Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llanuwchllyn
← Tynybont | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Dinasmawddwy → |
LLANUWCHLLYN.
Yn y flwyddyn 1737, yr ydym yn cael Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, yn y Bala, yn gwrando Mr. Lewis Rees, o Lanbrynmair, yn pregethu. Nis gwyddom pa beth a'i harweiniodd yno. A oedd yn digwydd bod yn y dref eisioes, ac iddo yn ddamweiniol droi i mewn i wrando beth oedd gan y pregethwr i ddyweyd, ai ynte a aeth efe yno yn ei unswydd, gan ewyllysio clywed y dyn. Nid oes neb a all ateb yr ymholion hyn, a gwaith ofer yw i ninau geisio dyfalu. Beth bynag, yr ydym yn cael Meurig Dafydd yn yr oedfa, ac oedfa nodedig iddo ef ydoedd, canys dygwyd ef ynddi i adnabod ei gyflwr, a'r drefn i'w gadw trwy y Gwaredwr. Ar y diwedd, gwahoddodd Mr. Rees i bregethu i'r Weirglawdd-y-gilfach, a'r hyn y cydsyniodd, ac ar yr amser apwyntiedig, daeth yn ol ei addewid. Yr oedd Meurig Dafydd, fel Cornelius, o'r blaen wedi bod yn ddiwyd yn gwahodd ei gymydogion a'i geraint i'w dŷ erbyn yr oedfa, a phan ddaeth Mr. Rees yno, cafodd gynnulleidfa luosog yn ddisgwyl. Ond y mae yr olwg arnynt yn ddyeithr iddo. Mae pob un, gwryw a benyw, a'i hosan yn ei law, ac yn brysur yn gwau, yn ol arfer y wlad. Eisteddai Mr. Rees wrth y tân i ddisgwyl amser dechreu, a thaflai ei lygaid ar ei ddarpar wrandawyr yn awr ac eilwaith, er gweled a oedd dim tebyg iddynt i roddi heibio, ond ni welai un arwydd. O'r diwedd, cododd i fyny, ac agorodd y Bibl yn araf, gan ddisgwyl y buasai hyny yn arwydd iddynt i roddi heibio, ond nid oedd dim yn tycio. Dechreuodd ddarllen, a thaflai gil ei lygaid arnynt, ond yr oedd eu dwylaw yn brysur gyda'r gweill. Gwnaeth rai nodiadau, gan dybied y buasai hyny yn galw eu sylw, ond pa faint bynag o sylw a dalai eu llygaid a'u clustiau, ni lonyddai eu dwylaw. Penderfynodd droi at Dduw mewn gweddi, a'r olwg ddiweddaf a gafodd cyn cau ei lygaid oedd, pob un yn ddiwyd yn gwau ei hosan. Ond wedi dechreu gweddio, cafodd nerth gyda Duw, fel yr anghofiodd hwy yn fuan. Deallodd wrth yr ocheneidiau a glywai fod Duw yn wir yn y lle, a phan yr agorodd ei lygaid ar ddiwedd y weddi, gwelai bob hosan a gweill wedi syrthio i'r llawr fel "taenfa rhwydau," a phob gwyneb wedi ei wlychu gan ddagrau. Dyna yr oedfa gyntaf erioed, hyd y mae genym sicrwydd, gan yr Ymneillduwyr yn mhlwyf Llanuwchllyn. Wedi bod yno drachefn ar Sabboth, ar gais Meurig Dafydd a'r bobl, anogodd Mr. Rees, Meurig Dafydd i gofrestru ei dŷ i bregethu, fel y byddai yn ddiogel dan nawdd y gyfraith rhag pob ymosodiad. Ond teimlai Meurig Dafydd yn ddigalon i wneyd hyny, rhag na chawsai bregethwr iddo ar ol ei drwyddedu, a dywedai "pe gwyddwn y cawn i bregeth unwaith yn y flwyddyn mi wnawn." Addawodd Mr. Rees y rhoddai fwy na hyny—y deuai yno unwaith bob tri mis. Llonodd Meurig Dafydd yn fawr pan glywodd hyny, a thrwyddedodd ei dŷ, a chafwyd addoliad rheolaidd yno o hyny allan, a ffurfiwyd yno eglwys yn fuan. Mae Weirglawdd-y-gilfach mewn cwm anghysbell, rhwng Llanuwchllyn a chyfeiriad Dinasmawddwy, yn nghesail Aran Benllyn, ac yma yn benaf y cyfarfyddai y gynnulleidfa, hyd nes yr adeiladwyd y capel. Buwyd yn addoli hefyd yn Nantydeiliau, lle yr oedd un o'r aelodau, o'r enw Dafydd Stephen, yn byw; ac am ddwy neu dair blynedd cyn codi y capel, addolid
yno bob yn ail a Gweirglawdd-y-gilfach. Rhoddwyd galwad gan yr eglwys, pan yn Weirglawdd-y-gilfach, i un Mr. Thomas Evans, i fod yn weinidog. Gwr o'r Deheudir ydoedd. Gelwid ef Mr. Evans, Talardd, oblegid iddo briodi a chwaer Mr. Thomas Owen, Talardd, amaethwr, a thirfeddianwr cyfrifol oedd yn byw yn ymyl Weirglawdd-y-gilfach, ac ymddengys i Mr. Evans fod yn byw ac yn cadw ysgol yn Talardd. Nid oes genym sicrwydd pa bryd y daeth Mr. Evans yma, ond yr oedd yma yn 1744, canys yr oedd y flwyddyn hono yn derbyn arian o drysorfa y Presbyteriaid, a bu yma beth bynag hyd 1757, canys yr ydym yn cael ei enw y flwyddyn hono hefyd, yn derbyn o'r un drysorfa, fel gweinidog Llanuwchllyn. Y mae yn eglur, gan hyny, ei fod ef yma cyn codi y capel, ac mai yn yspaid ei weinidogaeth ef y bu hyny. Wedi i'r eglwys gynyddu yn Weirglawdd-y-gilfach, a bod llawer o'r aelodau yn byw i lawr yn ngwaelod y plwyf, penderfynwyd fod yn well cael capel mewn rhyw le canolog, fel y gallai yr holl frawdoliaeth gydymgynnull i fwynhau cymdeithas eu gilydd. Gosodwyd ar Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach, a Thomas Cadwaladr, i fyned at Dafydd Stephen, Nantydeiliau, i geisio lle i'w godi ar ei dir ef. Llwyddasant yn eu hamcan, a chodwyd yno gapel cyfleus i'r gynnulleidfa[1] Dyddiad y weithred gyntaf ydyw 1745, ond y flwyddyn ganlynol, fel yr ymddengys, y codwyd y capel. Arferai boneddwr o Loegr, Mr. Twanley, gwr duwiol, selog, a haelfrydig o Kidderminster, ymweled a Llanuwchllyn a'r amgylchoedd, ar adeg ffeiriau i brynu anifeiliaid. Wrth weled amddifadrwydd yr ardal o le addoliad, rhoddodd bob cefnogaeth i'r cyfeillion yn y lle i godi capel. Cyfranodd ei hun, a chasglodd oddiar eraill er eu cynorthwyo.[2] Bu Mr. Evans yma tua phymtheng mlynedd, ac ymadawodd oddiyma i Ddinbych, o gylch y flwyddyn 1758. Y flwyddyn ganlynol, daeth Mr. Evan Williams, yma, o'r Brychgoed, sir Frycheiniog, lle yr oedd wedi ei urddo er's mwy na chwe' blynedd cyn hyny. Gofalai am y gangen yn y Bala hefyd, ond oblegid gwaeledd ei iechyd, nis gallasai fyned yno ond yn achlysurol. Llafuriodd yma hyd tua'r flwyddyn 1767, daeth Mr. Benjamin Evans ar daith i'r Gogledd, ar gais Mr. Lewis Rees, Mynyddbach, ac wedi iddo ymweled a Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gael boddlonrwydd ynddo, cymhellasant ef i aros gyda hwy. Cydsyniodd a'u cais, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1769. Bu Mr. Evans yn nodedig o lafurus fel gweinidog, ac â'i holl egni ymroddodd i wneyd gwaith efengylwr. Torodd y tu allan i gylch uniongyrchol ei weinidogaeth yn fwy nag un o'i ragflaenoriaid, ac yn ol yr adroddiad a roddir gan Mr. Josiah Thompson, yr oedd cynnulleidfa Llanuwchllyn, neu y rhai y pregethai Mr. Evans iddynt mewn gwahanol fanau yn 1773, yn rhifo 600 o eneidiau. Teimlai fod y tarth oer a gyfodai oddiar Lyn Tegid yn effeithio yn anffafriol ar ei gyfansoddiad, ac er siomedigaeth fawr i'r eglwys a'r ardal, ymadawodd yn 1777, i'r Green, Hwlffordd, ac oddiyno i'r Drewen, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Evans, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Davies, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Abergavenny, ac urddwyd ef yma yn weinidog. Rhy brin bedair blynedd y bu yn y weinidogaeth, oblegid rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd defnyddiol, ar yr 28ain o Ebrill, 1781.[3] Ar ol marwolaeth Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Abraham Tibbot. Nis gwyddom pa mor fuan ar ol marw Mr. Davies y daeth ef yma, ond yr oedd yma yn 1785, a bu yma hyd 1792. Yr oedd Mr. Tibbot yn ddyn o gorph cryf, ac yn bregethwr poblogaidd, ond ei fod i raddau yn esgeulus a diofal yn ei arferion, a dygodd hyny ef, a phobl ei ofal, i helbul fwy nag unwaith. Bu yn Llundain dros eglwys Llanuwchllyn yn casglu, ac nid ymddengys iddo ddychwelyd a llawer o arian gydag ef, a pharodd hyny ddiflasdod mawr rhwng yr eglwys ac yntau. Dygwyd ei achos ger bron cyfarfod o weinidogion yn y Bala, yn 1794; a phenodwyd ar Meistri Benjamin Jones, Pwllheli, a George Lewis, Caernarfon, i fyned i Lanuwchllyn i chwilio yr amgylchiadau, ac y mae y penderfyniad y daeth Mr. Jones, a Mr. Lewis, a'r eglwys iddo, yn awr ger ein bron, yr hwn a anfonwyd at y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, gan fod y cynorthwy arferol wedi ei atal oddiwrth Mr. Tibbot y flwyddyn flaenorol. Ystyrient fod ei ymddygiad yn feiadwy, ond nad oedd yr eglwys yn Llanuwchllyn yn priodoli y diffyg yn ei gyfrifon i egwyddor anonest, ond yn unig i afrad annoeth ar ei amser yn Llundain, a diffyg cynildeb priodol wrth gasglu; a chan fod Mr. Tibbot yn cydnabod hyn, yn gystal ag anmherffeithderau eraill yn ei ymddygiad tra yn weinidog i'r eglwys, y maent yn ei gymeradwyo i dynerwch rheolwyr y Drysorfa, mewn gobaith y bydd i'r treialon tymion a gafodd er hyny, gael eu sancteiddio iddo er rhagflaenu dim cyffelyb yn ol llaw. Mor onest onide, ac etto mor garedig, yr oedd yr hen bobl dda hyn yn trin eu gilydd, ac yn cyflawni yr ymddiriedaeth a roddid ynddynt. Ymadawodd Mr. Tibbot i sir Fon, lle y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes; ac er ei fod yn mhell o bod yn berffaith, etto, yr oedd yn ddyn a gerid yn fawr gan bawb, a chyfrifai y rhai a'i hadwaenai ef oreu, yn gristion trwyadl.
Yn y flwyddyn 1794, cydsyniodd Mr. George Lewis, Caernarfon, a gwahoddiad yr eglwys, a dechreuodd ei weinidogaeth yma. Yr oedd wedi derbyn galwad yn flaenorol, ond oblegid fod ei fryd ar fyned i'r America, gwrthododd ei derbyn, ond pan roddodd y bwriad hwnw i fyny, fel y crybwyllasom eisioes yn ei hanes, derbyniodd alwad yr eglwys yma i lafurio ynddi, a bu yma yn athraw a dysgawdwr i'r holl bobl, am yn agos i ddeunaw mlynedd. Dr. Lewis, o bawb a fu yma, a osododd fwyaf o'i ddelw ar y wlad. Magwyd tô o ddynion dan ei weinidogaeth na welir eu cyffelyb ond anfynych mewn cymydogaeth. Yr oedd y merched fel y meibion, yn talu sylw manwl i byngciau Duwinyddol, ac o'r ddau, y merched a ragorai. Cedyrn oeddynt yn yr Ysgrythyrau, ac ar "fwyd cryf" athrawiaeth gras yr ymborthent. Dichon na wnaeth Dr. Lewis, gymaint ag a allasai i eangu terfynau yr achos. Yr oedd ei syniad o bosibl yn wahanol i'r rhan fwyaf ar hyny. Ystyriai ef fod cael eglwys ddeallgar yn mhethau yr efengyl, ac o fywyd sanctaidd, o fwy pwys na chael eglwys luosog arwynebol; ac yr oedd ganddo y fath hyder diderfyn yn y gwirionedd, y dygai farn i fuddugoliaeth yn y pen draw, fel na fynai ei wthio ar neb, ac yr oedd yn anrhaethol uwchlaw pob peth tebyg i broselitio dynion at grefydd. Athraw ydoedd yn hytrach nag efengylwr, ac ymhyfrydai yn fwy mewn porthi y rhai oedd dan ei ofal mewn gwybodaeth a deall, nag mewn tori tir newydd, a phregethu yr efengyl lle nid enwid Crist. Torodd diwygiad grymus allan yn yr eglwys tua'r flwyddyn 1809, pryd yr ychwanegwyd tua dau gant at yr eglwys. Yr oedd rhywbeth anghyffredin ynnglyn ag ef. Syrthiai dynion yn gelaneddau meirwon heb un rhybudd, fel pe buasai angel marwolaeth ag asgell ei adenydd wedi cyffwrdd a hwy. Dygid y rhai a drywenid felly allan, gan eu gosod o'r neilldu, nes iddynt ddadebru, ac nid cynt nag y deuant atynt eu hunain, yr ocheneidient am drugaredd, neu y torent allan mewn gorfoledd, gan fawrhau yr Arglwydd. Er mai a deall a chydwybodau dynion yr ymwnai Dr. Lewis yn benaf, etto, yr oedd efe "yn ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd," fel y medrai dywallt balm i glwyfau yr archolledig dan argyhoeddiad, a "llefaru gair mewn pryd wrth y diffygiol." Yr oedd dynes unwaith yn y cyflwr hwn o wasgfa, a gwaeddai yn ddolefus mewn cyfyngder, "yr enaid a becho, hwnw fydd marw, ac ni fynai ei chysuro, gan y rhai oedd o'i deutu. "Yr enaid a becho, hwnw fydd marw," oedd ei dolef barhaus. Cododd y Doctor o'r diwedd, fel meistr y gynnulleidfa, a dywedodd fel un ag awdurdod ganddo. "Dyweded rhyw un wrth y ddynes yna, bobl, 'yr enaid a greto, hwnw fydd byw.'" Lliniarodd hyny loesion y druanes, gwelodd ddrws ymwared, a bu tawelwch mawr. ystod arosiad Dr. Lewis yn Llanuwchllyn, ailadeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn dŷ eang a helaeth, ac yr oedd wedi codi tŷ cyfleus yn nglyn a'r capel, fel un wedi penderfynu byw a marw yn y lle. Ond yn niwedd y flwyddyn 1811, derbyniodd wahoddiad o Wrecsam i fod yn weinidog yno, ac oddiwrth y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain i fod yn athraw yr athrofa, a chydsyniodd a'r cymhelliad, gan adael Llanuwchllyn, lle у llafuriasai am dymor hir gyda'r fath gysur iddo ei hun a boddlonrwydd i'r holl eglwys.
Wedi bod am rai blynyddau heb weinidog, yn y flwyddyn 1814, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Michael Jones, myfyriwr o'r athrofa yn Wrecsam, ac urddwyd ef yn gyhoeddus i gyflawn waith y weinidogaeth ar y 10fed o Hydref, y flwyddyn hono. Ymroddodd Mr. Jones yn egniol i gyflawni ei weinidogaeth gyda ffyddlondeb difwlch, a gwelodd raddau dymunol o lwyddiant ar ei lafur. Ond yn raddol dechreuodd pethau newid, troes yr hin, oerodd yr awyr, duodd y ffurfafen, a thorodd tymestl fawr ar Mr. Jones a'r eglwys yn mhen o gylch saith mlynedd wedi ei sefydliad. Mae yr amgylchiadau blinion a gyfarfu yr eglwys hon yn gyfryw, fel na byddai yn deg ynom fyned o'r tu arall heibio heb gyfeirio atynt. Pe na buasai ond cweryl personol, neu ddadl ar fater dibwys wedi arwain i an-nghydfod, aethem heibio yn unig gyda chrybwyll fod y fath beth wedi bod, ond gan fod y dadleuon Duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn y cyfnod hwnw wedi eu dwyn i bwynt yma, ac mai Llanuwchllyn wnaed yn faes yr ymladdfa, y mae mwy na chrybwylliad am dano yn ofynol. Gan nas gallasai ein gwybodaeth o'r amgylchiadau fod ond yn anmherffaith, llwyddasom i gael gan gyfaill cwbl gydnabyddus a'r holl amgylchiadau, a pherffaith alluog at y gorchwyl, i roddi i ni grynodeb o'r helyntion o'r dechreu i'r diwedd.[4] Er fod ein cyfaill wedi ei ddwyn i fyny o dan weinidogaeth Mr. Michael Jones, ac yn meddu y cydymdeimlad llawnaf a'i olygiadau Duwinyddol, a'i dad yn Dduwinydd craff o'r un ysgol, etto, gwelir nad yw yn gaeth gan ddallbleidiaeth, i'r hyn oedd yn ddiffygiol yn Mr. Jones, a'i fod yn alluog i ganfod yr hyn oedd ragorol, yn yr hen bobl fel eu gelwid.
"Wrth geisio chwilio i'r achosion a ddygasant oddiamgylch y fath gyfnewidiadau dinystriol, dylid bod yn ystyriol, yn bwyllus, ac yn ddiragfarn tuag at y ddwy blaid. Cafodd Jonathan Edwards dywydd gerwin, am dymor, yn Northampton, Lloegr Newydd; ond yr oedd tywydd tymhestlog Mr. Jones, yn Llanuwchllyn, yn arwach, ffyrnicach, a hwy ei barhad na hwnw. Barnai llawer fod yr holl fai ar Mr. Jones, a barnai llawer eraill fod yr holl fai ar y gynnulleidfa, er hyny, digon tebyg fod y gwirionedd yn gorwedd yn y canol, rhwng pob eithafion. Yr oedd Mr. Michael Jones, yn ŵr mawr, cadarn, yn yr Ysgrythyrau, cryf ei feddwl, eang ei amgyffredion, manwl a threiddiol o ran ei wybodaeth Dduwinyddol a philosophaidd. Yr oedd yn hollol ddifrycheulyd o ran ei nodweddiad moesol. Ni chynygiodd neb erioed ei gyhuddo o anfoesoldeb. Yr oedd yn ddyn o dduwioldeb dwfn a diamheuol. Yr oedd llawer hefyd o'i bleidwyr yn yr eglwys yn bobl ddeallus, nodedig felly, ac lân a difrycheulyd o ran eu bucheddau. O'r ochr arall, yr oedd llawer o'r blaid wrthwynebol i Mr. Jones, er yn amddifaid o syniadau eang, a philosophaidd ar byngciau crefydd, yn ysgrythyrwyr rhagorol, ac yn dra chydnabyddus â syniadau eu hathraw blaenorol, yr hybarch Dr. Lewis. Yr oedd yn eu mysg lawer o bobl onest a duwiol, yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Gwrthwynebent olygiadau Duwinyddol Mr. Jones o gydwybod. Gwadu hynyna fyddai cario pethau i eithafion, ac amlygu rhagfarn a chulni meddwl hollol anheilwng o hanesydd teg a gonest.
Ond er fod Mr. Jones yn un o'r dynion goreu, a manylaf a fagodd Cymru yn yr oes hono, etto, nid ydym yn honi ei fod ef, mwy na dynion eraill, yn rhydd oddiwrth fan wendidau; a mwy na thebygol ydyw, fod rhai pethau ynddo ef, yn cydweithio a phethau eraill yn y gynnulleidfa, i ddwyn oddiamgylch y rhwygiad a gymerodd le yn Llanuwchllyn. Buasai y weinidogaeth yn yr Hen Gapel, fel yn y rhan fwyaf o leoedd eraill, er ys llawer o flynyddoedd yn aros yn benaf ar athrawiaeth gras, yn ei gwahanol ganghenau, gan esgeuluso yn ormodol, fe allai, y pethau a berthynant i Lywodraeth Foesol Duw, a rhwymedigaethau a dyledswyddau dynion, fel creaduriaid rhesymol a chyfrifol i'r llywodraeth hono. Wedi ei sefydliad yn yr ardal, troes Mr. Jones, dros lawer o flynyddau, holl nerth ei weinidogaeth i osod allan hawliau Duw fel llywydd, ac i gymell ei wrandawyr i gyflawni eu dyledswyddau fel deiliaid cyfrifol deddf ac efengyl. Traethodd lawer o syniadau cryfion ar bob peth perthynol i Lywodraeth Foesol, Natur Rhinwedd a Natur Pechod, Gallu Naturiol a Gallu Moesol, Anallu dyn yn gyson a'i Rwymedigaethau, a llawer o byngciau eraill cyffelyb. Chwalai au-noddfeydd dynion yn ddarnau o'u cylch, a malai eu hesgusodion yn llwch. Gallai ei fod wedi aros ar yr hwyaf ar yr ochr yna i Dduwinyddiaeth, heb ddwyn yr ochr gyferbyniol ond anfynych i olwg ei wrandawyr, a gwyr pawb mai cwm oer iawn i fyw ynddo am lawer o flynyddoedd, heb braidd ddyfod allan o hono, ydyw tir gallu dyn a'i ddyledswyddau, er fod yn anhebgorol angenrheidiol i weinidog yr efengyl osod y pethau hyny yn ffyddlon ac yn fynych o flaen ei wrandawyr. Yr oedd pregethu o'r natur a nodwyd, am lawer o flynyddoedd, i bobl oeddynt yn Galfiniaid go dynion, fel oedd y nifer amlaf o wrandawyr Mr. Jones, yn disgyn braidd yn oer ac annymunol ar eu clustiau. Heblaw hyny, yr oedd amryw o'r termau a arferai Mr. Jones wrth egluro ei olygiadau, yn anghymeradwy yn eu golwg, a chwynent eu bod yn ddyeithr ac yn dywyll iddynt. Heblaw hyny, yr oedd Mr. Jones yn amddifad o ddawn i ddenu ei wrandawyr. Ni allai eu toddi i ffurf ei feddwl ei hun. Ni feddai nemawr o gydymdeimlad a phobl ddifeddwl a diymdrech i ddeall logic y pethau a wrandawent. Ni welid byth wên ar ei wyneb yn yr areithfa. Gwênai pobl ddeallus weithiau wrth ei wrandaw, ond nerth a chysondeb ei athrawiaeth a barai iddynt hwy wênu, ac nid dim yn ei agwedd na'i lais, na'i ddull o osod ei feddwl allan. Yr oedd yn berffaith feistr ar wawdiaeth, a diferai ymadroddion brwmstanaidd yn aml dros ei wefusau. Nid oedd dyn mwy deallus nag ef yn Nghymru. Nid oedd na Roberts, o Lanbrynmair, na Jones, o Ddolgellau, na Williams, o'r Wern, ychwaith, er cymaint a glodforir arno, yn gyfartal i Mr. Jones, o Lanuwchllyn, yn nerth eu meddyliau, ac nid oedd yr un o honynt yn gyfartal iddo mewn deall philosophyddiaeth trefn iachawdwriaeth, a Llywodraeth Foesol Duw, ond rhagorai amryw o'i frodyr arno mewn medrusrwydd i osod y gwirionedd allan yn y modd egluraf, a mwyaf deniadol. Yr oedd ef yn gryf fel castell, ond yr oedd yn amddifad o'r mwyneidd-dra sydd yn angenrheidiol i gyfarfod gwrthwynebwyr er diarfogi eu rhagfarn. Yr ydoedd hefyd yn rhy dyn ac yn rhy benderfynol, fe allai, am ei ffordd mewn pethau o ychydig bwys. Cymerwn olwg fer etto ar ansawdd pethau yn mysg gwrthwynebwyr Mr. Jones. Yr oedd yn eu plith rai a anghymeradwyent yr ymdrechion egniol a wnai efe o blaid yr Ysgol Sabbothol. Golygent ei fod yn codi y sefydliad hwnw yn rhy uchel, ac yn rhoddi gormod o bwys arno. Rhyw ffordd respectable o dori y Sabboth, yn ol eu barn hwy, oedd cadw Ysgol Sabbothol, a thaflent lawer o rwystrau ar ffordd ei chynydd a'i llwyddiant. Gwyddys hefyd fod rhai yn eu mysg yn anffafriol i weinidogaeth sefydlog yr efengyl. Rhyw ddrwg angenrheidiol (necessary evil), rhywbeth i'w goddef, am na ellid bod hebddi, oedd y weinidogaeth yn ol eu golygiad hwy. Yr oedd amryw o'r blaenoriaid wedi cael blas ar awdurdod, yn enwedig ar ol ymadawiad Dr. Lewis, a golygai yr henuriaid llywodraethol mai ganddynt hwy yr oedd yr hawl i ofalu am yr athrawiaeth a'r ddysgyblaeth yn nhŷ Dduw, ac mai cadeirydd eu cyfarfodydd yn unig, oedd y gweinidog i fod. Arferent droi ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig allan o'r capel, tra fyddid yn ymddiddan yn eu cylch, a throseddwyr, yr un modd, yna gollyngid hwy i mewn ar ddiwedd y cyfarfod i glywed dedfryd yr eglwys ar eu materion. Gwrthwynebai Mr. Jones yr arfer hono yn hollol. Yr oedd presenoldeb gwr ieuangc gwrol, penderfynol, ac anhyblyg fel y gweinidog, yn boenus i ymgeiswyr am awdurdod yn yr Hen Gapel, a thybient ei fod ef yn myned a mwy na'i ran o lywodraeth yr eglwys. Y pryd hwnw, hefyd, yr oedd y ddau wr mwyaf deallus yn y gynnulleidfa dan gerydd eglwysig, oblegid rhyw amgylchiadau bydol y buasai ganddynt law ynddynt, ac felly collodd yr eglwys, a'r gweinidog hefyd, eu dylanwad cryf hwy, yn yr adeg yr oedd mwyaf o angen am dano, i roi ataliad ar rwysg dynion hunangeisiol. Ond teg yw dywedyd fod y dosbarth lluosocaf o wrthwynebwyr Mr. Jones, yn sefyll yn ei erbyn yn benderfynol am eu bod credu yn gydwybodol ei fod yn cyfeiliorni mewn barn, ac yn gwyro oddiwrth y gwirionedd "fel y mae yn yr Iesu." Ni allent weled fod y termau a arferai efe yn Ysgrythyrol. Credent nad oedd ei olygiadau ar bechod—sef mai diffyg ydyw yn ei natur, ac yn arbenigol, Pechod Gwreiddiol yn gyson a'r pethau a ddywedir yn y Bibl am bechod. Barnent nas gall dyn fod mewn sefyllfa o brawf, ac mewn cyflwr o gondemniad ar yr un pryd. Credent fod dyn yn farw ryw fodd, fel pren neu faen, ac nas gall wneyd dim ond pechu, hyd nes y cyfnewidir ef trwy ras. Pan geisid dangos fod dau fath o anallu, sef, un naturiol ac un moesol, cyfarfyddent hyny â'r geiriau, "Ni ddichon—nis gall chwaith—nis gallant ryngu bodd Duw," a'r cyffelyb. Cyfyngent yr Iawn i gylch eglwys Dduw, ac ni allent weled fod amcan yn y byd yn deilwng o aberth Crist, ond gweithredol gadwedigaeth dynion a gogoniant Duw yn hyny. Esbonient yr ymadroddion eang sydd yn y Bibl am farwolaeth Crist, megis pawb, pob dyn, yr holl fyd, am yr Iuddewon a'r cenedloedd, a thyrfaoedd mawrion o blith y ddau ddosbarth. Gan mai yr eglwys yn unig a gedwir yn y pen draw, ni allent hwy weled nad yr eglwys yn unig yw y rhai y bu Crist farw drostynt; a dywedent fod y rhai a ddalient fod Crist yn aberth dros holl ddynolryw, yn rhwym o ddal hefyd, fod llawer o werth gwaed Crist yn myned i uffern yn barhaus. Yr oedd golygiad rhy fasnachol ar yr lawn wedi eu niweidio a'u hanghymwyso i drin y mater yn deg. Barnent fod Mr. Jones yn Arminiad, pryd mewn gwirionedd Calfiniad cymhedrol, cryf, ydoedd ef. Yr oedd yn y dosbarth hwn o wrthwynebwyr Mr. Jones, lawer o bobl dda a chrefyddol, ac y maent yn hawlio ein cydymdeimlad a'n parch yn ei diffuant. Nid ydym yn meddwl fod holl wrthwynebwyr Mr. Jones wrthsefyll ar y tir cydwybodol a nodir uchod, ond yr oedd llawer, a'r lleill yn eu dilyn oddiar amrywiol amcanion, fel y lled awgrymwyd eisioes. Ond taflwyd pob peth arall dros y bwrdd, a chyhuddwyd Mr. Jones o gyfeiliornad mewn barn, a bu dadleuon dychrynllyd drwy yr holl wlad. Yr oedd yr anedd-dai, y gweithdai, y tafarndai, y ffyrdd, y meusydd, a'r mynyddoedd, yn faesydd brwydrau poethion am hirfaith dymor, ac yr oedd crefydd seml y Bibl yn gorfod gostwng ei phen, a gwladeiddio ger bron yr ymrysonwyr brwdfrydig. Er mai golygiadau Duwinyddol Mr. Jones a broffesid gan bawb oll, fel yr unig achos o'u gwrthwynebiad iddo, un dosbarth oedd yn onest yn y broffes hono. Am amryw o flaenoriaid y cynwrf, pethau eraill oedd yn eu symbylu hwy yn mlaen. Cawsent hwy hyd i'w level pan ddaeth Mr. Jones i'r ardal, ac ymdrechent yn egniol ennill eu hen safleoedd yn ol. Yr oedd blaenor y terfysgwyr yn ddyn pwyllog, hirben, a chyfrwys dros ben, ac yn gymwys iawn i flaenori ei blaid. Wedi blino yr oedd ef mewn gwirionedd ar Mr. Jones, fel dyn, ac fel gweinidog, a rhai eraill o gryn ddylanwad heblaw ef. Esgus oedd yr athrawiaeth gan y gwyr hyny. Safodd Mr. Jones fel derwen gadarn yn nghanol y dymestl. Ni symudai fodfedd o'i sefyllfan er yr holl ruthro a fu arno. Yr oedd rhyw fawredd —ac ardderchawgrwydd naturiol a moesol ynddo yn ei holl brofedigaethau. Addfedodd pethau yn raddol, ac ymddangosai ymraniad eglwysig fel yn anocheladwy. Ond cyn cyrhaeddyd y pwynt galarus hwnw, cydunwyd i gael cyfarfod o weinidogion yr enwad i geisio heddychu y pleidiau. Penodwyd gan y ddwy blaid i wahodd y gweinidogion canlynol i fod yn ddyddwyr rhwng yr ymrysonwyr; sef Meistri W. Hughes, Dinas; J. Roberts, Llanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth; W. Williams, Wern; R. Everett, Dinbych; T. Jones, Moelfro; J. Lewis, Bala; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Trawsfynydd, ac E. Davies, Cutiau. Daeth y gwyr uchod i'r Hen Gapel ar ddydd-gwaith, Rhagfyr 5ed, 1821. Cyfarfu yr holl eglwys ar yr achlysur. Dygwyd pob cyhuddiad a ellid ddwyn yn erbyn Mr. Jones, fel cyfeiliornwr, yn mlaen gan yr wrthblaid; ac amddiffynodd Mr. Jones ei hun, a dangosodd yn eglur ei fod ef yr un o ran ei olygiadau Duwinyddol y pryd hwnw ag oedd ef pan ddaethai gyntaf i Lanuwchllyn. Gwnaed ymdrech egniol gan y gweinidogion i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ond bu y cyfan yn ofer. Gwelid yn eglur bellach nad oedd dim i'w wneuthur ond wynebu amgylchiadau gofidus ymraniad eglwysig. Daeth y dydd oddiamgylch. Ar foreu Sabboth cymundeb—ordinhad sydd mewn modd neillduol yn gosod allan undeb Cristionogion â Christ, ac â'u gilydd y cymerodd y rhwygiad le. Gallesid darllen ar wynebau llawer yn y gynnulleidfa y bore hwnw, fod rhywbeth mawr a phwysig i gymeryd lle. Pregethodd Mr. Jones fel arferol, a daeth i lawr o'r areithfa at y bwrdd i weinyddu yr ordinhad. Ond cyn iddo ddechreu ar y gwasanaeth hwnw, cyfododd blaenor yr wrthblaid i fyny a chyhoeddodd, "ei fod ef a'r blaid oedd yn anghytuno ag athrawiaeth Mr. Jones, yn ymneillduo oddiwrtho ef a'i bleidwyr." Yna aeth ef a'i blaid i oriel yr addoldy, tra fu y rhan arall o'r eglwys gyda y gweinidog, yn cyfranogi ar y llawr o Swpper yr Arglwydd. Hysbysodd Mr. Jones mewn oedfa ddilynol y dydd hwnw, fod y rhai a ymneillduasent yn y boreu, wedi tori eu perthynas a'r eglwys yn yr Hen Gapel, ac nad oedd iddynt fel y cyfryw, na rhan na chyfran o freintiau yr eglwys yn y lle. Tra y triniai pobl anystyriol y mater dan chwerthin a thaeru ar hyd y gymydogaeth, ni welid gwên ar wyneb neb ystyriol am wythnosau wedi hyn. Yr oedd prudd-der wedi llenwi pawb o honynt. Gwnaed cynyg arall gan weinidogion yr enwad i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ond yn ofer. Wedi bod am ychydig yn addoli yn yr Hen Gapel ar Sabbothau a benodasid iddynt, a blino ar hyny, ymadawodd yr ymranwyr o'r capel yn gwbl, a chyfarfyddent a'u gilydd mewn ystafell eang yn mhentref Llanuwchllyn. Ond nid oedd fawr neb o weinidogion na phregethwyr yr Annibynwyr a aent atynt i bregethu ac i weinyddu yr ordinhadau. Yn fuan cyfododd gwyr o'u plith hwy eu hunain i bregethu iddynt—dynion o nodwedd rhagorol oeddynt hefyd—a bu amryw o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yn gweinyddu yr ordinhad o Swpper yr Arglwydd yn eu plith. Parhaodd pethau yn yr agwedd uchod am dymor, ond cyn hir dechreuodd yr "hen bobl," fel eu gelwid, feddwl am fyned â'r capel oddiar Mr. Jones a'i blaid. Gwasanaethwyd ef yn y flwyddyn 1823, ag ysgrifwys, i sefyll prawf ar yr achos yn mrawdlys swydd Feirionydd. Methodd yr "hen bobl" yn eu hamcan y tro hwnw oblegid diffyg yn y dystiolaeth. Gwasanaethwyd Mr. Jones drachefn, yr un modd ac i'r un amcan ddwy waith yn y flwyddyn 1824, ac o'r diwedd, drwy ryw ystranciau cyfreithiol, nad oedd Mr. Jones a'i blaid yn alluog ar y pryd i'w cyfarfod, ennillwyd y capel oddiarnynt a throwyd hwy allan o hono, ac aeth yr hen bobl i'r Hen Gapel yn ol yn fuddugoliaethwyr. Wedi hyny bu Mr. Jones a'i gynnulleidfa yn addoli mewn ysgubor a berthynai iddo ef, ac mewn tai ac ysgoldai ar hyd y gymydogaeth. Ond gwenodd y nefoedd arnynt a bendithiwyd eu llafur. Ychydig a ennillodd yr "hen bobl" drwy ennill y capel, oblegid nid oedd neb yn mron a bregethai iddynt ynddo. Sefydlodd un Owen Jones, o'r diwedd, yn weinidog arnynt, ond ni fu fawr o fendith arno ef na hwythau. Felly, megis wedi eu gwrthod gan nefoedd a daear, daethant i feddwl mai y peth goreu a allent wneyd oedd ymuno a'r gynnulleidfa oedd dan ofal Mr. Jones, a'i wahodd ef a hwythau atynt i'r Hen Gapel. Dyna symudiad doeth o'r diwedd. Cymerodd undeb rhwng y pleidiau le y pryd hwnw, sydd yn parhau etto. Bu Mr. Michael Jones yn gweinidogaethu i'r gynnulleidfa unedig am rai blynyddoedd, yna ymadawodd & hwynt, a threuliodd weddill ei oes yn gweinyddu yn Tŷ'nybont a'r Bala, Bethel, a lleoedd eraill islaw y Bala. Meddwl yr ydym mai oddeutu y flwyddyn 1839, y cymerodd yr undeb le rhwng y ddwy blaid ryfelgar yn Llanuwchllyn. Meddyliodd llawer y buasai yn well i Mr. Jones adael Llanuwchllyn cyn i bethau addfedu i ymraniad, ond nid oedd gweinidogion callaf Gogledd Cymru yn barnu felly ar y pryd. Nid oedd Mr. Jones ei hun yn barnu hyny. Nid ydym ninau yn awr yn meddwl mai ymadael a ddylasai, ond sefyll ei dir fel y gwnaeth, a gorchfygu yn y diwedd. Collodd lawer o arian yn yr helyntion a aethant drosto, ond beth yw arian mewn cydmariaeth i egwyddorion? Mae y rhan fwyaf o'r ddwy blaid erbyn heddyw yn y nefoedd, a'r ymrafaelion wedi eu llyngcu i fyny gan dangnefedd diddiwedd.
Nid yw y nodiadau blaenorol ond talfyriad o'r hanes. Gwyddom fod llawer peth wedi ei adael heibio, ond gallwn brofi yr hyn a ddywedasom, ac yr ydym yn weddol gydnabyddus a manylion helbulon Llanuwchllyn. Michael Jones oedd y dyn llawnaf, cryfaf, perffeithiaf, a gyfarfuom ni erioed. Pa ddiffygion bynag a berthynent iddo, yn ngolwg rhai, yr ydym ni yn golygu nad oedd dim llawer rhyngddo ef a pherffeithrwydd. Ac nid oedd llawer o'r gwyr a gyfrifid yn fawr yn Ngogledd a Deheudir Cymru, ond cyffredin yn ei ymyl ef. Gwyddom fod llawer o'r blaid wrthwynebol iddo hefyd yn bobl wir dda, gallem brofi hyny, pe byddai yn angenrheidiol. Gwell genym ni bobl Llanuwchllyn yn nghanol eu hymrafaelion yn nghylch pyngciau crefydd, na phobl na waeth ganddynt beth a gredant, ac a chwarddant am ben pob barn—pobl heb farn yn y byd."
Wedi yr eglurhad llawn a diduedd uchod o'r amgylchiadau, diangen—rhaid i ni ychwanegu dim. Ar ddychweliad Mr. Jones i'r Hen Gapel, cynhaliwyd cyfarfod yn Llanuwchllyn, ac fel hyn y ceir ei hanes yn y Dysgedydd am Rhagfyr, 1839. "Ar y 29ain a'r 30ain o Hydref, cynhaliwyd cyfarfod gweinidogion yn hen addoldy yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn. Wedi yr hir ymrysonau rhwng yr aelodau perthynol i'r lle hwn, cytunasant a'u gilydd mor belled ag i'r Parch. M. Jones fod yn weinidog y lle, ac i bawb a ewyllysio o'r cyfeillion a gyfarfyddent yn y capel yn flaenorol fod mewn undeb a chynnulleidfa Mr. Jones; ar yr achlysur yma, cadwyd yma gyfarfod yn y drefn ganlynol:—Y nos gyntaf, dechreuwyd gan Mr. S. Jones, a phregethodd y brodyr W. Roberts o Bennal, ac H. James, Brithdir. Boreu dranoeth, dechreuwyd gan y brawd Roberts, a phregethodd y brawd Jones o Ddolgellau, ar ddyledswydd ei hen gyfaill Mr. M. Jones, a'r brawd Pugh o Fostyn, ar ddyledswydd diaconiaid yr eglwys, a'r brawd Rees o Ddinbych, ar ddyledswydd yr eglwys, yna gweddiwyd gan dri o'r gweinidogion gwyddfodol, un dros y gweinidog, un dros y diaconiaid, ac un dros yr eglwys. Am 2 o'r gloch, dechreuwyd gan y brawd Williams o Aberhosan, a phregethodd y brawd J. Roberts o Lanbrynmair, ar yr Ysgol Sabbothol, a'r brawd Price o Penybont, i'r gwrandawyr yn unig, yna gweddiodd dau eraill o'r brodyr, un dros yr ysgol a'r llall dros y gwrandawyr. Am 6 o'r gloch, dechreuwyd gan y brawd Parry o Fachynlleth, a phregethodd y brodyr Williams o Aberhosan, a Morgans o Sama; yna traddodwyd areithiau gan y brodyr Hughes o Dreffynon; Parry o Fachynlleth; Griffiths, Rhydlydan, a Jones o Ruthin, ar y materion a ymddangosai iddynt yn fwyaf rheidiol, a therfynwyd y cyfarfod gydag arwyddion o frawdgarwch a sirioldeb mawr."
Bu Mr. Jones yn llafurio yn Llanuwchllyn ar ol ei ddychweliad i'r Hen Gapel, am bedair blynedd, hyd yn nechreu 1843, pryd y rhoddodd yr eglwys i fyny, ac y cymerodd ofal yr eglwysi yn y Bala a Thy'nybont.
Wedi bod am flynyddau heb weinidog, rhoddodd yr eglwys yma yn niwedd y flwyddyn 1846, alwad i Mr. Thomas Roberts, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Ebrill 7fed a'r 8fed, 1847. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. Jones, Bala; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Rees, Liverpool, ac i'r eglwys gan Mr. E. Davies, athraw yr athrofa yn Aberhonddu. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri J. Davies, Llanelli; N. Stephens, Sirhowy; J. Williams, Aberhosan; J. Roberts, Llanbrynmair; T. Pierce, Liverpool; D. Price, Dinbych, ac R. Williams, gweinidog i'r Methodistiaid yn Llanuwchllyn.[5] Bu Mr. Roberts yma yn gymeradwy hyd ddechreu y flwyddyn 1856, pryd y symudodd i New Market, sir Fflint. Yn y flwyddyn 1858, rhoddwyd galwad i Mr. Rees Thomas, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Awst 18fed a'r 19eg, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar nátur eglwys gan Mr. E. Williams, Dinasmawddwy; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; gweddiodd Mr. C. Jones, Dolgellau; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. E. C. Jenkins, Rhymni, ac i'r eglwys gan Mr. T. Rees, Cendl. Cymerwyd rhan yn y gwahanol oedfaon gan Meistri R. Ellis, Brithdir; T. Davies, Llanelli; H. Ellis, Corwen, ac R. Thomas, Bangor.[6] Mae Mr. Thomas yn parhau i lafurio yma hyd yr awr hon, a'r achos ar y cyfan mewn gwedd lwyddianus. Mae amryw ganghenau yn perthyn i'r hen gyff yn yr Hen Gapel, lle y cynhelir Ysgolion Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, a phregethu yn achlysurol, ac y mae ysgoldai wedi eu codi, y rhai a elwir Carmel, Peniel, a Sion. Mae Carmel yn nghyfeiriad Trawsfynydd o'r Hen Gapel, a Peniel ar ochr y ffordd sydd yn arwain i Ddolgellau, ac y mae Sion yn agos i Weirglawdd-y-gilfach, lle y dechreuwyd pregethu yn y plwyf. Mae yr eglwys yn awr wedi tynu yr Hen Gapel i lawr, ac ar ganol adeiladu capel eang a chyfleus, gwerth mwy na 1000p., a bydd yn barod i'w agor cyn diwedd yr haf hwn, (1871,) ac y mae yr haelioni y mae yr eglwys a'r gynulleidfa wedi ei ddangos yn ei adeiladiad yn profi fod eu "hewyllys tua thŷ eu Duw."
Megis y crybwyllasom eisioes, y mae yma luaws o bersonau nodedig wedi bod yn nglyn a'r eglwys o bryd i bryd. Nid oes enwau ond ychydig o honynt wedi treiglo hyd atom ni, ond sonir gyda pharch am Meurig Dafydd, yr hwn a agorodd ei dŷ i'r efengyl—am Ellis Thomas, Tymawr, yr hwn oedd enwog am ei graffder a'i ddeall—am Sion William, Tanybryn, a Thomas Cadwaladr o'r Wern, y rhai a ddyoddefasant bwys y dydd a'r gwres—ac am Rowland Vaughan, tad Mrs. Thomas, Bangor, yr hwn y teimlai Dr. Lewis, nad oedd ganddo "neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofalai" am yr achos yn y lle. Bu yma hefyd o'r dechreuad nifer o wragedd na welid eu cyffelyb ond anfynych. Yr oedd yma dair chwaer, merched yr hen Evan Sion Nicholas, Tymawr, Cwm-pen-nant-lliw, am y rhai yr arferai Mr. B. Evans o'r Drewen ddyweyd, pe buasai y tair yn un, y cawsid y grefydd buraf a chyflawnaf a allesid gael tu yma i'r nefoedd. Am athrawiaeth iachus y gofalai un—am ddysgyblaeth bur y gofalai y llall—ac am brofiad melus y gofalai y drydedd. Merched i un o honynt oedd Jane Howell ac Elizabeth Davies, Tymawr; dwy chwaer, er yn hollol wahanol yn eu tymer a'u hysbryd, oeddynt yn deall ffordd Duw yn fanylach" nac odid neb a ddeuai i'r un fan a hwy, ac nid yn ddianaf y diangai y neb a feiddiai anturio i ddadl a hwy ar unrhyw gangen o'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Yr oedd yma lawer eraill o gyffelyb feddwl, er na chyrhaeddasant eu henwogrwydd hwy, ac y mae eu henwau yn barchus a'u coffadwriaeth yn fendigedig.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—
William Evans. Ganwyd ef yn y Bala yn mis Mai, 1773. Yr oedd ei rieni Evan a Jane Evans, yn bobl grefyddol, a'u tŷ yn gyrchfa gweinidogion y dyddiau hyny. Dangosodd duedd at bregethu pan yn ieuangc, a chafodd bob cefnogaeth i hyny. Bu dan addysg yn Llanuwchllyn dan ofal Mr. A. Tibbot, ac yn yr adeg hono y derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn yr Hen Gapel. Talodd sylw pan yn ieuangc i lenyddiaeth a barddoniaeth Gymreig, a gwnaeth y fath gynydd fel llenor, fel y dewiswyd ef pan yn 14 oed yn gydfeirniad a Robert Huws, bardd oedranus, mewn rhyw eisteddfod oedd gan y beirdd yn y Bala. Yn y flwyddyn 1790, y dechreuodd bregethu, ac yn Ionawr y flwyddyn ganlynol, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Nghroesoswallt, dan ofal Dr. E. Williams. Wedi treulio pedair blynedd yn yr athrofa, aeth i ryw le yn agos i Stafford, lle y bu dros dair blynedd. Aaeth oddiyno i Bridgnorth, lle yr urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, ac oddi yno symudodd yn Medi, 1803, i Stockport, lle y treuliodd weddill ei oes yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn. Yr oedd yn ddyn o dalentau dysglaer—o gymeriad diargyhoedd—ac o weithgarwch diflino. Ond byr fu ei dymor! Dyoddefodd yn llym oddiwrth beswch blin a diffyg anadl, ac ar y 29ain o Fedi, 1814, cariodd angau y trechaf arno; ond buddugoliaethodd ei brofiad ar ddychrynfeydd marwolaeth, a bu farw yn orfoleddus yn anterth ei ddydd, yn 42 oed.
Robert Roberts. Pregethwr cynorthwyol a fu ef yn yr eglwys trwy ei oes. Preswyliai yn Tyddyny felin, heb fod yn mhell o'r capel. Un o'r dynion callaf a mwyaf gwybodus fel gwladwr yn ei oes. Ymgynghorid ag ef fel oracl ar bob achos dyrus, ac yr oedd ei eiriau ef yn wastad pan lefarai yn ymadrodd doethineb. Pregethodd lawer yn sir Feirionydd ac yn sir Drefaldwyn, a bu llaw ganddo yn ffurfiad llawer o achosion newyddion; ac yr oedd yn wastad yn dderbyniol a chymeradwy yn mhob man.
Yr ydym yn cael ei fod ef yn gweini i'r eglwys yn Llanuwchllyn, yn y cyfwng wedi symudiad Mr. Tibbot, cyn dyfodiad Dr. Lewis, a bu fyw hyd yn agos i ddiwedd oes weinidogaethol Mr. Michael Jones yno. Fel gwr o gyngor y gwerthfawrogid ef yn benaf, a rhoddid y fath bwys ar ei farn, fel ar ol iddo lefaru ni chyfodai neb. Arferai Dr. Lewis ddyweyd, y buasai yn rhoddi cymaint o bwys ar ei farn a neb a adwaenai, pe gallasai fod yn sicr ei fod yn dyweyd ei feddwl. Yr oedd yn llawn ffraethder, a dywedai eiriau cyrhaeddgar pan y meddyliai fod eu hangen. Pan ddywedodd Dr. Lewis wrtho unwaith, ei fod yn myned i wneyd llyfr chwe'cheiniog, ar ddyfodiad pechod i'r byd. Felly yn siwr," meddai yntau yn bur ddi-gynwrf, "yr wyf yn meddwl yn siwr y byddai yn well i chwi ei wneyd yn llyfr swllt, a dyweyd yn ei ddiwedd sut i'w gael o'r byd." Daeth dyn ieuangc o'r athrofa i Dyddynyfelin unwaith, ac er dangos ei fod yn ysgolhaig, dechreuodd siarad a'r forwyn, yr hon oedd eneth ddiwybod, am y ser a'r planedau, eu maint a'u pellder, nes synu y llangces. Ac meddai wrth ei meistr "peth mawr ydi meddu gwybodaeth." "Ie," meddai yntau, "a pheth go fawr ydyw gwybod pa le i'w ddangos." Yr oedd mewn cyfeillach grefyddol unwaith, a gofynodd y gweinidog iddo, "Beth sydd ar eich meddwl chwi 'nawr Robert Roberts?" "Does dim llawer o ddim ar fy meddwl i." "Oes, 'rwy'n coelio fod rhywbeth ar eich meddwl chwi 'nawr." "Wel ofni cryn lawer ar fy nghyflwr yr wyf fi," ebe Robert Roberts. Ho, felly," ebe y gweinidog, "yr oeddwn i yn meddwl eich bod chwi yn mhellach yn mlaen 'nawr na hynyna, oblegid y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn." "Ydyw," ebe yntau gyda phwyslais, "ydyw, yn bwrw allan, yn bwrw allan, ond y mae heb orphen ei waith etto." Cyfarfu a chryn lawer o ystormydd yn ei amgylchiadau yn mlynyddoedd olaf ei fywyd, ond daliodd ei ymddiried yn ddiysgog yn ei Dduw. Bu farw tua'r flwyddyn 1839 neu 1840, wedi cyrhaedd oedran teg.
David Jones. Urddwyd ef yn Nhreffynon, lle y treuliodd ei oes, a daw ei hanes dan ein sylw yn nglyn a'r eglwys yno.
John Jones. Adnabyddid ef fel John Jones, Afonfechan, a symudodd wedi hyny i Hafodfawr. Ceir ei enw yn aml yn nglyn a llawer o'r eglwysi yn sir Feirionydd a sir Drefaldwyn. Yr oedd yn bregethwr defnyddiol a chymeradwy. Pregethai yn fisol yn Llanuwchllyn am dymor maith. Ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd yn niwedd ei oes, o achos y terfysg a'r ymraniad a gymerodd le yn yr Hen Gapel.
Robert Lloyd, Plasmadog, a fu am yspaid yn bregethwr cymeradwy yn yr eglwys.
John Lewis. Yr ydym eisioes wedi gwneyd byr grybwylliad am dano ef yn nglyn a'r Bala, lle yr urddwyd ef.
Rowland Roberts, Penrhiwdwrch. Dechreuodd bregethu yr un pryd a John Lewis.
Cadwaladr Jones. Derbyniodd ei addysg yn yr athrofa yn Ngwrecsam, ac urddwyd ef yn Nolgellau, lle y treuliodd ei oes hir, a daw ei hanes yno dan ein sylw.
David Davies, Bryncaled, a fu yn yr eglwys yn bregethwr defnyddiol a chymeradwy.
John Jones, Tŷ'nywern, a bregethai yn aml. Yr oedd yn clywed yn drwm—aeth y train llechi ar ei draws ar y ffordd haiarn gerllaw Tanygrisiau, Ffestiniog, ac achosodd hyny ei farwolaeth yn sydyn. Wedi bod yn pregethu yn yr ardal hono yr oedd, ac wrth ymadael a'r lle cyfarfu a'i angeu.
John Evans. Dechreuodd bregethu yn 1819, a bu farw yn 1856, ac yr oedd yn dra adnabyddus fel pregethwr cymeradwy. Yr oedd yn frawd i Dr. Ellis Evans, gweinidog i'r Bedyddwyr yn Cefnmawr.
Michael Daniel Jones. Mab yr hybarch Michael Jones. Derbyniodd ei addysg yn athrofau Caerfyrddin, a Highbury, Llundain, ac y mae yn awr yn athraw yn athrofa y Bala.
Ellis Thomas Davies. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Llansantsior, a Moelfra, ac Abergele, lle y mae yn aros etto.
John Williams. Addysgwyd ef yn athrofa Airedale, ac y mae yn awr yn weinidog yn Penistone, ger Sheffield.
John Meirion Ellis. Mab Mr. R. Ellis, Brithdir. Bu yma yn cadw ysgol, ac yn yr adeg hono y dechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn Llanarmon, ond bu farw yn ieuangc. Bydd genym air yn mhellach am dano pan ddeuwn at eglwys Llanarmon.
Lewis Jones. Bu yn athrofa y Bala, wedi hyny yn mhrif ysgol Glasgow, ac urddwyd ef yn Nhŷ'nycoed, sir Frycheiniog, lle y mae yn bresenol. Robert Jones. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Nelson, Morganwg, ac yno y mae etto.
Nid ydym yn sicr a ydyw y rhestr uchod yn gyflawn, ond y mae y gyflawnať a allasem gael er chwilio llawer mewn trefn i'w gwneyd i fyny. Gwyddom fod amryw eraill o weinidogion a phregethwyr yr ymffrostia Llanuwchllyn ynddynt fel ei phlant, megis Ellis Howell, Morris Roberts, Remsen; Robert Thomas, Bangor; Llewelyn Howell, Utica; Cadwaladr Evans, ac amryw; eraill, ond rhaid i ni eu cysylltu hwy a'r eglwysi y dechreuasant bregothu ynddynt, er mai brodorion Llanuwchllyn ydynt.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
Ni bu ond un gweinidog farw mewn cysylltiad a'r eglwys yn Llanuwchllyn, o ganlyniad, nid oes genym gofnodiad bywgraphyddol i'w wneyd ond am yr un hwnw. Yr ydym wedi crybwyll eisioes am Meistri Evan Williams a Michael Jones, mewn cysylltiad a'r Bala, ac am Dr. Lewis, mewn cysylltiad a'r Drefnewydd, a daw Mr. Thomas Evans, etto dan sylw yn nglyn a Dinbych, a Mr. Benjamin Evans, yn nglyn a'r Drewen, a Mr. Abraham Tibbot, pan ddeuwn at eglwysi Mon.
THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn Nghwm-cleger-nant, Llanbrynmair, yn y flwyddyn 1751. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn ieuangc iawn, a dechreuodd bregethu pan yn bedair-ar—bymtheg oed. Nid oedd ond dyn gwan ac afiach o gorph, a'i feddwl yn dueddol i ymollwng i brudd-der. Bu yn athrofa Abergavenny am dymor yn derbyn addysg, lle y gwnaeth gynydd cyflym, ac aeth oddiyno i Dentrey, yn swydd Northampton, dan ofal Dr. Davies. Wedi treulio amryw flynyddoedd dan addysg, derbyniodd alwad gan eglwys Llanuwchllyn yn y flwyddyn 1777, a bu yno yn ddiwyd hyd y caniatai ei iechyd, am bedair blynedd. Mewn cais o eiddo yr eglwys am gynorthwy oddiwrth y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, dyddiedig Gorphenaf 1af, 1778, dywedir ei fod wedi llafurio yno am flwyddyn er boddlonrwydd cyffredinol i'r holl eglwys. Mae y cais wedi ei arwyddo dros yr eglwys gan Robert Griffith, Robert Roberts, Rowland Jones, Robert Lloyd, a Cadwaladr Roberts, ac y mae Meistri John Griffith, Glandwr; Richard Tibbot, Llanbrynmair; Rees Harris, Pwllheli, ac Abraham Tibbot, o Fon, yn dwyn eu tystiolaeth yn galonog i gywirdeb cymeradwyaeth yr eglwys. Pregethwr melus, efengylaidd, fel yr ymddengys oedd Mr. Davies, ac anaml yr ymdriniai a phynciau dyrus a dadleugar. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol. Er prawf o hyny gellir dyweyd iddo gael gwahoddiad i fod yn gydathraw a Mr. R. Gentleman yn athrofa Caerfyrddin, ond o herwydd rhyw resymau gwrthododd gydsynio. Nid yw yn ei lythyr at reolwyr y Bwrdd Cynnulleidfaol yn dyweyd paham y gwrthododd, ond yn unig amlygu y ffaith, a mynegi ei benderfyniad i aros gyda'i gyfeillion yn Llanuwchllyn. Yr oedd gan Mr. Wynn, offeiriad Llanycil, yr hwn oedd yn ieithydd rhagorol, syniad uchel am Mr. Davies, ar gyfrif ei ddysgeidiaeth. Dywedir fod prawf pwysig yn y Bala unwaith, a bod rhyw hen ysgrif yn Lladin wedi ei dwyn ger bron, yr hon y methai y cyfreithwyr a gwneyd dim o honi, ond anfonwyd am Mr. Davies, yr hwn gyda rhwyddineb a fynegodd iddynt ei chynwysiad. Gadawodd ei lyfrgell ar ei ol i'r eglwys Annibynol yn Llanuwchllyn, ac er fod llawer o'r llyfrau trwy esgeulustra wedi myned i ddifancoll, etto y mae y rhai sydd wedi eu gadael ar ol yn dangos y rhaid fod Mr. Davies yn ŵr dysgedig. Ond nid fel ysgolhaig yn unig y rhagorai. Mae yr ychydig ddifyniadau a welsom o'i Ddyddlyfr yn dangos ei fod yn ddyn duwiolfrydig, ac yn byw mewn cymundeb agos a phethau ysbrydol. Ond byr fu ei dymor. Yr oedd hinsawdd Llanuwchllyn yn rhy lym i gyfansoddiad oedd yn eiddil yn naturiol, a bu farw Ebrill 28ain, 1781, yn 30 oed. Claddwyd ef yn mynwent eglwys y plwyf, yn yr un bedd a Meurig Dafydd, Weirglawdd-y-gilfach. Yr oedd plate yn ddangosiad o hyny hyd yn ddiweddar ar fur yr eglwys, ond y mae yr arysgrifen erbyn hyn wedi gwisgo allan, ac nid oes neb yn fyw yn cofio gweled ei wyneb, ond y mae ei enw a'i goffadwriaeth er hyny yn aros yn barchus, a disgyna felly i'r oesau a ddel ar ol.