Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Silo (Rhydymain)

Carmel Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Saron (Friog)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Rhydymain
ar Wicipedia

SILO (Rhydymain).

"Enwyd amryw frodyr i fod yn ymddiriedolwyr i'r lle a elwir capel Pantypanel, sef John Williams, Griffith Davies, Ellis Williams, Richard Roberts, oll o Ddolgellau; John Williams, Llanfachreth; Richard Humphreys; Hugh Jones, Towyn; Griffith Roberts, Llanfachreth; John Jones, gof." Dyna y cofnodiad cyntaf ar lyfrau y Cyfarfod Misol am yr eglwys hon. Gwnaethpwyd y penderfyniad uchod Gorphenaf, 1841, pan yr oedd y Parch. Daniel Evans, Harlech, yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol. Ac yn mis Tachwedd y flwyddyn hono y mae gweithred y capel wedi ei dyddio. I Carmel yr elai Methodistiaid yr ardal i addoli yn flaenorol, ac i Lanfachreth cyn hyny. Ond oherwydd pellder y ffordd i ddringo i fyny yno, ac oherwydd fod Carmel wedi myned yn rhy lawn, penderfynwyd sefydlu eglwys yma. Yr oedd y brodyr yr Annibynwyr wedi meddianu yr ardal hon er rywbryd yn y ganrif ddiweddaf, a'u capel yn Rhydymain wedi ei adeiladu yn y flwyddyn 1788. Adroddir i'r Parch. Dafydd Rolant fod yn pregethu yn y gymydogaeth rai gweithiau, ac iddo ddywedyd na ddeuai drachefn, am nad oedd gan y Methodistiaid yr un "cwch," hyny ydyw, yr un cwch i ddal y gwenyn. Yr hanes cyntaf am yr Ysgol Sul gan y Methodistiaid yn yr ardal ydyw yn 1832, mewn ffermdy a elwir Dirlwyn. Symudwyd hi yn nechreu y flwyddyn ddilynol i ffermdy arall, o'r enw Carleg. Pantypanel ydyw enw y Tyddyn ar dir yr hwn yr adeiladwyd y capel, ac felly, enw y capel ar y cychwyn oedd capel Pantypanel. Cafwyd y tir i adeiladu gan Hugh Jones, perchenog y tyddyn, ar brydles o 99 mlynedd, yn ol ardreth o ddeg swllt y flwyddyn, tra byddai Hugh Jones byw, a haner coron wedi hyny. Aeth y draul i'w adeiladu, ynghyd â'r adeiladau o'i ddeutu, ynghylch 120p. Mr. Williams, Ivy House, oedd yn arolygu y gwaith. Ymhen amser prynwyd y brydles am 20p. Yn y flwyddyn 1853 drachefn, yr oedd 70p. yn aros o'r ddyled, a'r flwyddyn hono, wedi iddynt wneuthur ymdrech egniol eu hunain, dygasant eu ewyn i'r Cyfarfod Misol am help i orphen talu y ddyled. Y penderfyniad y daethpwyd iddo, mewn canlyniad i'w cais, oedd penodi swm penodol yn amrywio o 2p. i 10s., ar bob eglwys trwy gylch y Cyfarfod Misol i'w cynorthwyo. Felly fu gyda'r capel cyntaf. Yn 1868, prynwyd darn o dir drachefn am 10p, tuag at helaethu y capel a chael lle mynwent. Yn 1874, adeiladwyd y capel presenol yn hollol newydd, yr hwn sydd yn gapel da a chyfleus. Ac yn Mehefin, y flwyddyn ganlynol, cynhaliwyd yma Gyfarfod Misol am y tro cyntaf erioed, yr hwn hefyd oedd yn gyfarfod i agor y capel. Dywedwyd yn y cyfarfod fod y cyfeillion yn haeddu cannoliaeth am eu gweithgarwch, oherwydd fod eu capel, yr hwn a gostiodd 369p. 19s. 5c., yn cael ei agor heb yr un ddimai o ddyled arno. Cynwysa le i eistedd i 146.

Y flwyddyn yr ymadawsant o Carmel i fod yn eglwys yn Silo, nifer yr aelodau eglwysig oedd 18; yr Ysgol Sul, 40. Mae y cymunwyr yn awr yn 60; a'r Ysgol Sul yn 80. Wedi ymadael oddiwrth Carmel, ac adeiladu capel cyntaf Silo, buwyd mewn penbleth fawr yn trefnu y" Daith Sabbath." Adrodda John Jones, y blaenor, yr hwn oedd yn bresenol yn yr holl ymdrafodaeth gyda'r achos o'r dechreuad, yr hanes. Cynhaliwyd cyfarfod yn Nolgellau o holl swyddogion y capelau cylchynol, yr hwn a barhaodd am ddwy awr, i drafod y mater. Yr oeddynt yn cyfarfod âg anhawsder o bob cyfeiriad. Yr adeg hon, yr oedd Llanelltyd, Carmel, a Rhiwspardyn, yn daith; a Rehoboth gyda Dolgellau. Wedi hir siarad, ebe Griffith Roberts, Tyntwll, "Wel, gan eu bod wedi cael capel yn Rhydymain, rhaid iddynt gael pregethu ynddo. Rhaid i chwi yn Nolgellau golli un bregeth un Sul yn y mis, a chwithau yn Rhiwspardyn golli un y Sul arall, Carmel y Sul arall, Llanelltyd y Sul arall, a phan y bydd pum' Sul yn y mis, rhaid i chwithau yn Rhydymain golli y Sul hwnw." Felly y cytunwyd. Yr oedd y Bontddu y pryd hwn gyda'r Abermaw. Cyn hir, addawodd y Cyfarfod Misol dipyn o gynysgaeth i Bontddu, os cymerai Llanelltyd hwy atynt. Hyny, hefyd, a fu. Yna, bu y tri lle am dymor maith gyda'u gilydd, sef Rhiwspardyn, Carmel, a Silo, a chyfamod wedi ei wneuthur rhyngddynt i bob lle dalu dau swllt yr un i'r pregethwr y Sabbath chwech swllt rhwng y tri. . Ychydig cyn y Diwygiad (1859-60), yr oedd achos crefydd yn bur isel yn y daith hon. Ac, fel yr eglurwyd mewn cysylltiad â Rhiwspardyn, i ofalu am y tri lle yma yr ymgymerodd y Cyfarfod Misol à gosod gweinidog i lafurio yn yr efengyl y pryd hwnw, yr hyn a fu yr ysgogiad mwyaf uniongyrchol i gychwyn bugeiliaeth eglwysig yn y sir. Fe gychwynodd y symudiad, yn ddiameu, yn yr iawn fan-gyda y lleoedd oedd yn wir weiniaid. Trwy gymhelliad a chynorthwy y Cyfarfod Misol, a galwad yr eglwysi, yr ymgymerodd y Parch. Owen Roberts, Ffestiniog, yn nechreu 1858, â gofalu yn benaf am dair eglwys y daith hon. Preswyliai yn nhy capel Rhiwspardyn. O wythnos i wythnos yr oedd yn enill gafael yn serchiadau y bobl, yn aelodau a gwrandawyr, a phregethai yn fwyfwy rhagorol yn feunyddiol, fel yr ymddangosai fod cyfnod o ddefnyddioldeb anghyffredin o'i flaen. Anfynych y gwelwyd esiampl o weinidog a chynulleidfaoedd wedi ymglymu yn fwy yn eu gilydd. Bu ef a'r Parchn. Evan Roberts, a J. Eiddon Jones, yn llafurio ynglŷn a'r eglwys hon am yr un tymor ag y buont mewn cysylltiad â Rhiwspardyn. Y mae y Parch. H. Roberts wedi ymsefydlu yma yn awr er y flwyddyn 1870.

Bu yma bregethwr yn preswylio yn yr ardal am ychydig amser, ddeugain mlynedd yn ol, y Parch. John Davies. Ymadawodd oddiwrth yr Annibynwyr yn Rhydymain; daeth at y Methodistiaid, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Medi, 1845. Ymhen oddeutu saith mlynedd ymfudodd i'r America, ac fe roddodd y Cyfarfod Misol iddo 5p. wrth gychwyn. Y mae er's blynyddau wedi ei gymeryd o'r America, fel yr hyderir, i'r wlad well. Yma y dechreuodd y Parch. J. Eiddon Jones, Llanrug, bregethu, yr hwn a dderbyniwyd i'r Cyfarfod Misol Medi, 1861.

Blaenor cyntaf yr eglwys oedd William Evans, Maesneuadd. Yr oedd ef yn flaenor yn Carmel yn flaenorol, ac efe a arweiniai y ddeadell oddiyno i Rydymain. Gwr da, crefyddol, a defnyddiol gyda'r achos oedd efe. Symudodd i Lanuwchllyn. Y cyntaf a ddewiswyd ar ei ol ef oedd Mr. John Jones, yr hwn sydd eto yn aros yn flaenor yr eglwys. Tuag 1845 daeth Richard Edwards i fyw i Ddolgamedd. Bu ei ddyfodiad ef yn gaffaeliad anghyffredin, oblegid yr oedd yn wr da a duwiol, ac yn hynod o fedrus a ffyddlon. Dewiswyd ef yn fuan yn flaenor ac yn arweinydd y canu. Symudodd oddiyma i Gorris Mai 13eg, 1853, a bu farw ychydig yn ol yn Nolgellau. Gwnaeth wasanaeth mawr yn yr eglwys y tymor y bu yma. Gŵr o'r enw Robert Lewis hefyd a ddaeth i'r ardal o Abergynolwyn, a bu yn flaenor yma am beth amser, a'i fab-yn-nghyfraith yn arwain y canu. Mr. John Jones, yn awr o Rhiwspardyn, a fu yma yn byw am flynyddoedd, ac yn wasanaethgar iawn i achos crefydd; yn arwain y canu, ac yn llenwi y swydd o flaenor am tua 10 mlynedd, hyd ei symudiad i Riwspardyn yn 1870. Trwy gymelliad y Cyfarfod Misol, oddeutu y flwyddyn 1853, deuai y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, yma yn achlysurol i gadw society. Yr oedd ef yn wresog yn yr ysbryd, yn zelog, ac yn llym mewn disgyblaeth. Cofir am dano unwaith mewn achos o ddisgyblaeth yn cyhoeddi y person yn ddiarddeledig, ac yn ychwanegu, "Nid oes eisiau gofyn llais yr eglwys ar fater fel hwn sydd mor amlwg; yr wyf fi fy hun yn ddigon arno."

Hugh Pugh (Clynog). Dyn ieuanc rhagorol iawn; cyfaill! cywir, Cristion disglaer, athraw pobl ieuainc heb ei ail, a bardd o'r dosbarth blaenaf. Yr oedd yn un o feibion y pum talent, ac wrthi tra cafodd fyw yn enill pump eraill atynt. Ganwyd ef yn Gelligrafog, ardal Rhydymain, Mai 25, 1840. Heb ddim. manteision ond yr hyn a gafodd trwy gyfarfodydd llenyddol a chrefyddol yr ardal wledig yr oedd yn byw ynddi, talodd sylw i lenyddiaeth a barddoniaeth, a daeth yn fuan i'r amlwg fel llenor a bardd ei hun Enillodd gadair Eisteddfod Porthmadog, Awst 1872. Ond y llinell brydferthaf yn ei gymeriad oedd ei grefydd. Rhagorai ar ei gyfoedion fel dyn ieuanc crefyddol a defnyddiol. Dewis wyd ef yn flaenor gan eglwys Silo, Tachwedd 1870. Coleddid gobeithion am dano, pe yr estynasid ei oes, y buasai yn dyfod yn ddyn pwysig i fyd ac eglwys. Ond ymaflodd afiechyd ynddo, a bu farw Tachwedd 15, 1873, yn 33 mlwydd oed.

John Griffith, Coed-y-rhoslwyd.— Dewiswyd yntau yn flaenor yr un adeg a'i gyfaill oedd yn ieuengach nag ef. Yr oedd yn ŵr caredig, hynaws, ffyddlon, a da; parod i wneyd pobpeth gyda chrefydd, a hawdd iawn cydweithio âg ef. . Ni bu neb erioed fel blaenor mwy ei barch i weinidogion yr efengyl. Cynyddai hyd y diwedd mewn crefydd a defnyddioldeb, ac yr oedd yn wir ofalwr am yr achos. Bu ef farw yn 1883, ac anfynych y gwelwyd eglwys yn fwy ei galar ar ol colli blaenor.

Dewiswyd yr hynafgwr, a'r blaenor ffyddlon, John Jones, Post Office, yr hwn trwy ras Duw sydd yn aros hyd y dydd hwn, i'r swydd, fel y crybwyllwyd, yn fore yn hanes yr eglwys, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Medi 1841, sef y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf. Mae ei ofal wedi bod yn fawr am yr achos trwy y blynyddoedd, a theilwng ydyw coffhau, mai ei dŷ ef sydd wedi bod yn gartref gweision yr Arglwydd, bron yn gwbl, o'r dechreu cyntaf hyd yn awr. Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. John Jones, Hugh Jones, John Roberts, a William Pugh.

SARON (Friog)

Yn y flwyddyn 1865 y sefydlwyd yr eglwys yma gyntaf. Yr oedd hen achos wedi ei sefydlu yn Llwyngwril a Sion, a gadawyd y lle hwn, sydd oddeutu haner y ffordd rhyngddynt, am hir amser heb foddion yn y byd, ac elai ambell un o'r trigolion i wrando yr efengyl i'r naill neu y llall o'r lleoedd uchod. Ychydig oedd nifer y preswylwyr, mae'n wir, a gallwn gasglu eu bod, nid yn unig yn ddiymgeledd, ond yn bur anghrefyddol. Yn Nghofiant Richard Jones, Llwyngwril, gwr a ddechreuodd bregethu yn fuan wedi dechreu y ganrif bresenol, ceir sylw neu ddau yn profi hyny. Dywedir am Richard Jones, yr hwn ni allai siarad yn groew, y "byddai yn lled hoff o'u traddodi cyn cychwyn (sef ei bregethau newyddion) mewn pentref tlawd o'r enw y Friog, o fewn dwy filldir i Lwyngwril, i hen boblach druain na byddent yn myned i addoliad ond anfynych." Eto. "Pan oedd unwaith yn pregethu yn y Friog, daeth rhywun at y drws i roddi arwydd fod prog wedi dyfod i'r lan (mae y lle ar lan y mor); a dyna y gynulleidfa yn dechreu myned allan o un i un, gan adael y pregethwr i siarad wrth yr eisteddleoedd gweigion. Wrth weled y fath ymddygiad annheilwng, cynhyrfodd yn anghyffredin, a dywedodd, 'Mi ddydw

Nodiadau

golygu