Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Jerusalem, Coed-Duon
← Mount Pleasant, Pontypool | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Goldcliff → |
JERUSALEM, COED-DUON.
Dechreuwyd yr achos hwn, fel y crybwyllasom yn hanes Penmain, o
herwydd fod mwyafrif yr eglwys hono am ymwrthod a'u gweinidog, Mr.
John Jones, a bod lleiafrif yn glynu wrtho. Aeth pleidwyr Mr. Jones
allan gydag ef, a chychwynasant achos newydd mewn amaethdy a elwir
y Berthlwyd. Corpholwyd yno eglwys ar yr 22ain o Ragfyr 1839, cynwysedig o 52 o aelodau. Yr oedd y Meistriaid E. Rowlands, Pontypool,
a D. Davies, Penywaun, yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth gyda Mr. Jones ar ffurfiad yr eglwys. Adeiladwyd y capel yn 1840,
yr hwn a gostiodd 370p. Ni fu Mr. Jones yn hir wedi hyn yn yr ardal.
Symudodd i'r Casnewydd; ond deuai i fynu Sul neu ddau o bob mis hyd
nes iddo symud o'r Casnewydd i Loegr. Urddwyd Mr. George Lewis, un
o'r aelodau, yn gynorthwywr iddo yn y Coed-duon. Wedi i Mr. Jones
roddi gofal yr eglwys i fyny yn hollol, rhoddwyd galwad i Mr. William
Davies, Talybont, Ceredigion. Bu ef yma am oddeutu tair blynedd, yna
rhoddodd ei le i fyny er myned yn offeiriad yn yr Eglwys Wladol.
Bu un Isaac Francis yma am dymor ar ol hyny, ac yntau hefyd a
ymadawodd heb hiraeth am dano. Ar ei ol ef bu Mr. John Morgan
Thomas, Glynnedd, yn gweinidogaethu yma, mewn cysylltiad a Thabor,
am oddeutu blwyddyn a haner. Rhoddodd yntau y lle i fynu ar ei
ymfudiad i'r America, yn 1849. O'r pryd hwnw hyd 1852, bu yr
eglwys yn ymddibynu ar weinidogaeth Mr. George Lewis, yn nghyd
ag ymweliadau achlysurol gweinidogion a phregethwyr dieithr. Ar
y 7fed a'r 8fed o Ebrill, 1857, urddwyd Mr. John Thomas, o athrofa
Aberhonddu. Yr oedd trefn gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn:—
Y nos gyntaf, dechreuwyd gan Mr. M. Jones, Varteg, a phregethodd
y Meistriaid R. Parry, Abercarn; D. Richards, Llanelli, Brycheiniog;
ac E. Watkins, Llangattwg. Am 10 yr ail ddydd, dechreuwyd gan Mr. E.
Rowlands, Pontypool; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Edwards,
Aberdare; holwyd y gofyniadau gan Mr. G. Lewis; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. M. Ellis, Mynyddislwyn; pregethwyd ar ddyledswydd y
gweinidog gan Mr. N. Stephens, Sirhowy, ac ar ddyledswydd yr eglwys
gan Mr. T. Rees, Cendl. Yn y prydnawn a'r hwyr, pregethwyd gan y
Meistriaid Thomas, Towyn; Daniel, Pontypool; Jenkins, Salem, a Jones,
Treforis. Bu Mr. Thomas yn weithiwr difefl yma hyd y flwyddyn 1864,
pryd y symudodd i'r Wern, sir Ddinbych, lle y mae etto. Dilynwyd Mr.
Thomas gan Mr. D. Edwards, o athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd
yma, Awst laf a'r 2il, 1866. Yr ydym yn deall fod Mr. Edwards ar
roddi ei ofal i fyny, a symud i Pilton Green a Park Mill, Browyr. Nid
oes ond gobaith gwan y gwelir byth achos cryf yn Jerusalem, o herwydd
fod yr ardal yn gymharol denau o drigolion, yr iaith Saesonaeg yn enill
tir yn gyflym trwy yr holl fro, y capel mewn man hynod o anghyfleus, a
dau achos parchus o'r un enwad, sef Penmain a Mynyddislwyn o bob tu
iddo. Dichon y gallai y lle fod o lawer mwy o wasanaeth pe y troid ef
yn achos Saesonig.