Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Baladeulyn

Bethel (Penygroes) Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog

gan William Hobley

Hyfrydle

BALADEULYN.[1]

WRTH nesu at Baladeulyn o ardal Talsarn, fe deimla'r pregethwr ar ei daith ar brynhawngwaith teg o haf fod rhyw ramant o swyn yn cael ei dadlenu o flaen ei galon. Ymegyr golygfa'r mynyddoedd o flaen ei lygaid, gyda'u bannau goleu, a'u hafnau go led dywyll, ac ambell glwt siriolwych o fwsog a rhedyn yma a thraw, a'r mynyddoedd hwythau yn nesu at eu gilydd gyda throadau'r ffordd, neu ynte'n pellhau, ac yna yn cau o'i flaen yn y pellter tesog, gydag ochr hafn-gron y Wyddfa, fel anferth gwpan swyn, wedi ei dodi gan yr arch-swynwr ar led-ogwydd am y pryd yn erbyn mur y nen. Ac os yw hi'n brynhawngwaith teg ar ysbryd y pregethwr, cystal ag yn natur oddiallan, ond odid na chenfydd efe yma ysgol Jacob, ac yn y man wrth ddadebru ohono o'i syfrdandod, odid na chlyw efe ar ei galon ddywedyd gyda'r patriarch, "Mor ofnadwy yw y lle hwn! Nid oes yma onid tŷ i Dduw."

Ond odid mai o brif-ffordd Beddgelert y daw'r ymdeithydd arferol yma, gan droi i mewn drwy Ddrws y Coed i'r Nant Nantlle, gydag Owen Jones yn ei Gymru, a chefnu ar y Wyddfa, "tywysoges mynyddoedd Eryri," a chael gwarchod ar ei ddeheulaw gan y Mynyddfawr a'r Cilgwyn a'r Clogwyn melyn, ac ar ei aswy gan Garn Farchog, Talmynyddau a Chwm Silin. Ymled y dyffryn yn araf, a chyda'r ymdeithydd ac Owen Jones y cyd-deithia afonig fechan a dardd o Lyn y dywarchen, ychydig uwch ei law na Drws y Coed. Dengys hon hefyd ddylanwad y swyn llesmeiriol, canys, yn y man, hi wahodd ati ffrydiau eraill, gan groni yn llyn; a phan gynnyg ymdaith eto, yn ebrwydd hi grona yn llyn arall drachefn, oherwydd cyffwrdd â hi gan hudlath y swynwr. Ac fel hyn, yn ddiarwybod iddi ei hun, dŷd ddwy em ar fynwes "brenhines dyffrynoedd." Owen Jones a ddengys leiaf o bawb of ddylanwad y swyn hudol, canys y mae efe wedi ebargofi'r olygfa yn union, a'i holl helynt bellach yw egluro y modd y bu Iorwerth I. yn ddigon grasol i dreulio rhai dyddiau yn y Baladeulyn ym misoedd yr haf, gan gynnal tournament yma, neu rith-ymgyrch," fel y dywed Owen Jones y gellir ei gyfieithu, pan ar ei hynt i ddaros- twng y Cymry druain. Y mae Owen Jones yn y man dros ei ben mewn dyryswch ynghylch prun o ryw ddau dŷ y bu Iorwerth yn lletya ynddo y pryd hwnnw.

Fe bregethid yn achlysurol gan yr Anibynwyr yn Nrws y coed, gan David Griffith, ac eraill feallai. Yn 1836, pan oedd Isaac Harries yn weinidog yn Nhalsarn, yr adeiladwyd capel ganddynt yma. Yr oedd gweithiau mwn yn cael eu hagor yn y lle ar y pryd, a disgwylid poblogaeth fawr yma. Siomwyd y disgwyliad; ond bu'r gweithiau hynny yn fwy llwyddiannus yn ddiweddarach. (Hanes Eglwysi Anibynnol III. 231).

Boed y ddadl fel y bo ynghylch y tŷ lle'r aneddai y brenin yn ystod ei drigias o rai dyddiau yn y fro, tra'n difyrru ei hun gyda'i orchestgampau, y mae dyddordeb yn nheimlad y brodorion mewn rhai tai eraill yn y gymdogaeth heblaw hwnnw. Mwy cysegredig i deimlad lliaws ohonynt hwy na mangre trigias y Brenin Iorwerth I. yw aelwyd gynes i'r achos crefyddol, a man cyfarfod ysgol Sul neu seiat, neu fangre trigias plant rhai o Frenin Nef. Yn y Gulan y bu'n preswylio tad i Joseph Thomas Carno, a thaid iddo cyn hynny. Yn Ffridd Baladeulyn, bellach wedi ei dynnu i lawr, y preswyliodd teulu hynod, un ohonynt wedi ei arddelwi yn seraff ar lafar gwlad, peth anfynych yn hanes cenedl. Ym Mlaen y garth y ganwyd John Roberts, yr hynaf o'r plant hynny. Bu cyn-dadau teulu Talsarn, sef rhieni Angharad James, yn cyfaneddu yn y Gelli ffrydau, a bu ysgol Sul yn cael ei chynnal yno, ac yno y pregethodd William, brawd John Jones, ei bregeth gyntaf. Yng nghegin" y tŷ lle'r aneddodd y brenin, ym marn y brodorion, sef adeilad cysylltiol â'r tŷ, ag sydd bellach wedi ei dynnu i lawr, bu ysgol Sul hefyd yn cael ei chynnal, gan roi iddi urddas ar fath arall.

Yr oedd yr ardal braidd ymhell oddiwrth le o addoliad, a chryn esgeuluso o'r herwydd. Dechreuwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yn y tai yn y bore, dymor haf, am 7 neu 8 ar y gloch, a phenodid rhai i fyned i'w cynnal gan yr eglwysi cyfagos. Fe ddywedir y bu'r cyfarfodydd gweddi boreuol hyn yn fendithiol i'r gymdogaeth. Pan sefydlwyd lle canolog i gynnal ysgol ar y Sul, fe beidiwyd â chynnal y cyfarfodydd gweddi yn y bore, a chynhaliwyd yn ei le gyfarfod gweddi achlysurol rhwng y moddion, neu'n achlysurol, ar noson waith, mewn tai lle byddai gwaeledd neu lle byddai'r ffordd ymhell iawn i'r capel.

Yn ystod 1857 y cychwynnwyd yr ysgol yn y cyfnod hwn. Yr oedd John Lloyd Jones wedi dod i drigiannu i'r ardal, ac efe oedd y prif offeryn yn hynny o waith. Cynorthwyid ef gan John Robinson, un o flaenoriaid Talsarn, a dechreuid y canu gan D. Davies. Yn Hendy'r Felin y cynhaliwyd yr ysgol gyntaf, a 19 oedd yn bresennol. Erbyn yr ail Sul yr oeddys wedi symud i'r Hendy mawr, lle a oedd mewn rhan yn anrhigiannol ar y pryd, ac aroswyd yno tua dwy flynedd, a chynyddodd yr ysgol yno i 80 neu 100 o nifer. Y mae Mr. Owen Hughes o dan yr argraff ddarfod. i'r ysgol aros yn Hendy'r Felin dros encyd o amser.

Yn 1859, fe benderfynwyd adgyweirio'r Hen Ysgubor,—man perthynol i'r Hendy mawr, ag y dywedid ar draddodiad ddarfod iddo wasanaethu fel ystabl i feirch Iorwerth I., ac a erys eto,—gan ei wneud yn gymwys i gynnal yr ysgol ynddo, cystal a chyfarfodydd eraill. Ei fesur, 19 llath wrth 5. Awd i draul o yn agos i £72. Casglwyd yr arian yn y gymdogaeth, ac agorwyd yr Hen Ysgubor fel lle addoliad yn ddiddyled. Cafwyd cyfarfod pregethu ar Lun y Pasc dilynol, pryd y gwasanaethwyd gan R. Hughes Uwchlaw'r ffynnon, J. Jones Brynrodyn, ac Edward Jones, gweinidog gyda'r Anibynwyr yn Nhalsarn. Yr oedd prydles ar yr adeilad gan J. Lloyd Jones, a chyflwynodd ef i'r Cyfundeb tra fyddai y brydles mewn grym.

Y pryd hwn nid oedd ond rhyw ugain o dai yng nghymdogaeth y capel, a theuluoedd ieuainc yn dechre sefydlu yn y byd oedd lliaws ohonynt. Yr oedd arweiniad yr achos yn llaw J. Robinson, fel swyddog yn eglwys Talsarn. Efe a feddai'r profiad ysbrydol, ac yr oedd John Lloyd Jones yn gwbl ufudd iddo. John Lloyd Jones oedd yr arweinydd naturiol, er hynny, ac efe hefyd oedd yr ysgrifennydd. D. Davies yn parhau i arwain y canu. O. J. Hughes yn arolygwr. Enwir eraill a fu'n ffyddlawn gyda'r achos, megys Morris Griffiths (Tŷ'r capel), Ellis Edwards a G. Williams Ffridd. Yr olaf, er hynny, heb broffesu.

Yr oedd 134 o eisteddleoedd yn yr Hen Ysgubor, a gosodid hwy i gyd, a chwecheiniog y chwarter oedd pris eisteddle. A derbyniwyd yn 1862, £13 7s. am yr eisteddleoedd, fel nad oedd ond swllt yn brin o fod pawb wedi talu ei ddyled yn llawn. Rhif yr eglwys yn 1862, 50. Y casgl at y weinidogaeth, £12 13s.

Hwyrfrydig a fu'r Cyfarfod Misol i sefydlu achos yn y lle, a gwrthodwyd y cais am bregethu cyson yma. Pregeth achlysurol yn unig a geid yn ystod rhyw ddwy flynedd o amser. Bu'r Parch. Robert Jones Llanllyfni yma droion, ac eraill o'r enwadau eraill. Gallesid tybio oddiwrth swm y casgl at y weinidogaeth y rhaid fod yr eglwys wedi ei sefydlu yn lled gynnar yn y flwyddyn 1862, os nad cynt. Yng Nghyfarfod Misol Nebo, Tachwedd 3, 1862, pa ddelw bynnag, y penodwyd y rhai yma i ddod i "gynorthwyo i ddewis diaconiaid," nid amgen y Parchn. John Jones [Brynrodyn], W. Hughes [Talysarn], D. Morris a Mr. W. Owen [Penygroes]. Gelwid blaenoriaid yn gyffredin ar sefydliad yr eglwys. Yr oedd yr achos yma i fesur yn un eithriadol, ac yr oeddys wedi cynefino â'i ddwyn ymlaen gyda chynorthwy John Robinson. Nodir 1861 gan rai fel adeg sefydlu'r eglwys. Buwyd yn cynnal ysgol, cyfar- fodydd gweddi, pregethu achlysurol, am oddeutu pedair blynedd cyn hynny. Y blaenoriaid a ddewiswyd: J. Lloyd Jones, W. Davies, Thomas Roberts. Galwyd yr olaf yr un pryd i arwain y gân. Trefnwyd oedfa yma bob Sul o Dalsarn.

Anrhegwyd John Robinson â'i lun, o waith y Parch. Evan Williams, fel cydnabyddiaeth o werth ei lafur yn ystod y blynyddoedd cyn sefydlu'r eglwys.

Yn 1864 y daeth John Reade yma o Ryd-ddu, Swyddog yno, a galwyd ef yma ar ei ddyfodiad.

Yr Hen Ysgubor, neu'r ysgoldy bach, fel y gelwid y lle wedi ei wneud yn lle addoliad, bellach wedi myned yn anhwylus o fychan. Penderfynu cael capel. Dewiswyd y llecyn i'w adeiladu gyferbyn a'r llaindir rhwng y ddau lyn. Tynnwyd y brydles allan yn 1866 am 60 mlynedd, gyda £1 y flwyddyn o rent i'w thalu i stât Hughes Kinmel. Yn 1895, fe gyflwynwyd y tir, 1540 llathen ysgwar, ynghyda'r adeiladau, i'r Cyfundeb.

Richard Davies Caernarvon ydoedd yr adeiladydd. Maint y capel, 18 llath wrth 121. Deunydd y muriau ydoedd gweddillion plociau cerryg y chwarel. Y tô o dri math ar lechau, fel y gweddai mewn ardal chwarelau, sef o liw glas a gwyrdd a choch, wedi eu trefnu â llaw gelfydd, ac yn rhyw gyfateb yn y lliwiau, er yn an- fwriadol feallai, i las a phorffor ac ysgarlad y Tabernacl gynt. Y seti o ffawydd coch, heb ddorau, wedi eu hystaenio. Y pulpud o binwydd pŷg cyrliog. Llawr o deils amryliw. Y nenfwd hanner crwn o goed wedi eu hystaenio. Tair arddeg o ffenestri yn pwyntio at y nen, gydag un o'r nifer yn ffenestr fawr amryliw ar wyneb y capel. Pedair o lampau pres mawrion, a thair cainc i bob un. Cyflawnder o oleu y dydd drwy'r ffenestri, a'r nos drwy'r lampau pres, ebe S. Jones; ac eidduna ef oleu o ffynonnell uwch ar gynulliad y saint. Efe a ddywed, hefyd, fod y capel yn un cynnes, am fod dau borth ymlaen iddo, un ar bob ystlys, a'r dorau yn y rhai hynny, a'r dorau i fyned ohonynt i'r capel yn gweithio ar dwythelli. Y dorau, fel y ffenestri, yn pwyntio tuag i fyny. Cyfrifid yr holl draul yn £1,235. Cludwyd yr holl ddefnyddiau yn rhad gan J. Lloyd Jones, a gwnaeth eraill o'r teulu eu rhan yn y gwaith. Rhoddwyd math ar agoriad i'r capel ar nos Lun, Chwefror 27, 1865, pryd y traddodwyd darlith ynddo gan David Saunders ar lywodraeth y Pab. Yr elw oddiwrth y ddarlith, £20. Y noswaith ddilynol, dechreuwyd y gwasanaeth gan Owen Jones Plasgwyn, a phregethwyd gan John Griffith Bethesda a D. Saunders. A'r diwrnod dilynol, am 10, dechreuwyd gan John Jones Brynrodyn, a phregethwyd gan D. Saunders a John Phillips. Am 2 a 6, de- chreuwyd gan W. Hughes Talsarn, a phregethwyd gan W. O.Williams Pwllheli a D. Jones Treborth.

Bu traul pellach o £30 i ddiddosi muriau'r capel oddiallan. Codwyd hefyd dŷ capel. Rhif yr eglwys yn 1865, 75, sef cynnydd. o 25 er agoriad yr Ysgoldy bach. Plant yr eglwys, 30. Athrawon yr ysgol, 22; ysgolheigion, 146. Cyfanrif 168. Y gwrandawyr, 224. Ardreth eisteddleoedd, £28 6s. Casgl y weinidogaeth, £28. Y swm a ddefnyddiwyd o arian yr eisteddleoedd at y weinidogaeth, £11 3s. Casgl at yr achos cenhadol, £7 19s. I'r tlodion, £25. Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn, £500, ac felly ar ddiwedd 1864, yr hyn a ddengys fod £725 wedi eu talu erbyn gorffen yr adeiladwaith. Gosodid 220 o'r eisteddleoedd, allan o'r 320 a gynwysai'r capel. Cyfartaledd pris eisteddle am chwarter, 7½g. Yn 1867 dewiswyd William Thomas a J. Michel Owen i'r swyddogaeth.

Yn 1872, rhoddwyd galwad i Evan Owen i fugeilio'r eglwys. Yr ydoedd yn trigiannu yma ers tro. Nid ymddengys fod yr alwad yn golygu dim cyflog ychwaith, namyn cymeradwyaeth o'i gymeriad a'i lafur. Arosodd yma fel bugail yr eglwys am 14 blynedd, ac yr oedd ei lafur yma yn llafur cariad ym mhob ystyr i'r ymadrodd. Anrhegwyd ef â thysteb ar ei ymadawiad. (Am sylwadau pellach arno, gweler Seion a Thalsarn).

Bu cynhebrwng William Thomas ar Fehefin 14, 1873. Yn flaenor yma er 1867. Nid mewn doniau y rhagorodd yn gymaint ag yn y defnydd a wnaeth ohonynt. Amcanai lanw y swydd a ymddiriedid iddo, prun bynnag ai athraw ai arolygwr yn yr ysgol, a'i blaenor yn yr eglwys. Grym cymeriad a roes iddo ei ddylanwad. Perchid ef gan bawb. Gwladeiddiai'r anystyriol yn ei ŵydd. Cadwyd gŵyl ar ddiwrnod ei gynhebrwng yn y gloddfa o barch iddo, ac yn y cynhebrwng yr oedd pob dosbarth yn yr ardal. (Goleuad, 1873, Gorff. 5, t. 11).

Yn 1874, neu oddeutu hynny, yr ymadawodd John Lloyd Jones i'r Bontnewydd. Efe, ymhlith ei frodyr, ydoedd y tebycaf i'w dad, John Jones Talsarn. Ac yr oedd y tebygrwydd hwnnw yn un amlwg iawn, yn gyfryw ag oedd yn peri fod John Jones ei hun megys yn ymrithio o flaen y llygaid ynddo ef. Yr oedd hynny yn wir hyd yn oed i'r sawl oedd heb adnabod John Jones yn y corff, os yn adnabyddus ohono yn ei lun, a thrwy adroddiadau eraill. Yr oedd John Lloyd y mab yn ddyn lled dal, cymesur, go led gnodiog, gydag osgo lled urddasol, ac â wyneb lliwgar, prydweddol anarferol. Tra thebyg ydoedd i'r llun a welir o'i dad ynglyn â'r Cofiant, tra thebyg o ran prydwedd, ond eto yn colli o ran y mynegiant, neu'r peth uchaf i gyd ym mynegiant wyneb ei dad, sef yr edrychiad hwnnw tuag i fyny, a chynghanedd ysbrydol y wynepryd. Daeth y mynegiant cynghaneddol hwnnw, yn y man, i wynepryd y brawd arall o weinidog, sef David Lloyd Jones. Gyda chyffyrddiad amlwg o debygrwydd rhyngddo yntau a'i dad, y golomen yn hytrach a dywynnai allan yn ei brydwedd ef, tra mai'r eryr a welid yn John Lloyd, megys yn ei dad. Nid tebygrwydd o ran prydwedd yn unig ydoedd y tebygrwydd y sonir am dano, ond hefyd o ran cynneddf feddyliol a dawn ac anianawd. Mae lle i gredu y meddyliai ei dad yn uchel ohono. Arferai Robert Owen Tŷ draw a dweyd y bu y tad â'i feddwl mewn gwewyr ynghylch y mab hwn, ac y bu yn gadael ei dŷ am un arddeg ar y gloch yn y nos, a myned i'w gymell ef i bregethu. Yr oedd John Lloyd y pryd hwnnw yn dechre ymgyfoethogi yn y byd, ac yn dangos medr anarferol fel masnachwr. Ni ragorai mewn dawn i weithio'r chwarel, ond nid oedd ei hafal am werthu chwarel i'r fantais oreu. Yr oedd ynddo ryw gyfuniad eangfawr o adnoddau. Yr oedd ei fam ynddo cystal a'i dad, yn tynnu'n dorch am y llywodraeth yn ysbryd y meddwl. Y corff ydoedd eiddo'r tad, a'r enaid, a'r anian hefyd, o ran yr amlygiadau arwynebol ohoni; ond yn rhyw wreiddyn cuddiedig mewnol fe lechai ei fam hefyd, ac a ymledai allan oddiyno drwy ei holl natur ef. Yr oedd ei gynysgaeth yn un fawr, ac eiddigeddodd ei dad drosto mewn awydd am ei ymgysegriad llwyr i waith teyrnas nefoedd. Elai ei fasnach âg ef lawer oddicartref; ond byddai'n ffyddlon yn y moddion pan fyddai gartref. Ymhyf- rydai gyda'i ddosbarth o bobl mewn oed. Yr ydoedd yn dueddol wrth gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi i esbonio'r rhannau a ddarllennid. Gwnelid hynny mewn dull rhydd a rhwydd, heb arwyddo dwys-fyfyrdod uwch eu pen, ac heb gipio'r meddwl i fyny yn deg bob amser. Ar y ffurf o deimlad yr ymagorodd ei grefyddolder ef. Gyda dawn ei dad: llais baritôn melodaidd, a hyawdledd naturiol a swynol, ac ar brydiau hyrddiau anisgwyliadwy o deimlad; eto ni nodweddid ef, megys ei dad, gan ffrwyth myfyrdod dwfn yn y gair. Nid myfyrdod yn cynneu a welid ynddo ef, ond teimlad yn ysgubo ymlaen. Cymerai rhyw ran yn arweiniad y gân, ond nid amaethodd ganiadaeth fel celfyddyd. Canu gyda'i lygaid ynghauad, ebe Mr. O. J. Hughes, gan ogwyddo'r pen at yr ysgwydd dde, a chodi peth ar flaenau ei draed. Nid amaethodd mo'i feddwl ar unrhyw linellau neilltuol, ymhellach na thrwy ymroi i'w fasnach. Danghosai graffter sylw ym mhob trafodaeth fasnachol, a phroffesai grêd, nid mewn dysg, ond mewn athrylith naturiol, p'run bynnag ai gyda masnach ynte crefydd y byddid yn ymwneud. Rhedodd grym ei feddwl a'i ynni a'i ymadferthoedd i'w fasnach yn bennaf. Ni rwystrodd mo hynny fawr fwyniant iddo yng ngwasanaeth cyhoeddus crefydd, na mawr fwyniant i lawer eraill yn y rhan a gymerai ef ei hun yn y gwasanaeth hwnnw. Eithr yma yn y Baladeulyn, ac yn Nhalsarn cyn hynny, y gwelwyd y llewyrch mwyaf arno yn ei gysylltiadau crefyddol. Yn ystod maith gystudd ei flynyddoedd olaf, fe'i blinid ef yn fawr ar brydiau gan y meddwl ddarfod iddo droi ymaith oddiwrth alwad amlwg i'r weinidogaeth.

Elias Parry a darawyd yn wael wrth fyned ar ei liniau yn gyhoeddus, fel na ynganodd air. E fu dan gystudd trwm am dridiau, a bu farw Ebrill 26, 1875. Mab i Elias Parry y gof, Caer- narvon, a nai i John Parry Caer. Un o blant 1859, gyda'r dinc ynddo hyd y diwedd. Y pennill a roddwyd allan ganddo yn y cyfarfod gweddi olaf hwnnw ydoedd, "Mae dydd y farn yn dod ar frys." Cymydog cymwynasgar, cyfaill didwyll, blaenor gweithgar.

Huna'n dawel, frawd Elias,
Ym mhriddellau'r ddaear las,
Nes daw galwad oddiuchod;
Yn ddibechod deui i maes
I fwynhau tragwyddol deyrnas,
Baratowyd gan y Tad,
I garedigion y Priodfab
Gael gwledda ar ei gariad rhad. (0.J.H.)

Yn 1876 y dewiswyd E. Davies yn flaenor, ac ymddiriedwyd iddo hefyd y swydd o drysorydd yr eglwys.

Yn 1879 y bu farw John Reade, yn flaenor yma er 1864, a chyn hynny yn Rhyd-ddu er 1848. Sais o genedl, a ddaeth yn 17 oed. i wasanaeth Vodry Plas Vodry yn Nantgwynant. Tra mewn gwasanaeth yno y daeth at grefydd gyntaf, a hynny gyda'r Methodistiaid, rywbryd cyn fod gwres diwygiad Beddgelert wedi oeri, fel y tybia Mr. O. J. Hughes. Dodwyd delw ac argraff yr hen Fethodistiaid yn llwyr ar John Reade. Heb fod o syniadau eang, yr ydoedd yn ffyddlon gyda'r achos ac yn fanwl ei rodiad. Efe a arweiniai yn y cyfarfodydd eglwysig. Cymhellwyd yr arweiniad arno o barch i'w oedran, a chymerai yntau'r awenau i'w ddwylaw yn ddibetrusder. Rhydd Mr. O. J. Hughes ddwy engraifft fechan o'i ddull diniwed. Methu ganddo weithiau a tharo'r hoel ar ei phen, ac yn lle hynny taro o'i deutu drachefn a thrachefn. Rhoes ar ddeall un tro mewn seiat fod un o'r blaenoriaid wedi bod yn y Cyfarfod Misol, ac am hynny na wnae ef ond tewi y tro hwnnw, a rhoi lle i'r adroddiad o'r Cyfarfod Misol. Yn lle gwneud fel yr oedd yn dweyd, pa ddelw bynnag, myned ymlaen yr oedd John Reade i siarad, ac eto'n tra mynychu ei benderfyniad i dewi. Fe breswyliai yn yr ardal ar y pryd hen bererin gonest, dirodres, duwiol, sef William Ifan, o ardal Nebo. Methu gan yr hen bererin hwnnw a dal yn hwy, a thorrodd allan, "Wel, taw dithau ynte, tewi ydi'r gore iti!" A thawodd John Reade heb yngan gair yn ychwaneg. Dro arall, wrth godi ohono i arwain, fel arfer, fe ddisgynnodd ei lygaid ar fachgen ieuanc o Sais, ond yn medru Cymraeg, ac wedi dod i'r seiat y noswaith honno am y tro cyntaf. Gloewodd llygaid yr hen John Reade. "Yr ydw i'n gweld," ebe fe, "fod William Darby wedi dod ato ni heno. Be sy gin ti i ddeud, William ?" Cododd William ar ei draed ynghanol y capel. "Mi meddwl," ebe fe, "mai dyma y lle gore yn y byd i mi ddod." "O, wyti hynny, William!" ebe John Reade. A chyd-darawiad y ddwy acen Seisnig a asiodd bawb ynghyd mewn eithaf llonder. Difeddwl-ddrwg oedd John Reade, diddichell, diabsen, diniwed, diargyhoedd ei fuchedd, a difrycheulyd yn ddiau ydyw efe heddyw.

Hen gymeriad dyddorol oedd y William Ifan y crybwyllwyd am dano. Addysgwyd ef yn ysgol moeseg Nebo, ac yr oedd yn ysgolor teilwng. Ei dri chasbeth: barf, y tonic sol-ffa a Sais. Nid hoff ganddo John Reade, oblegid ei fod yn Sais. Gwylltiai yn enbyd os eid yn y gwddf i'w ragfarnau; ond chwiliai am gyfle i gymodi cyn machlud haul. Gyda'i syniadau cyfyng a'i dymer wyllt, ar ei liniau byddai yn union deg yn y nefoedd, a mynych y gwelid dwy ffrwd loew yn treiglo dros ei ruddiau wrth wrando'r Efengyl. Pigog ei ysbryd drwy'r cwbl. Dywedai John Robinson mai hen ddyn go gâs oedd ganddo, ond ei fod yn gristion gloew. Selog i'r eithaf gyda'r achos. Byrr fu ei arosiad yma.

Yn 1884 dewiswyd i'r swyddogaeth, Thomas Roberts Cae Goronwy; ac yn 1887, John Jones y Geulan, Thomas Evans a Richard M. Griffiths. Yn 1887 yr ymadawodd Thomas Roberts, un o bedwar swyddog cyntaf yr eglwys, i Saron, a galwyd ef i'r swydd yno. (Gweler Saron).

Yn 1893, rhoddwyd galwad i'r Parch. Morris Williams o eglwys Llangwm.

Erbyn 1900, dyma gapel newydd eto wedi ei orffen. Mewn llai na 36 mlynedd dyma'r hen gapel, gyda'i furiau o flociau cerryg, ei gerryg toi trilliw, ei ffenestri a'i ddorau yn pwyntio i'r nen, ynghyda'i ffawydd coch, ei binwydd cyrliog, ei lampau pres a'i deils amryliw, i gyd yn gydwastad â'r llawr, a chapel newydd mwy eto, yn adeilad cryf a chadarn a chyfaddas a hardd wedi ei godi yn ei le. Y pensaer celfydd, Mr. R. Loyd Jones Caernarvon; yr adeiladydd, Mr. Richard Jones Llanwnda. Yr ymgymeriad, £2,700. Y draul i gyd dros £3,000. Yr oedd dyled y capel blaenorol wedi ei dileu erbyn 1884, ac nid oedd dyled y capel newydd erbyn diwedd 1900 namyn £1,946.

Dywed Mr. O. J. Hughes, mewn cyfeiriad at y traddodiad mai'r Hen Ysgubor ydoedd ystabl y brenin ar y pryd, fod yr achos yma, fel y Meistr ei hun yn hynny, wedi cychwyn ei yrfa yn llety'r anifail. Eithr os felly yr ydoedd, y mae erbyn hyn mewn palas, nid o arian, y mae'n wir, ond o eithaf deunydd serch hynny; ac wedi ei addurno, hefyd, yn ddymunol dros ben, nid mewn dull mor amryliwiog a'r hen gapel, megys ag yr oedd hwnnw yn ei ddis- gleirni cyntefig, ond mewn dull chwaethus a chyfaddas a chlws. Ac os ffyddlon yr eglwys yn yr Hen Ysgubor, nid llai ffyddlon ydyw ym mangre ei phreswylfod presennol. Syniad Mr. O. J. Hughes am y swyddogaeth ydyw, ei bod yn ogyhyd ei hesgeiriau, ac am yr eglwys, ei bod yn cadw undeb yr Ysbryd ynghwlwm tangnefedd. Rhagora'r gynulleidfa mewn cysondeb yn yr holl foddion.

Fel hyn y dywedai ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul (1885): "Yma, ac mewn rhai ysgolion eraill, llafurir dan beth anfantais, am nad oes yma ystafell ar wahân i'r plant, a theimlir y diffyg o hynny yn y dosbarthiadau ieuengaf. Ysgol weithgar er hynny, yw hon, a selog bob amser a pharod, i hyrwyddo pob symudiad yn dwyn perthynas â'r ysgolion Sul. Ystyriem y dosbarthiadau canol yn bur hyddysg mewn gwybodaeth ysgrythyrol, a chaem rai o'r athrawon ac o'r athrawesau yn ymdrechgar i gymhwyso gwirioneddau'r Beibl adref ar ystyriaeth y disgyblion."

Rhif yr eglwys yn 1900, 195; y plant, 142.

Nodiadau

golygu
  1. Ysgrif o'r lle. Ysgrif Mr. Owen J. Hughes. Ysgrif yn y Drysorfa, 1865, t. 179, gan S. Jones.