Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Brithdir
← Rhydymain | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Dolgellau → |
BRITHDIR.
Nid oes dim yn agweddion allanol y llanerch hon o'r ddaear i osod arbenigrwydd arni, mwy na lluaws o lanerchau eraill yn ein gwlad. Nid oes yma dir ffrwythlawn, na daear gynyrchiol. Mae yn wir fod y mynyddau bân, ysgythrog, a welir o gylch y fan yn ymddangos yn fawreddog, pan yn gwisgo eu niwl goronau, a'r ffrydiau grisialaidd a fwrlymant i fyny o'r ddaear, ac a ddisgynant dros y creigiau, yn bur ac iachusol, a'r awelon balmaidd a wyntyllir gan y llwyni a'r coedwigoedd gwyrddlas yn adloniant i ysbryd y preswylwyr, ac yn sirioldeb calon i ymwelwyr achlysurol, etto nis gallasai y pethau hyn oll roddi i'r llecyn dinod yma o Feirionydd yr hynodrwydd y mae wedi ei gyrhaedd. Crefydd y lle sydd wedi gosod arbenigrwydd arno, ac y mae enw y Brithdir yn anfarwol yn nglyn a'r enwogion a gyfododd o hono. Dechreuwyd pregethu yn y lle cyn hir ar ol dechreu yn Rhydymain; a Mr. Abraham Tibbot, a'i gynorthwywyr yn Llanuwchllyn, Robert Roberts, Tyddynyfelin; Rowland Roberts, Penrhiwdwrch; John Jones, Afonfechan, a John Lewis, Hafodyrhaidd, oedd y rhai a ymwelent a'r lle yn mlynyddoedd cyntaf yr achos. Pregethid mewn tŷ annedd yn ymyl y fan lle y safai hen gapel y Brithdir, ac yn aml gorfodid pregethu y tu allan i'r drws, gan na chynwysai y tŷ y rhai a ddeuant yn nghyd. Derbyniwyd ychydig bersonau oddiyma yn aelodau yn Rhydymain, ond yn fuan wedi sefydliad Dr. G. Lewis yn LlanuwchIlyn, corpholwyd yr aelodau oedd yn y lle yn eglwys. Nid oeddynt ond wyth o bersonau, a dyma eu henwau—Sion Ellis, Mary Pugh, Perthillwydion, (mam H. Pugh, o'r Brithdir, wedi hyny,) Robert Roberts, o'r Henblas; Sion Jones, o'r Gorwys; Sion Risiart Wmffre, a gwragedd y tri a enwyd olaf. Robert Roberts, o'r Henblas, oedd yr unig un o honynt a allasai ddarllen ychydig, ac arno ef yn benaf yn ymddibynid pan na byddai pregethwr yn digwydd bod. Yn y flwyddyn 1795, derbyniwyd Hugh Pugh, mab Perthillwydion, yn fachgen ieuangc un-ar-bymtheg oed, yn aelod o'r eglwys gan Dr. Lewis, a theimlai y frawdoliaeth fechan yn y lle fod ei gael yn ennill anmhrisiadwy iddynt, ac felly y profodd. Yn y flwyddyn 1800, adeiladwyd yma gapel, a mawr y llawenydd a deimlid wrth gael pabell i'r arch i drigo ynddi. Gan fod yn anmhosibl i Dr. Lewis weini i'r eglwys yn y Brithdir a Rhydymain ond yn anaml, oblegid eangder maes ei lafur, anogodd hwy i roddi galwad i Mr. Hugh Pugh, Perthillwydion, yr hwn oedd wedi treulio blwyddyn yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam. Rhoddodd yr eglwysi alwad iddo, cydsyniodd yntau, ac urddwyd ef yma yn mis Hydref, 1802, a bu yma yn weithiwr difefl, hyd nes y gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, ac y byrhawyd ei ddyddiau, a dis- gynodd i'w fedd yn 30 oed. Yn mhen blwyddyn wedi marwolaeth Mr. Pugh, rhoddwyd galwad i Mr. Cadwaladr Jones, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, ac urddwyd ef yn Nolgellau, Mai 23ain, 1811, a bu gofal yr eglwys yma arno am wyth-mlynedd-ar-hugain, a pharhaodd i bregethu yn fisol yn y lle hyd ddiwedd ei oes. Dechreuodd Mr. Hugh James ei weinidogaeth yma yn Mai, 1839, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 31ain, y flwyddyn hono, a bu yma yn ddefnyddiol hyd fis Mai, 1842, pan y symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Llansantffraid, Penygroes, a Llansilin. Yn ystod y tair blynedd y bu Mr. James yma, derbyniodd driugain a dau o aelodau, a gadawodd yr eglwys a gafodd yn driugain a chwech, a'i rhifedi yn ugain a chant. Nid oedd ond ychydig o'r gwrandawyr cyson, nad oeddynt y pryd hwnw wedi eu derbyn yn aelodau. Wedi ymadawiad Mr. James, bu yr eglwys yma am rai blynyddau heb weinidog gan na chydsyniodd a'r eglwys yn Rhydymain, yn ei dewisiad o Mr. John Davies, Ceidio. Yn nechreu y flwyddyn 1847, unodd yr eglwys hon a'r eglwysi yn Rhydymain a Llanfachreth, i roddi galwad i Mr. Robert Ellis, Rhoslan; a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma, Ebrill 12fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Jones, Abermaw; H. Lloyd, Towyn; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Trawsfynydd; M. Jones, Bala; H. Ellis, Llangwm; J. H. Hughes, Llangollen; E. Griffith, Llanegryn, ac eraill; ac y mae Mr. Ellis yn parhau yma yn y weinidogaeth. Adgyweiriwyd a helaethwyd y capel ar ol ei adeiladu y tro cyntaf, ond yn y flwyddyn 1860, penderfynwyd codi capel newydd ychydig oddiwrth yr hen gapel, a thaflodd yr ardalwyr eu holl galon i'r gwaith, fel y codwyd capel cryf, cadarn, a gwasanaethgar, gydag ysgoldy o'r tu cefn iddo, ac y mae claddfa eang wrtho, a gweddillion lluaws o rai anwyl eisioes wedi eu rhoddi i orwedd ynddi. Mae achos cryf a llewyrchus yn y Brithdir, a'r maes gan mwyaf wedi ei feddianu gan yr eglwys yn y lle. Yr oedd yn y Brithdir lawer o hen bobl dda, a hyderwn fod y rhai sydd yno yn awr, yn deilwng o'u henafiaid. Sion Dafydd, oedd yn nodedig am ei ffyddlondeb. Bu Thomas Richard yn ddiacon yma am flynyddau, a chafodd fyw i oedran teg. William Richard, am yr hwn y crybwylla Ieuan Gwynedd, yn hanes wylnos ei fam, na chlywodd ei gyffelyb fel gweddïwr. Hugh Jones, Tŷ-nant, oedd gristion didwyll, a diacon ffyddlon—efe oedd y cyntaf gladdwyd yn mynwent y capel newydd. Evan Price, hynaf, Bronalchen, oedd yn ddyn call a thirion iawn; ac yr oedd yma eraill mae yn ddiau o gyffelyb feddwl, er na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni. Arferai Richard Jones, Llwyngwril ddweyd, mai mewn profiad y rhagorai hen bobl dda y Brithdir.—"Pwnc yn Rhydymain, profiad yn Brithdir, a meindiwch yr amser yn Nolgellau," oedd ei ddynodiad ef o neillduolion y tri lle.
Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—
Hugh Pugh. Cawn achlysur i sylwi arno ef etto.
Richard Roberts, Henblas. Bydd genym air am dano yn nglyn a'r Cutiau, gan mai yno y terfynodd ei oes.
Griffith Ellis, Maesyrhelma. Yr oedd yn un o bregethwyr yr eglwys yn ei chychwyniad, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau.
Edward Roberts. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Nghwmafon, Morganwg, yn 1844, ac yno y mae etto.
Evan Price, Bronalchen. Bu yn bregethwr ieuangc cymeradwy yn yr eglwys am flynyddoedd. Yr oedd yn ŵr ieuangc tra rhagorol—o ddeall cryf, yn fardd gwych, ac yn gerddor deallus. Ymgododd i barch ac ymddiried, ac yr oedd yn oruchwyliwr i foneddwr yn ei ardal. Ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Rhoddodd Charles Edwards, Ysw., Dolserau, y boneddwr yr oedd yn oruchwyliwr iddo, gofadail ar ei fedd yn mynwent y Brithdir.
Robert Ellis. Mab Mr. Ellis, y gweinidog. Bu am dymor dan addysg yn Manchester, ac urddwyd ef yn Carno.
John E. Jones. Mae ef yn awr yn yr eglwys yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy.
Yn yr eglwys yma y dygwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd) i fyny, ac y derbyniwyd ef yn aelod, ond fel y crybwyllasom, fwy nag unwaith, aelod yn Sardis, Llanwddyn, ydoedd, pan ddechreuodd bregethu. Mae maen coffadwriaeth iddo ar fur capel y Brithdir, ac nid yw Tycroes, lle y treuliodd flynyddoedd ei febyd, yn nepell oddiyma.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
HUGH PUGH. Ganwyd ef Tachwedd 22ain, 1779, yn Tynantbach, Brithdir. Yr oedd ei rieni Robert a Mary Pugh, yn bobl barchus a chyfrifol, ac yn well arnynt yn y byd na'r rhan fwyaf o'u cymydogion. Yr oedd pan anwyd ef yn eiddilach na phlant yn gyffredin, fel yr ofnid am ei einioes beunydd, ond cryfhaodd yn raddol, er na ddaeth byth yn gryf. Derbyniodd addysg gyffredinol dda, pan yn fachgen yn Nolgellau, ac wedi hyny yn sir Amwythig, fel y daeth yn lled hyddysg yn yr iaith Saesonaeg, ac yn gyfarwydd yn elfenau gwybodaeth gyffredin. Yr oedd er yn fachgen yn nodedig ar gyfrif ei diriondeb a'i hynawsedd, fel yr ennillai ei dymer serchus iddo air da gan bawb. Symudodd ei rieni i Perthillwydion, ac yn nglyn a'r lle hwnw yr oedd eu henwau yn fwyaf adnabyddus. Yr oedd ei fam yn aelod yn y gangen oedd wedi ei ffurfio yn Rhydymain, os nad oedd yn wir yn un o'r rhai a arferai gyrchu i Lanuwchllyn i gymundeb. Byddai Hugh Pugh yn arfer myned gyda'i fam i Rhydymain i'r gyfeillach, ond bu yn hir yn cloffi rhwng dau feddwl cyn rhoddi ei hun yn gyflawn i'r Arglwydd. Ofnid unwaith yr ymollyngai gyda'i gyfoedion gwyllt, ac un tro gwelwyd arwyddion ei fod wedi aros yn rhy hir yn y dafarn. Parodd yr amgylchiad dristwch mawr i'w fam, ac er nad oedd ei dad yn proffesu crefydd, yr oedd arno ofn mawr rhag i'w hoff fab droi allan yn oferddyn penrydd. Ond rhagflaenodd yr Arglwydd ef, a thrwy ddylanwad pregeth gyffrous o eiddo rhyw ŵr dyeithr oedd yn myned trwy y wlad, dygwyd ef i benderfynu rhoddi ei hun i'r Arglwydd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan Dr. Lewis, pan nad oedd ond un-ar-bymtheg oed. Cyn pen dwy flynedd, anogwyd ef gan y cyfeillion i ddechreu pregethu, a dymunent arno ddarllen penod, a dywedyd ychydig oddiwrth ryw ranau o honi, yn y cyfeillachau a'r cyfarfodydd gweddïo. Ni wyddai ei dad, gan nad oedd yn aelod, ddim am y peth, a rhyw noswaith wedi myned i'r cyfarfod yn yr hen lofft yn y Brithdir, beth a welai er ei syndod, ond Huwcyn (chwedl yntau,) yn codi i fyny, ac yn darllen penod ac yn esbonio ychydig arni. Tarawyd yr hen ŵr a syndod, ac a theimladau digofus, ac ni wyddai pa le yr âi, na pha beth a wnai. Plygai ei ben mewn cywilydd yn y gongl, a dywedai ei fod yn mron cnoi ei fysedd, a'i fod yn meddwl ei fod yn teimlo ei wallt yn sefyll ar ei ben, ac nad oedd yn teimlo ei ddillad am dano. Bu ar fedr llithro allan yn ddistaw, ond aros yno fel ar ddrain hyd y diwedd a ddarfu iddo. Ond wedi cael y diwedd, allan ag ef, ac adref ar ffrwst, ac yn orlawn o ddigllonedd at y bachgen am ei ryfyg, ac erbyn cyrhaedd y tŷ, ebe efe wrth ei wraig, yr hon oedd gartref yn gwarchod, "Wel, Mari, Mari, welist ti 'riod ffasiwn beth, naddo yn fy myw—wyddwn i ddim lle 'roeddwn i—'roeddwn i bron a myn'd o nghroen." "Wel yn enw dyn, Robert bach, beth sydd yn bod ?" ebe ei wraig mewn braw, rhag fod rhyw anffawd wedi digwydd. "Beth sy'n bod yn wir? ond y bachgen Huweyn yna yn myn'd i ddarllen penod ac i 'sponio yn y cyfarfod gweddi heno—welis i 'riod ffasiwn beth—hogyn drwg fel yna yn rhyfygu myn'd wrth ben Bibl Duw;" ac erbyn hyn dyma Hugh druan i'r tŷ, heb wybod fawr beth oedd yn ei aros. Ond nid cynt yr oedd i fewn nag y dechreuodd ei dad arno mewn llais cryf ac ysbryd cyffrous—"Wel Huwcyn, yr ydw i yn dŷ roi di dan dŷ rybudd, na wnei di ddim peth fel yna etto—ti yn cymryd gair Duw i'w drin fel yna." Ond ni ddywedodd Hugh ddim, ond cilio o'r neilldu, ac ni ddywedodd ei fam ddim, a daeth y tad bob yn dipyn i gymodi a'r peth, ac i allu gwrando ei fab heb deimlo fod achos iddo guddio ei ben rhwng ei liniau.[1] Ymgododd Mr. Pugh yn fuan i boblogrwydd fel pregethwr, fel yr aeth son am dano ef trwy yr holl wlad oddiamgylch. Yr oedd cymeriad ei deulu mor barchus yn yr ardal—ei ddull yntau o bregethu mor hynod o ddengar—ei lais mor beraidd—ei ysbryd mor danbaid—a'i olwg ieuengaidd yn ychwanegol at hyny, yn ei wneyd yn nodedig o dderbyniol a phoblogaidd. Pan oedd tuag ugain oed, aeth i'r athrofa yn Ngwrecsam, ac arosodd yno flwyddyn. Teimlai yn awyddus i dreulio yr amser rheolaidd yno, ond oblegid rhyw amgylchiadau perswadiwyd ef i ddychwelyd gartref, a chymeryd gofal yr eglwysi ffurfiedig yn Rhydymain a'r Brithdir. Cydsyniodd a hyny, ac urddwyd ef yn y lle olaf a nodwyd yn Hydref, 1802. Urddwyd ef yn y Brithdir oblegid ei gysylltiad blaenorol a'r lle hwnw, er mai Rhydymain oedd yr achos hynaf. Yr oedd capel wedi ei godi yno er y flwyddyn 1788, ac agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, o fewn wythnos i agoriad capel Penystryd. [2] Yn fuan wedi ei urddo cafodd yr hyfrydwch mawr o dderbyn ei dad a'i unig chwaer i'r eglwys trwy ddeheulaw cymdeithas, ac mor effeithiol oedd yr olygfa, pan y gwelwyd ef yn estyn ei law dros y bwrdd i'w dad, fel y llwyr orchfygwyd pawb yn y lle, a methodd yntau ei hun a dyweyd yr un gair ond ymollwng i gydwylo dagrau llawenydd. Pregethodd y Sabboth hwnw ar y geiriau, "Ond myfi, mi a'm tylwyth, a wasanaethwn yr Arglwydd." Ni chyfyngodd ei lafur i'r Brithdir a Rhydymain yn unig, ond ymdrechai i helaethu terfynau yr achos. Dechreuodd bregethu yn Nolgellau, a phrynodd hen.gapel i'r Methodistiaid Calfinaidd at wasanaeth yr enwad. Pregethodd yn Llanelltyd, a sefydlodd achos yno, ac ymwelai yn aml a'r Ganllwyd. Eangodd gylch ei lafur i'r Cutiau, a gwelodd yno ffrwyth i'w lafur, a byddai yn pregethu yn achlysurol yn Abermaw a'r Dyffryn, ac ymestynai ei lafur cyn belled a Llwyngwril, Llanegryn, a Thowyn. Wrth ysgrifenu at gyfaill iddo oedd yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, dywed, "Yr wyf yn wastad yn bur llawn o waith, ac yr wyf yn gobeithio y byddaf felly tra y byddaf yn y byd, oblegid digonedd o waith yw fy nghysur penaf. Yr ydwyf yn pregethu dair gwaith bob Sabboth, a thair neu bedair gwaith yr wythnos heblaw hyny, mewn gwahanol fanau. Wrth hyn, chwi a welwch nad oes genyf ond ychydig o amser er difyrwch. Yr wyf yn cael hyfrydwch mawr wrth fyfyrio, ac yn gyffredin yn cael fy nghynorthwyo i bregethu yn gyhoeddus, gyda boddlonrwydd i fy meddwl fy hun, ac mor belled ag yr wyf yn deall i'r bobl, er i mi weled amser pan yr oedd mwy o arwyddion fod y gwirionedd yn effeithio er eu hiechydwriaeth."[3] Mae pob peth sydd wedi eu mynegi i ni am dano yn dangos yn eglur ei fod wedi ei gynysgaeddu a galluoedd dealldwriaethol, a chymwysderau gweinidogaethol pell uwchlaw y rhan fwyaf o'i gydoeswyr. Er fod ei edrychiad yn wylaidd, etto yr oedd gwroldeb neillduol ynddo. Yr oedd uwchlaw ofn dyn yn y pethau a dybiai yn rhwymedigaethau arno i Dduw. Ni phetrusai fynegi eu diffygion i ddynion yn eu gwynebau pan y credai eu bod i'w beio, ond gwnai hyny gyda'r fath dynerwch, fel yr argyhoeddid pawb mai am ei fod yn eu caru yr oedd yn eu ceryddu. Ond pan yn nghanol ei boblogrwydd a'i lwyddiant, a phawb yn meddwl nad oedd ond dechreu ymagor i oes o ddefnyddioldeb, nodwyd ef gan angau i ollwng ei saeth arno. Yr oedd yr haf diweddaf y bu byw wedi bod yn dymor o lafur neillduol iddo. Bu yn Llundain am rai wythnosau, a dychwelodd tua chanol mis Awst. Yr oedd yn Nhreffynon yn y gymanfa yn mis Medi yn pregethu gyda'i fywiogrwydd arferol. Yn mhen pythefnos wedi hyny, yr oedd yn Liverpool yn y cyfarfod blynyddol, yr hwn a gynhelid y pryd hwnw yn mis Hydref, ac ar ddydd Iau y 18fed dychwelodd adref. Bu mewn cyfeillach yn y Brithdir nos Wener, a chanai yn beraidd gyda'i frodyr. Nos Sadwrn ymddangosai yn fwy pruddaidd nag arferol, a dywedai wrth ei wraig, fod rhyw argraff ar ei feddwl na byddai yn hir gyda hwy, ac mai ei unig bryder oedd wrth feddwl ei gadael hi a'r plant yn amddifaid. Pregethodd y Sabboth yn Rhydymain, a dychwelodd adref fel arferol. Ond dechreuodd gwyno ddydd Mawrth, ac ni allai godi o'r gwely, yr oedd wedi meddwl pregethu ddydd Mercher, oblegid yr oedd Jubili teyrnasiad Sior III. am haner can' mlynedd, ond nis gallasai godi o'i wely, ac erbyn dydd Iau, gwelwyd ei fod dan y clefyd coch (scarlet fever), a chyn dydd boreu Sadwrn, yr oedd ei ysbryd wedi ei ollwng o'r corph a ddirdynwyd gan y clefyd, i'r wlad lle "na ddywed y preswylwyr claf ydwyf." Dydd Mawrth canlynol, dygwyd. ei gorph i'w gladdu mewn bedd newydd yn mynwent Dolgellau, gan dyrfa fawr o alarwyr dwys, y rhai a deimlant fod cymylau a thywyllwch o amgylch yr oruchwyliaeth ddygodd "Pugh o'r Brithdir" i'w fedd, cyn ei fod yn llawn ddeng-mlwydd-ar-hugain oed.
Nodiadau
golygu- ↑ Ysgrif Mr. R. Ellis, Brithdir.
- ↑ Wedi i hanes Rhydymain fyned i'r wasg, derbyniasom air oddiwrth gyfaill yn dŷwedyd fod nifer o ddynion o sir Fflint, wedi dyfod yn fwnwyr i'r gymydogaeth, tua chanol y ganrif ddiweddaf, a bod un o honynt yn aelod ac yn bregethwr perthynol i Newmarket, ac mai efe a bregethodd yno gyntaf, ac iddo ddyoddef erledigaeth dost o herwydd hyny, ac mai rhyw deiliwr yno oedd yr erlidiwr gwaethaf. Yr oedd gwraig o'r enw Ellinor Davies, yn byw ar y pryd yn Hafodwyn, ac yn aelod yn Llanuwchllyn. Nid oedd hi yn yr oedfa, oblegid fod gormod o ddwfr yn yr afon, ond yr oedd yn gallu gweled y driniaeth oedd y pregethwr yn ei gael, ac wedi marcio y teiliwr allan fel un o'r rhai ffyrnicaf yn ei erbyn. Yn fuan ar ol hyn, digwyddodd i'r teiliwr fyned i Hafod-wŷn i ofyn ychydig laeth, ac nid oedd neb ond y wraig yn y tŷ ar y pryd. Gwahoddodd ef i mewn yn garedig, ac wedi ei gael i fewn clodd y drws, a gafaelodd mewn ffon gref, a dywedodd, "Wel, yr hen was, a wyt ti yn cofio fel yr oeddit ti yn rhedeg ac yn lluchio y pregethwr? Mi dalaf i ti heddyw am hyny—mi dy wnaf di na redi di byth mwy ar ol yr un pregethwr." Dychrynodd y teiliwr trwy ei galon—canys yr oedd Ellinor Davies yn wraig rymus—ac addawodd os ca'i bardwn y tro hwnw, na wnai efe y fath beth byth mwyach. Ar yr amod hon, cafodd ddiangc y tro hwnw, heb fyned o dan ddysgyblaeth y pastwn. Nid yw ein hysbysydd yn gwybod fod yma neb arall ar y pryd yn proffesu crefydd; ac ni wnaed cynyg ar bregethu yno, hyd nes y daeth Mr. A. Tibbot i'r wlad. Yr oedd y bobl ar ei ddyfodiad cyntaf, wedi parotoi i'w erlid yntau, ond dychrynodd rhai pan welsant ei fod yn "wr cadarn nerthol," a theimlodd eraill nerth ei weinidogaeth, fel nad oedd awydd arnynt i godi llaw yn ei erbyn. Dylasem grybwyll hefyd, fod ysgoldy perthynol i Rydymain, yr hwn a elwir Soar, wedi ei godi yn agos i Ddrwsynant, a chynhelir Ysgol Sabbothol ynddo yn rheolaidd, a phregethir ynddo yn achlysurol.
- ↑ Dysgedydd, 1824. Tu dal. 357.