Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Elim, Cwmbran

Soar, Tredegar Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Victoria
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cwmbrân
ar Wicipedia




ELIM, CWMBRAN. Crybwyllasom yn hanes Penywaun, i nifer o'r eglwys hono fyned allan yn 1842, gyda'u gweinidog, Mr. Methusalem Davies, yr hyn a fu yn achlysur dechreuad yr achos yn Elim. Yn mhlith y rhai a aethant allan o Benywaun, yr oedd Mr. John Jones, St. Dials fawr, un o ddiaconiaid yr eglwys, ac amaethwr cyfrifol yn byw ar ei dir ei hun; ac yn ei dy ef yn St. Dials yr ymgynnullent i addoli; a buont yno yspaid blwyddyn. Yn 1844, adeiladwyd y capel ar dir Dr. Davies, o Bedwas, ac y mae mynwent gyfleus yn nglyn ag ef ar bryd-les o 999 o flynyddau. Costiodd y capel 350p. Bwriadwyd y capel fel lle o addoliad Saesonaeg yn hollol, ac a chyfundeb Saesonaeg sir Fynwy yr unwyd y lle. Rhyw ddwy flynedd y bu Mr. Davies yn weinidog yn y lle wedi codi y capel, ymadawodd a'r enwad ac ymunodd a'r Bedyddwyr. Nid rhyw lawer o lewyrch a fu ar yr achos yma yn ystod tymor ei weinidogaeth, ond glynai y cyfeillion yn ddiwyd a ffyddlon er pob digalondid. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi ymadawiad Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Hopkins, yr hwn oedd yn weinidog yn y Drefnewydd, Morganwg. Bu gweinidogaeth Mr. Hopkins yn dderbyniol iawn dros dymor, a gradd helaeth o lwyddiant ar ei lafur; hyd nes yr ymrwystrodd trwy fyned i adeiladu tai, ac yn eu plith cododd dy tafarn, a thrwy y cysylltiadau hyny mynychai yn ormodol leoedd o'r fath. Disgynodd yr achos dan yr amgylchiadau hyny i sefyllfa isel iawn, fel y gallesid disgwyl; ond teimlai llawer yn dyner a charedig tuag at Mr. Hopkins, am y credent mai dan ddylanwad ei wraig y gwnai yr holl bethau hyn; ond digiodd llawer wrtho, ac wrth yr achos o'i blegid, fel y gadawsant yr eglwys, ac ni ddychwelasant iddi mwy. Yn y flwyddyn 1861, cafodd yr eglwys ar ddeall fod Mr. Hopkins yn parotoi yn ddirgelaidd i fyned i'r Eglwys Sefydledig, ac wedi cael sicrwydd o hyny, rhoddwyd rhybudd iddo i ymadael, a thalwyd iddo dri mis o gyflog yn y fan; ac i'r Eglwys Wladol yr aeth, ac yno y mae yn gwasanaethu fel curad. Ar ol ei ymadawiad ef, bu yr eglwys dan ofal Mr. Jones, Machen, yr hwn a ymwelai a'r lle yn fisol i weinyddu y cymundeb; ac ar achlysuron eraill y byddai angen ei wasanaeth. Yr oedd Mr. Jones yn dderbyniol a chymeradwy iawn gan yr eglwys a'r ardalwyr. Yn 1866, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Roderick Lumley, myfyriwr o athrofa y Bala, cydsyniodd yntau a'r gwahoddiad, ac urddwyd ef Medi 5ed a'r 6ed, 1866. Yr oedd trefn gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn:—
Pregethodd Mr. H. Oliver, B.A., Casnewydd, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. J. Thomas, Tredegar (Abertawy yn awr); dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Edwards, Aberdare; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. John Peters, Bala, ac i'r eglwys gan Mr. T. L. Jones, Machen. Yr oedd hefyd yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth, y Meistri R. Hughes, Cendl; D. M. Davies, Farteg; J. Jones, Brynmawr; D. Davies, New Inn; M. Jones, Cheltenham (Farteg gynt,) ac A. Scott, Penycae. Yn y flwyddyn 1867, adgy weiriwyd y capel oll o'r tu fewn, fel y mae yn awr yn ol ei faint, yn un o'r capeli harddaf yn y sir. Bu Mr. Lumley yma dair blynedd a haner, yn barchus a chymeradwy iawn gan yr eglwys a'r gynnulleidfa, a'i lafur ar y cyfan yn lled lwyddianus. Nid oedd nifer yr aelodau pan yr aeth yno ond 46, ond pan yr ymadawodd yr oeddynt yn 70. Symudodd Mr. Lumley yn mis Mawrth y flwyddyn hon (1870), i gymeryd gofal yr eglwys yn Bwlchyffridd, gerllaw y Drefnewydd, sir Drefaldwyn. Er y bwriadwyd y capel ar y cyntaf i fod yn hollol at wasanaeth Saesonaeg, etto oblegid sefyllfa gymysglyd y gymydogaeth, y mae y gwasanaeth wedi ei ddwyn yn mlaen yn y ddwy iaith; ond yr iaith Saesonaeg sydd yn ennill tir, ac a fydd yn ol pob argoelion yn fuan wedi gwthio yr hen iaith Gymraeg yn hollol allan o'r parth yma o sir Fynwy. Mae eglwys Elim yn nodedig o haelionus a gweithgar, ac yn barod bob amser yn ol ei gallu i ymgymeryd ag unrhyw achos a osodir ger ei bron. Dywed Mr. Lumley mewn llythyr a ysgrifena atom, na bu o gwbl ond y teimladau goreu rhyngddo ef a hwy, ac nas gallodd ymadael heb lawer o hiraeth.

Ni chodwyd yr un pregethwr yn yr eglwys o gwbl; ond y mae enw Mr. John Jones, St. Dials, am yr hwn y crybwyllasom yn barod yn deilwng o goffhad parchus. Yr oedd yn ddiacon cyn gadael Penywaun, ac am flynyddoedd, efe oedd yr unig ddiacon yn Elim; a gwasanaethodd y swydd yn dda fel yr ennillodd iddo ei hun radd dda. Efe oedd prif noddwr yr achos ar y dechreu, ac ato ef yr edrychid yn mhob achos o bwys. Araf a hwyrfrydig ydoedd i symud, ond yr oedd bob amser yn ddiogel; ac er y cyfrifid ef yn ofalus a chynil, etto, yr oedd ei ewyllys at dy ei Dduw. Bu farw yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau yn mis Awst 1869.

Nodiadau

golygu