Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Tynybont

Bala Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Llanuwchllyn

TYNYBONT.

Mae y lle hwn yn nhref-ddegwm Cil Talgarth, o fewn pedair milldir i'r Bala. Ymddengys fod yr achos yma yn hen, a bod y capel wedi ei godi mor foreu, os nad yn foreuach, na chapel y Bala. Fel y crybwyllasom, y mae y cyfrifiad a roddodd Mr. Job Orton i Mr. Josiah Thompson yn gwneyd rhif y rhai a ymgynnullent yma yn 260, er fod yn anhawdd genym gredu eu bod mor lluosog. Mr. Daniel Gronow oedd y gweinidog pan godwyd y capel. Eiddo un Thomas Jones oedd tir Tynybont, ac efe a roddodd le i adeiladu y capel arno. Gwerthwyd tyddyn Tynybont gan Thomas Jones, i Mr. Price, Rhiwlas, a chan nad oedd Thomas Jones wedi trosglwyddo y capel trwy weithred i ymddiriedolwyr, aeth yn eiddo i Mr. Price gyda'r tyddyn. Buwyd yn talu 3p. y flwyddyn o ardreth i Simon Jones, mab y dywededig Thomas Jones, oblegid mai efe oedd tenant Mr. Price yn Nhynybont; ond oblegid i Simon Jones dori rhyw bren ar y tir, digiodd Mr. Price wrtho, a rhoddodd brydles i'r eglwys ar y capel, a dyna y pryd y daeth yn feddiant i'r eglwys. Gadawodd Robert Griffith, o'r Garneddlwyd, 2p. at yr achos yn ei ewyllys, ac o log y rhai hyny y mae Edward Jones, mab-yn-nghyfraith Robert Griffith, yn talu swllt y flwyddyn o gydnabyddiaeth i Mr. Price, Rhiwlas. Nid oedd y capel cyntaf ond un syml a diaddurn iawn; ond ad-drefnwyd ef tua'r flwyddyn 1857. Tynwyd ymaith yr hen oriel, fel y mae yn awr yn gapel bychan cyfleus. Costiodd y cwbl tua 40p., a thalwyd yr holl ddyled. Mae y lle yma wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r Bala; ac felly y mae yn parhau. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae yma ffyddloniaid wedi bod "yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos.' Bu teulu Coedyfoel o gryn swcr i'r achos, a choffeir yn arbenig am Dorothy Jones, Coedyfoel, fel gwraig ragorol. Yr oedd yn un o'r rhai a gymerai ddyddordeb mawr yn nadleuon duwinyddol dechreuad y ganrif hon, a gwrandawai yn graff ar bob dyn dyeithr a ddeuai heibio, er deall beth ydoedd. Daeth Mr. Arthur Jones, o Fangor, (Dr. Jones wedi hyny,) heibio unwaith, ond er gwrando yn astud, methodd hen dduwinyddes Coedyfoel, a gwneyd allan pa beth ydoedd ef, na'r dyn ieuangc a bregethai o'i flaen. Wedi myned i'r tŷ, gofynai yn bur siomedig, "Wel, ddynion, pa'm bregethwch chi be' ydach chi?" "Well i mi bregethu Crist i chwi, na phregethu beth ydwyf fi," ebe Dr. Jones, gyda'r parodrwydd ymadrodd oedd mor nodedig ynddo; a gwelodd Dorothy Jones nad gwr i wneyd yn hyf arno oedd y pregethwr o Fangor. Codwyd capel bychan tua diwedd y ganrif ddiweddaf, mewn cysylltiad a Thynybont, ar dir Mr. Price, Rhiwlas, yn Tynant, yn Nghwmtirmynach. Ni chafwyd prydles ar y tir, ac yr oedd yn rhaid codi y tŷ a chorn simdde arno, fel na feddyliai neb wrth fyned heibio nad tŷ anedd oedd; ac nid oedd pulpud i gael ei roddi ynddo, oblegid mai yn dŷ ysgol, ac yn lle i gynal cyfarfodydd achlysurol yn nglyn a Thynybont, y bwriadwyd ef. Ond rhoddwyd pulpud bychan ynddo, ac aeth rhyw rai prysur i Rhiwlas i hysbysu hyny, a'r diwedd fu cloi y lle, a throi yr addolwyr allan.[1]

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

Hugh Hughes. Yr hwn a ymfudodd i America.

David Roberts. Bu yn athrofa y Bala, ac y mae yn awr yn fyfyriwr yn Glasgow.

Nodiadau golygu

  1. Llythyr Mr. J. Peter, Bala.