechreuodd bregethu. Bu am tua dwy flynedd yn pregethu yn achlysurol yn ei fam eglwys a'r pentrefydd oddiamgylch. Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i oed, aeth i Groesoswallt i ysgol a gedwid yno gan Mr. Whitridge, gweinidog yr Annibynwyr, ac oddiyno aeth i athrofa Rotherham, lle y derbyniwyd ef yn y flwyddyn 1814. Bu yn weinidog yn olynol yn Bridlington, Stockport, Huddersfield, a Beverley. Perchid ef yn fawr yn mhob lle. Ysgrifenodd lyfr poblogaidd iawn o'r enw, "The Dialogist," yr hwn a gafodd gylchrediad helaeth iawn yn Lloegr ac America, ac a gyfieithwyd hefyd i'r Ellmynaeg. Cyhoeddodd hefyd amryw bregethau a mân draethodau. Bu Dr. Ryan farw o'r parlys, yn Dore, yn agos i Sheffield, Awst 19eg, 1865.

James Johns, B.A., Northwich, sir Gaerlleon. Ail fab yr enwog David Johns, Madagascar, yw Mr. Johns. O eglwys Castle Street, Abergavenny, yr anfonwyd yntau i'r athrofa.

Cynhaliwyd Cymanfa Dwyreiniol Deheudir Cymru, yn Abergavenny, Mehefin 29ain, 30ain, 1808. Clywsom amryw hen bobl yn adrodd am un peth a ddigwyddodd yn y Gymanfa hono nad yw mewn un wedd yn anrhydedd i goffadwriaeth Mr. W. Harries, y gweinidog. Yn yr oedfa ddeg o'r gloch, yr ail ddydd, yr oedd "Cloch Arian Cymru," sef yr hyawdl David Davies, Abertawy, yn pregethu oddiwrth Eph. ii. 4, 5. Yr oedd Sais wedi pregethu o'i flaen, a phan gododd ef i fyny, dechreuodd y cannoedd Cymry uniaith oedd wedi dyfod yno o Ferthyr, Pontypool, Penmain, &c., loni ac ymwasgu yn mlaen. Yn raddol twymai y pregethwr a'r gwrandawyr. Gyda ei fod ef yn derchafu ei lais swynol treiglai miloedd o ddagrau dros ruddiau y dorf, a chlywid llawer amen doddedig yma a thraw dros y cae. O'r diwedd aeth y teimlad mor angerddol nes yr oedd y miloedd yn cael eu hysgwyd fel cae o wenith o flaen yr awel, a phawb yn disgwyl bob eiliad fod y floedd fawr anorchfygol ar dori allan. Pan oedd pawb agos wedi annghofio eu hunain, cododd Mr. Harries i fyny, a chyffyrddodd a braich y pregethwr, gan ddyweyd lle y clywai pawb, "Arafwch Syr, nid wyf yn ewyllysio i'm pobl i gael gweled annrhefn ac anweddeidd-dra." Mae yn hawddach dychymygu na darlunio beth allasai fod teimlad yr hen Gymry hwyliog ar y pryd at y brawd oerllyd, a allodd yn y modd diseremoni hyny, daflu dwfr ar y tân. Clywsom hyn yn cael ei adrodd ddeng mlynedd ar hugain yn ol, gan hen bobl eirwir oeddynt yn gweled ac yn clywed y cwbl.

COFNODION BYWGRAFFYDDOL.

ROGER GRIFFITHS. Mae amser a lle genedigaeth y gwr hwn yn anhysbys i ni. Yn 1690, 1691, a rhan o 1692, yr oedd yn fyfyriwr yn athrofa enwog Dr. Kerr, yn Highgate, gerllaw Llundain, ar draul y Bwrdd Henadurol a Chynnulleidfaol (canys yr oedd y ddau enwad y pryd hwnw heb ymwahanu yn ddau Fwrdd). Yn mysg ei gydfyfyrwyr yno yr oedd yr enwog Jabez Earl, (wedi hyny D.D.) a Charles Owen, (Dr. Charles Owen, wedi hyny o Warrington, mae yn lled sicr). Yn 1693, ac mae yn debygol yn 1694, yr oedd Roger Griffiths yn fyfyriwr yn mhrif athrofa Utretch, yn Holland. Ar draul y Bwrdd yn Llundain yr oedd yno hefyd. Hysbysir ni hefyd fod y Dr. Samuel Annesley, taid yr enwog John Wesley, wedi cyfranu rhyw gymaint at draul ei addysg tra y bu yn athrofa Dr. Kerr.[3] Mae yn debygol, fel y nodasom yn barod, mai yn y flwyddyn 1695 yr ymsefydlodd R. Griffiths yn Abergavenny, ac iddo ar ei sefydliad agoryd ei athrofa yno. Dywedir fod Thomas Perrot, Caerfyrddin, Samuel Jones, Tewksbury, ac amryw eraill, wedi cael rhan o'u haddysg yn ei athrofa ef, ac y mae yn ddigon tebygol, pe buasai yn parhau yn ffyddlon i egwyddorion Ymneillduaeth, y buasai yn ddefnyddiol iawn, ac yn gwneuthur iddo ei hun enw anfarwol, canys mae yn ymddangos ei fod yn ysgolhaig o'r radd uchaf. Ond wrth droi yn fradwr i'r achos, a'r bobl yr oedd yn ddyledus iddynt am ei addysg, diraddiodd ei hun, a disgynodd yn lled ieuangc i'r bedd yn eithaf dibarch. Dywed Dr. Calamy, yr hwn oedd yn gydfyfyriwr ag ef yn Utretch, iddo, ar ol ei ymadawiad a'r Ymneillduwyr, gael ei wneyd yn berson New Radnor, ac yn archddiacon Aberhonddu, ac iddo yn fuan wedi hyny farw yno yn druenus ac mewn dyled, heb ddyweyd dim yn ychwaneg.[4] Nid Roger Griffiths yw y diweddaf o fradychwyr Ymneillduaeth a derfynasant eu hoes yn ddinod, yn ddiddefnydd, ac yn ddibarch.

THOMAS COLE. Ganwyd y gweinidog rhagorol hwn yn Ninas Caerloew, yn y flwyddyn 1679. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol ac yn Ymneillduwyr Puritanaidd. Anfonasant eu mab yn ieuangc iawn i athrofa oedd newydd gael ei hagoryd yn Nghaerodor, gan Mr. Isaac Noble a Mr. John Reynolds, dau weinidog Ymneillduol, gyda bwriad i'w ddwyn i fyny i'r weinidogaeth. Er ei fod yn llange o ymarweddiad gweddus tra y bu yn yr athrofa, etto yr oedd yn amddifad o lywodraeth crefydd ar ei enaid. Ar ol gorphen ei amser yn yr athrofa, dychwelodd adref, ac yn lle ymroddi i waith y weinidogaeth, aeth yn lled wyllt ac anystyriol. Pan glywodd Mr. Noble, un o'i athrawon, nad oedd wedi dechreu pregethu, ysgrifenodd lythyr difrifol ato, atebodd yntau ef, nas gallasai o gydwybod fyned i bregethu, gan nad oedd ganddo un sail i farnu ei fod yn ddyn duwiol. Bu yn y sefyllfa hono am flwyddyn neu ddwy.

Ond ryw ddiwrnod, pan yn eistedd yn y ty, a'i fam a dynes arall yn eistedd yn y pen arall i'r ystafell, yn ymddyddan ar ryw fater crefyddol, clywodd ryw ran o'r ymddyddan, yr hyn a effeithiodd gymaint ar ei feddwl fel y gorfu iddo fyned allan o'r ystafell, a myned i'w ystafell wely i weddio. O'r dydd hwnw allan daeth yn wr ieuangc difrifol iawn, ac ymgyssegrodd ar unwaith i waith y weinidogaeth. Yn 1703, fel y nodwyd, urddwyd ef yn Abergavenny, ac yn 1718, symudodd i Gaerloew, lle y treuliodd weddill ei oes yn llafurus a defnyddiol iawn. Byddai yn fynych yn myned allan i'r pentrefydd cylchynol i bregethu. Un prydnawn, pan oedd yn pregethu yn Nymphsfield, tarawyd ef gan angau ar ganol ei bregeth. Bu farw bore dranoeth, Awst 4ydd, 1742, yn y bedwaredd flwyddyn a thriugain o'i oed. Pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. Thomas Hall, o Lundain.[5]

DR. HUGH MAY. Mae hanes y gwr da hwn yn hollol anhysbys i ni. Tybiwn mai o herwydd ei fod wedi cael ei ddwyn i fyny yn feddyg y rhoddid y titl Doctor iddo.

FOWLER WALKER. Ychydig iawn o hanes Mr. Walker sydd yn hysbys i ni. Cafodd ei urddo yn Bridgenorth, sir Amwythig, a bu yno am ychydig flynyddau. Dywedir fod yr achos yn y lle hwnw yn isel iawn pan yr aeth yno, ond iddo trwy ei ddoniau poblogaidd a'i lafur dibaid ei gyfodi i sefyllfa lewyrchus cyn ei ymadawiad. Yn niwedd y flwyddyn 1723 symudodd i Abergavenny, lle yr arosodd hyd derfyn ei oes. Yn 1732 cyhoeddodd lyfr galluog ar Fedydd babanod. Gan ei fod yn barnu fod angen y llyfr ar y Cymry, yn gystal a'r Saeson, cafodd gan un o'i aelodau ei gyfieithu i'r Gymraeg o'i lawysgrif ef, a chyhoeddwyd ef yn y ddwy iaith, yn yr un flwyddyn. Dywedir fod gan Mr. Walker deulu lluosog, a'i fod pan yn teimlo fod ei farwolaeth yn agoshau, yn lled bryderus yn nghylch eu helynt ar ol ei ymadawiad ef. Byddai yn aml tua diwedd ei oes, yn ei weddiau cyhoeddus yn dymuno ar yr Arglwydd am sefyll o blaid y teuluoedd hyny oedd yn debyg o gael eu gadael mewn amgylchiadau anghenus. Gwrandawodd Duw ei weddiau, ar ol iddo farw, trwy gyfodi ei holl blant i amgylchiadau cysurus, a rhai o honynt i feddiant o lawer o gyfoeth. Bu farw, fel y crybwyllwyd, yn y flwyddyn 1751.[6] DAVID JARDINE. Yr oedd efe yn fab i Mr. James Jardine, gweinidog yr eglwys Ymneillduol yn Ninbych, ac yno y ganwyd ef yn y flwyddyn 1732. Yr oedd ei fam yn ferch i'r enwog a'r dysgedig Thomas Baddy, o Ddinbych. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, ac fel y crybwyllwyd yn barod, urddwyd ef yn weinidog yr eglwys yn Abergavenny yn 1752, a dewiswyd ef yn athraw yr athrofa yn 1757. Llanwodd y ddwy swydd i foddlonrwydd cyffredinol. Ymddengys ei fod yn ddyn galluog a gweithgar iawn. Achwyna Mr. Phillip Dafydd ei fod yn lled anystwyth fel pregethwr yn yr iaith Gymraeg. Cafodd Mr. Jardine ei dori i lawr yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb. Bu farw ar ol cystudd byr iawn, Hydref 1af, 1766, yn bedair ar ddeg ar hugain oed. Ymadawodd ar byd mewn sefyllfa meddwl nodedig o ddedwydd, ac yn ol pob ymddangosiad mewn mwynhad helaeth o gymdeithas â'r Arglwydd. Un o'r ymadroddion diweddaf a ddaeth dros ei wefusau, ar ol gorphen gweddi daer, ydoedd, "Gad i mi orphwys fy mhen ar dy fynwes anwyl dros byth, O fy Iesu tirion, fy Ngwaredwr mawr." Pregethodd Dr. Davies ei bregeth angladdol oddiwrth Luc xxiii. 28. Cyfeiria Phillip Dafydd at ei farwolaeth yn ei ddyddlyfr, yn y geiriau canlynol: "Hydref, 1766. Ar y dydd cyntaf o'r mis hwn bu farw y Parchedig Mr. Jardine, o Abergavenny, yn mlodau ei ddyddiau, ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb, gan adael ar ei ol weddw alarus a dau blentyn ieuangc. Colled a bwlch mawr iawn. 'O Arglwydd Dduw, pwy a gyfyd Jacob canys bychan yw."" Merch Mr. Lewis Jones, o Benybontarogwy, oedd gwraig Mr. Jardine. Cyfododd ei ddau fab i sefyllfaoedd o urddas yn y byd hwn. Yr oedd yr hynaf, Dr. Lewis Jardine, yn feddyg enwog yn Nghaerodor am rai blynyddau, ac ymfudodd oddiyno i America, lle y terfynodd ei oes. Ei fab David, yr hwn a ddygesid i fyny i'r weinidogaeth, a ymwrthododd ag egwyddorion ei dadau, ac a gofleidiodd syniadau crefyddol Dr. Priestley. Pan yr oedd yn fyfyriwr yn Homerton dan ofal Dr. Davies, cyfaill mynwesol ei dad, deallwyd ei fod wedi llyngeu golygiadau Undodaidd, ac mewn canlyniad trowyd ef allan o'r athrofa, ond derbyniwyd ef i athrofa Daventry i orphen ei addysg. Urddwyd ef yn weinidog cynnulleidfa o Undodiaid yn Warwick. Symudodd yn fuan i Bath. Priododd ddynes gyfoethog iawn yno, ond ni chafodd ef fawr o fwynhad o'i chyfoeth, oblegid bu farw yn ddisymwth o'r Apoplexy, Mawrth 10fed, 1797, yn 31 oed. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau yn 1798, dan olygiad Mr. J. P. Estlin, o Gaerodor, y rhai a ddangosant yn eglur fod Mr. Jardine yn ddyn o alluoedd rhagorol.

BENJAMIN DAVIES, D.D. Mab ieuengaf Mr. Rees Davies, Canerw, Llanboidy, sir Gaerfyrddin, oedd Mr. Davies. Ganwyd ef yn 1739 neu 1740. Yr oedd ei dad yn dirfeddianydd cyfrifol, ac yn weinidog parchus gyda'r Annibynwyr, yn gyntaf yn y Drefach, ac wedi hyny yn Penygraig, gerllaw Caerfyrddin. Derbyniodd Benjamin Davies y rhan gyntaf o'i addysg mewn ysgol a gedwid gan y dysgedig Thomas Morgan, o Henllan, ac yn 1754 neu ddechreu 1755, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd bedair neu bum' mlynedd yn ddiwyd a llwyddianus fel myfyriwr. Ar derfyniad ei amser yn Nghaerfyrddin, aeth yn is-athraw i'r athrofa Annibynol yn Abergavenny, ac ar farwolaeth Mr. Jardine, yn 1766, penodwyd ef yn brif athraw, a'r flwyddyn ganlynol urddwyd ef yn weinidog ar yr eglwys. Yn niwedd 1781, rhoddodd y swyddau hyn i fyny ar ei symudiad i fod yn athraw yn ngholeg Homerton. Yn Chwefror, 1783, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Fetter Lane, Llundain, a dechreuodd ei weinidogaeth yno ar y 24ain o Ebrill, yn yr un flwyddyn. Rhoddodd ei swydd i fyny fel athraw yn Homerton yn haf y flwyddyn 1787, o herwydd cystudd, ond parhaodd yn weinidog yn Fetter Lane hyd Gorphenaf 31ain, 1795, pryd y gorfodwyd ef gan gystudd i roddi ei swydd i fyny er mawr ofid i'r eglwys, lle yr oedd yn cael ei garu yn fawr. Yna symudodd o Lundain i Reading, lle y trigfanodd am dymor. Pregethai yno yn achlysurol, pan ganiatai ei iechyd iddo, er hyfrydwch nid bychan i Mr. Douglas a'i bobl. Symudodd oddiyno i Wells, lle y bu yn byw rai blynyddoedd gyda ei nith, merch ei frawd. Oddiyno drachefn symudodd i Bath, lle y treuliodd weddill ei oes yn ddedwydd iawn dan weinidogaeth felus Mr. Jay. Pregethai yn fynych yn lle Mr. Jay. Bu farw Gorphenaf 22ain, 1817, yn 78 oed. Pregethodd Mr. Jay ei bregeth angladdol Awst 3ydd, oddiwrth Ioan xi. 16; a phregethodd Mr. Burder, ei ganlyniedydd yn Fetter Lane, bregeth angladdol yno, Awst 10fed, oddi-wrth Psalm xxxvii. 34. Dywed Mr. Jay fel y canlyn am dano yn ei bregeth: "Cristion yw y ffurf uwchaf o ddyn, a gall pawb a'i hadwaenai ef, farnu mor deilwng ydoedd o'r enw Cristion. Nid oedd un amser yn an-mharod i ddyweyd ei brofiad. Yr oedd ei grefydd, nid yn unig yn ddidwyll, ond yn enwog; ofnai Dduw yn fwy na llawer. Yr oedd ei gymmeriad yn gyfan a chyson; yr un fath oedd ef yn ei deulu ag yn ei gylch swyddogol -Israeliad yn wir. Yr wyf fi yn ei gyfrif yn un o'r dynion mwyaf duwiolfrydig a adnabum erioed; yr oedd ganddo serch anghyffredin at dŷ Dduw; ac wedi iddo gael ei gyfyngu i'w dŷ gan fethiant, peth arferol fyddai ei weled ar foreuau y Sabbothau yn wylo o herwydd nas gallasai fyned i'r addoliad cyhoeddus. Ni byddai un amser yn y weddi deuluaidd yn oer neu ddideimlad. Mewn ymddyddanion ar faterion crefyddol yr oedd yn wastad yn gadarn dros ei farn ei hun, ond yn nodedig o hynaws a rhydd-frydig. O ran ei farn, Calfiniad cymhedrol ydoedd, ond ymgyfeillachai yn frawdol â Christionogion o wahanol syniadau.

Y tro cyntaf y gwelais i ein cyfaill anrhydeddus yn ei gystudd olaf, dywedodd, "Yr wyf yn myned. Yr wyf wedi darfod a'r byd, ac nid wyf yn anewyllysgar i ymadael o hono, canys mi a wn i ba le yr wyf yn myned; ac er nad wyf yn ddiamynedd i aros amser fy Arglwydd, 'y mae arnaf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw.' Wrth ymadael âg ef, i gychwyn i'm taith tua Llundain, dywedodd wrthyf, 'Nid wyf yn mwynhau perlewyglon, ond yr wyf yn mwynhau heddwch. Dichon y byddaf fi wedi myned cyn y dychwelwch chwi; peidiwch fy ngorganmol ar ol i mi farw; os byddwch yn dyweyd rhyw beth am danaf fi, na fydded na mwy na llai na hyn: i mi farw yn bechadur tlawd, edifeiriol wrth droed y Groes, gan dynu fy holl gysuron oddiwrth y Gwaredwr.'

Y tro cyntaf yr ymwelais âg ef, wedi iddo gael ei gyfyngu i'w wely, dywedais, 'Wel, fy hen gyfaill, pa fodd y mae gyda chwi?' Atebodd, 'Mi a wn pwy am hachubodd, ac a'm galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol fy ngweithredoedd i, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras. Yr wyf wedi bod yn chwilio natur fy sylfaen, ac y mae yn un lydan a chadarn. Yr wyf yn cael nas gellir ei siglo."

Dywed Mr. Jay, yn ei ddarluniad o hono fel pregethwr: "Yr oedd yn bregethwr da, ond yn ddiffygiol mewn gwreiddioldeb ac egluriadau byw-iog (illustrations); nid oedd ei ddull o draddodi ychwaith mor rymus ag i gymeryd llawn feddiant o sylw y gwrandawyr, nes cael y fath ddystawrwydd trwy y lle, fel na chlywid dim oddieithr disgyniad ambell ddeigryn. Yr oedd ei bregethau oll, pa fodd bynag, wedi eu cyfansoddi yn dda, yn llawn o synwyr, ac yn efengylaidd, canys yr oeddynt yn gyflawn o groes a gras y Gwaredwr, ac yn argymhell dyledswyddau Cristionogol oddiar gymhellion "efengylaidd." Arferai Dr. Davies ddyweyd am dano ei hun, fel pregethwr, nad oedd yn ei bregethau ddigon o sense i foddio dynion meddylgar, na digon o nonsense i foddio ffyliaid.

Bu yn briod dair gwaith, ond ni chafodd blant o un o'i wragedd. Miss Watkins, o Abergavenny, oedd ei wraig gyntaf. Claddodd hi yn lled fuan wedi iddo symud i Lundain, ac effeithiodd yr amgylchiad yn ddrwg iawn ar ei iechyd.

O herwydd ei wylder mawr, anfynych y cafwyd gan Dr. Davies gyhoeddi ei gyfansoddiadau, ond mae yr ychydig a gyhoeddodd yn werthfawr, ac yn deilwng o safle a dysg yr awdwr. Ei bregeth ar Dduwdod Crist, a'i atebiad i Dr. Priestley, yr hwn a elwir Primitive Candour, yw y ddau alluocaf o'r ychydig a gyhoeddodd.

JOHN GRIFFITHS. Yn nglyn â hanes Eglwys Penydref, Caernarfon, y daw ef dan ein sylw, am mai yno y terfynodd ei weinidogaeth.

EBENEZER SKEEL. Yr oedd Mr. Skeel (yn enedigol o sir Benfro, ac yn gefn-der i Mr. Thomas Skeel, gynt gweinidog Trefgarn. Mae yn debygol mai yn eglwys Trefgarn y dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i athrofa Croesos-wallt, Hydref 8fed, 1787, a chan iddo ddechreu ei weinidogaeth yn Aber-gavenny, Medi 17eg, 1790, ni bu ond prin dair blynedd yn yr athrofa. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny, fel y gwelsom, yn 1806, a threuliodd weddill ei oes i gadw ysgol yn y dref. Bu farw Gorphenaf 16eg, 1830, yn 65 oed, a chladdwyd ef yn y gladdfa berthynol i gapel Castle Street.

Cyn belled ag yr ydym ni wedi cael ar ddeall, nid oedd dim yn nodedig o ragorol na dim yn nodedig o wael yn Mr. Skeel fel pregethwr. Fel ysgolfeistr bu yn enwog iawn. Derbyniodd lluaws o blant masnachwyr ac amaethwyr, a rhai pregethwyr, addysg yn ei ysgol, ac y mae pawb fu dan ei ofal yn siarad yn uchel iawn am dano. Dywedir ei fod yn ddyn o ymddangosiad ac ymddygiad boneddigaidd dros ben.

WILLIAM HARRIES. Ganwyd ef mewn lle a elwir Trenichol, yn agos i Solfach, sir Benfro, yn mis Awst, 1754. Yr oedd yn un o chwech neu saith o blant. Derbyniodd addysg glasurol dda yn more ei oes yn yr ysgol Ramadegol yn Nhyddewi. Pan yn ddwy ar bymtheg oed, gwnaeth broffes gyhoeddus o grefydd, yn eglwys Trefgarn, mae yn lled sicr. Yn fuan ar ol hyny aeth i'r athrofa i Abergavenny. Yn 1779, derbyniodd alwad oddi-wrth yr eglwys Annibynol yn Stroud, sir Gaerloew, ac urddwyd ef yno yn mis Mawrth, 1780. Isel iawn oedd yr achos yn Stroud y pryd hwnw. Chwech ar hugain oedd rhif yr aelodau, sef chwech o ddynion, ac ugain o wragedd. Dechreuodd pethau wellhau yn fuan ar ol ei sefydliad ef yno, a chynyddodd yr eglwys yn raddol, nes yr oedd erbyn y flwyddyn 1800, yn gant a naw o rifedi. Yn nechreu y ganrif bresenol cyfododd rhyw annghydfod rhwng y gweinidog a rhai o'r aelodau, fel yr anafwyd ei ddefnyddioldeb a'i gysur ef i'r fath raddau, nes y barnodd mai doethineb fuasai iddo ymadael. Yn Tachwedd, 1806, symudodd i Abergavenny, lle y bu hyd Tachwedd, 1817, pryd y rhoddodd ei weinidogaeth i fyny. Y flwyddyn ganlynol, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Bruton, yn Ngwlad yr Haf. Bu yno am bum' mlynedd, ac yna bu raid iddo roddi ei swydd i fyny o herwydd colli ei olygon. Symudodd ef a'i deulu i Gaerodor yn 1823, lle yr arosodd, ac y bregethai yn achlysurol, hyd derfyn ei oes. Traddododd ei bregeth olaf Tachwedd 7fed, 1830. Ei destyn oedd, Heb. ii. 3. Ar yr 21ain o'r un mis, aeth i'r capel yn ei iechyd arferol, ond yn mhen ychydig fynudau ar ol iddo eistedd, tra yr oedd y gynnulleidfa yn canu, crymodd ei ben a bu farw mewn eiliad.

Yr oedd Mr. Harries yn ddyn o uniondeb diwyrni, ac yn un o feddwl penderfynol iawn—efallai yn ormodol felly mewn rhai amgylchiadau; yn garedig a boneddigaidd iawn; yn ysgolhaig ardderchog, ac yn wr o wybodaeth tuhwnt i nemawr; ac uwchlaw y cwbl, yr oedd yn gristion didwyll. Cafodd deulu lluosog iawn. I ferch iddo, yr hon sydd yn byw yn Nghaerodor, yr ydym ni yn ddyledus am amryw o'r ffeithiau uchod.[7]

JAMES JAMES, a anwyd mewn amaethdy o'r enw Penyblaen, yn mhlwyf Aberedw, sir Faesyfed, Tachwedd 24ain, 1760. Ei dad oedd perchenog Penyblaen, a rhai tyddynod eraill. Yr oedd y teulu oll yn hollol ddigrefydd, ac yn ffyrnig o elynol i grefydd mewn unrhyw ffurf Ymneillduol. Parhaodd James, fel y lleill o'r teulu, yn anystyriol nes yr oedd yn ugain oed. Yna cafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd mewn ffordd anghyffredin iawn. Ryw brydnawn, wrth ddychwelyd adref o farchnad Llanfair-muallt, clywai lef yn gwaeddi "Tragywyddoldeb," yn yr iaith Saesonig, dair gwaith yn olynol. Edrychodd oddiamgylch, ond ni chanfyddodd un dyn yn agos i'r lle, ac ni chafodd byth allan fod yno neb. Effeithiodd y peth yn ddwys ofnadwy ar ei feddwl. Aeth adref ac i'w wely, lle y bu am rai dyddiau yn yr ing meddwl mwyaf dirdynol. Yn ei drallod anfonodd am un Mrs. Morgans, o'r Gelynen, gwraig grefyddol o'r gymydogaeth. Darfu i'w hymddyddanion hi ddofi ei loesion, trwy ei gyfarwyddo at Geidwad pechadur. Y dyddiau canlynol ymunodd a chymdeithas fechan o'r Trefnyddion Calfinaidd yn yr ardal. Darfu ei waith yn myned yn Fethodist gynhyrfu gelyniaeth ei dad tuag ato yn annghymodlon. Er mai efe, fel y mab hynaf, oedd yr etifedd yn ol y gyfraith, gwnaeth ei dad, er dial arno am fyned yn Fethodist, ei ewyllys ar y tiroedd i'w frawd ieuengach, a bu farw cyn pen tair blynedd ar ol ei gwneyd. Ond chwareuodd rhagluniaeth o blaid yr erlidiedig; yn mhen tair blynedd ar ol ei dad bu farw ei frawd, a daeth yr eiddo oll i'w feddiant ef. Pan yn ddwy ar hugain oed dechreuodd bregethu. Yn 1786 priododd ag un Miss Woodsuam, Tymawr, sir Drefaldwyn; dynes ieuangc grefyddol iawn. Wedi ymsefydlu yn gysurus yn y modd hwn, ymgyflwynodd yn llwyr i'r gwaith o bregethu. Teithiodd lawer trwy wahanol barthau y Deheudir, ac ymwelai yn achlysurol a rhanau o'r Gogledd. Cyrhaeddodd safle uchel iawn fel pregethwr poblogaidd, a chan ei fod wedi ei eni a'i fagu yn sir Faesyfed, wedi cael ysgol dda yn ei febyd, a threulio ychydig amser yn athrofa Iarlles Huntington, yn Nhrefecca, medrai bregethu yn yr iaith Saesonig yn llawn mor hyawdl ag yn y Gymraeg, yr hyn nas medrai un o bob cant o bregethwyr Cymru yn ei oes ef ei wneyd. Yn 1811, pan urddwyd y pregethwyr cyntaf yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd, yr oedd Mr. James, yn un o'r nifer. Tua yr amser hwnw symudodd i fyw i Drefecca, lle y trigfanodd am saith mlynedd. Yr oedd erbyn hyn wedi myned yn rhy dew a thrwm i deithio nemawr, ond arferai fyned yn lled fynych i Lun—dain, Plymouth, a manau eraill yn Lloegr, i bregethu i gynnulleidfaoedd Saesonig. Yn 1818, ymunodd a'r Annibynwyr, ac ymsefydlodd yn Abergavenny, yn weinidog yr eglwys yn Castle Street, lle llafuriodd fel y nodasom, gyda llwyddiant anghyffredin hyd derfyn ei oes, Ebrill 10fed, 1831. Claddwyd ef yn y gladdfa berthynol i'r capel. Pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. Thomas Rees, Llanfaple, wedi hyny o Gasgwent.

Yr oedd Mr. James yn ddyn cryf iawn o gorph a meddwl. Meddai lais grymus a soniarus iawn, gwroldeb diofn, ffraethineb dihysbydd, a pharodrwydd ymadrodd anghyffredin. Trwy fod ynddo gydgyfarfyddiad o'r pethau hyn, nis gallasai lai na bod yn bregethwr poblogaidd nodedig. Dichon fod ei wroldeb rai prydiau wedi ei arwain i drin ei wrthwynebwyr yn rhy arw—i'w cyffroi i ddigofaint yn hytrach na'u hargyhoeddi. Yr oedd cryn lawer o sarugrwydd yn ei dymer, fel y byddai ar ddynion annghyfarwydd ag ef dipyn o ofn myned i'w bresenoldeb. Yr oedd ynddo wrth—wynebiad mawr i bob rhodres a choegedd, a dywedai eiriau fel brath cleddyf wrth y rhai y tybiai ef eu bob yn gogwyddo at hyny. Unwaith galwodd myfyriwr o un o'r athrofäau arno yn ei dy, ac yr oedd y myfyriwr wedi cymeryd cryn drafferth, fel yr ymddengys, i drin ei wallt, gan ei godi i fynu yn syth ar ei dalcen, yr hyn yn marn Mr. James, oedd yn arwydd digamsynied o falchder. Eisteddai yr hen wr yn ei gadair freichiau, ac erbyn fod y myfyriwr i mewn yn yr ystafell, disgynodd llygaid Mr. James ar ei wallt, a'r gair cyntaf a ddywedodd cyn cyfarch gwell iddo oedd, "Y dyn, pam 'rych chi'n codi'ch gwrychyn arna i," nes yr oedd arswyd drwy holl esgyrn y myfyriwr druan. Ymddengys fod llawer o'r hen bregethwyr fel yn credu fod sarugrwydd a geirwirder yn hanfodol i wroldeb a gonestrwydd. Ond bu ei ysbryd diofn, a'i benderfyniad diysgog o wasanaeth dirfawr i'r Methodistiaid, yn y cyfnod, pan oedd pwnc yr urddiad yn ysgwyd yr holl gyfundrefn.

Mae yn ymddangos i'w ddylanwad a'i wroldeb ef wneyd cymaint, os nad mwy, na'r eiddo neb o'i gydoeswyr yn y De, tuag at ryddhau Methodistiaeth o lyffetheiriau yr Offeiriaid Methodistaidd a'r Eglwys wladol. Tra yr oedd rhan fwyaf o'r cynghorwyr a'r mân bregethwyr yn crynu ger bron yr offeiriaid fel caethion yn mhresenoldeb eu caethfeistri, byddai Mr. James yn sefyll ger eu bron yn ddiarswyd, ac yn gwrthwynebu eu cynlluniau rhagfarnllyd a threisiol gyda gwroldeb llew.[8]

DAVID LEWIS. Ganwyd Mr. Lewis mewn tŷ a elwir Pantyrathrobach, yn mhlwyf Llanstephan, sir Gaerfyrddin, Chwefror 26ain, 1790. Yr oedd ei rieni yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig, ac yn arferion a defodau yr Eglwys hono yr addysgwyd yntau yn ei febyd. Wedi iddo ddyfod i oed—ran i farnu drosto ei hun, penderfynodd fwrw ei goelbren yn mysg yr Ymneillduwyr. Yn mis Mai, 1807, pan yn ddwy ar bymtheg oed, derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Llanybri, gan Mr. David Davies. Yr Hydref canlynol dechreuodd bregethu. Yn uniongyrchol ar ol hyny aeth i ysgol a gedwid yn mhentref Llanybri, gan Mr. John Jeremy, wedi hyny o Lanbedr, a'r flwyddyn ganlynol aeth i'r ysgol Ramadegol a gynelid mewn cysylltiad â'r Coleg yn Nghaerfyrddin. Yn 1809, derbyniwyd ef i'r Coleg, lle yr oedd Mr. Davies, ei weinidog, yn un o'r athrawon. Ar ei ymadawiad o'r athrofa, urddwyd ef yn yr Aber, sir Frycheiniog. Bu yno yn barchus a llwyddianus iawn, ac yn cynyddu yn ei ddylanwad flwyddyn ar ol blwyddyn, o 1813 hyd ddiwedd 1831, pryd y symudodd i Abergavenny.

Cyn gynted ag yr ymsefydlodd yn Abergavenny, cyfododd i sylw a pharch cyffredinol, nid yn unig yn ei gynnulleidfa ei hun, ond trwy yr holl dref. Ychwanegwyd rhai ugeiniau yn fuan at yr eglwys, ac aeth y capel yn llawer rhy fychan i gynnwys y torfeydd a gyrchent i'w wrandaw. Yn y flwyddyn 1836 penderfynwyd adeiladu capel newydd, ond o herwydd ei fod ef wedi dechreu clafychu, gohiriwyd y peth nes gweled pa beth oedd ewyllys yr Arglwydd gyda golwg ar ei was. Waeth waeth yr aeth ef nes i'w fywyd defnyddiol gael ei ddwyn i derfyniad, Ebrill 25ain, 1837, yn nechreu yr wythfed flwyddyn a deugain o'i oed. Bu mewn poenau mawr rai misoedd cyn ei farw, ond pan gwynid ef gan ei gyfeillion o herwydd ei boen, ei ateb gwastadol ydoedd, "Yr wyf yn llaw Tad." Claddwyd ei gorph wrth y capel yn ymyl ei ragflaenafiaid Ebenezer Skeel a James James. Ymgynnullodd tua 25 o weinidogion, a thorf fawr o bobl i'w gladdedigaeth, a phregethwyd ei bregeth angladdol y Sul canlynol, gan Mr. D. Davies, Penywaun, oddiwrth Phil. i. 21, "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw,"—testyn a ddewiswyd gan yr ymadawedig yn ei gystudd.

O ran corph, yr oedd Mr. Lewis yn ddyn mawr iawn, ond nodedig o hardd a lluniaidd. Yr oedd ei feddwl hefyd yr un fath a'i gorph yn fawr iawn, ac yn gyfartal yn ei holl ranau. Yr oedd yn nodedig am ei ffraeth— ineb a'i hyawdledd, ac yn bregethwr poblogaidd yn holl ystyr yr ymadrodd. Yr oedd hefyd yn ddyn o dymer ryfeddol o fwyn a serchog, ac yn y nodwedd hyn, tra rhagorai ar ei ragflaenydd Mr. James, yr hwn oedd i raddau yn sarug ei dymer, hyd nes y buasid wedi ymgydnabyddu ag ef. Tra yr oedd mawredd Mr. Lewis yn gorphorol a meddyliol yn rhwymo pawb i edrych i fyny ato fel dyn mawr, yr oedd ei hynawsedd y fath, fel y tynai bob plentyn i nesu ato a'i anwylo. Gadawodd ar ei ol weddw a dwy ferch, ond gofalodd yr Arglwydd yn dirion am danynt yn ei ragluniaeth.

HENRY JOHN BUNN. Gan fod Mr. Bunn yn fyw, byddai ysgrifenu hanes ei fywyd yn anamserol. Ymfoddlonwn, gan hyny, ar grybwyll iddo gael ei addysgu yn athrofa Hoxton, ei urddo yn 1824, iddo fod ddeng mlynedd ar hugain yn weinidog yn Abergavenny, a'i fod yn bregethwr ac yn ysgrifenydd galluog. Hyderwn y caiff lawer o fwynhad o gysuron crefydd yn ei neillduedd a'i henaint.

E. H. SMITH. Efe yw y trydydd ar ddeg, os nad y pedwerydd ar ddeg, neu y pymthegfed gweinidog ar eglwys Annibynol Abergavenny. Disgyned deubarth ysbryd y goreu o'i flaenafiaid arno ef.

Nodiadau golygu

  1. The Rev. H. J. Bunn's Letter.
  2. Aspland's Blackmore papers, pp. 31, 32.
  3. Yr ydym yn ddyledus am y ffeithiau uchod, ynghyd a llawer o ffeithiau pwysig ereill, i'n cydwladwr caredig a dysgedig W. D. Jeremy, Esq., Barrister-at-Law, Lincoln's Inn, Llundain. Mae Mr. Jeremy trwy lafur diwyd, wedi casglu peth dirfawr o wybodaeth hanesyddol am hen weinidogion Ymneillduol Cymru o hen law ysgrifau, ac y mae yn wastad wedi dangos y parodrwydd mwyaf i'n cynnorthwyo ni yn ein hymchwiliadau. Derbynied ein diolchgarwch gwresocaf am ei garedigrwydd.
  4. Calamy's Account of the ejected Ministers, Vol. ii. pp. 734. Second Edition, 1713.
  5. Walter Wilson's MSS.
  6. Walter Wilson's MSS. Hanes y Bedyddwyr gan J. Thomas, tudalen 240. Hanes Crefydd yn Nghymru gan D. Peter, tudalen 637.
  7. Old Chapel Stroud' Church book.
  8. Geiriadur Bywgraphyddol Jones, a Methodistiaeth Cymru.