Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Hanover

Penmain Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Abergavenny
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llanofer
ar Wicipedia




HANOVER.

Nodasom yn hanes Llanfaches fod cangen o'r eglwys hono yn ymgynnull mewn gwahanol fanau yn mhlwyfydd Llantrisant, Llangwm, Brynbiga, Llangybi, a rhai plwyfydd cyfagos eraill, a'i bod ar ol adferiad Siarl II, wedi myned yn eglwys wahanedig oddiwrth y fam eglwys. Ryw amser rhwng 1662 a 1667, daeth Mr. William Thomas, yr hwn oedd Fedyddiwr, ac a fuasai yn perthyn i eglwys Mr. Myles, o Ilston, i'r gymydogaeth hon, a phriododd ferch Mr. George Morgan, Llantrisant, un o brif aelodau yr eglwys. Efe oedd y prif weinidog yma hyd ei farwolaeth yn 1671, ond yr oedd amryw ereill yn gynnorthwywyr iddo. Yn ei amser, ac mae yn debygol, trwy ei ddylanwad ef, ennillodd golygiadau y Bedyddwyr lawer o dir yn yr eglwys, fel, erbyn y flwyddyn 1675, yn ol tystiolaeth Mr. Henry Maurice, yr oedd agos yr holl eglwys o'r golygiadau hyny, ond etto dros gymundeb agored rhwng credinwyr beth bynag fuasai eu golygiadau am fedydd. Os oedd y mwyafrif o honynt ar ryw adeg yn Fedyddwyr, mae yn sicr nad oeddynt oll. Yn 1672, cymerodd George Morgan, tad ynnghyfraith William Thomas, drwydded ar ei dy fel lle addoliad i'r Annibynwyr, ac ar yr un dydd, cymerodd George Robinson drwydded fel pregethwr Annibynol yn nhy George Morgan. Cymerodd Walter Williams, aelod arall o'r eglwys, drwydded fel pregethwr Annibynol yn mhlwyf Llangybi, ond fel Bedyddiwr y trwyddedwyd Mr. Christopher Price i bregethu yn ei dy ei hun, yn Abergavenny. Yn y flwyddyn 1675, dewiswyd Mr. Thomas Quarrell yn weinidog, a'r Meistriaid C. Price, Walter Williams, a William Millman, yn gynnorthwywyr iddo. Tybia Mr. Joshua Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, fod yn rhaid fod Mr. Quarrell yn Fedyddiwr cyn iddo gael ei ddewis yn weinidog ar yr eglwys hon, ond nis medrwn ni ganfod y rheidrwydd o hyny, gan mai eglwys gymysg o'r ddau enwad ydoedd, ac yn dal yn dyn at gymundeb agored. Hefyd. y mae Mr. Quarrell yn cael ei grybwyll yn llaw ysgrifau Lambeth, yn 1669, fel pregethwr Annibynol, yn mhlwyfydd Marshfield, Bedwas, ac Eglwysilan, mewn cysylltiad a John Powell, M.A., a Watkin Jones. Gellid ychwanegu, gan fod Mr. Quarrell yn bregethwr enwog er dyddiau Cromwell, ac iddo fyw am fwy nag ugain mlynedd, wedi cael deddf y Goddefiad, y buasai ei enw yn sicr o fod yn nghofnodion cymmanfaoedd y Bedyddwyr o 1688 i 1709, pe buasai yn Fedyddiwr, ond nid oes gair o son am dano, pryd y mae enwau rhai llawer ieuengach, a llai enwog, yn cael eu crybwyll yn fynych. Tybiwn fod hyn yn ddigon am byth i ddymchwelyd y dyb mai Bedyddiwr ydoedd. Mae Mr. C. Price yn dweyd mai pedwar ugain oedd rhif yr aelodau yn y flwyddyn 1690, a'i fod ef a Mr. Nathaniel Morgan, yn gofalu am y gangen yn Abergavenny, a bod y gangen yn Llantrisant, Llangwm, &c., dan ofal Mr. Quarrell, yr hwn a gynnorthwyid gan Mr. Walter Williams, a Mr. William Millman.

Mae yn dra thebygol i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr ymranu oddiwrth eu gilydd tua'r flwyddyn 1690, neu yn fuan ar ol hyny. Pa un ai Mr. Quarrell ai Mr. Walter Williams oedd yn weinidogion i'r Annibynwyr ar ol y rhaniad, ai rhyw rai ereill, nis gwyddom. Mae yn dra thebygol mai hwy oeddynt y gweinidogion cyntaf. Ond gan eu bod hwy yn heneiddio, a bod yr eglwys yn wasgaredig iawn, dewiswyd gwr ieuangc doniol anghyffredin, o'r enw Hugh Pugh, yn weinidog yma tua'r flwyddyn 1695, neu ryw faint cyn hyny. Byddai gwasanaeth rheolaidd yn cael ei gynnal yn ei amser ef yn Abergwaenfan, yn mhlwyf y Goitre, o fewn hanner milldir i'r fan y mae capel Hanover yn awr, yn Mrynbiga, ac yn Llangwm, a dywedir i'r tri phulpud yn y lleoedd hyn gael eu gwneyd yn dduon ar ei farwolaeth, tua'r flwyddyn 1709. Ymddengys ei fod yn boblogaidd, ac yn rhyfeddol o barchus gan bobl ei ofal. Wedi marwolaeth Mr. Pugh, mae yn ymddangos i'r achos wanychu yn raddol yn Llangwm, nes darfod yn llwyr gydag amser, ac i'r aelodau oedd o gylch Brynbiga, Llangybi, a Llandegfeth, ymuno a'u gilydd a chymeryd lle i addoli yn mhlwyf Llandegfeth, a gwneyd eu hunain yn gangen o eglwys Penmain. Parhaodd y gangen yn mhlwyf y Goitre, i ymgynnull yn Abergwaenfan, a buont dros amryw flynyddau dan weinidogaeth Mr. Morgan Thomas. Mr. Thomas oedd gweinidog yn 1718, pryd yr anfonwyd cyfrif o rif y gynnulleidfa, a sefyllfa gymdeithasol yr aelodau, i'r Dr. John Evans, o Lundain. Yr ydym yn cael mai cant ac ugain oedd eu rhif y pryd hwnw, mae yn debygol heb gyfrif y gwragedd a'r plant, a bod yn eu mysg bump o foneddigion, deg yn byw ar eu tiroedd eu hunain, ugain o amaethwyr yn talu ardreth, deuddeg o fasnachwyr, a phymtheg o weithwyr; a bod gan y rhai hyn dair-ar-ddeg o bleidleisiau dros sir Fynwy, a phymtheg dros fwrdeisdrefi Mynwy.

Yn 1724, dewiswyd Mr. Rees Davies yn weinidog. Yn ei amser ef symudwyd yr addoliad o blwyf y Goitre i blwyf Llanover.

Mae yn ymddangos mai mewn anedd-dy y buwyd yn addoli am flynyddau ar ol dyfod i blwyf Llanover, oblegid yn 1744 yr agorwyd y capel cyntaf. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn dysgedig a chyfoethog, ond fel yr ymddengys yn un o dymerau lled ddiserch. Er y fantais a roddid iddo gan ei ddysg a'i gyfoeth, i gyrhaedd dylanwad a phoblogrwydd, bu yn agos a llwyr waghau y lle flynyddau cyn ei farwolaeth trwy ei anserchogrwydd a chwerwder ei dymer. Mae Mr. Phillip Dafydd yn ei ddyddlyfrau yn cyfeirio yn aml at sefyllfa pethau yn Hanover. Gyferbyn a Gorphenaf 4ydd, 1759, dywed "Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn Hanover, ond nid oedd ond pump o weinidogion yn y lle, a chynnwys Mr. Davies ei hun. Mr. Phillip Charles a bregethodd oddiwrth Luc x, 37, ac yr oedd, feddyliwn i, yn fwy bywiog a hwylus nag yr arferai fod. Yr oedd yno amryw wrandawyr, ond yr wyf fi yn credu mai dyma y cyfarfod gweinidogion diweddaf a gynnelir yn y lle hwn tra byddo Mr. Davies yma. Y mae efe wedi pregethu y gwrandawyr allan o'r capel, ac yn awr y mae y gweinidogion yn debygol o gefnu arno." Bu Mr. Davies fyw tuag wyth mlynedd ar ol hyn, ond nid ydym yn cael yn nyddlyfrau Phillip Dafydd, un crybwylliad am gyfarfod gweinidogion yno mwyach yn ei ddyddiau ef. Os na ddarfu i Mr. Davies wneyd llawer o les i'r achos yn ei fywyd, bu yn ofalus i'w waddoli yn lled dda, os yw hyny yn rhyw les iddo. Mae yn debygol mai gyda ei wraig y cafodd ef ei gyfoeth, a darfu iddo ef a hithau mewn gweithred ddyogel wneyd y ty addoliad, y fynwent, ty y gweinidog, a'r tir perthynol iddo, yn feddiant dros byth i weinidogion Hanover. Yr oedd ei ofal yn gymaint am weinidogaeth ddysgedig fel y gosododd yn amod yn y weithred, na byddai neb yn addas i'w ddewis yn weinidog yno heb ei fod wedi cael addysg athrofaol. Ymddangosai nodwedd y dyn yn hyn fel mewn hynodion ereill. Bu Mrs. Davies farw yn 1765, yn 81 oed, a Mr. Davies yn 1767, yn 73 oed. Yr oedd yr achos mewn sefyllfa isel iawn pan y bu ef farw, ac agwedd pethau yn lled ofidus yno am dymor wedi hyny. Yn mhen ychydig wythnosau wedi claddu Mr. Davies, daeth yno un James Jones, i geisio ymwthio i'r weinidogaeth, ac ymddengys iddo beri gradd o annghydfod yn yr eglwys. Cyfeiria Phillip Dafydd at hyny fel y canlyn:—"Mai 5ed, 1768. Bum heddyw yn Hanover ond cefais fy arbed i bregethu gan Mr. Rees Davies, Canerw. Gweinyddais i swper yr Arglwydd, ac yr oedd y lle yn llawn. Buom yn ymdrechu troi James Jones allan oddi yno, yr hwn nid yw yn well na maen tramgwydd yn mhob man; ac yr wyf fi yn credu na chaiff ei gefnogi yno mwyach gan y bobl, na chan neb o'r ardalwyr, oblegid y mae ei gymmeriad mor ddrwg. Yr oedd Mr. Rees Davies, Canerw, Mr. John Griffiths, Glandwr, a minau yn bresenol." Nis gwyddom ddim am y James Jones hwn, o ba le y daeth, nac i ba le yr aeth, ond ymddengys i'w ymweliad a Hanover effeithio gradd o niwed yno i'r achos oedd yn ddigon gwan yn barod. Cawn Phillip Dafydd yno drachefn a'r y 23ain o Hydref, 1768, pryd y dywed, "Pregethais heddyw yn Hanover oddiwrth Luc ix. 23. Yr oedd y lle yn llawn, a chefais oedfa hwylus. Diolch i Dduw. Cafodd pedwar eu derbyn i'r eglwys, ac y mae yn ymddangos fel pe byddai gan yr Arglwydd ryw waith i'w wneyd yno, ond y mae Satan trwy ei offerynau yn dechreu ei wrthwynebu eisioes." Bu Mr. Dafydd yno drachefn Ionawr 14eg, 1769, yn cadw cyfarfod cymundeb, pryd y derbyniodd un aelod. Etto Gorphenaf 2il, yn yr un flwyddyn, a Gorphenaf 29ain, a Tachwedd 18ed, 1770. Gan nad ydym yn cael un sylw ganddo o berthynas i sefyllfa yr achos mewn cysylltiad a'r ymweliadau hyn, yr ydym yn casglu fod pethau yn dawel a rheolaidd yno.

Y gweinidog nesaf oedd Mr. Evan Lewis, un o'r Myfyrwyr o'r athrofa yn Abergavenny. Cafodd ef ei urddo yn haf y flwyddyn 1771, ond yr oedd wedi bod yn pregethu yn fisol, neu fynychach i'r gynnulleidfa dros У rhan fwyaf o'r amser y bu yn fyfyriwr yn Abergavenny. Ymddengys ei fod yn ddyn ieuangc llafurus a doniol iawn, ac iddo fod yn hynod o lwyddianus trwy dymor byr ei weinidogaeth, yr hyn ni bu fawr dros ddwy flynedd, canys bu farw ar yr 28ain o Dachwedd, 1773, yn 25ain oed. Yr oedd hen bobl yn fyw yn y gymydogaeth, tuag ugain mlynedd yn ol, oedd yn ei gofio, ac yn son yn barchus am ei enwogrwydd a'i lwyddiant. Mor dywyll yw ffyrdd Rhagluniaeth:—Rees Davies yn cael ei adael am dair blynedd a deugain, ac yn y rhan olaf o'i dymor yn pregethu y rhan fwyaf o'r gynnull-eidfa allan; ac Evan Lewis, gyda bod ei ddefnyddioldeb yn dechreu cael ei werthfawrogi gan yr eglwys a'r ardalwyr, yn cael ei symud ymaith. "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef," ond er hyny, "cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfaingc ef."

Ar ol i'r eglwys fod ddwy flynedd a hanner heb weinidog, wedi marwolaeth Mr. Lewis, rhoddasant alwad i un Mr. Thomas Davies, yr hwn a urddwyd yno Mai 23ain, 1776. Cofnoda Phillip Dafydd yr amgylchiad yn ei ddyddlyfr, ond heb roddi braidd ddim o hanes y gwasanaeth. Y cwbl a ddywed ydyw, i Mr. Thomas Davies gael ei urddo yn Hanover y diwrnod hwnw, a'i fod yn gobeithio y buasai gwaith y dydd yn cael ei fendithio er bod yn ddaioni a chysur i lawer. Ni enwa neb o'r rhai a gymerasant ran yn y gwasanaeth ond y Dr. Benjamin Davies, yr hwn a osodwyd i ddechreu yr oedfa trwy weddi, a beia y trefnwyr yn llym am osod y gweinidog galluocaf o bawb oedd yno i ddechreu yr oedfa yn lle pregethu. Ni pharhaodd cysylltiad Mr. Davies âg eglwys Hanover nemawr dros dair blynedd, ac nis gwyddom ddim pa un ai llwyddianus ai aflwyddianus y bu yno. Mae Phillip Dafydd yn ei ddyddlyfr yn hollol ddistaw gyda golwg arno. Ar gyfer Ebrill 29ain, 1779, cawn y nodiad canlynol: Heddyw bum yn Hanover gyda Mr. Thomas Davies 'yn atafaelu ar eiddo Howell Powell am yr ardreth oedd yn ddyledus." Oddiwrth hyn yr ydym yn casglu fod Mr. Davies wedi ardrethu y tŷ a'r tir perthynol i'r eglwys i'r Howell Powell hwn, a'i fod yn methu cael ganddo dalu. yr ardreth heb osod cyfraith arno. Ni bu Mr. Davies yno yn hir ar ol hyn, ymadawodd yn 1780. Gresyn na buasai yr hen groniclwr ffyddlon Phillip Dafydd yn rhoddi gwybod i nii ba le yr aeth pan ymadawodd oddiyno, ond y mae yn hollol ddistaw. Dywed wrthym iddo fod yn Hanover yn cadw cyfarfod cymundeb ar y 15fed o Hydref, 1780, ac o'r pryd hwnw yn mlaen hyd amser urddiad Mr. William Thomas; yn 1782, yr ydym yn cael ei fod ef yno yn cynnal cyfarfod cymundeb bob tri neu bedwar mis yn gyson. Ionawr 6ed, 1782, ysgrifena—"Bum yn pregethu heddyw yn Hanover, ac yn gweinyddu swper yr Arglwydd. Y testyn oedd Rhuf. vi. 22. Yr oedd y lle yn weddol lawn, ond y mae amryw o'r aelodau wedi myned ar wasgar, a rhai o honynt wedi gwrthgilio." Pa un ai mesur o deimladau annymunol yn gysylltedig âg ymadawiad Mr. Thomas Davies, ai ynte rhyw beth arall a achosodd hyn nis gwyddom.

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol hyn rhoddwyd galwad i Mr. William Thomas, un o'r myfyrwyr yn Athrofa Abergavenny. Rhoddir yr hanes canlynol am ei urddiad yn nyddlyfr P. Dafydd. "Hydref 2il, 1782—Heddyw aethum i Hanover, lle yr oedd cyfarfod gweinidogion er urddo Mr. William Thomas y dydd canlynol, a chafodd y gwasanaeth ei ddwyn yn mlaen fel yr wyf fi yn gobeithio er boddlonrwyddi bawb. Darllenwyd pennod gan Mr. Edmund Jones, a gweddïodd Mr. Peter Jenkins. Pregethodd Mr. Owen Davies, Trelech, oddiwrth 1 Tim. iii. 1. Pregeth dda, gyfaddas i'r amgylchiad. Holwyd y gofyniadau a derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. Simon Williams, Tredwstan; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. Isaac Price, Llanwrtyd, a thraddododd Mr. Owen Davies y Siars i'r gweinidog, oddiwrth Col. iv. 17. Siars dda, gyflawn, a phriodol. Bendithied ac arddeled yr Arglwydd waith y dydd." Bu Mr. Thomas am tua dwy flynedd a hanner yn gysurus a llwyddianus iawn yno, ond cyfododd ychydig ddiflasdod rhyngddo a rhai o'r aelodau yn y flwyddyn 1785, yr hyn a derfynodd yn ei ymadawiad yn 1787. Cawn y cofnodiad canlynol yn nydd— lyfr Phillip Dafydd am yr amgylchiad hwn: "Mehefin 30ain, 1785—Bum heddyw yn Hanover gyda Mr. Simon Williams, Tredwstan, a Mr. Williams, Llanfigan, (Aber), yn ceisio unioni pethau rhwng Mr. W. Thomas, â rhai o'r gynnulleidfa, ac yr wyf yn gobeithio na fu ein hymdrechion yn gwbl ofer. Gweddiodd Mr. William Williams, a phregethodd Mr. Simon Williams, oddiwrth 1 Cor. x. 12." Yr oedd Mr. Dafydd, Mr. Edmund Jones, a Mr. J. Griffiths, o Abergavenny, wedi bod yno o'r blaen ar yr 2il o Chwefror ar yr un neges, ond wedi methu gwneyd dim y pryd hwnw; ac y mae yn ymddangos, gan i Mr. Thomas ymadael mor fuan, na ddarfu i'r ail gynygiad lwyddo i lwyr wellhau y clwyf. Yn 1787, derbyniodd Mr. Thomas alwad oddiwrth yr eglwys yn y Bala, a symudodd yno.

Yn nechreu y flwyddyn 1790, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Emanuel Davies, myfyriwr o Athrofa Croesoswallt. Daeth yno i ddechreu ei weinidogaeth yn mis Mai y flwyddyn hono, ac urddwyd ef Hydref 22ain, yn yr un flwyddyn. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol yn ei urddiad, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth: Edmund Jones, Pontypool, Stephen Lloyd, Brynberian, David Thomas, Penmain, John Griffiths, Abergavenny, John Griffiths, Glandwr, Benjamin Evans, Drewen, a Thomas Bowen, Maesyronen. Cafodd Mr. Davies oes hwy i lafurio yn Hanover nag un gweinidog a fu yno o'i flaen. Bu yno o Mai, 1790, hyd Awst 29ain, 1838, pryd y gorphenodd ei yrfa ddaearol mewn tangnefedd. Yr oedd Mr. Davies yn wr bonheddig yn holl ystyr yr ymadrodd. Yr oedd yn ysgolhaig da, yn ddyn llawn o synwyr cyffredin, yn bregethwr sylweddol, ac yn gwisgo cymmeriad difrycheulyd, a thrwy fod y pethau rhagorol hyn wedi cydgyfarfod ynddo, cadwodd i fyny urddas y weinidogaeth efengylaidd yn yr ardal trwy ei oes hirfaith. Gan nad oedd yn bregethwr poblogaidd, nac yn ddyn cyhoeddus iawn, ni bu ei weinidogaeth yn foddion i luosogi nemawr ar y gynnulleidfa, nac i helaethu terfynau yr achos. Gadawodd yr eglwys rywbeth yn gyffelyb i'r hyn y cafodd hi o ran rhif a safle gymdeithasol. Mae hyn yn fwy nag a ellir ddyweyd am lawer un mwy poblogaidd a chyhoeddus na Mr. Davies.

Yn y flwyddyn 1839, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Llewellyn R. Powell, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o'r America, lle y buasai yn gweinidogaethu am rai blynyddau. Yn y flwyddyn hono hefyd ail-adeiladwyd y capel. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Hanover, agorodd Mr. Powell ysgol er parotoi pregethwyr ieuangc i'r colegau. Daeth ei ysgol yn fuan yn enwog iawn, a chafodd amryw o'r rhai sydd yn awr yn cael eu rhifo yn mysg prif weinidogion Cymru ddechreuad eu haddysg yno. Nid oedd Mr. Powell mwy na'i ragflaenor, Mr. Davies, yn bregethwr doniol, ond yr oedd ynddo elfenau a'i gwnelent yn ddyn o ddylanwad a gwasanaeth yn y gymydogaeth. Yn y flwyddyn 1847, rhoddodd ofal yr eglwys i fyny, a dychwelodd i'r America.

Yn mis Medi, 1847, derbyniodd Mr. Robert Thomas, Rhaiadrwy, alwad unfrydol yr eglwys, â'r hon y cydsyniodd, ac yno y mae o'r pryd hwnw hyd yn awr yn ddefnyddiol a pharchus gan yr eglwys a'r holl ardal. Yn y flwyddyn 1869, adeiladwyd festri ac ysgoldy cyfleus yn ymyl y capel. Rhodd y diweddar Miss Morgans, o'r Lower-house, Llanover, yw yr adeiladau cyfleus hyn.

Er nad yw eglwys Hanover ond bychan o rif, mewn cyferbyniad i lawer o eglwysi Cymru, nid oes un eglwys fwy anrhydeddus yn y Dywysogaeth. Mae o oes i oes wedi cael ei gwneyd i fyny o rai o'r teuluoedd mwyaf parchus yn yr holl wlad. Gwneir y gynnulleidfa i fyny yn bresenol o bersonau o naw o wahanol blwyfydd. Mae hon yn un o'r ychydig eglwysi gwaddoledig, sydd hyd yn hyn wedi diange rhag i'w gwaddol droi yn felldith iddi. Ni wna ychydig waddol un niwed i eglwys tra y byddo ei gweinidogion yn ddynion da, cydwybodol, a llafurus, ond y perygl yw i ddiogyn diegwyddor, didalent, a diwerth, ddyfod i feddiant o waddol eglwysig. Bydd un o'r fath yn sicr o farchogaeth achos i farwolaeth. Mae llawer achos, a fuasai gynt yn flodeuog, wedi cael ei ddifetha gan waddol. Gweddied eglwys Hanover am i'w gweinidog teilwng presenol, pan elwir ef oddiwrth ei waith at ei wobr, gael ei ddilyn gan un o gyffelyb feddwl.

Cafodd y personau canlynol, ac o bosibl ereill, nad ydym ni wedi dyfod o hyd i'w henwau, eu codi i bregethu yn eglwys Hanover.

William Morgan, mab Mr. Francis Morgan, Mount Pleasant. Dechreuodd bregethu yn fuan ar ol sefydliad Mr. Emanuel Davies yno fel gweinidog, ac ar ol cael ychydig o addysg ragbarotoawl, dan ofal ei weinidog, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ngwrexham, yn Chwefror 1792. Wedi gorphen ei amser yno, cafodd ei urddo yn Brigstock, yn sir Northampton, yn 1796; a dywedai ei athraw, Dr. Jenkin Lewis, y buasai yn debyg o droi allan yn ddyn defnyddiol. Symudodd o'r sir hono i gymydogaeth Preston, yn sir Lancaster, a bu farw yn Elswick, er's tua deng mlynedd ar hugain yn ol. Yr oedd Mrs. Jones, gwraig gyntaf Mr. Morris Jones, gynt o'r Farteg, yn chwaer iddo.

Daniel James. Yr oedd y gwr da hwn yn enedigol o ardal Brynberian, sir Benfro. Mae yn debygol mai ei adnabyddiaeth â Mr. E. Davies, yr hwn hefyd oedd yn enedigol o'r ardal hono, a'i harweiniodd i gartrefu yn ardal Hanover. Yn Hanover y dechreuodd bregethu, ac yn mhen rhyw amser wedi hyny, symudodd i ardal y New Inn, ac ymaelododd yn yr eglwys hono. Amaethwr cyfrifol ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu yn pregethu yn achlysurol am fwy na hanner can' mlynedd. Cyfrifid ef yn Gristion cywir, ac yr oedd yn ddyn dylanwadol a defnyddiol iawn. Bu farw Mehefin 25ain, 1857, yn 84 oed, a chladdwyd ef wrth gapel y New Inn. Mab iddo ef yw Mr. D. B. James, gweinidog presenol Castle Green, Caerodor.

Josiah Davies, mab Mr. E. Davies, y gweinidog. Ganwyd ef Hydref 29, 1794. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg o'i oed, ac yn fuan wedi hyny dechreucdd bregethu. Yn Ionawr 1816, derbyniwyd ef i'r Athrofa Orllewinol, yr hon a gedwir yn awr yn Plymouth. Yn nechreu y flwyddyn 1821, urddwyd ef yn King's Bridge, lle y bu yn llafurio gyda pharch a llwyddiant am naw mlynedd. Bu farw o dwymyn, yn niwedd y flwyddyn 1829. Gadawodd wraig a dwy eneth fechan, ac eglwys a'i carai yn fawr, i alaru am ei farwolaeth yn mlodeu ei ddyddiau. Dywedir ei fod yn bregethwr da, synwyrol, a derbyniol, ond nad oedd yn hyawdl.

Theophilus Davies, mab arall i Mr. E. Davies, y gweinidog. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1797, ac addysgwyd ef yr un amser a'i frawd yn yr Athrofa Orllewinol. Cafodd ei urddo yn Ludlow, yn 1821. Bu wedi hyny am flynyddau yn gweinidogaethu yn Newton, gerllaw Liverpool, ac yn Hungerford. Mae yn awr yn byw yn agos i Stockport, ac yn teimlo baich henaint yn ei wasgu. Mae Mr. Davies wedi treulio oes yn gymmeriad difrycheulyd, ac yn barchus gan bawb o'i gydnabod.

Edward Charles Jenkins. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mehefin 1813, a dechreuodd bregethu yn 1821. Urddwyd ef yn Salem, Bedwellty, yn 1830. Gweler ychwaneg am y brawd rhagorol hwn yn hanes Salem, a Moriah, Rhymni.

Robert Jermain Thomas, B.A., mab Mr. R. Thomas, gweinidog presenol Hanover, a anwyd Medi 7fed, 1840, yn Rhaiadr, lle yr oedd ei dad y pryd hwnw yn gweinidogaethu. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Hanover pan yn bymtheg mlwydd oed. Bu am flwyddyn, ar ol hyn, yn is-athraw mewn ysgol a gedwid gan Mr. Alfred Newth, gweinidog yr Annibynwyr yn Oundle, sir Northampton. Yna, pan yn un-ar-bymtheg oed, ymaelododd (matriculated) yn mhrif athrofa Llundain. Yr oedd cyn hyn yn ysgolhaig rhagorol. Treuliasai dair blynedd yn ysgol Llanymddyfri, dan arolygiad yr enwog Archddeacon Williams, lle y meistrolodd y Lladin, y Groeg, a'r Ffrangaeg, Ar ol ymaelodi yn mhrif athrofa Llundain, dychwelodd adref a dechreuodd bregethu. Ei destyn cyntaf oedd Heb. xiii. 8. Y flwyddyn ganlynol derbyniwyd ef i New College, Llundain, lle y bu yn fyfyriwr diwyd am bum' mlynedd, ac yr enillodd y Mill's Scholarship. Cafodd hefyd ei raddio yn B.A. yn mhrif athrofa Llundain. Mehefin 4ydd, 1863, urddwyd ef yn Hanover, i fyned allan yn genhadwr dan Gymdeithas Genhadol Llundain. Y mis canlynol, ymadawodd ef a'i briod am Shanghai, lle y tiriasant yn ddyogel yn Rhagfyr 1863. Y Mawrth canlynol, bu farw ei briod ar enedigaeth plentyn anamserol. Effeithiodd hyny yn ddwys iawn ar ei gorff a'i feddwl, fel y bu am dymor yn analluog i wneyd dim. Ar y dybiaeth y buasai newid lle yn fanteisiol er adferiad ei iechyd, penodwyd ef i genhadaeth Peking. Ar ei ffordd tuag yno, cymerodd daith genhadol faith trwy Corea. Yn ystod y daith hono, meistrolodd iaith Coreaid. Efe oedd y cenhadwr Protestanaidd cyntaf a ymwelodd a Corea. Derbyniwyd ef yn garedig gan y bobl. Bu yn egluro natur cristionogaeth iddynt, a ffurfiodd farn uchel am gyfaddasder y dalaeth hono fel maes cenhadol.

Wedi lladdiad y cenhadau Ffrengig, gan y Coreaid yn 1865, parotodd yr Uchel Lyngesydd Ffrengig ryfelgyrch yn eu herbyn, a chan nad oedd neb o'r Ewropeaid yn China, ond Mr. Thomas, yn medru siarad eu hiaith, perswadiwyd ef i fyned gyda y llynges fel cyfieithydd. I'r dyben hwnw aeth o Peking i Chefoo, a phan na ddarfu iddo gyfarfod a'r llynges yno, gan faint ei awydd i ymweled a Corea, er perffeithio ei wybodaeth o'r iaith, aeth i fyny ar fwrdd llong Americanaidd o'r enw, The General Sharman. Pan aeth y llong ar y traeth ar ymyl yr afon, daeth y Coreaid yno a lladdasant y dwylaw a'r teithwyr, a Mr. Thomas yn eu plith. Tybir mai ar y 29ain o Awst 1866, y gwnaed yr erchyll-waith hwn. Fel hyn, rhoddwyd terfyn disymwth ar yrfa un o'r cenhadon mwyaf gobeithiol a anfonwyd allan o Frydain erioed. Yr oedd gallu Mr. Thomas i ddysgu ieithoedd yn ddigyffelyb. Cyn myned allan o'r wlad hon, yr oedd wedi meistroli y rhan fwyaf o brif ieithoedd Ewrop, ac ni bu nemawr o amser yn China cyn meistroli iaith y wlad hono, ac fel y nodasom, yr oedd wedi dyfod yn lled gyfarwydd yn iaith y Coreaid. Pe cawsai fyw, mae yn debygol y buasai yn un o'r ieithwyr goreu yn y byd, a thrwy hyny buasai o wasanaeth annirnadwy i'r achos cenhadol; ond gwelodd y Llywydd doeth yn dda ei alw ato ei hun ar gychwyniad ei yrfa o ddefnyddioldeb. Gan ei fod Ef yn anfeidrol yn ei ddoethineb, ein dyledswydd ni yw tewi, neu ddyweyd, "Yr Arglwydd yw efe gwnaed a fyddo da yn ei olwg."

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS QUARRELL:—Mae hanes y gweinidog llafurus hwn yn lled. anhysbys i ni. Mae yn debygol mai un genedigol o sir Faesyfed neu sir Drefaldwyn ydoedd. Yr ydym yn cyfarfod ag amryw bersonau o'r enw Quarrell yn hanes Annghydffurfwyr yr ail ganrif ar bymtheg. Gweddw Mr. Paul Quarrell, masnachwr yn Presteign, oedd gwraig gyntaf Mr. Vavasor Powell; James Quarrell oedd gweinidog cyntaf yr eglwys Annibynol yn yr Amwythig, ac yr oedd un Edmund Quarrell yn bregethwr efengylaidd yn sir Henffordd yn amser y werin-lywodraeth. Mae yn dra thebygol fod Mr. Thomas Quarrell yn frawd neu ryw berthynas agos i'r personau hyn. Yr oedd ef yn pregethu yn 1653, ac o bosibl rai blynyddau cyn hyny. Yn 1669 yr oedd yn byw yn yr Eglwys Newydd, gerllaw Caerdydd, ac yn pregethu, fel gweinidog Annibynol yn y plwyfydd cylchynol. Yn 1675, sefydlodd fel gweinidog yr eglwys a gyfarfyddai yn Llantrisant, Llangwm, a Brynbiga, Mynwy. Mae Mr. Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, yn cymeryd yn ganiataol mai Bedyddiwr oedd Mr. Quarrell, gan iddo gael galwad gan eglwys yr oedd y rhan fwyaf o'i haelodau y pryd hwnw yn Fedyddwyr! ond yr ydym ninau yn cymeryd yn ganiataol nad Bedyddiwr ydoedd gan nad oes un hanes iddo gael ei drochi; gan ei fod yn cael ei ddarlunio fel gweinidog Annibynol yn 1669; gan nad oes un gair o son am dano yn hanes cymanfaoedd y Bedyddwyr o 1688 hyd 1709, pryd y crybwyllir dynion llawer mwy dinod a berthynent i'r un eglwys ag yntau; a chan fod yr eglwys yn selog dros gymundeb rhydd. Dywedir mai mewn lle o'r enw Tygwyn, yn mhlwyf Llangwm, y preswyliai Mr. Quarrell yn mlynyddau diweddaf ei oes, ac iddo farw mewn henaint teg tua y flwyddyn 1709.

WALTER WILLIAMS:—Yr hanes cyntaf a gawn am dano ef yw iddo gymeryd trwydded i bregethu fel gweinidog Annibynol yn nhy Edward Walters, yn mhlwyf Llangybi, Mynwy, Gorphenaf 22ain, 1672, a'r hanes diweddaf sydd genym yw, ei fod yn cynnorthwyo Mr. Quarrell yn y flwyddyn 1690. Nis gwyddom pa cyhyd y bu fyw wedi hyny.

HUGH PUGH:—Ychydig iawn o hanes y gŵr doniol hwn hefyd sydd genym. Yn mhlwyf Llanllowell, gerllaw Brynbiga, y preswyliai, ond nis gwyddom pa un ai yno ai yn rhywle arall y ganwyd ef. Mae yn lled sier mai yn Brynllwarch y derbyniodd ei addysg. Cafodd ei urddo fel gweinidog y rhan Annibynol o eglwys Mr. Quarrell ryw bryd cyn y flwyddyn 1696, ond nis gwyddom pa un ai fel cynnorthwywyr neu fel canlyniedydd y gŵr da hwnw yr urddwyd ef. Yr oedd yr eglwys yn ei amser ef yn cyfarfod yn y Goitre, Brynbiga, a Llangwm. Dywed Mr. Thomas, yn hanes y Bedyddwyr, iddo ef weled "Pulpud Mr. Pugh yn Brynbiga," a bod "H. P., 1696," mewn llythyrenau wedi eu gwneyd o hoelion pres arno. Dywed hefyd fod y geiriau "Dum vivet" wedi eu gosod yr un modd ar bulpud y Goitre. Mae yn ymddangos fod rhyw anghydfod lled fawr wedi cyfodi rhwng Mr. Pugh a rhai o'i frodyr yn y weinidogaeth, tua y flwyddyn 1698. Mae Mr. Rees Protheroe, wedi hyny o Gaerdydd, mewn llythyr at Mr. Blackmore, o Worcester, dyddiedig Rhagfyr 27ain, 1698, yn dyweyd fod Hugh Pugh wedi rhoddi ergyd mawr i grefydd yn sir Fynwy, trwy siarad yn fychanus am weinidogion, a dyweyd anwireddau cywilyddus. Gan nas gwyddom ddim am achosion a natur yr annghydfod hwn nis gallwn fanylu dim yn ei gylch. Yr oedd Hugh Pugh yn bregethwr poblogaidd annghyffredin, ac yn Galfiniad selog. Dywed hanesydd y Bedyddwyr wrthym ei fod wedi newid ei farn am fedydd cyn ei farw, ac wedi bwriadu cymeryd ei drochi, ond iddo farw yn lled ddisymwth o'r frech wen cyn cael cyfle i hyny. Ychydig o bwys a roddwn ar y chwedl hon. Mae llawer o bregethwyr enwog ar ol Hugh Pugh wedi cael y gair iddynt newid eu barn am fedydd heb un sail i hyny. Tybir i Mr. Pugh farw yn ddyn cymharol o ieuangc tua y flwyddyn 1709. Yr oedd Mr. Pugh yn derbyn tair punt y flwyddyn o'r Drysorfa Gynnulleidfaol.

MORGAN THOMAS:—Nid oes genym unrhyw hanes i'w roddi am y gŵr da hwn, amgen na'i fod yn weinidog yn y Goitre yn 1718, a'i fod y pryd hwnw yn cyfaneddu yn agos i'r Drehir, ar gyffiniau sir Henffordd. Yr ydym yn cael yr enw Morgan Thomas yn mysg y myfyrwyr a addysgwyd gan Mr. Jones, Brynllwarch, ac y mae yn lled sicr mai efe oedd hwnw. Mac amser ei farwolaeth yn anhysbys i ni.

REES DAVIES:—Mae yn ymddangos mai un genedigol o sir Aberteifi oedd ef. Yn llechres yr aelodau, yn hen lyfr eglwys Abergavenny, yr ydym yn cael enw Rees Davies, a'r nodiad canlynol o berthynas iddo: "Rees Davies, yn awr (1724) yn weinidog yr eglwys yn y Goitre. Derbyniwyd ef i'r eglwys hon trwy lythyr o eglwys Crugymaen, yn sir Aberteifi.' Yn y cyfrif o eglwysi Annibynol sir Fynwy, a anfonwyd i'r Dr. John Evans, o Lundain, gan Mr., wedi hyny Dr., Joseph Stennet, o Abergavenny, yn Ionawr 1718, enwir Rees Davies fel gweinidog yn Cromindee. Nis gwyddom am un lle o'r enw yn sir Fynwy. Tebygol mai Mr. Stennet neu Dr. Evans, wrth gopio ei law ysgrif, ddarfu gam-sillebu enw rhywle, yn yr hwn y cynelid gwasanaeth crefyddol gan gangen o eglwys y Goitre, ac mai Mr. Davies oedd yn benaf yn gwasanaethu y lle hwnw, tra y gwasanaethid y fam eglwys gan Mr. Morgan Thomas. Pa fodd bynag, yn 1724, Mr. Davies oedd y gweinidog yn y Goitre, a pharhaodd i fod yn weinidog i'r eglwys hon hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1767, pryd yr oedd yn 73 oed. Cawn y nodiad canlynol o berthynas iddo yn nyddlyfr Phillip Dafydd: "Medi 22ain, 1767. Bum heddyw yn Hanover yn nghladdedigaeth Mr. Rees Davies. Yr oedd ef yn dwyn cryn sel dros achos Ymneillduaeth, a gwnaeth fwy tuag at ei gynnaliaeth, mewn pethau allanol, na nemawr, ond gyda golwg ar ei weinidogaeth yn gyffredinol, bu yn aflwyddianus iawn, ac oherwydd ei ymddygiad anngharedig yr oedd er ys blynyddau wedi myned yn hollol ddiddefnydd. Medi 27ain. Heddyw bum yn pregethu pregeth angladdol y parchedig Mr. Rees Davies, yn Hanover. testyn oedd Phil. i. 21. Cefais rwyddineb i lefaru, ac yr oedd y capel yn llawn."

EVAN LEWIS. Yr ydym wedi methu cael allan le genedigaeth y gweinidog rhagorol hwn. Cafodd ei dderbyn i athrofa Abergavenny yn Mawrth, 1767. Ymddengys fod ei athraw, Dr. B. Davies, yn coleddu barn uchel iawn am dano. Yn ei adroddiadau blynyddol o sefyllfa yr athrofa, cawn gyfeiriadau parchus iawn ato. Yn yr adroddiad am 1769 dywed, "Y mae Evan Lewis yn wr ieuangc o alluoedd da, ac yn myned yn mlaen yn rhagorol mewn dysgeidiaeth." Etto, yn yr adroddiad am 1770 dywed, "Y mae Evan Lewis yn myned rhagddo yn foddhaol gyda ei wersi, ac y mae ei lafur fel pregethwr yn y gymydogaeth yn dderbyniol a defnyddiol iawn." Urddwyd ef, fel y nodasom, yn nechreu haf y flwyddyn 1771, a bu farw Tachwedd 28ain, 1773, yn 25 oed. Crybwylla Phillip Dafydd ei farwolaeth yn ei ddyddlyfr yn y geiriau canlynol: "Tachwedd 30ain, 1773—Heddyw y clywais am farwolaeth Mr. Evan Lewis, gweinidog Hanover. Gwr ieuangc gobeithiol iawn, ond fe drefnodd Duw nad oedd ei yrfa i fod ond un fer. Colled ddirfawr i'r wlad yw ei farwolaeth. Ychydig gyda dwy flynedd yn ol yr urddwyd ef."

THOMAS DAVIES. Y cwbl a wyddom am dano ef yw iddo gael ei urddo yn Hanover, Mai 23ain, 1776, ac iddo ymadael yn mhen llai na phedair blynedd. Mae genym yn awr ger ein bron gyffes o'i ffydd, a anfonwyd ganddo i'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Mehefin 1778, lle y canfyddwn mai Calfiniad o ran golygiadau ydoedd. Cyfrifid ef yn bregethwr galluog gan Phillip Dafydd, yr hwn a ysgrifena fel y canlyn yn ei ddyddlyfr am Gorphenaf 1af, 1778: "Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn Mhenmain, lle y pregethodd Mr. John Davies, Cwmllynfell, (Alltwen), oddiwrth Ioan x. 28. Yr oedd yn ei bregeth yn dal yn gadarn dros ddyogelwch a pharhad y saint, ond yr wyf fi yn barnu fod ei ddull o ymresymu uwchlaw cyrhaeddiadau pobl gyffredin. Ar ei ol pregethodd Mr. Thomas Davies, o Hanover, oddiwrth Mat. v. 4. Pregeth dda ac eglur, ac yn cael ei thraddodi gyda gwresogrwydd gweddaidd."

WILLIAM THOMAS, gweler hanes eglwys y Bala.

EMANUEL DAVIES. Ganwyd ef yn ardal Brynberian, sir Benfro, Mawrth 3ydd, 1758. Derbyniwyd ef yn aelod i eglwys Brynberian pan oedd yn bymtheng mlwydd oed. Ar ol iddo ddechreu pregethu bu am ychydig amser yn yr ysgol gyda Mr. John Griffiths, Glandwr, ac yn amser y Nadolig 1784, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Croesoswallt. Dywed ei athraw, Dr. Edward Williams, yn ei adroddiad o sefyllfa yr athrofa, yn Rhagfyr, 1785, nad oedd ganddo ond gwybodaeth anmherffaith iawn o'r Lladinaeg pan dderbyniwyd ef, ond ei fod yn dysgu yn rhagorol, a'i fod yn obeithiol iawn o ran galluoedd a duwioldeb. Drachefn yn ei adroddiad dyddiedig Rhagfyr 26ain, 1786, dywed fod Emanuel Davies yn mynel rhagddo yn gwbl foddhaol. Yn fuan wedi gorphen ei amser yn yr athrofa derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Hanover. Dechreuodd ei weinidogaeth yno yn Mai, 1790, ac urddwyd ef yn yr Hydref canlynol. Yn mhen ychydig amser ar ol ei urddiad priododd ferch Mr. Rees Harris, Pwllheli. Yr oedd Mrs. Davies yn perthyn i un o'r teuluoedd hynotaf am enwogrwydd crefyddol yn y deyrnas, am yr hwn y bydd genym lawer i ddyweyd pan ddeuwn at hanes sir Gaernarfon. Yr oedd hi ei hun yn ferch i weinidog parchus; ei mham yn ferch i Mr. David Williams, gweinidog enwog yn Ninbych; a'i mham hithau yn ferch i'r enwog Daniel Phillips, gweinidog Pwllheli o'r flwyddyn 1684 hyd 1722. Cafodd Mr. a Mrs. Davies naw o blant, a chawsant yr hyfrydwch o weled wyth o honynt yn grefyddwyr selog a defnyddiol. Aeth dau o'u meibion, fel y nodasom, i'r weinidogaeth. Bu farw Mr. Davies Awst 29ain, 1838, ond bu Mrs. Davies fyw amryw flynyddau ar ei ol ef.

Ystyrid Mr. Davies, o Hanover, gan bawb a'i hadwaenai, uchel ac isel, fel dyn dirodres, Cristion cywir, a gweinidog da i Iesu Grist.

Yr oedd yn ddyn cyflawn o wybodaeth, yn rhagorach ysgolhaig na'r rhan fwyaf o weinidogion ei oes, ac yn bregethwr buddiol, er nad oedd yn ddoniol, ac felly llanwodd ei gylch yn anrhydeddus ac yn barchus yn yr un lle am naw a deugain o flynyddau. Claddwyd ef wrth gapel Hanover, Medi 5ed, 1838, pryd y gweinyddwyd gan Mr. E. Rowlands, Pontypool; Mr. D. Stephenson, Brynmawr; Mr. H. Jones, Tredegar, a Mr. Morris Jones, o'r Farteg.

LLEWELLYN R. POWELL sydd enedigol o ardal Ty'nycoed, Glyntawy. Dechreuodd bregethu yn ieuangc iawn. Ar ol gorphen ei amser fel myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd, ymfudodd i'r America. Yn 1839, daeth yn ol i Gymru, ac ar ol bod yn weinidog yn Hanover am wyth mlynedd dychwelodd i'r America. Mae yn bresenol yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Alliance, Ohio.

ROBERT THOMAS, a anwyd yn ardal Rhosllanerchrugog, sir Ddinbych, a dderbyniwyd yn aelod eglwysig, ac a ddechreuodd bregethu dan yr enwog W. Williams, o'r Wern. Derbyniodd ei addysg yn athrofa y Drefnewydd, ac urddwyd ef yn Glandwr, Abertawy, yn 1837; symudodd oddiyno yn mhen dwy flynedd i Raiadrwy, ac yn 1847, symudodd i Hanover, lle y mae yn bresenol, a lle yr hyderwn y bydd yn ddefnyddiol a dedwydd am flynyddau etto.

Nodiadau

golygu