Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Ganllwyd

Llanelltyd Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Llanfachreth
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y Ganllwyd
ar Wicipedia




GANLLWYD.

Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. Hugh Pugh o'r Brithdir, yn y flwyddyn 1805, yn Llofftyfelin, sef ty Richard Roberts, y melinydd, a pharhawyd i gadw moddion yn y lle hwn am amryw flynyddau, hyd nes y cymerwyd y felin gan Mr. Robert Roberts o Ddol-y-melyn-llyn, yn lle i durnio coed. Yna cafwyd lle i bregethu ac i gadw Ysgol Sabbothol mewn hen ystafell a adeiladwyd yn weithdy gof, a bu yno Factory wlan wedi hyny. Buwyd yn cynal moddion crefyddol yn y lle hwn am amryw flynyddau heb na phulpud o un math nag eisteddleoedd ynddo. O'r diwedd teimlodd y gwr oedd yn byw yn y ty, y gwnai yn well er ei les ei hun, iddo fod yn arweinydd i ddangos y rhiadrau oedd gerllaw ar y Sabothau ac amserau eraill, a rhoddi ceffylau yr ymwelwyr i aros yn y man lle yr oeddid yn pregethu! Felly gorfodwyd ymadael a'r lle hwnw er gwaeled ydoedd, a buwyd yn cynal moddion yn y Tycerig, a lleoedd eraill yn y gymydogaeth, fel y gellid am ryw gymaint o amser. Ar ol ymadawiad yr arweinydd hwnw, cafwyd myned i'r Factory drachefn, a gwnaed yno rhyw fath o bulpud gwael ac ychydig o eisteddleoedd, ac felly cafwyd llonydd hyd nes yr adeiladwyd y capel. Ni chorpholwyd eglwys yn y Ganllwyd, hyd nes y daeth Mr. Edward Davies o'r Allt i gymeryd eu gofal fel gweinidog mewn cysylltiad a Llanelltyd a'r Cutiau, yr hyn oedd tua'r flwyddyn 1818. Ymadawodd Mr. Davies yn mhen o bedair i bum' mlynedd. Yn y flwyddyn 1822, daeth Mr. E. Davies i fyw i Drawsfynydd, a chymerodd ef ofal y lle yn benaf, a rhoddai ran o un Sabboth yma yn rheolaidd bob mis. Byddai yn arfer myned boreu y Sabboth hwnw i'r Penrhosisaf, yn ochr Llanfachreth, ac i'r Ganllwyd erbyn 2, Llanelltyd at 6, ac felly ennillwyd cryn lawer o bobl o ochr Llanfachreth, a derbyniwyd hwy yn aelodau yn y Ganllwyd. Bu yr achos yn lled isel yn y Ganllwyd, hyd yn ddiweddar. Nid oedd ganddo dy i aros ynddo, ac ar ewyllys da yr ymddibynai am le i drigo. Ymadawodd amryw o aelodau y Ganllwyd oedd yn byw yn mhlwyf Llanfachreth, pan godwyd Capel yn y lle olaf. Breuddwydiwyd llawer am le i godi capel yn y Ganllwyd, ond nid oedd ond gobaith gwan am lwyddiant. Ond yn ddisymwth ac annisgwyliadwy cafodd Mr. John Jones o'r Tynewydd, ddarn o dir gan Arglwydd Kenyon, mewn lle cyfleus ar fin y ffordd o Ddolgellau i Drawsfynydd, i wneyd capel a mynwent, am y pris rhesymol o 10p. Talodd am y lle gan gwbl fwriadu iddo fod yn feddiant i'r Annibynwyr. Teimlodd Mr. John Jones ei hun yn gwanhau, a bod angau yn dechreu tynu ei babell bridd i lawr, a dangosodd le yn nghongl y darn tir ydoedd wedi ei brynu, a dywedodd, "Cleddwch fi yn y fan yma." Bu farw yn fuan ar ol hyn, a chladdwyd ef yn y lle a ddangosasai yn ol ei ddymuniad. Yr oedd hyn cyn cau y tir i fewn na gwneyd un parotoad at adeiladu. Gan i Mr. Jones farw cyn gwneyd cyflwyniad o'r lle i'r dyben a fwriedid, a chan na feddyliodd grybwyll dim yn nghylch y lle yn ei ewyllys, yr oedd yn disgyn yn etifeddiaeth i nai o fab brawd iddo, yr hwn oedd yn cartrefu yn yr America. Ofnid unwaith y collasid y tir wedi ei gael, neu o leiaf y buasai yn rhaid talu llawer mwy na'r pris gwreiddiol am dano, ond trwy gyfryngiad goruchwyliwr Arglwydd Kenyon, gwnaed pob peth yn ddiogel.[1]

Yn y flwyddyn 1857, cauwyd y darn tir i fewn, ac adeiladwyd capel hardd a chyfleus iawn ar y lle, ei fai mwyaf ydyw ei fod yn rhy fychan. Dangosodd trigolion yr ardal ffyddlondeb mawr tuag at yr achos, fel y talwyd am y cwbl, heb fyned bron ddim allan o'r gymydogaeth.

Yn niwedd 1869, unodd yr eglwys hon a Llanelltyd a Llanfacheth, i roddi galwad i Mr. Robert Thomas, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad. Bu yma lawer o bobl weithgar gyda chrefydd, ac yr oedd John Jones, Tynewydd, yn arbenig, yn gedrwydden gref yn mynydd Duw yn y Ganllwyd; a theimlwyd colled fawr pan y cwympwyd ef gan angau.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys yma y personau canlynol:—

Richard Roberts. Dechreuodd bregethu yn fuan wedi cychwyniad yr achos yma. Symudodd i fyw i Lanuwchllyn ac oddiyno i Lanbrynmair, lle y dibenodd ei yrfa.

Thomas B. Morris. Bu yn athrofa y Bala, urddwyd ef yn Rhosllanerchrugog. Symudodd i'r Rhyl, ond ni bu yn hir yn yr un o'r ddau le. Ymunodd a'r Bedyddwyr, ac aeth i America, ac y mae yno yn bresenol yn golygu newyddiadur Cymreig. Adnabyddir ef fel Gwyneddfardd.

Richard Williams. Aeth i'r America, a bu farw yno.

Nicholas Parry. Bu farw yn ieuangc, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf Trawsfynydd.

Mae golwg siriol a llewyrchus ar yr achos yn y Ganllwyd, ac y mae yn ymddangos yn well nag y gwelwyd ef erioed o'r blaen.

Nodiadau

golygu
  1. Llythyr Mr. E. Davies, Trawsfynydd.