Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Corwen
← Llandrillo | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Cynwyd → |
CORWEN
Yn nechreu y flwyddyn 1827, daeth Mr Robert Ellis, Caere, (Brithdir yn awr,) at William Roberts, Brynsaint, amaethdy yn ymyl y dref, ac aethant gyda'u gilydd a chymerasant lofft yn ngwesty y Queen, dan ardreth o dair punt y flwyddyn, er dechreu achos Annibynol. Gweithredai Mr Ellis, dan gyfarwyddyd eglwys Bethel, a hwy oedd yn gyfrifol am yr ardreth. Am ddau o'r gloch y Sabboth cyntaf yn Chwefror, daeth Mr Hugh Pugh ac a bregethodd yn y lle am y waith gyntaf. Ei destyn oedd Ioan ix. 4.—" Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd tra yr ydyw hi yn ddydd." Daeth Mr John Griffith, Rhydywernen—y pryd hwnw yn ddyn ieuangc—yma gyda Mr Pugh, i ddechreu canu, a daeth yma lawer gwaith ar ol hyny i gynorthwyo yr achos. Yn mis Mawrth canlynol, daeth Mr Michael Jones yma i ffurfio eglwys, a phregethodd ar 1 Pedr iii. 13.—"A phwy a'ch dryga chwi os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda?" Saith oedd nifer yr eglwys ar ei ffurfiad; sef William a Jane Roberts, Brynsaint, a Mary, eu merch; John a Sarah Owen, Ty'nycefn; Elizabeth Williams, Llygadog, a Jane Davies, Penybryn, Corwen. Y cyntaf a dderbyniwyd yn aelod yma oedd Joseph Jones, Penybryn, yr hwn sydd etto yn aros yn ffyddlon. Gwan fu yr achos yma am flynyddau, ond deuai Mr Jones a Mr Pugh yma mor reolaidd ag y medrent, a chynorthwyid hwy gan eraill, Bu Mr Pugh am flynyddoedd yn cerdded yma yr holl ffordd o Goedybedo—pellder o ddeng milldir—bob pythefnos i gadw cyfeillach. Yr oedd y lle yr oeddynt yn cyfarfod ynddo i addoli yn anghyfleus, ond nis gallesid cael ei well, a gwnaed llawer cynyg am dir i godi capel arno, ond yn ofer, oblegid mai Toriaid ac Ucheleglwyswyr oedd yr holl berchenogion tiroedd o gylch yma. Wedi ymadawiad Mr Pugh i Mostyn, yn 1837, bu yr achos yma dan anfantais fawr, oblegid nad oedd neb yn arbenig i ofalu am dano. Yn nechreu y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr Robert Jones, o Sir Fon. Urddwyd ef Ebrill 20fed, 1840. Ar yr achlysur, traethwyd ar natur eglwys, holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Ellis, Llangwm; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gan Mr D. Price, Penybont. Pregethwyd hefyd yn y cyfarfod gan Meistri Jeremiah Jones, Llanfyllin, a John Jones, Parc, Penybont.[1] Yn y tymor byr y bu Mr Jones yma, sicrhawyd darn o dir trwy ddylanwad Mr John Jones (Glanalwen), Gibson Square, Llundain, i adeiladu capel arno. Eiddo Mr T. Lloyd, Llundain, oedd y tir, ac yn y flwyddyn 1841, cyflwynwyd ef i Meistri J. Jones, Gibson Square; J. Prichard, Corwen; H. Davies, Penlan; Joseph Jones, Corwen; R. Evans, Corwen, ac R. Evans, Derwen, fel ymddiriedolwyr. Dangosodd Mr Jones, Gibson Square, ffyddlondeb mawr yn nglyn a chodi y capel. Rhoddodd £20 ei hun ato, a'r gweithredoedd yn rhad, a bu yn casglu ato oddiar ei gyfeillion yn Llundain. Cymerodd Mr Prichard, Harp Inn, ofal yr adeiladu, a bu yn ffyddlon gyda'r capel yn mhob peth, nes gweled y geiniog olaf o'r ddyled wedi ei thalu. Ni bu Mr R. Jones yma ond ychydig, gan nad oedd yr un o'r eglwysi eraill, a arferai fod dan yr un weinidogaeth, yn uno i roddi galwad iddo. Symudodd i Ceri, Sir Drefaldwyn, cyn diwedd 1841. Yn nechreu y flwyddyn 1842, rhoddwyd galwad i Mr John Evans, yr hwn oedd wedi bod am lawer o flynyddau yn weinidog yn Beaumaris, i fod yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwysi yn Llandrillo a Chynwyd. Cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad, ac agoriad y capel newydd yr un pryd, sef Ebrill 12fed a'r 13eg, 1842; a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Pugh, Mostyn; T. Ellis, Llangwm; D. Morgan, Llanfyllin; J. Parry, Wern; D. Price, Rhos; W. Thomas, Dwygyfylchi; A. Jones, Bangor; T. Griffith, Rhydlydan; W. Roberts, Llanrhaiadr; W. Rees, Dinbych; S. Jones, Maentwrog; D. Griffith, Ruabon; H. Ellis, Llangwm, a J. Griffith, Rhydywernen.[2] Bu Mr Evans yma dros rai blynyddoedd, ac yna dychwelodd i Beaumaris, lle y treuliodd weddill ei oes. Yn y flwyddyn 1850, derbyniodd Mr Humphrey Ellis, Llangwm, alwad gan yr eglwys yma, a dechreuodd ei weinidogaeth Hydref 6ed, y flwyddyn hono, ac wedi llafurio yn ddiwyd, a chyda gradd o lwyddiant am bymtheng mlynedd, rhoddodd yr eglwysi yn Nghorwen a Chynwyd i fyny, oblegid fod cylch y weinidogaeth yn rhy eang iddo allu gofalu am dano i gyd. Rhoddodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Nghynwyd, alwad Mr John Lewis, myfyriwr o athrofa y Bala, i fod yn weinidog iddynt, ac urddwyd Gorphenaf 26ain, 1865. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Peter, Bala; holwyd y gofyniadau gan Mr I. Davies, Ruthin; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr R. Williams, Bethesda; pregethodd Mr M. D. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr H. Ellis, (eu cynweinidog,) i'r eglwysi. Bu Mr Lewis yma yn ymdrechgar hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Gymreig yn Birmingham, ac hyd yma y mae y ddeadell hon heb fugail i fwrw golwg drosti.
Heblaw y personau a grybwyllwyd eisioes, bu yma eraill yn ffyddlon gyda'r achos, llawer o ba rai a hunasant, ond y mae yma rai etto yn aros. Bu teuluoedd Penlan a'r Harp, yn gefn mawr i'r achos am flynyddau, a dangosodd Mr. J. Prichard ofal mawr, nid yn unig am y capel, ond am yr achos yn ei holl ranau; a chyda'r Ysgol Sabbothol, anaml y gwelwyd ei ragorach. Mae Joseph Jones, yr aelod cyntaf a dderbyniwyd yma'i yn aros etto, ac yn ddiacon ffyddlon, a Robert Owen, Tanycelyn, yn gydswyddog ag ef, yr hwn a dderbyniwyd yn aelod yn 1840, ac a ddewiswyd yn ddiacon yn fuan wedi hyny, ac y mae yn parhau yn flaenllaw gyda'r achos yn ei holl ranau.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
ROBERT JONES. Nid oes genym ond ychydig o'i hanes i'w roddi. Yr oedd yn enedigol o Lanfwrog, yn Sir Fon, ac yn frawd i Thomas Jones, Amlwch, a Rees Jones, dau bregethwr pur adnabyddus yn eu tymor yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Cyfieithodd Thomas Jones lawer o lyfrau yn ei oes, ac efe a gyfieithodd Esboniad Scott. Yr oedd Rees Jones yn fwy poblogaidd fel pregethwr, a bu am ysbaid yn gweinidogaethu yn nghapeli Arglwyddes Barham, yn Browyr, Morganwg, lle y bu farw yn nghanol ei ddyddiau. Nis gwyddom pa fodd, nac yn mha le, y daeth Mr. Robert Jones i gysylltiad a'r Annibynwyr, ond treuliodd lawer o flynyddoedd yn Lloegr, ac yno, fel y tybiwn, y dechreuodd bregethu. Lled ddiddawn ydoedd fel pregethwr, ond yr oedd yn ddyn gwybodus, ac wedi bod yn cadw ysgol mewn amryw fanau. Daeth i Gorwen yn nechreu y flwyddyn 1840, ac urddwyd ef yn niwedd Ebrill, y flwyddyn hono. Gwrthododd pob un' o'r eglwysi a arferai a bod dan yr un weinidogaeth, ag uno i roddi galwad iddo, ac un rheswm o leiaf am hyny, oedd y tywyllwch oedd o gylch ei hanes blaenorol. Yn Hydref, 1841, derbyniodd alwad o Ceri, gerllaw y Drefnewydd, ac aeth yno i ddechreu ei weinidogaeth, ond ar ol bod yno dros ychydig wythnosau, dychwelodd i Gorwen i ymofyn ei deulu. Pan ar ei daith gyda'i deulu yn agos i'r Nag's Head, rhwng y Trallwm a'r Drefnewydd, dymchwelodd y cerbyd, a chan fod Mr. Jones yn ddyn o gorph trwm, ysigwyd ef gymaint fel y bu farw yn mhen tridiau, (Rhagfyr 13eg, 1841). Dyoddefodd ei boen mewn hollol ymostyngiad i ewyllys yr Arglwydd. Gadawodd weddw a thri o blant amddifaid heb ddim darpariaeth ar eu cyfer.