Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Moriah, Rhymni
← Raglan | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Tabernacl, Pencae → |
MORIAH, RHYMNI
Dechreuwyd yr achos hwn yn y flwyddyn 1839, gan ychydig o aelodau yr eglwys yn Seion, y rhai a sefydlasant Ysgol Sabbothol yn yr ardal. Cynhelid hi weithiau mewn tai annedd, ac am ryw gymaint o amser mewn hen bwll llifio, ar Yard y gwaith. Wrth weled yr ysgol a'r cyfarfodydd gweddio yn lliosogi, chwiliwyd am le mwy cyfleus i'w cynnal; a chafwyd ysgoldy bychan yn Nghwm Shon Mathew, yr hwn, er ei fod yn fychan a thra anghyfleus, oedd y lle goreu allesid gael yn y gymydogaeth. Yn Hydref 1840, cafodd y cyfeillion a ymgynnullent i'r ysgoldy ganiatad gan y fam eglwys yn Seion i ymgorpholi yn eglwys, ond parhasant i fyned i gymundeb i Seion hyd Awst 1841, pryd y bu y cymundeb cyntaf yn yr ysgoldy. Yr oedd Mr. E. C. Jenkins, Salem, wedi cael galwad i wasanaethu yr eglwys ieuangc, am ddau Sabboth yn y mis tua chwe' mis cyn hyn, ac o'r pryd hwn hyd yn bresenol, efe sydd wedi bod yn weinidog y lle. Medi 7ed, 1840, y gosodwyd i lawr garreg sylfaen y capel, a Medi 12fed, 1841, y dechreuwyd pregethu ynddo. Yn nghofnodion Cyfarfod Chwarterol Mynwy, yr hwn a gynhaliwyd yn Tabor, Hydref 19eg a'r 20fed, 1841, cawn y penderfyniad canlynol gyda golwg ar yr achos hwn: "Cynnygiwyd yr eglwys yn Moriah, Rhymni, i gyfundeb Mynwy, gan y Parch. E. Jenkins, Salem; a chan ei bod wedi ymddwyn yn rheolaidd, hyd yma, fel eglwys gristionogol, derbyniwyd hi yn serchus a pharchus." Mae capel Moriah yn un helaeth a chyfleus iawn, yn cynwys o saith i wyth gant o eisteddleoedd, ac y mae yr eglwys wedi bod yn rhyfeddol o dangnefeddus a llewyrchus dan weinidogaeth Mr. Jenkins, oddiar gychwyniad yr achos hyd yn bresenol. Mae nifer yr aelodau er's blynyddau bellach dros dri chant; a'r ysgol Sabbothol mewn sefyllfa drefnus ac effeithiol. Aeth amryw o aelodau yr eglwys hon allan ychydig flynyddau yn ol i ffurfio yr achosion yn New Tredegar a Phontlottyn. Nid ydym yn gwybod am neb o aelodau yr eglwys hon a gyfodasant i unrhyw sylw fel pregethwyr, ond Mr. Rhys M. Thomas, Llanuwchllyn. Yma y dechreuodd ef bregethu, ac oddiyma yr aeth i athrofa y Bala.
Gan na ddigwyddodd dim hynod, amgen na llwyddiant lled ddistaw a chyson, yn hanes yr eglwys hon o'i chychwyniad, a bod ei hunig weinidog yn parhau i ddal ei dir yn rhagorol, er llawer o gystuddiau personol a theuluol, nid oes genym unrhyw hanes maith i'w ysgrifenu am yr achos.