Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Y Deffroad Crefyddol yn Ymledu
← Agwedd Foesol a Chrefyddol y Wlad cyn y Flwyddyn 1785 | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I gan Robert Owen, Pennal |
Yr Erledigaeth yn y Flwyddyn 1795 → |
PENOD III
Y DEFFROAD CREFYDDOL YN YMLEDU.
CYNWYSIAD—Ffynonellau yr hanes am y cyfnod—Y Crynwyr a Vavasor Powell—Hugh Owen, Bronclydwr—Olynwyr Hugh Owen—Hanes Eglwysi Annibynol Cymru—Y deffroad yn hir yn dechreu—Y daith o Leyn i Langeitho—Y tân yn d'od gyntaf i Lanfihangel—Y pregethu cyntaf yn Abergynolwyn—Dechreuad yr achos yn Nghorris—Yr achos yn dechreu yn Llwyngwril a'r Bwlch yn amser Lewis Morris—Y drysau yn agor i'r Efengyl yn Towyn a Bryncrug—Maes-y-Afallen—Ymneillduaeth yn Mhlwyf Towyn—Crybwyllion gan J. Jones, Penyparc—Y rhwystrau ar y ffordd—Proffwydoliaeth Morgan Llwyd o Wynedd—William Hugh a Lewis Morris.
MAE y flwyddyn 1785 yn adeg fanteisiol i edrych ymlaen oddiwrthi i'r dyfodol. Y mae yn gyfnod arbenig yn hanes crefydd y rhan yma o Sir Feirionydd, yn gystal ag yn hanes crefydd Cymru oll. Yn y flwyddyn hon y dechreuodd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Yn yr un flwyddyn yr aeth Mr. Charles o'r Bala i Gymdeithasfa Llangeitho, ac y dywedodd yr hen Barchedig Daniel Rowlands am dano, "Rhodd yr Arglwydd i Wynedd ydyw Charles." Yn y flwyddyn hon, hefyd, dywed awdwr Methodistiaeth Cymru, "nad oedd yr un cynghorwr i'w gael o Rhoslan yn sir Gaernarfon hyd Machynlleth yn Sir Drefaldwyn." Nid oedd yr un pregethwr o gwbl o fewn i'r rhan a elwir yn awr Gorllewin Meirionydd, y flwyddyn hon, ond Edward Roberts, Trawsfynydd, yr hwn a elwid gan ei erlidwyr, "Hen Ficer y Crawcaill." Oddeutu yr amser hwn y dechreuwyd pregethu gyntaf gyda dim cysondeb yn yr ardaloedd rhwng y Ddwy Afon. Cyn y flwyddyn 1780, nid oes dim hanes fod neb o'r Methodistiaid wedi pregethu yr un bregeth i dynu sylw, ac i beri ei chofio. Dyma yr adeg y dechreuodd y deffroad crefyddol yn y parth hwn. Dyddorol iawn ydyw hanes y dechreuad, a'r modd y cariwyd yr achos ymlaen yn y gwahanol ardaloedd am y 30ain mlynedd cyntaf, hyd y flwyddyn 1810. Gwnaethpwyd pethau anhygoel trwy gyfrwng Rhagluniaeth a threfn gras yr efengyl, ac yr oedd llaw yr Arglwydd yn amlwg gyda'i bobl. Ond yr anhawsder, erbyn hyn, ydyw gwybod pa bryd y dechreuodd yr achos, a pha fodd y dechreuodd mewn llawer man. Pe buasai yr hanes wedi ei ysgrifenu driugain mlynedd yn ol, buasai yn ddigon hawdd dyfod o hyd i'r holl amgylchiadau ynglŷn â ffurfiad yr eglwysi. Ond, bellach, mae y tô o hen bobl oedd yn gweled yr oll a'u llygaid wedi eu symud oddiar y ddaear. Nis gellir gwneyd dim yn awr ond casglu defnyddiau goreu gellir oddiyma ac oddidraw. Nid yw yr hyn a ysgrifenwyd gan dystion gweledig ond ychydig. Adgofion Hen Bregethwr, a ysgrifenwyd gan Lewis Morris ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol, ac a ymddangosodd yn y Traethodydd am Ionawr, 1847, ceir rhai ffeithiau lled gywir. Yn hanes bywyd Mr. W. Hugh, Llechwedd, rhoddir tipyn o oleuni pa fodd yr oedd pethau yn y dechreuad yn nghanolbarth y rhan yma o'r wlad. Ceir rhai ysgrifau, hefyd, yn yr hen Gyhoeddiadau Misol am ddechreuad yr achos yn Nghorris, a manau eraill. Tua deugain mlynedd yn ol, yr oedd y Parch. John Hughes, Liverpool, yn parotoi i ysgrifenu Methodistiaeth Cymru. Anfonwyd yr hanes iddo gan rywun neu rywrai—ni wyddis yn iawn pwy—o'r wlad yma, ac er fod yr hanes yn wasgaredig, y mae wedi ei gasglu gan yr awdwr parchedig yn y modd goreu, yn ol y wybodaeth oedd ganddo ef, ac y mae yr hyn a ysgrifenwyd yn y cyfrolau hyn yn hynod o werthfawr. Y mae yn deilwng o sylw, hefyd, nad oedd yn mwriad Mr. Hughes, nac yn ei gynllun ychwaith, i roddi hanes cyflawn am bob eglwys, ond yn unig roddi hanes dechreuad crefydd, a'r pethau mwyaf hynod yn y cyfnod hwnw yn ngwahanol siroedd Cymru.
Ychydig iawn oedd wedi ei wneuthur cyn y cyfnod crybwylledig i foesoli a chrefyddoli y rhan yma o'r wlad gan neb arall, mwy na'r Methodistiaid. Bu achos gan y Crynwyr mewn rhai manau yn foreuach na hyn. "Yr oedd nifer o Grynwyr, ac amryw Annibynwyr," meddai un awdwr, "oddeutu Dolgellau a godreu Cader Idris, a yrwyd i, ac a adawyd ar lan y môr dros y nos, yn rhywle o Abermaw i Aberdyfi." Rhoddir hanes dioddefiadau y bobl hyn gan Vavasor Powell, yr hwn oedd ei hun yn dioddef yn gyffelyb, yn y geiriau canlynol:—"Eraill yn Swydd Feirionydd, fel pe buasent anifeiliaid, a yrwyd i frad-byllau, neu i ffaldau, lle y cedwid hwy am oriau lawer, tra fyddai eu gelynion yn yfed mewn tafarndy, ac yn eu gorfodi i dalu am y gwirod, er nad oeddynt wedi eu profi eu hunain. Yna, dygid hwy i lan y môr, a gadewid hwynt yno dros y nos, mewn perygl i gael eu llyncu i fyny ganddo. Traddodwyd eraill i garchar, lle y cawsant eu cadw am fisoedd; cymerwyd eu hanifeiliaid, a'u defaid, yn rhifo dros chwe' chant, oddiwrthynt, ac fe'u gwerthwyd. Gorfodwyd eraill pan elwid hwynt i'r Sesiwn Chwarterol, i gerdded mewn cadwynau, yr hyn ni ddylesid yn gyfreithiol osod arnynt, oddigerth eu bod wedi cynyg dianc, neu dori allan o'r carchar. Eraill ag oeddynt wedi ymgynull ynghyd yn dawel, yn ol eu dull arferol am flynyddau lawer i addoli Duw, ac i adeiladu y naill a'r llall, a fwriwyd i garcharau heb unrhyw arholiad, yn groes i gyfreithiau y genedl hon, a chenhedloedd eraill" (Powell's Bird in the Cage). Cymerodd hyn le rhwng 1660 a 1662. Darfyddodd y Crynwyr o'r wlad cyn hir, ac nid oes dim o ôl eu harosiad, oddieithr yn Llwyngwril, ac mewn ardal o'r naill du i Ddolgellau.
Blwyddyn y mae digwyddiadau anfarwol yn gysylltiedig â hi ydoedd y flwyddyn 1662. Dyma y flwyddyn y pasiwyd Deddf Unffurfiaeth, ac y gadawodd dwy fil o weinidogion eu bywiolaethau er mwyn cydwybod. Ymhlith y llu anrhydeddus, yr oedd cant a chwech o weinidogion Cymreig. Nid oedd ond un gweinidog Anghydffurfiol yn Sir Feirionydd yr adeg yma, yr hwn, er nad oedd ei hun wedi cymeryd urddau, a ddewisoedd ymneillduo gyda'r ddwy fil o wroniaid. A gellir olrhain Ymneillduaeth y sir i'r flwyddyn hon. Yn agos i'r Rheilffordd, pan yr elir o Dowyn i Lwyngwril, yn union wedi croesi afon Dysyni, oddeutu haner y ffordd rhwng palasdy Cefncamberth â chapel y Bwlch, y mae ffermdy clyd yr olwg arno yn nghesail y bryn, yn wynebu tua'r môr, ac yn cael ei gysgodi gan wyntoedd oer y gogledd. Dyna Bronclydwr, lle genedigol Hugh Owen, yr hwn oedd yn nai, fab cyfyrder, i Dr. Owen, tywysog y duwinyddion, a'r hwn hefyd a elwir hyd heddyw gan yr Anghydffurfwyr yn "Apostol y Gogledd." Teilynga y lle hwn sylw am fod seren oleu wedi bod yn llewyrchu ynddo am ddeugain mlynedd, a hyny ddeugain mlynedd cyn i Seren y Diwygiad Methodistiaidd yn Nghymru gyfodi. Ni bydd hanes crefydd yn Sir Feirionydd yn gyflawn heb gynwys hanes Hugh Owen, Bronclydwr.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1637, ac felly yr oedd yn 25ain oed amser y chwyldroad mawr 1662. Yr oedd y pryd hwn ar orphen ei addysg yn Rhydychain, a chan nas gallai gydffurfio â'r deddfau caeth oedd Charles II. yn eu gosod ar bawb a gymerent urddau eglwysig, ymwrthododd â hwy cyn eu cymeryd, dychwelodd adref i'w sir enedigol, ac ymsefydlodd ar ei etifeddiaeth yn Bronclydwr. Sefydlodd eglwys yn ei dy ei hun, gan wahodd deiliaid plwyfydd Celynin, Llanegryn, a Towyn i ddyfod yn wrandawyr. Yr oedd ei gariad at ei gymydogion a'i gydwladwyr mor gryf fel y darfu iddo dreulio ac ymdreulio i'w rhybuddio, eu cynghori, a'u cyfarwyddo yn mhethau teyrnas nefoedd. Teithiai o amgylch, bellder o ffordd oddiwrth ei gartref, i bregethu efengyl y deyrnas. Un lle y byddai yn pregethu ynddo oedd Pantphylip, uwchlaw Arthog; lle arall oedd Dolgellau; lle arall oedd y Bala. Y mae tŷ yn Nolgellau, yr hwn a adnabyddir eto wrth yr enw "Tŷ Cyfarfod," lle y pregethai Hugh Owen ynddo. Yr oedd ganddo ddeuddeg, meddir, o eglwysi wedi eu sefydlu, chwech yn ei sir ei hun a chwech mewn siroedd eraill. Elai o amgylch i ymweled â'r rhai hyn ar gylch bob tri mis. Wedi dychwelyd adref cychwynai drachefn, ac yn ei waith apostolaidd, dioddefodd yn y modd hwn galedi mawr, a dangosodd ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin.
Yr oedd yn ŵr duwiol, ac o ysbryd llonydd a heddychlon, a thrwy hyny cafodd lonydd i fesur mawr, oddiwrth erledigaeth yr amseroedd. Daeth Is-sirydd Meirionydd i'w dy un adeg, yn amser Charles II., a gwarant i'w ddal am bregethu yr efengyl. Cydsyniodd yntau yn rhwydd i fyned gyda'r swyddog, ond gofynodd am ganiatad i weddio unwaith gyda'i deulu cyn en gadael. Caniatawyd ei gais, ac erbyn iddo orphen ei weddi, yr oedd y swyddog mewn ofn; nid oedd ganddo wroldeb i fyned ag ef ymaith, a gadawodd ef yn wr rhydd. Adroddir hefyd iddo gael ei garcharu unwaith yn y Castell Coch, gan Arglwydd Powys. Enillodd gymeradwyaeth yno yn bur fuan. Gwrandawodd ceidwad y carchar ef yn gweddio, a'i dystiolaeth am dano oedd, "Diau Cristion da yw y dyn." Wrth ei ryddhau, mynodd Arglwydd Powys ganddo ddyfod yno bob Nadolig i edrych am dano.
Y mae yn rhaid fod cariad y gŵr hwn at y Gwaredwr yn fawr, a'i ymroddiad i'w wasanaethu yr esiampl oreu o ddyn yn byw er lles llaweroedd. Yn ol pob tebyg, gallasai fyw mewn tawelwch a hapusrwydd gyda'i deulu yn Bronclydwr. Yn lle hyny, aeth trwy galedi dirfawr, gan ei fod yn teithio nos a dydd, ar rew ac eira, gwlawogydd a stormydd mawrion, a'i lety yn dlawd, a'i ymborth yn wael. Byw y byddai ar laeth a bara, a chysgu ar wely o wellt. Adroddir y ddau hanesyn canlynol am dano, y rhai a ddangosant y modd yr elai trwy enbydrwydd mawr, ac fel y cyfryngai Rhagluniaeth yn rhyfedd ar ei ran: "Un tro, wrth ddychwelyd adref ar noswaith dywyll iawn, fe gollodd ei ffordd, ac a wybu ei fod mewn lle peryglus. Yn ei drallod mawr, fe ddisgynodd oddiar ei geffyl, ac a weddiodd ar yr Arglwydd. Erbyn darfod y weddi, yr oedd yr wybr yn oleu uwchben; gwelai yntau ei ffordd yn eglur, a diangodd o'i berygl. Dro arall, wrth fyned i bregethu yn nyfnder gauaf, y nos a'i goddiweddodd, ystorm ddisymwth a gododd, a'r eiria a luchiodd i'w wyneb, fel na allai yr anifail oedd dano fyned rhagddo. Yn y cyfwng hwn, gadawodd i'r ceffyl fyned y ffordd a fynai, hyd oni ddeallodd ei fod mewn perygl gan ffosydd a mawnogydd. Nid oedd ganddo bellach ond galw yn lew ar Dduw, yr hwn ni throisai ei weddiau draw mewn cyffelyb amgylchiadau. Disgynodd oddiar ei farch, a cherddodd mewn eira dwfn hyd ganol nos, nes oedd oerni a lludded wedi dwys effeithio arno, ac iddo anobeithio bron yn llwyr am ei fywyd. Ond yn y cyfwng yma, trefnodd Rhagluniaeth iddo gyraedd at feudy; ond ar ei gais yn ceisio myned i fewn iddo, cafodd fod y drws wedi ei fario o'i fewn. Bu am awr neu ychwaneg yn ymgripio yn lluddedig, ac ymron wedi fferu, o amgylch yr adeilad, heb allu cael un fynedfa i mewn. Ond o'r diwedd, wedi llawn ddiffygio, cafodd dwll yn nhalcen y beudy, a thrwy gryn orthrech, efe a ymwthiodd i mewn; ac yno y gorweddodd rhwng y gwartheg hyd doriad y dydd. Wedi ymlusgo allan, gwelai dŷ yn agos; ac aeth ato, a churodd wrth y drws. Erbyn i wr y ty gyfodi, ac agoryd iddo, efe a'i cafodd a'i wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwylaw yn ddideimlad gan fferdod, ei ddillad wedi sythu, ac yntau o'r braidd yn medru siarad. Gwnaed iddo dân da, rhoddwyd llaeth twymn iddo i'w yfed, a chafodd orwedd mewn gwely cynes. Mewn ychydig oriau, yr oedd wedi cwbl ddadebru, ac aeth y boregwaith hwnw i'r lle cyfarfod, a phregethodd fel arferol, heb deimlo nemawr niwaid." Nid yw yn hysbys ymha le y digwyddodd hyn—da iawn fuasai cael gwybodaeth am y lle—ond sicr ydyw iddo ef ei hun adrodd yr hanes wrth ei gydnabod; oblegid fe'i coffheir gan ei holl fywgraffwyr, ymhlith yr ychydig ffeithiau sydd ar gael o hanes ei fywyd. Ymddengys, hefyd, fod y gŵr da o Fronclydwr wrtho ei hunan yn llafurio gydag achos yr Arglwydd yn Sir Feirionydd am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn seren oleu eglur yn Siroedd Meirionydd, Trefaldwyn, a Chaernarfon, yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, Bu farw yn y flwyddyn 1699, yn 62 oed, ac y mae ei feddrod ef yn aros yn mynwent Llanegryn. Yr oedd hyn gan' mlynedd union cyn bod Lewis Williams, Llanfachreth, yn yr ardal hono yn dechreu Ysgol Sul, heb fedru y llythyrenau ei hun.
Ar ei ol daeth ei fab, John Owen, i drigianu yn Bronclydwr, ac i gymeryd gofal yr eglwysi yr oedd ei dad wedi eu sefydlu. Ond ychydig barhaodd ei oes ef, bu farw yn 30ain oed. Yn nyddlyfr Matthew Henry, yr hwn a bregethodd bregeth angladdol iddo, dywedir "fod Cymru wedi colli canwyll oleu, yr hon a lewyrchai yn nghanol tywyllwch."
Tra yr ydoedd Hugh Owen yn preswylio yn Bronelydwr, ac yn llafurio yn yr efengyl o fewn cyffiniau ei ardal, byddai ychydig o wyr da, y rhai oeddynt yr amseroedd hyny mor anaml yn y wlad, megis ymweliadau angylion, yn "few and far between," yn talu ymweliad ag ef yno ac yn cael nodded rhag erlidwyr. Ceir fod y Parchn. Henry Maurice a James Owen wedi bod yno, dau wr a ymroddasant i deithio ac i bregethu yr efengyl yn y lleoedd tywyllaf yn Nghymru yn y cyfnod hwn. A dywedir mai James Owen a bregethodd bregeth angladdol i'r hybarch Hugh Owen, o Fronclydwr. Yr oedd pregethu pregeth angladdol i wyr enwog yn beth cyffredin yn yr oes hono. Ar ol marwolaeth John Owen, yr hwn, am ychydig amser, a fu yn olynydd i'w dad, y nesaf a ddaeth i gymeryd gofal yr eglwysi oedd Edward Kenrick, ei fab-yn- nghyfraith. Gan ei fod ef wedi priodi merch Hugh Owen, daeth Bronclydwr yn etifeddiaeth iddo gyda'i wraig. Ordeiniwyd ef Awst 17eg, 1702, gan Matthew Henry a James Owen. Nid ydym wedi cael yr hanes ymha le yr ordeiniwyd ef, pa un ai yn nhŷ Bronclydwr ai yn rhyw le arall. Nid ymddengys fod dim o enwogrwydd ei dad-yn-nghyfraith yn perthyn iddo ef, ac nid oes cymaint o'i hanes yn wybyddus ychwaith, er ei fod yn byw yn ddiweddarach. Dywedir iddo fod yn gwasanaethu eglwysi y cylch am 40 mlynedd. Os felly, yr oedd yn gofalu am danynt pan y torodd y Diwygiad Methodistaidd allan trwy Howell Harries. Dichon iddo fod yn llwyddianus mewn rhanau eraill o Sir Feirionydd, ac yn y siroedd cylchynol; ond nid oes hanes am yr un eglwys yn Bronclydwr, nac yn un man arall yn Nosbarth y Ddwy Afon, ar ol ei farwolaeth. Yr oedd deugain mlynedd o amser wedi myned heibio ar ol ei farw ef cyn bod dechreu pregethu gan y Methodistiaid o amgylch ardal Bronclydwr; a'r pryd hwnw, teulu o'r enw Walis oedd yn byw yn y lle. Fel hyn, mae yn amlwg ddigon, dybygid, mai dau Ymneillduwr enwog a fu yn llafurio yn Sir Feirionydd yn ystod y ganrif o 1600 i 1700, Morgan Llwyd, o Gynfal, Ffestiniog, y rhan gyntaf o'r ganrif, a Hugh Owen, Bronclydwr, y rhan olaf o honi. Yr Annibynwyr, felly, a lafuriodd gyntaf yn y sir. Ac o'r flwyddyn 1700, nid ydym yn cael fawr ddim o hanes crefydd rhwng y Ddwy Afon, hyd nes y dechreuodd pregethwyr y Methodistiaid bregethu yma—tymor o bedwar ugain mlynedd. Yn Methodistiaeth Cymru, ceir y paragraph canlynol,—"Er engraifft, i ddangos pa mor llwyr yr oedd gweinidogaeth Hugh Owen wedi diflanu o'i gymydogaeth ef ei hun, gellir nodi yr amgylchiad a ganlyn,—Yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn arfer, pan yn ieuanc, feallai tuag ugain oed, o leiaf cyn iddo ddechreu pregethu, o fyned gyda chyfaill crefyddol arall, i ardal Bronclydwr, i gynal cyfarfodydd gweddiau ar brydnhawn Sabbath. Pan oeddynt yn ymgynyg at hynyma, cawsant mai nid hawdd oedd cael neb a'u derbynient hwy i dy; a thrwy dalu swllt bob Sabbath i ryw amaethwr y cawsant ddrws agored i gynal y fath gyfarfod yma."
Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, gan y Doctoriaid Rees a Thomas, dywedir: "Bu y rhan yma o'r wlad, rhwng y Ddwy Afon, Mawddach a Dyfi, yn hwy heb ei darostwng tan ddylanwad yr efengyl na'r rhan fwyaf o Sir Feirionydd. Mae yn wir fod Bronclydwr o fewn llai na phedair milldir i'r Towyn, ac nid oes dim yn fwy sicr na bod yr efengylwr llafurus, Hugh Owen, wedi pregethu llawer trwy yr holl ardaloedd hyn; ond nid oes yma, er hyny, gymaint ag un eglwys ag y gellir ei holrhain hyd ei ddyddiau ef. Nis gall yr eglwysi Annibynol yma ddilyn eu hanes yn ddim pellach na dechreuad y ganrif bresenol, ac ni chafodd y Methodistiaid Calfinaidd ond ychydig o flaen arnynt." Rhyw bymtheg, neu ugain mlynedd o bellaf, oedd y blaen a gawsant. Mae yr hyn a ddywedir yn y dyfyniad uchod yn eithaf cywir, sef fod y rhan yma o'r wlad wedi bod yn hwy heb gael ei darostwng tan ddylanwad yr efengyl na'r rhanau eraill o'r wlad o amgylch.
Yr ydys yn gallu nodi yn lled sicr fod y deffroad crefyddol, trwy y Diwygiad Methodistaidd, wedi dechreu yma oddeutu y flwyddyn 1785. Nid yn hollol y flwyddyn hono y dechreuwyd pregethu, fel y ceir gweled eto, ond oddeutu y flwyddyn hono y dechreuodd y pregethu amlhau yn y gwahanol ardaloedd. Mae y dechreuad yn cyfateb i'r prif ddigwyddiad hanesyddol mewn cysylltiad a chrefydd yn ein gwlad—blwyddyn dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Cwestiwn i'w ofyn yn naturiol yn y fan yma ydyw, Pa fodd y bu rhan gyfan o wlad Meirion mor hir heb ei deffro trwy y Diwygiad? Yr oedd dros ddeugain mlynedd wedi myned heibio er pan yr oedd Howell Harries wedi dechreu cynhyrfu Cymru. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Sir Drefaldwyn a'r Bala yn union ar ol iddo ddechreu; bu ef a Daniel Rowlands, Llangeitho, ar ymweliad a'r Gogledd amryw weithiau; yr oedd teithio mawr wedi bod gan enwogion y Methodistiaid o'r De i'r Gogledd; nid oedd yr un sir yn Nghymru heb deimlo nerth yr efengyl cyn pen ychydig wedi i'r tân ddechreu cyneu yn Nhrefecca a Llangeitho. Yr oedd rhanau helaeth o Sir Feirionydd ei hun wedi ei goddeithio, a phump o gapelau wedi eu hadeiladu ynddi cyn y flwyddyn 1785. Ac eto, dyma y rhan agosaf i'r Deheudir heb i'r tân wneuthur dim o'i ôl arni, a buasid yn meddwl mai trwy y rhan yma yr oedd y dramwyfa barhaus o'r naill dalaeth i'r llall. Gymaint, hefyd, o dramwyo oedd o'r Gogledd i Langeitho, i wrando Rowlands, ar Sul pen mis; elent yno yn finteioedd o'r Bala, o Sir Fon, a Sir Gaernarfon, a hyny er's yr holl flynyddoedd yn flaenorol i 1785; a buasem ni, yn yr oes hon, yn tybio mai trwy y rhan yma o'r wlad y buasai yr holl dyrfaoedd yn tramwyo, yn ol a blaen. Pa fodd, gan hyny, y bu y tân Dwyfol mor hir heb gyffwrdd â'r rhan hon o'r sir? Buom yn cael ein dyrysu gryn lawer gan y mater hwn, ac yr ydym i fesur eto yn y dyryswch. Modd bynag, mae rhyw gymaint o eglurhad i'w roddi dros y ffaith mai fel hyn yr oedd. Yn un peth, mae yn bur eglur mai trwy gyfeiriad arall yr oedd y rhan fwyaf o'r teithio rhwng De a Gogledd, gan' mlynedd yn ol, sef trwy Mallwyd a Dinas Mawddwy, a thros Fwlchygroes i'r Bala. Prawf o'r ffaith hon ydyw, fod y lleoedd hyn wedi profi nerth y diwygiad gyda'r manau cyntaf yn y Gogledd. Peth arall a all fod yn rheswm ydyw, yr erledigaeth greulawn a fu dros faith flynyddau yn Machynlleth a Dolgellau. Am Ddolgellau, dywed Robert Jones, Rhoslan, "Gorfu dros rai blynyddoedd fyned yn ddistaw i'r dref yn y nos, a chadw yr odfäon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr, cyn i'r llewod godi o'u gorweddfäoedd." Nid oedd nemawr gwell, na chystal, yn Machynlleth. Yr oedd wedi rhedeg yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf cyn i'r erlid mawr liniaru yn y naill na'r llall o'r lleoedd hyn. Gan fod y ddwy dref, un ar bob congl i'r wlad rhwng y Ddwy Afon, bu yr erledigaeth chwerw fu ynddynt yn foddion i beri i'r pregethwyr gilio oddiwrthynt, ac oddiwrth y wlad cydrhyngddynt. Y mae yn aros eto i wybod pa ffordd yr elai trigolion Lleyn ac Eifionydd i Langeitho. Am drigolion y parthau hyn,, dywedir mewn dyfyniad a geir yn Nghofiant y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, gan Mr. Morris Davies, Bangor: "Os byddai yr hin yn ffafriol, hurient gwch pysgota i'w trosglwyddo o Bwllheli i Aberystwyth, gan gychwyn i'w taith ddydd Gwener. Os amgen, cychwynent ddydd Iau ar eu traed dros y tir trwy Abermaw, a chytunent ag eraill i gyfarfod am naw o'r gloch foreu Sadwrn, wrth ryw ffynon yn Llangwyryfon." Wrth hyn, gwelir fod yn rhaid iddynt fyned ar draws y wlad o Abermaw i Aberdyfi. Erys rhyw gymaint o draddodiad, hefyd, rhwng y ddau le hyn, y byddent yn dychwelyd yr un ffordd, ac y byddent yn gorphwyso i fwyta eu tamaid bwyd wrth ffynon Pantgwyn, uwchlaw i Lanegryn, yn agos i "Wastad Meirionydd." Os oeddynt yn arfer myned, yn ol a blaen, y ffordd hon, y mae yn beth rhyfedd na buasent, fel llwynogod Samson, wedi rhoddi rhyw gymaint o'r wlad ar dân.
Y mae un ffaith am danynt yn teithio trwodd yn hollol sicr. Adroddir yr hanes yn Nrych yr Amseroedd, ac yr oedd yr awdwr, Robert Jones, Rhoslan, ymhlith y fintai ei hun. Fel hyn yr adrodda efe yr hanes:—"Yr oedd, ryw bryd, ryw nifer mawr o bobl, nid llai na phump a deugain, wedi myned mewn llestr i'r Deheudir, o Sir Gaernarfon, i'r cyfarfod mawr yn Llangeitho. Cyn dyfod yn ol, trodd y gwynt, fel y gorfu i ni ddyfod adref ar hyd y tir. Wrth weled y fath rifedi o honom, cawsom ein dirmygu a'n gwawdio i'r eithaf yn Aberdyfi; ac o'r braidd y gadawsant i ni ddyfod trwy dref Towyn heb ein herlid yn dra llidus. Erbyn dyfod i'r Abermaw, yr oedd hi yn dechreu nosi, ac yn dymestl fawr o wynt a gwlaw. Lled gynhyrfus oedd y pentref ar ein dyfodiad yno; ond bu llawer o'r trigolion mor dirion a lletya cynifer ag a arosasant yno. Aethai rhai ymlaen i ymofyn llety yn y wlad. Felly cafodd pawb y ffafr o le i orphwys y noson hono. Yr oedd yno un wraig, yr hon, pan ofynwyd iddi am le i letya, a safodd ar y drws, ac a ddywedodd yn haerllug: Na chewch yma gymaint a dafn o ddwfr; nid wyf yn ameu na roddech fy nhŷ ar dân cyn y boreu, pe gollyngwn chwi i mewn.' Ond buan y cyrhaeddodd llaw Duw hi am ei thraha a'i chreulondeb, canys cyn y boreu yr oedd y tŷ yn wenfflam, a braidd gymaint ag oedd ynddo yn lludw. Yr oedd y tŷ yn y pen nesaf i'r afon o res o dai oeddynt i gyd yn gydiol a'u gilydd. Troes y gwynt yn y cyfamser i chwythu ymaith y tân a'r gwreichion oddiwrth y tai eraill; pe amgen, buasai y rhai hyny yn debyg o gael eu llosgi oll. Dychwelodd y gwynt yn ol cyn y boreu i'r lle y buasai am lawer o ddyddiau cyn hyny, a lle yr arhosodd lawer o ddyddiau ar ol hyny hefyd.
Dranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gwr i'n hergydio â cherig, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau nes oedd y gwaed yn llifo. Cafodd un ergyd yn ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau."
Digwyddodd hyn, yn ol pob tebyg, cyn y flwyddyn 1780.[1] Yr ydym yn gweled oddiwrth yr hanes fod ysbryd erlidgar iawn yn meddianu y preswylwyr, mewn gwlad a thref. Cadarnha hyn, hefyd, y dybiaeth fod erledigaethau y rhan yma o'r wlad yn un achos i gadw yr efengylwyr draw oddiwrthi. Er ei bod yn lled sicr yr elai y pererinion o Leyn ac Eifionydd y ffordd hon i Langeitho, nid yw yn debyg y byddai eu nifer gyda'u gilydd mor fawr a phump a deugain. Awgrymir yn y dyfyniad uchod mai nifer mawr y fintai a barodd i'r erlidwyr gyfodi mor ffyrnig yn eu herbyn. Gallwn gasglu, pan y byddai nifer y pererinion o Leyn yn lliosog, mai mewn llong neu gychod yr elent. Modd bynag, nid oedd na dieithriaid na dyfodiaid wedi bod hyd yma yn abl i ddychrynu nac efengyleiddio dim ar drigolion Mesopotamia. Ac nid oes dim sicrwydd fod na Howell Harris na Daniel Rowlands wedi sangu eu traed o gwbl o fewn y cyffiniau.
O'r diwedd, daeth goleuni i'r ardaloedd a fuont mor hir yn y tywyllwch. Ac fel yr iachawdwriaeth ei hun, fe ddaeth o'r tu allan i'r ardaloedd eu hunain; cyrhaeddodd yma o'r tu hwnt i afon Abermaw. O fewn tair milldir i'r Abermaw, yn agos i'r ffordd yr eir oddiyno i Ddolgellau, y mae ffermdy o'r enw Maes-yr-afallen. Yno yr arferai yr Annibynwyr bregethu, a'r Methodistiaid hefyd yn achlysurol. Daeth y son am y pregethu oddiyno i ardal Llanfihangel, yn agos i Abergynolwyn. Crybwyllwyd eisoes mai William Hugh, Llechwedd, a ddeffrowyd i feddwl am fater ei enaid gyntaf yn y cwmpasoedd hyn. Yr oedd ef wedi ei eni a'i fagu yn Maesyllan, ac yr oedd o tan rhyw fath o argyhoeddiad crefyddol er pan oedd yn llanc ieuanc yn bugeilio defaid ei dad. Dywedai wrth ei fab, rywbryd cyn diwedd ei oes, y byddai ofn a braw yn meddianu ei feddwl mewn perthynas i'w gyflwr a'i fater tragwyddol y pryd hyny, nes yr oedd yn rhyfedd ganddo fod ei synwyrau heb eu dyrysu, ac nas mynai brofi eu cyffelyb drachefn er meddianu yr holl fyd. Tra yr ydoedd yn y stad meddwl hwn, neu, yn hytrach, wedi i'r teimlad hwn fyned heibio, clybuwyd yn ardal Llanfihangel fod pregethu yn Maes-yr-afallen, ac, meddai un John Lewis wrth William Hugh, "Dos di, William, i'w gwrando, ac i edrych pa beth sydd ganddynt; ti elli di wybod a oes ganddynt rywbeth o werth; ac os oes, minau a ddeuaf wed'yn." Cytunodd W. Hugh i fyned; ac ar ryw foreu Sabbath, cyfeiriodd ei gamrau tua Maes-yr-afallen. Y diwrnod hwnw, Benjamin Evans, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanuwllyn, oedd yno yn pregethu. Mae yn lled eglur mai dyma y bregeth, Ymneillduol gyntaf a glywodd W. Hugh, ac yr oedd yn synu wrth weled dull plaen a dirodres yr addoliad. "Yr oeddwn yn golygu," meddai, "bod i wr o ddull a gwisg gyffredin esgyn i ben 'stôl a siarad â'i gyd-ddynion, yn beth tra simpl." Aeth odfa y boreu heibio heb iddo ddeall yr un gair o honi, na gwybod ynghylch pa beth yr ydoedd. Diau fod yr olygfa ddieithr o'i amgylch, tŷ anedd yn gapel, a stôl yn bulpud, wedi myned â'i feddwl y tro cyntaf hwnw. Yr oedd yr un gwr yn pregethu drachefn y prydnhawn, a'i destyn y tro hwn oedd Rhuf. i. 16, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu." Yr oedd yr odfa hon yn un pur wahanol i deimlad William Hugh; tywynodd y goleuni, a theimlodd yntau nerth yr efengyl. Edrychai ar y tro hwn fel cyfnod hynod yn ei fywyd, a dywedai, Os oedd ganddo grefydd, mai mewn canlyniad i'w fynediad i Maes-yr-afallen y tro hwn y cafodd afael arni, a chofiodd y bregeth hono tra fu byw ar y ddaear. Cymerodd hyn le rywbryd cyn y flwyddyn 1777, oblegid y flwyddyn hono ymadawodd Benjamin Evans o Lanuwllyn i fyned i weinidogaethu i'r Deheudir.
Bu am rai blynyddau ar ol hyn heb ymuno â chrefydd. Ond o hyn allan elai i wrando yr efengyl bellder mawr o ffordd. Cerddodd rai gweithiau ar hyd nos Sadwrn i'r Bala, i wrando dwy bregeth ar y Sabbath, ac adref yn ol ar hyd y nos drachefn ar ol y ddwy bregeth, pellder, rhwng myn'd a dyfod, o 45 o filldiroedd. Aeth ef a'i gyfaill, John Lewis, un boreu Sabbath i Ddolgellau, gan hyderu fod yno rywun yn pregethu. Ond cyfarfod eglwysig oedd yno y boreu hwnw. Wedi aros i'r gwasanaeth dechreuol fyned drosodd, a deall mai cyfarfod neillduol oedd yno, aethant allan, gan feddwl wynebu tuag adref. Ond cyn iddynt fyned neppell o'r lle, wele genad yn eu goddiweddyd, ac yn eu hysbysu fod rhyddid iddynt aros os ewyllysient. Dychwelasant yn ol, a chawsant dderbyniad croesawgar i fod yn aelodau, a chyn hir cawsant y fraint o gyfranogi o Swper yr Arglwydd gyda'r gynulleidfa fechan yn Nolgellau.
Dywedir yn Methodistiaeth Cymru (T. 580) mai yn y flwyddyn 1780 y pregethwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y bröydd hyn. Feallai nad yw yn hawdd bod yn sicr am y flwyddyn, ond mae yn lled sicr ei bod oddeutu y flwyddyn hon. Y pregethwr oedd yr hybarch Robert Jones, Rhoslan, a'r lle y pregethwyd hi, medd yr hanes, oedd "ar heol mewn pentref a elwir Abergynolwyn." Prin hefyd fod "heol" yn Abergynolwyn yr adeg foreuol hon. Yr oedd yno bentref o ryw fath, a diau mai yn nghanol y pentref y pregethwyd y bregeth. Digon posibl fod a fynai W. Hugh a John Lewis â dwyn y pregethwr cyntaf i Abergynolwyn, oblegid hwy ydynt y ddau y ceir eu hanes yn myned i wrando i leoedd eraill cyn hyn. Yr oedd Robert Jones, Rhoslan, yn arferol a dyfod i bregethu i'r Dyffryn a Dolgellau yn flaenorol, ac felly fe wyddai ryw gymaint o hanes y wlad. Fel hyn yr adrodda efe yr hanes am y bregeth nodedig hon:—
"Tro nodedig iawn a fu mewn pentref bychan a elwir Abergynolwyn. Anturiwyd yno i bregethu ar brydnhawn Sabbath. Erbyn dyfod yno, yr oedd golwg lldus, greulon, erlidgar ar y dorf liosog a ddaethai ynghyd, fel yr oedd yn aeth ac yn ddychryn wynebu arnynt, canys nid oedd odid un o honynt a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr erioed yn unlle. Cafwyd llonydd gweddol i gadw y cyfarfod mewn modd annisgwyliadwy. Ond erbyn clywed pa fodd y cafwyd llonyddwch, canfuwyd fod llaw ddirgelaidd Rhagluniaeth yn sicr yn y tro. Digwyddodd fod gŵr yn byw yn yr ardal a elwid John Lewis; buasai hwnw dro neu ddau yn gwrando pregethu, ac yr oedd wedi ei dueddu i feddwl ei fod yn waith da. Yr oedd gan y gwr hwn fab-yn-nghyfraith (neu fab gwyn, fel y galwent ef) ag oedd yn aruthrol o gryf. Dywedodd yr hen wr wrtho fod y rhai'n a'r rhai'n yn bwriadu erlid ac anmharchu y gwr dieithr yno heddyw; 'ac,' ebe efe 'ni byddai raid i ti ond eu bygwth, mae yn sicr y byddant yn ddigon llonydd.' Bu y dyn yn falch o'i swydd; bygythiodd hwynt yn erwin, a pharodd ei arswyd yn nhir y rhai byw. Ni bu y cyfarfod heb radd o arddeliad arno. Ac o hyny hyd heddyw mae pregethu yn yr ardal, a gradd o lwyddiant ar y gwaith."—Drych yr Amseroedd, tudalen 72.
Mae yn lled eglur oddiwrth rediad yr hanes hwn mai y pregethwr ei hun sydd yn ei adrodd. Gellir casglu hefyd oddiwrth yr hanes mai hon oedd y bregeth gyntaf, neu un o'r rhai cyntaf a bregethwyd yn y cylchoedd, gan y dywedir nad oedd odid un o'r gwrandawyr a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr yn unlle. Yn fuan ar ol y tro hwn, daeth eraill i'r ardal i bregethu. Ac yn ychwanegol at y waredigaeth ragluniaethol a gafodd Robert Jones, Rhoslan, hysbysir am dro arall cyffelyb. Yr oedd yr erlidwyr wedi ymgasglu ynghyd eto, a golwg ymladdgar a gwyllt arnynt, i geisio rhwystro y pregethWr. Ond pan ddaeth yr amser i ddechreu, a'r cynhyrfwyr yn ymbarotoi i'r frwydr, daeth un John Howell, o Nant-y-cae-bach, ymlaen, a dywedai, Dewiswch i chwi yr un a fynoch, ai bod yn ddistaw a llonydd, ynte droi o honoch allan o'r dyrfa ataf fi" Bu hyn yn foddion i'w tawelu, a dywedir y bu yno dawelwch bob tro wedi hyn. Nid oedd y John Howell hwn yn proffesu crefydd ar y pryd, nac wedi profi dim o ddylanwad y gair ar ei feddwl. Nid oedd wedi tueddu at grefydd o gwbl, ond tybiai nad oedd dim niwed yn y gwaith o bregethu. Ar ol hyn, pa fodd bynag, daeth yn broffeswr ac yn Gristion da, yn flaenor blaenllaw, ac yn weithgar gydag achos crefydd yn Abergynolwyn am lawer o flynyddoedd. Cyn pen hir wedi hyn, dechreuodd y pregethu ddyfod yn amlach yn yr ardal hon, a'r ardaloedd cylchynol. Mae y crybwyllion hyn am Abergynolwyn yn bur sicr o fod yn gywir, oblegid cafwyd hwy o enau W. Hugh ei hun, ac y maent wedi eu corffori yn hanes ei fywyd, yr hwn a ysgrifenwyd, fel y tybir, gan ei fab, mor bell yn ol a'r flwyddyn 1830.
Mewn cysylltiad â'r dechreuad bychan hwn yn Abergynolwyn, yr ydym yn cael hefyd ddechreuad y gwaith da yn ardal Corris, a hyny drwy gyfryngiad amlwg Rhagluniaeth. Yr oedd gwraig o'r enw Jane Roberts wedi symud i fyw tua'r pryd hwn i Rugog, ffermdy yn nghwr uchaf ardal Corris. Cyn hyny preswyliai yn Nannau, gerllaw Dolgellau, ac yr oedd wedi clywed, tra yr oedd yno, fod pregethu mewn tŷ anedd o'r enw Maes-yr-afallen, yn agos i'r Abermaw, a syrthiodd awydd arni i glywed y pregethu. "Ond rhag i neb ddychmygu i ba le yr oedd yn myned, hi a lanwodd sach â gwair, ac a'i gosododd dani ar geffyl, ac aeth felly i Maes-yr-afallen." Y pregethwr y tro hwnw oedd yr hen weinidog Methodistaidd adnabyddus, John Evans, o'r Bala. Bu y bregeth, yn ol pob tebyg, yn foddion tröedigaeth iddi, a chafodd y fath flas ar wrando fel nas gallai beidio myned i wrando drachefn. Ond ar ol iddi symud i Gorris, nid oedd pregethu yn yr ardal hono. Ond clywodd fod rhyw bregethwr i ddyfod i Abergynolwyn, o fewn 5 neu 6 milldir i'w chartref. Penderfynodd fyned yno, a chymhellodd ei merch, Elizabeth, yr hon oedd newydd briodi Dafydd Humphrey, Abercorris, i ddyfod ynghyda'i gwr gyda hi i'r odfa. Cafodd Dafydd Humphrey les ysbrydol i'w enaid drwy y bregeth hono, ac yn. y fan a'r lle gwnaeth "gyfamod a'r Gwr, i'w gymeryd ef yn Dduw, a'i bobl yn bobl, a'i achos yn waith iddo tra fyddai ar y ddaear." Mor rhyfedd ydyw ffordd Rhagluniaeth! O Maes-yr-afallen y daethai y tân dros ochr Cader Idris i ardal Abergynolwyn gyntaf; ac o'r un lle yr aethai gwreichion. heibio i balasdy gwych Nannau, gerllaw Dolgellau, a dygwyd hwy drachefn i Rugog yn ardal Corris, i fod yn foddion i gyneu tanllwyth o dân yno! Dyma y wawr wedi tori ar Gorris. Ac y mae yr hanes am y modd yr aeth yr achos. rhagddo yno i'w gael yn Methodistiaeth Cymru:—
"Yn mhen blwyddyn ar ol hyn y cafodd Dafydd Humphrey gyfleusdra gyntaf i wrando pregeth drachefn. Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny.' Cynhelid yr odfa hon ar fawnog Ystradgwyn, a phrofwyd chwerwder erledigaeth yn hon hefyd. Ar ol hyn cafwyd un o hen bregethwyr cyntaf y Bala i ddyfod ar ryw Sabbath i ardal Corris, ar fin y ffordd fawr. Yr oedd rhywrai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabbath hwnw, wedi anfon offer aflonyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed gan rywun yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwyr ac a'u lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach, ni ellid, gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr ddefnydd o hono. Wedi hyn bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael. Yn gyntaf yn Llain-y-groes, a thrachefn dros ysbaid dwy flynedd yn Ysgubor-goch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarph yn llesteirio i'r efengyl gael arhosiad hir yn un lle, eto yr oedd yn enill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790, yr oedd yno bump wedi cael blas ar fara y bywyd, sef Dafydd Humphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betti Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, wrth ddrws tŷ anedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y ty hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i wr arall am ychydig o ardreth, ar yr amod fod pregethu i fod ynddo."
Y bregeth ar fin y ffordd fawr oedd y bregeth gyntaf a bregethwyd gan y Methodistiaid yn Nghorris. Mae yr amser y sefydlwyd yr eglwys hon ar gael, o leiaf, dywedir yn bendant ei bod wedi ei sefydlu yn y flwyddyn 1790, ac y mae enwau yr aelodau cyntaf hefyd ar gael, yr hyn sydd o werth mawr. Y rheswm dros fod cymaint a hyn o'r hanes yn sicr ydyw ei fod wedi ei gael o enau un o sefydlwyr cyntaf yr eglwys, sef Dafydd Humphrey, ac wedi ei groniclo tra yr ydoedd ef yn fyw.
Nis gellir bod mor sicr am amseriad sefydliad yr eglwysi yn y rhan agosaf i'r môr o'r Dosbarth. Yn unig gellir dweyd mai yr adeg y sefydlwyd hwy, o'r bron i gyd, ydoedd oddeutu y flwyddyn 1790. Er hyny, ceir awgrymiadau yn tueddu i ddangos fod un neu ddwy o honynt wedi eu sefydlu mor foreu a'r flwyddyn 1787. Yr ardaloedd y gwawriodd goleuni arnynt gyntaf, gyda golwg ar amledd breintiau crefydd, oeddynt Llwyngwril a'r Bwlch. Digon o reswm am hyn ydyw fod y ddwy ardal uchod ar y cwr agosaf i afon Abermaw, dros yr hon y cludid y newyddion da gan y saint oeddynt wedi eu hachub o'r tuhwnt i'r afon hon. Rhydd pen-hanesydd y Cyfundeb, y diweddar Barch. J. Hughes, Liverpool, y dystiolaeth a ganlyn:—
"Nid hawdd ydyw penderfynu ymha le y dechreuodd pregethu gyntaf gan y Methodistiaid rhwng y Ddwy Afon; ac yn wir anhawdd ydyw gwybod, weithiau, gyda manyldra, am amseriad ei ddechreuad mewn ardal, oherwydd fod yr amgylchiadau a roddes yr ysgogiad cyntaf yn fynych yn guddiedig; a chan mor ddisylw oeddynt ynddynt eu hunain, ni chroniclwyd hwynt gan neb. Yr oedd gwawr Methodistiaeth, mewn llawer iawn o fanau, yn gyffelyb i wawr y boreu, yn araf ei ddyfodiad, ac yn ansicr ai lygedyn ei gychwyniad. Ymddengys gradd o'r ansicrwydd hwn mewn perthynas i'r ardaloedd a enwyd uchod." Teimlai ef ei hun anhawsder, a theimlai y gwyr da a anfonodd yr hanesion iddo o'r parthau hyn, pwy bynag oeddynt, yr un anhawsder, er eu bod hwy yn byw ddeugain mlynedd yn nes i'r amser y cymerodd yr amgylchiadau le nag yr ydym ni yn awr. Nid dyfod i wybod amseriad dechreuad pregethu, i'n tyb ni, ydyw y mwyaf anhawdd, ond dyfod i wybod am yr amser yn fanwl y ffurfiwyd yr eglwysi. Yr oedd rhyw gymaint o bregethu yn dechreu yn agos iawn i'r un amser yn yr holl ardaloedd, ond fe gymerwyd rhai blynyddau, wedi hyny, cyn y ffurfiwyd yr eglwysi. Ysgrifena John Jones, Penyparc, yn 1832, am ddechreuad crefydd yn y wlad: "Nid oedd fawr o bregethu efengylaidd yn yr holl fro y pryd hwnw [cyn 1790], oddieithr gan ambell un o bregethwyr y Methodistiaid, y rhai, megis ar ddamwain, a ddeuent heibio; ac ni byddai hyny, ar y dechreu, ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn." Yr oedd dyfodiad y pregethwyr heibio mor anaml yn y dechreu yn peri fod yr eglwysi yn hir yn cael eu ffurfio. Lewis Morris, yn hanes ei fywyd ei hun, a rydd y goleuni goreu am y modd yr oedd y tân yn cerdded. Y mae y dyfyniad canlynol yn dangos pa fodd yr oedd pethau o amgylch Llwyngwril, ei ardal enedigol, yn y flwyddyn 1788:— "Byddai ambell odfa yn cael ei chynal y pryd hyny gan y Methodistiaid Calfinaidd, mewn lle a elwir Gwastadgoed, tŷ un Sion William. Ni byddai ond ychydig iawn yn dyfod i wrando, a'r pregethwyr a'r crefyddwyr oeddynt yn cael eu herlid yn fawr. Gelwid pregethwyr yn "au-broffwydi," a'r gymdeithas neillduol eglwysig yn "weddi dywyll." Cafodd Siôn William ei dafiu allan o'r tŷ, am ei fod yn caniatau pregethu ynddo; ac efe a symudodd i le a elwir y Gors, a daeth pregethu yno hefyd. Ymysg y lliaws, yr oeddwn inau yn llawn gelyniaeth yn erbyn achos yr Arglwydd, ac yn gwrthwynebu y pregethu newydd â'm holl egni. Un prydnhawn Sabbath, daeth ychydig grefyddwyr o'r Abermaw, a phregethwr, sef John Ellis, i Lwyngwril, gyda y bwriad o gadw odfa yno, a chawsant addewid am le i bregethu mewn ty tafarn yn y pentref. Daethum i'r pentref y Sabbath hwnw, yn ol fy arfer, i ddilyn gwâg ddifyrwch, pan y dywedwyd wrthyf fi a'm cyfeillion nad oedd wiw i ni fyned i'r dafarn i yfed cwrw y Sul hwnw, gan fod yno bregethu. Pan glywais hyn, aethum yn llawn gwylltineb at y ty tafarn, a gelwais am y gŵr i'r drws, a dywedais wrtho, os ydoedd am roddi ei dy i bregethwyr a chrefyddwyr, ac nid i ni, yr ataliwn i iddo werthu cwrw yn gwbl, gan yr awn â phob achos neu gwrdd yfed i dy arall yn y pentref. Dychrynodd y dyn wrth hyn, gan y gwyddai fod genyf y dylanwad mwyaf ar fy nghymdeithion; ac efe a rwystrodd yr odfa, a gorfu i'r crefyddwyr fyned ymaith yn siomedig."
Yr oedd John Ellis, o'r Abermaw, wedi dechreu pregethu er's tair blynedd cyn hyn, a lled sicr ydyw mai nid hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn pregethu yn Llwyngwril. Tro neillduol oedd hwn a goffeir gan Lewis Morris, a gallwn gasglu yn bur gryf fod pregethu yn achlysurol wedi bod yn Llwyngwril o leiaf flwyddyn neu ddwy yn gynt. Amser ei ddechreuad yno felly oedd tua 1786. Yn Awst, 1789, yr argyhoeddwyd Lewis Morris, wrth ddychwelyd o races ceffylau Machynlleth. Oddeutu Gwyl Mihangel y flwyddyn hono yr aeth i'r Abermaw i wrando ar Mr. Williams, o Ledrod, ac y daeth i wybod fod gobaith iddo gael ei achub; ac yn fuan wedi hyn, cyn diwedd yr un flwyddyn, mae'n debyg, ymunodd â chymdeithas eglwysig y Methodistiaid yn yr Abermaw. Y casgliad, gan hyny, ydyw nad oedd y crefyddwyr ddim wedi ymffurfio yn eglwys yn un lle yn nes na'r Abermaw, yn niwedd y flwyddyn 1789, onide buasai Lewis Morris yn bwrw ei goelbren yn eu mysg. Er hyny, nid ydyw hyn yn ddigon o sicrwydd. Ond yn fuan iawn ar ol hyn, y flwyddyn ganlynol, fel y gellir tybio, ffurfiwyd eglwys yn Llwyngwril. Mae yn deilwng o sylw hefyd fod yr achos yn cydgychwyn yn y Bwlch, mewn derbyn pregethu, ac ymffurfio yn eglwys. Er fod y ddwy ardal ya lled agos i'w gilydd, yr oedd yr achos ar wahan yn y ddau le, o'r cychwyn cyntaf. Yn agos i'r un amser hefyd y dechreuodd yn Towyn, Bryncrug, ac Aberdyfi. "Oddeutu yr amser hwn," meddai Lewis Morris, "y daeth pregethu gyntaf yn y cysondeb a'r sefydlogrwydd o hono i'r ardaloedd rhwng y Ddwy Afon, Mawddach, a Dyfi. . . . . . Argyhoeddwyd un gwr cyfrifol o'r enw John Vaughan, o'r Tonfanau, ynghyd a'i wraig, ac agorasant eu drws i'r efengyl (yn y Bwlch); parhaodd Mr. Vaughan i redeg yr yrfa yn ffyddlon iawn hyd y diwedd, a'i weddw ar ei ol a fu yn garedig a haelionus iawn at yr achos crefyddol yn Nghefncamberth. Mr. Lewis Jones, o Benyparc, yn moreu pregethu yn yr ardal (Bryncrug) a agorodd ei ddrws i arch Duw; ac y mae ei fab, Mr. John Jones, yr un modd yn llafurus a ffyddlawn hyd heddyw (1846), fel gweithiwr medrus gydag amrywiol ranau achos Iesu Grist. Mr. Francis Hugh, yn Nhowyn, a fu yn gynorthwyol i'r achos yn foreu iawn, ac y mae ei deulu yn cadw y drws hwn yn agored hyd heddyw. Mr. Harri Jones, Nant-y-mynach, a'i wraig, yn fuan wedi hyn a agorasant eu drws i achos Iesu Grist, ac y mae y drws hwn hefyd yn agored i'r achos eto. Dyma y drysau cyntaf a agorwyd i'r efengyl yn y parthau hyn."
Crybwyllwyd droion am Maes-yr-afallen, fel ffynonell o'r hon y daeth y goleuni i lewyrchu i wahanol ranau y cwr yma o'r wlad. Hwyrach mai buddiol fyddai gair o eglurhad am gysylltiad crefydd â'r lle hwnw. Rhwng 1769 a 1777, yr oedd y Parch. Benjamin Evans yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn, ac arferai ddyfod i bregethu i blwyf Llanaber. O gylch y flwyddyn 1770, cofrestrodd gegin amaethdy Maes-yr-afallen i bregethu ynddi. Cadben William Dedwydd, gwr genedigol o Abergwaen, Sir Benfro, oedd perchenog a phreswylydd yr amaethdy hwn, ac yr oedd efe yn ewythr, brawd ei mam, i wraig Mr. Benjamin Evans. Yn flaenorol i hyn, ymbriodasai y Cadben Dedwydd âg aeres y Gorllwyn, gerllaw yr Abermaw, ac yr ydoedd yn wr crefyddol a dylanwadol. Cysylltiad perthynasol, yn ddiameu, a ddygodd weinidog anturiaethus Llanuwchllyn i gysylltiad â'r lle, a bu hyny yn foddion, yn llaw Rhagluniaeth Ddwyfol, i ledaenu crefydd yn yr ardaloedd cylchynol. Yn y flwyddyn 1777, ymadawodd Mr. Benjamin Evans o Lanuwchllyn i Hwlffordd, a bu yr Annibynwyr am o gylch 24 mlynedd wedi hyn heb neb yn llafurio yn yr ardal. Ond ymddengys y byddai y Methodistiaid yn pregethu yn achlysurol yn y lle. Modd bynag, gan fod yr ardal hon mewn congl neillduedig o'r wlad, a'r tŷ hefyd wedi ei gofrestru fwy nag ugain mlynedd cyn i'r Methodistiaid ddechreu cofrestru eu tai, cafwyd yma lonyddwch i addoli Duw mewn adeg foreuol, a bendithiwyd y cynulliadau crefyddol i bell ac agos.
Yn Ngwanwyn y flwyddyn 1863, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol yn Nhowyn. Un o'r testynau ar gyfer y cyfarfod oedd, "Dechreuad a Chynydd Ymneillduaeth yn Mhlwyf Towyn, Meirionydd." Y buddugwr ar y testyn oedd gwr ieuanc, genedigol o dref Towyn, yn awr y Parch. D. C. Jones, Abergwili, Sir Gaerfyrddin. Y mae ef yn ŵyr i ysgogydd cyntaf Ymneillduaeth yn Nhowyn. Cawsai yr hanes gan lawer o hen bobl oeddynt yn fyw bum' mlynedd ar hugain yn ol, ac yr oedd wedi bod ei hun yn siarad â Lewis Morris, fel yr oedd pob linc yn y gadwen yn gyfan y pryd hwnw; heblaw hyny, yr oedd wedi cael llawer o'r hanesion o hen lawysgrif o eiddo ei daid. Trwy garedigrwydd Mr. Jones, cawsom y ffeithiau dyddorol a ganlyn:—
"Yr oedd gwr o'r enw Edward Williams, dilledydd, yn byw yn Porth Gwyn, Towyn, adnabyddus yn yr holl ardal fel un o'r rhai blaenaf yn yr Interludiau a chwareuid trwy y gymydogaeth y pryd hyny. Daeth galwad arno i fyned i Aberystwyth, i brynu brethyn galar-wisgoedd i deulu cyfrifol yn Aberdyfi. Wedi myned i'r dref, deallodd fod Cyfarfod Misol yn cael ei gynal yno gan y Methodistiaid. Penderfynodd fyned yno er cael defnyddiau difyrwch yn yr Interludiau wedi dychwelyd adref. Dafydd Morris oedd yn pregethu ar y pryd, tad yr enwog Ebenezer Morris, Twrgwyn, yr un gwr ag a ddaliodd y cawr o Goedygweddill, yn Machynleth, ac heb fod yn neppell oddiwrth yr un amser. Dychwelodd Edward Williams o Aberystwyth yn ddyn newydd, a chafodd addewid am bregeth yn ei dŷ yn Nhowyn, ymhen ychydig amser wedi hyn.
"Wedi cyraedd gartref, yr oedd yr olwg arno yn dra gwahanol i'r hyn ydoedd pan yn cychwyn i Aberystwyth—edrychai yn hynod bendrwm a phruddaidd. Dechreuodd losgi yr hen lyfrau oedd ganddo, yn nghanol rhegfeydd ei briod, a syndod ei gymydogion, oeddynt wedi cyrchu ato fel cynt i'w difyru.
"Bu am ychydig yn cadw ei dy i'r 'Cynghorwyr,' heb fod nemawr sylw yn cael ei dalu iddynt gan neb ond ei hunan. Ond ymhen enyd, daeth gwr lled gyfrifol, o'r enw Francis Hugh, yn ymlynwr wrth "deulu'r weddi dywyll." Chwanegwyd atynt yn fuan wed'yn, Daniel ac Evan Jones, o'r Dyffryn Gwyn, amaethwyr parchus, o fewn pedair milldir i'r dref, sef o ardal Maethlon. 'Ymdrecha di,' ebe Francis Hugh wrth Edward William, 'gael cynghorwr, mi ofalaf finau am fwyd iddo fo a'i geffyl.' Erbyn hyn, yr oedd y fintai fach yn dechreu casglu nerth. Ond nid hir y bu cyn i ystorm ddychrynllyd gyfodi yn eu herbyn. Rhoddodd yr hen foneddwr o'r Ynysmaengwyn y gloch allan trwy'r dref, y byddai i bwy bynag o'i denantiaid a roddai waith i Edward William, gael ei droi o'i dŷ neu ei dyddyn, ar hyny o rybudd. Ond, er fod bron yr holl wlad yn eiddo i'r boneddwr, dywedai E. W. yn aml ei fod wedi cael llawer mwy o waith o hyny allan nag erioed, a'i fod trwy hyny wedi bod yn llawer mwy galluog nag o'r blaen i wneyd daioni gydag achos crefydd.
"Byddai y pedwar hyn yn fynych yn cyfarfod i gyd-weddio, weithiau yn nghysgod y dasau mawn, ar lân y môr (byddai mawn yn cael ei dori yn agos i'r traeth, a'i dasu ar ben y clawdd llanw), bryd arall yn y Dyffryn Gwyn, neu ynte mewn ty bychan o'r enw Hen Felin, mewn cwm cudd, o fewn pum' milldir i Dowyn, a thua milldir a haner o Aberdyfi. Ystyrid John Lewis, yr Hen Felin, yn ddyn duwiol iawn ganddynt. Byddent wrthi yn gweddio weithiau drwy'r nos, ac yn gwawrio dydd arnynt yn dychwelyd adref, eto nid oeddynt yn cwyno oherwydd blinder. Tebygol mai y cyfarfodydd hyn yn Nyffryn Gwyn fu dechreuad yr achos yn nghapel Maethlon, ac mai y fintai fach a gyfarfyddent yn yr Hen Felin oedd dechreuad achos y Trefnyddion Calfinaidd yn Aberdyfi. Bu yr achos yn y lle diweddaf, meddai yr hanesydd yn yr hen law-ysgrif (Edward Williams), am amser maith heb neb yn aelodau yno, ond ychydig wragedd. Yr oedd y Gymdeithasfa [Cyfarfod Misol] erbyn hyn wedi neillduo Edward Williams, Daniel ac Evan Jones yn flaenoriaid, ac ar ysgwyddau y rhai hyn y gorphwysai yr achos yn Aberdyfi, yn benaf.
"Yr oedd gŵr ieuanc, talentog, yn byw y pryd hwn gyda'i dad yn Pen-y-parc, ger Bryncrug, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o'r Ysgol o Lynlleifiad [Amwythig?] ac wedi ymwasgu at y fyddin fach yn Nhowyn. Cynhelid y society bob yn ail yn Nhowyn a Pen-y-parc. Y gyfrinach grefyddol yn Mhen-y-parc fu dechreuad yr achos gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Bryncrug, sydd wedi dyfod erbyn heddyw (1863) yn un o'r lleoedd mwyaf blodeuog yn y plwyf."
Ysgrifenwyd yr uchod, fel y crybwyllwyd, yn 1863, o dan amgylchiadau tra manteisiol i wybod yr hanes o'r cychwyn cyntaf. Mae y modd y dechreuodd yr achos yn Nhowyn yn weddol eglur oddiwrth y cofnodion hyn; yr unig goll ynddynt ydyw, nad yw y dyddiad y cymerodd y digwyddiadau le yn cael eu nodi. Un arall yn meddu manteision rhagorol, os nad y manteision goreu oll i wybod hanes yr ardaloedd, ydoedd John Jones, Pen-y-parc. Dywed ef fod Methodistiaeth yn ddyledus i raddau am ei gychwyniad yn ardaloedd Towyn, i hen wraig o'r enw Catherine Williams, yr hon a gadwai ysgol ddyddiol. Ychydig o hanes y wraig hon sydd ar gael; yn unig hysbysir ei bod yn yr ysgol ddyddiol yn egwyddori y plant dan ei gofal yn elfenau crefydd, a darfu iddi trwy hyny barotoi llawer ar ei hysgolheigion i dderbyn yr efengyl, ac i goleddu syniadau mwy tyner na phobl yr oes hono, am grefydd a chrefyddwyr. Hysbysir hefyd ddarfod i amryw o'r genethod fu'n cael eu haddysgu ganddi ddyfod yn "famau yn Israel," a bu ei meibion yn wasanaethgar i gynydd Methodistiaeth yn y fro wedi ei chladdu hi.
Yr ydym yn gweled, bellach, trwy yr amlinelliad blaenorol o'r hanes, pa fodd y dechreuodd yr achos yn ardaloedd y parthau hyn, a pha fodd yr ymledaenodd crefydd trwy yr holl wlad, o Gorris i lawr i Lwyngwril. Ni wyddis i sicrwydd, ac nis gellir gwybod, pa flwyddyn y sefydlwyd eglwys ymhob ardal. Ond y mae hyn yn eglur, fod yr efengylwyr Methodistaidd wedi bod yn pregethu ar hyd a lled y wlad, yn yr ardal hon a'r ardal arall, weithiau ar lân y môr, weithiau yn nghysgod gwrychoedd, pryd hyn yn nghysgod deisi mawn, bryd arall ar y ffordd fawr, dros ysbaid deng mlynedd o amser, o 1780 i 1790, heb fod crefydd eto wedi cael cartref arhosol yn odid fan. Deuai pregethwyr heibio yn awr a phryd arall, ac yn y dechreu ddim ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn, ac yn y manau y gwyddid fod rhyw rai yn tueddu at wrando, a chynhullid ychydig ynghyd i gadw odfa. Os byddai rhywrai, mewn rhyw fan wedi cael blas ar wrando, ceisid pregethwr i ddyfod i'w hardal, er mwyn i'w cymydogion hefyd gael clywed y newyddion da. Ac weithiau ceir y byddai crefyddwyr yn dyfod gyda y pregethwr, fel y gwelir eu bod yn dyfod gyda John Ellis, o'r Abermaw i Lwyngwril. Ond o'r flwyddyn 1790 ymlaen, am y ddwy neu dair blynedd nesaf, yr oedd y disgyblion wedi ymffurfio yn eglwysi bron ymhob man. Y mae y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn coffhau yn ei Ddydd-lyfr am 1793 yr hyn a ganlyn,—" Cefais flaenoriaid y society yn Nolgellau yn dirion iawn, a byddwn yn cyfeillachu llawer â hwy. Byddwn yn arfer myned gyda hwy i gadw cyfarfodydd gweddiau, a societies, i Abercorris, Cwrt, Llanerchgoediog, Bwlch, Llwyngwril, Tŷ-Ddafydd (yn awr Sion.)"
Peth tra hynod ydyw fod ardaloedd rhwng y Ddwy Afon, llain o wlad sydd ar y terfyn rhwng y Gogledd a'r Deheudir, wedi cael eu gadael mor hir heb freintiau yr efengyl. Gwelir weithiau y cymylau yn cario y gwlaw heibio ambell ran o'r wlad, ac yn ei dywallt ar y rhan arall fyddo yn ei hymyl. Felly yma, aeth y Diwygiad Methodistaidd heibio o'r naill du, cariwyd y newyddion da am yr Iachawdwriaeth a fydd byth, o'r Deheudir i'r Gogledd, gan adael y cymydogaethau hyn yn amddifad o honynt am ddeugain neu haner can' mlynedd; ac nid oes llawer o sicrwydd fod yr un eglwys wedi ei sefydlu ynddynt hyd flwyddyn marwolaeth Rowlands, Llangeitho. Y mae traddodiad ddarfod i Morgan Llwyd, o Wynedd, broffwydo gan' mlynedd cyn toriad gwawr y diwygiad, pan wedi cael ei atal i bregethu yn Machynlleth, y byddai i'r efengyl adael y dref hono am amser hir, cyn y byddai i'r plant oedd yno yn chwareu ac yn dringo'r coed, ddyfod i oedran gwyr. Cadarnhawyd ei broffwydoliaeth am y dref ei hun, ac am ranau helaeth o'r wlad tua'r Gorllewin oddiwrth y dref. Mae yn wir hefyd na chafodd y rhanau yma o Sir Feirionydd ddim o ddoniau nerthol cedyrn cyntaf y Methodistiaid. Ni bu Howell Haries, na Daniel Rowlands, na Peter Williams, na Williams Pantycelyn, yn llefaru yma fel y buont yn ysgwyd rhanau eraill o Wynedd. A'r hyn sydd yn rhyfedd hefyd ydyw, fod y deffroad crefyddol wedi dyfod, pan y daeth, o gyfeiriad gwahanol i'r drefn arferol; fe gludwyd y tân o Drefecca a Llangeitho, oddiamgylch trwy y Bala, a siroedd y Gogledd, ac fel pe buasai arno ofn dyfod dros afon Dyfi, daeth yn ol dros afon Mawddach, o Maes-yr-afallen, ac o'r Abermaw. "Mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a'i ffyrdd mor anolrheiniadwy ydynt!"
Rhoddir manylion am bob lle eto, yn y benod ar ffurfiad a chynydd yr eglwysi. Terfynwn y benod hon trwy roddi ychydig grybwyllion am y ddau bregethwr cyntaf yn y dosbarth.
WILLIAM PUGH.—Yr enw wrth yr hwn yr adnabyddid ef, ac yr adnabyddir ef eto yn y wlad hon ydyw, William Hugh, Llechwedd. Saif y Llechwedd ychydig i fyny ar ochr bryn lled uchel, yn wynebu ar Eglwys y plwyf, Llanfihangel-y-Penant, a thua dwy filldir o Abergynolwyn. Ganwyd ef yn Maes-y-llan, Awst 1, 1749. Yr oedd yn fedrus mewn canu Salmau yn eglwys y plwyf cyn bod yn 5 oed. Argyhoeddwyd ef trwy weinidogaeth y Parch Benjamin Evans, Llanuwchllyn, yn Maes-yr-afallen. Dechreuodd bregethu oddeutu y fl. 1790. Bu am ysbaid o amser yn cadw Ysgol Rad, o dan arolygiaeth Mr. Charles. Bu dan erledigaeth fawr, a dirwywyd ef yn 1795 i £20 am bregethu yn ei dy ei hun, a thai pobl eraill. Yr oedd yn gerddor da, ac yn meddu ar lais peraidd, ac am ryw dymor efe a arferai arwain y canu yn Sasiynau y Sir. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, a bu yn ddefnyddiol gydag achos crefydd yn ei ardal ei hun a'r ardaloedd cylchynol. Efe oedd y llefarwr cyntaf oll a gyfododd ymhlith y Methodistiaid yn Nosbarth y Ddwy Afon. Bu farw Medi 14, 1829, yn 80ain mlwydd oed.
LEWIS MORRIS.—Ganwyd ef yn Nghoed-y-gweddill, yn agos i Lwyngwril, Mehefin, 1760. Yr oedd yn ddyn mawr o gorffolaeth, mwy nag odid neb yn y wlad. Efe oedd y penaf un yn ei ardal mewn campau a phob drygioni; ac yr oedd yn erlidiwr mawr ar grefydd. Cafodd ei argyhoeddi yn 1789, yn Machynlleth, yn dra damweiniol, pan yr oedd wedi myned yno i races ceffylau. Dywedai wedi myned adref ei fod yn ddyn colledig. Ei fam a ddywedai wrtho, "Tydi yn ddyn colledig! Nac ydwyt; nid wyt ti wedi lladd neb, na lladrata, na phuteinio, nid oes bosibl dy fod yn golledig." Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1791, cyn pen dwy flynedd ar ol argyhoeddi. Wedi hyny, fe wnaeth lawer o ddrwg i achos y diafol, a llawer o dda i achos Iesu Grist. Yr oedd yn bur anllythyrenog yn nechreu ei weinidogaeth, ond gwnelai sôn am dano ei hun ymhob man lle yr elai, gan faint ei zel a'i ymroddiad gyda chrefydd yr Iesu. Deuai llawer i wrando arno ef na ddeuent i wrando ar neb arall. Ysgrifenodd hanes ei fywyd ei hun, rai blynyddau cyn marw, a chafodd or-oesi, fel yr arferai ddweyd, dair oes o bregethwyr. Mae yr hanes a rydd am dano ei hun, ac am y wlad yn nechreu ei oes, yn dra dyddorol. Cymerai arno ei hun gryn lawer o lywodraeth ac awdurdod yn Nghyfarfod Misol ei sir am dymor lled faith. Bu farw Mawrth 11eg, 1855, yn yr oedran patriarchaidd o 95.
Nodiadau
golygu- ↑ Yn Ngoleuad Cymru am Awst, 1819, ceir crybwylliad gan ysgrifenydd arall am y daith uchod, yr hwn a ddywed mai yn y flwyddyn 1774 y cymerodd y digwyddiad le, ac ychwanega, "Ar ol hyn, agorodd pawb eu drws i ni, a chawsom lonydd i fyned byth wed'yn."