Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llanelltyd
← Tabor | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Ganllwyd → |
Llanelltyd
Mae yn debygol mai Mr. Hugh Pugh, o'r Brithdir, a ddechreuodd bregethu yn Llanelltyd, tua'r flwyddyn 1802. Cafwyd tŷ o'r enw Penygarnedd yn y pentref uchod, dan ardreth flynyddol i bregethu ynddo. Cyfaddaswyd y tŷ trwy wneyd ynddo bulpud, bwrdd, ac eisteddleoedd, a pharhaodd felly hyd o fewn ychydig o flynyddoedd yn ol. Yr oedd Mr. Pugh yn ddyn hawddgar iawn, o ran corph ac yspryd—yn meddu ar lais mwynaidd a thoddedig yn dduwinydd clir a goleuedig, ac yn llawn iawn o hyawdledd; fel, rhwng y cwbl, yr oedd yn hynod o gymeradwy a derbyniol. Bu yn dra llafurus ac ymdrechgar tra y parhaodd ei dymor byr, a diameu, pe cawsai fyw, y buasai yn un o'r gweinidogion mwyaf poblogaidd yn Nghymru; ond torwyd ef i lawr yn flodeuyn prydferth, pan nad oedd ond megis yn ymagor.[1] Ffurfiwyd yr eglwys Annibynol yn Llanelltyd yn y flwyddyn 1802, a derbyniwyd yno ychydig o aelodau, ond y mae yr aelodau cyntefig wedi meirw oll er's llawer dydd. Yma y derbyniwyd Mr. E. Davies, Trawsfynydd, yn aelod, yn 1808, ac efe ydyw yr aelod hynaf sydd yn fyw a dderbyniwyd i eglwys Penygarnedd. Yn fuan ar ol corpholi yr eglwys yn Llanelltyd, dechreuodd Mr. Pugh bregethu yn y Ganllwyd, a'r Cutiau, a derbyniwyd aelodau o'r manau hyny yn Llanelltyd, a byddai yr holl aelodau o'r Cutiau a'r Ganllwyd yn arfer a dyfod yma bob mis i gymundeb, dros amryw flynyddoedd. Bu yr aelodau oddiyma am dymor ar ol cael capel yn Nolgellau yn myned i'r dref i gymundeb; ond parheid i bregethu yma fel o'r blaen, ac ystyrient eu hunain fel rhan o'r eglwys yn Nolgellau. Tua'r flwyddyn 1818, cydunodd y cyfeillion yn Llanelltyd mewn cysylltiad a'r Cutiau a'r Ganllwyd i roddi gwahoddiad unfrydol i Mr. Edward Davies, o'r Allt-tafolog, fel ei gelwid, i gymeryd eu gofal fel gweinidog, a chydsyniodd yntau a'u cais, a bu yma am o bedair i bum' mlynedd, nes yr ymadawodd i sir Drefaldwyn. Yn amser Mr. Davies, sefydlwyd yr eglwys Annibynol yn y Ganllwyd. Ar ol ymadawiad Mr. Davies, byddai Mr. C. Jones, Dolgellau yn ymweled a'r eglwys yn Llanelltyd unwaith yn y mis, a pharhaodd felly hyd ei farwolaeth. Yn y flwyddyn 1822, daeth Mr. E. Davies i fyw i Drawsfynydd, a chan fod ganddo un Sabboth o bob mis yn rhydd, dymunodd y cyfeillion yn y Ganllwyd a Llanelltyd am iddo roddi y Sabboth hwnw iddynt hwy, ac felly y bu, a pharhaodd i wneyd hyn am yspaid o saith-mlynedd-a-deugain, yn lled ddigoll, hyd ddechreu y flwyddyn 1870. Gwelwyd yn angenrheidiol i helaethu ac adgyweirio yr hen Addoldy yma. Gollyngwyd y tŷ oedd wrth ei dalcen yr un ffordd a'r capel, gwnaed ffenestri newyddion, a'r cwbl oddifewn yn newydd, yn nghydag oriel ar un pen. Y mae yn awr yn addoldy cyfleus, hardd, a chysurus. Costiodd yr ad gyweiriad tua 110p., ac y mae 100p. wedi ei dalu. Yn niwedd 1869, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Thomas, myfyriwr yn athrofa y Bala, i ddyfod yn weinidog yma, mewn cysylltiad a'r Ganllwyd a Llanfachreth, a chydsyniodd yntau a'u cais. Dymunodd yr eglwysi ar Mr. Davies, yr hen weinidog, i ysgrifenu yr alwad, a gwnaeth yntau hyny, a phregethodd yn y tri lle yr un Sabboth, er mwyn i'r holl aelodau gael cyfle i arwyddo yr alwad. Yn yr wythnos gyntaf yn 1870, cadwyd cyfarfod yn Llanelltyd i neillduo Mr. Robert Thomas yn gyflawn i waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Peter, o'r Bala; holwyd y gweinidog gan Mr. I. Thomas, Towyn; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Thomas, Bangor; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Edwards, Aberdare; ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Mae lle bychan yn perthyn i Lanelltyd, rhyngddo a'r Abermaw, lle y pregethir yn achlysurol, a elwir y Borthewynog. Mae Mr. Thomas a'r eglwysi yn ymddwyn yn serchog a charedigol iawn tuag at eu gilydd hyd yma, a gobeithio y parhant felly, ac yr estynir i Mr. Thomas oes hir, ddedwydd a llwyddianus[2]. Rhoddodd un Cadben Williams, lôg 400p. i Meistri C. Jones, Dolgellau, ac E. Davies, Trawsfynydd, dros eu bywyd, am weinidogaethu yn Llanelltyd; ond dewisodd mab Cadben Williams dalu y 400p. i fyny, ac y maent wedi eu rhoddi i ymddiriedolwyr; ac y mae eu llôg i'w dalu i weinidog Llanelltyd o oes i oes.