Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Tanygrisiau
← Llan, Ffestiniog | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Rhiwbryfdir → |
TANYGRISIAU.
Dechreuwyd pregethu yn y gymydogaeth yma o gylch yr un amser ag y dechreuwyd yn Llan, Ffestiniog, gan weinidog Bethania a'r rhai a'i cynorthwyent. Yn nhŷ William Owen y pregethid fynychaf, a thua'r flwyddyn 1835, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol mewn tŷ a elwir Hen Danygrisiau. Cynorthwyid yn y gwaith hwn gan David Evans, William Owens, H. S. Parry, a'i fab Richard Parry, ac eraill. Elai yr aelodau i Bethania un pen o bob Sabboth dros rai blynyddau, a changen o'r eglwys yno yr ystyrid yr achos yma. Yr oedd Cadwaladr Roberts, Buarthmelyn, yn un o'r aelodau cyntaf yma, ac yn un o'r rhai a wnaeth fwyaf yma yn nghychwyniad yr achos. Yr oedd yn ddihafal am ei ffyddlondeb, ac yn noddi yr achos yn Nhanygrisiau, fel pe ei eiddo personol ef a fuasai. Ffurfiwyd yma eglwys cyn hir yn nhŷ Richard Llwyd, Risgenfawr, ac yno y cadwyd y cymundeb cyntaf, pryd y gweinyddai Mr. David Griffiths, Talysarn, (gynt). Yr oedd pedwar-ar-ddeg o aelodau Bethania yn ymgorphori yn eglwys yma yn y cymundeb cyntaf; ac ar y Sabboth hwnw, derbyniwyd dau fachgen ieuangc yn aelodau, y rhai a droisant allan yn ddynion rhagorol, sef Richard Roberts, Buarthmelyn, a William Williams, Beudymawr. Bu y cyntaf o'r ddau a enwyd farw trwy ddisgyniad darn o'r graig arno pan gyda'i orchwyl yn chwarel y Moelwyn, ar ol bod am lawer o flynyddoedd yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon gweithgar yn yr eglwys, ac y mae yr olaf etto yn parhau yma yn ddefnyddiol fel aelod a diacon. Yn y flwyddyn 1837, adeiladwyd yma gapel a thy wrth ei dalcen, mewn yr oedd lle serth ar y graig. Dringid i fyny iddo ar hyd rhes o risiau, fel yr oedd yn lle costus i'w adeiladu, ac yn lle trafferthus i fyned iddo ar ol ei adeiladu. Ond dyna yr unig le yn yr ardal a allesid gael ar y pryd, ac yr oedd yn rhaid ei godi yno, neu fod heb un man. Daeth y ffordd haiarn heibio iddo ar ol hyny, a gwnaeth hyny ef yn llawer mwy anghyfleus i fyned iddo, ac o hono. Costiodd y capel 400p. Pregethwyd ynddo yn gyntaf gan Mr. W. Edwards, yn awr o Aberdare; ac yn nghyfarfodydd yr agoriad pregethwyd gan Meistri W. Ambrose, Porthmadog; R. Ellis, Rhoslan, a J. Williams, Llansilin. Arosodd pymtheg o newydd yn y gyfeillach noson y cyfarfod. Bu gofal yr eglwys ar Mr. Davies hyd ei ymadawiad a Bethania, ac wedi hyny dros ychydig ar Mr. R. Fairclough, ond yn mhen amser torwyd y cysylltiad a Bethania, ac yn niwedd y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, i fod yn weinidog yma ac yn y Llan, Ffestiniog, ac urddwyd ef Rhagfyr 11eg a'r 12fed. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Bala; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Evans, Maentwrog; pregethodd Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r gweinidog, a Mr. W. Ambrose, Porthmadog, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri T. Edwards, Ebenezer, ac R. Ellis, Brithdir.[1] Ni bu Mr. Jones yma ond dros dymor byr, canys ymadawodd yn 1847, i Berea, Mon. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog ar ol hyny am yn agos i ugain mlynedd, ac er hyny, parhaodd yr achos i fyned rhagddo a chasglu nerth. Yr oedd Cadwaladr Roberts yn gofalu fel tad am yr achos, a phawb yn gadael iddo gael ei ffordd, oblegid ei fod yma o'r dechreuad, ac yn ffyddlon dros fesur. Ni chai yr un pregethwr lonydd ganddo heb addaw Sabboth yn Nhanygrisiau, os tybiai y byddai ei wasanaeth o werth, ac nid yn waglaw y gollyngid ymaith y rhai a ddeuai; ac ar ddiwedd gwaith un Sabboth yr oedd yn rhaid addaw Sabboth arall. Yr oedd Robert Williams, Tanygrisiau, hefyd, a'i deulu; Cadwaladr Williams, Beudymawr, a'i feibion, a meibion Buarthmelyn, ac eraill, yn aelodau o'r fath fwyaf gweithgar, fel na theimlodd yr eglwys anfantais fawr er ei hir amddifadrwydd o weinidog. Bu Mr. Davies, Trawsfynydd, yn dyfod yma am flynyddau bob mis i gadw cymundeb, ar un cyfnod. Yn wyneb fod y capel wedi ei adeiladu ar fan anfanteisiol, ac agoriad y ffordd haiarn wedi gwneyd y lle yn fwy anfanteisiol fyth, meddyliwyd am gael capel newydd ar lanerch mwy cyfleus, a chanolog i'r holl eglwys. Ffurfiwyd pwyllgor adeiladu er dwyn y gwaith i ben, a chytunwyd am ddarn o dir ar y ffordd cydrhwng Tanygrisiau a Rhiwbryfdir; ond wedi adystyriaeth, cydfarnodd y pwyllgor mai gwell fuasai adeiladu dau gapel, un yn Rhiwbryfdir, ac un arall yn Nhanygrisiau. Adeiladwyd capel y Rhiw yn gyntaf, ac yna yn mhen y flwyddyn adeiladwyd capel yn Nhanygrisiau. Yn mis Mai, 1862, pregethodd R. Thomas, Bangor, ar y gareg sylfaen i gynnulleidfa luosog, ac erbyn y flwyddyn 1863, yr oedd y capel newydd yn barod. Galwyd ef Carmel. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog; ac agorwyd et yn nglyn a chyfarfod chwarterol sir Feirionydd, yr hwn a gynhaliwyd yma y flwyddyn hono. Mesurai y capel ugain llath wrth un-ar-ddeg, ac aeth y draul yn agos i 850p. Prynodd yr eglwys dŷ drachefn, yr hwn trwy y cyfnewidiadau a wnaed ynddo, a gostiodd 161p., ond trwy ymdrechion haelionus yr eglwys a'r gynnulleidfa symudwyd ymaith y rhan fwyaf o'r ddyled yr aed iddi. Yn niwedd y flwyddyn 1865, rhoddodd yr eglwys yma mewn cysylltiad a'r eglwys yn Rhiwbryfdir, alwad i Mr. William Roberts, Penybontfawr, a dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1866, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yn niwedd Hydref y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri C. R. Jones, Llanfyllin; D. Evans, Penarth; H. James, Llansantffraid; J. Roberts, Llanerchymedd; D. Roberts, Caernarfon; J. Roberts, Conwy, ac E. Morris, Penrhyn. Yn nglyn a'r cyfarfodydd hyn, amlygodd y brodyr yn y lle eu gwerthfawrogiad o Mr. Roberts, ar ei sefydliad yn eu plith, trwy ei anrhegu ag oriawr a chadwen aur, a gwydr-ddrychau aur. Mae Mr. Roberts yn parhau yma yn gysurus a llwyddianus. Gwelwyd yn angenrheidiol helaethu y capel, trwy ei godi yn uwch a rhoddi oriel o'i amgylch, ac y mae yn awr yn un o'r capeli harddaf a ellid ei weled, a chynnulleidfa luosog ac eglwys weithgar ynddo. Aeth traul yr helaethiad yn 660p., ac er ei fod yn cynwys lle i lawer mwy nag a gynwysai o'r blaen, etto, y mae yr eisteddleoedd gan mwyaf oll wedi eu cymeryd. Agorwyd ef y Sabboth olaf yn Medi, 1870, a phregethwyd ar y pryd gan Meistri R. Thomas, Bangor; D. Roberts, Caernarfon; D. Griffith, Portdinorwic, a J. Rowlands, Rhos. Mae tŷ helaeth a chyfleus wedi ei godi i'r gweinidog, trwy gydymroddiad yr eglwys yma ac eglwys Rhiwbryfdir, yn ymyl capel y Rhiw, fel y gwelir yn eglur fod gan y bobl hyn "galon i weithio." Mae capel bychan perthynol i Danygrisiau wedi ei godi yn Cwmorthin. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Nhanygrisiau, dechreuodd Mr. Roberts bregethu ar nosweithiau o'r wythnos yn nhŷ Mr. D. Jones, goruchwyliwr yn y gloddfa yno, ond gwelwyd yn angenrheidiol codi addoldy yn y lle. Gwnaed cais trwy Mr. D. Jones, y goruchwyliwr, am dir gan berchenogion y gloddfa yma, y rhai a deimlent yn llawen i gydsynio. Rhoddodd y chwarelwyr eu llafur yn rhad i dori y sylfaen, cludo y cerig, a gwneyd ffordd ato, ac nid hir y buwyd cyn cael y capel yn barod, ac er iddo gostio 100p. mewn arian, heblaw y llafur rhad a roddwyd, agorwyd ef yn rhydd o ddyled trwy haelioni y chwarelwyr yn y Cwm, a chyfeillion Tanygrisiau. Enwyd ef Tiberias, am y rheswm ei fod yn sefyll ar lân llyn mawr, yr hwn sydd dros ddwy filltir o amgylchedd. Bu Mr. D. Jones, a'i fab, yr hwn sydd gydoruchwyliwr a'i dad, yn egniol yn y gorchwyl o gael y capel i fyny a thalu am dano; ac nid llai ei ymdrech chwaith y bu John Jones. Cynhelir ynddo Ysgol Sabbothol yn rheolaidd, a phregethu yn achlysurol. Fel y cynydda y lle, y mae yn debyg y bydd yn rhaid corpholi eglwys Annibynol yma.
Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—
David Cadwaladr. Dangosodd arwyddion gobeithiol, ond lluddiwyd ef trwy farwolaeth i barhau.
Elias Morris. Mae yn awr yn Penrhiwddolion, Dolyddelen, ac yn parhau i bregethu yn achlysurol.
John Roberts. Mab i Cadwaladr Roberts, Buarthmelyn. Derbyniwyd ef i athrofa y Bala, ac yr oedd yn argoeli dyfod yn mlaen yn obeithiol, ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn y Bala, cyn gorphen ei dymor yn yr athrofa, a dygwyd ei gorph i'w gladdu yn meddrod y teulu, yn mynwent Ffestiniog.
John Hughes. Mae yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys.
Aelod o'r eglwys hon hefyd oedd Mr. Robert Evans, Bethel, Aberdare, ond yn Abermaw, pan yno yn yr ysgol, y dechreuodd bregethu.
Nodiadau
golygu- ↑ Dysgedydd, 1845. Tu dal. 57.