Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Ardal Clynnog: Arweiniol
← Lluniau | Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog gan William Hobley |
Capel Uchaf → |
HANES METHODISTIAETH ARFON.
ARDAL CLYNNOG.
ARWEINIOL.[1]
FE orweddai'r holl ardal hon mewn cwsg ysbrydol trwm, pan ddechreuwyd blino ychydig arni yn y cwsg hwnnw gan rai o'r cynghorwyr Methodistaidd tua chanol y ddeunawfed ganrif. Ymhen ychydig ddegau o flynyddoedd, nid oedd llecyn yng Nghymru ag y buasai yn ddiogelach dywedyd am dano fod gweledigaeth Ysgol Jacob yn ganfyddadwy yno. Nid oes hanes i gysgadrwydd ysbrydol nid yw namyn breuddwyd aflonydd yn gwatwar bywyd, pan nad yw yn syrthni llwyr a hollol. Chwareuon, ymladdfeydd, adrodd chwedlau, gweledigaethau hygoelus: dyma y rhith of fywyd sydd i'w adrodd. Dywedai Robert Hughes Uwchlaw'r-ffynnon, gwr a breswyliodd dros ystod ei oes yn yr ardaloedd hyn, wrth y Prifathro Rhys, ei fod ef yn cynrychioli traddodiadau canrif a hanner, yn gymaint ag y clywodd adgofion hen daid iddo a fu farw yn ddeuddeg a phedwarugain oed, ac y byddai y bobl yn yr hen amser, wedi bod yn adrodd eu chwedlau wrth eu gilydd yn eu cyfarfodydd llawen, yn barod i weled unrhyw beth, ysbrydion, y tylwyth teg, a rhyfeddodau eraill (Celtic Folklore, t. 215). Y crebwyll a rydd fod i'w fyd anweledig, a rhaid iddo'i gael yn rhyw ffurf neu gilydd. Dyma'r tymor y ffynnai dewiniaid yng Nghymru. Ffynnant heddyw yn Lloegr dan enwau eraill ymhlith gwyr gwybodus ac anwybodus yr un fath. Hen wr o ardal y Capel Uchaf a arferai ddweyd am dano'i hun yn ymweled yn ei ieuenctid â dewines Coch-y-big yn ardal Brynaerau, ac fel y gwelodd y crochan llymru ar y tân yno, hyd nes y cipiwyd hi oddiyno gan law anweledig, pan y gwelai hi yn nen y tŷ yn berwi yn grychias ulw. William Thomas Brysgyni ganol oedd hen wr eithaf anhydrin; ond pan fyddai efe wrthi yn hel dormach ar rywun, ni byddai raid ond bygwth myned a'i achos at y ddewines nad elai fel oen llyweth yn y fan. Yr ydoedd unwaith wedi saethu yn ei ŷd iar a berthynai i ryw hen wreigan. Yr hen wraig yn addo iddo y collai efe y fuwch oreu oedd ganddo. Ni feiddiodd gyffwrdd â'r un o ieir yr hen wraig fyth ond hynny. Tywynnai lled-rithiau o'r anweledig ar y dychymyg. Gwelodd un ffarmwr wr ar ochr y mynydd pan y gwyddid fod y gwr hwnnw yn ei wely adref. Y goel ydoedd na byddai'r gwr a welwyd yn y dull hwnnw ddim byw yn hir; ac fel y coelid am dano, felly y digwyddodd iddo. Gwelid milgi mawr yng nghroes- lon Ty'nyberth, yn ddigon mawr i fyned ar draws y ffordd, gyda'i ben ar un clawdd a'i gynffon ar y llall. Ffarmwr Maesog, yn yr adeg honno, ydoedd un o'r rhai a'i gwelodd ef. Bu'r lledrith hwnnw yno am yn hir o amser. Yr oedd plentyn i'w glywed yn crio yn Llwyn Maethog, fel nad elai neb o'i fodd y ffordd honno yn hwyr o'r nos. Gwelodd dau o lanciau ym mhentref Clynnog gynhebrwng yn dod drwy'r ffordd ganol, a dyn adnabyddus iddynt yn eistedd ar gaead yr arch. Yr oedd y dyn hwnnw yn cael ei gladdu ymhen ychydig wythnosau yn ol hynny.
Mae John Owen yr Henbant, y gwr a gychwynnodd yr ysgol Sul yn y Capel Uchaf yn 1794, wedi gadael ar ei ol mewn llawysgrif gyfeiriad at y dull y treulid y Sul gan gorff y bobl yr amser a gofiai ef. Dywed y tyrrai'r hen bobl i dai eu gilydd ar y Sul i adrodd chwedlau a helyntion y byd, ac elai'r bobl ieuainc, rhai at y bêl, rhai i goetio, eraill i rodianna. Byddai lliaws, eb efe, yn myned i ochr carreg Brysgyni, i adrodd chwedlau am y digrifaf. Byddai rhywun yno yn cyhoeddi pa bryd y cynelid y cyfarfod y Sul dilynol. Ymladd ceiliogod oedd mewn bri hefyd yn yr ardal, ond dywed John Owen na wyddai fod hynny o chware yn cael ei arfer ar y Sul. Dywed y prynid yspardynau dur i'w rhwymo wrth draed y ceiliogod, er gwneud y frwydr yn fwy gwaedlyd, ac y byddai bob un yno yn annos ei geiliog ei hun. Cyrchid i'r llan o Fôn ac o fannau yn nau ben y Sir, Sul a gwyl, i chwareu'r bêl ar fur y clochdy, a'r rheithor yn dwyn ei ran ac yn cadw cyfrif. Yr oedd gwylmabsant yr ardal yn adeg o gynnwrf a rhialtwch ac o ymladd a meddwi, canys heblaw lledrithiau'r anweledig, rhaid cael hefyd gynnwrf cig a gwaed cyn bydd byd neb rhyw ddyn yn un llawn a boddhaol.
Mae hirhoedledd pobl yr ardal wedi bod yn achos o syndod. Dyna Hugh a Sian Jones, wr a gwraig, a fuont feirw oddeutu 1889, y naill yn 98 oed a'r llall dros 101, wedi bod yn briod am 77 mlynedd. Ac nid oeddynt hwythau ychwaith yn rhyw gymaint o eithriadau, oddigerth mewn bod yn briod â'u gilydd yn yr oedran hwnnw. Sylwa'r Parch. John Williams Caergybi, a fu yma yn ysgolfeistr am dymor, mai'r peth cyntaf i daro i'w feddwl ef fel hynodrwydd ar y bobl, yn nesaf i'w symledd, ydoedd eu hysbryd ysgafn a chwareus; a dywed fod hynny i sylwi arno ym mhawb, hen ac ieuanc, yr un fath, ac na welodd efe mo'r ysbrydiaeth hwn mor amlwg yn unlle arall. Efe a briodola'r nodwedd hwn ar y bobl i awyr adfywiol y lle. Ac fel y sylwir ganddo ef, hefyd, mae'r cysylltiad agosaf rhwng eu chwareusrwydd â'u hir-hoedledd. Mae'n sicr, yr un pryd, fod rhyw ddifrifwch arbennig, hefyd, wedi bod yn nodwedd ar y bobl, o leiaf yn ardal y Capel Uchaf. Ymhlith pobl y glannau, sef ardal y pentref ac ardal Capel Seion, y mae'r engrheifftiau o'r chwareusrwydd hwn a rydd Mr. Williams. Y cyfryw chwareusrwydd yn ddiau ydoedd waelod naturiol yr angerddoldeb crychiasol a welid yma, yn arbennig yn amser y diwygiadau cyntaf. A thrwy gyfrwng yr angerddoldeb naturiol hwn yr impiwyd i mewn i brofiad pobl y Capel Uchaf, yn yr hen amser, ddifrifwch ofnadwy y gredo efengylaidd. Yno yr oeddys mewn unigedd yn amgylchynedig â dychrynfeydd ysbrydol. Aeth rhai ugeiniau o flynyddoedd heibio cyn adeiladu capel yn y pentref, yr hyn sydd ryw argoel na feddiannwyd mo'r pentref gyn llwyred gan ysbryd Methodistiaeth a'r llethrau unig ger eu llaw. Yr oedd y llan yn ymyl hefyd i rannu'r boblogaeth, ac i roi ei heiliw ar dôn y teimlad. Ac i'r Capel Uchaf yr aeth Robert Roberts i fyw, a dilys yw ddarfod i'r ysbryd tanllyd hwnnw adael ei ddelw yn anileadwy ar y tô a'i hadwaenai, ac i fesur ar doiau eraill yn ddilynol iddynt hwythau. Ac heb son am fod y pentref ymhellach oddiwrth y dylanwad hwnnw, fe ddaeth mewn amser ddylanwad arall i effeithio ar y pentref yn arbennig, gan ostwng yr angerddoldeb a lliniaru'r difrifwch, ac eangu a choethi pob meddwl a theimlad, sef eiddo Eben Fardd. Fe sylwodd John Owen Ty'nllwyn, yn ei bregeth angladdol i Eben Fardd, mai'r tri dylanwad mawr a fu yng Nghlynnog ydoedd eiddo Richard Nanney, Robert Roberts ac Eben Fardd. O fewn terfynau cyfyng yr ardal hon, fe fu dylanwad Robert Roberts yn y naill ffordd, a dylanwad Eben Fardd mewn ffordd arall, mor ddwys a nemor ddylanwad y gwyddys am dano yn hanes Cymru. Fe freintiwyd. yr ardal yn fawr yn y cyfuniad ardderchog hwn o ddylanwadau. Ac os na chodwyd nemor ddynion amlwg i'r byd fel ffrwyth y dylanwadau hyn, dir yw y gadawyd eu hol yn fawr ar bobl yr ardal yn gyffredin, a phob un o'r ddau ddylanwad yn fwyaf yn ymyl ei gartrefle arbennig ei hun.
Fe lefeiniwyd yr ardal gan yr ysbryd llenyddol yn amser Eben Fardd yn gymaint, fe ddywedid, fel y gallai pawb braidd yn y lle wneud rhyw fath ar englyn yn ei amser ef! Eithr yr oedd i Eben Fardd, yn arbennig yn ei flynyddoedd olaf, ddylanwad arall uwch na hwnnw, sef dylanwad crefydd bersonol syml a dwys, a dylanwad cymeriad pur ac aruchel, ac erys y dylanwad yma o'i eiddo wedi i'r llall braidd beidio, ac nid yw wedi cilio hyd y dydd hwn.
Eben Fardd a gychwynnodd y Cyfarfod Llenyddol yn yr ardal, ac efe a'i hadfywiodd yn y wlad. Y mae efe wedi ysgrifennu rhyw adroddiad am y cyfarfodydd hyn yn llyfr cyfrifon yr eglwys, a gedwid ganddo. Ac megys ag y mae cyfrifon yr eglwys a hanes y cyfarfod llenyddol yn yr un llyfr, ac yn waith yr un gwr, felly yr un modd y cymhlethwyd y ddau ddylanwad, sef y crefyddol a'r llenyddol, drwy ei gyfrwng ef, yn hanes pobl Clynnog, sef pobl glannau'r môr yn fwyaf neilltuol. Fe fernir fod yn werth dodi'r adroddiadau hynny i lawr yma ar amryw gyfrifon: fe daflant oleu ar gymeriad yr ysgrifennydd, yn un peth, a thros ben hynny, hefyd, y maent yn rhoi hanes cychwyn ysgogiad a droes allan yn un go bwysig yn ei ddylanwad ar feddwl pobl y rhanbarth hwn of Gymru. Ar wahan i bob ystyriaeth arall, fe daflant oleu ar natur y dylanwadau, o un cyfeiriad, a fu'n llunio cymeriad pobl yr ardal ar un cyfnod pwysig yn eu hanes. Fe alwyd yma y cyfarfodydd hyn yn gyfarfodydd llenyddol, am mai fel y cyfryw yr adnabyddir hwy yn y wlad, ac yr arferir cyfeirio atynt. Eithr yr oeddynt o nodwedd ysgrythyrol, a "chyfarfodydd darllen " yw y penawd ar y cyntaf yn llyfr yr eglwys; ond yn ddiweddarach gelwir hwy yn gyfarfodydd addysg."
Cyfarfodydd darllen mewn cysylltiad âg Ysgol Sabothol Pentref Clynnog. 1852. Ebrill 5. Cynhaliwyd y cyntaf o'r cyfarfodydd hyn. Llywydd: Ebenezer Thomas. Beirniaid: James Williams, Evan Thomas a Robert Parry. Testyn: Y disgrifiad o'r March, Job xxxix. 19-26. Gwobrwyon: goreu, Llyfr hanes Eisteddfod y Wyddgrug, 1851, etc.; ail oreu, Yr Hyfforddwr, etc. gan Charles. Rhoddedig gan Ebenezer Thomas. Enillwyr: goreu, David Hughes Cae'rpwysan; ail oreu, William Jones Ty'nycoed."
"1852. Ebrill 24. Yr ail gyfarfod. Llywydd: yr un ag o'r blaen. Beirniaid: yr un rhai ag o'r blaen. Y prif destyn : Galarnad Saul a Jonathan. Yr ail destyn: Her Goliath i Dafydd ynghydag ateb yr olaf. Y trydydd testyn: Luc xxiv. 39. Yr enillwyr a'u gwobrwyon:—Ar y testyn cyntaf, i'r goreu, James Ebenezer Thomas, Beibl bychan; i'r ail oreu, Margaret Williams Hafod-y-wern, Testament goreuredig. Ar yr ail destyn, i'r goreu William Jones, Ty'nycoed, Palestina gan Iorwerth Glan Aled, yr hwn oedd yn wyddfodol ar y pryd; i'r ail oreu, Jane Williams Tanrallt, Llyfr ar Arddwriaeth. Ar y trydydd testyn, goreu, Jane Williams Tanrallt, i'r hon y cyflwynwyd yr Hyfforddwr yn wobr. Cyfarchwyd y cyfarfod, ar ol i'r cydymgais fyned drosodd, gan y Meistrd. Iorwerth Glan Aled, D. W. Pughe, James Williams a Robert Parry, a chanodd y cantorion yn y dechre, ar y canol, ac yn y diwedd yn rhagorol."
1852. Mai 31. Yng Nghapel y Pentref. Y trydydd cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Llun y Sulgwyn, 2 o'r gloch yn y prydnawn, a 6 yn yr hwyr. Llywydd: yr un ag o'r blaen. Barnwyr: Messrs. Robt. Parry, Owen Jones, Evan Griffith, Thomas Roberts, Owen Owens a D. W. Pughe, Ysw. Yn y cyfarfod hwn ymunai pedair ysgol Sabothol, sef Brynaerau, Capel Uchaf, Seion, a Chapel y Pentref. Nifer y darllenyddion ieuainc o'r pedair ysgol ynghyd oedd 27, y rhai a rennid yn ddau ddosbarth, un dan 12 ml. oed, a'r llall uwchlaw 12 a than 18 ml. oed. Y testynau i ragbaratoi arnynt oeddynt, 'Joseph yn cyhuddo ei frodyr o fod yn ysbiwyr,' a'r Arch-Synagogydd yn ateb yn ddigllon am i Iesu iachau ar y Sabath.' Y testynau anhysbys oeddynt, 'Na wnelid. elusen er mwyn cael eu gweled gan ddynion,' 'Michal merch Saul yn gwatwar Dafydd,' 'Y llongau yn cael eu llywodraethu â llyw bychan,' a ' Gwawdiaeth Job wrth ei gyfeillion.' Hefyd Traethodau."
"1853. Dydd Iau y Dyrchafael. Cynhaliwyd Cyfarfod Addysg i'r pedair ysgol yng nghapel Brynaerau. Darllen ac ysgrifennu."
"Yn Hydref cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol i'r holl ddos- barth, a elwir Dosbarth Clynnog, o'r ysgol Sabothol, yng nghapel Talysarn. Cydymgais mewn darllen, ysgrifennu ac arholi."
"1854. Chwefror 15. Cynhaliwyd Cyfarfod Addysg pedair
ysgol Clynnog yn y Capel Uchaf. Darllen ac ysgrifennu."
"Cynhaliwyd amryw gyfarfodydd bychain, perthynol i'r ysgolion eu hunain, yn y gwahanol gapelau, yn ysbaid y cyfryngau o amser rhwng y prif gyfarfodydd uchod, a'r argraff ar feddyliau y rhai mwyaf doeth, rhinweddol a deallus, yw, eu bod wedi gwneud llawer o les, a bwriedir cynnal un cyffredinol a blynyddol i'r pedair ysgol ar ddydd Llun y Sulgwyn nesaf."
"Dydd Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol. cyffredinol y pedair ysgol yng nghapel y pentref, a phrofwyd dyddordeb mawr ynddo gan bawb. Yr oedd y cynulliad yn lliosog, y cyflawniadau ymarferol ar wahanol ganghennau o addysg yn obeithiol, a sail dda i ddisgwyl lles mawr oddiwrth y sefydliad cynorthwyol hwn i'r ysgol Sabothol."
"1855. Dydd Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd y cyfarfod addysg blynyddol yng nghapel y pentref. Ystyrrid y tro hwn fod ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb, yn gystal a'r hyfrydwch a deimlid ynddo, yn cynyddu. Yr oedd yr ymarferiadau addysgol yn bur amrywiol, mewn traethodau, barddoniaeth gaeth a rhydd, datganu, cerddoriaeth grefyddol, gramadeg, llythyreg, etc., ynghyda darlleniaeth. Taflwyd fi a'm teulu i ddyfnder galar bore y dydd hwn, drwy farwolaeth fy anwyl, anwyl ferch Catherine, ar y dydd arbennig a osodai yn nôd drwy ei holl salwch maith a phoenus. i gael mendio erbyn y delai, a chael bod yn bresennol yn y cyfarfod. Ond yr wyf yn cryf obeithio, ar seiliau cyfreithlon, debygaf, iddi hi fyned y diwrnod hwn i Gyfarfod perffeithiach a myrdd mwy gwynfydedig, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntafanedig, ac ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd. Wrth reswm, ym- ddifadwyd fi a'm teulu oddiwrth fod yn bresennol yn y cyfarfod y flwyddyn hon."
"1856. Mai 12, dydd Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd y pumed cyfarfod addysg blynyddol. Yn bresennol gydag eraill, y Parchn. Wm. Roberts, Robt. Hughes, John Jones, hefyd yn yr hwyr Dr. Pughe. Ymddanghosai yn weddol lewyrchus fel arferol, ac yn bur boblogaidd. Yr enillwyr mewn ysgrifennu traethodau, etc., oeddynt Harry Griffith, Robert Parry, Emanuel Evans, Hugh Jones Bron'rerw a James Ebenezer Thomas; caniadau, James Williams Penrhiwiau, Robert Parry a Henry Griffith. Ymddanghosai tuedd ac ansawdd rhai o'r anerchiadau cyhoeddus yn oeraidd tuag at y cyfarfod, yn hynod o ddigalonnol, ac fel yn tarddu oddiar angharedigrwydd hunanol, a rhagolygiadau disail hyn ynghydag awgrymiadau drwgdybus y Sasiwn, ymddygiadau gochelgar a phell a gweithrediadau gwrthwynebus y pregethwyr a'r blaenoriaid; popeth gyda'u gilydd a dueddant i oeri fy sel i gydag ef, ac i beri i mi ymgadw o hyn allan rhag bod yn achlysur o dramgwydd i'r rhai sy'n hawlio iddynt eu hunain arweiniad y bobl. Boed rhyngddynt hwy a'u pobl am y mater: gwell gennyf fi neilltuedd."
"1857. Dydd Llun Sulgwyn. Ychydig a feddyliwyd o'r cyfarfod hwn cyn ei ddyfod. Yr oedd effeithiau digalonnol y llall yn aros yn yr ardal: ni wnaed dim casgliad o bwys ar ei gyfer ; goddefwyd ei ddyfodiad fel peth arferol; ond pan ddaeth ymddanghosodd mor rymus ag erioed, yn hynod o lewyrchus a bywiog, a diweddodd yn dra boddhaol i bawb. Ni ddylid peidio â chofrestru araeth ragorol Mr. O. Owens y Gors ar yr achlysur, a gweithrediadau swynol ac adeiladol W. Owen Prysgol, ynghyda'r cefnogaeth gwresog a ddanghoswyd iddo gan brif bennau teuluoedd. yr ardal. Yr enillwyr mewn ysgrifennu oeddynt Henry Griffith ac Evan Thomas yn bennaf."
"1858. Dydd Llun y Sulgwyn. Pasiodd y cyfarfod blynyddol hwn yn hynod o ganmoladwy. Yr oedd Messrs. W. Owen Prysgol a Richard Jones, Butcher, ynghyda dau o fechgyn ieuainc yn canu ynddo, ac yn rhoi boddhad mawr. Dygwyd popeth ymlaen yn effeithiol, buddiol ac adeiladol, a chydnabyddid yn gyffredinol mai cyfarfod da iawn ydoedd."
"1859. Dydd Llun Sulgwyn. Y diweddaf yw y goreu o hyd, a'r teimlad ar ddiwedd hwn oedd ei fod yn rhagori ar y rhai a fu o'i flaen i gyd. Yr oedd amryw ddieithriaid-Mr. W. Jones Clwtybont, Mr. O. Hughes Ysgoldy ac eraill-yn annerch y cyfarfod. Messrs. Richd. Roberts (Bardd Treflys), R. Roberts Hendre cenin a Humphrey Lloyd Penybryn, Llanystumdwy, yn feirniaid darllen; Messrs. Griffith Tŷ mawr a Mr. Hugh Davies Monachdy yn feirniaid y traethawd amaethyddol. Yr oedd anerchiadau Messrs. O. Owens Gors a Bardd Treflys yn effeithiol a derbyniol iawn. Mr. Owen Ellis oedd arweinydd y côr, a chanmolid ef yn fawr. Y prif enillwyr oedd Harry Griffith, Messrs. Wm. Jones Bryngwydion ac Evan Thomas, ynghydag amryw eraill, Miss Williams Hafod-y-wern ar destyn y merched. Yr oedd y dyrfa yn lliosog ac yn barchus iawn, ac yn ymddangos yn dra boddhaol gyda gweithrediadau y cyfarfod. Cynygiodd Capt. Owen ddiolchgarwch y cyfarfod i'r ymwelwyr dieithr a'r gweinyddwyr yng ngwasanaeth y cyfarfod, yr hyn a eiliwyd gan Mr. James Williams Penrhiwiau, a siaradodd y ddau yn gymwys ac effeithiol wrth gynnyg ac eilio. Arwyddwyd y diolchgarwch gyda chodiad llaw cyffredinol a pharod. Diweddwyd drwy weddi gan Mr. John Jones Creigiau—pregethwr, a dylaswn nodi i'r cyfarfod gael ei ddechre gan Mr. Owen Roberts, gweinidog y Bedyddwyr, Pontllyfni."
"1860. Casglwyd un bunt at gyfarfod y Sulgwyn y flwyddyn hon, yr hwn a fu ac a ddarfu yn ei amser priodol, gyda graddau dymunol o gefnogaeth a phoblogrwydd. Danghoswyd gryn dipyn o lafur a ffyddlondeb gydag addysg mewn darllen a chyfansoddi. Ymddengys i'r cyfarfod gael ei dreulio yn foddhaol ac adeiladol iawn ar y cyfan, er y dichon nad oedd mor fywiog a llewyrchus a rhai o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd yma o'r blaen. Yr oedd y deffroad mawr a anfonodd yr Arglwydd yn ei ras ar yr ardaloedd y flwyddyn hon a'r flwyddyn flaenorol wedi hoelio sylw pawb bron ar eu mater rhyngddynt a Duw, nes gadael o'r neilltu eu mater rhyngddynt a'u gilydd; ond wedi i syndod y deffroad leihau dipyn, y mae yn natur y cyfnewidiad grasol a effeithiodd ddwyn pawb a'i profodd fesur ychydig ac ychydig i ystyried pa fodd i rodio a boddloni Duw, a phan ystyriant hynny yn ddyledus, gwelant a chredant nad oes modd rhodio a boddloni Duw heb hyfforddio plentyn ym mhen ei ffordd, heb faethu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, heb wneuthur daioni a chyfranu, heb wneuthur eu hunain yn bob peth i bawb, heb geisio llesad llaweroedd yn gystal â'u llesad eu hunain, heb chwanegu at ffydd wybodaeth, yn gystal a rhinweddau duwiol eraill. Cofnodwn yn ddiolchgar y personau a'n cynorthwyasant eleni, sef y Parch. Robt. Hughes, Meistri O. Owens, Richd. Roberts (Bardd Treflys), Griff. Lewis a H. Evans ac eraill, ynghyda haelionus gefnogaeth ein hysgol Sul a'r ysgolion Sul eraill, a'r gymdogaeth yn gyffredinol."
"1861. Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd un o'r cyfarfodydd
mwyaf rhagorol a welwyd eto. Y llywydd hybarch ar y cyfarfod
hwn oedd Ellis Owen, Ysw., Cefnymeusydd. Yr oedd hefyd y
Parch. R. Hughes, Meistri O. Owens, Richd. Roberts (Bardd
Treflys) ac eraill o fri yn bresennol. Cyfodwyd esgynlawr o flaen y
pulpud, a gosodwyd cadair dderw hybarch o ran ei ffurf arno i'r
Cadeirydd eistedd. Ac fel ag yr oedd yr urddas allanol yn gyflawn,
felly yr oedd yr hyfrydwch a'r adeiladaeth dumewnol yn dra boddhaol a chlodfawr. Yr oedd holl ymarferiadau llenyddol y cyfarfod
yn ganmoladwy, a'r cyflawniadau o ran pawb yn hynod o ddi-ddiffyg."
"1862. Llun y Sulgwyn. Troes y cyfarfod allan yn un tra boddhaol a buddiol: cynulleidfa fawr, ac athrawon cymwys, y rhai a roisant lawer o hyfforddiadau da mewn dysg a moes a chrefydd. Ymddangosai y cystadleuwyr a'r disgyblion yn siriol a pharod a hawdd eu trin. Y cŵyn oedd fod rhy ychydig wedi dod ymlaen i ysgrifennu, ac ystyried yr Undeb, yn gynwysedig o'r Capel Uchaf, Brynaerau, Seion, Llanaelhaiarn a'r Pentref. Y llywydd urddasol y flwyddyn hon eto oedd Ellis Owen, Ysw., Cefnymeusydd ; y beirniaid, Bardd Treflys, H. R. Llwyd Penybryn, Llanystumdwy, a Robt. Williams Ty'nyllan, Llanarmon,a Dewi Arfon; yr athrawon crefyddol, y Parch. Robert Hughes Uwchlaw'rffynnon, Mr. James Williams Penrhiwiau, ac eraill; cantorion o Rostryfan, Mr. Wm. Griffith o Gaernarvon, a chôr Clynnog Fawr."
Yn y fel yna y gorffen yr adroddiadau o'r cyfarfodydd bychain, bywiog hyn, a esgorodd ar dylwyth lliosog y cyfarfodydd llen- yddol. Yn yr adroddiadau hyn, a ysgrifennwyd dan gynhyrfiad y funyd gan wr o natur or-deimladol, fe dynnodd Eben Fardd hunanbortread go gyflawn ohono ef ei hun. Manylrwydd yr adroddiad a ddengys hefyd mor fyw ydoedd ei gydymdeimlad â'r bobl, a gwelir yn hynny ddirgelwch ei ddylanwad mawr arnynt.
Am sylwadau cyffredinol ar yr Ysgol Sul gweler y sylwadau Arweiniol i Lanllyfni a'r Cylch.
Nodiadau
golygu- ↑ Llawysgrifau Eben Fardd. Ymddiddan 4 Mr. David Jones Bwlchgwynt