Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llandrillo

Soar Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Corwen
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llandrillo
ar Wicipedia




LLANDRILLO

Yn y flwyddyn 1814, daeth John Jones, a'i wraig, a'i deulu o felin Frongoch, gerllaw y Bala, i fyw i felin Llandrillo. Arferent cyn symud fyned i addoli i Dy'nybont, ac ar ol eu symudiad, deuai rhai o hen aelodau Ty'nybont i'w ty i Landrillo, ar nosweithiau o'r wythnos i gynal cyfarfodydd gweddio. Ymwelai John Jones, Hafodfawr, hefyd a hwy, yr hwn yn achlysurol a bregethai iddynt. O gylch yr un amser ag y symudodd teulu y felin, daeth gwraig o Lanuwchllyn, o'r enw Elizabeth Roberts, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr, i fyw yma'i ac ar ol hyny ceid pregethu yma yn amlach. Deuai Mr M. Jones, Llanuwchllyn, a Mr J. Lewis, Bala, yma i bregethu, ac yn achlysurol deuai Dr. Arthur Jones, Bangor, i ymweled a brawd oedd ganddo yn yr ardal, a phregethai bob tro y deuai. Yn y flwyddyn 1818, cymerwyd ty gan William Fairclough i bregethu y Sabboth, a chadw ysgol ddyddiol, ac aeth Mr M. Jones, Llanuwchllyn, yn gyfrifol am ardreth y ty. Yr amser yma daeth Mr Moses Ellis - Mynyddislwyn, wedi hyny - yma i gadw ysgol, a bu yn ddefnyddiol iawn ddechreu yr achos yn y lle. Ffurfiwyd yma gangen-eglwys yn mhen blwyddyn neu ddwy wedi cymeryd y ty i bregethu, ac er nad oedd yma ond ychydig o bobl druain, dlodion, yn cychwyn yr achos, etto bu Mr M. Jones yn ffyddlon i ddyfod atynt, a chynorthwyid ef gan Meistri J. Roberts, Capelgarmon; J. Lewis, Bala; J. Jones, Bancog; J. Jones, Hafodfawr, ac eraill. Bu teulu Syrior yn garedig i'r achos, ac y mae bendith yr Arglwydd yn aros arnynt hyd heddyw. Yn y flwyddyn 1821, symudwyd yr achos i hen gapel y Methodistiaid, ac wedi bod yno dros ryw gymaint o amser, symudwyd drachefn i ystafell perthynol i'r New Inn, sef tŷ William Fairclough. Ond yn y flwyddyn 1826, cafwyd tir ar brydles o gan' mlynedd ond un, gan Mr. T. Jones, clochydd, Corwen, am £12/1/00 yn y flwyddyn o ardreth, a chyflwynwyd ef i Meistri Michael Jones, Llanuwchllyn; J. Ridge, Bala; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Trawsfynydd; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Jones, Syrior; T Jones, Braichdu; J. Jones, Penygeulan; D. Owen, Tyuchaf, a W. Jones, Penygeulan—Glynarthen, wedi hyny—fel ymddiriedolwyr. Galwyd y capel yn Hananeel. Agorwyd ef Gorphenaf 3ydd, 1827, a'r un pryd ag agoriad y capel, urddwyd Mr Hugh Pugh i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, fel y crybwyllasom yn hanes Rhydywernen. Bu Mr Pugh yma yn ymdrechgar hyd 1837, pan y symudodd i Mostyn. Nid oedd yr achos yma yn gryf, ond bu yma rai yn ffyddlon iddo yn ei wendid. Am flynyddau wedi ymadawiad Mr Pugh, ymddibynai yr eglwys ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr cynorthwyol, ond yr oedd y gofal yn benaf ar Mr Thomas Davies, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu, ac a wir ofalai am y lle. Yn nechreu y flwyddyn 1842, rhoddodd yr eglwys yma, a'r eglwysi yn Nghorwen, a Chynwyd, alwad i Mr John Evans, yr hwn am lawer o flynyddau a fuasai yn weinidog yn Beaumaris, Mon. Yr oedd Mr Evans yn oedranus pan ddaeth yma, fel nad oedd ynddo yr yni oedd yn ofynol gydag achosion newydd a gweiniaid, ond yr oedd yn barchus a chymeradwy gan bawb. Unwaith yn y mis y deuai yma, fel nad oedd yr eglwys hon yn cael fawr o'i lafur. Yn mhen ychydig flynyddoedd, rhoddodd yr eglwysi i fyny, a dychwelodd i Beaumaris, lle yr arhosodd weddill ei oes. Yn niwedd y flwyddyn 1850, rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr Humphrey Ellis, Llangwm, ac y mae efe yn parhau i lafurio yma, a'r achos yn ystod ei weinidogaeth wedi ennill tir, a chasglu nerth, fel y mae golwg siriol arno. Mae amryw bregethwyr wedi codi yma. Perthyn i'r gangen hon yr oedd William Jones, er mai yn Bethel y pregethodd gyntaf. Yma hefyd y cododd Robert Fairclough i bregethu. Ond Thomas Davies, Pentre', yw y pregethwr sydd wedi bod hwyaf yn nglyn a'r eglwys, ac wedi bod o fwyaf o wasanaeth iddi o'r un a godwyd ynddi. Mae wedi treulio ei oes yma, ac wedi pregethu llawer, nid yn unig yma, ond hefyd trwy yr holl eglwysi cylchynol. Yn ddiweddar barnodd yr eglwys yma, a gweinidogion y Sir, yn briodol ei urddo i holl waith y weinidogaeth, gan fod yma gynifer o eglwysi, ac amryw o honynt fynychaf heb neb i weini yr ordinhadau iddynt. Cymerodd ei urddiad le yma Mehefin 2il, 1870. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Ellis, M. D. Jones, Bala; J. Peter, Bala; D. Ll. Jones, Ruthin; J. Jones, Abermaw; R. P. Jones, Llanegryn; R. Ellis, Brithdir; E. A. Jones, Dolgellau; E. Williams, Dinas; E. Wynne, Soar; W. I. Richards, Abererch; T. Jones Middlesborough, a J. Williams, gweinidog i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llandrillo. Gwelodd yr achos yma wahanol dymhorau, ond y mae wedi dal ei dir, ac y mae yr achos yn fwy siriol yn awr nag y gwelwyd ef erioed. Coffeir yn barchus yma am Mr. John Petty, a'i wraig, y rhai a fuont yma am gryn dymor, ac yn llettygar i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Daeth Mr. Petty, o Cornwall, i'r Llwyn, Dolgellau, yn oruchwyliwr, ac wedi hyny bu yn amaethwr, ac yn cadw siop yma. Yr oedd wedi dysgu Cymraeg lled dda.[1] Bu yma eraill er nas gallasent wneyd llawer, etto a fuont ffyddlon yn ol eu gallu, ac nad a eu llafurus gariad yn anghof.

Nodiadau golygu

  1. Llythyr Mr T. Davies.