Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Rhydymain
← Utica | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Brithdir → |
RHYDYMAIN.
O Lanuwchllyn y seiniodd gair yr Arglwydd i'r ardal hon, a Mr. Abraham Tibbot oedd y pregethwr cyntaf a ymwelodd a'r ardal. Nid yw dyddiad ei ymweliad cyntaf wedi ei gofnodi, ac nid yw enwau y personau hyny a agorodd eu tai i dderbyn yr efengyl wedi eu trosglwyddo i ni. Mae yn amlwg y byddai amryw o'r gymydogaeth hon yn arfer cyrchu i Lanuwchllyn, yn mhell cyn dechreu pregethu yma, ond ar ol dechreu pregethu ennillwyd dysgyblion newydd yma, fel y gwelwyd yn angenrheidiol codi capel, er cael yma foddion crefyddol yn rheolaidd. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1788, a ffurfiwyd yr aelodau perthynol i Lanuwchllyn oedd yn yr ardal yn eglwys, a gweinyddid iddynt gan Mr. Tibbot, hyd ei ymadawiad a Llanuwchllyn, ac wedi hyny gan ei olynydd, Dr. George Lewis. Yn Hydref, 1802, dewiswyd Mr. Hugh Pugh, yn weinidog i'r eglwys hon, a'r eglwys oedd erbyn hyn wedi ei ffurfio yn y Brithdir, a bu yma yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn, a'i weinidogaeth yn gymeradwy gan yr holl wlad. Ond byr fu ei dymor, canys yn mhen saith mlynedd i adeg ei ordeiniad, "machludodd ei haul a hi yn ddydd," a bu farw Hydref 28ain, 1809, yn 29 oed. Dilynwyd ef yn ei faes eang gan Mr Cadwaladr Jones, o'r Deildre, Llanuwchllyn, yr hwn a urddwyd yn Nolgellau, Iau Dyrchafael, 1811. Llafuriodd Mr. Jones yma gyda diwydrwydd, a chysondeb, a llwyddiant graddol am wyth-mlynedd-ar-hugain, nes y teimlodd fod cylch ei weinidogaeth yn rhy eang iddo, ac anogodd yr eglwys yma a'r eglwys yn y Brithdir i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain, ond trefnodd ar yr un pryd, i'w olynydd yn y lleoedd hyn newid ag ef un Sabboth o bob mis, fel yr oedd datodiad yr hen gysylltiad yn esmwyth o'r ddau tu.[1] Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Hugh James, o Ddinasmawddwy, ond a fuasai am yspaid dan addysg yn Marton, sir Amwythig, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 31ain, 1839. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; gweddïwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. H. Lloyd, Towyn; pregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r eglwysi. Pragethwyd hefyd gan Meistri E. Evans, Abermaw; D. Price, Penybont; W. Roberts, Pennal; J. Parry, Machynlleth; H. Morgan, Sammah; E. Griffith, Llanegryn; T. Griffith, Rhydlydan, a J. Williams, Aberhosan.[2] Bu Mr. James yma dair blynedd, a chyfrif yr amser y bu yma cyn ei urddo, ac yr oedd yr adeg y bu yma yn adeg lewyrchus ar grefydd. Triugain ac wyth oedd rhifedi yr aelodau ar ddyfodiad Mr. James yma, a derbyniwyd ganddo driugain a naw, yn y tair blynedd y bu yma. Tynodd amryw o honynt yn ol yn fuan, ond er hyny gadawodd yr eglwys agos yn ddau cymaint ag y cafodd hi. Yr oedd gwres a brwdfrydedd yn amryw o blant y diwygiad yn Rhydymain y pryd hwnw, nas gallesid meddwl dan amgylchiadau cyffredin fod pobl sir Feirionydd yn alluog iddo. Yn Mai, 1843, symudodd Mr. James i Lansantffraid, sir Drefaldwyn, lle y mae yn parhau i lafurio hyd y dydd hwn. Yn mhen amser wedi ymadawiad Mr. James, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. John Davies, yr hwn a urddasid ychydig flynyddoedd cyn hyny yn Ceidio, sir Gaernarfon, ond gan nad oedd yr eglwys yn unol yn ei gylch, ac nad oedd yr eglwys yn y Brithdir yn cyduno i roddi galwad iddo, ni bu yma ond ychydig. Ymadawodd a'r enwad, ac unodd a'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu yn pregethu yn eu plith. Ymfudodd i America yn 1855, a bu farw yno, gan adael teulu lluosog ar ei ol. Aelod gwreiddiol o'r Drewen, sir Aberteifi ydoedd, a bu am ychydig yn athrofa Neuaddlwyd. Yr oedd yn ddyn da, ond nad oedd dim yn nodedig yn ei alluoedd meddyliol na'i ddawn fel pregethwr. Gwelodd gryn dipyn o galedfyd, ac nid oedd digon o yni yn ei natur i ymladd ystormydd bywyd.
Yn nechreu y flwyddyn 1847, derbyniodd Mr. Robert Ellis, Rhoslan, alwad gan yr eglwys hon a'r eglwysi yn y Brithdir a Llanfachreth, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yn mis Ebrill y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau yma yn ddefnyddiol a pharchus, a'r achos dan ei ofal yn ennill tir ac yn casglu nerth. Yn y flwyddyn 1868, gan fod y capel wedi myned yn hen, ac yn rhy fychan, heblaw ei fod yn anghyfaddas i'r oes, penderfynwyd codi capel newydd hardd, ac ymroddodd yr eglwys a'r ardal o ddifrif i wneyd hyny. Agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, ac erbyn mis Medi, 1870, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, er ei fod yn werth 700p. Mae llawer o hen bobl dda wedi bod yn nglyn a'r achos, y rhai y mae eu henwau yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Robert Thomas, Penybont, oedd ddyn ffyddlon a synwyrol—gwasanaethodd swydd diacon yn dda; ymfudodd ef i America. Coffeir gyda pharch am Hugh Robert a Dafydd Robert, Cefnybraich—hen gymeriad rhyfedd oedd Dafydd Robert Blinodd lawer ar ei feddwl ei hun ac ar feddyliau eraill, yn nghylch pechod Adda, ac yr oedd cadwedigaeth y Paganiaid, yn bwngc a barodd iddo lawer o boen. Gadawodd 100p. yn ei ewyllys at yr achos yn Rhydymain, llog y rhai sydd i fyned i gynorthwyo y weinidogaeth, heblaw symiau llai a adawodd at achosion eraill. Robert Edwards, Rhydymain, (tad Mr. Roberts, Coedpoeth,) oedd ddyn deallus a doniol. Arferai ddweyd am gyfeillion Rhydymain, nad oedd gwell crefyddwyr na hwy pe buasai modd cario achos crefydd yn mlaen heb arian. Am y bobl gynt y mae yn debyg y dywedai hyny, ac nid am y bobl sydd yma yn bresenol. Yn yr eglwys yma codwyd i bregethu :—
Richard Owen, Brithfryniau. Pregethwr cynorthwyol a fu efe dros ei holl fywyd.
Edward Roberts. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr. James. Bu yn athrofa y Bala, ac efe oedd y cyntaf a urddwyd oddiyno. Mae yn awr yn Coedpoeth.
Robert Edwards. Brawd i Edward Roberts. Bu yn athrofau y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn Llanymddyfri, a bu farw yn mlodeu eu ddyddiau. Ceir ei hanes yn nglyn a Llanymddyfri.