Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Saron (Friog)
← Silo (Rhydymain) | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I gan Robert Owen, Pennal |
Bethel, Dolgellau → |
SARON (Friog)
Yn y flwyddyn 1865 y sefydlwyd yr eglwys yma gyntaf. Yr oedd hen achos wedi ei sefydlu yn Llwyngwril a Sion, a gadawyd y lle hwn, sydd oddeutu haner y ffordd rhyngddynt, am hir amser heb foddion yn y byd, ac elai ambell un o'r trigolion i wrando yr efengyl i'r naill neu y llall o'r lleoedd uchod. Ychydig oedd nifer y preswylwyr, mae'n wir, a gallwn gasglu eu bod, nid yn unig yn ddiymgeledd, ond yn bur anghrefyddol. Yn Nghofiant Richard Jones, Llwyngwril, gwr a ddechreuodd bregethu yn fuan wedi dechreu y ganrif bresenol, ceir sylw neu ddau yn profi hyny. Dywedir am Richard Jones, yr hwn ni allai siarad yn groew, y "byddai yn lled hoff o'u traddodi cyn cychwyn (sef ei bregethau newyddion) mewn pentref tlawd o'r enw y Friog, o fewn dwy filldir i Lwyngwril, i hen boblach druain na byddent yn myned i addoliad ond anfynych." Eto. "Pan oedd unwaith yn pregethu yn y Friog, daeth rhywun at y drws i roddi arwydd fod prog wedi dyfod i'r lan (mae y lle ar lan y mor); a dyna y gynulleidfa yn dechreu myned allan o un i un, gan adael y pregethwr i siarad wrth yr eisteddleoedd gweigion. Wrth weled y fath ymddygiad annheilwng, cynhyrfodd yn anghyffredin, a dywedodd, 'Mi ddydw i yn eich ddhoi chi i fyny idd cythddel; gan y cythddel y ceth i chi, ac mi ddydw i yn eich ddhoi chi iddo fo yn ol'."
Daeth Owen Roberts o Sir Fon i fyw i Panteinion yn 1829, ac mewn cysylltiad a'i enw ef y cawsom yr hanes am yr ymgais cyntaf i sefydlu moddion cyson yn yr ardal. Yr oedd ef yn awyddus i sefydlu Ysgol Sul yn y Friog, ond nid oedd dim cefnogaeth i'w gael oddiwrth yr eglwysi cylchynol. Yn yr adeg hon cymerodd y Parch. Richard Jones, o'r Wern, ei blaid gyda'r cyfeillion yn Sion, i'w hanog i gynal ysgol yn y lle. Byth wedi hyny byddai gan yr hen ŵr, O. R., feddwl mawr o Richard Jones. Cynhelid Ysgol Sabbothol yma, modd bynag, yn ddilynol i hyn mewn amrywiol fanau yn yr ardal. Rhoddwyd ei hanes yn un o Gyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth ychydig amser cyn y Canmlwyddiant yn 1885. Ni ddaethpwyd hyd i'r adroddiad hwnw; ond yr ydym yn tybio nad oedd ynddo ddim o ddyddordeb neillduol y tu allan i'r ardal ei hun.
Yr oedd Mr. Owen Price, Cafnan, Cemaes, Mon, yr hwn a feddai eiddo yn yr ardal, a'r hwn a ymwelai yn achlysurol â'r lle, yn anogaethol i gyfodi capel er mwyn y trigolion oedd yma yn amddifad o foddion gras. Ac fe roddodd y tir i adeiladu yn rhodd i'r Cyfundeb. Dyddiad y cyflwyniad ydyw Chwefror 1866. Y gŵr fu a'r llaw flaenaf mewn cael pethau oddiamgylch i adeiladu y capel oedd Mr. Richard Anwyl Roberts, Einion House, Friog, yntau hefyd yn frodor o Sir Fon, yn fab i Owen Roberts, Panteinion, ac yn nai i Mr. O. Price, Cafnan. Cafodd gan gymydog iddo dynu plan y capel, ac aeth ag ef i'w ddangos i'r Cyfarfod Misol. Dyma y tro cyntaf i blan gael ei ddangos mewn Cyfarfod Misol yn flaenorol i adeiladu capel a hyn fu dechreuad yr arferiad a ddaeth wedi hyny mor gyffredin. Dangosodd y gwr ieuanc hwn lawer o ddyfalbarhad i gael pethau i derfyniad gyda y capel. Cafodd lawer o wrthwynebiad, oddiwrth yr eglwys yn Sion yn benaf, am y tybid y byddai adeiladu capel yma yn wanychdod i'r eglwys yno. Nid oedd llawer o rwyddineb yn y Cyfarfod Misol ychwaith, ond yr oedd y Parchn. Robert Williams, Aberdyfi, a John Griffith, Dolgellau, yn ffafriol i'r symudiad. Bob yn dipyn, addfedodd y teimlad am gael lle pwrpasol i addoli, yn yr ardal ei hun, yn gystal ag o'r tu allan iddi. Yr oedd yr awydd am weled hyn yn cael ei ddwyn i ben yn myned yn gryfach wrth weled y rheilffordd yn cael ei gwneuthur trwy y lle, ac am fod chwarel llechau yn cael ei gweithio ar y pryd yn yr ardal. Ac o'r diwedd dygwyd yr achos yn ffurfiol i Gyfarfod Misol Corris, Awst 1861. "Daeth cais o'r Friog am ganiatad i adeiladu Ysgoldy yn y lle hwnw. Anogwyd hwy i fyned ymlaen gyda chasglu addewidion tuag ato yn yr ardal, a gwneyd estimate o'r draul i'w adeiladu, a dyfod a hysbysrwydd o hyny i Gyfarfod Misol Bryncrug." Aeth peth amser wedi hyny heibio cyn dechreu ar y gwaith. Ond yn niwedd y flwyddyn 1864 agorwyd ef. Ac yn Nghyfarfod Misol Ionawr 1865 mae yr ysgoldy wedi myned yn gapel, a'r penderfyniad canlynol yn cael ei basio, "Rhoddwyd caniatad i'r cyfeillion sydd yn ymgynull yn nghapel newydd y Friog i ymffurfio yn eglwys, a rhoddwyd gofal yr eglwys, hyd nes y byddo swyddogion wedi cael eu dewis yno, ar y Parch. Owen Roberts." Yr oedd y Parch. Owen Roberts wedi ymsefydlu yn Llwyngwril er's blwyddyn a haner yn flaenorol.
Buwyd mewn cryn dipyn o drafferthion gydag adeiladu y capel ar ol dechreu ar y gwaith. Yr oedd sylfaen un talcen iddo yn ddrwg, a bu raid ei dynu i lawr. Felly aeth y gost i adeiladu lawer yn fwy nag y tybid. Yr oedd y ddyled arno y flwyddyn gyntaf ar ol ei agor yn £180. Ac er cael ychydig o gynorthwy dros rai blynyddau o'r Cyfarfod Misol, nid oedd y ddyled fawr lai ymhen deunaw mlynedd, yr hyn a ddangosai nad oedd ond ychydig yn cael wneyd yn yr ardal ei hun i'w thynu i lawr. Yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1883, modd bynag, addawyd punt ymhen pob punt i'r eglwys yn Saron er mwyn rhoddi symbyliad ynddi i dalu dyled y capel, ac mewn canlyniad cliriwyd y ddyled yn llwyr y flwyddyn hono. Heblaw ymdrech y cyfeillion sydd yn awr yn aros, gadawodd un brawd ffyddlawn, David Lewis, Braich—y—goeswen, £20 yn ei ewyllys tuag at yr achos hwa. Y flwyddyn gyntaf ar ol ffurfio yr eglwys, 28 oedd nifer y cymunwyr, a'r gwrandawyr yn 45. Y flwyddyn ddiweddaf yr oedd y cymunwyr yn 40, a'r gwrandawyr yn 80. Y mae cynydd cyfatebol hefyd yn y casgliadau. Llesg a difywyd fu yr eglwys yn hir, ond gwelir fod arwyddion eglur o fywyd ynddi yn awr.
Yn fuan wedi myned i'r capel, ac i'r cyfeillion ymffurfio yn eglwys, anfonwyd y Parch. David Davies, a Mr. John Timothy, o'r Abermaw, yma dros y Cyfarfod Misol i gynorthwyo mewn dewis blaenoriaid, a William Vaughan, a John Jones a ddewiswyd yn ddau flaenor cyntaf yr eglwys. Yr oedd William Vaughan yn fab i Sion Fychan Fach, o Lwyngwril. Wedi gwasanaethu swydd diacon yn Saron o ddechreuad yr achos, bu farw yn y flwyddyn 1879. Symudodd Mr. Timothy o'r Abermaw i'r ardal hon i fyw trwy briodi, a neillduwyd yntau yn flaenor yr eglwys yma. Wedi marw William Vaughan, nid oedd neb am dymor yn flaenor ond efe. Ar ol hyny dewiswyd Mr. T. J. Stevens, Gyfanedd Fawr, a Mr. Thomas Williams, Hendolldy, y Friog. Ond ni ddaeth yr olaf ymlaen i gael ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol. Ddechreu y flwyddyn hon, drachefn, neillduwyd i'r swydd Mr. John Jones, yr hwn a fu yn absenol oddiyma dros amryw flynyddau, a Mr. Ellis Williams, yntau wedi bod yn flaenor yn Rehoboth yn flaenorol. Enwir brodyr eraill a wnaethant wasanaeth i'r achos bychan hwn—Griffith Humphreys, Ynysgyffylog; Owen Roberts, Panteinion; Lewis Davies, Brynmeurig, a roddodd ei ysgwydd dan yr achos, ac a fu yn gweithredu fel trysorydd yr eglwys; Edward Humphreys, Brynmeurig, a fu yn arwain y canu am flynyddau symudodd i Lwyngwril, ac wedi hyny i'r America; Dafydd Evan, Gyfanedd Fach, oedd yn hynod yn amser y diwygiad, a bu yn gefn i'r achos yma o'i ddechreuad. Ac am deulu Panteinion, y mae yn wybyddus iddynt hwy oll fod yn gefn mawr i'r achos o'i ddechreuad hyd yn awr.
Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. J. Timothy, T. J. Stevens, John Jones, ac Ellis Williams. Bu y Parch. Owen Roberts, Llwyngwril, yn weinidog yr eglwys hon o'i dechreuad hyd ei farwolaeth. Y Parch. R. Rowlands, Llwyngwril, ydyw y gweinidog yn awr er 1882.
Nodiadau
golygu