Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Capel Uchaf
← Ardal Clynnog: Arweiniol | Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog gan William Hobley |
Brynaerau → |
CAPEL UCHAF.[1]
YR eglwys wladol a gafodd yr ardal hon yn llwyr iddi ei hun, heb. ymyriad unrhyw blaid grefyddol, hyd nes yr ymddanghosodd y Methodistiaid yn y lle, a chydrhwng yr eglwys a'r Methodistiaid y meddiannir hi fyth. Dechreuwyd pregethu yn ardal Llanaelhaiarn, bedair milltir o bentref Clynnog, yn gynnar yn y bedwaredd ganrif arbymtheg.
Yn yr ardal hon ynghyda Llanllyfni y dechreuodd Methodistiaeth wreiddio'n amlwg yn gyntaf oll o holl ardaloedd Arfon. Yr oedd ymweliad cyntaf Howell Harris â Sir Gaernarfon i bob golwg yn gyfyngedig i'r pen arall i'r sir. Mae'r traddodiad a fu yn ardal Waenfawr ddarfod i Howell Harris bregethu yno ar ei ymweliad cyntaf â'r sir yn fwy credadwy ond deall Arfon am Gaernarfon. Mae dyddlyfr Howell Harris yn rhoi hanes ei ail ymweliad â'r sir yn 1747, yngholl. Ardal dra neilltuedig yr ymddengys y rhan honno o'r wlad lle codwyd y capel cyntaf yn Arfon ymhlith y Methodistiaid. Eithr y mae'r Efengyl, fel pob gwareiddiad arall, yn tramwy y prif-ffyrdd lle byddant wedi eu gwneud, cystal a'u gwneud lle na byddant. Ac y mae prif-ffordd yn myned heibio'r Capel Uchaf o bentref Clynnog i bentref Penmorfa. Yn ystod blynyddoedd a ddilynai ymweliad cyntaf Howel Harris âg ardaloedd Lleyn, fe godwyd amryw gynghorwyr, fel y gelwid hwy: John Morgan yr ysgolfeistr, Morgan Griffith, Hugh Thomas, John Griffith Ellis ac eraill, a byddai y rhai'n yn achlysurol yn anturio cyn belled ag Arfon; ac yn rhyw fodd drwy weinidogaeth rhai ohonynt hwy, y mae pob lle i gasglu, y disgynnodd hedyn crefydd efengylaidd gyntaf i'r ardal, neu o leiaf hedyn Methodistiaeth.
Eithr fe freintiwyd ardal Clynnog mewn ffordd arall. Yr oedd Richard Nanney, person y plwyf, yn wr o ysbryd efengylaidd. Daeth yno yn 1723, a bu farw yn 1768 yn 80 mlwydd oed. Nid yw'n hysbys pa bryd y meddiannwyd ef gan yr ysbryd efengylaidd, eithr fe arferid a thybio yn yr ardal mai yn ol bod yn gwrando ar y Methodistiaid, prun ai yn yr ardal hon ei hunan neu ynte yn rhywle arall nid yw'n hysbys. Fe ddywedir, pa fodd bynnag, ddarfod iddo lafurio'n hir, a hynny ar ol ei ddeffro gan yr ysbryd newydd, cyn gweled ohono nemor ddim llwyddiant ar ei weinidogaeth. Nid hwyrach mai araf y bu yntau ei hunan yn dod i'r goleu llawn. Yn ei flynyddoedd olaf, pa ddelw bynnag, y coronwyd ei lafur â bendith amlwg. Dechreuwyd llanw eglwys fawr Clynnog, a fyddai agos yn wâg cyn hynny, â chynulleidfa orfoleddus, ac aeth y sôn am y gwasanaeth drwy'r wlad oddiamgylch. Mae'r hanes hwn ar ei wyneb yn ei wneud yn debygol mai ar ol i Fethodistiaeth ddechre gwreiddio yn y wlad y digwyddodd y cyffro hwn yng ngwasanaeth yr eglwys, canys rywbryd at ddiwedd oes y person y digwyddodd y cyfnewidiad amlwg ynglyn ag ef, tra'r oedd pregethu achlysurol yn y gymdogaeth ers oddeutu ugain mlynedd cyn hynny, ac eglwys wedi cychwyn ers lliaws o flynyddoedd bellach yn yr ardal. Pa ddelw bynnag, nid oes amheuaeth na fu gweinidogaeth Richard. Nanney yn gyfnerthiad mawr i grefydd ysbrydol yn y wlad, ac i Fethodistiaeth yn neilltuol.
Ar y cyntaf ni dderbynid pregethu i dai. Ar yr heol y byddai'r gwasanaeth. Eithr e fyddai ryw ddylanwad rhyfedd a dieithrol ar adegau yn cydfyned â'r genadwri ar rai o'r gwrandawyr, y fath fel y tybid dim llai nad gwallgofi y byddent, ac elid yn eithaf digellwair i chwilio am raffau i'w rhwymo. Diau fod ein tramwyfa fel cyfundeb y pryd hwnnw,fel y digwyddodd hefyd liaws o weithiau ar ol hynny yn ein hanes, ar draws rhyw gylchwy cyfrin o ser y nefoedd. A'r un a'r unrhyw rym ysbrydol ag a ddeffroai iasau argyhoeddiad yn rhai a ddeffroai gynddaredd yn y lleill. Pan oedd Lewis Evan Llanllugan, un o'r cynghorwyr boreuaf, yn sefyll i fyny i bregethu yma, fe ddaeth boneddwr o'r ardal ato, a rhoes ddyrnod iddo a choes ei chwip, nes llifo o'i waed. Rhwystrwyd ail ddyrnod drwy i Robert Prys Felin Gaseg sefyll i fyny dros y pregethwr. Nid cynt y cyrhaeddodd y boneddwr ei gartref nad dyma arch i'w was i fyned i ymholi am helynt y pregethwr, rhyw arwydd, debygid, o aflonyddwch meddwl.
Y cyntaf i roi achles i'r arch o fewn ei dŷ oedd Hugh Griffith, neu Hugh Griffith Hughes. Teiliwr o ran ei grefft, ond yn dda arno. Preswyliai yn y Foel, rhyw ddwy filldir o'r pentref. Trowyd Hugh Griffith o'i dŷ o achos yr Arch. Ymhen ysbaid, dyma Hugh Evans Berthddu yn adeiladu tŷ ar ei dir ei hunan, ac yn ei osod i Dafydd Prisiart Dafydd, un o'r crefyddwyr. Nid Methodist oedd Hugh Evans, canys mawr ymhoffai mewn canu a dawnsio a'r cyffelyb. Ymdyrrai lliaws o'i gymdogion ato ar ddechreunos, a chwareuai yntau iddynt ar ei ffidil fel pen-campwr. Ar un noswaith pan oedd pregeth yn y Berthddu bach, cartref Dafydd Prisiart Dafydd, penderfynodd y cwmni llawen roi heibio'u difyrrwch, a myned i wrando'r bregeth, ar awgrym Hugh Evans, gyn debyced a dim. Glynodd y saethau mewn calonnau y noswaith honno, ac yng nghalon Hugh Evans ymhlith eraill. Aeth adref o'r bregeth ar ei union, a dywedodd wrth y wraig, "Mi dorraf y ffidil yn ddarnau mân." "Na, gresyn," ebe hi, peidiwch â'i dryllio, fe fydd yn dda gan Wil Ifan ei chael." Nage," ebe yntau, "ni wna ond y drwg iddo yntau." Yna fe ymaflodd yn y ffidil, ac a ddechreuodd ei churo yn erbyn hen gist ystyfflog yn ymyl, onid oedd yn chwilfriw mân ar hyd y llawr. Ymhlith y gwrandawyr yr oedd hen ymladdwr ceiliogod, a bygythiai hwnnw ar ei ffordd adref y torrai ben ei geiliog, ac megys y bygythiodd felly y gwnaeth efe.
Cynelid cyfarfodydd eglwysig yn y Berthddu bach. Aflonyddid ar heddwch y crefyddwyr yn fynych wrth fyned a dod i'r cyfarfodydd hyn. Cyn hir ar ol adeiladu'r Berthddu bach, fe agorwyd drws Ty'nlon i dderbyn pregethu, gerllaw y man y saif y Capel Uchaf yn awr.
Yn nhymor cynnal moddion yn y ddau dŷ hyn, fe dorrodd diwygiad allan, yn enwedig ymhlith y plant. Moliannai'r plant ar hyd y ffordd tua chartref fel y deuent allan o'r moddion. Yr oedd Hugh Griffith Hughes, a drowyd allan o'i dŷ am achlesu pregethu, yn byw bellach yn Nhy'nycoed. Prynodd. y Brysgyni-isaf. Gwerthodd ddernyn o dir, 434 llath wrth 234 llath, am bum swllt, i adeiladu capel arno, sef rhan o gae a elwid Pantyllechi. Dyma'r adroddiad fel y mae yn yr hen weithred. Amseriad y weithred yw 1764, y 5 o Fawrth, yn y bedwaredd flwyddyn o'r brenin Sior III. Ym Methodistiaeth Cymru y mae gwahanol amseriadau yn cael eu rhoi i'r capel cyntaf yng Nghlynnog, sef 1750, 1752 a 1760 (II. 143, 161, 165; III. 550). Ar garreg yn. y capel presennol fe nodir amseriad y gwahanol gapelau, a rhoir amseriad y cyntaf fel 1761. Nid anfynych y gwneir gweithred am dir yn ddiweddarach na'r adeilad arno, neu tra bydd yr adeiladu yn myned ymlaen. Eithr pan ddigwydd yr olaf, fe nodir hynny yn y weithred yn fynych, os nad bob amser. Yn yr amgylchiad hwn, pa fodd bynnag, fe leferir yn y weithred am yr adeilad fel peth mewn golwg yn unig: "Gan fod amrywiol bersonnau hynawsaidd yn foddlon ac yn awyddus i gyfrannu tuag at adeiladu tŷ cwrdd i Brotestaniaid ymneilltuol ym mhlwyf Clynnog, etc." Tebyg ddarfod i'r capel gael ei godi o fewn y flwyddyn y tynnwyd y weithred allan, a diau ei fod y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn Arfon, p'run bynnag a ydoedd y cyntaf yn y sir ai peidio, megys y dywed Robert Jones Rhoslan. Mawrglod i Hugh Griffith Hughes, neu Hugh Griffiths, fel y gelwir ef yn y weithred, am gyflwyno llecyn mor helaeth o dir yn rhodd, fel y dywedir yn y Methodistiaeth, canys dyna ydoedd yn ymarferol, os nad yn hollol, er gwaethaf pum swllt y weithred. Ac nid pobl anheilwng o'u coffa yn ddiau oedd yr ymddiriedolwyr, pe baem ond wedi eu hadnabod, sef oeddynt y rhai'n: Morris Mark Brynaerau isaf, amaethwr; Griffith Roberts Pentre Clynnog, teiliwr; John Jones plwyf Llaniestyn, amaethwr; Robert Owen plwyf Llanaelhaiarn.
Yn 1744 y dywedir gan y Methodistiaeth ddarfod adeiladu'r capel cyntaf gan y Methodistiaid, a hynny oedd yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin; ond capel y Groeswen yn Sir Forgannwg oedd. y cyntaf ebe Robert Jones, oddeutu 1738 (Gwaith, 1898, t. 104.) Ond rhy gynnar braidd ydyw Robert Jones.
"Tŷ Newydd" oedd yr enw ar gapel cyntaf Clynnog. Yn ddiweddarach, ar hen restr tanysgrifiadau mewn cysylltiad â'r rhyfel ar y cyfandir, fe ymddengys enw Robert Roberts Capel" i lawr am bum swllt. Pan godwyd capel Brynaerau, fe ddaeth y "Capel" i ddwyn yr enw "Capel Uchaf."
Y gwyr yn bennaf a aeth dan y baich o adeiladu oedd Hugh Griffith, sef y sawl a roes y tir, Morris Marc, Robert William Tanyrallt, Robert Prys Felin faesog. Cychwynnodd Robert Sion Ifan ohono'i hun i dirio am gerryg, a bu wrthi am dair wythnos mewn chwarel gerllaw ar ei ben ei hun cyn cael help gan neb. Owen Hughes a roes fenthyg ei gar-llusg a'i ferlyn i gludo'r cerryg, a geneth fach iddo, ddeg oed, a dywysai'r merlyn. Daeth yr eneth honno ar ol hynny yn wraig hynod am ei gras, a bu'n aelod am 77 mlynedd erbyn huno ohoni yn yr Arglwydd.
Yr oedd adeiladwaith y capel yn un go hynod. Gwnawd ef fel ag i gynnwys tŷ capel o fewn ei furiau, ac ar ben y tŷ, o fewn y capel, yr oedd llofft. Elai grisiau, yn ymestyn o'r naill bared i'r llall, i fyny'r i llofft, ac eisteddid ar y grisiau hynny. Yr oedd wyneb y capel at y ffordd, ac ar y wyneb yr oedd y pulpud, a'r tŷ ar y chwith i'r pregethwr. Yr oedd darn croes ar gefn y capel gydag eisteddleoedd ynddo, a dôr yn myned allan ohono. Ceid un res o eisteddleoedd ar y dde i'r pregethwr ar hyd y pared nes dod at y darn croes. O gongl y clwt glas tucefn i'r capel elai llwybr hyd at y ddôr yn y darn croes.
Wedi gorffen adeiladu, aeth dau gyda'i gilydd i gasglu at yr adeilad. Galwyd gydag Ellis Hughes Plasnewydd, gerllaw Glynllifon, amaethwr cyfrifol, ac eglwyswr tyn ei olygiadau. Byth- eiriai Ellis Hughes ei achwynion yn eu herbyn: cyhuddai hwy o fod yn dwyllwyr, o ddibrisio hen sefydliadau eu gwlad, o lwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddio. Buwyd yno gydag ef o hanner dydd hyd ddechreunos, a phrofodd ei gyfarthiad yn waeth na'i frathiad, canys fe estynnodd gini iddynt cyn eu bod wedi ymadael.
Torrodd diwygiad allan rywbryd ar ol agor y capel. Fe ddywedir yn hanes Methodistiaeth nad oes dim o hanes y diwygiad hwn ond ei fod. Mae'r un llyfr, pa fodd bynnag, wrth son am y diwygiad ymhlith y plant a dorrodd allan yn nhymor y ddau dŷ, yn adrodd hanesyn i'r perwyl ddarfod i ficer y plwyf, olynydd Nanney, sef Richard Ellis ei fab ynghyfraith, wrth ddychwelyd ar gefn ei geffyl o'r gwasanaeth, gan gyfeirio tuag adref, sef plas y Gwynfryn, ddod ar draws y plant yn gorfoleddu, a dechre eu chwipio mewn nwydau cyffrous, a'u gorchymyn i dewi. Ar hynny daeth Robert Prys allan o'i dŷ, sef y gwr a amddiffynnodd Lewis Evans Llanllugan rhag y gwr bonheddig, ac a ymaflodd ym mhen y ceffyl, gan gyfarch y ficer, "Dyma'r ffordd i'r Gwynfryn, syr," ac ebe fe ymhellach, "Pe tawai y rhai hyn, fe lefarai y cerryg yn y fan!" Ac amserir y digwyddiad oddeutu'r flwyddyn 1759. Fe gofir, pa ddelw bynnag, mai yn 1768 y bu Nanney farw. Yr oedd Richard Ellis, mae'n wir, wedi ymgymeryd â'r ficeriaeth cyn hynny, sef yn 1765 (Cyff Beuno, t. 98). Fe ymddengys ynte y perthyn y digwyddiad i'r diwygiad a dorrodd allan ymhen amser ar ol myned i'r capel.
Torrodd diwygiad arall allan tua'r flwyddyn 1779. Dechreuodd hwn mewn cyfarfod gweddi a gynhaliwyd ar aelwyd y tŷ capel, pan y profwyd rhyw ddylanwad anarferol yn y lle. Y Sul dilynol yr oedd Richard Dafydd o Leyn yno yn pregethu. Gwr o gynneddf fechan oedd Richard Dafydd, eithr fe'i coronwyd y tro hwn â nerth o'r uchelder. Gwaeddai lliaws allan am eu bywyd. Daeth pymtheg ymlaen o'r newydd yn y cyfarfod eglwysig cyntaf ar ol hynny, a pharhaodd lliaws i ddod am ryw dymor. Rhowd yr enw Rowland o Glynnog mewn rhyw barthau i Richard Dafydd ar ol yr oedfa honno, mewn cyfeiriad at Daniel Rowland Llangeitho. Cyffroai'r pethau hyn feddwl Richard Ellis, y ficer, a dyma ef i mewn i'r capel ar ryw Sul gyda'i chwip yn ei law, gan waeddi allan, "Beth yw'r swn drwg sydd yma o bryd i bryd ?" Ymaflodd yn y pen meinaf i'r chwip, a gwnelai ei ffordd tuag at y pregethwr. Ond dyna William Parry y Mynachdy yn ymaflyd yn y gwr mawr, ac yn rhoi ar ddeall iddo na chyffyrddai â'r pregethwr ond ar ei berygl, yr hyn a'i llonyddodd ef.
Fe ddechreuwyd cynnal ysgol nos yn yr ardaloedd hyn flynyddoedd cyn i'r Ysgol Sul gychwyn. Nid oes nemor ddim hanes am dani bellach. Fe ddywedir mai Charles o'r Bala a roes yr ysgogiad cyntaf iddi, drwy gymell y crefyddwyr i fyned i dai y bobl i'w dysgu i ddarllen. A chymhellid yntau i roddi'r cyngor wrth glywed yr hyn a ddywedid wrtho, mewn atebiad i'w ofynion, sef na fedrai lliaws o'r bobl ddeall ei bregethau yn dda. (Canmlwyddiant Ysgolion Sabothol Clynnog ac Uwchgwyrfai, 1885, t. 16. E fu Charles mewn Cyfarfod Misol yng Nghlynnog mor fore a 1778. (Thomas Charles, gan D. Jenkins, I. 85-6). Fe fernir fod y rhai a ddeuai i'r ysgol nos y pryd hwnnw y rhan amlaf yn dra diffygiol mewn gwybodaeth ysgrythyrol a chyffredin.
Yn niwedd 1787 y dechreuodd Robert Roberts bregethu ; ac am rai blynyddoedd yn ddilynol i hynny, bu yn cadw ysgol ddyddiol Gymraeg yn ardaloedd Eifionydd. Ar gais y Cyfarfod Misol fe roes yr ysgol i fyny er mwyn ymroi yn llwyr i bregethu, ac anogwyd ef i fyned i drigiannu i dŷ capel Clynnog, yr hyn a wnaeth. Dywed y Parch. J. Jones Brynrodyn mai Capel Uchaf oedd yr eglwys fwyaf a chyfoethocaf yn Arfon ar y pryd; ac mai trefniant oedd i fod yr eglwys gyflenwi'r tŷ capel â phob angenrheidiau, a bod Robert Roberts i wasanaethu yr eglwysi cylchynol, ac mai dyma ddechreuad y fugeiliaeth eglwysig yn Arfon. (Drysorfa, 1890, t. 101). Ac yma y bu Robert Roberts byw am weddill ei oes, sef hyd y flwyddyn 1802, y rhan fwyaf o'i yrfa fel pregethwr. Rhydd John Jones enghraifft ohono fel bugail. Ar ei waith yn dod i mewn i'r tŷ un tro, ar ol bod am daith yn y Deheudir, dywedai ei w aig Elin wrtho fod Elin Marc Tan-y-garreg, gwraig grefyddol iawn, yn ymyl marw. Aeth yntau yno yn y fan, heb dynnu ei gôb uchaf oddiam dano. Wedi cyrraedd ohono, aeth ar ei liniau, a gweddiodd, gan gyfeirio at yr iachawdwriaeth fel cerbyd o goed Libanus, ei lawr o aur a'i lenni o borffor, ac wedi ei balmantu oddi- mewn â chariad i ferched Jerusalem. Dyma un o ferched Jeru- salem yn cychwyn i'w thaith. O Arglwydd! cyfod hi i mewn i'r cerbyd."
Yn 1793, mewn ysgol nos, y torrodd allan y diwygiad mwyaf nerthol a brofodd yr ardal hon erioed, er mai diwygiad lleol ydoedd. Yr oedd yr ysgol nos y pryd hynny i fesur pell ar ddelw yr ysgol Sul. Ar ddiwedd un o'r cyfarfodydd hyn, ac ar ol i rywun weddïo, fe roddwyd y pennill hwnnw allan i'w ganu, "Fel fflamau angerddol o dân." Methu gan y rhai a arferai godi mesur y tro hwn, y naill ar ol y llall, ac yna y codwyd mesur ar y pennill gan un o'r bobl ieuainc, a dechreuwyd canu gyda blas. Dyblwyd a threblwyd, a chydiai y geiriau, "Ymaflodd mewn dyn ar y llawr," ym mhob teimlad. Yn y man, dyna rywun yn torri allan i lefain, ac wele'r cyffro hwnnw yn cerdded y lle i gyd. Wrth glywed y swn, fe ddechreuodd y cymdogion ddod i mewn i'r capel, canys yno y cynhelid yr ysgol, a disgynnai yr unrhyw ysbryd arnynt hwythau. Cludwyd hanes y newydd-beth ymhellach, a dyma hen wr gyda'i ffon i mewn i'r capel at hanner nos bellach, a dechreuodd foliannu a'i holl egni, er na wybuwyd fod dim neilltuol gyda chrefydd ar ei feddwl ef o'r blaen. Cynyddu yr oedd y braw a'r cyffro yn y capel, a buwyd yno am ysbaid o amser ymhellach. Fe ddaeth pedwar ugain o'r newydd i'r eglwys gyda'r diwygiad hwn, ac arosodd yn draddodiad yn yr ardal mai ychydig o'r dychweledigion a drodd yn ol. Fe ddywedir ymhellach mai at yr holwyddori yn niwedd yr ysgol y deuai y rhan fwyaf o'r ysgolheigion i mewn cyn y diwygiad hwnnw, ond ar ei ol fe ddechreuwyd dod yn brydlon gan bawb yn gyffredinol. Yr oedd effaith y diwygiad hwn yn fwy na'r oll a wnawd yn yr ardal gyda chrefydd, yn ystod y deugain mlynedd blaenorol, o ran dylanwad amlwg o leiaf.
Yn 1793, ar ol marw Griffith Roberts a John Jones, fe benodwyd ymddiriedolwyr ychwanegol, sef Thos. Jones Ffridd, Thos. Owen Penarth, Thos. Rowlands Maesog, John Jones Edeyrn, Robt. Jones Llaniestyn, John Roberts Buarthau, Hugh Williams Drwsdeugoed.
Yn 1794 y cychwynwyd yr ysgol Sul yma. Rhoir yr amseriad hwn, sef tair blynedd a thriugain cyn 1857, mewn ysgrif sydd eto ar gael, ac yn awr gerbron, gan John Owen Henbant bach, yn cael ei gynorthwyo gan John Robert Factory Tai'nlon. Gelwir ysgol Clynnog yn yr ysgrif hon y gyntaf yn Arfon. Yn y llyfryn, Canmlwyddiant Ysgolion Clynnog ac Uwchgwyrfai (t. 12), wrth ddyfynnu cynnwys yr ysgrif hon, fe newidir y tri a thriugain i wyth a thriugain, er mwyn i'r amseriad fod yn flaenorol i'r amseriad a nodir i ysgolion Llanllyfni a Brynrodyn, dan y dybiaeth, mae'n ddiau, fod John Owen a'i gyfaill wedi camgymeryd am y flwyddyn. P'run bynnag a ydoedd John Owen yn gywir neu beidio o ran yr argraff ar ei feddwl mai dyma'r ysgol Sul gyntaf yn Arfon, nid yw'n debyg y camgymerasid y flwyddyn ganddo mewn perthynas â'r hyn a ddygai gysylltiad mor arbennig âg ef ei hun, fel ag a ddangosir yn yr hanes sy'n dilyn. Yr achlysur o godi'r ysgol ydoedd gwaith Charles, mewn oedfa yn y capel, yn pwyso ar yr angenrheidrwydd o gynnal ysgol ar y Sul, er mwyn i blant tlodion gael addysg a'u rhoi ar ben y ffordd. Yr oedd yr hen bobl wedi synnu ei fod yn meddwl cadw ysgol ar y Sul, er yn ofni dweyd dim wrtho i'r perwyl. Wedi dod o Charles i'r tŷ fe ddechreuodd holi yn daer, pwy oedd yno a wnae ddechre'r gwaith? Fe ddywedwyd wrtho am un o'r dynion ieuainc a oedd wedi cael ysgol ddyddiol, hwnnw oedd John Owen. Pwysodd Charles y mater yn daer ar John Owen, ac o'r diwedd ildiodd yntau. Dwy ar hugain mlwydd oed ydoedd efe y pryd hwnnw, a bu'n arolygwr ar yr ysgol am naw mlynedd a thriugain, sef hyd ei farw yn 1863 yn 91 mlwydd oed.
Y Llun dilynol, ebe Robert Ffoulk y gwehydd wrth Huwcyn y teiliwr, "A wyddosti beth, Huwcyn? Milyncodd Sion 'Rhenbant yr ysgol Sul drwy ei phlu a'r cwbwl. Weldi, ni fuasai gwaeth gen i fynd ar y gwehydd i weu ar y Sul na chadw ysgol." "Ac ni fuasai waeth gen innau fynd ar ben y bwrdd i bwytho un tipyn," ebe Huwcyn. Yr oedd John Robert Factory Tai'nlon yn fab i Robert Ffoulk, ac yr oedd yn gwrando ar y sgwrs yma yn hogyn o wyth i naw mlwydd oed, a glynodd y geiriau yn ei gof.
Yr oedd yn yr ardal ddyn ieuanc arall wedi cael ysgol ddyddiol, sef Griffith Owen, brawd i wraig Owen Owens Cors-y-wlad. Cafodd John Owen gan Griffith Owen ei gynorthwyo gyda'r gwaith o gychwyn yr ysgol ar y Sul nesaf i gyd, yn ol yr adduned a wnaeth efe i Charles. Nid oedd neb arall ond Griffith Owen yn foddlon i'w gynorthwyo. Fe ddaeth rhyw nifer o blant bychain atynt, ac yn eu plith yr oedd John Robert, hogyn Robert Ffoulk, a glywodd ei dad yn datgan ei farn ddirmygus o'r ysgol. Nid oedd dim i'w wneud, ebe John Owen, ond rhoi'r planhigion bychain i lawr ynghanol chwyn, heb fraenaru iddynt fraenar. Eithr fe ordyfodd y planhigion y chwyn, a gwywodd y chwyn ymaith gryn lawer. "Ar ol dechre eu plannu," ebe John Owen ymhellach, "mi 'roedd y planhigion yn cynyddu bob Saboth." Dywed ddarfod iddynt ill dau am ryw gymaint o amser geisio trin ac ymgeleddu'r planhigion, gan ddisgwyl iddynt ddwyn ffrwyth, cyn clywed o neb ar ei galon roi help llaw iddynt. O'r diwedd, wrth weled peth cynnydd, dyma William Roberts yr Hendre atynt, sef y pregethwr wedi hynny. A buont ill tri wrthi am ysbaid eto. Cynyddu yr oedd y planhigion bach. Wrth weled hynny dyma amryw atynt o'r diwedd gyda'u gilydd, ac yn eu plith Owen Prichard, gwr deallus, yn deall Saesneg yn o drwyadl a thipyn o Roeg, ac wedi dysgu'r cwbl wrtho'i hun. Robert Owen Aber, eithaf tyst, yw'r awdurdod am hyn o hanes Owen Prichard. Yr oedd y planhigion bach yn dod ymlaen yn well y pryd hynny, ebe John Owen, am eu bod yn cael nodd dirgelaidd i'w gwraidd wrth fod fel yr oeddynt allan o olwg y byd.
Ond wele Charles yma drachefn yn pregethu, ac yn ymholi ynghylch yr ysgol. Wedi deall mai go oeraidd y teimlai'r hen frodyr tuag ati, fe siaradodd ar yr ysgol o flaen y bregeth gyda grym gwywol, gan ddangos mai oddiwrth Arglwydd y Saboth yr oedd yr ysgol wedi dod. Fe chwalwyd y tarth a'r niwl ymaith, ebe John Owen, nes fod yr ysgol yn ymddangos fel pren afalau yn llawn ffrwyth, a chroeso i bawb ddod i eistedd o dan ei gysgod. A rhyfedd o'r hanes, daeth cymaint awydd ar Robert Ffoulk gael eistedd dan ei gysgod a fu arno erioed am eistedd ar ei wehydd!
Bellach dyma gyrchu i'r ysgol fel i bregeth. Gwelwyd fod yn rhaid ymddeffro er cael trefn a dosbarth ar bethau. Heblaw bod yn arolygwr, yr oedd John Owen yn ysgrifennydd hefyd dros ystod rhai blynyddoedd, a deuai a llechen gydag ef dan ei gesail i'r ysgol, ac ar honno y cedwid y cyfrifon am y diwrnod. Griffith Owen oedd yr holwyddorwr, am ysbaid ei oes efallai, a danghosai graffter gyda'r gwaith. Bu Griffith Owen farw yn gymharol ieuanc. Trefnwyd gwahanol ddosbarthiadau o'r wyddor hyd at y Beibl, a llwyddwyd mor bell a hynny. Blinid yr arolygwr bellach gan feibion a merched yn tyrru allan ar ganol y gwasanaeth, gymaint a thair neu bedair o ferched gyda'u gilydd ar dro. Byddai raid eu cyrchu i mewn; a gorfu dwyn eu hachos ar gyhoedd er dangos drygedd yr arfer y syrthiasant iddi. Rhoddwyd gorchymyn caeth nad oedd neb i fyned allan o'r ysgol mwy nag o bregeth, a rhoddwyd terfyn ar y drwg arfer. Ymlaen yr elai'r ysgol nes fod yr hen gapel yn llawn, a phawb yn ei le yn fywiog ac effro. Llanwyd y capel newydd drachefn, pan adeiladwyd hwnnw, fel cwch gwenyn, a chododd haid ar ol haid allan ohono; ond er cymaint a adawodd yr hen gwch, yr oedd yn parhau yn amser John Owen mor weithgar ag erioed.
Yr oedd yr achos wedi cynyddu cymaint yn nhymor y diwygiad, fel y gorfu helaethu'r capel, yr hyn a wnawd yn 1796. A pharhau i gynyddu yr ydoedd bellach. Yn fuan wedi helaethu'r capel dechreuwyd pregethu tua'r Hen-derfyn-deublwyf, a bu pregethu yno am flynyddau cyn codi capel Brynaerau.
Fe fu John Roberts (Llangwm) yn cadw ysgol nos yn yr hen gapel. Ar ei ol ef daeth Michael Roberts. Yr oedd efe yno oddeutu 1798. Bu Hugh Jones, gwr Sian Jones, yn un o ysgolorion Michael Roberts. Arferai'r athraw holi'r bechgyn am y modd y treuliasant y Sul. Un bore Llun, fe ofynodd i Hugh a fu efe yn rhodianna ar y Sul?
"Naddo," ebe Hugh. Yna fe ofynodd i fachgen o'r enw John. "Do," oedd ateb hwnnw. "A oedd rhywun gyda thi ?" "Oedd, Huwcyn." Wedi bod yn gweled pont yr afon Hen yr oeddynt, a adeiledid ar y pryd. Dodwyd Huwcyn i sefyll ar ben y fainc. Pwy ddaeth i mewn yn y man ond Robert Roberts. Ac wedi clywed yr achos, addawodd fyned yn feichiau dros Huwcyn ar ol iddo ef addaw na wnelai mo'r cyffelyb rhagllaw..
Tachwedd 28, 1802, y bu farw Robert Roberts, yn ddeugain mlwydd oed. Nid yw'n hysbys pa bryd y daeth efe i Glynnog, ond fe gesglir oddiwrth ei hanes iddo fod yno am rai blynyddoedd yn amser yr hen gapel. Gwelwyd fod ei breswylfod ef o fewn muriau y capel hwnnw.gwir arwyddlun ei fuchedd ysbrydol, canys yr oedd efe yn un o breswylwyr tŷ Dduw, y rhai yn wastad a'i moliannant. Yr oedd Sian Jones, a oedd oddeutu tair arddeg oed pan fu Robert Roberts farw, ac a fu farw ei hunan yn gant a dyflwydd oed agos, yn cofio clywed Robert Roberts mewn gweddi droion o fewn ei dŷ, cyn dechre'r gwasanaeth yn y capel, o'i heisteddle yn llofft y capel uwchben y tŷ. Pan ofynodd Robert Jones Rhoslan iddo ef unwaith, ymha le y cafodd efe y bregeth ofnadwy honno oedd ar y pryd yn peri'r fath effeithiau yn y wlad, gan gyfeirio at ryw bregeth neilltuol, efe a'i cymerodd ef o'r neilltu o fewn y tŷ, gan gyfeirio gyda'i fŷs i'r tufewn i un ystafell, "Yn y fan yna," ebe fe, ar fy ngliniau, y cefais i hi." Fe glywyd Richard Owen yn adrodd am dano yn nhymor ei argyhoeddiad, yn fachgen un ar bymtheg oed, yn cerdded y gwylltoedd unig, gan ollwng allan y waedd, "O !" drosodd a throsodd, fel yr aeth y sôn am "O! Robert Roberts" drwy'r wlad. Ei genadwri i'w oes a ddelweddwyd ar ei ysbryd yn ing yr argyhoeddiad hwnnw. Fe arferir cydnabod am dano, ei fod ef mewn modd arbennig yn un o'r rhai hynny ag y mae dirgelwch eu dylanwad yn rhyw fodd ynglyn wrth eu personoliaeth. Ymhlith y Methodistiaid, Howell Harris oedd yr hynotaf yn hynny o'i flaen ef, ac Evan Roberts ar ei ol. Yn wr ieuanc, cyn yr anhwyldeb a gafodd, yr oedd rhyw graffter yn ei ymddanghosiad a barai i ddieithriaid holi pwy ydoedd. Ar ol yr anhwyldeb hwnnw, fe anharddwyd ei berson, nes fod yr olwg arno fel un yn ymgrebachu ynghyd. Eithr fe arosodd dirgelwch ei bresenoldeb. Fe'i teimlid yn ei ardal ei hun yn gymaint ag yn unlle. Fe'i canfyddid ef yn dyfod i'w cyfarfod ar y ffordd unwaith gan ddau wr ieuainc ag oedd yn frodyr, ac o safle uwch na chyffredin yn yr ardal, wedi bod ohonynt yn rhyw helynt yn ddiweddar ag y teimlent radd o gywilydd o'r herwydd, er nad oedd ganddynt ddim lle i feddwl y gwyddai ef ddim am yr achos. Y fath oedd arswyd ei bresenoldeb ar eu meddwl, pa fodd bynnag, fel y diangodd y naill drwy'r gwrych, ac y gorweddodd y llall i lawr yn ei hydgyhyd ar waelod y drol, nes ei fod ef wedi myned yn llwyr heibio iddynt. Adroddid gan Mr. Thomas Gray wrth Mr. Howell Roberts, yr hyn a glywodd efe am dano gan hen wraig yn Llundain. Yr oedd Robert Roberts yn cael ei ddisgwyl ar un tro gan gynulleidfa orlawn. Wedi dod i mewn a dringo i fyny risiau'r pulpud, ac ar ol eistedd, fe daflodd gil ei olwg ar y gynulleidfa, yn rhyw ddull megys yn ddigyffro, er ar yr un pryd yn arwyddo cyffro mewnol cuddiedig. Ar darawiad, dyna waedd o orfoledd yn torri allan dros y gynulleidfa i gyd! Y dirgelwch presenoldeb hwn a ieuwyd ynddo ef â dylanwad cyffroadol anghymarol. Fei gwelwyd ef ar ganol oedfa ddilewyrch yn gostwng ei wyneb i orffwys ar y Beibl, gan aros ysbaid yn yr agwedd honno, nes bod arswyd yn ymaflyd yn enaid y gynulleidfa, ac ar ei waith yn codi ei ben i fyny, gwelid ei wyneb yn disgleirio, a chydag effaith ryfedd ar y bobl yr elai ymlaen o'r fan honno gyda'i bregeth. Fe arferai William Owen Prysgol ag adrodd am ewythr iddo ef yn ei wrando. Troes y pregethwr ei wyneb at y pared yn rhyw fan ar ei bregeth, gan erfyn ar yr Arglwydd am iddo amlygu ei hun gyda'r genadwri, a phan y troai drachefn yn ol at y gynulleidfa, yn nychymyg ewythr William Owen yr oedd megys gwreichion byw yn disgyn drwy'r awyr uwch- ben. Ymhlith siaradwyr ni bu neb lluniedydd hynotach nag ef. Edrydd Robert Owen Aberdesach, gwr deallus a goleu ei feddwl o'r gymdogaeth, yr hyn a glywodd gan ei fam, Ann Roberts, ar ol ei mam hithau, yr hon oedd yn gyfnither i Robert Roberts, ac a fu farw yn 1844 yn 88 mlwydd oed, sef ydoedd hynny, y disgrifiai Robert Roberts y drwg mor fyw fel y llechai rhai o'r gwrandawyr allan o'i wydd, ond pan elai ymlaen i ddisgrifio'r da drachefn, y deuai y cyfryw allan o'u cuddfeydd. Fe gofir y byddai efe yn pregethu mewn tai annedd ac ysguboriau, ac yn achlysurol yn yr awyr agored, cystal ag mewn capelau. Ei ddisgrifiadau oeddynt fyw ac eang a manwl. Arferai Christmas Evans a chydnabod bob. amser mai Robert Roberts a roes yr allwedd iddo ef i'w ddawn ei hun. A chyda'r weledigaeth eang efe a gyfunai y ddawn o grynoder; a byddai ganddo ddyweddiadau bachog, eofn, trydanol, y fath ag a gyffroai y meddwl ac a arosai yn ddiogel yn y cof, gan brofi eu hunain megys hoelion wedi eu sicrhau gan feistr y gynulleidfa. Yr oedd ei lais yn cyfateb i'w nodweddiad, yn groew, yn soniarus, yn uchelsain, yn rhoi mynegiad parod i holl gyffroadau disymwth a dieithrol ei feddwl. Angel oedd efe yn ehedeg ynghanol y nef a'r efengyl dragwyddol ganddo. Nid yw Eben Fardd ond yn adrodd yr argraff ar ei feddwl ei hun, oddiwrth yr hyn a glywodd am dano gan hen bobl Clynnog, pan y disgrifir ef ganddo fel "Seraff o'r Nef yn siarad." Argraffodd ei ddelw yn amlwg ar eglwys y Capel Uchaf; ac yr oedd y ddelw honno yn amlwg yma dros ystod y ganrif ddiweddaf mewn angerddoldeb ac mewn ehediadau teimlad. Ar ei wely angau, a'r seiat ar y pryd yn y capel, fe ofynnodd i'w wraig estyn ei ddillad goreu iddo. "I ba beth ?" gofynnai hithau. "Yr wyf am fyned i'r capel i ffarwelio â'r eglwys," ebe yntau, a gorfu ildio iddo fyned. Dywedodd wrth yr eglwys ei fod gyda hwy am y tro olaf, na welent ei wyneb ef mwy yno, a rhoes iddynt aml gynghor, nes y torrodd yr holl eglwys i wylo o hiraeth a dychryn. Yng ngyrfa ffydd, fe aeth o'r naill brofiad i un arall dyfnach, ac o nerth i nerth, nes ymddangos ohono gerbron Duw yn Seion. Yr oedd y dorf a ymgynullodd i neilltuaeth y Capel Uchaf i'w gynhebrwng yn llenwi'r lôn yr holl ffordd oddiyno i eglwys Clynnog, filltir o bellter, ac nid oedd y rhai olaf wedi cychwyn pan gyrhaeddodd y rhai blaenaf yr eglwys. Ac yr oedd yr alaeth yn y wlad ar ei ol yn fwy angerddol efallai nag ar ol neb pregethwr a fagodd Cymru.
Rywbryd yn ystod 1803-4 y dechreuodd William Roberts bregethu.
Yn 1811 fe chwalwyd y capel ac adeiladwyd un arall. Yn fuan ar ol hynny, oddeutu'r flwyddyn 1812, fe brofodd yr eglwys hon ymweliad arall. Fe berthynai i'r eglwys ferch ieuanc, a arferai dorri allan i foliannu yn gyhoeddus ar brydiau. Arferai hi a chyfeilles iddi adrodd penodau yn yr ysgol. Un tro wrth wrando arni, fe deimlodd ei chyfeilles yn ddwys oddiwrth y gair a adroddid, a thorrodd allan i lefain. Ar ol hyn, fe fyddent hwy ill dwyoedd yn torri allan mewn gorfoledd yn fynych yn y moddion, ond nid neb arall. Yr oedd William Roberts yn pregethu ar un tro, a Robert Dafydd Brynengan gydag ef yn y pulpud, ac i fod i bregethu ar ei ol. Testyn William Roberts oedd Luc ix. 62: "Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys i deyrnas Dduw." Yr oedd yr effaith yn anisgrifiadwy, y rhan fwyaf yn gweiddi, eraill yn wylo, eraill wedi eu dal gan syndod. Fe deimlid fod Duw yn y lle. Ni phregethodd Robert Dafydd, ac yr oedd yntau ei hunan fel un a'i fryd ar dorri allan mewn mawl. Cyn hyn nid oedd anuwioldeb cyhoeddus yr ardal wedi ei gwbl ddarostwng. Wedi i'r adfywiadau laesu, ail godai hen ddrygau eu pen; ond ar ol yr adfywiad yma fe newidiwyd gwedd yr holl ardal. Hyd yn hyn, fe arferid cynnal Gwylmabsant ar Lun y Sulgwyn, pan ddeuai llawer o gannoedd ynghyd, ac y byddai'n amser o feddwi ac ymladd. Diflannodd yr ŵyl mor llwyr y pryd hwnnw fel na welwyd byth namyn rhithyn gwelw o honi. Ychwanegwyd oddeutu 130 at "ddwy eglwys Clynnog," a bernir fod oddeutu 100 ohonynt yn perthyn i'r Capel Uchaf. (Gweler llythyr Robert Jones Rhoslan, Medi 15, 1813).
Nid ymddengys yr erys dim adgofion am ddiwygiadau 1818 ac 1832. Fe ddywedir ym Methodistiaeth Cymru fod yr achos yn ymeangu ar ol yr adfywiadau hyn, ac mai ar ol y cyntaf ohonynt y codwyd Capel Brynderwen a Chapel Seion. Eithr ni chodwyd Capel Seion hyd y flwyddyn 1826, er fod yn yr Hen Derfyn gerllaw achos cyn hynny, efallai cyn 1818. Mewn cofnod yn y Drysorfa (1832, t. 141), fe ddywedir fod yna ychwanegiad o 25 yn y Capel Uchaf fel ffrwyth yr adfywiad, a hynny erbyn diwedd mis Mawrth. Fe barhaodd yr adfywiad hwnnw yn y wlad yn hir ar ol hynny, er y dichon fod y Capel Uchaf wedi cael ei gynhaeaf i mewn yn o lwyr erbyn diwedd Mawrth. Y mae hanesyn bychan yn cael ei adrodd a ddaw i lawr o'r cyfnod hwn. Yr oedd yma hen wr a gwraig yn methu cael dim i'w roi yn y casgl mis ers amryw droion, a digalonnid hwy o'r herwydd. Penderfynnodd yr hen wraig werthu iar, er medru rhoi ohonynt eu cyfran yn y casgl mis; a hi aeth a'r iar gyda hi i farchnad Caernarvon, gan gerdded yn droednoeth gyda'i hesgidiau dan ei chesail, er mwyn eu rhoi am ei thraed wrth ddod i mewn i'r dref. Fe gafwyd chwe cheiniog am yr iar, a rhoddwyd y swm yn gyfan yn ei henw hi a'i gwr yn y casgl mis, yr hyn a barodd i'r ddeuddyn dysyml fawr sirioldeb.
Yn 1841 y dechreuodd John Jones Tai'nlon bregethu, a adwaenid fel John Jones Brynrodyn ar ol hynny.
Nid oeddid yn galw blaenoriaid yn ffurfiol yn yr amser gynt, ond elai y rhai cymhwysaf i'r swydd yng ngrym greddf, nid greddf y person unigol ond greddf yr eglwys yn gyffredinol. Diau fod ambell un y pryd hwnnw yn cymeryd y swydd hon iddo'i hun; ond y rhan amlaf fe geid fod amddiffyn dwyfol ar y swydd. Y rhai cyntaf i gyd i lanw'r swydd yn yr eglwys hon oedd y rhai yma : Morris Marc Llyn-y-gele, Hugh Griffith Hughes, Robert Prys Felin faesog, sef y gwr a ataliai gynddaredd yr erlidwyr, a Robert Roberts Tanrallt. Yn nesaf ar ol y rhai'n, fe lanwyd y swydd gan y gwyr yma : Rowland Williams Henbant mawr, William Jones Cae Mwynau, Thomas Owen Penarth, Thomas Rowland Maesog, Thomas Jones Ffridd, y tri olaf yn myned dan y cyfenwad o'r "Tri Thomas," William Prichard Llwyn-gwahanadl, William Williams Ty'n-y-berth, William Williams Henbant mawr, John Williams Ty'ntwll, William Parry Brynhafod, William Jones Ty gwyn. Nid oedd yr un o'r rhai'n yn fyw pan ddaeth Mr. Howell Roberts i Glynnog yn niwedd 1861, oddigerth John Williams Ty'ntwll a oedd wedi ymfudo i'r America; ac yr oedd tymor lliaws ohonynt ymhell iawn yn ol cyn hynny.
Heb sôn am yr un neu ddau a enwyd mewn cysylltiadau neilltuol, y mae rhai eraill o'r gwyr hyn ag y mae iddynt goffad- wriaeth parchus yn yr ardal. Y mwyaf ei ddylanwad ohonynt i gyd, debygid, a'r mwyaf felly o holl flaenoriaid y Capel Uchaf o'r dechre hyd yn awr, ydoedd William Parry. Bu ef farw Ionawr 12, 1861, yn 70 mlwydd oed. Gwr cydnerth, lled dal, gyda gwyneb llyfn, glandeg. Tawel, digynwrf, arafaidd. Un llygad yn cau ac yn agor gryn dipyn; ond pan agorid hwnnw yn llawn, fel y gwneid weithiau, yr oedd rhywbeth yn dreiddiol ofnadwy ynddo. Elai Capten Jones Dinas heibio iddo yn ei gerbyd unwaith, a gwr ydoedd ef a arferai regi'r penaugryniaid, ys dywedai yntau. "Pwy ydi'r dyn yna ?" gofynai i'r coachman. "O! un o'r penaugryniaid," ebe'r coachman. "Pengrwn neu beidio," ebe'r capten, "mae rhywbeth yn y dyn yna !" Golwg difrif iawn arno bob amser: un o'r dynion mwyaf difrif yr olwg arno a welwyd un amser braidd. Heb ysgol, fe ddysgodd ddefnyddio llyfrau Seisnig. Ni bu erioed allan o'r gymdogaeth i aros dim, ond manteisiai ar bob cyfle a gaffai i ddysgu oddiwrth eraill. Yr oedd y noswaith y daeth i'r seiat am y tro cyntaf yn un gofiadwy. Daeth i mewn braidd yn hwyr, ac aeth ymlaen at y fainc o flaen y sêt fawr, a chan fyned i lawr ar ei liniau yn y fan honno, fe ymollyngodd i wylo. A pharhau i wylo yr ydoedd: ni ddywedai ddim, ac ni ddywedid dim wrtho. A'r diwedd fu i'r holl seiat ymollwng i wylo, a myned adref wedyn. heb fod neb wedi dweyd gair. A hon oedd y seiat fwyaf byw ar feddwl y sawl oedd yno o bob seiat erioed. Fe fu ei yrfa grefyddol. yn deilwng o'r dechre hwn mewn wylo: fe hauodd mewn dagrau, a medodd mewn gorfoledd. Efallai ei fod ef cyn hyn yn athraw, canys fe fu'n cadw ysgol nos yn y capel ar ddiwedd blwyddyn, pan fyddai'n gyfleus i weision amaethwyr ddod yno, am ysbaid o amser. Yr oedd yn athraw rhagorol yn yr ysgol Sul. Collodd Sul o'i ddosbarth unwaith; a'r Sul nesaf drachefn yr oedd heb fod yno. Beth wnaeth y dosbarth yr ail Sul hwnnw, oddeutu deuddeg of honynt, ond myned gyda'u gilydd i'w gartref, sef Brynhafod. Nid oes dim hanes iddo golli cymaint a Sul o'i ddosbarth ar ol hynny, os na byddai rhywbeth anorfod wedi digwydd. Fel holwyddorwr yr oedd yn nodedig. Tynnai sylw pob llygad ar unwaith. Yn grynedig ei lais ar y dechre, a dalen y llyfr y cydiai ynddi yn crynu, nes twymno yn ei waith. Yna fe'i teimlid yn feistr y gynulleidfa, a phawb yn ei law. Yr oedd yn weddiwr hynod. "Iesu Grist a hwnnw wedi ei groeshoelio" ydoedd ei air mawr ef mewn gweddi. Mewn gweddi fe fyddai fel gwr yn ymaflyd yn nerth yr Hollalluog. Er yn wr tawel, neilltuedig, meddai ar ddawn gyhoeddus anghyffredin. Rhywbeth yn ei gyfarchiad yn adgoffa am John Jones Talsarn gyda llais soniarus, fe gychwynnai dipyn yn araf ac isel, gan godi'n raddol fel yr elai ymlaen. Fe'i cyfrifid yn wr o gynghor, ac yr oedd yn dangnefeddwr. Diwinydd craff, a chanddo feddwl treiddlym. Ceisiwyd ganddo fyned i bregethu gan rai o bobl y Cyfarfod Misol, ond ni fynnai; ac fe'i camgymerwyd ef am bregethwr yn y Cyfarfod Misol droion. Cyfyngodd ei ddylanwad i lecyn bychan, ac o fewn terfynnau y llecyn hwnnw yr oedd yn wr mawr yn Israel.
Gwr heb fod ond prin yn ail i William Parry ar ryw gyfrifon oedd William Williams Henbant mawr. Cydoesai'r ddau. Yr ydoedd yn ymresymwr, yn wr o wybodaeth gyffredinol, yn ddawnus, yn anhyblyg, ac yn naturiol yn arweinydd. Ei duedd yn hytrach ydoedd cadw eraill draw yn ormodol. Efe a ymfudodd i'r America gyda theulu lliosog yn haf y flwyddyn 1845, ac fel William R. Williams yr adnabyddid ef yn ardal Columbus, Wisconsin. Fe fu'n un o swyddogion gwerthfawrocaf yr Eglwys Gymreig yno dros weddill ei oes. Bu farw Mehefin 5, 1855, yn 66 mlwydd oed. (Gweler Hanes Eglwysi'r Trefnyddion Calfinaidd, Columbus, Wis., 1898, t. 23, gan y Parch. J. R. Jones).
John Williams Ty'ntwll a ragorai fel cerddor. Ymunodd â chrefydd yn niwygiad 1832. Gwnawd ef yn flaenor yn 1840. Aeth i Columbus, America, yn 1850. Galwyd ef yn flaenor yn eglwys Bethel ar ei fynediad yno. O dymer hynaws a dawn hyfryd, ac arosodd gwres y diwygiad ynddo hyd ddiwedd ei oes. Bu farw Awst 20, 1894, yn 92 mlwydd oed. (Gweler Hanes Eglwysi Columbus, t. 51).
Hydref 14, 1857, y bu farw y Parch. William Roberts, yn 84 mlwydd oed, wedi dechre pregethu ers o leiaf 53 mlynedd, ac wedi ei ordeinio ers 38 mlynedd. Pan o saith i wyth mlwydd oed aeth at John Roberts (Llangwm) i'r ysgol yn y capel. Yr oedd hynny yn ystod 1780-1. Bu yno am hanner blwyddyn, a bu yn yr ysgol gyda'r un gwr wedi hynny am chwarter blwyddyn yn Nhaly- garnedd, ym mhlwyf Llanllyfni. Cafodd chwarter arall gyda John Walter yn "eglwys y bedd" Clynnog, ac agos i chwarter arall gyda Richard y Felin Gerryg yn yr un man. Fel gwas fferm ac ar hyd ei oes yr oedd ynddo syched am wybodaeth. Yn 1793 yr ymaelododd yn y Capel Uchaf. Gwelwyd eisoes mai efe oedd y cyntaf a ddaeth i gynorthwyo John Owen a Griffith Owen efo'r ysgol Sul. Ar ol bod mewn gwasanaeth am ryw hyd, fe ymgymerodd a gofal yr Hendre bach, ei dyddyn genedigol, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Pan y byddai gartref, efrydu a chyfansoddi oedd ei waith pennaf yn ychwanegol at weinyddu yng nghynulliadau crefyddol yr ardal. Ymddanghosodd llyfr iddo ar Fedydd yn 1845; efrydodd y proffwydoliaethau gyda thrylwyredd; ac yr oedd yn dra hysbys yng nghynnwys y Beibl, yn gymaint felly fel y gallai adrodd rhannau helaeth ohono yn rhwydd a rhugl. Teithiodd lawer i bregethu ac i ddadleu o blaid gwahanol gymdeithasau, yn enwedig y Feibl Gymdeithas. Pan y byddai ymdrin cyffredinol ar bwnc mewn Cyfarfod Misol, arno ef y gelwid yn ddieithriad i'w agor, a hynny, mae'n ddiau, ar gyfrif ysgrythyroldeb ei ymdrin arno. Fe gyfleai y pwnc bob amser yn esmwyth a naturiol trwy gyfrwng y testynau mwyaf priodol iddo o fewn yr ysgrythyr, a hynny gyda'r fath hwylusdod a helaethrwydd a fyddai'n syndod i bawb. Ysgrifennwyd cofiant iddo gan Eben Fardd i'r Drysorja am 1858 (t. 387), ac yn y modd hyn y disgrifir ef ganddo : "Dyn o faintioli hytrach mwy na'r cyffredin, a golwg iach a chryf arno, o ymddanghosiad amaethwr parchus, oddieithr ei wisg ddu. . . . Yr oedd ynddo ryw naws ysgafn o sarugrwydd disiapri, a dueddai i gadw un mewn ychydig bellter oddiwrtho, nes dyfod yn bur gynefin âg ef. Yr oedd ei lygaid mor gryfion, fel hyd yn oed yn ei henaint y gallai ddarllen yn rhwydd heb wydrau, hyd yr amser y collodd ei olwg yn llwyr. . . . Ei lais oedd deneu a chwynfanus. Ei ymddygiad yn syml a dirodres. O ran ei berson yr oedd yn edrych yn heinyf a lluniaidd, yn ddyn caled. ac anfoethus. . . . Er nad oedd yn hoffi disgyn i dir cymdeithasol y werin ddiaddurn, eto byddai yn craffu yn ddifyrus ar chwareuaeth syml natur o fewn y cylch hwnnw, ac yn tynnu llawer o hanesynau diddan oddiwrth yr hyn a ddigwyddai ddyfod dan ei sylw... Pregethwr i'r deall a'r farn oedd efe yn hytrach nag i'r gydwybod a'r teimlad....Yr wyf yn meddwl y gellid dweyd mai amlach y gwelwyd ef yn wylo wrth weddio neu bregethu ei hun nag wrth wrando ar eraill. . . .Dyn pwyllog oedd efe, na chyfodai ond anfynych iawn uwchlaw tymheredd naturiol y nwydau, yn caru y dull ymresymiadol yn ei bregethau, gan amlygu dawn a hyfrydwch mewn agoryd seliau, mynegi dirgeledigaethau, cysoni anhawsterau, goleuo pethau tywyll; yn fyrr, esbonio, ath- rawiaethu a phroffwydo oedd llinell fwyaf naturiol ei athrylith, yn hytrach na chwareuaeth areithyddol ar dannau teimlad a nwyd. Byddai ei bregethau bob amser yn meddu trefn, eglurdeb rhesym- egol, a chysondeb meddyliol da."
Y peth amlwg cyntaf a deimlwyd o ddiwygiad 1859 oedd dan bregeth Dafydd Rolant y Bala, ar un nos Sadwrn yngaeaf y flwyddyn, pan ddihidlwyd y gwlaw graslawn uwchben etifeddiaeth yr Arglwydd. Torrodd Thomas Griffith Hengwm, wr ieuanc, i wylo dros y lle, ac ymaelododd â'r eglwys y cyfle cyntaf. Cynhaliwyd yma gyfarfod pregethu, pan wasanaethai Thomas Williams Rhydddu, John Jones Carneddi a John Jones Llanllechid. Cyfrifid hwn yn gyfarfod neilltuol ar ei hyd. Ar un nos Sul yr oedd Thomas Williams yma, ac yn derbyn dau i'r seiat, Simon Roberts a Joseph Jones. Yr oedd Thomas Williams mewn rhyw hwyl ysgafnaidd, mewn math o ddawns corff a meddwl, a thorrodd allan, Dyma Simon yn cynnyg ei hunan i gario'r Groes yn lle Iesu Grist-Go- goniant! A dyma Joseph o Arimathea! Fe fydd yn rhaid i hwn gael y llieiniau meinaf i anrhydeddu'r Gwaredwr, tae' nhw'n costio pum sofren y fodfedd; fe fydd yn rhaid i hwn gael dwyn. peraroglau mesur y can pwys-Gogoniant!" Jane Evans a dorrai allan yn y cyfarfodydd mewn penillion o orfoledd:
Na ryfeddwch mod i'n feddw, gwin a gefais gan fy Nuw,
Y mae rhinwedd y gwin hwnnw yn gwneud myrdd o feirw'n fyw:
Arglwydd, tywallt o'r costrelau fry i lawr.
Daeth awel o Galfaria i chwythu gyda gwres,
Mae'r oerfel yn mynd heibio a'r haul yn dod yn nes,
Mae'r egin yn blaendarddu, hwy ddônt yn addfed yd,
Ni chollwyd un a heuwyd draw yn yr arfaeth ddrud.
Tair teyrnas dan eu harfau aeth i Galfaria fryn;
'Doedd neb ond Iesu ei hunan wynebai'r lluoedd hyn;
'Roedd yno frwydr greulon, a gafael galed iawn,
Ond Iesu a orchfygodd cyn tri o'r gloch brynhawn.
Nid oedd popeth o'r mwyaf nawsaidd yn y diwygiad. Ar ol bod yn gwrando ar Dafydd Morgan yn y pentref, aeth amryw o'r bechgyn i ddynwared y droell yn ei lais pan orfoleddent, yr arwydd sicr fod cnewyllyn bywiol y diwygiad yn dechre myned i golli. Wrth glywed am y pethau rhyfedd yn y Capel Uchaf, fe aeth Eben Fardd yno un noswaith. Wrth ddychwelyd oddiyno, gofynai Mr. John Jones (Fferm Llanfaglan) iddo, pa beth a feddyliai o'r diwygiad? Ymhen ennyd dyma'r ateb, "Fe fydd yn rhaid i rai ohonyn' nhw ddod gryn dipyn yn fwy moesgar gyda'u Hamen cyn bo hir," gan arwyddo, debygid, fod yno fwy o swn nag o sylwedd gan rai yn y cynulliad. Tŷb Mr. Jones yw nad aeth efe yno drachefn ar yr un neges. Er hynny, nid oes amheuaeth mai gwir ysbryd y diwygiad a ddisgynnodd ar yr ardal. Ymhen ysbaid ar ol y cynnwrf, deuai nifer o hen frodyr ynghyd i gyfarfod gweddi am wyth fore Sul. Elai David Jones Bwlchgwynt, y pryd hwnnw yn fachgen ieuanc, atynt i gynorthwyo gyda'r canu. Un bore wrth ganu, "O! ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys," yr oedd y dwyster yn anorchfygol. Canu am ennyd, yna eistedd i lawr i wylo; canu drachefn, yna pangfa o wylo; ac felly drachefn a thrachefn am awr o amser. Dagrau melus iawn. Ac heb sôn am ddagrau, bu effeithiau arosol i'r diwygiad yn amlwg ym mucheddau lliaws hyd ddydd eu marwolaeth, ac erys yr effeithiau hyd heddyw yn nefnyddioldeb parhaus eraill.
Fe wnawd seti newydd i'r capel yn y flwyddyn 1859.
Fel y gwelwyd, yn 1863 y bu farw John Owen yr Henbant. Peth hynod yw na wnawd mohono yn flaenor. Eithr fe flaenorai ef heb fod yn flaenor. Safai ar brydiau yn ei hen ddyddiau ar risyn y pulpud, yn wr tal a main a boneddigaidd yr olwg arno. Yn ei law ef yr oedd yr ysgol i gyd. Elai o ddosbarth i ddosbarth er gweled pa fodd y deuid ymlaen. Ar un tro, methu ganddo gael. athrawon, tri neu bedwar dosbarth wedi myned heb athrawon. Rhoes orchymyn i waith yr ysgol beidio. Methu ganddo ddweyd gair am ennyd gan wylo. Wedi dod ato'i hun, "A oes yma neb gymer drugaredd ar y dosbarthiadau heb athrawon ?" Yr oedd pawb yn ei law ar unwaith, a chodai y naill ar ol y llall i ddweyd y gwnae ef ei oreu.
Ym mlynyddoedd olaf John Owen, fe gododd Owen Jones Cae Ifan i'w gynorthwyo yn y swydd o arolygwr. Bu yntau yn y swydd drachefn ar hyd ei oes. Gwr llednais, siriol, a'i dymer yn gymhwyster i'r gwaith. Dilynai yr un cynllun a John Owen. Elai o ddosbarth i ddosbarth: weithiau rhoi gair i'w sillebu, weith- iau adnod i'w darllen, weithiau gwestiwn ar gyfer y Sul nesaf, a byddai'n sicr o alw am yr ateb. Medrai fod yn daer ac yn amyneddgar.
Yn nhymor John Owen, yr athraw a arferai holi. A byddai mwy o ddarllen y pryd hwnnw, a'r athraw yn cywiro, ac yn gofyn ambell gwestiwn wrth fyned ymlaen. Gwell darllenwyr y pryd hwnnw nag yn awr. Gwell mewn pwnc hefyd. Mwy o feirniadaeth fanwl ar eiriau a'r cyffelyb erbyn hyn. Yr oedd yn y Capel Uchaf yn y rhan olaf o dymor John Owen nifer o hen bobl hollol gyfarwydd yn yr Hyfforddwr, fel nad ellid dim gofyn cymaint a chwestiwn ohono nad atebid ef i'r llythyren. Yn nheimlad lliaws ymddanghosai yr Hyfforddwr mor gysegredig a'r Beibl. Ni byddai holi ar blant y blynyddoedd cyntaf a gofir gan Mr. David Jones Bwlchgwynt. Yn lled gynnar gyda hynny yr oedd William Roberts y pregethwr ar un tro wrth y gorchwyl. "Pwy wnaeth bob peth ?" "Duw," atebai amryw. Gofynnai'r holwr eilchwyl yn bwysleisiol, "Ai Duw wnaeth bob peth ?" "Ie," oedd ateb lliaws. Gyda'r ateb hwnnw, dyma hogyn go fawr yn rhoi cam ymlaen. Nage wir!" ebe fe, "fy nhaid wnaeth feudy Cae Crin." Nid oedd y genhedlaeth ieuanc y pryd hwnnw wedi ei thrwytho yn gymaint ag ar ol hynny am ystyr creadigaeth. Deuai rhai mewn gwth o oedran i'r ysgol am y tro cyntaf i ddysgu eu llythrennau. Yr oedd Dafydd Jones, tad Griffith Jones Coed-tyno, yn ddeugain oed yn dysgu'r wyddor.
Bu'r Parch. John Williams Caergybi, y pryd hwnnw yn athraw ysgol Clynnog, yn dod yma am flynyddoedd i gynnal seiat, hyd y flwyddyn 1875. Yn ei ddilyn ef yn y gorchwyl hwnnw, ar gais y blaenoriaid yn gyntaf, ac wedi hynny ar alwad yr eglwys, y mae'r Parch. Howell Roberts.
Y mae'r argraff gafodd Mr. Williams am yr ardalwyr, yn neilltuol preswylwyr glannau'r môr, eisoes wedi ei chyfleu gerbron yn y rhagarweiniad. Edrydd Mr. Roberts yr argraff ar ei feddwl yntau, yn neilltuol am breswylwyr llethrau'r mynydd. Un peth a argraffodd ei hunan ar ei feddwl ef ydoedd, fod delw Robert Roberts yma o hyd ar y tô hynaf o grefyddwyr y pryd y daeth efe gyntaf i'r gymdogaeth. A dywed ef fod y ffurf neilltuol ar fywyd crefydd a welodd efe yma ar y cyntaf, sef "yr hen dinc a'r gwres a'r eneiniad nefol " wedi ymadael gyda'r hynafgwr olaf " sydd heddyw yn ei fedd, ag y methwyd a'i ddwyn i'r bedd ddoe o'i fwthyn mynyddig oherwydd y lluwchfeydd eira, ac yr oedwyd. dydd ei angladd am dridiau er mwyn clirio'r ffordd." Cymeriadau gwreiddiol a dyddorol y disgrifir hwy ganddo ef, heb wybod nemor am reol a threfn, ond yn cymeryd eu ffordd eu hunain heb fod neb yn meddwl am eu galw i gyfrif. Mewn cyfarfod gweddi ar ddydd diolchgarwch, dyma'r ail i gymeryd rhan yn codi i fyny ac yn rhoi allan bennill. Nid oeddys yn arfer darllen yr ysgrythyr ond ar y dechre. Arferai yr hen wr hwn eistedd o dan y ddesc yn y set fawr, a chan ei fod mor agos ati, nid el ymlaen yno, a'r tro hwn fe gymer y Beibl oddiyno, ac oddiar ei eistedd heb gael. ei weled ond gan ychydig fe chwilia am fan i'w ddarllen. Pan gododd i ddarllen yr oedd pawb braidd yn ymgrymu. Eithr gwr eithaf hamddenol ydyw efe, ac el ymlaen yn dawel gyda'r darllen, gan ddweyd yn o ddigynwrf cyn dechre, "Wel, mi ddarllenwn ni bennod o'r ysgrythyr; mae hwn, beth bynnag am ein gweddiau ni, yn werth ei wrando." Codai y naill ar ol y llall oddiar eu gliniau yn y sêt fawr, a chodai eraill eu pennau, ond nid pawb. Nid oedd pawb yn ddigon effro i wybod pa beth oedd yn myned ymlaen. Dyma'r trydydd yn codi yn arafaidd, a'i olwg yn dechre pallu. "Nid wyf yn gweled yn ddigon da i ledio pennill, am wn i; mi ddeuda i'r tipyn sydd ar fy meddwl i yn lle hynny, am wn i." Ac yna, yn lle pennill i'w ganu, dyma glamp o gyfarchiad difyr i'w wrando. Ergyd ac amcan y sylwadau oedd dangos gymaint mwy o achos oedd gennym y dyddiau hyn i fod yn ddiolchgar i'r Brenin Mawr nag yn y dyddiau gynt. Mor afiach y byddai'r dorth yn fynych, ac mor ddrud yn yr hen amser. Yr oedd wedi clywed am lwyth llong o rug yn dod i Borthmadoc, ac am bobl yn myned yno. o bobman gyda throliau rhag newynu. Yna fe gywira ei hunan, "Ond o ran hynny, nid oedd troliau yn y wlad, am wni; nid oedd yr un yn y Gors beth bynnag, mi glywais mam yn dweyd." A'r fath flawd gwyn sydd gennym yn awr, ac mor rad; nid oedd y boneddigion yn cael ei well; mae hyd yn oed y werin bobl bellach yn cael y 'double XX.' Yr oedd y cynhaeaf diweddaf wedi bod yn wlyb, ond fe gafwyd hin weddol i bawb oedd yn ddigon effro i gipio'r cnwd. Y tatws yn unig oedd ar ol, ac am y rheini, eb efe, "mi rhown i nhw rhwng cromfachau, am wn i, a pheidio sôn am danyn nhw." Hyna yn lle pennill!
Yr ail a gymerodd ran, er hynny, oedd y gwr gwir hamddenol. Gwynt teg neu groes, fe'i cymerai fel y deuai. Nid oedd dim braidd. yn menu arno. Efe oedd yr olaf i ymostwng i'r drefn newydd gyda gofaint, pan na fynnent wneud pedolau o'r hen haiarn. Parhäi i ddwyn hen bedolau i'r efail, nes o'r diwedd i'r gof ei wrthod. "O'r gore, Wil," ebe yntau. "Cymodder, tro Bute," a throes am adref. Ond pan oedd wrth bont y ffactri, rhwd neu ddwy o'r efail, dyma floedd y gof ar ei ol, wedi newid ei feddwl erbyn hynny, "William Jones, mi wna i am y tro yma eto." "O'r gore, Wil. Cymodder, tro Bute." Eithaf tawel felly neu fel arall.
Bu'r gwr yma yn dilyn bwrdd y gwarcheidwaid am flynyddoedd. Byddai hefyd yn dilyn y vestri blwyfol, ac yn gyffredin yn ymyl y vicar. Anfoddlon braidd fyddai'r vicar i ddodi cynygiad heb fod wrth ei fodd gerbron. Wrth ei weled yn petruso, fe ddywedai William Jones, "Cantiwch hi bellach, Mr.———, i ryw ochr." Yn ddiweddar ar ei oes y daeth efe yn aelod eglwysig. Gwrandawr cyson, astud, cyn hynny, a ffyddlon yn yr ysgol Sul, ond yn rhy hoff o'r tŷ cwrw." Ar ol ei dderbyn ar brawf a chyn ei dderbyn yn gyflawn aelod, fe fyddai, bob wythnos neu ddwy, wedi dod un sêt yn nes i'r sêt fawr, nes bod yn y sêt nesaf ati pan dderbyniwyd ef yn llawn. Yn fuan wedi ei dderbbn daeth i'r sêt fawr ohono'i hun, a hynny heb neb yn ei feio. Yno hefyd y bu efe hyd y diwedd, yn edrych ar ol y swyddogion, fel y dywedai. Os byddai ambell un ohonynt yn o hwyrfrydig i gymeryd rhan, fel y byddai yn digwydd weithiau, fe'i cymhellai hwy i hynny mewn dull braidd yn geryddol. A chodai i siarad weithiau ohono'i hun, gan ofalu bob amser am fod yn fyrr, a theimlid ar brydiau y siaradai i bwrpas hefyd. Un tro fe gyffelybai ddyn yn treio credu i ddyn yn treio cysgu, yn troi ac yn trosi o'r naill ochr i'r llall, ac yn methu; ond erbyn y bore, mae'r dyn yn cael ei fod wedi cysgu rywsut, na wyddai sut na pha bryd. Felly gyda dyn yn treio credu. Er methu, deil o hyd i dreio; a phan ddeffry fore'r adgyfodiad, fe gaiff yntau ei fod yn rhyw fodd wedi credu, heb wybod pa sut na pha bryd.
William Prichard Brynhafod bach a fu'n dysgu'r wyddor i'r plant am 60 mlynedd. Gwr a wyddai nerth tawelwch ydoedd yntau. Ar adeg pan ddibynnid am fywiolaeth ar y cynhauaf yd, yr oedd yn wlyb iawn un tymor. Bob Sul ers tro hi fyddai yn sychu yn ddymunol. O'r diwedd, ar ol dod o'r oedfa un nos Sul, dyma William Prichard, gyda chymydog iddo, i'r ŷd, a dechreuodd ei gario i mewn. Y seiat nesaf dyma dorri'r ddau allan. Fe sorrodd y cymydog am ysbaid o'r achos; ond y seiat nesaf i gyd dyma William Prichard i mewn, a phan awd ato dywedodd air o'i brofiad heb gymeryd arno fod dim byd neilltuol wedi digwydd.
Dafydd Prichard Bryngoleu oedd un a ddaeth yn amlwg yn niwygiad 1859. Dilyn o hirbell cyn hynny. Fe ddaeth yn weddiwr hynod ar ol hynny. Fe gymerai ran mewn gweddi cyn y diwygiad, ond mewn llais mor isel fel mai o fewn cylch bychan y clywid ef. Yn nhymor y diwygiad fe dorrodd allan mewn bloeddiadau. Byddai Francis Williams y Filltir yn mawr fwynhau y bloeddio hwnnw, fel y chwarddai rhyngddo ac ef ei hun wrth wrando arno. Wrth fyned allan o un cyfarfod gweddi, dyma Francis Williams yn rhoi pwniad i dad David Jones Bwlchgwynt, "Glywaisti yr hen gâr yn i chael hi heno?" Bu dull esgeulus Dafydd Prichard gynt yn hir flinder i Francis Williams, canys yr oedd y ddau yn byw yn ymyl eu gilydd.
Gwr cymeradwy iawn, fel y gellir yn hawdd ddyfalu, oedd Francis Williams ei hun. Y chwarddiad hwnnw y sonid am dano dan floedd Dafydd Prichard, chwarddiad gwr a adwaenid fel un o ddifrifwch mawr ydoedd. Dywed Mr. David Jones y byddai rhyw dôn ddifrif yn ei lais mewn gweddi yn peri fod y sŵn ymhen dyn ar ol hynny.
Thomas William Tanyclawdd oedd weddiwr hynod arall. Teimlodd rhywbeth neilltuol yn niwygiad 1859, ac arosodd yng ngwres y diwygiad ar ol hynny, fel na byddai yn ymddangos fyth hebddo. Bu marworyn y diwygiad ar ei allor am hanner can mlynedd, ebe Mr. David Jones. Yn y cyfarfod gweddi pen mis, siomid y cynulliad os na byddai efe yn cymeryd rhan, a'r un fath yn y cyfarfod gweddi nos Sul, os byddai efe yn bresennol.
John Owen Tyddyn du oedd weddiwr hynod arall eto. Sylwa Mr. John Williams ar ddawn gweddi y cylch hwn, ac ar yr amrywiaeth a'i nodweddai. Dywed ef y tyfai pob pren yn ei ffurf briodol ei hun. Sonia am un y dywed ei fod yn neilltuol o flaen ei feddwl: nid oedd yn ddyn gwybodus ym mhethau byd nac eglwys; nid oedd yn athraw yn yr ysgol Sul, ac nid oedd yn amlwg fel atebwr yno; ni wyddai ddim am ddiwinyddiaeth fel y cyfryw. Torri cerryg ar ochr y ffordd oedd ei alwedigaeth. Ar ei liniau yn gyhoeddus yr oedd yn gyfoethog o fater, a'i weddi yn amlygu dirnadaeth gref o drefn yr efengyl, nes peri syndod i bawb. Deffroai'r teimlad o ddirgelwch wrth wrando arno, yn enwedig yn ei ddefnydd o adnodau'r Beibl, gan mor briodol a chyfaddas i'w hamcan oeddynt, a chan y nerth oedd yn yr adroddiad ohonynt.
Siani Ellis oedd yn hynod ymhlith y chwiorydd, fel y ceir sylwi arni hi eto ynglyn â hanes Ebenezer. Mari William Tai'n lôn oedd yn fyw iawn ei theimlad. Y llygedyn lleiaf mewn gweddi, hi a deimlai oddiwrtho yn y fan. Mari William a Sian Ifan y Felin a gydient yn nwylaw eu gilydd i neidio pan fyddai'r teimlad wedi codi yn uchel. Mari William yn gyffredin a arweiniai yn y gorfoledd, a'r Wenynen Fawr y gelwid hi. A gwraig o hynodrwydd oedd Catrin, merch Robert Roberts, priod Rhys Owen, a mam John Owen Bwlan a nain Mr. John Owen Caer, gan fod dylanwad crefydd yn fodrwyog ac yn ymestyn mewn cylchoedd ar wyneb y môr o wydr. Yr oedd Rhys Owen a'i wraig yn aelodau yn y Bwlan yn rhan olaf eu hoes (Gweler Bwlan). Mari Sion Ty'ntwll oedd un hynod arall. Marged Dafydd hefyd, cyfnither John Elias, a mam y Parch. John Jones Brynrodyn, a Mr. Joseph Jones, un o flaenoriaid y Capel Uchaf, yn awr (1909) yn byw yn y Groeslon, Llanwnda. Ar ol iddi hi fyned yn analluog i gerdded i'r capel, cawsai bregeth yn y tŷ ar noson waith yn awr a phryd arall. Pregethodd Dewi Arfon iddi ar y Bod o Dduw a'i briodoliaethau. Dewi," ebe hi wrtho cyn myned ohono ymaith, "pan y bydda fi yn myned y ffordd yna i feddwl am Hollwybodaeth a Hollbres- enoldeb, mi fyddaf yn boddi, wel di, a da iawn fydd gen i droi at Iesu Grist am fy mywyd."
Pan ddeuai y bobl hyn ynghyd i'w cynulliad eglwysig, fe ddeuai gwahanol elfennau i'r golwg ynddynt. Yr oeddynt gan mwyaf yn bobl syml, unplyg, onest, yn ddiffygiol weithiau mewn coethder a'r teimlad o briodoldeb, ond nid oedd pawb felly, gan fod rhai ohonynt yn fonedd natur ac wedi eu puro drwy dân. Dywed Mr. John Williams y byddent yn troi i holi'r gweinidog mewn dull syml, ac y byddai'r holi weithiau ar fin myned yn groesholi. Efe a noda fel yr elfen o nerth ynddynt, fod yr ychydig lyfrau a ddarllennid ganddynt yn cael eu darllen yn drwyadl, ac yn arbennig y byddai rhai ohonynt yn myfyrio yng nghyfraith yr Arglwydd ddydd a nos.
Edrydd Mr. Howell Roberts am un gwr yn sefyll i fyny mewn cyfarfod brodyr, gan bwyntio gyda'i fys at hen flaenor cymeradwy, "Yr wyti, hwn a hwn," ebe fe, "yn felltith i'r achos yn y Capel Uchaf." Galwyd y cyhuddwr i gyfrif yn y cyfarfod brodyr dilynol a gwysiwyd ef gerbron y sêt fawr. Er mwyn ei helpu i wneud yr ymddiheurad gofynnol, ebe'r llywydd, "Mi glywais Robert Ellis Ysgoldy yn codi mewn Cyfarfod Misol ac yn dweyd, 'Gyda'ch cennad, Mr. Cadeirydd, mi ddigwyddodd i mi yn fy ffwdan ddweyd geiriau a roisant friw i fy anwyl frawd, Mr. Rees Jones Felinheli. Mae'n ddrwg iawn gennyf i mi eu dweyd. Hen ffwl gwirion oeddwn i.' Hwyrach y byddwch chwithau, hwn a hwn, ar ol oeri, yn barod. i gyfaddef fod yn ddrwg gennych ddweyd fod hwn a hwn yn felltith i'r achos." Eithr â golwg daiog arno y cododd y gwr drachefn, a chan estyn ei fŷs fel o'r blaen, ail-adroddodd yr un cyhuddiad. Ar hynny aeth yn ffrwgwd go wyllt cydrhyngddynt, ac aeth y brodyr allan. Pan adawyd y ddau efo'u gilydd, hwy aethant yn eithaf cyfeillion. Ar ei wely cystudd, ni thalai neb gan y cyhuddwr i ymweled âg ef ond yr hen flaenor a gyhuddid felly ganddo. Gwaith hawdd fyddai amlhau y cyfryw enghreifftiau, ond digoned a roddwyd eisoes.
Owen Jones yr Henbant, mab John Owen yr Henbant, oedd, yn nesaf at William Parry, y blaenor mwyaf ei ddylanwad a fu yn y Capel Uchaf. Hen lanc heb ddawn gwresog, ond o grefydd ddiam- heuol, a thra chyfarwydd yn yr Ysgrythyr. Dywed Mr. David Jones na chyfarfyddodd â neb mwy felly, ac na welodd mono erioed wrth wrando'r plant yn dweyd eu hadnodau, na fedrai eu cynorthwyo os byddai eisieu. Byddai ei gyfarchiadau yn seiat nos Sul yn fynych yn un gadwen o adnodau, ac wedi eu cymhlethu â'u gilydd yn ddeheuig. Yr oedd Catecism Brown yn gryno yn ei gof. Rhagorai ar ei dad mewn cryfder meddwl a nerth cymeriad a dylanwad cyffredinol. Neilltuedig yn hytrach ydoedd ; ac yr oedd neilltuolrwydd yn ei gymeriad. Ni bu yn y Capel Uchaf yr un yn fwy felly: William Parry oedd yn hynod felly o'i flaen ef a Hugh Jones ar ei ol. Yr oedd ei onestrwydd yn ddiareb; gwybyddid am dano y byddai yn well ganddo wrth werthu anifail ei golledu ei hun na cholledu y prynwr. Dywed Mr. John Williams na fuasai ganddo ef syniad am foneddwr o ysbryd, heb ddim o allanolion boneddwr, onibae iddo adnabod Owen Jones. Dywed Mr. Williams mai nid unrhyw gais i actio'r boneddwr oedd ynddo, mai prin y gellid tybio am y peth yn dod i'w feddwl o gwbl, ond ei fod yno heb unrhyw gais na meddwl o'i eiddo ef, fel ffrwyth natur ac ysbryd yr Efengyl. Yr achos yn y Capel Uchaf, ebe Mr. Williams, oedd ei safle o edrych ar bob peth: am yr achos y pryderai ac y gweddiai. Er na feddai efe mo wresogrwydd dull y rhelyw o bobl y Capel Uchaf, yr oedd ei ddylanwad er hynny yn fawr arnynt, fel un y credid ganddynt yr arferai ddal cymundeb gwastadol â Duw, fel un llwyr ymroddgar i waith yr Arglwydd, ac fel un, os braidd yn neilltuedig, oedd eto yn dryloew ei fuchedd fel y grisial. Mewn Cyfarfod Misol unwaith yn y Capel Uchaf, o'r neilltu yn y tŷ capel, yr oedd Owen Jones yn adrodd rhywbeth o'i brofiad wrth David Jones, y pryd hwnnw o Gaernarfon, a Mr. William Jones Bodaden, yn fachgen y pryd hwnnw, yno yn gwrando. Fe gyfeiriai at ryw adeg o gyfyngder yn hanes yr achos, cyfyngder gan bwysau'r ddyled efallai, neu ryw achos neu achosion eraill, pryd y llethid ef braidd o'r herwydd. Ond wrth gerdded tuag adref un noswaith, a'r pethau hyn yn pwyso ar ei feddwl, fe dywynnodd ar ei ysbryd yn ddisymwth y fath weledigaeth ar Grist a threfn y prynedigaeth, fel y teimlodd yn y fan y buasai yn foddlon i gymeryd ei ladd er ei fwyn ef, ac na buasai cymeryd ei fywyd ymaith er mwyn yr achos yn ddim mwy yn ei olwg na lladd gwybedyn. Wedi gwrando, fe adroddodd David Jones am Simeon Caergrawnt yn cael rhyw amlygiad cyffelyb i'w feddwl, yn rhyw fwlch neu gilydd, pan y profodd gair o'r Ysgrythyr yn gymhelliad ac yn gysur iddo, ac megys yn cael ei lefaru wrtho gyda chyfeiriad at ei enw ei hun, sef y gair a ddywedir am Simon o Cyrene, "Hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef." Ac un yn cymeryd baich yr achos arno'i hun yn gwbl oedd Owen Jones, pa un a oedd hynny mewn golwg gan David Jones ai peidio, yn y sylw a wnaeth efe. Yr oedd rhyw arfer o duchan a gruddfan gan yr hen frodyr hyn; ac yr oedd yn eithafol yn Owen Jones. Golwg sobr, difrif, fyddai arno bob amser. Dywed Mr. Howell Roberts mai ar wely angau y gwelodd efe y wên gyntaf erioed ar wyneb Owen Jones; ond fod y wên honno yn hardd, yn nefolaidd. "Ni wyddai oddiwrth wenu, nes aeth i wely angeu: 'gwenodd yno yn ei law." Ymadawodd â'r byd heb duchan. Bu ef farw yn 1878.
O holl wyr y Capel Uchaf, tebyg mai Hugh Jones Bron-yr-erw oedd y mwyaf cwbl nodweddiadol. Efe oedd cynnyrch mwyaf priodol y lle. Yr oedd rhywbeth yn William Parry yn ei wahanu oddiwrth y rhelyw, ac i fesur yr un fath yn Owen Jones. Gwerinwr gwargam, uchel ei lais, oedd Hugh Jones. Ni welsai'r hen Gapten Jones reglyd o'r Dinas gynt ond taiog delffaidd ynddo, nac ar yr olwg gyntaf arno nac ychwaith wedi ymgyfathrachu ymhellach âg ef. Er hynny, tywarchen o ddaear y Capel Uchaf oedd Hugh Jones wedi ymbriodi â Haul Cyfiawnder. Rhaid peidio cymeryd y dywarchen yn rhy lythrennol chwaith, gan mai dod yma o'r Waen— fawr a ddarfu efe ar ei briodas. I'r craff diragfarn, pa ddelw bynnag, yr oedd rhyw arwyddion o hunan—lywodraeth yn dod i'r golwg ynddo fwyfwy. Yr oedd neilltuolrwydd arno ef yn gymaint ag ar William Parry neu Owen Jones, canys neilltuolrwydd mawr ydoedd hwnnw, pan welid gwerinwr gwladaidd, agored, garw, yn troi yng nghylchoedd breninllys y nef yn gartrefol megys yn ei gynefin mynyddig. Yn ffair Caernarvon, corach crwbi, gwael yr olwg arno ydoedd efe, gyda'i lais yn rhywle i fyny yn yr awyr, yn cyfarch pawb wrth ei enw bedydd, yn yr ail berson unigol yn gyffredin,—oddigerth ambell un a berchid ganddo ar gyfrif safle ei deulu,—wedi ei wisgo yn glud mewn brethyn cartref, a gwraig dal, fochgoch, heb fod nepell oddiwrtho, a hogyn llonydd gyda hwy â'i lygaid yn sefydlog ar ba beth bynnag yr edrychai arno. I hogyn y dref nid oedd Hugh Jones ond enghraifft go dda o'r drel mynyddig. Ymhen rhai blynyddoedd dyma Gyfarfod Misol yn Ebenezer Clynnog. Y pwnc o fedydd yn cael ei agor gan wr ieuanc tal, tywyll, llygatddu, gydag arian byw yn ei gyfansoddiad, a thân aflonydd yn ei lygaid, a neilltuolrwydd yn ei bresenoldeb, a meddyliau byw ganddo ar y pwnc. Eithr nid oes dim yn tycio: nid yw tân y llygaid yn llosgi na'r meddyliau yn cyffro, ac nid oes dim llewyrch ychwaith ar y siarad a ddilyn hyd nes galwyd ar ryw Hugh Jones Bron—yr—erw, i ddiweddu'r cyfarfod, a dyma ddrel mynyddig yr hen ffeiriau gynt yn codi yn ddisymwth o ganol y llawr, a dyma saeth anisgwyliadwy yn gwanu'r awyrgylch nes deffro'r lle i gyd. gyda'r pennill a ddaeth allan o'i enau:
Mae Abraham i ni yn dad,
Nid yw ei had yn aflan;
Yr oeddynt mewn cyfamod gynt,
Ni fwriwyd monynt allan.
Ac yr oedd y weddi drachefn yn yr un cywair. Ni cheid ef fel hyn yn y Cyfarfod Misol bob amser Ar dro arall fe draethodd brofiad go isel, pan y cododd David Morris gan ei gyfarch, "Hugh Jones, tynnwch fwy o waith yn eich pen, fel y bydd raid i chwi fyned at Dduw mewn gweddi am gymorth i'w wneud, ac y mae yn sicr o oleuo arnoch." Tebyg fod amcan y sylw i alw Hugh Jones oddiwrth fyfyrdodau mewnol yn fwy at waith allanol. John Jones Talsarn a'r Capten Owen Lleuar bach oedd yn cymeryd llais yr eglwys pan ddewiswyd Hugh Jones. Pan ddywedwyd mai Hugh Jones oedd wedi ei ddewis, dyma fo yn codi o'i gongl yn ei gôt ffustian a'i ddau lygad yn perlio, "Yr ydych wedi methu gyn sicred a bod y byd yn bod." Y mae John Jones yn gwenu, gan wneud dau lygad mawr arno. Y bachgen David Jones, yn awr o Bwlchgwynt, oedd yno yn cymeryd sylw. Gwr tra diniwaid yn ei ffordd ydoedd Hugh Jones. Yn chwarel Dinorwig yr oedd yn cydweithio â dyn arall. Nid oedd Hugh Jones nemor o chwarelwr, a gwelai fod ei gydweithiwr yn chwarelwr dan gamp. Ni fu'n hir cyn myned at y goruchwyliwr, Griffith Ellis, a gofyn iddo a oedd ganddo ddim gwaith arall a allsai efe gael arno'i hun? "Beth sydd ar y gwaith?" gofynnai'r goruchwyliwr. "Mae'r hogyn acw,' ebe yntau, "yn cael cam ofnadwy efo mi: mae o cystal a dau; nid ydw'i ddim ffit efo 'nacw." Arferai Griffith Ellis ddweyd ar ol hynny na welodd efe mo neb yn y chwarel gyn onested a Hugh Jones: fe welodd lawer yn cael cam drwy weithio gydag eraill anfedrusach, ond ni welodd mo'r gwr anfedrus yn dod i gwyno dros y llall yr un tro arall. Bu'n gweithio yn galed, a byw yn galed ar ei dyddyn llwm, uchelbris, ar lecyn uchel. Byddai ef a'i deulu yn cludo pridd mewn piseri o'r gwaelodion er mwyn cyfoethogi'r tir. "Yr hen grachen acw" oedd ei enw ef ar y lle. Ond os gwr tlawd, rhaid bod yn wr gonest. "Mae gennyf ddwy neu dair o silod o ddefaid acw," ebe fe wrth Mr. John Jones Llanfaglan. Mr. Jones yn cynnyg fel ar fel am danynt. "Mae arnaf ofn y cewch eich twyllo ynddyn nhw, John: mae'r niwl yma wedi peri i chwi feddwl yn rhy dda ohonyn nhw." Pe meddyliasai ei fod yn cael cynnyg rhy isel, fe ddywedasai ei feddwl yr un mor agored, ebe Mr. Jones. Gwerthu buwch yn y ffair yng Nghlynnog. "Mae ganddi bwrs go dda," ebe'r prynwr, gan wybod, mae'n debyg, gyda phwy yr oedd yn delio. "Na," ebe yntau, "hen bwrs cigog ydi o." Mynd â'r merlyn i'r ffair gyda'r carchar am ei wddf er dangos i bawb mai anifail barus ydoedd. "Ni werthwchi mono fo gyda'r carchar am ei wddf," ebe rhywun wrtho. Eglurai yntau y gallsai wneud i ambell un fel yr ydoedd, ond nid iddo ef: yr oedd am i'r math hwnnw o brynwr ei gael na byddai'r anifail yn golled iddo. Dygai ei deulu i fyny yn ei egwyddorion ei hun, a chyfarchai y naill y llall yn y tŷ yn y person unigol; ond ni feddai awdurdod briodol tad. Galwodd gwraig o Bwlchderwyn gydag ef, a phrynnodd un o'r moch bach ganddo. Yna gofynnodd y wraig ymhellach, pa faint oedd arno eisieu am ryw fochyn bychan oedd yno, y lleiaf o'r torllwyth. "Pymtheg swllt," ebe yntau. Yr oedd un o'i ddau hogyn yno yn gwrando, nid yr un a aeth yn bregethwr, yr hwn a dynnai yn fwy at deulu ei fam, ond y llall mwy diniwaid, gwir ddelw ei dad. Torrodd hwnnw allan yn y fan, " 'Rwyti yn gofyn gormod," ebe fe, "mi fuasai chweugain yn ddigon am dano." Y tad yn ildio i bris yr hogyn. Pan tarewid arno ar y ffordd, nid arosai i gael sgwrs efo neb o'i gymdogion. Dechreuai gyfarch mewn tipyn o bellter, a pharhae yr ymddiddan ar ol myned ohono heibio. Fe roe'r argraff ar rai fod ei galon ef eisoes wedi ei llwyr roddi i nesu at Un arall. Ond ni byddai nemor sgwrs i'w gael gydag ef pan ddigwyddid ei ddal dipyn ar y ffordd, neu pan gydgerddid âg ef. Rhaid oedd ei glywed ar ei liniau, neu'n darllen rhan o'r ysgrythyr, gan osod y synwyr allan, neu ynte yn rhoi cyfarchiad. Yr oedd yn rhaid cymell a dirgymell weithiau cyn y ceid ef i siarad. Pan godai, troai at y pulpud, gan wasgu ei ddau lygad yn dynn, a dechreuai dywallt allan ei fyfyrdodau. Nid cyfarch yn briodol y byddai, ond myfyrio yn uchel, a ffrwyth ei fyfyrdod a'i brofiad yn ymdywallt allan, a phawb yn ymwneud i wrando. Bernid mai myfyrio yn llyfr y gyfraith y byddai ddydd a nos, a phan gyda'i orchwyl hefyd, ac am hynny nid ymadawodd llyfr y gyfraith hon o'i enau, canys er bod ohono yn hwyrfrydig i godi, wedi codi fe welid ei fod yn fynych fel costrel ar dorri gan win newydd. Fel y gallesid meddwl am wr o'r nodwedd yma, mewn gweddi y byddai hynotaf. Ac er fod gweddiwyr eraill hynod yn y Capel Uchaf, fe fyddai efe ar adegau yn hynotach na phawb, ac uwchlaw iddo'i hun. Yr hyn oedd hynod ynddo ydoedd, nid yr hyn oedd dan glo ei ewyllys, ond yr hyn a ddiangai oddiwrtho pan wedi anghofio'i hun. Yna fe fyddai ei feddwl fel ar ehedfa; ac ar ei adegau uchaf ni theimlid yn ormod dweyd ei fod fel angel yn ehedeg ynghanol. y nef a'r efengyl dragwyddol ganddo. Y plentyn a ddeuai i'r golwg ynddo mewn gweddi, a byddai ar adegau fel gwr yn llefaru wyneb yn wyneb â Duw. Eithr fe'i ceid ef hefyd ar yr un weddi weithiau, ar ol codi yn uchel, yn disgyn i lawr drachefn, a'r arucheledd coeth wedi ei lwyr golli Mae sôn am ryw weddi hynod iddo, pan lwyr-lyncid ef yn y pethau a lanwai ei fryd. Elai ol a blaen yn y sêt fawr ar ei liniau, ac yr oedd y lle fel wedi ei lapio mewn distawrwydd ac ofnadwyaeth. Pan fyddai yn gyndyn iawn i wneud dim, neu wedi ymollwng o ran ei brofiad, ei gyd-flaenor, Griffith Jones, a'i cyfarchai, "Cofia am yr hen weddi fawr honno!" "Paid a son wrtha'i am dani hi," ebe yntau. Prun ai siarad ynte gweddio y byddai, y ddau begwn y troai ei fyfyrdod arnynt fyddai, lladd arno'i hun a chanmol y drefn. Er mwyn yr achos gallai fod yn frwnt wrtho'i hun. Er cyrraedd erbyn un arddeg ar y gloch yng Nghyfarfod Misol Rhyd-ddu, cododd am ddau y bore, bu wrthi yn lladd gwair am bum neu chwe awr, ac yna cerddodd i Ryd-ddu. Tua diwedd ei oes, wrth daer erfyn am i'r Ysbryd gael ei ddanfon yn gymorth, fe gwynai, "Yr ydym wedi myned yn wan trwom." Ar ei wely angau, fe'i cafwyd ef gan Mr David Jones yn isel ei deimlad: nad oedd efe ddim ond wedi chware gyda chrefydd, nad oedd y cwbl ond rhagrith, a mynnai mai dyn anuwiol ydoedd. "Tybed? gofynnai Mr Jones. "O, ie," ebe yntau, "'dydw'i ddim wedi fy ail-eni." "Mae'ch enw ar lyfr yr eglwys, ac yr ydych yn swyddog yn yr eglwys." "Beth ydw'i haws? Dyn anuwiol ydw'i." "Wel, os felly, mi roi'ch achos chwi i lawr yn y seiat nesaf, er cael tynnu eich enw i ffwrdd oddiar lyfr yr eglwys." "I beth y gwnei di hynny, 'rwyti yn meddwl?" "I chwi gael ymollwng iddi, ac actio'r dyn anuwiol yn yr ardal yma." "'Dwyti ddim ffit yn y byd ! Na, dal ati wna i, fel y delo hi, bellach." Yr oedd Hugh Jones yn esampl ddiweddar o ddosbarth wedi myned i golli, ac am ei fod yn ddiweddar haws oedd cael defnyddiau y mymryn portread hwn ohono. Bu lliaws cyffelyb iddo yn y wlad, ond nid mor hawdd bellach dodi'r rhith ohonynt a erys mewn coffadwriaeth yn llun go fyw o flaen y llygaid. Enghraifft dda ydoedd efe o'r gwladwr syml, agored, na thybiasid fod nemor ddim, neu ddim neilltuol ynddo ef onibae i'r Efengyl gipio gafael ynddo, ac yna fe ganfyddid ynddo, yn neilltuol fel y gwelid ef ar adegau, adenydd agored cerubiaid, gwialen yr Archoffeiriad yn dwyn almonau, a llewyrch y Secina.
Yn 1898 y bu farw Griffith Jones Coedtyno, wedi bod yn y swydd o flaenor er 1853. Yr oedd efe a Hugh Jones yn amlwg ar y blaen efo'r achos o fewn yr ugain mlynedd diweddaf o'u hoes, sef ar ol marw Owen Jones. Y flwyddyn o flaen Griffith Jones y diangodd Hugh Jones ymaith. Ar ddieithrddyn yr oedd yr argraff oddiwrth Griffith Jones gryn lawer yn fwy dymunol nag oddiwrth Hugh Jones. Gwr llednais, boneddig wrth natur oedd Griffith Jones, a gras wedi ei brydferthu. Er bod ar y blaen, ni chwenychai mo'r blaen. Er cymaint a wnelai o "weddi fawr" Hugh Jones, gweddi ferr a syml ydoedd yr eiddo ef ei hun. Ei feddylfryd yntau ym mhethau y Tŷ, fel yr eiddo Hugh Jones, ond ei syniad am y Tŷ yn eangach, gan yr ymhyfrydai yng nghymdeithas y saint o'r tuallan i'r gymdeithas eglwysig ffurfiol, a chan yr ymwelai â'r claf a'r adfydus. Ni pherthynnai i'w natur gael ei sugno i mewn cyn belled a Hugh Jones i gyfeiriad y gororau glaswyn; ond rhagorai arno ef mewn mwynhad gwastad o'r efengyl a'i hordinhadau, ac yn amrywiaeth ei wasanaeth. Yr oedd cysondeb o bob math yn perthyn iddo ef. Enghraifft ydoedd efe o wr yn dod yn fwy-fwy amlwg yng ngwaith yr Arglwydd. Yr ydoedd tua deunaw oed cyn dechre dysgu darllen. Bu am flynyddoedd meithion, drachefn, ar ol ei wneuthur yn flaenor cyn y traethai brofiad uchel. Arferai gynildeb ar amser yn gyhoeddus, er fod ganddo ddawn hwylus, yn enwedig efo'r plant, a dawn i gynghori. Cynyddu yn raddol. a ddarfu efe, ac addfedu yn amlwg, gan ymroi fwy-fwy i bob gwaith da, nes ei fod wedi ennill serch yr ardal yn llwyr. Llewyrchodd fwy-fwy, ac yr oedd ei ddiwedd yn dangnefedd.
Yn 1868 y gwnawd Thomas Williams Brynhafod a Joseph Jones Ffactri Tai'nlon yn flaenoriaid. Bu Thomas Williams farw ymhen ychydig flynyddau. William Jones a ddaeth yma o'r Penrhyn, lle'r oedd yn flaenor, a chyn hynny ym Meddgelert, a bu farw yn 1888. Yn 1888 y derbyniwyd Owen Jones Henbant bach yn flaenor, nai i'r gwr arall o'r un enw. Bu ef farw yn 1891, yn wr cwbl deilwng o'i ewythr. John Jones Felin Faesog a ddaeth yma o Bwlchderwydd, ac a fu farw yn 1890, yn fuan ar ol dod yma. Derbyniwyd David Jones, Robert Williams a David Ellis Hughes yn flaenoriaid yn 1891. William Jones Brynhafod a ddaeth yma o Frynengan yn 1891, ac a aeth ymaith i Bantglas. Henry Jones Tai'nlon yn 1891 o Frynaerau. Robert Jones Brynhafod a symudodd yma o Frynaerau ac a aeth oddiyma i Bontnewydd John Edwards Tynewydd a fu'n flaenor yn Nebo ac yn Caerhun cyn hynny, a galwyd ef i'r swydd yma yn 1893. Elias Prichard Bryn- hafod oedd yn y swydd ym Mhantglas, a chyn hynny yn Cwmcoryn, a galwyd ef iddi yma.
Robert Evans a ddechreuodd bregethu yn 1889, ar ol hynny yn Llanddynan, ger Llangollen. J. R. Jones Tain'lon a ddechreuodd tua 1895. O. S. Roberts yn 1897, a symudodd yn fuan i gyffiniau Llangollen.
Robert Foulk, taid John Jones Brynrodyn, oedd y dechreuwr canu cyntaf hyd y gwyddys. Dilynwyd ef gan Dafydd Jones Bron-yr-erw, yna gan John Williams Ty'ntwll, wedi hynny John Davies Ty'nlôn, mab Dafydd Jones Bron-yr-erw, a hiliogaeth Dafydd Jones o hynny ymlaen fu arweinwyr y gân. Dilynwyd John Davies gan ei frawd William Jones, ac wedi hynny gan ei fab David Jones Bwlchgwynt.
Adeiladwyd y capel presennol yn 1870, a'r draul ydoedd £480. Yr oedd troi'r hen gapel yn dai yn gynwysedig yn y draul. Adeil- adwyd ysgoldy ynglyn â'r capel yn fuan wedyn am y draul o £150. Adnewyddwyd y capel oddifewn yn 1898 am £500.
Dyma adroddiad ymwelwyr 1885, sef blwyddyn canmlwydd- iant yr Ysgol Sul. "Golwg siriol a bywiog ar yr Ysgol. Gwelliant mawr fyddai cael gwers-lenni gyda'r plant. Gwell fyddai rhoi'r bechgyn a'r genethod bychain yn gymysg. Y dosbarth canol yn dilyn y wers-daflen yn amherffaith. Byddai yn well canu ar ddiwedd y wers-ddarllen nag ar ganol yr Ysgol. Gresyn fod yr holwyddori yn y dosbarth wedi colli, a gwybodaeth y plant a'r dosbarth canol yn llai nag a fu. Y canu yn dda a bywiog, ond eisieu mwy o lyfrau hymnau yn yr ysgol. Agosrwydd serchog yma rhwng athraw a dosbarth. W. Griffith Penygroes, E. Williams Llanllyfni, John Roberts Llanllyfni."
Rhif yr eglwys yn 1854, 78; yn 1862, 103; yn 1870, 95; yn 1900, 122.
Nodiadau
golygu- ↑ Ysgrif y Parch. Howell Roberts; dwy ysgrif John Owen yr Henbant, y naill yn adrodd am rai pethau hynod a gofid ganddo ynglyn á chrefydd, a'r llall yn rhoi hanes cychwyn yr ysgol Sul; Adgofion y Parch. John Williams, Caergybi; ymddiddanion âg amryw.